Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ionawr i Mawrth 2025
Ein hystadegau chwarterol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Mae data’n cynnwys nifer y trafodiadau, y dreth sy'n ddyledus a dadansoddiad ar gyfer ardaloedd yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ochr yn ochr â'r datganiad chwarterol nesaf y byddwn yn ei gyhoeddi ar 7 Awst, byddwn yn diweddaru ein herthygl ar y bwriad y tu ôl i drafodiadau cyfraddau uwch ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, gan gynnwys prynu ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod. Byddwn yn dadansoddi'r ail flwyddyn o ddata a gasglwyd ar y bwriadau y tu ôl i drafodiadau cyfraddau uwch, ac am y tro cyntaf, byddwn yn gallu ddadansoddi tueddiadau yn y data hwn. Os oes gennych unrhyw farn ar y dadansoddiad y dylem ei gynnwys yn yr erthygl, cysylltwch â ni yn data@acc.llyw.cymru.
Mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn dadansoddi’r prif dueddiadau mewn trafodiadau a threth sy’n ddyledus ar gyfer Treth Trafodiadau Tir. Mae'r daenlen atodol a'n tablau StatsCymru yn cynnwys data manylach.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn rhoi gwybodaeth gymharol amserol am weithgarwch yn y farchnad eiddo yng Nghymru. Defnyddir yr ystadegau hefyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i ragweld refeniw Treth Trafodiadau Tir.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol, gan gynnwys ein dull o ddiwygio. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.
Wrth gymharu ystadegau Treth Trafodiadau Tir dros amser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir sy’n effeithio ar swm y dreth sy’n ddyledus:
- Newidiadau i drothwy cyfradd sero o 27 Gorffennaf 2020 i 31 Mawrth 2021
- Ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth o 31 Mawrth 2021 i 30 Mehefin 2021
- Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir o 27 Rhagfyr 2022
- Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir o 10 Hydref 2022
- Newidiadau i gyfraddau preswyl uwch Treth Trafodiadau Tir o 11 Rhagfyr 2024
Prif bwyntiau
Trafodiadau preswyl
- Yn Ionawr i Fawrth 2025, roedd trafodiadau preswyl i fyny 23% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt. Roedd y dreth ddyledus i fyny 42%, yn rhannol oherwydd y cynnydd o 1% yng nghyfraddau treth pob band ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 11 Rhagfyr 2024.
- Yn 2024-25, mae nifer misol y trafodiadau a swm y dreth sy'n ddyledus wedi bod yn uwch na'r un mis flwyddyn ynghynt (heblaw ar gyfer trafodiadau yn Mehefin a Medi).
- Yn gyffredinol, mae canran y trafodiadau yn y bandiau eiddo uwch wedi bod yn cynyddu yn y 6 blynedd diwethaf, er ei fod wedi bod yn fwy sefydlog yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Mae’r duedd wedi bod yn debyg ar gyfer cyfraniad y trafodiadau hyn i gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.
Trafodiadau amrheswyl
- Yn Ionawr i Fawrth 2025, roedd trafodiadau amhreswyl i fyny 5% o’r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i fyny 18%.
- Yn Ionawr 2025, roedd y dreth fisol a oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn uwch na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn), ond roedd yn is na’r cyfarfaledd misol ar gyfer Chwefror a Mawrth.
- Yn Ionawr i Fawrth 2025, cyfrannwyd 73% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus gan drafodiadau lle'r oedd pryniant o dros £1 miliwn, er fod hyn yn cynrychioli dim ond 7% o’r trafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hwn.
Dadansoddiad o fewn Cymru (data ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2025)
Yn ôl awdurdod lleol, roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o 13% yn Sir Fynwy i 31% yn Merthyr Tudful.
O gymharu â’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2024), yr awdurdodau lleol oedd â’r newidiadau canrannol mwyaf oedd:
- Ynys Môn (lleihad o 7 pwynt canran)
- Gwynedd, Conwy a Chastell-nedd Port Talbot (pob un gyda lleihad o 4 pwynt canran)
- Sir Fynwy (lleihad o 3 pwynt canran)
Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn gyffredinol roedd gostyngiadau yn y canrannau hyn yn ardaloedd gogledd a gorllewin Cymru.
Roedd y canrannau ar gyfer Gwynedd yn weddol sefydlog ar gyfer 2018-19 i 2021-22 (tua 37% i 39%). Cafwyd cwymp amlwg y flwyddyn ganlynol ac yna cyfnod o sefydlogrwydd, cyn gostyngiad sylweddol arall i 27% yn 2024-25.
Gostyngodd y canrannau ar gyfer Ynys Môn o 36% yn 2019-20 i 29% yn 2022-23. Er bod cynnydd sylweddol i 34% y flwyddyn ganlynol, dilynwyd hynny gan ostyngiad mwy i 27% yn 2024-25.
Mae sawl ffactor wedi dylanwadu ar y cwymp mawr ar gyfer Ynys Môn yn y cyfnod diweddaraf (o'i gymharu â blwyddyn ynghynt). Un rheswm yw bod nifer y trafodiadau yn Ynys Môn yn gymharol isel o'i gymharu ag ardaloedd cyfagos, felly mae'r canrannau yn gyffredinol yn fwy cyfnewidiol o flwyddyn i flwyddyn. Gellir esbonio llawer o'r cwymp hwn hefyd yn sgil cynnydd cymharol fawr mewn trafodiadau preswyl ar y prif gyfraddau tra bod trafodiadau cyfraddau uwch wedi gostwng yn yr un cyfnod.
Mae data cynnar sydd gennym ar y bwriad y tu ôl i drafodiadau cyfraddau uwch yn dangos bod y gostyngiad mewn trafodiadau cyfraddau uwch ar gyfer Ynys Môn yn cael ei ddylanwadu'n bennaf gan y tueddiadau mewn pryniannau ail gartrefi, cartrefi gwyliau a chartrefi i’w gosod fel tai gwyliau, ac i raddau llai, gan bryniannau eiddo prynu-i-osod. Byddwn yn gallu dweud mwy am y bwriad y tu ôl i drafodiadau cyfraddau uwch pan fyddwn yn cyhoeddi ail flwyddyn y data hwn yn yr erthygl flynyddol nesaf ar 7 Awst.
Mae'n bwysig nodi bod gall amryw ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mewn erthygl blaenorol, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad o rai o’r rhesymau pam fod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiadau. Mae’n defnyddio cwestiwn am y bwriad y tu ôl i'r trafodiad cyfraddau uwch a gyflwynwyd i'r ffurflen dreth yn haf 2023. Mae'r categorïau y gyhoeddwyf data ar eu cyfer yn cynnwys:
- landlord prynu-i-osod
- ail gartref, cartref gwyliau neu lety gwyliau
- pontio (prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes)
- arall
Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.
Cyflwynir mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio ystadegau cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir yn erthygl ystadegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru: ‘Ail gartrefi: Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym?’
Sylw'r ystadegydd
Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:
Mae canrannau’r trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch yn newid am sawl rheswm, yn dibynnu ar yr awdurdod lleol. Mewn rhai ardaloedd, mae'r gostyngiad wedi bod yn sylweddol ac mae hynny’n rhannol oherwydd bod llai o bryniannau ail gartrefi. Mae ffactorau eraill hefyd yn gysylltiedig â hyn, megis newidiadau mewn pryniannau eiddo prynu-i-osod a bod y cynnydd mewn trafodiadau prif gyfraddau yn fwy na'r cynnydd mewn trafodiadau cyfraddau uwch.
Yn genedlaethol, ym mis Ionawr i Fawrth roedd refeniw preswyl chwarterol yn uwch na'r un adeg y llynedd, ond ddim mor uchel â thair blynedd ynghynt. Mae sawl rheswm dros y cynnydd diweddaraf. Roedd cynnydd mewn trafodiadau preswyl a gwerthoedd eiddo cyfartalog dros y cyfnod hwnnw, a bu cynnydd mewn cyfraddau treth ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch o Ragfyr 2024.
Dadansoddiad ar y lefel Cymru
Nodwch bod drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.
Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol pe bai eiddo neu ddarn o dir yn cael ei werthu sawl gwaith o fewn chwarter neu flwyddyn, byddai’n ymddangos sawl gwaith yn yr ystadegau ar gyfer y cyfnod hwnnw. Yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025, rydym yn amcangyfrif bod rhwng 2.5% a 3% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn wedi'i echdynnu ar 21 Ebrill 2025 oni nodir yn wahanol.
Math o drafodiad | Trafodiadau [nifer] - Ionawr i Fawrth 2025 [dros dro] | Newid o ran % (o gymharu ag Ionawr i Fawrth 2024) [nodyn 2] |
---|---|---|
Preswyl | 11,980 | 23% |
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl | 2,630 | 8% |
Amhreswyl | 1,430 | 5% |
Holl trafodiadau | 13,410 | 21% |
Math o drafodiad | Treth yn ddyledus [£ miliwn] - Ionawr i Fawrth 2025 [dros dro] | Newid o ran % (o gymharu ag Ionawr i Fawrth 2024) [nodyn 2] |
---|---|---|
Preswyl | 67.2 | 42% |
o'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 1] | 24.7 | 33% |
Amhreswyl | 18.2 | 18% |
Holl trafodiadau | 85.4 | 36% |
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[Nodyn 2] Amcangyfrifon ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024 a wnaed yn Ebrill 2024.
Yn bennaf oherwydd patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gall fod yn ddefnyddiol cymharu’r cyfnod presennol â data o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Felly, Gan gymharu Ionawr i Fawrth 2025 gyda Ionawr i Fawrth 2024 ar sail tebyg am debyg:
- cynnyddodd cyfanswm y trafodiadau o 21% a chynnyddodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 36%
- cynnyddodd trafodiadau preswyl gan 23% a chynnyddodd y dreth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 42%
- o’r rhain, cynnyddodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 8%
- cynnyddodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 33%. Bydd hyn yn rhannol oherwydd y cynnydd o 1% yng nghyfraddau treth pob band ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 11 Rhagfyr 2024.
- cynnyddodd trafodiadau amrheswyl gan 5%. Cynnyddodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 18%.
Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2024 yn uwch na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 120 Kb) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Ionawr 2025.
Mae Ffigur 1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddair flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’29-Maw’ yn 2025-26 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 29 Mawrth i 4 April 2025 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 30 Mawrth i 5 April 2024 (yn gynwysedig).
Mae Ffigur 1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (21 Ebrill 2025 yn y datganiad hwn).
Ffigur 2: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl math a mis y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos o Ebrill 2024, bod nifer misol y trafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis flwyddyn ynghynt ac eithrio Mehefin a Medi 2024. Roedd trafodiadau amhreswyl ar lefel is ac yn amrywio gyda chynnydd yn Mawrth 2024 a Mawrth 2025 ers y misoedd blaenorol.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[p] Mae'r gwerth ar gyfer Mawrth 2025 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae'r gweth ar gyfer Chwefror 2025 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.
Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar, ac mai dydd Gwener yw'r diwrnod mwyaf cyffredin o'r wythnos i drafodiadau ddod i rym.
O Ebrill 2024, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, ond roedd yn is na blwyddyn ynghynt, ac eithrio Mehefin a Medi 2024.
Ar gyfer trafodiadau amrheswyl, ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror). Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag yn Mawrth 2024 a Mawrth 2025, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros y mis blaenorol ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir.
Ffigur 3: Treth yn ddyledus ar y trafodiadau, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart llinell yn dangos o Ebrill 2024, bod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, gyda'r gwahaniaeth mwyaf ym mis Mawrth. O Ebrill 2023 i Chwefror 2024, roedd y dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus yn is na’r cyfartaledd tymor hir misol (£6.9 miliwn) bob. O Fawrth 2024, mae'r dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus wedi bod yn uwch na'r cyfartaledd misol oddeutu hanner’r amser. Gall y dreth amhreswyl sy’n ddyledus amrywio’n sylweddol o fis i fis, yn aml wedi’i dylanwadu gan nifer fach o drafodiadau gwerth uchel.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Mawrth 2025 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd preswyl ar gyfer Chwefror 2025 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu. Mae’r gwerthoedd amrheswyl ar gyfer Tachwedd 2024 wedi’I ddiwygio hefyd.
Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth
Mae Ffigurau 4 a 5 yn isod yn dangos tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a swm y dreth yn ddyledus ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000.
Mae trafodiadau o dan £400,000 wedi’u rhannu’n ddau gategori yn seiliedig ar y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau a oedd ar waith ar yr adegau perthnasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, mae’r trothwy cyfradd sero wedi bod yn sefydlog ar £180,000 dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfradd wedi amrywio dros amser ac ar hyn o bryd mae'n £225,000. Ar gyfer ein dadansoddiad, rydym wedi grwpio’r trafodiadau hyn fel ‘hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero’ yn seiliedig ar drothwyon a oedd mewn grym ar adeg y trafodiad. I weld y gyfres lawn o drothwyon cyfradd sero, ewch i gyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir.
Ffigur 4: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau preswyl yn y bandiau ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’ wedi amrywio’n sylweddol dros amser, gyda gostyngiad yn y chwarter diweddaraf ers y chwarter blaenorol ond ei fod yn parhau i fod yn uwch na'r un chwarter flwyddyn ynghynt. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau yn y bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £750,000’ ar eu huchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 a Gorffennaf i Fedi 2022 a wedi bod yn llai ers hynny. Ar gyfer y ddau fand yma, bu gostyngiad yn y chwarter diweddaraf ers y chwarter blaenorol er bod y ffigurau’n parhau i fod yn uwch na'r un chwarter flwyddyn ynghynt.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
Ffigur 5: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]
Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd yn ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch yn sylweddol uwch yn y dair flynedd diwethaf nag yn y flwyddyn cyn hynny, gydag effeithiau penodol i’w gweld ar drafodiadau yn 2020 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19). Roedd sym y dreth oedd yn ddyledus oedd yn deillio o’r band ‘£400,001 i £750,000’ ar ei uchaf yn Hydref i Ragfyr 2022, ac roedd y swm ar gyfer y band ‘dros £750,000’ ar ei uchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022, gyda gwerthoedd is i'w gweld yn fwy diweddar.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2024 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.
Ffigur 6: Canran y trafodiadau preswyl a treth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, Ionawr i Fawrth 2025 [dros dro]
Disgrifiad o Ffigur 6: Mae’r siart bar yn dangos yn Ionawr i Fawrth 2025, bod trafodiadau preswyl a oedd hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero i gyfrif am rhwng hanner a thair rhan o bump o’r holl drafodiadau ac ychydig dros un rhan o ddeg o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus. Yn y cyfamser, roedd yr 1% o drafodiadau a oedd dros £750,000 i gyfrif am 13% o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Dengys Ffigur 6 fod 57% o drafodiadau preswyl yn Ionawr i Fawrth 2025, hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero (a ddiffinnir o dan Ffigur 4). Roedd y canrannau ar gyfer y chwarteri blaenorol yn amrywio rhwng 45% a 71%. Yn Hydref i Ragfyr 2024, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 12% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na’r 22% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (na ddangosir yn Ffigur 6), gyda thuedd cyffredinol am i lawr i’w weld yn y chwe mlynedd yn y cyfamser, er yn fwy sefydlog yn y 2 flynedd ddiweddaf.
Yn Ionawr i Fawrth 2025, cyfrannodd yr 1% o drafodiadau preswyl gyda gwerth dros £750,000 13% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Ar gyfer chwarteri blaenorol, roedd canran y trafodiadau yn y categori hwn yr un mor fach. Ar gyfer y dreth breswyl oedd yn ddyledus, mae’r canrannau wedi codi yn ngyffredinol o’r 4% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 am 3 blynedd (nas dangosir yn Ffigur 6), er bod y canrannau wedi bod yn fwy sefydlog yn y dair flynedd ddiwethaf.
Cododd canran y trafodiadau gwerth £400,001 i £750,000 yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o’r chwarteri, o 3% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 9% yn Ionawr i Fawrth 2025, er hynny mae wedi bod yn fwy sefydlog yn ystod y 3 flynedd diwethaf. Yn yr un modd, cododd canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus a gyfrannwyd gan y trafodiadau hyn o 24% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 39% yn Ionawr i Fawrth 2025, hefyd wedi bod yn fwy sefydlog yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth
Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 7 a 8 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.
Ffigur 7: Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y pedwar band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill i Fehefin 2020. Cynyddodd nifer y trafodiadau yn y chwarteri dilynol tra bod amrywiadau llai wedi'u gweld yn ystod y bedair flynedd ddiwethaf. Yn Ionawr i Fawrth 2025, gwelwyd lleihad ym mhob band ers y chwarter blaenorol.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru
[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 1.7, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
Ffigur 8: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]
Disgrifiad o Ffigur 8: Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn wedi amrywio'n fawr dros amser gyda'r gwerthoedd uchaf i'w gweld yn y 6 chwarter o Ebrill 2021 i Fedi 2022, ac Ebrill i Fehefin 2024. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent. Gall y dreth amhreswyl sy’n ddyledus amrywio’n sylweddol o chwarter i chwarter, yn aml wedi’i dylanwadu gan nifer fach o drafodiadau gwerth uchel.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
Ffigur 9: Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Ionawr i Fawrth 2025 [dros dro]
Disgrifiad o Ffigur 9: Mae’r siart bar yn dangos bod yn Ionawr i Fawrth 2025, 46% o’r trafodiadau amhreswyl werth hyd at ac yn cynnwys £250,000, gyda'r trafodiadau hynny'n cyfrannu 0.3% o'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus. Cyfrannodd y 7% o drafodiadau amhreswyl gyda gwerth nad yw’n werth rhent o fwy nag £1 miliwn bron dri ran o bedair o’r dreth oedd yn ddyledus. Roedd ychydig dros y chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, gan gyfrannu tuag 7% o’r dreth amhreswyl.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Dadansoddiad o fewn Cymru
Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir preswyl. Rydym yn cyflwyno data ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025 (a echdynnwyd yn Ebrill 2025) ac yn gwneud cymariaethau â data ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (a echdynnwyd yn Ebrill 2025). Mae data manylach ar gyfer awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol, etholaethau’r Senedd ac etholaethau Seneddol San Steffan ar gael ar StatsCymru.
Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.
Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.
Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth y Senedd, etholaeth Seneddol San Steffan, Parc Cenedlaethol, ac ardal adeiledig.
Ffigur 10: Trafodiadau cyfradd uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol a Pharc Cenedlaethol, Ebrill 2024 i Fawrth 2025 ac Ebrill 2023 i Fawrth 2024
Disgrifiad o Ffigur 10: Mae’r siart yn dangod bod roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn Merthyr Tudful, Gwynedd ac Ynys Môn. Ar gyfer y flwyddyn diweddaraf, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau wedi gweld gostyngiadau yn eu canran o drafodiadau preswyl a oedd ar y cyfraddau uwch, gyda nifer o eithriadau. Mae rhai o'r ardaloedd a gyflwynir yn fach ac mae ganddynt nifer fach o drafodiadau, felly gellir disgwyl mwy o anwadalrwyd dros amser ar gyfer yr ardaloedd hyn.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod).
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur a Pharc Cenedlaethol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod).
Roedd trafodiadau cyfradd uwch yn gymharol uwch mewn awdurdodau yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru a hefyd mewn rhai awdurdodau yng nghymoedd y de. Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yn Merthyr Tudful (31%), Gwynedd ac Ynys Môn (pob un 27%). Mae'r ddau brif reswm dros drafodiadau cyfradd uwch, sef prynu-i-osod a phrynu ail gartref neu gartref/llety gwyliau yn effeithio ar ba awdurdodau lleol sydd ar frig y dosbarthiad.
Gwelwyd y canran isaf yn Sir Fynwy (13%).
O ran pwyntiau canran, yr awdurdodau lleol gyda'r newidiadau mwyaf oedd:
- Ynys Môn (lleihad o 7 pwynt canran)
- Gwynedd, Conwy a Chastell-nedd Port Talbot (pob un gyda lleihad o 4 pwynt canran)
- Sir Fynwy (lleihad o 3 pwynt canran)
Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.
Y newidiadau cyfatebol â’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y tri Pharc Cenedlaethol oedd:
- Arfordir Sir Benfro: 48% i 39%, gostyngiad o 9 pwynt canran
- Eryri: 35% i 28%, gostyngiad o 7 bwynt canran
- Bannau Brycheiniog: 19% i 20%, heb unrhyw gynnydd cyffredinol mewn pwyntiau canran
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn gyffredinol roedd gostyngiadau yn y canrannau hyn yn ardaloedd gogledd a gorllewin Cymru.
Roedd y canrannau ar gyfer Gwynedd yn weddol sefydlog ar gyfer 2018-19 i 2021-22 (tua 37% i 39%). Cafwyd cwymp amlwg y flwyddyn ganlynol ac yna cyfnod o sefydlogrwydd, cyn gostyngiad sylweddol arall i 27% yn 2024-25.
Gostyngodd y canrannau ar gyfer Ynys Môn o 36% yn 2019-20 i 29% yn 2022-23. Er bod cynnydd sylweddol i 34% y flwyddyn ganlynol, dilynwyd hynny gan ostyngiad mwy i 27% yn 2024-25.
Mae sawl ffactor wedi dylanwadu ar y cwymp mawr ar gyfer Ynys Môn yn y cyfnod diweddaraf (o'i gymharu â blwyddyn ynghynt). Un rheswm yw bod nifer y trafodiadau yn Ynys Môn yn gymharol isel o'i gymharu ag ardaloedd cyfagos, felly mae'r canrannau yn gyffredinol yn fwy cyfnewidiol o flwyddyn i flwyddyn. Gellir esbonio llawer o'r cwymp hwn hefyd yn sgil cynnydd cymharol fawr mewn trafodiadau preswyl ar y prif gyfraddau tra bod trafodiadau cyfraddau uwch wedi gostwng yn yr un cyfnod.
Mae data cynnar sydd gennym ar y bwriad y tu ôl i drafodiadau cyfraddau uwch yn dangos bod y gostyngiad mewn trafodiadau cyfraddau uwch ar gyfer Ynys Môn yn cael ei ddylanwadu'n bennaf gan y tueddiadau mewn pryniannau ail gartrefi, cartrefi gwyliau a chartrefi i’w gosod fel tai gwyliau, ac i raddau llai, gan bryniannau eiddo prynu-i-osod. Byddwn yn gallu dweud mwy am y bwriad y tu ôl i drafodiadau cyfraddau uwch pan fyddwn yn cyhoeddi ail flwyddyn y data hwn yn yr erthygl flynyddol nesaf ar 7 Awst.
Dylai defnyddwyr gofio bod:
- rhai o'r ardaloedd a gyflwynir yn fach ac mae ganddynt nifer fach o drafodiadau, felly gellir disgwyl mwy o anwadalrwydd dros amser ar gyfer yr ardaloedd hyn
- rhywfaint o orgyffwrdd yn y cyfnodau amser a ddefnyddir wrth, er enghraifft, ystyried data ar gyfer y flwyddyn hyd at Mehefin 2024 a’r flwyddyn hyd at Medi 2024. Felly er mwyn cyfrifo newidiadau cronnol dros amser, byddai’n well i gyfrifo newidiadau canrannol am y flwyddyn ddiweddaraf yn erbyn blwyddyn ynghynt.
Data pellach ar gael
Nid yw data amrywiol arall yn cael ei ddadansoddi yn y datganiad hwn ond rydym yn cyhoeddi'r data hwn yn y daenlen atodol sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru.
Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig
Mae rhai trafodiadau wedi'u heithrio o'r ystadegau a adroddir arnynt yn y datganiad hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:
- trafodiadau annodweddiadol o fawr, sy'n ymwneud â phryniant Trafnidiaeth Cymru o ased rheilffordd Craidd y Cymoedd oddi wrth Network Rail yn 2019-20. Roedd £28.2 miliwn o dreth yn ddyledus ac wedi’i thalu ar y trafodiad hwn.
- nifer fach o drafodiadau gwerth isel lle nad ydym yn gallu darparu unrhyw wybodaeth ar wahân i gyfanswm y ffigur treth yn y flwyddyn. Mae hyn oherwydd bod risg o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol.
Cyhoeddir ystadegau ar y dreth flynyddol oedd yn ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn ar StatsCymru:
Rhyddhadau
Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.
Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:
- i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
- neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol
Cyhoeddir ystadegau ar ryddhadau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:
Ar 7 Chwefror 2025, newidiwyd y ddeddfwriaeth yn ymwneud â rhyddhad anheddau lluosog fel bod yn rhaid trîn achosion lle mae anheddau sy'n is-aneddau (gwerth llai na thraean o gyfanswm gwerth y trafodiad) fel rhan o'r brif annedd mewn unrhyw drafodiad preswyl prif gyfraddau. Mae hyn yn golygu mai prin iawn bellach y bydd rhyddhad anheddau lluosog yn berthnasol mewn trafodiad preswyl prif gyfraddau, ac rydym yn amcangyfrif y bydd yn lleihau gwerth y rhyddhad (neu'n cynyddu cyfanswm refeniw Treth Trafodiadau Tir) rhwng £2.0 a £2.5m y flwyddyn.
Ad-daliadau cyfradd uwch
Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Cyhoeddir ystadegau ad-daliadau ar amrywiaeth o seiliau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:
- Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru
- Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru
- Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru
Treth a dalwyd
Rydym yn cyhoeddi ystadegau ar swm y dreth a dalwyd yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru.
Dadansoddiad o ddiwygiadau i'n hamcangyfrifon cyhoeddedig
Cyhoeddir ein hamcangyfrifon cyntaf o drafodiadau ar dreth sy’n ddyledus ar gyfer mis penodol fel amcangyfrifon dros dro. Mewn datganiadau dilynol, rydym yn adolygu'r amcangyfrifon hynny a'r rhai ar gyfer misoedd cynharach yn rheolaidd. Mae'r newidiadau canrannol rydym yn ei weld rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif ar gyfer mis penodol bellach yn gymharol fach. Dangosir y canrannau hyn yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

