Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Yn ein datganiad ym mis Ionawr, fe wnaethom ddechrau cyhoeddi data chwarterol ar gyfer ardaloedd lleol am y tro cyntaf. O’r blaen, dim ond yn flynyddol yr oeddem wedi cyhoeddi data ardal leol a hynny yn ein datganiad blynyddol. Ym mis Ionawr, gwnaethom ofyn am farn ynglŷn ag a oes angen i ni gyhoeddi ein datganiad ystadegol blynyddol yn y dyfodol. Ar ôl ystyried yr adborth, rydym yn bwriadu rhoi’r gorau i gyhoeddi datganiad ystadegol blynyddol gan fod rhywfaint o ddadansoddi bellach yn cael ei gofnodi mewn modd mwy amserol yn ein datganiadau chwarterol. Rydym yn dal i ystyried sut i ddiweddaru ein herthygl sy’n egluro sut i ddefnyddio data ar gyfer ardaloedd lleol. Os oes gennych unrhyw farn ar y newidiadau hyn, cysylltwch â ni yn data@acc.llyw.cymru.

Gwybodaeth bellach

Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol.

Mae data pellach wedi’u cynhyrchu mewn ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniwyd gan ACC yn ymwneud â’r ymgynghoriad cyhoeddus ar ryddhadau treth trafodiadau tir. Maen nhw’n gyson â data treth cyfanredol ehangach y dreth trafodiadau tir ar gyfer 2023-24 fel y’u cyhoeddwyd fel rhan o’r datganiad ystadegol ar 25 Ebrill 2024. Ewch i’n gwybodaeth am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am sut mae ystadegau TTT yn cael eu cynhyrchu. 

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ionawr i Mawrth 2024 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 132 KB

ODS
132 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 722 KB

ODS
722 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data ychwanegol yn ymwneud â rhyddhad anheddau lluosog a’r rheolau sy’n llywodraethu prynu 6 annedd neu fwy mewn un trafodiad , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 8 KB

ODS
8 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.