Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth): Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025
Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol.
Prif ddangosyddion y farchnad lafur yn seiliedig ar yr LFS yw’r ffynhonnell swyddogol o wybodaeth am y farchnad lafur ar lefel Cymru o hyd. Fodd bynnag, oherwydd yr heriau gyda chynnal y gyfradd ymateb ar gyfer yr LFS, rydym yn parhau i argymell y dylid ystyried y tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill fel yr APS, sydd hefyd yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Yn flaenorol, ystyrid yr amcangyfrifon hyn yn ystadegau swyddogol achrededig. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai'r amcangyfrifon gael eu hailddynodi'n ystadegau swyddogol (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag dylai defnyddwyr nodi'r ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r APS. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i roi arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru, yn enwedig os cânt eu defnyddio fel rhan o fasged o ddangosyddion gyda ffynonellau amgen fel gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data ar swyddi’r gweithlu, a’r nifer o hawlwyr. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaethau llai neu is-grwpiau o’r boblogaeth yn llai dibynadwy.
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 72.7% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, i lawr 0.3 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 75.4%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Yng Nghymru roedd y cyfraddau cyflogaeth uchaf yn Sir Fynwy (78.7%), Sir y Fflint (77.5%) ac Ynys Môn (77.0%).
Ffigur 1: y gyfradd gyflogaeth, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025 [Nodyn 1]
ffigur 1: siart linell sy’n dangos bod y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed wedi cynyddu’n gyffredinol ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2012 yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Ers dechrau pandemig y coronafeirws yn gynnar y 2020 mae’r gyfradd wedi bod yn fwy anwadal yn y ddwy ardal. Mae cyfradd y DU wedi parhau’n uwch na chyfradd Cymru dros y gyfres amser a ddangosir, er bod y ddwy wedi dangos tueddiadau tebyg yn ystod y cyfnod hwn.
Ffynhonnell: APS, Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Cyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru a'r DU, yn ôl blwyddyn, ar StatsCymru
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn dechrau ar sero.
Rhanbarthau economaidd
75.6% oedd y gyfradd gyflogaeth yn y Gogledd, i lawr 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn; yn Ne-ddwyrain Cymru y gyfradd oedd 72.4%, gostyngiad o 0.1 pwynt canran, ac yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru y gyfradd oedd 71.0%, gostyngiad o 0.8 pwynt canran. Felly, y Gogledd oedd â’r gyfradd gyflogaeth uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru (cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).
Ffigur 2: y gyfradd gyflogaeth, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos bod Cymru, a phob un o ranbarthau economaidd Cymru wedi gweld eu cyfraddau cyflogaeth yn cynyddu’n gyffredinol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r APS
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn dechrau ar sero.
Ers 2011, y duedd gyffredinol yn y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru oedd cynnydd cyson hyd bandemig y coronafeirws (COVID-19). Er gwaethaf gostyngiadau yn dilyn y pandemig, mae cyfraddau cyflogaeth yn y Gogledd wedi parhau’n uwch yn gyffredinol na’r rhanbarthau economaidd eraill a Chymru yn gyffredinol. Ers mis Mehefin 2022, mae cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu i Ogledd Cymru, tra bo cyfraddau cyflogaeth De-ddwyrain Cymru a’r Canolbarth a De-orllewin Cymru wedi gostwng.
Canran y bobl mewn cyflogaeth yw un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a sicrhau bod mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cyfranogi yn y farchnad lafur. Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol ers 2011 ac mae'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r DU wedi cau’n raddol i 2.7 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, ond mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 0.4 pwynt canran o gymharu â’r bwlch y flwyddyn flaenorol.
Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.
Diweithdra
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, roedd y gyfradd ddiweithdra i bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru yn 4.1%, sef 0.9 pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 4.0%, sy'n gynnydd o 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
Nodwch fod data ar gyfer 14 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi'u hatal am fod maint y sampl wedi bod yn rhy fach i ddarparu data o ansawdd ar gyfer y gyfradd ddiweithdra. Yr awdurdodau lleol oedd â sampl o faint digon mawr oedd Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.
O ran yr awdurdodau lleol hynny oedd â sampl digon o faint, gwelwyd y gyfradd ddiweithdra isaf yng Nghymru yn Ynys Môn (3.4%). Roedd y gyfradd ddiweithdra uchaf yng Nghymru yn Abertawe (8.2%).
Ffigur 3: y gyfradd diweithdra, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 oed ac yn hŷn wedi dilyn tuedd debyg yng Nghymru ac yn y DU. Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009, cynyddodd y gyfradd i’r pwynt uchaf yn ystod y blynyddoedd a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2010 i fis Mehefin 2013, yng Nghymru a’r DU, ond ei bod ers hynny wedi gostwng ymhell islaw’r gyfradd yn 2009. Mae’r gyfradd ddiweithdra wedi bod yn fwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chyfradd Cymru ychydig yn uwch na chyfradd y DU yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025.
Ffynhonnell: APS, SYG
Cyfradd diweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru a'r DU, yn ôl blwyddyn, ar StatsCymru
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn dechrau ar sero.
Rhanbarthau economaidd
4.9% oedd y gyfradd diweithdra yn y Canolbarth a’r De-orllewin, cynnydd o 1.8 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y De-ddwyrain, y gyfradd oedd 3.9%, cynnydd o 0.6 pwynt canran; ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 3.5%, cynnydd o 0.5 pwynt canran. (cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu).
Ffigur 4: y gyfradd gyflogaeth, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 4: siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra Cymru, y De-ddwyrain, y Gogledd a’r Canolbarth a’r De-orllewin i gyd wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r APS
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn dechrau ar sero.
Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2015, mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ac yn nhri rhanbarth economaidd Cymru wedi gostwng yn gyffredinol, ac roedd y gostyngiad yn fwy serth nes pandemig y coronafeirws (COVID-19). Yn dilyn y pandemig, mae cyfraddau diweithdra rhanbarthau economaidd Cymru wedi amrywio ychydig. Yn y Canolbarth a’r De-orllewin y mae’r gyfradd uchaf ac yn y Gogledd mae'r gyfradd isaf yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025.
Anweithgarwch economaidd
Pobl economaidd anweithgar yw’r bobl hynny sydd heb swydd ac sydd heb chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu bobl nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.
Yn yr adran hon, nid oedd myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn flaenorol fel rhan o amcangyfrifon o anweithgarwch economaidd. Ond, mae'r amcangyfrifon bellach wedi'u diweddaru i gynnwys myfyrwyr, er mwyn darparu darlun mwy cynhwysfawr a chymaradwy o'r farchnad lafur yng Nghymru. Mae amcangyfrifon o anweithgarwch economaidd nad ydynt yn cynnwys myfyrwyr ar gael o hyd o dan ffigur 5 ac ar StatsCymru: cyfraddau anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) yn ôl ardal leol yng Nghymru a blwyddyn.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 24.1%, i lawr 0.4 pwynt canran dros y flwyddyn. Cyfradd y DU oedd 21.3%, i lawr 0.4 pwynt canran dros y flwyddyn.
Y rheini oedd â’r cyfraddau anweithgarwch economaidd wedi’u hamcangyfrif isaf yng Nghymru oedd Sir Fynwy (20.2%), Ynys Môn (20.3%) a Sir y Fflint (20.4%).
Ffigur 5: y gyfradd anweithgarwch economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi bod yn gostwng ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2011 yng Nghymru a'r DU. Mae cyfradd Cymru bob amser wedi bod yn uwch na chyfradd y DU, ac mae maint y bwlch yn amrywio dros amser.
Ffynhonnell: APS, SYG
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.
Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer Cymru oedd 20.5% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, i lawr 0.2 pwynt canran o'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 17.6%, gostyngiad o 0.2 pwynt canran o'r flwyddyn flaenorol.
Rhanbarthau economaidd
25.2% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y Canolbarth a’r De-orllewin, gostyngiad o 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y De-ddwyrain, y gyfradd oedd 24.5%, gostyngiad o 0.4 pwynt canran; ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 21.6%, i lawr 0.2 pwynt canran. (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu).
Ffigur 6: y gyfradd gyflogaeth, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025 [[Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 6: siart linell yn dangos bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru wedi gostwng yn gyffredinol ers mis Mehefin 2011, a bod cyfraddau’r tri rhanbarth economaidd yn amrywio o amgylch cyfradd Cymru.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r APS
[Nodyn 1] Nid yw’r echel y yn cychwyn ar sero.
Y Gogledd sydd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd isaf yn gyffredinol o’r tri rhanbarth economaidd. Y Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd uchaf yn hanesyddol, ond cwympodd yn achlysurol yn is na chyfraddau rhanbarthau eraill mewn cyfnodau diweddar. Mae’r data diweddaraf yn dangos mai’r Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, a’r Gogledd oedd â’r gyfradd isaf.
Rhesymau am anweithgarwch economaidd
Mae’r adran hon yn dadansoddi’r rhesymau a roddwyd gan bobl 16 i 64 oed am eu hanweithgarwch economaidd. Y categorïau ar gyfer y mesur hwn yw: Myfyriwr, Gofalu am deulu, Salwch tymor hir, Salwch dros dro, Wedi Digalonni, Wedi Ymddeol ac Eraill.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru oedd salwch tymor hir, a bu cynnydd o 1.8 pwynt canran dros y flwyddyn i 37.2% o’r holl ddynion economaidd anweithgar. Nesaf oedd myfyrwyr, yn cyfrif am 24.9% o’r holl ddynion economaidd anweithgar, gostyngiad o 3.6 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.
Ffigur 7: anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion, o 16 i 64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020 i fis Mehefin 2025
Disgrifiad o ffigur 7: siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru dros y 6 mlynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith dynion oedd salwch hirdymor, ac yna bod yn fyfyriwr. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, mis Mehefin 2024 a mis Mehefin 2025 oherwydd bod y niferoedd mor fach.
Ffynhonnell: APS, SYG
Yn hanesyddol, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru yw gofalu am deulu/cartref, er bod y duedd yn gyffredinol wedi bod yn gostwng dros amser. Yn 2020 i 2021, cwympodd y gyfran hon yn sydyn, efallai oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), gan y gellir gweld tuedd fel arall ymhlith y rheini sy’n rhoi rhesymau ‘eraill’.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru oedd salwch tymor hir, gan gynrychioli 32.0% o’r holl fenywod economaidd anweithgar, i lawr 0.7 pwynt canran yn y flwyddyn. Dros yr un cyfnod, mae cyfran y rheini sy’n gofalu am deulu/cartref wedi gostwng 2.3 pwynt canran, gan gyfrif am 21.2% o’r holl fenywod economaidd anweithgar.
Ffigur 8: anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith menywod, 16–64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020 i fis Mehefin 2025
Disgrifiad o ffigur 8: siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru dros y 6 blynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith menywod oedd salwch hirdymor, ac yna bod yn fyfyriwr. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer pob cyfnod oherwydd bod y niferoedd mor fach.
Ffynhonnell: APS, SYG
Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)
Yn sgil anwadalrwydd o ran y cyfraddau ar gyfer cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd ar gyfer pobl ifanc dylai newidiadau tymor byr gael eu hystyried ochr yn ochr â thueddiadau mwy hirdymor lle y bo’n bosibl.
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 oedd 52.2%, i lawr 3.0 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 51.0%, gostyngiad o 1.4 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Yng Nghymru, roedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith dynion sef 54.4% yn uwch na’r gyfradd ar gyfer menywod sef 49.7%.
Ffigur 9: y gyfradd gyflogaeth pobl ifanc yn ôl rhyw, y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 9: siart linell yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond ei bod wedi cynyddu’n gyffredinol dros y 10 mlynedd diwethaf. Anaml y bu’r gyfradd yn wahanol rhwng dynion a menywod hyd at bandemig COVID-19. Yn sgil anwadalrwydd yn y gyfres hon, dylai newidiadau tymor byr gael eu hystyried ochr yn ochr â thueddiadau mwy hirdymor lle y bo’n bosibl.
Ffynhonnell: APS, SYG
Cyfradd cyflogaeth pobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru yn ôl rhyw ac yn ôl blwyddyn ar StatsCymru
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.
Diweithdra
13.7% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, i fyny 7.4 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cyfradd gyfatebol y DU oedd 13.1%, i fyny 2.1 pwynt canran.
Yng Nghymru, roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod yng Nghymru, sef 14.7% a 12.6% yn y drefn honno. Cynyddodd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc 7.4 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chynyddodd y gyfradd ymhlith menywod ifanc 7.2 pwynt canran dros yr un cyfnod.
Ffigur 10: y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn ôl rhyw yng Nghymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025
Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond yn gyffredinol ei bod wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf, a hynny er gwaethaf cynnydd yn y cyfnod diweddaraf.
Ffynhonnell: APS, SYG
Cyfradd diweithdra pobl ifanc 16 i 24 oed yn ôl rhyw ac yn ôl blwyddyn ar StatsCymru
Anweithgarwch economaidd
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer pobl ifanc (ac eithrio myfyrwyr) yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 oedd 20.3%, i fyny 0.1 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 21.1%, i fyny 1.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc (ac eithrio myfyrwyr) yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 oedd 19.4%, gostyngiad o 2.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, a’r gyfradd ymhlith menywod oedd 21.6%, cynnydd o 3.5 pwynt canran. Oherwydd anwadalrwydd y gyfres hon, dylid ystyried newidiadau tymor byr ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach lle bo modd.
Ffigur 11: y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) yn ôl rhyw yng Nghymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl 16 i 24 oed yng Nghymru wedi amrywio dros y degawd diwethaf ar gyfer dynion a menywod.
Ffynhonnell: APS, SYG
[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y yn cychwyn ar sero.
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc (gan gynnwys myfyrwyr) yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025 oedd 39.5%, gostyngiad o 1.6 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 41.3%, i fyny 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn.
Diweithdra hirdymor
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, mae'r APS yn amcangyfrif bod 13,500 o bobl yng Nghymru yn ddi-waith yn hirdymor (12 mis neu fwy). Mae hyn yn gynnydd o 19.5% dros y flwyddyn, er bod newidiadau o flwyddyn i flwyddyn mewn diweithdra hirdymor yng Nghymru yn anwadal iawn, a dylid ystyried tueddiadau hirdymor lle bo hynny'n bosibl. Dros y tymor hwy, nid yw nifer y bobl sy'n ddi-waith am dymor hir yng Nghymru wedi newid ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020.
Roedd diweithdra hirdymor yn cynrychioli 21.6% o’r holl bobl a oedd yn ddi-waith yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, i lawr 2.2 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd gyfatebol yn y DU oedd 22.3%, i fyny 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn.
Roedd 18.0% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 4.2 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 25.2% yn y DU.
Roedd 26.1% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 0.4 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 18.9% yn y DU.
Ffigur 12: cyfraddau diweithdra hirdymor ILO (y ganran o’r holl bobl ddi-waith), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2009 i fis Mehefin 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 12: siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru a'r DU yn gostwng yn gyffredinol rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2014 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020. Ers hynny mae’r anwadalrwydd wedi cynyddu yng Nghymru a’r DU. Roedd cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru yn uwch yn gyffredinol nag yn y DU. Dylid ystyried newidiadau yn y gyfradd ddiweithdra ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach, lle bo modd, oherwydd anwadalrwydd y gyfres yn ddiweddar.
Ffynhonnell: APS, SYG
[Nodyn 1] Nid yw’r echel y yn cychwyn ar sero.
Statws anabledd
52.0% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl anabl yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025. Dyma gynnydd o 1.2 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 81.3% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, sydd i lawr 0.2 pwynt canran yn ystod y flwyddyn.
6.1% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru, i fyny 1.0 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 3.5% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, sy'n gynnydd o 0.8 pwynt canran yn ystod y flwyddyn.
Ethnigrwydd
Mae'r arolwg yn gofyn i ymatebwyr beth maent yn barnu yw eu tarddiad ethnig. Mae’r categori Gwyn yn cynnwys Gwyn – Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig ac unrhyw gefndir Gwyn arall gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig.
66.2% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, i lawr 0.5 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl Wyn oedd 73.2%, gostyngiad o 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn.
12.3% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 16 oed ac yn hŷn yng Nghymru, i fyny 4.3 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd diweithdra ar gyfer pobl Wyn oedd 3.6%, gostyngiad o 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Perthnasedd
Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r LFS a’r APS. Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis. Cyhoeddir data diweddaraf yr LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y Trosolwg o'r Farchnad Lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r SYG yn cyhoeddi Trosolwg o’r Farchnad Lafur bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU (SYG).
Mae’r SYG wedi dweud ei bod yn fwyfwy heriol cynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr LFS, a bod ffigurau pennawd a thueddiadau ar gyfer cyflogaeth yn dechrau amrywio o ffynonellau data eraill mewn perthynas â’r farchnad lafar. Argymhellir y rhoddir rhagor o ystyriaeth i’r tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill fel yr APS. Yn ogystal â blog y SYG ar y pwnc hwn, gweler hefyd ddiweddariad diwethaf y Prif Ystadegydd ar ddeall a rheoli effaith yr heriau hyn ar gyfer data am y farchnad lafar yng Nghymru (Blog Digidol a Data).
Cyhoeddodd SYG amcangyfrifon wedi eu hail-bwysoli LFS ar gyfer Cymru ym mis Rhagfyr 2024 ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Mawrth 2019, a arweiniodd at newid sylweddol yn y data. Nid yw cymariaethau â chyfnodau cyn mis Ionawr i fis Mawrth 2019 yn gwbl ddilys oherwydd yr anghysondeb hwn yn y gyfres amser. Mae manylion effaith lawn hyn yn yr erthygl 'Effaith ail-bwysoli ar ddangosyddion allweddol LFS yng Nghymru: Rhagfyr 2024’ sydd ar gael ochr yn ochr â Trosolwg o'r Farchnad Lafur: Rhagfyr 2024. Yn wahanol i'r LFS, nid yw'r APS wedi'i ailbwysoli eto i gynnwys yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Yn wahanol i’r LFS, nid yw’r APS eto wedi ei ailbwysoli i gynnwys yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf.
Mae’r datganiad hwn yn dod ag ystadegau diweddaraf yr APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.
Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn cymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn Rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru.
Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r economi a’r farchnad lafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru (rhyw, oedran, anabledd ac ethnigrwydd) a Nomis. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad manylach o nodweddion gwarchodedig yn y farchnad lafur yng Nghymru ar 16 Rhagfyr 2021. Rydym yn croesawu eich adborth ar y cyhoeddiad hwn a blaenoriaethau ar gyfer dadansoddiadau yn y dyfodol, gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn anablu pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r APS yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd (‘amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd’).
Cywirdeb
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae’r ‘amrywioldeb samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu’r amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru.
Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r LFS a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Er y trafferthion a amlygir uchod o ran amcangyfrifon diweddar y farchnad lafur yng Nghymru gan yr LFS, nid yw meintiau sampl yr LFS wedi bod yn ddigonol ers cryn amser, i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl fwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur.
Nid yw’r APS eto wedi ei ailbwysoli fel yr ailbwysolwyd yr LFS ym mis Rhagfyr 2024 i gynnwys yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Gwnaethpwyd y gwaith ailbwysoli hwn yn dilyn gostyngiad mewn ansawdd data, bydd amcangyfrifon APS yn dal i gael eu cyhoeddi yn seiliedig ar fethodoleg pwysoli blaenorol LFS.
Geirfa
Cyflogaeth
Pobl 16 i 64 oed a wnaeth o leiaf un awr o waith am dâl yn yr wythnos gyfeirio (boed fel gweithiwr cyflogedig neu weithiwr hunangyflogedig); y rheini oedd â swydd gyda thâl ond a oedd i ffwrdd am gyfnod dros dro; y rheini ar raglenni gweithwyr a hyfforddi a noddir gan y llywodraeth a’r rheini oedd yn gwneud gwaith heb dâl i’r teulu.
Cyfrifir y brif gyfradd gyflogaeth drwy rannu’r lefel gyflogaeth ymhlith y rheini sy’n 16 i 64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.
Diweithdra
Mesurir nifer y bobl ddi-waith yn y DU drwy’r LFS gan ddilyn y diffiniad y cytunir arno’n rhyngwladol ac a argymhellir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) – un o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig. Mae pobl ddi-waith yn bobl heb swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; neu maent allan o waith, wedi cael swydd ond eu bod yn aros am gael ei dechrau yn y pythefnos nesaf.
Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu’r lefel ddiweithdra ymhlith y rheini sy’n 16 oed a throsodd â chyfanswm y bobl 16 oed a throsodd sy’n economaidd weithgar.
Anweithgarwch economaidd
Pobl economaidd anweithgar yw’r rheini sydd heb swydd nad ydynt wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf, a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.
Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu lefel anweithgarwch y rheini sy’n 16 i 64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Mae'r data ar gyfer y datganiad hwn wedi'u cyfrifo ar sail yr APS a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac maent wedi'u gosod gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru gan sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol.
Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.
Cyhoeddir ystadegau cyllid llywodraeth leol Cymru mewn modd hygyrch, trefnus ac wedi'i rag-gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae'r holl ddatganiadau ar gael i'w lawrlwytho am ddim.
Mae'r holl allbynnau'n glynu wrth y Cod Ymarfer drwy rag-gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ar dudalennau gwe y calendr i ddod. Yn ystod y prosesu, mae'r mynediad at y data wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy'n cael mynediad at y data cyn eu rhyddhau yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu creu gan ddadansoddwyr proffesiynol wrth ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael a thrwy ddefnyddio dulliau, gan arfer eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.
Ansawdd
Mae’r data yn y datganiad hwn i gyd yn deillio o’r APS. Mae amcangyfrifon yr APS wedi mynd yn gynyddol anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn flaenorol, ystyrid yr amcangyfrifon hyn yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r APS wedi gweld gostyngiad ym meintiau’r samplau dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi cael ei ailbwysoli yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid rhoi’r gorau i’r achrediad hwn dros dro, ac y dylid ailddynodi’r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol.
Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, ond dylai defnyddwyr nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch amcangyfrifon sy’n deillio o’r APS. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i greu dangosyddion rhesymol o dueddiadau yng Nghymru, ac yn enwedig os cânt eu defnyddio fel rhan o becyn o ddangosyddion gyda ffynonellau eraill fel gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am gyflogeion a delir, data am swyddi o fewn y gweithlu a nifer yr hawlwyr. Mae amcangyfrifon ynghylch ardaloedd llai neu is-grwpiau o fewn y boblogaeth, fodd bynnag, yn llai dibynadwy.
Wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn, mae pob cam dan arweiniad ystadegwyr proffesiynol ac nid oes unrhyw ymyrraeth wleidyddol. Sicrhawyd ansawdd yr holl ystadegau cyn eu cyhoeddi.
Mae’r ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion y System Ystadegol Ewropeaidd o ran ansawdd allbynnau ystadegol.
Gwerth
Mae ein hystadegau swyddogol yn dangos y tueddiadau o ran cyfraddau cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru gyda chrynodebau ychwanegol yn ôl oedran, rhyw, awdurdod lleol, rhanbarth, anabledd ac ethnigrwydd. Mae’r ystadegau hyn wedi’u cyhoeddi cyn gynted â phosibl er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall y tueddiadau diweddaraf o fewn y farchnad lafur. Bydd yr ystadegau yn cael eu diweddaru bob chwarter drwy gydol y flwyddyn.
Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:
- Cyngor i Weinidogion
- Llywio'r broses benderfynu ynglŷn â pholisi addysg a chyflogadwyedd yng Nghymru
- Cynorthwyo a monitro cynnydd rhaglenni sydd â'r nod o ddarparu a gwella cyfleoedd addysgol a chyflogaeth i bobl ifanc yng Nghymru, megis y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.
Ochr yn ochr â'r datganiad hwn mae tablau ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n galluogi ymwelwyr i weld, trin, creu a lawrlwytho data.
Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. Hefyd, cyhoeddir ein holl allbynnau ar ystadegau’r farchnad lafur yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, lewyrchus, gydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021 yn disodli’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Mawrth 2016, ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:
- (21) canran y bobl mewn cyflogaeth
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.
Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
E-bost: Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 86/2025
