Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r DAF yn rhoi dau fath o daliad

  • Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) a ddefnyddir i dalu am gostau hanfodol (megis bwyd, trydan, dillad ac ati) os yw'r derbynnydd yn wynebu caledi ariannol eithafol.
  • Taliad Cymorth i Unigolion (IAP) a ddefnyddir i dalu am eitemau (megis oergell, popty, gwely, cadeiriau ac ati) sy'n galluogi'r derbynnydd i fyw yn annibynnol yn eu cartref.

Mae'r DAF yn cael ei gweinyddu ar ran Llywodraeth Cymru gan NEC Software Solutions UK (Northgate Public Services gynt) gyda chymorth dau bartner arweiniol sef: Family Fund Trading Limited a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac amryw o Bartneriaid Cyflenwi. Mae'r DAF hefyd yn gweithio gyda rhwydwaith o bartneriaid cyflenwi, elusennau fel arfer, sy'n cyfeirio unigolion at y Gronfa yn ogystal â rhoi cymorth â'r broses ymgeisio pan fo angen.

Ffynonellau data a methodoleg

Cesglir y data sy'n ymwneud â'r DAF gan NEC Software Solutions UK o'r systemau gweinyddol a ddefnyddir i brosesu ceisiadau. Cesglir y data hwn a'i rannu â Llywodraeth Cymru bob chwarter. Mae'r data yn cynnwys nifer a gwerth y taliadau EAP a'r taliadau IAP a delir yng Nghymru bob mis yn ogystal â dadansoddiadau yn ôl awdurdod lleol preswylio a grŵp oedran yr ymgeisydd. Nid yw'r wybodaeth arall a gesglir yn ystod y broses ymgeisio (megis rhywedd) yn cael ei rhannu fel rheol â Llywodraeth Cymru. Mae'r holl ystadegau yn ymwneud â nifer a werth y taliadau sydd wedi'u gwneud, nid nifer y ceisiadau. 

Mae pob ffigur ynghylch y DAF yn mesur niferoedd yn hytrach na defnyddwyr unigryw, gan fod modd i unigolyn wneud hyd at dri chais llwyddiannus mewn cyfnod o 12 mis. I weld y rhestr lawn o gyfyngiadau, ewch i adran  meini prawf cymhwysedd ffurflen gais y Gronfa Cymorth Dewisol.

COVID-19

O fis Mawrth 2020, roedd modd hawlio taliadau EAP am resymau yn ymwneud â COVID-19 megis oedi mewn taliadau Credyd Cynhwysol neu hawliadau eraill gan yr Adran Gwaith a Phensiynau oherwydd y pandemig, yn ogystal ag yn sgil tynnu'n ôl, ym mis Hydref 2021, y taliad a gyflwynwyd yn ystod COVID-19 gwerth £20 yr wythnos i daliadau Credyd Cynhwysol. Ers 1 Ebrill 2023, nid yw COVID-19 bellach ar gael i'w ddewis yn rheswm dros wneud cais am daliad EAP.

Datganiad cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein holl ystadegau eu llunio a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Nid ystyrir yr ystadegau hyn yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau cymaint â phosibl yn ystod y gwaith o'u llunio. 

Defnyddir y gronfa ddata, y tynnir yr ystadegau hyn ohoni, yn bennaf i ymdrin â cheisiadau a thaliadau'r DAF (mewn amser real) ac felly ni chynhelir unrhyw brosesau dilysu ffurfiol. Oherwydd hyn, nid yw'r ystadegau hyn yn cydymffurfio'n llawn â Datganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru. 

Rydym felly wedi cymhwyso'n wirfoddol y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau fel a ganlyn.

Dibynadwyedd

Mae'r data wedi ei dynnu o systemau gweithredol a'u rhoi mewn tablau gan gontractwyr allanol, sy'n cynnwys ystadegwyr proffesiynol, sydd â phrofiad helaeth o ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth o'r fath. Lluniwyd y datganiad gydag ystadegwyr sy'n gweithio o dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunyddiau esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol.

Mae cyhoeddiadau wedi'u rhyddhau bedair wythnos cyn eu cyhoeddi ac maent ar gael i bob defnyddiwr ar yr un pryd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu cael gafael ar ddata'r DAF nad yw'n gyfanredol ac y gellid ei ddefnyddio i adnabod unigolion.

Gwerth

I ddiwallu'r angen a fynegwyd gan ddefnyddwyr, mae cyhoeddiadau sy'n cael eu rhyddhau o 2024 ymlaen yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl oedran y derbynnydd a'r ardal awdurdod lleol yr oedd yr ymgeisydd yn byw ynddi. Mae cyhoeddiadau o'r cyfnod hwn ymlaen hefyd yn cynnwys datganiad ar ffurf HTML yn ogystal â thablau a gyflwynir ar StatsCymru  (Gronfa Cymorth Dewisol (DAF)) er mwyn amlygu newidiadau pwysig a gwella hygyrchedd.

Gwybodaeth ansawdd

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum agwedd ar ansawdd, sef: perthnasedd, cywirdeb, amseroldeb a phrydlondeb, hygyrchedd ac eglurder, a chysondeb a chymharedd.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn gan Lywodraeth Cymru i fonitro nifer y bobl sy'n wynebu angen ariannol difrifol. Cânt hefyd eu cyhoeddi ar StatsCymru (Cronfa Cymorth Dewisol - Data wythnosol (Mawrth 2022 i Hydref 2023)) bob chwarter i alluogi defnyddwyr allanol i weld y data.

Mae’r prif ddefnyddwyr yn cynnwys:

  • Aelodau'r Senedd ac ymchwilwyr yn Senedd Cymru 
  • Ymchwilwyr cymdeithasol/polisi ar gyfer Llywodraeth Cymru 
  • Myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • elusennau a chyrff anllywodraethol

Cywirdeb

Mae'r gwerthoedd ariannol wedi’u talgrynnu i’r bunt agosaf. Nid yw nifer y taliadau wedi'u talgrynnu. Nid yw'r data yn destun unrhyw brosesau dilysu ffurfiol ac felly nid yw'n cael ei gyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol Achrededig (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR)).

Cymerir ystadegau'r DAF o gronfa ddata fyw o geisiadau ac felly maent yn rhoi cipolwg o'r DAF ar yr adeg y cafwyd mynediad atynt. Gellir tynnu ceisiadau yn ôl neu eu newid (hyd yn oed ar ôl i'r taliad gael ei wneud) felly gall cyfanswm gwerth a nifer y ceisiadau am daliadau EAP neu IAP am gyfnod penodol newid. Yn gyffredinol, gwneir y newidiadau hyn fesul achos ac felly dim ond ychydig iawn o effaith a welir ac nid ydynt yn gogwyddo'r data. 

Mae data a gyhoeddir ar StatsCymru yn cael ei ddiweddaru i ddangos unrhyw ddiwygiadau ac felly mae'n cynnwys y ffigurau diweddaraf sydd ar gael. Mae data a gyhoeddwyd yn yr adroddiadau chwarterol yn dangos y ffigurau fel yr oeddent adeg eu cyhoeddiad ac nid ydynt yn cael eu diweddaru i adlewyrchu diwygiadau bach i nifer neu werth y taliadau. 

O bryd i'w gilydd, efallai y bydd ôl-groniad o achosion wrth brosesu ceisiadau a all arwain at fwy o daliadau na'r disgwyl mewn cyfnod penodol. Bydd gwybodaeth am unrhyw faterion o'r fath yn cael ei nodi i ddefnyddwyr ar y pryd drwy gyfrwng nodiadau mewn tablau ac adroddiadau.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddir y datganiad ystadegol hwn bob chwarter (cyhoeddir datganiadau fel arfer ym mis Ionawr, mis Ebrill, mis Gorffennaf a mis Hydref) ac maent yn cwmpasu'r 3 mis blaenorol.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cael ei rag-gyhoeddi ac yna’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r data sylfaenol ar gyfer y datganiad hwn ar gael ar StatsCymru  (Gronfa Cymorth Dewisol (DAF)).

Cysondeb a chymharedd

Yn ogystal â'r ystadegau rheolaidd yn ymwneud â thaliadau, ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad dadansoddi gan edrych yn fanylach ar:

  • sderbynwyr y DAF o ran eu hoedran, sut y mae unigolion yn cael gafael ar daliadau'r DAF a faint o weithiau y mae'r DAF yn cael ei defnyddio fesul unigolyn
  • taliadau'r DAF yn y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru i weld a oes unrhyw batrymau sy'n dod i'r amlwg o ran dangosyddion economaidd penodol a allai helpu i egluro nifer y taliadau ym mhob awdurdod lleol

Please note that the more detailed datasets summarised in that report cover different periods and were extracted at different time points than the regular statistics, therefore there may be small differences in numbers. 

Sylwch fod y setiau data manylach a grynhoir yn yr adroddiad hwnnw yn cwmpasu cyfnodau gwahanol ac wedi'u casglu ar adegau gwahanol i'r ystadegau rheolaidd. Mae'n bosibl felly y bydd gwahaniaethau bach yn y niferoedd. 

Oherwydd gwahaniaethau mewn nodau polisi a meini prawf cymhwysedd, nid oes modd cymharu ffigurau'r DAF yn uniongyrchol â Chronfa Lles yr AlbanCymorth Dewisol (yng Ngogledd Iwerddon) na chynlluniau Awdurdodau Lleol (yn Lloegr).

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Richard Murphy

E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099