Neidio i'r prif gynnwy

Diwygiwyd yr adroddiad hwn ar 19 Hydref 2023, ar ôl ei gyhoeddi'n wreiddiol ar 27 Medi 2023. Yr diwygiad oedd cynnwys data o 4 ysgol uwchradd mewn un awdurdod lleol nad oeddent wedi'u cynnwys yn y datganiad gwreiddiol. Mae newidiadau wedi'u marcio ag (r). Nid yw'r un o'r negeseuon na'r tueddiadau allweddol wedi newid o ganlyniad i'r adolygiad hwn. Nid yw mwyafrif y ffigurau wedi newid, ac ymhlith y rhai sydd wedi newid y newid mwyaf cyffredin yw 0.1 pwynt canran.

Cyflwyniad

Data presenoldeb ac absenoldeb mewn ysgolion canol ac uwchradd a gynhelir yn Gymraeg  ar gyfer disgyblion 11 i 15 oed, hyd at ŵyl banc diwedd mis Mai. Nid yw'n cwmpasu'r flwyddyn ysgol gyfan, oherwydd yr effaith ar bresenoldeb arholiadau cyhoeddus sy'n digwydd ym mis Mai a mis Mehefin.

Casglwyd y set ddata blynyddol hon ddiwethaf yn 2018/19 a'i chyhoeddi diwethaf ym mis Awst 2019. Cafodd y gwaith o gasglu'r data hwn ei atal ar ddechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020 ac nid oes data ar gael ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22.

Ers mis Medi 2020 rydym wedi bod yn casglu ac yn cyhoeddi data presenoldeb dyddiol gan ysgolion. Caiff y data hwn ei dynnu'n uniongyrchol o Systemau Gwybodaeth Rheoli Ysgolion (MIS) unwaith yr wythnos. Cesglir y data hwn fel gwybodaeth reoli ac nid yw'n cael ei ddilysu na'i gytuno gydag ysgolion neu awdurdodau lleol. Felly, nid oes ganddo'r un lefel o sicrwydd ansawdd â'r data presenoldeb blynyddol a gynhwysir yn y datganiad hwn. Mae data wythnosol a blynyddol y ddau ar gael ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23, ond am y rhesymau uchod nid oes modd cymharu'n llwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol ffynonellau swyddogol data presenoldeb a chyngor ar ba un dylid eu defnyddio a phryd, gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Cafodd casglu a chyhoeddi data absenoldeb o ysgolion cynradd hefyd ei atal yn ystod pandemig y Coronafeirws (Covid-19). Mae bellach wedi'i adfer a bydd yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2024.

Prif bwyntiau

  • Mae canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd gan ddisgyblion oed ysgol uwchradd wedi dyblu i 12.5% rhwng 2022/23 a 2018/19.
  • Collodd disgyblion oed ysgol uwchradd sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim (PYD) 20.6% (r) o sesiynau hanner diwrnod yn 2022/23, tra bod disgyblion oedran ysgol uwchradd nad ydynt yn gymwys i gael PYD wedi colli 10.2% (r) o sesiynau hanner diwrnod. Mae'r ddau ffigur o gwmpas dwbl cyfradd yr absenoldebau yn 2018/19.
  • Cafodd 15.5% (r) o sesiynau hanner diwrnod eu colli gan ddisgyblion blwyddyn 11, o'i gymharu â 9.4% o sesiynau hanner diwrnod a fethwyd gan ddisgyblion blwyddyn 7, yn 2022/23
  • Mae canran y disgyblion oed ysgol uwchradd a oedd yn absennol yn gyson wedi treblu i 16.3% rhwng 2022/23 a 2018/19.
  • Roedd 35.6% (r) o ddisgyblion oed ysgol uwchradd sy'n gymwys i gael PYD yn absennol yn gyson yn 2022/23, o'i gymharu â 11.2% o ddisgyblion and ydynt yn gymwys am PYD.
  • Roedd 22.4% (r) o ddisgyblion blwyddyn 11 yn absennol yn gyson, o'i gymharu â 10.2% o ddisgyblion blwyddyn 7, yn 2022/23.

Absenoldeb cyffredinol

Ffigur 1: Canran y sesiynau hanner diwrnod yn absennol o'r ysgol gan ddisgyblion oed ysgol uwchradd, 2013/14 i 2022/23 [Nodyn 1] (diwygiedig)  

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos absenoldeb rhwng 2013/14 a 2022/23. Dangosir absenoldeb, absenoldeb awdurdodedig ac absenoldeb heb awdurdod. Bu cynnydd sydyn yn absenoldeb cyffredinol, gan ddyblu rhwng 2018/19 a 2022/23 yn dilyn pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22. Mae'r blynyddoedd lle mae data yn cael eu nodi gan y marciau cylch ar y llinellau.

Absenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn

Ffigur 2: Canran y sesiynau hanner diwrnod o absenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2022/23 (diwygiedig) 

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Cyfres o fariau wedi'u pentyrru sy'n dangos cynnydd sydyn mewn absenoldeb ar draws pob grŵp blwyddyn yn dilyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae gan ddisgyblion Blwyddyn 11 yr absenoldeb uchaf yn 2018/19 a 2022/23 a'r cynnydd mwyaf rhwng y ddwy flynedd hynny.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

Absenoldeb yn ôl Prydau Ysgol am Ddim (PYD)

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth

Bu newidiadau sylweddol yn ddiweddar yn y ddarpariaeth PYD yng Nghymru fel rhan o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd. I gael rhagor o fanylion, gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Ffigur 3: Canran y sesiynau hanner diwrnod o absenoldeb yn ôl cymhwysedd PYD rhwng 2018/19 a 2022/23 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Bariau wedi'u pentyrru'n dangos cynnydd sydyn mewn absenoldeb i ddisgyblion sy'n gymwys ac ddim yn gwmwys am PYD yn dilyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r absenoldeb cyffredinol ar gyfer y ddau grŵp wedi dyblu rhwng 2018/19, fodd bynnag, mae gan ddisgyblion sy’n gymwys am PYD gyfran sylweddol uwch o absenoldeb heb awdurdod.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

Mae Ffigur 3 yn dangos bod disgyblion sy'n gymwys ac ddim yn gwmwys i r PYD wedi gweld eu habsenoldeb cyffredinol yn dyblu rhwng 2018/19 a 2022/23 ac mae'r ddau grŵp wedi gweld cynnydd mewn absenoldeb heb awdurdod fel cyfran o'u habsenoldeb cyffredinol:

  • 23.3% (r) i 29.7% o'r holl absenoldebau ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys am PYD
  • 39.1% i 47.0% (r) o'r holl absenoldebau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys am PYD
  • Rhwng 2013/14 a 2018/19 roedd y ffigurau presenoldeb ar gyfer pob grŵp blwyddyn yn sefydlog

Cymwys am PYD a grŵp blwyddyn

Nid yw'r patrwm rhwng disgyblion sy'n gymwys ac ddim yn gwmwys am PYD yr un fath ar draws grwpiau blwyddyn.

Ffigur 4: Bwlch pwynt canran rhwng canrannau’r sesiynau hanner diwrnod o absenoldeb disgyblion sy’n gymwys ac and ydynt yn gymwys am PYD yn ôl grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2022/23 (diwygiedig) 

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos bwlch sy’n cynyddu mewn absenoldeb rhwng disgyblion sy'n gymwys a ddim yn gymwys am PYD wrth i'r grŵp blwyddyn gynyddu. Mae'r patrwm yn ymddangos yn 2018/19, ond mae'n fwy amlwg yn 2022/23.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

Mae'r bwlch rhwng disgyblion sy'n gymwys a ddim yn gymwys am PYD wedi dyblu oddeutu ar draws pob grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2022/23. Rhwng 2013/14 a 2018/19 roedd y bwlch yn gyson rhwng 4.1 (r) a 6.1 pwynt canran.

Mae'r gwahaniaeth rhwng y bwlch ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 a disgyblion blwyddyn 11 wedi ehangu rhwng 2018/19 a 2022/23. O 2.0 pwynt canran yn 2018/19 i 4.6 (r) pwynt canran yn 2022/23.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r wybodaeth hon. Nid yw o reidrwydd yn wir, ar gyfer grŵp o ddisgyblion sy'n symud ymlaen trwy grwpiau blwyddyn yn y dyfodol, y bydd eu bwlch PYD yn ehangu i'r radd uchod. Mae'n bosibl bod pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar grwpiau blwyddyn yn wahanol.

Absenoldeb yn ôl nodweddion pellach

Absenoldeb yn ôl rhyw

Yn 2022/23 collodd disgyblion benywaidd 13% o sesiynau hanner diwrnod ar gyfartaledd a chollodd disgyblion gwrywaidd 12% o sesiynau hanner diwrnod ar gyfartaledd.

Absenoldeb yn ôl cefndir ethnig

Mae pob grŵp ethnig wedi gweld cynnydd mewn absenoldeb rhwng 2018/19 a 2022/23.

Yn 2022/23 disgyblion sy'n nodi eu bod yn Deithwyr sydd â'r gyfradd uchaf o absenoldeb, yn absennol am 36.7% (r) o sesiynau a disgyblion sy'n nodi fel Tsieineaidd neu Brydain Tsieineaidd y gyfradd isaf o absenoldeb gyda 3.5% (r) o sesiynau.

Absenoldeb yn ôl Anghenion Addysgol Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA/ADY)

Yn 2022/23 cafodd 17.4% o sesiynau hanner diwrnod eu colli gan ddisgyblion â darpariaeth AAA/ADY o'i gymharu â 11.5% (r) heb ddarpariaeth AAA/ADY.

Absennol yn gyson

Nid yw'n ofynnol i bob disgybl fod yn yr ysgol ar gyfer yr un nifer o sesiynau. Cau ysgolion, symud ysgol, diwrnodau HMS, ac ati... yn achosion lle nad oes angen i ddisgybl fynychu'r ysgol o bosibl, tra bod disgyblion eraill yn dal i fod yn bresennol.

Diffinnir absenoldeb cyson fel absenoldeb am 20% o'r nifer fwyaf cyffredin o sesiynau gofynnol. Felly, os yw'n ofynnol i'r rhan fwyaf o ddisgyblion fod yn yr ysgol am 300 sesiwn hanner diwrnod yn y flwyddyn, y trothwy ar gyfer absenoldeb cyson yw 60 sesiwn. Nid oes angen i'r sesiynau hyn fod yn barhaus er mwyn i ddisgybl gael ei ystyried yn absennol yn gyson.

Y trothwy ar gyfer absenoldeb cyson yn 2022/23 yw 60 sesiwn.

Ffigur 5: Canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd yn absennol yn gyson, 2013/14 i 2022/23 [Nodyn 1] (diwygiedig) 

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart llinell yn dangos bod canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd sy'n absennol yn gyson wedi aros rhwng 4.0% a 5.0% (r) rhwng 2013/14 a 2018/19. Yn dilyn pandemig y coronafeirws, mae absenoldeb cyson wedi treblu rhwng 2018/19 a 2022/23 ac mae'r ganran bellach yn 16.3%.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22. Mae'r blynyddoedd lle mae data yn cael eu nodi gan y marciau cylch ar y llinellau.

Absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn

Ffigur 6: Canran y disgyblion yn absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn, 2018/19 a 2022/23 (diwygiedig) 

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar sy'n dangos fod canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2022/23 wedi treblu yn y rhan fwyaf o achosion. Ar gyfer blwyddyn 7, mae'r ganran bron â bod yn bedair Gwaith yn uwch.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

Rhwng 2013/14 a 2018/19 nid oedd yr ystod o absenoldeb cyson rhwng grwpiau blwyddyn yn fwy na 5% (r), o'i gymharu â dros 10% yn 2022/23.

Mae gan ddisgyblion Blwyddyn 11 y cyfraddau uchaf o absenoldeb cyson, gyda 22.4% (r) o ddisgyblion yn absennol yn gyson yn ystod 2022/23. Ar 3.9 gwaith ei chanran 2018/19, Blwyddyn 7 sydd â'r cynnydd cymharol uchaf mewn absenoldeb cyson yn dilyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Blwyddyn 7 sydd â'r gyfradd isaf o absenoldeb cyson yn ystod 2022/23, gyda 10.2% o ddisgyblion yn absennol yn gyson.

Absennol yn gyson yn ôl Prydau Ysgol am Ddim

Yn 2022/23 canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson sy'n gymwys am PYD yw'r uchaf ers i'r casgliad hwn ddechrau. Yn 2022/23 mae'r bwlch rhwng absenoldeb cyson disgyblion sy'n gymwys am PYD ac nad ydynt yn gymwys am PYD hefyd yr uchaf ers i'r casgliad hwn ddechrau, sef 24.4 pwynt canran.

Ffigur 7: Canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson yn ôl PYD, 2018/19 a 2022/23 (diwygiedig) 

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae siart bar sy'n dangos fod canran yr absenoldeb cyson bron wedi treblu ar gyfer disgyblion sy'n gymwys am PYD a bron i bedair gwaith yn uwch ar gyfer disgyblion and ydynt yn gymwys am PYD rhwng 2018/19 a 2022/23.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

Mae'r cynnydd cymesur o absenoldeb cyson disgyblion and ydynt yn gymwys am PYD yn uwch na'r hyn sy'n cyfateb i ddisgyblion cymwys. Fodd bynnag, mae canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson sy'n gymwys am PYD 3 gwaith yn uwch na'r hyn sy'n cyfateb i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys a, PYD.

Absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn a phrydau ysgol am ddim

Yn yr adran hon rydym yn siarad am y bwlch absenoldeb cyson PYD. Rydym yn cyfrifo'r bwlch drwy dynnu canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson nad ydynt yn gymwys am PYD o'r hyn sy'n cyfateb i ddisgyblion sy'n gymwys am PYD.

Ffigur 8: Bwlch PYD yng nghanran y disgyblion sy'n absennol yn gyson, yn ôl grŵp blwyddyn, 2018/19 a 2022/23 (diwygiedig) 

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart bar yn dangos bwlch yn cynyddu mewn absenoldeb cyson rhwng disgyblion sy'n gymwys am PYD ac and ysynt yn gymwys am PYD wrth i'r grŵp blwyddyn gynyddu. Mae'r patrwm yn ymddangos yn 2018/19, ond mae'n fwy amlwg yn 2022/23.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

Mae'r bwlch PYD ar gyfer pob grŵp blwyddyn wedi o leiaf dyblu rhwng 2018/19 a 2022/23. Yn achos blwyddyn 7 mae'r bwlch wedi treblu; Fodd bynnag, mae ganddo'r bwlch isaf ar draws y grwpiau blwyddyn. Mae'r bwlch mwyaf ar gyfer disgyblion blwyddyn 11 gyda 28.0 (r) pwynt canran.

Absennol yn gyson yn ôl nodweddion pellach

Absennol yn gyson yn ôl rhyw

Gwelwyd cynnydd mewn absenoldeb cyson ymhlith disgyblion y ddau ryw ers pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Rhwng 2018/19 a 2022/23, mae canran y disgyblion a oedd yn absennol yn gyson wedi codi o 4.7% i 17.5% o ddisgyblion oed ysgol uwchradd fenywaidd ac o 4.5% i 15.1% (r) o ddisgyblion oedran ysgol uwchradd wrywaidd.

Absennol yn gyson yn ôl cefndir ethnig

Gwelwyd cynnydd mewn absenoldeb cyson ymhlith disgyblion o bob cefndir ethnig ers pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Yn 2022/23 y cefndir ethnig gyda'r canran isaf o absenoldeb cyson oedd Tsieineaidd neu Brydeinig Tsieineaidd (sef 1.5% (r)) a'r cefndiroedd ethnig â'r ganran uchaf o absenoldeb cyson oedd Roma (sef 63.3% (r)) a Theithwyr (sef 63.5% (r)).

Absennol yn gyson yn ôl Anghenion Addysgol Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA/ADY)

Mae canran yr holl ddisgyblion AAA/ADY a oedd yn absennol yn gyson yn 27.2% (r).

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Diwygiad

Diwygiwyd yr adroddiad hwn ar 19 Hydref 2023, ar ôl ei gyhoeddi ar 27 Medi 2023. Y diwygiad oedd cynnwys data o 4 ysgol uwchradd mewn un awdurdod lleol na chafodd eu cynnwys yn y datganiad gwreiddiol. Nid yw'r rhan fwyaf o'r data wedi newid. Y newid mwyaf oedd +3.1 pwynt canran ar gyfer is-grŵp bach o ddisgyblion yn Nhabl 12, lle byddai disgwyl i ychwanegu 1 neu 2 ddisgybl ychwanegol newid y data. Lle mae'r ffigurau wedi newid, y newid mwyaf aml yw 0.1 pwynt canran.  

Ni chafodd y 4 ysgol eu cynnwys yn y datganiad gwreiddiol oherwydd na chyflwynwyd eu data awdurdodedig i ni mewn pryd ac ni wnaethom ddarganfod yr hepgoriad yn ystod ein proses ddilysu wreiddiol. Byddwn yn diweddaru ein gweithdrefnau gwirio i sicrhau bod pob ysgol yn cael ei chynnwys mewn rhifynnau yn y dyfodol.

Diffiniadau

Ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol

Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.

Ysgolion cyfrwng Cymraeg

Mae Ysgolion Cynradd yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, Dwy Ffrwd a Throsiannol. Mae ysgolion Canol ac Uwchradd yn cynnwys Cyfrwng Cymraeg. Am fwy o wybodaeth, gwelir y nodiadau canllaw.

Ysgolion annibynnol

Ysgolion sy'n codi ffioedd ac a all gael eu hariannu hefyd gan unigolion, cwmnïau neu sefydliadau elusennol. Rhaid i bob ysgol annibynnol yng Nghymru gofrestru gyda Llywodraeth Cymru.

Ysgolion meithrin

Dan 5 oed.

Ysgolion cynradd

3/4 i 10 oed.

Ysgolion canol

3/4 i 16/18 oed.

Ysgolion uwchradd

11 i 16/18 oed.

Ysgolion arbennig

Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.

Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.

Mae datganiadau a chynlluniau fel cynlluniau addysg unigol (IEPs) a chynlluniau dysgu a sgiliau (LSP) yn cael eu disodli gan gynllun newydd o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Ni fydd y termau a'r data ar 'Ddisgyblion â datganiadau', 'Gweithredu Ysgol a Mwy', a 'Gweithredu Ysgol' bellach yn cael eu defnyddio na'u casglu pan fydd y broses o bontio a gweithredu'r system ADY wedi'i chwblhau.

Mae plant yn symud o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros bedair blynedd, er mwyn sicrhau digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen ac i baratoi cynlluniau.

Yn ystod y cyfnod pontio, caiff plant a phobl ifanc eu hadrodd mewn un o bedwar categori tra bod y ddwy system yn rhedeg ochr yn ochr.

Cynlluniau Datblygu Unigol

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ar gyfer dysgwyr sydd wedi’u darganfod ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall dysgwr fod ag CDU a gynhelir mewn ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.  

Disgyblion â datganiadau

Disgyblion lle mae'r awdurdod yn cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996. Gall datganiad fod wedi'i gyhoeddi yn flaenorol gan yr awdurdod lleol ar ôl asesu anghenion plentyn.  

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol. 

Prydau ysgol am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, bydd holl blant ysgol gynradd Cymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Dechreuodd y broses gyflwyno ym mis Medi 2022 gyda’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu prydau ysgol am ddim i blant oed Derbyn o’r dechrau tymor yr hydref (Medi 2022) ac ymestyn y cynnig i flynyddoedd 1 a 2 heb fod yn hwyrach na dechrau tymor yr haf (Ebrill 2023).

Er bod y broses hon o gyflwyno prydau ysgol am ddim i’r rhai nad oeddent yn gymwys i’w cael o’r blaen wedi dechrau, nid yw’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu cyfanswm nifer y disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2023. Yn hytrach, mae ond yn cynnwys nifer y disgyblion sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau penodol (fel yr adroddwyd mewn blynyddoedd blaenorol). Gweler y canllaw gwybodaeth prydau ysgol am ddim am fanylion llawn y meini prawf cymhwysedd a'r buddion.

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Mae'r dadansoddiad FSM yn y datganiad hwn yn cynnwys disgyblion sy'n gymwys drwy'r meini prawf prawf modd yn unig. Nid yw'r rhai sy'n gymwys drwy TP neu UPFSM wedi'u cynnwys.

Mathau o Absenoldeb

Mae pob absenoldeb (neu absenoldebau 'cyffredinol') yn cynnwys y rheini sydd wedi'u hawdurdodi a'r rheini sydd heb eu hawdurdodi:

  • absenoldeb a ganiatawyd gan athro neu gynrychiolydd awdurdodedig arall o'r ysgol yw absenoldeb a awdurdodwyd. Mae hyn yn cynnwys absenoldebau y rhoddwyd esboniad boddhaol drosto (ee salwch, profedigaeth deuluol neu achlysur crefyddol).
  • absenoldeb na chaniatawyd gan athro neu gynrychiolydd awdurdodedig o'r ysgol yw absenoldeb anawdurdodedig.  Mae hyn yn cynnwys pob absenoldeb na roddwyd esboniad neu gyfiawnhad drosto.

Lle bydd disgyblion yn dilyn gweithgareddau addysgol sydd wedi'u cymeradwyo ac sy'n cael eu goruchwylio ar safle arall (ee profiad gwaith neu ymweliadau addysgol), ystyrir eu bod yn bresennol yn yr ysgol.

Ffynonellau data swyddogol ar bresenoldeb mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru

Cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19) gwnaethom gasglu a chyhoeddi data presenoldeb yn flynyddol. Casglwyd y set ddata flynyddol hon yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau  ac fe'i dynodir yn Ystadegau Gwladol. Fel arfer cyhoeddwyd absenoldebau o ysgolion uwchradd ym mis Awst, absenoldeb o ysgolion cynradd ym mis  Rhagfyr a dilynodd bwletin ychwanegol ar absenoldeb gan ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion ym mis Chwefror.

Cafodd y casgliadau data sy'n sail i'r datganiadau hyn eu hatal ar ddechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020. Nid oes data o'r casgliadau hyn ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 na 2021/22. Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno'r canlyniadau o ailddechrau'r casgliadau blynyddol hyn o flwyddyn ysgol 2022/23 ymlaen.

Er mwyn llywio ein hymateb polisi i'r pandemig coronafeirws (COVID-19), dechreuom gasglu gwybodaeth reoli ddyddiol am bresenoldeb mewn ysgolion o fis Medi 2020 ymlaen. Mae'r data hwn yn cael ei dynnu'n uniongyrchol o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion ac nid yw'n cael ei ddilysu na'i ddilysu mewn unrhyw ffordd gyda'r ysgolion ac nid yw'r data bob amser ar gael ar gyfer pob ysgol bob dydd. Nid yw'n Ystadegau Gwladol ac mae o ansawdd is na'r data blynyddol a gyflwynir yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae'n ddefnyddiol edrych ar lefelau cyffredinol o absenoldeb a thueddiadau ar lefel Cymru ac edrych ar batrymau rhwng disgyblion â nodweddion gwahanol e.e. prydau ysgol am ddim. Mae presenoldeb mewn ysgolion a gynhelir wedi cael ei gyhoeddi'n wythnosol ers mis Medi 2020.

Gwahaniaethau allweddol yn y data a gasglwyd ar bresenoldeb ysgol cyn ac yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19)

Ym mis Hydref 2022 cyhoeddwyd datganiad cryno ar bresenoldeb cyn ac yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn edrych ar y gwahaniaethau allweddol rhwng y casgliadau data blynyddol ac wythnosol ac mae gwybodaeth fanwl am y gwahaniaethau hynny iw gweld yn y datganiad hwnnw.

Data presenoldeb ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data presenoldeb sicr o ansawdd llawn i safonau Ystadegau Gwladol ar gyfer ysgolion uwchradd ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad wythnosol o'r wybodaeth reoli yn ystod blwyddyn ysgol 2022/23 gan arwain at orgyffwrdd yn y cyfnod amser a gwmpesir gan y ddau gasgliad. Ein cyngor yw y dylai defnyddwyr ddefnyddio'r data yn y datganiad hwn cyn belled ag y bo modd a dim ond cyfeirio at y data yn y datganiad wythnosol os na ellir dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen neu ei chynhyrchu o'r set ddata flynyddol hon.

Tabl 1: Cymharu data presenoldeb blynyddol a gwybodaeth reoli wythnosol ar gyfer ysgolion uwchradd ym mlwyddyn ysgol 2022/23
Grwp blwyddyn Data blynyddol Gwybodeath reoli wythnosol [Nodyn 1] Gwahaniaeth
7 90.6 90.4 0.2
8 88.4 88.1 0.3
9 87.2 88.9 0.3
10 86.6 86.2 0.4
11 84.4 84.1 0.3

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23, Data Presenoldeb - Gwybodaeth Reoli

[Nodyn 1] Fel y gyhoeddwyd ar 7 Mehefin 2023

Mae'r tabl yn dangos presenoldeb cyffredinol ar gyfer ysgolion uwchradd fesul grŵp blwyddyn rhwng Medi 2022 a Mai 2023. Mae'n dangos bod y casgliadau blynyddol ac wythnosol ysn cynhyrchu canlyniadau cyson gyda'r gwahaniaeth mwyaf i ddisgyblion blwyddyn 10 sef 0.4 pwynt canran.

Mae'r tabl uchod yn cadarnhau, ar lefel Cymru, bod y ddau gasgliad ar gyfer 2022/23 yn cynhyrchu canlyniadau cyson a chymaradwy. Fodd bynnag, mae'n debygol, oherwydd y ffordd y mae'r data wythnosol yn cael eu casglu a'r diffyg dilysiad y byddai gwahaniaethau mwy a mwy arwyddocaol o dan lefel Cymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2010 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (Saesneg yn unig).

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • polisï addysg o fewn Llywodraeth Cymru
  • rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
  • Estyn
  • y gymuned ymchwilio
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • llywio'r broses o wneud penderfyniadau polisi addysg yng Nghymru
  • hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
  • parth addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • cynorthwyo gydag ymchwil mewn cyrhaeddiad addysgol

Cywirdeb

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddilysu cyn cyhoeddi tablau.  Caiff data eu casglu mewn ffurflen electronig a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWi, system drosglwyddo data ar-lein ddiogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae camau amrywiol o ddilysu awtomataidd a gwirio synhwyrol yn cael eu cynnwys yn y broses i sicrhau ansawdd uchel o ddata.

Yn ogystal, anfonir tabl at bob awdurdod lleol sy'n cynnwys crynodeb o'r data ar gyfer eu holl ysgolion uwchradd a gynhelir y gofynnir iddynt eu gwirio.

Amseroldeb a phrydlondeb

Roedd DEWi ar gael i'w lanlwytho ffeiliau ar 24 Mai 2023, a gofynnwyd i ysgolion uwchradd a chanol prif ffrwd gyflwyno data presenoldeb ar gyfer pob disgybl rhwng 5 a 15 oed ar gofrestr yr ysgol o ddechrau Medi 2022 tan ddiwedd Gŵyl Banc mis Mai 2023.  Yna gofynnwyd i ysgolion ac awdurdodau lleol ddilysu eu data o fewn cyfnod dilysu.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae'r Datganiad Cyntaf Ystadegol hwn wedi'i gyhoeddi ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar adran Ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru. Bydd y data hefyd yn cael ei gyhoeddi ar Fy Ysgol Leol, gwefan sydd wedi'i chynllunio i agor mynediad at ddata'r ysgol i rieni a phawb arall sydd â diddordeb yn eu hysgol leol.

Cysondeb a chydlyniant

Casglwyd data absenoldeb lefel disgyblion gan ysgolion uwchradd a gynhelir am y tro cyntaf yn 2007/08.  Nid yw'r diffiniadau a'r cyfrifiadau sy'n gysylltiedig â'r casgliad wedi newid, felly nid yw cymaroldeb dros amser wedi cael ei effeithio.

Dyma'r data diweddaraf sydd ar gael (I gyd yn Saesneg yn unig):

Lloegr

Statistics: pupil absence (Adran Addysg)

Yr Alban

Weekly school attendance (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon

Education statistics (Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, lle mae Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 77/2023 (R)