Yn y canllaw hwn
3. Gwneud cais
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am grant o dan gynllun Allwedd Band Eang Cymru. Mae’r cynllun ar gael ar gyfer:
- preswylwyr unigol
- busnesau
- sefydliadau trydydd sector
Cyn i chi wneud cais
Cyn llenwi a chyflwyno eich ffurflen gais dylech:
- ddefnyddio teclyn gwirio cyfeiriadau Openreach i weld a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym o leiaf cyflymder lawrlwytho o 30Mbps
- ystyried pa gyflymder sydd ei angen o ran cysylltiad ar eich cartref neu fusnes heddiw a thros y 12 mis nesaf
Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i gyflwyno’ch ffurflen gais.