Yn y canllaw hwn
2. Cymhwysedd
Mae grantiau Allwedd Band Eang Cymru ar gael ar gyfer:
- preswylwyr unigol
- busnesau
- sefydliadau trydydd sector
I weld a yw eich safle gosod arfaethedig yn gymwys, darllenwch feini prawf cymhwysedd ac amodau’r cynllun Allwedd Band Eang Cymru.
Cyn gwneud cais, dylech hefyd gael ragor o wybodaeth am opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer cael band eang cyflymach.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio teclyn gwirio cyfeiriadau Openreach i weld a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym â chyflymder lawrlwytho o 30Mbps neu uwch.
Mae yna gyflenwyr eraill sy’n darparu rhwydweithiau band eang yng Nghymru. Gwiriwch yn uniongyrchol gyda darparwyr band eang neu defnyddiwch wefannau cymharu prisiau.