Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhyw, dull astudio, y math o raglen a lefel astudio ar gyfer Awst 2021 i Orffennaf 2022.

Amharodd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) ar y ddarpariaeth addysg o fis Mawrth 2020 ymlaen ac mae’n bosibl y bydd ei effaith yn parhau i gael ei weld yn ffigurau’r datganiad hwn.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2021/22, roedd yna 149,350 o ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach (SAB), darparwyr dysgu oedolion neu ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith.
  • Roedd 119,300 dysgwr unigryw mewn SAB, cynnydd o tua 10% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd y cynnydd hwn yn bennaf yn sgil ag adferiad yn nifer y dysgwyr rhan-amser mewn SAB (i fyny 28%).
  • Roedd nifer y dysgwyr llawn-amser mewn SAB wedi gostwng 5%, ond y dysgwyr ar raglenni dysgu seiliedig ar waith mewn SAB wedi cynyddu 7%.
  • Roedd 10,440 o ddysgwyr unigryw mewn Dysgu Oedolion, 88% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol, felly roedd ar ei lefel uchaf ers 2018/19. 
  • Roedd cyfanswm nifer y dysgwyr ar raglenni dysgu seiliedig ar waith (gan gynnwys y rheini a oedd gyda darparwyr hyfforddiant eraill) wedi gostwng 15% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gellir egluro hyn yn rhannol yn sgil yr hyfforddiaethau a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.
  • Dechreuwyd tua 3% yn llai o raglenni dysgu prentisiaethau.

Nodyn

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn crynhoi data ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, heb gynnwys y rheini mewn hefydliadau addysg uwch neu ysgolion ond gan gynnwys SAB, darparwyr eraill dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth dysgu oedolion a gasglwyd drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau

Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2021 i Orffennaf 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 762 KB

PDF
Saesneg yn unig
762 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Myfyrwyr addysg bellach mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch ym mis Rhagfyr, 2009 i 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 24 KB

ODS
24 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Dysgwyr darparwr sy'n cael eu dysgu mewn sefydliadau addysg bellach, 2012/13 i 2021/22 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 33 KB

ODS
33 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Llwyth o gyfatebiadau llawn amser i fyfyrwyr ar gyfer dysgwyr addysg bellach ac addysg uwch, 2009/10 i 2021/22 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 22 KB

ODS
22 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ian Shipley

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.