Adeiladu diwylliant ar gyfer cyd-gynhyrchu - Pennod 11. Plymio yn ddyfnach, dysgu gyda’n gilydd
Llawlyfr y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfleon dysgu rhagor
Mae dysgu gyda'n gilydd yn hollbwysig. Dewiswch y gweithgaredd sy'n orau i chi...
Ymarfer Bore Bob Dydd? Ymunwch â ni unwaith yr wythnos neu bob dydd)
Dim ond angen diweddariad? Ymunwch â sesiwn rhyngweithiol un-awr ar-lein
Eisiau atgoffa’ch hunan am systemau? - Cwrs Byr Dull Systemau
Edrych am rhywbeth dyfnach trwy hyfforddiant am ddim? Ymuno â u-lab gan MIT
Dim ond angen ffonio ffrind? Rhowch dro ar sefydlu pair hyfforddi ar y cyd.
Barod am sesiwn un-awr bob mis? Dewiswch cymuned ymarfer
Gweithion mewn lle penodol? Trïwch cyngor gan ymarfer y bobl
Eisiau creu tîm newid yn eich sefydliad eich hunan? Ymunwch â’r prosiect ensymau
Gweler wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfoldol am ffynonellau eraill o ddysgu a datblygu
Hyfforddi ar y cyd neu barau ystyriol
Mae hyfforddi ar y cyd yn ffordd wych o ystyried a dysgu gyda’ch gilydd. Dyma sut mae rhai ohonom yn mynd ati.
Dewis rhywun rydych yn ei adnabod, yr hoffech dreulio rhywfaint o amser ystyriol gydag ef/hi. Gofynnwch sut mae ef/hi (trafod) a holi a fyddai ganddo/ganddi ddiddordeb mewn rhannu rhywfaint o le i feddwl. Yn y lle cyntaf, dim ond gofyn i rywun gytuno i gyfarfod cyntaf ydych chi, er mwyn i chi weld sut gallai pethau fynd – efallai y bydd yn gweithio, efallai ddim. Os nad yw’n gweithio, o leiaf byddwch wedi cael paned a sgwrs. Efallai mai dim ond rhywfaint o fân newidiadau sydd eu hangen er mwyn i bethau weithio’n well y tro nesaf...
Cwrdd i roi cynnig arni. Fe wnaethom hyn drwy neilltuo hanner yr amser i bob un ohonom (hynny yw, 30 munud yr un) ac ychydig funudau i gytuno ar y camau nesaf. Fe wnaethom gyfarfod wyneb yn wyneb a hefyd yn rhithiol. Defnyddiodd pob person ei amser i ofyn cwestiwn allweddol iddo’i hun (ac ateb drosto’i hun) (ee Beth ydw i eisiau ei gyflawni? Beth yw’r her fwyaf nawr?) tra bo’r person arall yn gwrando, yn cymryd diddordeb, yn gofyn cwestiynau da, yn gweld cysylltiadau ac yn ceisio peidio â thorri ar draws gormod. Ar y diwedd, roeddem yn teimlo’n well felly rydym yn cytuno i gwrdd eto.
Gallech ofyn cwestiynau fel y rhain:
- dywedwch wrthyf am rywbeth a aeth yn dda yr wythnos hon
- allwch chi ddefnyddio unrhyw wersi o’r fan honno mewn lleoliadau eraill?
- dywedwch wrthyf am rywbeth a aeth yn wael/yn dda
- beth allech chi roi cynnig arno’n wahanol y tro nesaf?
- Beth os oedd/nad oedd hynny’n wir?
- pe gallech chi newid un peth, beth fyddai hynny a pham?
Dim ond rhannol lwyddiannus oedd ein cynnig cyntaf; cawsom ymrwymiad a chawsom gyfarfod defnyddiol iawn ond wedyn ni wnaethom lwyddo i ddod at ein gilydd yn rheolaidd am ychydig fisoedd. Felly fe wnaethom roi cynnig arall arni; gan ddefnyddio Outlook i bennu cyfarfod wythnosol awr a hanner yn rheolaidd yn ein dyddiaduron. Dydyn ni ddim yn defnyddio’r holl amser hwnnw bob tro (ond fel arfer tua 30 munud yr un). Mae neilltuo 90 munud yn ein dyddiaduron yn sicrhau ein bod yn cael amser ar gyfer hunanystyried yn ogystal â’r hyfforddiant ar y cyd.
Rydym yn gwneud yn siŵr bod y ddau ohonom yn cael yr amser sydd ei angen arnom i siarad am un broblem/her/mater ac rydym yn canolbwyntio’r cwestiynau ar fod yn agored, yn galonogol, yn ystyriol ac yn dosturiol. Rydym yn canolbwyntio ar y pedwar egni – corfforol, emosiynol, meddyliol ac ysbrydol.
Rydym yn cynnal rhai o’r cyfarfodydd dros y ffôn a Teams ac weithiau rydym yn gallu bod yn yr un lleoliad. Mae cyfarfodydd rhithwir wedi gweithio'n iawn ar yr amod bod y ddau ohonom yn llonydd (gyda phaned o de yn ddelfrydol). Dydy symud neu fod wrthi’n siopa ddim yn syniad os ydych chi am wrando’n dda! Ac, os ydych chi ar y ffôn symudol, gwnewch yn siŵr bod cryfder eich signal yn dda cyn i chi ddechrau, fel nad ydych chi’n colli eich gilydd ar adeg anodd.
Rydym wedi cynnal cyfarfodydd wythnosol rheolaidd a dim ond neu ddau o’r sesiynau hyn rydym wedi’u colli (oherwydd gwyliau’n bennaf) dros y misoedd diwethaf. Mae’n bendant yn gwella ein perfformiad yn ystod gweddill yr wythnos. Mae’n wych pan fydd y ddau eisiau dysgu gwneud yn well (ar unrhyw agwedd ar eu gwaith).
Rydym yn argymell eich bod yn dewis gweithio gyda rhywun sydd â rôl debyg ond nid yr un rôl yn union oherwydd mae ychydig bellter o waith eich gilydd yn dod â phersbectif ac amrywiaeth ehangach o faterion a chwestiynau.
Mae’n ymddangos ei fod yn gweithio orau yn y sesiynau lle rydym ychydig yn fwy llym ynghylch ‘hyfforddi’ ein gilydd – hynny yw, pan fydd y gwrandäwr yn gofyn cwestiynau treiddgar, heb darfu gormod. Mae’r rhain yn well na’r trafodaethau a gawn weithiau, sy’n crwydro braidd.
Beth am roi cynnig arni a rhoi gwybod i ni sut hwyl gewch chi!
Cymryd camau gyda'ch cymuned leol? Ymarfer y bobl
Gweler hefyd y cymunedau ymarfer am gymorth misol rheolaidd.
Cynigir y syniadau isod fel awgrymiadau a gwahoddiadau. Cawsant eu datblygu a'u profi gan bobl oedd â diddordeb ledled Cymru. Rydym yn gobeithio y byddant yn eich helpu chi ac eraill i gymryd camau cynyddol gadarnhaol mewn ymateb i argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Gellir defnyddio rhai ohonynt hefyd i wella cyfarfod ar unrhyw bwnc.
Beth yw ymarfer y bobl?
Mae ymarfer y bobl yn ffordd o annog a chydgysylltu camau gweithredu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae ymarfer y bobl yn ganolfan ar gyfer sefydliadau, grwpiau ac unigolion sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd i rwydweithio, rhannu syniadau a chanolbwyntio ar y prif faterion a chamau positif ar y cyd.
Mae ymarfer y bobl yn lle i drafoda phenderfynu ar ein camau ein hunain, nid ar gyfer dweud wrth eraill yr hyn y dylent ac na ddylent ei wneud.
Mae ymarfer y bobl ynghylch camau sy'n newid ein dull o fyw, nid ynghylch gweithredu i godi ymwybyddiaeth, sef yr hyn y mae Gwrthryfel Difodiant ac eraill eisoes yn ei wneud.
Beth ydych ei angen i ddechrau?
Rydych angen grŵp bychan o bobl sydd wedi'u hysgogi a lle i gyfarfod. Dechreuwyd yma gyda pedwar o bobl. Roedd rhai ohonom yn cynnig lle cyhoeddus i gyfarfod (yn ein hachos ni, yr amgueddfa leol). Roedd rhai ohonom yn cynnig hwyluso a rhai ohonom yn cynnig helpu gyda chyfathrebu, gan wahodd eraill i ymuno. (Mae'n bosibl y bydd y rolau'n gorgyffwrdd!)
Yn gyntaf, cytunwyd sut yr oeddem am gydweithio/yr hyn oeddem am ei wneud. Yna dewiswyd rhai dyddiadau a gwahodd pobl i ymuno. Dewiswyd cyfarfod bob mis a dyma sut y cytunwyd i gydweithio:
Byddwn:
- Yn derbyn bod argyfwng a dechrau gwneud rhywbeth ynghylch hyn
- Canolbwyntio ar gydweithio a pheidio anghytuno
- Gwerthfawrogi cyfraniad pawb
- Adeiladu ar egni ein gilydd
- Trafod gyda a dod â phobl newydd i mewn
- Cynnwys pob oedran a chenhedlaeth
- Creu lle y gall bobl greu cysylltiadau a chreu perthynas â'i gilydd
- Caniatáu i ni ein hunain ddychmygu utopia a gweithio tuag at hyn drwy realiti
- Gwneud cysylltiadau rhwng hinsawdd, bioamrywiaeth a bwyd
- Ystyried sut y gallwn sicrhau bod ein heconomi leol yn fwy lleol.
Beth yw’r prif egwyddorion?
Cewch weld ein hegwyddorion yn y rhestr o bwyntiau bwled uchod. Gofynnwyd i bobl eraill sy'n sefydlu ymarferion tebyg (yn bennaf mewn safleoedd gwaith) a dywedwyd wrthym am yr egwyddorion sy'n bwysig iddynt hwy:
Daeth y syniad o Wrthryfel yr Hinsawdd sy'n gofyn i unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn unrhyw weithredu sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd i ddilyn rhai egwyddorion sylfaenol o fod yn ddi-drais, dangos empathi ac ati.
Rydym yn hoff o'r syniad o gynnal cyfarfodydd mewn ffordd wahanol. Mae rhai pobl yn parhau i fod ynghlwm i'r fformat o fwrdd safonol. Roedd egluro hyn o gymorth i rai pobl.
Mae ein grŵp wedi cytuno eu bod wedi penodi eu hunain - nid oes neb yn bresennol oherwydd eu swydd neu bod ganddynt bŵer hierarchaidd. Mae yn grŵp gwirfoddol.
Mae'r rhwydwaith hefyd yn hunan-awdurdodi. Nid ydym yn adrodd yn ôl i neb ond yn derbyn bod angen inni gysylltu â rhai strwythurau ffurfiol i helpu i drosglwyddo'r neges. Y syniad yw ein bod yn dewis pwy i siarad â hwy a phryd, neu yn holi cwestiynau i bobl.
Bydd aelodau'r grŵp wedi cytuno i hyrwyddo y rhwydwaith o fewn eu safleoedd gwaith eu hunain. Byddwn yn gwneud y pethau hynny y gallwn eu gwneud o fewn ein cylch gwaith ac yna gydweithio i herio / cefnogi newid o fewn y sefydliad ble y mae'r problemau y tu allan i'n rheolaeth.
Rydym hefyd wedi cytuno i ddefnyddio'r grŵp i helpu i addysgu a datblygu ein gilydd. Y cais cyntaf oedd i'r tîm Ystadau sy'n rheoli lleihau carbon i gyflwyno trosolwg o bethau sydd eisoes yn digwydd. Mae nifer o'r syniadau cychwynnol a grëwyd gan y rhwydwaith eisoes yn cael eu gwneud neu wedi eu hastudio a'u gwrthod. Roedd pobl wedi synnu faint o waith oedd eisoes yn mynd ymlaen heb sylw yn y sefydliad.
Cyfreithlondeb: Mae rhai aelodau wedi nodi bod eu rheolwyr llinell am dderbyn sicrwydd bod y gwaith yn gyfreithlon ac yn cyd-fynd â'u swyddi. O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol mae gan bawb gyfrifoldeb ynghylch newid hinsawdd. Mae nifer o sefydliadau yn defnyddio y syniad o 'gyfraniad corfforaethol' i alluogi pobl i gyfrannu eu sgiliau ehangach i nodau ar y cyd, naill ai ochr yn ochr neu yn hytrach nag amcanion eraill. Mae angen inni alluogi mwy o hyn.
Pa dechnegau fyddech chi yn eu defnyddio?
Rydym yn datblygu ein harferion yn barhaus. Dyma rai o'r dulliau rydym wedi eu defnyddio hyd yma:
Leithoedd amrywiol
Daeth adroddiad Ewropeaidd diweddar i'r casgliad: 'mae pobl yn dangos llai o ragfarnau wrth wneud penderfyniadau mewn iaith dramor, felly gallai hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol yn y gweithle fod o fudd'. Mae'n bwysig inni bod ein grŵp yn agored ac yn gynhwysfawr felly rydym yn hwyluso ein sesiynau yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn annog pobl i ddefnyddio ieithoedd amrywiol yn yr ymarfer.
Bydd pwy bynnag sy'n arwain/hwyluso yn dweud ychydig eiriau yn y Gymraeg a naill ai maent hwy neu hwylusydd arall yn ail-adrodd pob elfen yn Saesneg. Rydym yn annog pobl i ddefnyddio Cymraeg (neu ieithoedd eraill) a naill ai gyfieithu eu hunain neu ofyn i ffrind ddarparu cyfieithiad yn yr un ffordd.
Arwyddion llaw
I helpu inni sicrhau trafodaethau o safon uwch, rydym yn defnyddio arwyddion llaw wedi seilio ar gyfathrebu di-drais. Cewch ddarllen mwy yma: Nonviolent Communication
Arwyddion llaw cyfathrebu di-drais - poster wedi'i wneud gartref
Oedi
Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gallai hyd yn oed yr oedi lleiaf helpu inni wneud penderfyniadau gwell. Mae ond yn cymryd oddeutu 120 milieiliad i'r ymennydd newid cyfeiriad ac anwybyddu ymyraethau i wneud penderfyniad mwy cywir.
Rydym yn defnyddio oedi a myfyrio (e.e. sganio'r corff) i helpu i sicrhau cydbwysedd o fewn yr ymarfer.
Mae popeth yn dechrau wrth oedi.
Cylchoedd, pawb yn eu tro a ffyn siarad
Mae eistedd mewn cylch (o gadeiriau a soffas) yn dangos bod pawb yr un mor bwysig â'i gilydd. Mae hefyd yn caniatáu inni sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad a chael eu clywed ac i wrando.
Mae cylch yn golygu bod pawb yn cael y cyfle i roi ymateb byr, naill ai drwy siarad yn eu tro yn y cylch neu drwy ganiatáu bob person i gynnig eu hateb pan fyddant yn barod. Mae cael syniadau pawb yn yr ystafell yn arwain at fwy o opsiynau, mwy o greadigrwydd a gwneud penderfyniadau gwell.
Gallai pren siarad fod o gymorth os oes gennych gyfranogwyr hynod frwdfrydig. Gellir defnyddio unrhyw eitem yn y llaw fel 'ffon'. Unwaith y mae'n cael ei ddefnyddio, dim ond y person sydd â'r ffon sy'n cael siarad. Mae pawb arall yn gwrando tan i'r ffon gael ei throsglwyddo i'r person nesaf. Cymryd amser i egluro y defnydd o'r ffon yn ofalus. Wrth afael yn y ffon, mae'n iawn oedi ac mae angen cofio na chewch siarad yn rhy hir.
Cynhyrchu ar y cyd
Mae cynhyrchu ar y cyd yn rhoi cyfle i bobl rannu pŵer a chyfrifoldeb, ac i gydweithio mewn perthynas gyfartal, ar y ddwy ochr, ac i ofalu am eraill. Mae cynhyrchu ar y cyd yn dechrau bob amser gydag asedau, pa adnoddau, sgiliau a doniau sydd gennym eisoes? Sut y gallwn ni helpu?
Dysgwch fwy gan: Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru
Ewch tu allan
Mae tystiolaeth gynyddol sy’n dangos y gall bod ym myd natur wella ein dealltwriaeth, y ffordd rydym yn meddwl a'r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau, yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol at ein hiechyd a llesiant cyffredinol.
Llunio darlun
Pan na allwn fynd allan gallwn ddod â'r 'tu allan' i mewn drwy dynnu lluniau. Gallwn hyd yn oed ddod â 'dyfodol' posib i'r ystafell drwy wneud llun ohonynt. Mae bod yn greadigol yn dda i'n syniadau, ein penderfyniadau a'n iechyd a'n llesiant ehangach.
Technoleg mannau agored
Pan y mae gennym grŵp mawr (20 i 2000+) rydym yn defnyddio technoleg mannau agored i drefnu ein cyfarfod.
Gweithgorau
Rydym yn annog gweithgorau i lunio a pharhau eu gwaith gyda'i gilydd rhwng cyfarfodydd. Rydym yn cysylltu ac yn rhannu gydag eraill sydd â phwrpas tebyg.
Eisiau sefydlu tîm newid ar gyfer eich sefydliad? Y prosiect ensymau
Y cyd-destun
Mae Gwasanaeth Newid Diwylliant Llywodraeth Cymru (a elwid gynt yn Rhaglen Newid Ymddygiad Cynaliadwy) yn cefnogi newid ymddygiad cadarnhaol ar draws Llywodraeth Cymru yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Rydyn ni'n darparu ystod o adnoddau ac offer, ynghyd â lle a chaniatâd i gydweithwyr fyfyrio ar sut i weithio'n wahanol er mwyn annog arloesedd, newid diwylliant a gwella'n barhaus yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Y trosiad
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n symud o drosiad sy'n seiliedig ar 'gwilt clytwaith' i drosiad sy'n seiliedig ar 'fyceliwm' neu 'ecosystem' ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae manteision y trosiad newydd hwn yn cynnwys:
- ein bod ni'n gweld ein hunain fel rhan o'r myceliwm yn hytrach na rhywbeth y tu allan i'r clytwaith
- bod myceliwm yn system ddynamig fyw (sy'n rhywbeth unigol ac ar y cyd)
- y manteision ychwanegol sy'n gysylltiedig â defnyddio cyfatebiaeth sy'n seiliedig ar natur
- wrth i ensymau newid pethau o'u hamgylch, maen nhw eu hunain yn newid hefyd
Mae gan fyceliwm sawl rhan, gan gynnwys ensymau sy'n symud o le i le drwy'r myceliwm ac sy'n cael eu rhannu â'r pridd o'i amgylch. Mae'r ensymau hyn yn creu amddiffyniad i'r myceliwm ac yn helpu i ddarparu adnoddau, gwybodaeth, meddyginiaeth a maeth i'r ecosystem ehangach – coed, planhigion ac ati.
Y cynnig
Rydyn ni'n eich gwahodd i sefydlu timau trawsbynciol bach o unigolion o fewn eich corff cyhoeddus neu sefydliad arall. Mae gennym ddiddordeb mewn siarad ag unrhyw un ledled Cymru sydd â diddordeb mewn dyfnhau eu dealltwriaeth a'u defnydd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Efallai fod tîm o'r fath eisoes yn bodoli yn eich sefydliad neu efallai eich bod eisoes yn gweithredu fel rhan o'r myceliwm drwy rannu ac annog arferion da yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Hoffech chi nodi neu greu tîm trawsbynciol bach a all gael ei gefnogi gan y Prif Weithredwr (neu gyfwerth), ac a fydd yn cefnogi gwaith yr aelod hwnnw o staff yn eich sefydliad?
Os felly, rydyn ni'n gofyn ichi sefydlu'r strwythur symlaf posibl ar gyfer rhyngweithio rheolaidd:
- rhwng y tîm hwn a'ch Prif Weithredwr
- ymysg aelodau'r tîm hwn fel eu bod yn myfyrio gyda'i gilydd (yn amlach)
- rhwng un neu ddau aelod o'ch tîm a Gwasanaeth Newid Diwylliant Llywodraeth Cymru (bob mis)
Rydyn ni'n argymell eich bod yn defnyddio'r dulliau diweddaraf sy'n seiliedig ar arferion gorau ar gyfer cynnal cyfarfodydd, ond gallwch sefydlu eich strwythur a'ch prosesau eich hun mewn unrhyw ffordd sy'n addas i chi a'ch sefydliad.
Fe'ch cefnogir gan Wasanaeth Newid Diwylliant Llywodraeth Cymru drwy gyfarfodydd misol, a fydd yn rhoi gwybodaeth uniongyrchol am yr wyddoniaeth ddiweddaraf a chanllawiau syml ichi i gefnogi eich gweithgareddau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwerthuso'r prosiect hwn, byddai gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gennych chi.
Camau nesaf
Os oes unrhyw agwedd ar yr uchod yn swnio'n ddiddorol, waeth pa mor betrus ydych chi, anfonwch neges e-bost fer at Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru gan nodi'n gryno:
Cymunedau ymarfer
Dewiswch y gymdeithas, y grŵp, y tîm neu'r gymuned sy'n gweddu orau i'ch anghenion chi. Ddim yn gallu gweld yr hyn sydd ei angen arnoch chi? Ar ddiwrnod sy'n anghyfleus ichi? Cysylltwch â ni i weld beth arall sydd ar gael. I gael rhagor o fanylion neu i ymuno â chymuned benodol, cysylltwch â: Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru
Ymarfer anffurfiol rheolaidd i gefnogi eich llesiant a'ch gwaith
A oes angen rhywle arnoch chi i feithrin eich sgiliau sylfaenol neu i edrych ar ôl eich hun yn well? Os felly, rhowch gynnig ar ymuno â sesiynau Lle i Anadlu, sy'n cael eu cynnal yn rheolaidd ac yn rhad ac am ddim (bob dydd, wythnos neu fis) ar-lein. Saib Anadlu.
Dros Zoom, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:00am a 8:30am.
Rhwydwaith sefydliadau cefnogi (SON)
Rhwydwaith sy'n cael ei gynnull bob chwe mis gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gyda diweddariadau e-bost rhwng aelodau ar sail ad hoc.
Mae'r rhwydwaith hwn ar gyfer cynrychiolwyr sefydliadau sy'n cefnogi cyrff cyhoeddus neu Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, h.y. y rhai sy'n darparu hyfforddiant, adnoddau ac arbenigedd i gyrff cyhoeddus.
Ein nodau
- Lle i rannu'r hyn y mae pobl yn ei wneud a'r hyn y maent yn ei gynllunio.
- Cysylltu pobl a phrosiectau, ac annog cydweithio.
- Gweithio ar draws y sector mewn modd integredig, ac osgoi dyblygu diangen.
Sut
- Rhoi dull meddwl drwy systemau ar waith.
- Annog cysylltiadau a chydweithio.
- Integreiddio gwaith ac osgoi dyblygu diangen.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru: cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru
Cydgysylltwyr datblygu cynaliadwy Cymru a mwy (SDCC+)
Mae CDCC+ yn rhwydwaith annibynnol a chynhwysol sy'n cefnogi cyrff cyhoeddus yng Nghymru i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae'r rhwydwaith yn cynnig lle dibynadwy, cyfeillgar a diogel i bobl leisio ac archwilio syniadau newydd sy'n gysylltiedig â datblygu cynaliadwy.
Mae'n cynnig rhaglen ddysgu a rhannu, gan gynnwys sesiynau Cyfnewid Gwybodaeth Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae CDCC+ wedi sefydlu fel rhwydwaith cadarn i gynghori ac i herio Llywodraeth Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, a Cynnal Cymru, ac i gydweithio â'r sefydliadau hyn.
Hwylusir ymgysylltu drwy gyfarfodydd, gweithdai a seminarau wyneb yn wyneb ac ar-lein, gwefan bwrpasol, a sianel Teams. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: www.sdccplus.org.uk
Cymuned gwelliant parhaus cymru gyfan (AWCIC)
Mae'r gymuned hon ar gyfer ymarferwyr gwelliant parhaus sy'n gweithio ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gallwch ymuno ag AWCIC drwy fynd i'r adran Rhwydweithiau ar wefan Academi Wales lle gallwch gael gafael ar wybodaeth am welliant parhaus, gan gynnwys offer, technegau a deunyddiau diweddar.
Rhaid ichi gael cyfrif Academi Wales a bod wedi mewngofnodi i'r cyfrif hwnnw i allu ymuno â'r rhwydwaith hwn. Dylech hefyd danysgrifio i'r bwletin wythnosol i gael diweddariadau rheolaidd. Rydyn ni’n:
- Cysylltu pobl sydd â sylfaen wybodaeth eang o dechnegau gwelliant parhaus, ac sy'n gwneud yr un math o waith, yn wynebu'r un problemau ac yn dathlu'r un llwyddiannau â chi.
- Cryfhau cysylltiadau rhwng gwasanaethau cyhoeddus – gan wneud cysylltiadau ar draws ystod o sefydliadau a defnyddio gwybodaeth a phrofiad ein gilydd.
- Dysgu gyda'n gilydd drwy astudiaethau achos a digwyddiadau.
- Dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ar brosiectau gydag ymarferwyr mewn sefydliadau eraill.
- Newid y ffordd rydyn ni’n gweithio drwy ddefnyddio dysgu ar y cyd i lywio'r gwaith o wneud penderfyniadau.
- Dylanwadu ar newid a'r gwaith o lunio polisïau drwy ddefnyddio data a phrofiadau o'n cymuned.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch ag AcademiWales@llyw.cymru
Arferion tosturiol
A oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio beth sy'n atal ac yn galluogi tosturi i ffynnu? Mae hyfforddiant a chymorth am ddim ar y camau ymarferol sy'n ofynnol i ehangu'r defnydd o arferion tosturiol ar gael drwy Compassion Practices Collaborative.
Mae amseroedd amrywiol ar gael ar-lein a wyneb yn wyneb. Cofrestrwch i gael manylion drwy e-bost.
Creadigrwydd, Bioamrywiaeth a Newid Ymddygiad
Un o'n cylchoedd mwyaf sefydlog – Biodiversity4Cymru oedd yr enw’n wreiddiol. Mae croeso i artistiaid, ecolegwyr, ymgyrchwyr a gweithredwyr polisi a phawb arall sydd â diddordeb yn y cysylltiadau rhwng creadigrwydd, bioamrywiaeth a sut y gall ein cysylltiadau â'r rhain greu newid mewn diwylliant.
Rydyn ni’n cwrdd bob mis ar MS Teams, rhwng 4pm a 5pm ar ddydd Mercher.
Cynghrair egino / the Edgy Alliance
Cynghrair Egino (egin gynghrair) yw elfen graidd Cynghrair Seicoleg Hinsawdd Cymru. Rydyn ni’n rhannu dysgu â'n gilydd ac mae gennym aelodaeth sy'n gorgyffwrdd. Nid oes rhaid ichi fod yn aelod o'r naill i ymuno â'r llall.
Mae'r egin gynghrair yn rhwydwaith o unigolion sydd, mewn amrywiol ffyrdd, yn cefnogi pobl, sefydliadau a chymunedau drwy heriau emosiynol a seicolegol argyfyngau Brexit, Covid, cymdeithasol, economaidd, hinsawdd a bioamrywiaeth. Rydyn ni’n gymysgedd o seicolegwyr hyfforddedig, seicotherapyddion, cynghorwyr, hwyluswyr (y Gwaith sy'n Ailgysylltu, Caffis Marwolaeth, i enwi dim ond rhai), siaman dan hyfforddiant, dŵlas diwedd oes a phobl sy'n arddel ffydd.
Rydyn ni’n cyfarfod unwaith y mis dros Zoom i rannu cynnydd a dysgu, a datblygu syniadau a gwasanaethau newydd.
Grŵp cymorth dad-drefedigaethu
Grŵp sy'n cefnogi'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a pholisïau cydraddoldeb a chynhwysiant ehangach. Rydyn ni’n cwrdd i ddeall yn well sut y gallwn ddad-drefedigaethu asedau, ymddygiadau ac arferion gwaith Cymru. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn darparu cefnogaeth, fel bod y rhai sy'n dymuno gwneud hynny yn gallu recordio a lanlwytho straeon i wefan Casgliad y Werin.
Gallwch gofrestru ar gyfer sesiynau misol naill ai rhwng 3pm a 4pm ar ddydd Iau neu rhwng 10am ac 11am ar ddydd Gwener, neu ddod i'r ddau os oes angen cefnogaeth fwy rheolaidd arnoch. Gallwch ddod â chwestiynau i sesiynau penodol neu dim ond dod i wrando.
Cyflawni sero net
Gan adeiladu ar y gymuned ymarfer hynod lwyddiannus sydd eisoes yn cefnogi gweithredwyr allweddol sy'n gweithio ar heriau i ddatgarboneiddio cartrefi Cymru, rydyn ni’n ehangu ac yn dyfnhau ein harferion i ddysgu oddi wrth ein gilydd a gwneud pethau'n well. Mae gennym rwydwaith cynyddol o Gymunedau Ymarfer. Mae amrywiaeth o gyfleoedd, yn amrywio o ddod â Phrif Weithredwyr at ei gilydd, i weithio gyda chymunedau, i gydweithio mewn ardaloedd lleol a dysgu gan gymheiriaid a mwy. Mae hwyluswyr sy’n gymheiriaid yn cefnogi'r grwpiau i fwrw ati.
Llywodraethu a chraffu
Mae rôl aelodau ac ymddiriedolwyr anweithredol y bwrdd yn hanfodol wrth gefnogi (neu danseilio) y ffordd y mae sefydliad yn cynnal ei hun, y diwylliant y mae'n ei greu ac i ba raddau y mae'n gwella llesiant yn ei ystyr ehangaf.
Mae gan bob aelod o'r bwrdd ei daith bersonol ei hun i ddeall yr hyn sy'n ofynnol ganddo.
Mae'r grŵp hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau archwilio sut y gallwn wneud i ddysgu gweithredol weithio ar gyfer llywodraethu.
Datgarboneiddio tai
Rydyn ni’n cefnogi gweithredwyr allweddol sy'n gweithio ar heriau i ddatgarboneiddio cartrefi Cymru i ddysgu oddi wrth ei gilydd a gwneud pethau'n well.
Mae gennym saith grŵp gwahanol a hwylusir sy'n cyfarfod yn rheolaidd, o ddinasyddion i brif weithredwyr i arbenigwyr technegol. Mae gennym hefyd gylch hwyluswyr ar gyfer y rhai sy'n cefnogi'r grwpiau hyn.
Asesiadau effaith
Mae llawer o gyrff cyhoeddus wedi manteisio ar y dull integredig o weithio o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol i gyfuno gwahanol asesiadau effeithiau mewn un lle, naill ai ar bapur neu drwy grwpiau trafod. Mae'r grŵp hwn yn cyfarfod i rannu a dysgu mwy am sut y gallwn wella asesiadau effaith. Rydyn ni’n archwilio;
- Sut olwg sydd ar yr arfer o asesu effaith yn ein sefydliadau?
- Sut y gall asesiad effaith integredig gefnogi’r broses o weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol?
- Sut y gallwn gefnogi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac eraill yn eu gwaith i gynhyrchu canllawiau ar y cyd ar asesiadau effaith integredig?
Ymarfer y bobl
Fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, fe wnaethom gynhyrchu canllawiau ar gyfer creu Ymarfer y Bobl, er mwyn helpu i gynyddu gweithredu ymarferol yn lleol.
Mae amrywiaeth o grwpiau tebyg yn weithredol yng Nghymru, gan gynnwys Cynghorau Cymuned, Trefi Trawsnewid, Caffis Trwsio, cadernid Bwyd Lleol, Ynni Adnewyddadwy Cymunedol, Cyfranddaliadau Trafnidiaeth, Llyfrgell Pethau ac eraill.
Mae'r grŵp hwn ar gyfer unrhyw un sy'n dod â grŵp lleol o bobl ynghyd i hwyluso ymatebion ymarferol lleol i heriau hinsawdd ac ecolegol. Nid oes agenda i’r cyfarfodydd ac maent yn rhai myfyriol. Gallwch hyd yn oed ddweud dim byd a dim ond sylwi ar sut rydych chi'n teimlo. Mae'n gyfle da i rannu a dysgu gan eraill a sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Rydyn ni’n cyfarfod bob mis dros Zoom, rhwng 4pm a 5pm ar ddydd Mercher.
Rhyfelwyr anniben / Shambolic warriors
Rydyn ni’n bobl sy'n awyddus i weithio'n wahanol i fod yn fwy cydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Rydyn ni am ymateb i'r heriau cymhleth sy'n ein hwynebu nid yn unig fel sector cyhoeddus ond fel cymdeithas. Mae croeso i bawb!
Mae cysyniad y grŵp yn seiliedig ar Broffwydoliaeth Rhyfelwyr Shambhala.
Mae rhai aelodau o'r grŵp yn cwrdd dros Zoom, rhwng 12pm ac 1pm ar ddydd Gwener olaf y mis, tra mae aelodau eraill yn cwrdd dros MS Teams, rhwng 3pm a 4pm ar ddydd Mercher cyntaf y mis.
Hawlfraint
© Hawlfraint y Goron 2024: Ac eithrio'r eitemau a nodir yn y testun, gellir ail-ddefnyddio'r deunydd hwn yn rhydd o dan Drwydded Llywodraeth Agored 3.0. Gweler y manylion ar: http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/. Er mwyn rhoi adborth neu ymholiadau, cysylltwch â: Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru
Am adborth neu ymholiadau, cysylltwch â: Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru.
Cydnabyddiaethau
Mae'r canllaw hwn wedi 'i gynllunio gyda mewnbwn hael gan ystod eang o bobl gan gynnwys.
Compassion Practices Collective.
Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch | Bangor University ac Ymwybyddiaeth Ofalgar Cymru
Y Presencing Institute ac u-Lab
Pob prifysgol yng Nghymru.
Timau Arferion y Bobl a chylchoedd cymdeithas sifil eraill ledled Gymru
Cannoedd o weision sifil Llywodraeth Cymru a'u rhanddeiliaid.
Hoffwn ni ddiolch i bawb am eu holl syniadau, gwaith caled, mewnwelediadau ac awgrymiadau.
