Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am weithgarwch adeiladu tai newydd yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol 2022-2023 ac effaith y gweithgarwch hwnnw ar y stoc anheddau. Ymdrinnir â’r anheddau newydd a ddechreuwyd (lle bo’r gwaith adeiladu wedi dechrau) ac â’r anheddau newydd a gwblhawyd (lle bo’r gwaith adeiladu wedi’i orffen a’r adeilad yn barod ar gyfer ei feddiannu).  Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn defnyddio’r wybodaeth am y gwaith adeiladu tai newydd i asesu lefel y cyflenwad tai yng Nghymru.

Mae’r wybodaeth yn y datganiad hwn yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC), sy’n Arolygydd Preifat Cymeradwy (PAI). Ceir yn y datganiad hwn wybodaeth gan PAIs eraill, sy’n golygu bod cyfanswm yr anheddau a ddechreuwyd ac a gwblhawyd wedi’i dan gyfrif o ryw ychydig. Rydym wrthi’n ystyried sut i wella ansawdd y data am y tai newydd a adeiladwyd.

Prif bwyntiau

  • Yn 2022-23, dechreuwyd adeiladu 4,556 o anheddau newydd, 19% yn llai nag yn 2021-22
  • Yn yr un cyfnod, cwblhawyd 5,785 o anheddau newydd, 10% yn fwy nag yn y flwyddyn cynt.
  • O’r 5,785 o anheddau a gwblhawyd, y sector preifat oedd yn gyfrifol am 79% ohonynt,  Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig am 17% ac awdurdodau lleol am 3%.
  • Roedd 37% o’r anheddau a gwblhawyd yn gartrefi 3 stafell wely a 26% yn gartrefi â 4 stafell wely neu fwy.

Ffigur 1: Nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy’n dangos bod nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd rhwng 2013-14 a 2022-23 wedi pendilio’n fras rhwng 4,000 a 7,000, gan daro’r uchaf rhwng 2014-15 a 2017-18.

Ffynhonnell: arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a data’r NHBC

Anheddau newydd a ddechreuwyd yn ôl cyfnod a deiliadaeth (StatsCymru)

Anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl cyfnod a deiliadaeth (StatsCymru)

Anheddau a ddechreuwyd gan awdurdodau lleol

Yn 2022-23, dechreuwyd 4,556 o anheddau newydd, 19% yn llai nag yn y flwyddyn cynt (2021-22) a’r ffigur isaf ond un ers 2013-14. Cofnodwyd y ffigur isaf (4.314) yn 2020-21, blwyddyn yr effeithiwyd yn drwm arni gan bandemig y coronafeirws.

Yn ôl yr Amcangyfrifon o'r stoc anheddau 2020, mae nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd yn 2022-23 yn cyfateb i 3 annedd newydd am bob 1,000 annedd sy’n bod.

Ffigur 2: Nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd am bob 1,000 annedd sy’n bod yn ôl awdurdod lleol, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Map yn dangos nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd am bob 1,000 annedd sy’n bod. Mae’r ffigurau ar gyfer rhannau dwyreiniol y wlad yn tueddu i fod yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig o 3.

Ffynhonnell: arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a data’r NHBC

Anheddau newydd a ddechreuwyd yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o annedd (StatsCymru)

Ar lefel awdurdod lleol, amrywiai nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd o 50 ym Merthyr Tudful (yn cyfateb i gwblhau 2 annedd newydd am bob 1,000 o anheddau sy’n bod) i 494 yng Nghaerdydd (yn cyfateb i gwblhau 3 annedd newydd am bob 1,000 o anheddau sy’n bod).

Mae cyfradd dechrau anheddau newydd am bob 1,000 o anheddau sy’n bod yn amrywio o 1 yng Nghonwy a Chastell-nedd Port Talbot (lle dechreuwyd 64 ac 83 o anheddau newydd yn y drefn honno) i 6 yn Sir Fynwy, Bro Morgannwg a Chasnewydd (lle dechreuwyd 247, 343 as 426 o anheddau newydd yn y drefn honno).

Anheddau a gwblhawyd yn ôl awdurdod lleol

Yn 2022-23, cwblhawyd 5,785 o anheddau newydd. Roedd hyn 10% yn fwy nag yn 2021-22 ac yn debyg i’r ffigurau cyn y pandemig (6,037 yn 2019-22).

Yn ôl yr Amcangyfrifon o'r stoc anheddau 2020, mae nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn 2022-23 yn cyfateb i 4 annedd newydd am bob 1,000 annedd sy’n bod.

Ffigur 3: Nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd am bob 1,000 annedd sy’n bod yn ôl awdurdod lleol, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r map yn dangos bod nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd am bob 1,000 annedd sy’n bod ar ei uchaf yn y De-ddwyrain.

Ffynhonnell: arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a data’r NHBC

Anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl ardal, y math o annedd a nifer yr ystafelloedd gwely (StatsCymru)

Ar lefel awdurdod lleol, amrywiai nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd o 50 ym Merthyr Tudful (yn cyfateb i gwblhau 2 annedd newydd am bob 1,000 o anheddau sy’n bod) i 939 yng Nghaerdydd (yn cyfateb i gwblhau 6 annedd newydd am bob 1,000 o anheddau sy’n bod).

Mae cyfradd cwblhau anheddau newydd am bob 1,000 o anheddau sy’n bod yn amrywio o 1 yng Nghastell-nedd Port Talbot a Gwynedd (lle cwblhawyd 66 a 74 o anheddau newydd yn y drefn honno) i 7 yn Sir Fynwy, Bro Morgannwg a Chasnewydd (lle cwblhawyd 315, 428 a 460 o anheddau newydd yn y drefn honno).

Anheddau a gwblhawyd yn ôl deiliadaeth

Nid yw’n bosib bob tro i swyddogion rheoli adeiladau na’r NHBC allu dweud beth fydd deiliadaeth cartref yn y pen draw. Bryd hynny, mae’n debygol y caiff ei chofnodi fel deiliadaeth breifat, a allai o bosib arwain at or gyfrif yr anheddau yn y sector preifat a than gyfrif yr anheddau yn y sector cymdeithasol. Am hynny, dylid gochel dadansoddiadau o’r ddeiliadaeth. 

Yn 2022-23, y sector preifat (79%) oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a gwblhawyd, gyda’r sector cymdeithasol yn cyfrif am gyfran llai (21%). Roedd cyfran yr anheddau a gwblhawyd gan y sector cymdeithasol yn uwch na’r flwyddyn cynt (17% yn 2021-22) ond yn is na dwy flynedd yn ôl (26% yn 2020-21).

Yn 2022-23, roedd awdurdodau lleol yn gyfrifol am gwblhau 193 o anheddau newydd (3% o’r cyfanswm a gwblhawyd). Dyma’r cyfran uchaf a gofnodwyd yn y 10 mlynedd diwethaf, gyda chofnodi’r gyfran uchaf ond un (2%) yn 2020-21.

Tabl 1: Nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl awdurdod lleol a deiliadaeth, 2022-23
  Sector preifat  RSL Awdurdod lleol  Pob deiliad-aeth
Ynys Môn 115 55 36 206
Gwynedd 74 0 0 74
Conwy 212 24 0 236
Sir Ddinbych  153 26 0 179
Sir y Fflint  230 40 0 270
Wrecsam 186 2 13 201
Powys 214 19 39 272
Ceredigion  183 12 0 195
Sir Benfro  152 12 0 164
Sir Gaerfyrddin  244 66 60 370
Abertawe  133 131 26 290
C-nedd Port Talbot 43 23 0 66
Pen-y-bont ar Ogwr 194 47 1 242
Bro Morgannwg  367 61 0 428
Caerdydd  825 114 0 939
Rhondda Cynon Taf 147 56 0 203
Merthyr Tudful  33 17 0 50
Caerffili  162 177 18 357
Blaenau Gwent 105 14 0 119
Tor-faen 132 17 0 149
Sir Fynwy  288 27 0 315
Casnewydd  390 70 0 460
Cymru  4,582 1,010 193 5,785

Disgrifiad o Dabl 1: Tabl o’r anheddau newydd a gwblhawyd, yn ôl awdurdod lleol a deiliadaeth, sy’n dangos mai’r sector cyhoeddus oedd yn gyfrifol am dros hanner yr anheddau newydd a gwblhawyd yn 20 o 22 awdurdod lleol.

Ffynhonnell: arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a data’r NHBC

Anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl ardal, y math o annedd a nifer yr ystafelloedd gwely (StatsCymru)

Ar lefel awdurdod lleol, amrywiai canran yr anheddau newydd a gwblhawyd yr oedd y sector preifat yn gyfrifol amdanynt o 45% yng Nghaerffili (lle y sector preifat oedd yn gyfrifol am 162 o’r 357 o anheddau a gwblhawyd) i 100% yng Ngwynedd (lle y sector preifat oedd yn gyfrifol am bob un o’r 74 o’r anheddau a gwblhawyd). 

Yn y sector cymdeithasol, gwelwyd y nifer fwyaf a gwblhawyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghaerffili, Abertawe a Chaerdydd (177, 131 a 114 o anheddau a gwblhawyd, sef 42% o’r holl anheddau a gwblhawyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) a gwelwyd y mwyafrif yr oedd awdurdodau lleol yn gyfrifol amdanynt yn Sir Gaerfyrddin, Powys ac Ynys Môn (60, 39 a 36 o anheddau a gwblhawyd, sef 70% o’r holl anheddau a gwblhawyd gan awdurdodau lleol).

Anheddau a gwblhawyd, yn ôl math o annedd ac ystafelloedd gwely

Yn 2022-23, roedd y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a gwblhawyd yn dai neu fyngalos (81%). Roedd cyfran llai yn fflatiau (19%). Ers 2013-14, mae cyfran yr anheddau a gwblhawyd oedd yn dai neu fyngalos wedi amrywio o 75% i 82%.

Yn y flwyddyn ddiweddaraf, roedd 37% o’r anheddau newydd a gwblhawyd yn gartrefi 3 ystafell wely a 26% yn gartrefi 4 ystafell wely neu fwy. Mae gwasgariad yr anheddau yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely wedi aros yn gymharol sefydlog yn y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r sector preifat fel arfer wedi canolbwyntio ar ddarparu cartrefi mwy (yn 2022-23, roedd 74% o’r anheddau’r sector preifat a gwblhawyd â 3 ystafell wely neu fwy) ac mae’r sector cymdeithasol wedi canolbwyntio ar ddarparu cartrefi llai (yn yr un flwyddyn, dim ond 1 neu 2 ystafell wely oedd yn 79% o’r anheddau a gwblhawyd gan y sector cymdeithasol).

Mae’r amcanestyniadau aelwydydd (StastCymru) diweddaraf yn awgrymu y bydd nifer yr aelwydydd 1 a 2 berson yn cynyddu yn y 25 mlynedd nesaf ac y bydd nifer yr aelwydydd 4 a 5 person yn aros yn gymharol sefydlog.

Anheddau a gwblhawyd ledled y DU

Mae patrymau adeiladu tai newydd wedi dilyn tuedd debyg ledled y DU, gyda chynnydd yn y pedair gwlad rhwng 2013-14 a 2018-19. Yn 2019-20 a 2020-21, adeiladwyd llai o dai newydd wrth i bandemig y coronofeirws (COVID-19) daro’r diwydiant adeiladu. Yn 2021-22, gwelwyd cynnydd yn y gweithgarwch adeiladu tai newydd yn y pedair gwlad, gan gyrraedd lefelau tebyg i’r rheini cyn y pandemig.

Tabl 2: Nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl gwlad a blwyddyn, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1]
  Lloegr  Cymru  Yr Alban  Gogledd Iwerddon
2013-14 112,330 5,840 15,140 5,320
2014-15 124,640 6,170 16,750 5,500
2015-16 139,710 6,900 16,850 5,810
2016-17 147,520 6,830 17,140 6,460
2017-18 160,910 6,660 17,560 7,100
2018-19 169,060 5,780 21,270 7,810
2019-20 175,330 6,040 22,120 7,310
2020-21 154,630 4,620 15,750 6,450
2021-22 171,200 5,270 21,580 7,290
2022-23   5,790 23,510 6,420

Disgrifiad o Dabl 2: Tabl yn dangos bod nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn amrywio yn ôl gwlad rhwng 2013-14 a 2022-23. Disgrifir y duedd yn y testun uchod.

Ffynhonnell yn ôl gwlad:

Lloegr: Ffurflenni adeiladu newydd awdurdodau lleol, data’r NHBC a data arolygwyr cymeradwy;

Cymru: Arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a data’r NHBC;

Yr Alban: Ffurflenni adeiladu newydd awdurdodau lleol a Rhaglen Cyflenwad Tai Fforddiadwy Llywodraeth yr Alban;

Gogledd Iwerddon: Adrannau Rheoli Adeiladu’r Cynghorau Dosbarth

[Nodyn 1] Adeg cyhoeddi hwn, dim ond data Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon oedd ar gael ar gyfer 2022-23.

Adeiladu tai newydd yn Lloegr (Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau)

Adeiladu tai newydd (Llywodraeth Cymru)

Adeiladu tai newydd yn yr Alban (Llywodraeth yr Alban)

Adeiladu tai newydd yng Ngogledd Iwerddon (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon)

Ffigur 4: Nifer wedi’i fynegeio o anheddau newydd a gwblhawyd ledled y DU (2013-14 = 100) [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell sy’n dangos sut mae niferoedd y tai adeiladwyd yng ngwledydd y DU wedi amrywio ers 2013-14. Disgrifir y duedd isod.

[Nodyn 1] Mae gwir nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn amrywio’n fawr. Mae’r data yn y siart wedi’u mynegeio, gyda 2013-14 yn cael ei defnyddio fel blwyddyn sylfaen ac wedi’i gosod ar 100, er mwyn sicrhau bod modd cymharu graddfa.

[Nodyn 2] Adeg cyhoeddi hwn, dim ond data Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon oedd ar gael ar gyfer 2022-23.

Ffynonellau yn ôl gwlad:

Lloegr: Ffurflenni adeiladu newydd awdurdodau lleol, data’r NHBC a data arolygwyr cymeradwy;

Cymru: Arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a data’r NHBC;

Yr Alban: Ffurflenni adeiladu newydd awdurdodau lleol a Rhaglen Cyflenwad Tai Fforddiadwy Llywodraeth yr Alban;

Gogledd Iwerddon: Adrannau Rheoli Adeiladu’r Cynghorau Dosbarth

Adeiladu tai newydd yn Lloegr (Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau)

Adeiladu tai newydd (Llywodraeth Cymru)

Adeiladu tai newydd yn yr Alban (Llywodraeth yr Alban)

Adeiladu tai newydd yng Ngogledd Iwerddon (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon)

Mae Ffigur 4 yn dangos y bu cynnydd cyffredinol yn y tai newydd a adeiladwyd ledled y DU rhwng 2013-14 a 2015-16. O’i chymharu â’r flwyddyn gyfeirio (2013-14), gwelwyd y gweithgarwch adeiladu tai yng Nghymru yn dechrau dirywio yn 2016-17, ac yna yng Ngogledd Iwerddon yn 2019-20. Mae gweithgarwch adeiladu tai newydd yn dirywio yn y DU gyfan o 2020-21, pan ddaeth effeithiau’r pandemig yn amlwg, ond gwelwyd cynnydd yn y pedair gwlad yn 2021-22.

Y cyd-destun ehangach

Mae’r Amcangyfrif o'r stoc anheddau yn dangos, ar 31 Mawrth 2020, yr amcangyfrifir bod 1.4 miliwn o anheddau yng Nghymru, 5% yn fwy nag ym mis Mawrth 2010. Yn y 10 mlynedd ddiwethaf, mae canran rhaniad yr anheddau rhwng y sector preifat a’r sector cymdeithasol wedi aros yn sefydlog (gydag 84% o’r anheddau yn y sector preifat a’r 15% sy’n weddill yn perthyn i’r sector cymdeithasol). Yn y sector preifat, mae canran yr anheddau rhentu preifat wedi cynyddu o 12% yn 2010 i 14% yn 2020. Yn y cyfamser, yn y sector cymdeithasol, oherwydd trosglwyddo’r stoc awdurdodau lleol rhwng 2008 a 2011, mae canran yr anheddau sy’n cael eu rhentu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi cynyddu o 8% i 10%.

Mae’r data diweddaraf o Gyfrifiad 2021 (SYG) yn dangos bod yna ryw 1.5 miliwn o anheddai yng Nghymru ym mis Mawrth 2021. O’r anheddau dan feddiant yng Nghymru, roedd 66.4% yn eiddo (naill ai’n eiddo llwyr, gyda morgais neu fenthyciad neu ranberchenogaeth), 17% yn anheddau rhent preifat ac 16% ar rent gymdeithasol.

Yn 2020, cyhoeddwyd diweddariad o’r Amcangyfrifon o’r angen am dai. Mae’r amcangyfrifon hyn yn rhoi ystod i ni o’r angen am unedau tai ychwanegol, ar sail tueddiadau’r gorffennol a’r data gorau sydd ar gael. Nid ydynt yn dargedau. Disgwylir cyhoeddi diweddariad o’r amcangyfrifon yn 2024.

Mae nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir trwy waith adeiladu newydd, prynu, caffael, lesio neu gadwraeth yn cael eu cyhoeddi yn y datganiad blynyddol Darpariaeth tai fforddiadwy.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Cenedlaethol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig (UKSA) wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (UKSA).

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan fodlonir y safonau.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol yn 2012 yn dilyn asesiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR).

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Cynnwys cymharu ystadegau adeiladu tai newydd â gwledydd eraill y DU
  • Parhau i chwilio sut y gallai setiau data gweinyddol ein helpu i ddeall y gwaith adeiladu tai newydd. Bwriadwn gyhoeddi’n canfyddiadau yn 2024.
  • Mae tudalen ystadegau adeiladu tai newydd yn cynnwys dolenni i’r adroddiad casglu data ac Ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae’r datganiad yn cynnwys un dangosydd cyd-destunol, sef ‘(31) Canran yr anheddau sydd heb beryglon’. Cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad llesiant yn y ddolen flaenorol.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 61/2023

Image
Ystadegau Gwladol