Neidio i'r prif gynnwy

Rhydd yr adroddiad hon amcangyfrifon sy'n seiliedig ar 2019 o'r angen cyffredinol am dai ychwanegol yng Nghymru.

Mae'r ffigurau hyn yn ddiweddariad ar yr amcangyfrifon sail-2018 o'r angen am dai ychwanegol a gyhoeddwyd yn 2019.

Mae amcangyfrifon o'r angen am dai yn chwarae rhan allweddol wrth flaengynllunio ar lefel genedlaethol a lefel ranbarthol a chânt eu defnyddio i lywio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a datblygu polisi tai. 

Cefndir

Mae'r ffigurau yn ymwneud â'r angen am dai ychwanegol ac maent yn seiliedig ar:

  • amcangyfrifon o angen presennol nas diwallwyd
  • angen newydd (amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2018)

Nid rhagolygon mo amcanestyniadau aelwydydd, maent yn seiliedig ar dueddiadau blaenorol yn unig ac yn tybio y bydd y tueddiadau hyn yn parhau yn y dyfodol. Yn arbennig, nid yw'r fath amcanestyniadau yn ceisio cyfrif am effaith polisïau yn y dyfodol (er enghraifft, polisïau a allai geisio dylanwadu ar symudiadau poblogaeth) a digwyddiadau.

Mae'r amcangyfrifon yn cael eu cyflwyno ar lefel genedlaethol ac ar gyfer pedwar rhanbarth:

  • gogledd Cymru
  • canolbarth Cymru
  • de orllewin Cymru
  • de ddwyrain Cymru

Caiff yr amcangyfrifon o'r angen am dai ychwanegol eu rhannu'n ddwy ddeiliadaeth:

  • tai'r farchnad (perchennog ddeiliad a'r sector rhentu preifat)
  • tai fforddiadwy (rhenti canolradd a chymdeithasol)

Mae'r rhaniad fesul deiliadaeth wedi cael ei gynhyrchu am y 5 mlynedd gyntaf o amcangyfrifon ac mae'n seiliedig ar gyfres o dybiaethau (yn cynnwys twf incwm cartrefi yn y dyfodol a’r newid i brisiau rhent preifat yn y dyfodol).

Nid yw'r amcangyfrifon yn ystyried effaith y coronafeirws (COVID-19), gan fod cryn ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch effeithiau o'r fath.

Canlyniadau allweddol

Yn ystod y 5 mlynedd cyntaf (2019/20 i 2023/24), amcangyfrifir y bydd angen rhwng 6,200 a 8,300 o unedau tai ychwanegol bob blwyddyn, gydag amcangyfrif canolog o 7,400. Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys cyfartaledd blynyddol o 1,100 o unedau tai ychwanegol i glirio'r rhai sydd mewn angen nas diwallwyd yn ystod y 5 mlynedd cyntaf.

Mae'r amcangyfrifon o'r angen ychwanegol am dai yn gostwng dros y 15 mlynedd sy'n weddill. Mae hyn yn adlewyrchu arafwch yn y twf rhagamcanol yn yr aelwydydd yn yr amcanestyniadau aelwydydd sy'n seiliedig ar 2018.

O dan yr amcangyfrif canolog, caiff yr amcangyfrif blynyddol ychwanegol o'r angen am dai o 7,400 ei rannu'n 3,900 o unedau tai marchnad ychwanegol (52% o'r angen ychwanegol am dai) a 3,500 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol (48% o'r angen ychwanegol am dai) dros y pum mlynedd nesaf (2019/20 i 2023/24).

Cyfyngiadau

Mae'r Amcangyfrifon hyn yn:

  • darparu amrywiaeth o angen am dai ychwanegol yn seiliedig ar dueddiadau blaenorol a'r data gorau sydd ar gael
  • amcangyfrif sut y gallai'r angen am dai gael ei rannu yn ôl deiliadaeth ar sail set o dybiaethau
  • defnyddio'r ffynonellau data gorau sydd ar gael yn y tybiaethau sylfaenol fel y cytunwyd arnynt gan grŵp arbenigol
  • ffurfio sail trafodaeth ar gyfer penderfyniadau polisi.

Nid yw’r Amcangyfrifon hyn yn:

  • gallu darogan beth yn union sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol
  • ceisio amcangyfrif nifer yr aelwydydd mewn llety anaddas
  • ffordd o bennu targed tai yng Nghymru.

Gwybododaeth ychwanegol

Ategir yr erthygl ystadegol hon gan ddata a gyhoeddir ar StatsCymru yn ogystal ag adnodd Excel lle gellir newid yr holl ffynonellau data a rhagdybiaethau sylfaenol i arsylwi ar yr effaith ar yr amcangyfrifon o unedau tai ychwanegol wedi'u rhannu yn ôl deiliadaeth. Mae'r ddolen i'r adnodd Excel ar gael o dan y pennawd Data isod.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion a'r prosesau yn arwain at gynhyrchu'r ystadegau hyn yn yr adroddiad ansawdd.

Adroddiadau

Amcangyfrifon o'r angen ychwanegol am dai: sail 2019) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Amcangyfrifon o’r angen am dai (sail-2019): adnodd Excel , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 2 MB

XLSX
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.