Adolygiad gweinidogol o gyfleoedd chwarae: o uchelgais i weithredu (Mai 2026)
Adroddiad terfynol i ddangos tystiolaeth o'r camau a gymerwyd mewn ymateb i argymhellion yr adolygiad gweinidogol o gyfleoedd chwarae.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ers deddfu o blaid chwarae i blant fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, rhwng 2019 a 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad manwl a chydweithredol o'i gwaith ar y polisi chwarae ac ystyriodd y cynnydd a wnaed i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â chwarae.
Gwnaeth Adroddiad Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae argymhellion allweddol, gan awgrymu cerrig milltir i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth adeiladu ar y cynnydd a wnaed i fod yn wlad lle mae cyfle i chwarae, sy'n rhoi cyfleoedd digonol i blant a phobl ifanc chwarae.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ac amlinellodd y camau gweithredu i'w cymryd er mwyn cyflawni canlyniadau disgwyliedig y Grŵp Llywio. Yn yr ymateb, amlinellwyd 67 o gamau gweithredu gydag amserlenni tymor byr, tymor canolig a hirdymor.
Ym mis Chwefror 2025, cyhoeddwyd adroddiad cynnydd, a ddangosodd fod yr holl gamau gweithredu tymor byr wedi'u cwblhau ac a ymrwymodd i adrodd ar gynnydd y camau gweithredu tymor canolig a hirdymor a oedd yn weddill.
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r 19 cam gweithredu sy'n weddill o'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae rhwng mis Chwefror 2025 a mis Mai 2026 a chamau gweithredu i'w rhoi ar waith ar ôl mis Mai 2026.
| Cyfanswm y camau gweithredu a gwblhawyd ac sy'n rhan o waith parhaus | Camau gweithredu i'w rhoi ar waith | |
|---|---|---|
| Camau gweithredu tymor byr | 34 | 0 |
| Camau gweithredu tymor canolig | 14 | 1 |
| Camau gweithredu hirdymor | 10 | 8 |
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac enghreifftiau o'r gweithgarwch parhaus sy'n gysylltiedig â'r camau gweithredu hyn, gan gydnabod bod ymwreiddio chwarae ar draws y llywodraeth ac ystod eang o feysydd polisi yn gofyn am ymrwymiad a chydweithio di-dor. Mae creu a chynnal cyfleoedd i chwarae yn broses barhaus yn hytrach na set ar wahân o gamau gweithredu.
Taith y polisi chwarae
Er mwyn sicrhau'r canlyniadau i blant y mae chwarae yn eu cynnig, aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati ar y cyd â sefydliadau rhanddeiliaid i greu'r Polisi Chwarae yn 2002.
Yn 2004, mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn ffurfiol fel y sail dros ei phrosesau llunio polisïau a oedd yn ymwneud â phlant ac ymrwymodd i wireddu egwyddorion CCUHP i bob plentyn a pherson ifanc. Mae Erthygl 31 yn sefydlu hawl y plentyn i orffwys, cael amser hamdden, chwarae a mwynhau gweithgareddau hamdden, ynghyd â chymryd rhan lawn mewn bywyd diwylliannol ac artistig.
Yn 2006, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Chwarae yng Nghymru’, ei Chynllun Gweithredu Polisi Chwarae. Nododd y cynllun sut y byddai'r egwyddorion a amlinellwyd yn y Polisi Chwarae yn cael eu rhoi ar waith.
Cafodd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 Gydsyniad Brenhinol, gan ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol yng Nghymru asesu a sicrhau digon o gyfleoedd i blant chwarae yn eu hardal.
Yn 2014, nododd Llywodraeth Cymru'r weledigaeth ar gyfer chwarae i blant yng Nghymru gan gyhoeddi 'Cymru: Gwlad lle mae Cyfle i Chwarae', sef canllawiau statudol i awdurdodau lleol.
Rhwng 2019 a 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad manwl a chydweithredol o'i gwaith ar y polisi chwarae ac ystyriodd y cynnydd a wnaed i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â chwarae. Cafodd yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae: papur cefndir a'r Adolygiad gweinidogol o gyfleoedd chwarae: adroddiad terfynol eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried.
Ym mis Hydref 2023, ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r argymhellion o'r adolygiad yn yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae: Ymateb i argymhellion y Grŵp Llywio (23 Hydref 2023). Nodwyd cyfanswm o 67 o gamau gweithredu gydag amserlenni tymor byr, tymor canolig a hirdymor.
Yn yr adroddiad cynnydd ym mis Chwefror 2025, roedd 48 o gamau gweithredu wedi'u cwblhau, gyda 19 o gamau gweithredu tymor canolig a hirdymor yn weddill.
Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar gynnydd rhwng mis Chwefror 2025 a mis Mai 2026, gan gynnwys tystiolaeth yn erbyn y 19 cam gweithredu sy'n weddill a diweddariadau ar gyfer camau gweithredu parhaus sydd wedi'u cwblhau.
I ble rydym yn mynd? Rydym am adeiladu ar y cynnydd hwn a chynnal statws Cymru fel gwlad flaenllaw wrth hyrwyddo hawl plant i chwarae. Byddwn yn ystyried gwersi i'w dysgu o'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae a'r broses o roi'r camau gweithredu ar waith.
Cynnydd ar yr 19 o gamau gweithredu sy'n weddill: mis Chwefror 2025 i fis Mai 2026
Argymhelliad allweddol 6: defnyddio’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae’n ehangach i gwmpasu ystod eang o gyrff eraill
Mae cerrig milltir allweddol 6.1, 6.2 a 6.3 ar y trywydd cywir i'w cwblhau gyda gwaith ymchwil ffurfiol yn mynd rhagddo i adolygu a chasglu tystiolaeth ar weithrediad ac effaith y ddyletswydd statudol gyfredol i gynnal Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a sut mae hynny'n cefnogi cyfleoedd chwarae i blant ar hyn o bryd. Bydd asesu effaith y dyletswyddau presennol yn ddefnyddiol i ystyried ehangu'r dyletswyddau fel yr argymhellwyd gan Adroddiad yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae a bydd yn helpu i nodi'r cyfleoedd posibl i'r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae fynd i'r afael ag agendâu polisi cymdeithasol eraill.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru Chwarae Cymru i lunio adroddiad ar Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025 a Cyflwr Chwarae 2025 sydd wedi'u cyhoeddi ac sy'n dangos canlyniadau cadarnhaol ochr yn ochr â gwaith i'w ystyried wrth ddatblygu polisi chwarae yn y dyfodol.
Rydym wedi parhau i weithio gyda Chwarae Cymru a phartneriaid eraill i godi ymwybyddiaeth o'r Ddyletswydd y tu hwnt i awdurdodau lleol a sicrhau bod hawl plant i chwarae yn cael ei chydnabod a'i hymgorffori mewn polisïau ac arferion cenedlaethol. Mae hyn wedi cynnwys ymgysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol, byrddau partneriaeth rhanbarthol, cynghorau cymuned a thref i feithrin dealltwriaeth ehangach o gyfrifoldebau digonolrwydd cyfleoedd chwarae ymhlith gwasanaethau cyhoeddus.
Caiff cynrychiolwyr chwarae rhanbarthol eu cefnogi i gymryd rhan yn is-grwpiau plant y byrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn sicrhau bod eiriolaeth ar chwarae yn rhan o'r broses o integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Mae enghraifft o arfer da wedi'i chyhoeddi sy'n dangos y cysylltiadau rhwng gwaith chwarae a'r dull system gyfan ar gyfer iechyd meddwl a llesiant.
Uchelgais ar waith, argymhelliad 6: gweithio'n Strategol gyda'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Mae Uwch-swyddog Chwarae Cyngor Sir Conwy yn eirioli dros gyfleoedd chwarae i blant ac yn cynrychioli'r sector chwarae ledled Gogledd Cymru ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, gan sicrhau bod hawl plant i chwarae yn cael ei hymgorffori mewn prosesau gwneud penderfyniadau strategol ehangach.
Mae “siop un stop” Iechyd a Llesiant Emosiynol rhanbarthol Gogledd Cymru yn enghraifft o waith partneriaeth effeithiol. Mae'r fframwaith sylfaenol yn rhoi pwyslais sylweddol ar bwysigrwydd chwarae, ac mae'r platfform ei hun yn gweithredu fel hyb canolog ar gyfer eiriolaeth, gwybodaeth a chymorth i deuluoedd. Mae'n darparu canllawiau hygyrch ar ystod eang o gyfleoedd chwarae, o fannau chwarae ffurfiol i gyfleoedd chwarae bob dydd ar garreg y drws, ac yn tynnu sylw at hygyrchedd a chyfleusterau lleol. Mae'r adnodd yn cryfhau dealltwriaeth y cyhoedd o rôl hanfodol chwarae yn natblygiad plant.
I weithwyr proffesiynol a grwpiau cymunedol, mae'r ‘siop un stop’ yn cynnig adnoddau ymarferol er mwyn helpu i gynyddu mynediad at gyfleoedd chwarae a hyrwyddo arferion gorau ar draws y rhanbarth. Mae'r partneriaethau'n dangos y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ar waith, gan atgyfnerthu ymrwymiad ar y cyd i ecosystem chwarae gefnogol, gynhwysol, a chysylltiedig gan sicrhau y gall pob plentyn yng Ngogledd Cymru gael profiadau chwarae ystyrlon o ansawdd uchel.
Argymhelliad allweddol 8: Sicrhau bod egwyddor chwarae fel mater o gyfiawnder gofodol yn cael ei chydnabod a’i deall trwy Bolisi Cynllunio Cymru
Mae gwaith traws-bolisi strategol parhaus yn cryfhau'r gydnabyddiaeth o chwarae fel mater o gyfiawnder gofodol yn y system gynllunio. Mae Chwarae Cymru wedi cyfrannu at yr adolygiad o Nodyn cyngor technegol (TAN) 18 Llywodraeth Cymru, ac wedi darparu rhai astudiaethau achos ynghylch sut mae polisi chwarae a chynllunio wedi cydweithio'n dda ar lefel leol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cyfleoedd allweddol yn y dyfodol i ddiweddaru canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a nodiadau cyngor technegol perthnasol fel rhan o'r cylch adolygu polisi er mwyn cryfhau canllawiau mewn perthynas â chynllunio ar gyfer cyfleoedd digonol i chwarae fel rhan o ddatblygiadau newydd. Mae cerrig milltir 8.1, 8.2, 8.4, 8.5 ac 8.6 wedi'u cwblhau'n rhannol o hyd a byddant yn cael eu hystyried fel rhan o gylch adolygu presennol y Polisi Cynllunio.
Bu ymgysylltu parhaus rhwng Llywodraeth Cymru, Chwarae Cymru a rhanddeiliaid sy'n gweithio o fewn y system gynllunio a chreu lleoedd i hyrwyddo cydnabyddiaeth gryfach o gyfleoedd plant i chwarae wrth ddylunio cymdogaethau. Mae hyn wedi cynnwys mynychu cyfarfod Siarter Creu Lleoedd Cymru; trafodaethau gyda Barratt Redrow mewn perthynas â'u hymgyrch Chwarae newydd; a pharatoi nodyn briffio ar gyfer Trafnidiaeth Cymru i lywio'r adolygiad o Ganllawiau Teithio Llesol, gan ganolbwyntio'n benodol ar chwarae a chreu lleoedd.
Gwnaeth Chwarae Cymru gyflwyniad cyweirnod i Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a pherthnasedd Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae i waith cynllunio datblygu. Mae Chwarae Cymru wedi ymgysylltu â'r Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i drafod digonolrwydd cyfleoedd chwarae a pholisi cynllunio
Cafodd Strydoedd Ysgol: canllawiau i awdurdodau lleol eu cyhoeddi ar 27 Mawrth 2025. Mae'r canllawiau'n cynnwys camau ymarferol ar gyfer datblygu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau Strydoedd Ysgol, ynghyd ag astudiaethau achos o Gymru gan gynnwys Ysgol Gynradd Fairfield, a thu hwnt. Yn benodol, mae'r canllawiau yn dangos sut y gall Strydoedd Chwarae ategu Strydoedd Ysgol, gan gefnogi amgylcheddau mwy diogel ac egnïol o amgylch ysgolion.
Mae wyth prosiect sy'n canolbwyntio ar chwarae wedi cael eu cefnogi gan £5.8 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi, gan gynnwys gwaith i adnewyddu canolfan ieuenctid yng Nghil-y-coed, parc sglefrio yn
Llandrindod, gofod dysgu a gweithgareddau yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth; a chyfleoedd chwarae naturiol fel rhan o brosiectau parth cyhoeddus ehangach.
Mae Chwarae Cymru, Cwlwm a rhanddeiliaid allweddol eraill wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu Pwysau Iach: Cymru Iach Cynllun cyflawni 2025 i 2027 drwy gymryd rhan mewn gweithgorau ar hybu bywydau egnïol ac iach, lle mae chwarae yn elfen ganolog.
Ar lefel leol, cydnabyddir yn gynyddol fod tystiolaeth o Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn berthnasol i Gynlluniau Datblygu Lleol, cynlluniau creu lleoedd a chanllawiau trafnidiaeth, gan atgyfnerthu rôl chwarae wrth lunio amgylcheddau iach a chynhwysol.
Uchelgais ar waith, argymhelliad 8: mannau i chwarae
Ers 2022, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gweithredu rhaglen sylweddol i fuddsoddi mewn darpariaeth chwarae a hamdden, gan wella 35 o ardaloedd chwarae a 13 o ardaloedd gemau aml-ddefnydd a safleoedd cyfleusterau chwaraeon ledled y ddinas. Ochr yn ochr ag uwchraddio seilwaith chwarae traddodiadol, mae Cyngor Casnewydd hefyd wedi mabwysiadu dull a arweinir gan y gymuned i ddatblygu mannau naturiol lle gellir chwarae, gan ddangos sut y gall amrywiaeth o amgylcheddau chwarae gefnogi cyfleoedd plant a phobl ifanc i chwarae.
Un enghraifft yw'r gwaith i ailddatblygu Maes Hamdden Mendalgief ym Mhilgwenlli. Ar ôl archwiliad o gyfleoedd chwarae gan Chwarae Cymru a gomisiynwyd gan Grŵp Pobl, nododd plant, teuluoedd a sefydliadau cymunedol lleol fod y safle yn flaenoriaeth i'w wella. Er nad oedd wedi'i gynnwys yn wreiddiol yn y cynlluniau ar gyfer datblygu, dangosodd adborth gan y gymuned ei bod yn bwysig creu mannau lleol i chwarae. Felly, trawsnewidiwyd y safle drwy waith dylunio yn seiliedig ar y dirwedd a nodweddion chwarae naturiol, gan ategu gwelliannau ehangach i fannau gwyrdd a llwybrau teithio llesol yn yr ardal.
Mae'r rhaglen fuddsoddi ar gyfer y ddinas gyfan a phrosiect Mendalgief yn rhannu'r un egwyddorion: ymgysylltu â'r gymuned, cynhwysiant a chynaliadwyedd. Drwy ymgynghori â thrigolion, ysgolion a rhanddeiliaid, mae Cyngor Casnewydd wedi sicrhau bod gwelliannau'n adlewyrchu anghenion lleol ac wedi creu amgylcheddau croesawgar sy'n cefnogi plant o bob oed a gallu. Mae cynnwys nodweddion chwarae naturiol, cyfarpar hygyrch a dyluniad sy'n amgylcheddol gynaliadwy yn dangos sut y gall cyfleoedd chwarae gael eu hymgorffori mewn mannau cymunedol ffurfiol ac anffurfiol.
Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn yn dangos ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i greu lleoedd cynhwysol a chynaliadwy o ansawdd uchel lle gall plant a phobl ifanc chwarae, cymdeithasu a chysylltu â'u cymunedau.
Argymhelliad allweddol 9: sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau plant yn hysbysu’r ffyrdd y mae cymdogaethau’n cael eu cynllunio a’u rheoli
Mae safbwyntiau plant a gasglwyd drwy Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn 2025 yn parhau i lywio datblygiad polisi ar lefel leol a chenedlaethol. Mae Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru 2025 a Cyflwr chwarae 2025 yn dadansoddi'r dystiolaeth hon ac yn rhoi cipolwg ar brofiadau bywyd plant yn eu cymdogaethau gan ystyried cyfiawnder gofodol a chynllunio yn benodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith i ddatblygu 36 o Gynlluniau Creu Lleoedd newydd ledled Cymru ers 2022, ac ymgynghorir â phobl ifanc fel rhan o'r broses ddatblygu. Yng Nghyngor Caerffili, cynhaliwyd gweithdai wedi'u targedu i gasglu safbwyntiau unigryw pobl ifanc, yn ogystal â dulliau ymgysylltu wyneb yn wyneb a digidol. Yn ogystal, helpodd ysgol leol i ddylunio cynllun parth cyhoeddus mawr i sicrhau bod cyfleoedd i chwarae yn cael eu cynnwys yn effeithiol yn y dyluniadau.
Mae gwaith wedi'i wneud i ddatblygu model llywodraethu posibl dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer gwaith ieuenctid, wedi'i greu gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector a'i lywio gan bobl ifanc a aeth i fforwm preswyl yn haf 2024. Mae'r model yn dangos sut y gall llais pobl ifanc lywio gwaith ieuenctid yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Bydd y broses o ddatblygu trefniadau llywodraethu ehangach ar gyfer y corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, sydd wrthi'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd, yn defnyddio safbwyntiau'r bobl ifanc hyn yn uniongyrchol ac yn ystyried sut y gellir cymhwyso'r egwyddorion hynny yng nghyd-destun trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd y corff hwnnw.
Ynghyd ag Un Llais Cymru rydym yn awyddus i archwilio cyfleoedd pellach i ddatblygu cynrychiolaeth ieuenctid ar gynghorau cymuned a thref. Mae Un Llais Cymru wedi ymgysylltu â Chwarae Cymru i gefnogi aelodau i annog y gwaith hwn ymhellach a datblygu dull gweithredu cyson.
Ar lefel leol, mae tystiolaeth o Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn llywio gweithgareddau adfywio, cynlluniau creu lleoedd ac ymgysylltiad â chynghorau cymuned a thref yn gynyddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid i gryfhau dulliau ymgynghori sy'n addas i blant, gan gynnwys defnyddio cwestiynau arolwg cyson a dulliau ymgysylltu creadigol. Bydd hyn yn datblygu ffordd fwy ystyrlon o gynnwys safbwyntiau, anghenion a dewisiadau plant mewn penderfyniadau am gynllunio a rheoli cymdogaethau.
Uchelgais ar waith, argymhelliad 9: gwrando ar blant
Cymerodd Cyngor Sir Gâr ran mewn prosiect ymchwil dan arweiniad Prifysgol Swydd Gaerloyw a Ludicology i ystyried sut y gall awdurdodau lleol ddatblygu dull o fynd i'r afael â Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Cymru ar lefel cymdogaeth. Gan ganolbwyntio ar gymuned lle ceir lefelau uchel o amddifadedd, rhoddodd yr astudiaeth le canolog i leisiau plant er mwyn deall profiadau chwarae lleol a rhwystrau i chwarae yn yr awyr agored.
Gan ddefnyddio arolygon, arsylwadau, grwpiau ffocws a gweithdai gyda phlant 9 i 14 oed, canfu ymchwilwyr fod gan blant sy'n byw yn yr ardal ymchwil lawer llai o gyfleoedd i chwarae yn yr awyr agored, llai o ryddid i symud yn annibynnol, a lefel is o foddhad â mannau chwarae lleol na'u cyfoedion sy'n byw y tu allan i'r ardal. Roedd pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol, defnyddio cyffuriau, peryglon amgylcheddol a diogelwch cymunedol yn cyfrannu at bryderon rhieni a chyfyngiadau ar gyfleoedd i'r plant chwarae'n annibynnol.
Nododd y gwaith ymchwil dri argymhelliad allweddol: sefydlu presenoldeb cymunedol dibynadwy i feithrin hyder a chefnogi chwarae, gwella a harddu ardaloedd yn y gymdogaeth, a chreu rhwydwaith o fannau hygyrch lle gellir chwarae ar draws y gymuned.
Yn bwysig, mae'r ymchwil eisoes wedi arwain at ddatblygu sawl prosiect. Drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, mae mannau gwyrdd lleol wedi cael eu gwella drwy blannu coed, defnyddio gwrychoedd â ffensys, gosod blychau ystlumod ac adar, a chreu ardaloedd blodau gwyllt, ysgafellau a nodweddion chwarae naturiol. Cyflawnwyd y gwaith hwn ar y cyd gan y Swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, cydweithwyr tai, Tîm Trawsnewid Tyisha, gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd a'r Tîm Blynyddoedd Cynnar a Chwarae. Yn ogystal, mae Cymdeithas Tai Pobl yn archwilio cyfleoedd i drawsnewid lonydd tai yn fannau cymunedol mwy chwareus, ac mae gwaith ymgysylltu cynnar â'r gymuned yn dangos diddordeb cryf ymhlith trigolion. Mae cynlluniau hefyd yn cael eu trafod i ddatblygu man gwyrdd cymunedol bach o fewn yr ardal ymchwil, gyda thrigolion yn helpu i'w ddylunio yn y dyfodol.
Mae ffrwd waith amlasiantaethol bellach yn goruchwylio'r gwaith o roi'r tri argymhelliad ar waith, tra bod gweithgor llai yn canolbwyntio ar gyflawni camau ymarferol yn yr ardal a chynyddu cyfranogiad trigolion mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Mae'r gwaith ymchwil yn dangos pwysigrwydd gwrando ar blant wrth ddatblygu polisi ac amgylcheddau lleol. Drwy werthfawrogi safbwyntiau plant, gall Cyngor Sir Gâr greu cymunedau mwy diogel a chynhwysol sy'n cefnogi hawliau, llesiant a chyfleoedd plant i chwarae.
Argymhelliad allweddol 10: sicrhau bod trefniadau diogelu digonol mewn lleoliadau gwaith chwarae
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r sector gofal plant a chwarae fel rhan o'i hadolygiad o'r Cod Ymarfer Diogelu. Mae'r adborth wedi bod yn ddefnyddiol i ddatblygu'r canllawiau ymhellach a fydd yn cefnogi ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae yn eu rôl ac yn sicrhau bod diogelu yn parhau i fod yn ffocws allweddol.
Ar ôl i adrodd dan fandad gael ei dynnu o’r Bil Gofal Cymdeithasol, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ymgysylltu ymhellach â’r sector er mwyn asesu goblygiadau gosod dyletswydd orfodol i adrodd ar achosion o gam-drin plant yn rhywiol, gan gydnabod cyfrifoldebau sydd eisoes yn bodoli o dan Ran 7. Mae ymgyngoriadau helaeth wedi dangos consensws clir ar y llwybr arfaethedig ymlaen. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gyflawni ochr yn ochr â gweithredu datblygiadau ehangach mewn perthynas â pholisi diogelu, gan gynnwys y Strategaeth genedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036.
Uchelgais ar waith, Argymhelliad 10: cefnogi darparwyr gyda threfniadau diogelu
Yn 2025, cymerodd Clybiau Plant Cymru gamau i gryfhau trefniadau diogelu ar draws y sector Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol. Lluniwyd Gwiriad Iechyd Diogelu fel adnodd hunanwerthuso ymarferol, dan arweiniad, er mwyn helpu lleoliadau i nodi risgiau, adeiladu ar gryfderau a chymryd camau clir i wella.
Dangosodd gwaith dadansoddi ym mis Awst 2025 fod angen llwybr cliriach a mwy ymarferol ar leoliadau i wella. Mewn ymateb, ailgynlluniwyd y Gwiriad Iechyd Diogelu i greu model tair rhan yn canolbwyntio ar bolisïau, gweithdrefnau ac arferion da.
Ategwyd hyn gan Strategaeth Ddiogelu ehangach ac ymgyrch estynedig ar y cyfryngau cymdeithasol i feithrin hyder, cryfhau dealltwriaeth a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus. Ariannwyd y gwaith drwy amrywiol brosiectau, a arweiniodd at ddatblygu cymorth wedi'i dargedu ac adnoddau ymarferol ar gyfer lleoliadau. Cafodd adnoddau ymarferol newydd eu creu hefyd, gan gynnwys cardiau myfyrio, promptiau sy'n addas i blant a phoster addewid diogelu i blant a rhieni.
Roedd yr effaith yn amlwg. Ymhen ychydig dros saith mis ar ôl lansio'r Gwiriad Iechyd Diogelu modiwlaidd newydd, dechreuodd 70 o leoliadau ar y broses, a arweiniodd at 121 o bolisïau newydd neu well ledled Cymru a 67% yn cymryd camau cadarnhaol i wella, gyda mwy na 1,871 o blant yn elwa o hynny.
Tystiolaeth aelod:
“Mae’r Gwiriad Iechyd Diogelu yn adnodd gwerthfawr iawn. Mae diogelu wrth wraidd popeth a wnawn… Lle roedd angen gweithredu, roedd templedi polisi ar gael i ni ynghyd â chymorth i'w haddasu ar gyfer ein lleoliadau. Byddwn i’n argymell yn gryf y dylai pob clwb gwblhau’r Gwiriad Iechyd Diogelu.”
Mae'r Gwiriad Iechyd Diogelu yn gwneud gwahaniaeth gan nad oes gan 66% o'r clybiau a gyflawnodd ran un unrhyw gamau gweithredu ar ôl i'w cymryd bellach. Bydd Clybiau Plant Cymru yn parhau i helpu lleoliadau i fyfyrio a datblygu. Bydd gwaith parhaus i ddadansoddi tueddiadau yn sicrhau bod yr adnoddau a'r canllawiau yn ymateb i anghenion y sector. Mae cymorth sydd wedi'i dargedu at ein haelodau anghofrestredig yn flaenoriaeth allweddol. Bydd y dull rhagweithiol hwn yn helpu i sicrhau bod mwy o blant yn cael budd o ddarpariaeth fwy diogel, sydd wedi'i hatgyfnerthu gan bolisïau a gweithdrefnau cadarn.
Argymhelliad allweddol 11: adolygu rheoliadau gwarchod plant a gofal dydd a gorchmynion sy’n ymwneud â gwaith chwarae
Daeth yr ymgynghoriad ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i ben ar 10 Rhagfyr 2025, a chyhoeddwyd Crynodeb o'r Ymatebion ym mis Mawrth 2026 a chanllawiau statudol newydd ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir a chanllawiau statudol ar y Safonau Gofal Cenedlaethol ar gyfer chwarae mynediad agored a reoleiddir ar 18 Mehefin 2026.
Cydluniodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Chwarae Cymru a rhwydwaith Chwarae Mynediad Agored, Safonau Gofynnol Cenedlaethol cymesur wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer gwasanaethau chwarae mynediad agored a reoleiddir fel y cytunwyd o dan yr argymhelliad allweddol hwn. Fel rhan o'r gwaith diweddaru hwn, cryfhawyd safonau drwy ddarparu cyngor ar sicrhau ansawdd uchel a chysylltiadau â chanllawiau cefnogol pellach, ynghyd ag integreiddio llais y plentyn a chanlyniadau llesiant disgwyliedig.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad cynhwysfawr o'r eithriadau i gofrestru gofal plant. Cefnogwyd y gwaith gan grŵp cynghori a gwaith ymgysylltu helaeth â mwy na 400 o randdeiliaid. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2025. Defnyddiwyd y gwaith ymgysylltu ac ymgynghori hwn yn uniongyrchol i lywio datblygiad Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026. Gwnaed y gorchymyn ar 25 Mawrth 2026 a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027, gyda chyfnod trosiannol o flwyddyn, a bydd yn gwbl orfodadwy o 1 Ebrill 2028. Mae'r Gorchymyn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (“Gorchymyn 2010”) ac yn ceisio moderneiddio ac egluro'r eithriadau presennol.
Mae Gorchymyn 2026 yn sicrhau bod darparwyr gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau yn cael eu goruchwylio mewn ffordd gymesur a phriodol, gan gefnogi teuluoedd i barhau i ddefnyddio ystod eang o ddarpariaeth sy'n diwallu eu hanghenion. Gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid, mae gwaith pellach yn mynd rhagddo i gynllunio camau gweithredu, gyda ffocws cryf ar ddatblygu canllawiau clir a hygyrch, a sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cyfleu a'u deall yn dda ar draws y sector.
Cafodd y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau ei ddatblygu mewn ymateb i randdeiliaid a nododd fod bwlch yn y system rhwng cofrestriad llawn a dim goruchwyliaeth ffurfiol. Byddai'r cynllun yn darparu llwybr gwirfoddol i ddarparwyr nad yw'n ofynnol iddynt gofrestru yn warchodwyr plant neu'n ddarparwyr gofal dydd, ond sy'n dymuno cael eu cymeradwyo drwy fodloni meini prawf penodol. Byddai darparwyr cymeradwy yn ennill statws ‘cymeradwy’ ffurfiol drwy gynllun a weinyddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Dangosodd ymgynghoriad cyhoeddus (mis Awst i fis Tachwedd 2025) fod cefnogaeth i'r cynllun, er bod barn yn amrywio o ran ei gwmpas a'i ddiben. Mae'r cynllun wedi cael ei fireinio ers hynny yn sgil yr adborth hwn. Y dyddiad targed presennol ar gyfer rhoi'r cynllun ar waith yw mis Ebrill 2027.
Mae AGC wedi gweithio gyda Chwarae Cymru a Chlybiau Plant Cymru i ddarparu hyfforddiant pellach i'w Hyrwyddwyr Chwarae i'w helpu i arolygu lleoliadau gwaith chwarae.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried newidiadau posibl i gefnogi dull cymesur o gofrestru ac arolygu gwasanaethau chwarae mynediad agored peripatetig, gyda darparwyr chwarae mynediad agored yn gallu cofrestru unwaith a dull risg-budd yn cael ei ddefnyddio i ychwanegu lleoliadau ychwanegol. O ganlyniad, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn gweithio tuag at adolygu'r newidiadau sydd angen eu gwneud i'r prosesau cofrestru ac arolygu er mwyn galluogi darparwyr chwarae mynediad agored peripatetig i gwblhau un cais cofrestru a fydd yn cynnwys y lleoliadau lle byddant yn darparu'r gwasanaeth o fewn ardal ddiffiniedig. Mae'r gwaith hwn yn cysylltu â charreg filltir 11.4 sydd wedi'i chwblhau'n rhannol ar ddyddiad yr adroddiad hwn.
Uchelgais ar waith, argymhelliad 11: fy rôl fel Hyrwyddwr Chwarae AGC
Fe ddes i’n Hyrwyddwr Chwarae ar gyfer y tîm Arolygu Gofal Plant a Chwarae o fewn AGC am fy mod i’n teimlo'n angerddol am sicrhau bod gan blant gyfleoedd cyfoethog i chwarae a bod arolygwyr yn deall rôl hanfodol chwarae wrth gefnogi datblygiad, llesiant a hawliau.
Mae hyfforddiant a ddarparwyd gan Chwarae Cymru a Chlybiau Plant Cymru wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o Egwyddorion Gwaith Chwarae ac wedi cryfhau fy ngwybodaeth am sut y gall oedolion hwyluso chwarae yn effeithiol, yn hytrach na'i gyfarwyddo.
Yn fy rôl, rwy'n hyrwyddo Egwyddorion Gwaith Chwarae ymhlith arolygwyr ac yn helpu cydweithwyr i gydnabod a gwerthuso arfer chwarae o ansawdd uchel mewn ystod o leoliadau. Rwy'n cyfrannu at y rhwydwaith Hyrwyddwyr Chwarae drwy fynd i gyfarfodydd rhanbarthol, codi ymwybyddiaeth o'n rôl a gweithredu fel ffynhonnell o gyngor a chymorth.
Rwyf hefyd wedi ymgysylltu â darparwyr chwarae mynediad agored ar ddulliau hunanasesu ac wedi gweithio â chydweithwyr i ddatblygu sesiynau dysgu er mwyn meithrin gwybodaeth, hyder a chysondeb ar draws yr arolygiaeth.
Drwy’r rôl hon, fy nod yw parhau i hyrwyddo gwerth chwarae a sicrhau bod profiadau chwarae plant yn parhau i fod yn ganolog i arferion arolygu.
Argymhelliad allweddol 14: hyrwyddo pwysigrwydd chwarae a’r defnydd o diroedd ysgol fel ased cymunedol ar gyfer chwarae trwy’r polisi ysgolion bro
Ar 1 Medi 2025, lansiwyd corff newydd ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, sef Dysgu. Erbyn mis Ebrill 2027, bydd y cyfrifoldeb dros adnoddau dysgu proffesiynol ar-lein, sydd ar hyn o bryd yn cael eu lletya ar Hwb, yn trosglwyddo i Dysgu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda thîm Hwb i adolygu'r holl ddeunydd sy'n ymwneud â chwarae, gan nodi rhai bylchau yn y cynnwys. Mewn ymateb, mae camau cychwynnol wedi cynnwys ychwanegu saith adnodd ar gyfer ymarferwyr ysgolion gan Chwarae Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ysgolion bro, ymgysylltu â theuluoedd ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae'r canllawiau'n cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd cyfoethogi fel rhan o ddull ysgolion bro, gan gynnwys drwy chwarae, i gefnogi llesiant plant. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhwydweithiau ysgolion bro i hyrwyddo pwysigrwydd chwarae mewn ysgolion ac yn rhannu cysylltiadau i ddatblygu cydweithio ar lefel leol.
Drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, rydym wedi ymwreiddio pwysigrwydd gwneud ein hysgolion yn fwy cymunedol fel y gall cyfleusterau fod yn agored i bawb. Mae cyllid cyfalaf penodol ar gyfer ysgolion bro hefyd wedi bod ar gael i bartneriaid cyflawni, gyda £58m wedi'i ddarparu ers blwyddyn ariannol 2022/23, i helpu ein hysgolion i addasu ac agor eu safleoedd yn effeithiol y tu allan i oriau traddodiadol. Mae'r cyllid hwn wedi cefnogi gwaith cyfalaf ar raddfa fach i ganolig mewn ysgolion presennol i hyrwyddo a helpu i gydleoli gwasanaethau cymorth a defnydd cymunedol o'r cyfleusterau sy'n bodoli, gan gynnwys darparu cyfleoedd chwarae.
Roedd cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ystyried y canllawiau anstatudol a'r ymgynghoriad ar bennu amseroedd sesiynau ysgolion (a ysgogwyd gan y gwaith ar wythnosau anghymesur). Cafodd ei oedi yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a chaiff ei ailystyried o dan y Gweinidog Cabinet newydd dros Addysg a'r Gymraeg.
Mae Chwarae Cymru wedi parhau i ymgysylltu ag arweinwyr ysgolion, athrawon a staff cymorth gan hwyluso'r Symposiwm Addysg a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2026. Rhannodd yr Athro Peter Gray ei waith gan gynnig ei fewnwelediadau a'i atebion i gefnogi cyfleoedd chwarae i blant mewn addysg.
Gwnaeth Chwarae Cymru gyflwyniad i Fforwm Ymddygiad a Gwaharddiadau Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i ystyried chwarae fel ymyriad ataliol cadarnhaol.
Mae adroddiad Cyflwr chwarae 2025 yn cynnwys atodiad ar Chwarae mewn addysg ac ysgolion. Ymhlith yr enghreifftiau penodol o lwyddiant a nodwyd ledled Cymru mae:
- prosiectau ysgolion cyfeillgar i chwarae (neu debyg) a gyflwynwyd gan dimau datblygu chwarae
- timau datblygu chwarae’n hwyluso sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer staff
- tîm chwarae’r awdurdod lleol, ac mewn rhai achosion, dimau chwarae sector gwirfoddol yn hwyluso amserau chwarae
- tîm chwarae’r awdurdod lleol yn hwyluso sesiynau ‘chwareus’ sy’n gysylltiedig â chyflawni’r cwricwlwm
- sesiynau chwarae ar ôl ysgol yn cael eu trosglwyddo fel rhan o gynllun Ysgolion Bro
- datblygu polisïau chwarae mewn ysgolion
Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn nodi:
Yr her fwyaf sy’n wynebu awdurdodau lleol wrth asesu cyfleoedd i chwarae mewn ysgolion a rhoi camau gweithredu ar waith i fynd i’r afael â diffygion yw nad oes dull safonedig na strategaeth chwarae mewn ysgolion ym mhob awdurdod lleol. Mae unrhyw lwyddiannau’n amrywiol – mae ymatebion wedi eu lleoli mewn ysgolion, mewn nifer o achosion, yn dibynnu ar unigolyn penodol yng nghymuned yr ysgol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ymwreiddio cyfleoedd i chwarae mewn ysgolion, ar draws grwpiau oedran ac awdurdodau lleol.
Uchelgais ar waith, argymhelliad 14: Ysgolion Cyfeillgar i Chwarae
Mae Tîm Datblygu Chwarae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithredu rhaglen Ysgolion Cyfeillgar i Chwarae a gynlluniwyd i ehangu a gwella cyfleoedd chwarae ar draws yr ardal leol. Mae'n cefnogi mynediad plant at gyfleoedd chwarae o ansawdd uchel drwy hyfforddiant i staff, gwaith ymgysylltu â theuluoedd, gweithgareddau chwarae â darnau rhydd, a sesiynau awyr agored sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm.
Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen yn gweithio gyda phedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd, gyda phob prosiect wedi'i deilwra i anghenion a blaenoriaethau penodol cymuned yr ysgol unigol.
Darparwyd cymorth mewn sawl maes allweddol, gan gynnwys:
- Hyfforddiant Dewch Inni Siarad am Chwarae ar gyfer staff ysgolion, llysgenhadon chwarae, rhieni a gofalwyr
- sesiynau chwarae i deuluoedd ar ôl ysgol sy'n helpu i ymgysylltu â theuluoedd ac yn cynnig amser, lle a chyfleoedd i chwarae ar y cyd
- sesiynau chwarae â darnau rhydd dros ginio i gyfoethogi profiadau chwarae dyddiol
- sesiynau chwarae awyr agored a gyflwynir fel rhan o'r cwricwlwm, gan gefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn ysgolion uwchradd
Er mwyn ymwreiddio cyfleoedd chwarae ymhellach mewn amgylcheddau ysgol, mae ciwbiau chwarae yn llawn darnau rhydd wedi'u gosod mewn pedair ysgol. Mae'r adnoddau hyn ar gael drwy gydol y diwrnod ysgol, y tu allan i oriau ysgol, ac i'w defnyddio gan y tîm chwarae.
Mae'r effaith yn amrywio ar draws lleoliadau ac mae wedi bod yn gyson gadarnhaol. Mae cydberthnasau cryf ac ystyrlon wedi'u sefydlu rhwng y tîm chwarae a phob cymuned ysgol.
Mae hyder y staff wedi cynyddu, ac mae tiroedd ysgolion yn cael eu cydnabod yn fwyfwy fel amgylcheddau sy'n galluogi plant i chwarae. Mae disgyblion wedi cael budd o fynediad gwell at gyfleoedd chwarae o ansawdd uchel, ac mae teuluoedd bellach yn teimlo'n fwy hyderus yn ymgysylltu â darpariaeth ehangach y tîm chwarae, yn ogystal â chefnogi ystod gynyddol o'u cyfleoedd chwarae eu hunain.
Mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, mae'r sesiynau chwarae i deuluoedd ar ôl ysgol wedi cael effaith uniongyrchol ac amlwg. Mae teuluoedd wedi gallu mwynhau amgylcheddau chwarae diogel, cyfarwydd a chefnogol, a defnyddir ceginau'r ysgolion i ddarparu byrbrydau a lluniaeth iach, gan helpu i leddfu pwysau ar ôl ysgol.
Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi defnyddio tiroedd ysgolion fel asedau cymunedol, sy'n cyd-fynd ag egwyddorion y polisi Ysgolion Bro ac yn cryfhau dealltwriaeth o rôl ysgolion fel canolfannau ar gyfer cyfleoedd chwarae a llesiant lleol. Mae dealltwriaeth gyffredin rhwng tîm chwarae Cyngor Bro Morganwg a'r Rheolwr Ysgolion Bro o fanteision cydweithio.
Yn gyffredinol, mae'r rhaglen Ysgolion Cyfeillgar i Chwarae yn dangos dull ymarferol, graddadwy o ymwreiddio cyfleoedd chwarae mewn lleoliadau addysgol gan ymestyn cyfleoedd i'r gymuned ehangach.ble approach to embedding play in education settings while extending opportunities into the wider community.
Argymhelliad allweddol 15: cynyddu a gwella amserau chwarae ac egwyl mewn ysgolion
Mae rhaglenni buddsoddi a chyllid cyfoethogi yn parhau i ddarparu cyfleoedd i ysgolion wella'r ddarpariaeth amser chwarae ac egwyl, gan gynnwys mannau chwarae awyr agored a chynhwysol. Mae ymgysylltu ar draws meysydd polisi’r llywodraeth gydag arolygwyr a llywodraethwyr yn cynyddu ymwybyddiaeth o werth chwarae a phwysigrwydd diogelu amser a lle i blant chwarae yn ystod y diwrnod ysgol.
Mae cynnydd yn parhau o ran cefnogi cyfleoedd chwarae mewn lleoliadau ysgol drwy bolisïau, gwaith arolygu a gweithgarwch buddsoddi. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cryfhau ei dealltwriaeth o gyfleoedd chwarae, dulliau risg-budd a datganiad lefel uchel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar chwarae drwy ymgymryd â hyfforddiant gyda Chwarae Cymru a Chlybiau Plant Cymru ac mae rhwydwaith Hyrwyddwyr Chwarae sefydledig ar waith o fewn yr arolygiaeth tra bod Estyn wedi ymrwymo i sicrhau bod arolygwyr yn deall rôl chwarae ac asesu risg-budd wrth lywio eu gwaith. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod chwarae yn cael ei ystyried yn fwy cyson fel rhan o weithgareddau arolygu ac yn atgyfnerthu pwysigrwydd chwarae mewn lleoliadau addysgol a gofal plant.
Yn 2025 i 2026, darparwyd £2 filiwn i ysgolion yng Nghymru, a dyrannwyd £3 miliwn arall yn 2026 i 2027, i helpu i gynnal gweithgareddau cyfoethogi ychwanegol, gwell yn ystod ac o amgylch y diwrnod ysgol a'r gwyliau. Mae'r telerau ac amodau'n nodi'n glir y dylid ystyried cyfleoedd chwarae wrth ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau.
Ers dechrau Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar 2025 i 2028, mae £24 miliwn wedi'i ddyfarnu i gefnogi 30 o brosiectau cyfalaf mawr ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae newydd ac wedi'u hadnewyddu. Yn ogystal â hyn, mae £10 miliwn o gyllid grantiau bach ar gael a gaiff ei ddosbarthu i leoliadau drwy'r 22 awdurdod lleol.
Gyda'i gilydd, bydd y 30 o brosiectau a gymeradwywyd yn darparu cyfanswm o fwy na 3,050m² o ofod chwarae ac awyr agored. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys amrywiaeth o welliannau i ddarpariaeth awyr agored, gyda phwyslais cryf ar hygyrchedd a dylunio cynhwysol. Mae'r gwelliannau'n cynnwys arwynebau chwarae caled a meddal hygyrch, llwybrau mynediad sy'n addas i gadeiriau olwyn, ac ardaloedd awyr agored cysgodol y gellid eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn.
Yn ogystal, mae nifer o leoliadau wedi cael grantiau bach i ymgymryd â gwaith gwella ac adnewyddu. Mewn llawer o achosion, mae'r cyllid hwn wedi helpu i ailosod neu uwchraddio arwynebau chwarae awyr agored, gan helpu i greu amgylcheddau chwarae mwy diogel a chynhwysol yn gyffredinol.
Aeth swyddogion o Lywodraeth Cymru i Gyfarfod Swyddogion Cymorth Llywodraethwyr Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru ar 6 Mawrth 2025 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu sy'n ymwneud ag addysg o'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ac i rannu adnoddau. Cyfrannodd swyddogion at Fwletin Llywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru ym mis Ebrill 2025 hefyd.
Uchelgais ar waith, argymhelliad 15: gwella cyfleoedd chwarae mewn ysgolion
Yn 2025 i 26, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £5 miliwn i wella ansawdd mannau chwarae a meysydd chwarae. Gan weithio gydag awdurdodau lleol ac yn unol ag Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae lleol, nododd nifer o awdurdodau lleol ysgolion fel asedau allweddol i wella mynediad plant at gyfleoedd chwarae, yn ystod y diwrnod ysgol ac o fewn y gymuned ehangach.
Ledled Cymru, mae cyllid wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu amrywiaeth o fentrau mewn ysgolion gyda'r nod o wella profiadau yn ystod amser egwyl, cynyddu mynediad at fannau awyr agored, a chryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion a chymunedau.
Un dull cyffredin fu cyflwyno podiau chwarae, pecynnau chwarae awyr agored a darnau rhydd, gan alluogi ysgolion i ddarparu cyfleoedd chwarae mwy amrywiol, a arweinir gan y plant. Er enghraifft, ehangodd Cyngor Sir Dinbych ei fuddsoddiad mewn podiau a chyfarpar chwarae. Yn yr un modd, darparodd Cyngor Ynys Môn wyth pod chwarae mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol, a dosbarthodd Cyngor Torfaen becynnau chwarae awyr agored yn uniongyrchol i ysgolion er mwyn gwella cyfleoedd chwarae bob dydd.
Mae rhai awdurdodau wedi canolbwyntio ar ddatblygu amgylcheddau dysgu awyr agored a chwarae naturiol. Yng Nghyngor Gwynedd, arweiniodd gwaith ar y cyd ag ysgolion a darparwyr gofal plant at ddatblygu dulliau ysgol goedwig a darpariaeth podiau chwarae, gan helpu plant i ymgysylltu â phrofiadau chwarae mwy naturiol a phenagored.
Mae gwella ansawdd cyfleoedd chwarae yn ystod y diwrnod ysgol hefyd wedi bod yn flaenoriaeth allweddol. Yng Nghyngor Caerdydd, mae cyflwyno Arweinwyr Maes Chwarae wedi cefnogi cyfleoedd chwarae mwy cynhwysol a chymunedol yn ystod amser egwyl. Mae hyn wedi helpu i greu amgylcheddau mwy cadarnhaol a diddorol mewn ysgolion, gan gydnabod rôl chwarae wrth gefnogi llesiant.
Y tu allan i'r diwrnod ysgol, mae sawl awdurdod lleol wedi cymryd camau i gynyddu mynediad y gymuned i diroedd ysgolion. Yng Nghyngor Conwy, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu mecanweithiau fel bod safleoedd ysgolion ar agor i'w defnyddio ar ôl oriau ysgol, gan helpu i lenwi bylchau lleol o ran mannau chwarae hygyrch a chryfhau rôl ysgolion fel asedau cymunedol.
Mae prosiectau eraill, fel rhaglen Cyngor Sir Penfro i ymestyn cyfleoedd chwarae awyr agored mewn ysgolion a mentrau chwarae mewn ysgolion gan Gyngor Abertawe, yn dangos sut y gall buddsoddiadau cymharol fach wella ansawdd ac argaeledd cyfleoedd chwarae.
At ei gilydd, mae'r prosiectau hyn yn tynnu sylw at hyblygrwydd cyllid cyfalaf chwarae wrth ymateb i anghenion a nodwyd yn lleol. Drwy ddefnyddio ysgolion fel rhan o'r seilwaith chwarae ehangach, mae awdurdodau lleol wedi gallu cyflawni gwelliannau isel eu cost ond mawr eu heffaith sy'n fuddiol i gyfleoedd chwarae plant ac amgylchedd ehangach yr ysgol.
Diweddariad ar gamau gweithredu sydd ar waith o hyd: mis Chwefror 2025 i fis Mai 2026
Nodwyd bod yr argymhellion canlynol wedi'u cwblhau yn adroddiad cynnydd mis Chwefror 2025; fodd bynnag, rydym wedi parhau i weithio'n strategol ar draws meysydd polisi i hyrwyddo Cymru fel gwlad lle mae cyfle i chwarae.
Argymhelliad allweddol 1: mabwysiadu agwedd strategol tuag at ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ar draws holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru
Cyrhaeddwyd pob carreg filltir graidd o dan yr argymhelliad hwn ym mis Chwefror 2025 drwy sefydlu Bwrdd Gweithredu'r Adolygiad o Gyfleoedd Chwarae a'r rhwydwaith Hyrwyddwyr Chwarae mewnol. Mae'r ddau fecanwaith hyn bellach wedi ymsefydlu ac yn parhau i ddarparu goruchwyliaeth strategol, her a chyfleoedd i gydweithio ar draws meysydd polisi.
Ers mis Chwefror 2025, mae'r gwaith hwn wedi aeddfedu i fod yn drefniant ymgysylltu traws-bolisi cynaliadwy. Mae polisi chwarae wedi cyfrannu at ystod eang o strategaethau a chanllawiau cenedlaethol a dylanwadu arnynt, gan gynnwys Pwysau Iach: Cymru Iach, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg, camau gweithredu'r Strategaeth Tlodi Plant, canllawiau Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ac adroddiadau ar Deithio Llesol. Mae gwaith mapio polisi a deddfwriaeth byw yn parhau i helpu i graffu ar feysydd polisi sy'n dod i'r amlwg fel polisi adfer natur a hinsawdd, polisi adfywio, polisi cynllunio a pholisi ieuenctid.
Mae cyfleoedd datblygu proffesiynol wedi cryfhau dealltwriaeth ar draws Llywodraeth Cymru, gyda hyfforddiant ar Ddeall Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn cael ei gyflwyno i aelodau Bwrdd Gweithredu'r Adolygiad o Gyfleoedd Chwarae a Hyrwyddwyr Chwarae, fel bod cyfleoedd chwarae yn cael eu hystyried yn fwy cyson ar lefel leol a chenedlaethol. Mae'r cysylltiadau hyn yn sicrhau mwy o gysondeb rhwng bwriad polisi cenedlaethol a chamau gweithredu awdurdodau lleol, gan helpu i greu amodau mwy cydlynol ar gyfer cyfleoedd chwarae i blant ledled Cymru.
Ar lefel leol mae adroddiad Cyflwr chwarae 2025 yn dangos gwelliant mewn gwaith partneriaeth ers 2022 gan ddatgan y canlynol:
Mae’n ymddangos bod y ffurflen ADCh [Asesiad Digonolrwydd Chwarae] ddiwygiedig wedi cynnig cyfle i gydweithio ar draws adrannau awdurdodau lleol ar gyfer y prosesau asesu yn ogystal â chynllunio gweithredu. Mae nifer o ADCh yn adrodd am gynnal gweithdai a chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Ble fo’r rhain wedi’u cynnal, ceir enghreifftiau o gydweithredu da rhwng adrannau o fewn awdurdodau lleol. Yn ogystal, yn yr ardaloedd hyn, cyfeirir yn amlach at sefydlu Grwpiau Digonolrwydd Chwarae, neu debyg, ar draws yr ADCh a’r Cynlluniau Gweithredu Chwarae.
Argymhelliad allweddol 2: sicrhau bod offerynnau polisi Llywodraeth Cymru’n cynnwys mesurau i gefnogi gallu plant i wneud y gorau o gyfleoedd i chwarae
Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud drwy'r Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae newydd a'r Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a gyflwynwyd gan yr awdurdodau lleol yn 2025. Rhoddwyd cyllid i Chwarae Cymru ddadansoddi'r cyflwyniadau a llunio dau adroddiad cenedlaethol: Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025 a Cyflwr Chwarae 2025. Mae'r adroddiadau hyn yn cadarnhau effaith gadarnhaol y ddyletswydd statudol ac yn tynnu sylw at heriau parhaus i awdurdodau lleol, gan gynnwys cynhwysiant, capasiti'r gweithlu, yswiriant, a mynediad at ofod. Caiff y canfyddiadau eu defnyddio i bennu cyfeiriad polisi yn y dyfodol, llywio adborth i awdurdodau lleol, ac arwain ymyriadau wedi'u targedu.
Argymhelliad allweddol 3: sicrhau bod unrhyw gynlluniau ar gyfer adfer wedi’r pandemig a’r argyfwng costau byw yn ystyried hawl plant i chwarae
Mae safbwyntiau plant a gesglir drwy Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac arolygon cysylltiedig yn parhau i lywio ystyriaethau polisi. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried canfyddiadau o Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a Digonolrwydd Gofal Plant, gan sicrhau bod canllawiau a chyllid sy'n canolbwyntio ar adferiad yn cydnabod darpariaeth chwarae a gwaith chwarae.
Mae gwaith ymgysylltu wedi mynd rhagddo gyda rhanddeiliaid ac ar draws meysydd polisi'r llywodraeth i ystyried manteision llyfrgelloedd teganau a safleoedd adnoddau chwarae gydag opsiynau i'w hystyried ymhellach.
Cafodd pwysigrwydd mynediad at gyfleoedd chwarae ei gydnabod yn Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024, gan gynnwys dealltwriaeth y gallai tlodi atal rhai plant rhag manteisio ar yr amrywiaeth o gyfleoedd chwarae sydd ar gael yn eu hardal.
Argymhelliad allweddol 4: sicrhau bod cyllid ac adnoddau digonol ar gyfer gweithredu’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae statudol yn ei chyfanrwydd
Gwnaed cynnydd i gyflawni'r canlyniad disgwyliedig, sef bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi'n well i weithredu'r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae drwy ddyrannu cyllid ac adnoddau mewn ffordd fwy strategol.
Dyfarnwyd £220,000 o gyllid refeniw (£10,000 fesul awdurdod lleol) ym mis Gorffennaf 2024 i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu eu Hasesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2025. Dyfarnwyd £220,000 arall i'r awdurdodau lleol ar gyfer 2025 i 2026, i'w helpu i fwrw ymlaen â chamau gweithredu o fewn eu Cynlluniau Gweithredu Chwarae. Ar gyfer 2026 i 2027 a 2027 i 2028 dyfernir £220,000 bob blwyddyn i'w rannu ymhlith yr awdurdodau lleol i gefnogi Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae drwy'r Grant Plant a Chymunedau.
Mae darparu a chynnal a chadw meysydd chwarae yn rhan o'r ddyletswydd statudol sydd ar awdurdodau lleol wrth iddynt asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol, a darparwyd £5 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2025-2026 i gefnogi mannau chwarae hygyrch.
Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu cyllid craidd i Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant, a chonsortiwm gofal plant Cwlwm sy'n cynnwys 5 sefydliad ac yn darparu gwasanaeth dwyieithog integredig sy'n ceisio sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a theuluoedd ledled Cymru. Mae'r cyllid craidd i Chwarae Cymru a Cwlwm wedi parhau yn 2025 i 2026 ac yn 2026 i 2027, a dyfarnwyd cyllid ychwanegol ar gyfer gweithgarwch penodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gefnogi Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae sy'n ceisio cefnogi mynediad at fwy o gyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol a darparu bwyd/byrbrydau iach. Dyfernir cyllid grant ar gyfer y prosiect hwn i awdurdodau lleol drwy raglen ariannu hyblyg y Grant Plant a Chymunedau fel y gall plant gael mynediad at ddarpariaeth gwaith chwarae wedi'i staffio yn ystod gwyliau'r ysgol. Dyfarnwyd £1 miliwn y flwyddyn ers 2021.
Byddwn yn parhau i adolygu opsiynau ariannu ac yn ystyried cyfleoedd i gefnogi mynediad plant at gyfleoedd chwarae.
Argymhelliad allweddol 5: cefnogi trosglwyddiad rhaglen wybodaeth i’r cyhoedd am yr hawl i chwarae
Mae gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi parhau mewn partneriaeth â Chwarae Cymru a Teulu Cymru, gan gynnwys hyrwyddo Diwrnod Chwarae, Diwrnod Chwarae Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, a Phlentyndod Chwareus, sef ymgyrch Chwarae Cymru. Cafodd fersiynau ar gyfer plant a phobl ifanc o adroddiad cynnydd yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae ac animeiddiadau ategol eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2025.
Argymhelliad allweddol 7: sicrhau bod yr hawl i chwarae wedi ei hymgorffori yn ddigonol mewn offerynnau a phenderfyniadau polisi strategol
Mae cynnydd yn parhau wrth ymgorffori'r hawl i chwarae yn fframweithiau polisi strategol ehangach Llywodraeth Cymru. Mae chwarae’n cael ei ystyried fwyfwy fel rhan o agendâu trawsbynciol gan gynnwys adfywio, trafnidiaeth, iechyd, yr hinsawdd a datblygu cymunedol, gyda chymorth gwaith ymgysylltu traws-bolisi ac o dan oruchwyliaeth Bwrdd Gweithredu'r Adolygiad o Gyfleoedd Chwarae. Mae hyn yn cryfhau cydlyniant polisi ac yn sicrhau bod yr hawl i chwarae yn cael ei chydnabod fel ffactor sy'n cyfrannu at amcanion llesiant ac atal ehangach.
Mae ein Hasesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn sicrhau bod y CCUHP yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried wrth ddatblygu polisïau. Mae hyn yn sicrhau bod Erthygl 31, sef yr hawl i ymlacio a chwarae, yn cael ei hystyried yng nghyd-destun ehangach yr hawliau a ddarperir gan y Confensiwn.
Argymhelliad allweddol 12: datblygu isadeiledd strategol ar gyfer datblygu’r gweithlu gwaith chwarae
Mae cynnydd yn parhau i helpu i ddatblygu gweithlu gwaith chwarae medrus a chynaliadwy. Mae diwygiadau i gymwysterau, mentrau sicrhau ansawdd fel Chwarae o Safon, a gweithgareddau datblygu proffesiynol dan arweiniad y sector yn cryfhau gallu'r gweithlu ac yn cyd-fynd â diwygiadau gofal plant a gwaith chwarae ehangach.
Mae Consortiwm Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae'r DU yn cynnwys Chwarae Cymru, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland, Play England a'r Sefydliad Gwaith Chwarae. Mae'r Consortiwm wedi bod yn cyfarfod ers mis Hydref 2021 ac fe'i sefydlwyd fel bod modd cynllunio'n strategol ar draws y pedair gwlad ar gyfer dyfodol mentrau sgiliau sector a datblygu'r gweithlu, gan gynnwys adolygiad o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn y dyfodol. Dechreuodd y broses o ddatblygu'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn ffurfiol ar ddechrau 2025 yn dilyn cymeradwyaeth gan Banel Safonau a Fframweithiau'r DU. Cymerodd Chwarae Cymru y rôl ddatblygu arweiniol ar ran Consortiwm Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae'r DU. Ar ôl cwblhau'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol drafft, cynhaliwyd proses ymgynghori gyda'r sector ledled y DU ym mis Mawrth a mis Ebrill 2026. Caiff y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol terfynol eu prawfddarllen a'u cyfieithu yn ystod yr haf fel eu bod yn barod i'w cyhoeddi ym mis Medi 2026.
Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Chwarae Cymru a Chlybiau Plant Cymru i ddatblygu adnoddau ar gyfer cymwysterau gwaith chwarae er mwyn cysylltu fframwaith NYTH ag ymarfer gwaith chwarae.
Argymhelliad allweddol 13: sicrhau bod cyllid digonol ar gael ar gyfer datblygu’r gweithluoedd chwarae a gwaith chwarae
Mae buddsoddiad yn parhau i gefnogi hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar gyfer y gweithlu gwaith chwarae drwy gymwysterau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a chyllid gan bartneriaid yn y sector. Mae'r gweithgarwch hwn yn helpu i sefydlogi'r ddarpariaeth, gwella ansawdd, a chynnal capasiti tra bod trefniadau tymor hwy mewn perthynas â'r gweithlu yn parhau i gael eu hystyried.
Casgliad
Mae gan Gymru ymrwymiad hirhoedlog a gydnabyddir yn rhyngwladol i hawl plant i chwarae. Mae cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn allweddol er mwyn cyflawni canlyniadau llwyddiannus, eirioli dros gyfleoedd chwarae i blant a chefnogi'r cyfleoedd hynny.
Mae'r ystod o waith a gwblhawyd i gyflawni'r uchelgeisiau a bennwyd gan yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae yn gosod sylfaen gref i ni adeiladu arni, gan sicrhau cyfleoedd chwareus i blant ledled Cymru. Diolch i bawb a helpodd i roi'r camau gweithredu ar waith ac sy'n gweithio i barhau i hyrwyddo cyfleoedd chwarae i blant.
Atodiad: cynnydd yn erbyn yr holl argymhellion a cherrig milltir
Mae gwybodaeth lawn am yr holl gerrig milltir a'r camau gweithredu cyfatebol y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru ar gael yn yr adroddiad Adolygiad gweinidogol o gyfleoedd chwarae: ymateb i argymhellion y Grŵp Llywio.
Mae'r adrannau isod sydd wedi'u huwcholeuo yn las yn dangos y 19 argymhelliad sy'n weddill i'w rhoi ar waith yn dilyn yr adroddiad Cynnydd a gyhoeddwyd yn 2025.
Argymhelliad 1: mabwysiadu agwedd strategol tuag at ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ar draws holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru
- Carreg filltir 1.1: eisoes ar waith, dim angen gweithredu
- Carreg filltir 1.2: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 1.3: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 1.4: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 1.5: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 1.6: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
Argymhelliad 2: sicrhau bod offerynnau polisi Llywodraeth Cymru’n cynnwys mesurau i gefnogi gallu plant i wneud y gorau o gyfleoedd i chwarae.
- Carreg filltir 2.1: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 2.2: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 2.3: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 2.4: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 2.5: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
Argymhelliad 3: sicrhau bod unrhyw gynlluniau ar gyfer adfer wedi’r pandemig a’r argyfwng costau byw yn ystyried hawl plant i chwarae
- Carreg filltir 3.1: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 3.2: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 3.3: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 3.4: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
Argymhelliad 4: sicrhau bod cyllid ac adnoddau digonol ar gyfer gweithredu’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae statudol yn ei chyfanrwydd.
- Carreg filltir 4.1: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 4.2: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 4.3: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 4.4: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 4.5: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 4.6: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 4.7: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
Argymhelliad 5: cefnogi trosglwyddiad rhaglen wybodaeth i’r cyhoedd am yr hawl i chwarae
- Carreg filltir 5.1: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 5.2: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
Argymhelliad 6: defnyddio’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae’n ehangach i gwmpasu ystod eang o gyrff eraill
- Carreg filltir 6.1: cwblhawyd yn rhannol, symud ymlaen â'r camau gweithredu terfynol.
- Carreg filltir 6.2: cwblhawyd yn rhannol, symud ymlaen â'r camau gweithredu terfynol.
- Carreg filltir 6.3: cwblhawyd yn rhannol, symud ymlaen â'r camau gweithredu terfynol.
Argymhelliad 7: sicrhau bod yr hawl i chwarae wedi ei hymgorffori yn ddigonol mewn offerynnau a phenderfyniadau polisi strategol
- Carreg filltir 7.1: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
Argymhelliad 8: sicrhau bod egwyddor chwarae fel mater o gyfiawnder gofodol yn cael ei chydnabod a’i deall trwy Bolisi Cynllunio Cymru
- Carreg filltir 8.1: cwblhawyd yn rhannol, symud ymlaen â'r camau gweithredu terfynol.
- Carreg filltir 8.2: cwblhawyd yn rhannol, symud ymlaen â'r camau gweithredu terfynol.
- Carreg filltir 8.3: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 8.4: cwblhawyd yn rhannol, symud ymlaen â'r camau gweithredu terfynol.
- Carreg filltir 8.5: cwblhawyd yn rhannol, symud ymlaen â'r camau gweithredu terfynol.
- Carreg filltir 8.6: cwblhawyd yn rhannol, symud ymlaen â'r camau gweithredu terfynol.
Argymhelliad 9: sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau plant yn hysbysu’r ffyrdd y mae cymdogaethau’n cael eu cynllunio a’u rheoli
- Carreg filltir 9.1: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 9.2: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 9.3: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
Argymhelliad 10: sicrhau bod trefniadau diogelu digonol mewn lleoliadau gwaith chwarae
- Carreg filltir 10.1: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 10.2: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
Argymhelliad 11: adolygu rheoliadau gwarchod plant a gofal dydd a gorchmynion sy’n ymwneud â gwaith chwarae
- Carreg filltir 11.1: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 11.2: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 11.3: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 11.4: cwblhawyd yn rhannol, symud ymlaen â'r camau gweithredu terfynol.
Argymhelliad 12: datblygu isadeiledd strategol ar gyfer datblygu’r gweithlu gwaith chwarae
- Carreg filltir 12.1: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 12.2: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 12.3: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 12.4: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 12.5: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 12.6: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
Argymhelliad 13
- Carreg filltir 13.1: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 13.2: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 13.3: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 13.4: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir13.5: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 13.6: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
Argymhelliad 14
- Carreg filltir 14.1: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 14.2: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir14.3: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 14.4: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 14.5: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
Argymhelliad 15
- Carreg filltir 15.1: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 15.2: cwblhawyd, dim gweithredu pellach.
- Carreg filltir 15.3: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 15.4: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 15.5: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 15.6: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
- Carreg filltir 15.7: cwblhawyd, wedi'i ymwreiddio fel gwaith parhaus.
