Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Nod yr adolygiad oedd archwilio sut yr oedd Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) (Addysg Bellach) (AB) yn cael ei weithredu a'i effaith, a darparu argymhellion ar gyfer y dyfodol. 

Cynllun hirsefydlog yw GDLlC (AB), a gyflwynwyd gyntaf yn 2002/03 fel Grant Dysgu'r Cynulliad ar gyfer AB. Mae'n darparu cymorth ariannol sy'n seiliedig ar brawf modd i ddysgwyr 19 oed a throsodd sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach mewn sefydliadau cymeradwy ledled Cymru ac mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae gwerth y grant o dan y cynllun GDLlC (AB) yn amrywio yn ôl incwm yr aelwyd a dwyster yr astudiaethau. Yn dilyn datganiad Gweinidogol ym mis Mehefin 2025, cynyddwyd lefel y grant.

Fel y nodir yn nodyn esboniadol Llywodraeth Cymru ar y GDLlC (AB), o fis Medi 2025 ymlaen, mae dysgwyr llawnamser gydag incwm aelwyd o:

  • £6,120 neu lai yn gymwys i gael grant o £1,919 (cynnydd chwyddiannol o'r grant blaenorol, a oedd yn £1,500)
  • mwy na £6,120 ond llai na £12,235 yn gymwys i gael grant o £959
  • mwy na £12,235 ond llai na £18,370 yn gymwys i gael grant o £576

Mae gan ddysgwyr rhan-amser hawl i gael swm cymesur, ac mae'r rhai sydd ag incwm aelwyd o:

  • £6,120 neu lai yn gymwys i gael grant o £959 (cynnydd chwyddiannol o'r grant blaenorol, a oedd yn £750)
  • mwy na £6,120 ond llai na £12,235 yn gymwys i gael grant o £576
  • mwy na £12,235 ond llai na £18,370 yn gymwys i gael grant o £384

Er bod cynnydd cymedrol wedi'i wneud i drothwyon incwm aelwydydd dros gyfnod cychwynnol cyflawni'r cynllun, maent wedi aros yn sefydlog ers 2011/12 pan gynyddodd y trothwy o £17,700 i £18,370.   

Cynhaliwyd y rhaglen waith ar gyfer y gwerthusiad hwn mewn 4 cam, fel a ganlyn: 

  • cam cychwynnol a oedd yn cynnwys cyfarfod cychwynnol a 7 cyfweliad cwmpasu
  • cam 2 a oedd yn dadansoddi dogfennau perthnasol yn ymwneud a pholisi a'r rhaglen yn ogystal â data GDLlC (AB) cyhoeddedig
  • cam 3 a oedd yn cynnwys datblygu offer ymchwil dwyieithog, gan gynnwys offer arolwg
  • cam 4 a oedd yn cynnwys arolwg o 578 o ymgeiswyr GDLlC (AB) ac arolwg o 32 o staff Canolfannau Dysgu. Roedd hefyd yn cynnwys trafodaethau ansoddol gyda chynrychiolwyr o 7 Canolfan Ddysgu a 3 sefydliad rhanddeiliaid
  • cam 5 a oedd yn cynnwys dadansoddi data'r gwaith maes a pharatoi adroddiad

Dylid dehongli canfyddiadau'r adolygiad yng ngoleuni nifer o gyfyngiadau methodolegol, gan gynnwys cyfyngiadau o ran ansawdd y data a heriau wrth gasglu gwybodaeth gyflawn gan bob grŵp o ddysgwyr. Mae manylion llawn y cyfyngiadau hyn wedi'u hamlinellu yn y prif adroddiad.

Prif ganfyddiadau

O ran dyluniad y GDLlC (AB) a'r amcanion polisi, canfu'r adolygiad y canlynol:

  • mae'r cynllun yn parhau i lenwi bwlch clir mewn cymorth ariannol i ddysgwyr sy'n oedolion sy'n awyddus i ddychwelyd i addysg bellach, neu symud ymlaen yn y maes hwnnw. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried diffyg cymorth tebyg ac anghymhwystra llawer o ddysgwyr sy'n oedolion i fanteisio ar y Gronfa Ariannol Wrth Gefn. Yn hynny o beth, mae'r cynllun yn cyfrannu at amcan Llywodraeth Cymru o gynyddu nifer yr oedolion o oedran gweithio sy'n cyflawni cymhwyster Lefel 3.
  • mae nifer y dyfarniadau GDLlC (AB) wedi gostwng dros amser, ac mae nifer y dysgwyr a gefnogir wedi haneru dros y degawd diwethaf. Gwnaed 7,825 o ddyfarniadau yn ystod 2011/12 o'i gymharu â 3,070 yn ystod 2023/24 (Ceisiadau llwyddiannus ar gyfer Llywodraeth Cymru Dysgu Addysg Bellach y Cynulliad yn ôl y math o sefydliad, blwyddyn academaidd a dull astudio (StatsCymru))
  • mae'r rhai sy'n derbyn GDLlC (AB) bellach yn cynrychioli 2.5% o'r holl ddysgwyr addysg bellach sy'n oedolion 19 oed a throsodd, sef gostyngiad o 5% o gymharu â 2015/16. Mae gwariant y cynllun hefyd wedi gostwng ers 2017/18, o £5.5 miliwn i £3.4 miliwn yn 2023/24 (Ceisiadau llwyddiannus ar gyfer Llywodraeth Cymru Dysgu Addysg Bellach y Cynulliad yn ôl dull astudio, incwm dros ben, blwyddyn academaidd a mesur (StatsCymru))
  • yn gynyddol, mae'r grant yn cefnogi grŵp llai o ddysgwyr, yn enwedig y rhai sy'n astudio Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a'r rhai sydd wedi cofrestru ar raglenni byw'n annibynnol a sgiliau bywyd. Ymddengys fod y duedd hon yn gysylltiedig â'r ffaith bod trothwyon incwm aelwydydd wedi aros yn eu hunfan, sydd wedi lleihau effeithiolrwydd y cynllun o ran mynd i'r afael â rhwystrau ariannol i grŵp ehangach o ddysgwyr.

O ran effaith y GDLlC (AB) ar ddysgwyr, canfu'r adolygiad y canlynol:

  • prin yw dylanwad y cynllun ar benderfyniadau dysgwyr i gofrestru gan y byddai'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r arolwg wedi cofrestru p'un a fyddent yn derbyn y grant ai peidio. Fe wnaeth cyfanswm o 70% o'r ymgeiswyr aflwyddiannus a holwyd ddechrau eu hastudiaethau a pharhau â nhw heb gyllid
  • roedd dysgwyr hŷn a ffoaduriaid yn fwy tebygol o adrodd bod y grant wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i astudio, er bod ffoaduriaid hefyd yn aml yn nodi y byddent wedi cofrestru beth bynnag, gan ddangos patrwm o ddylanwad cynnil
  • roedd y grant wedi cael effaith gadarnhaol ar gyfraddau presenoldeb a chyfraddau cadw myfyrwyr, ac ychydig iawn o dderbynyddion y grant a adawodd eu cyrsiau'n gynnar. Roedd y grant yn aml yn helpu i dalu costau byw a chostau'n gysylltiedig â chyrsiau, gan alluogi dysgwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau.
  • roedd y gofynion cymhwystra yn ymwneud â dilyniant ar draws lefelau cymwysterau yn cael eu monitro'n effeithiol gan Ganolfannau Dysgu yn gyffredinol, ar wahân i rai eithriadau lle y defnyddiodd dysgwyr y grant i ehangu eu sgiliau ar gyrsiau ar yr un lefel neu ar lefel is
  • roedd dros hanner y derbynyddion a holwyd a gwblhaodd neu a adawodd gwrs a ariannwyd gan GDLlC (AB) wedi mynd ymlaen i ddilyn hyfforddiant neu ei ennill cymwysterau pellach, gan ddangos cyfraniad ystyrlon at ddilyniant pellach. Fodd bynnag, roedd llai o ddilyniant ymhlith dysgwyr ESOL ac roedd hynny'n gyfyngedig i gyrsiau ar Lefel 3 neu is yn bennaf, gydag ambell un yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 neu uwch
  • dysgwyr ar raglenni byw'n annibynnol a sgiliau bywyd oedd y lleiaf tebygol o symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch. O ran y grŵp hwn, mae deilliannau o ran cyflogaeth a datblygiad personol yn bwysig o ystyried eu bod yn cefnogi Carreg Filltir Genedlaethol Llywodraeth Cymru o sicrhau bod o leiaf 90% o bobl 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050

O ran y ffordd y gweinyddwyd y cynllun, canfu'r adolygiad y canlynol:

  • nid oedd llawer o ymwybyddiaeth o GDLlC (AB) ymhlith darpar ymgeiswyr cyn iddynt gofrestru. Mae'r rhan fwyaf yn dysgu am y grant drwy diwtoriaid, diwrnodau agored a gweithgareddau cofrestru. Caiff y grant ei hyrwyddo'n effeithiol o fewn colegau ond ni chaiff ei hyrwyddo i'r cyhoedd i'r un graddau
  • mae cyflwyno system ymgeisio ar-lein wedi gwella'r profiad o wneud cais, ond mae rhai grwpiau gan gynnwys dysgwyr hŷn, ffoaduriaid, a'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn wynebu mwy o rwystrau i wneud cais. 
  • gall rhai ymgeiswyr gamgymryd y cam cofrestru am y broses ymgeisio lawn ac mae eraill yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r ddogfennaeth angenrheidiol i brofi eu bod yn gymwys. Byddai rhai ymgeiswyr hefyd yn elwa o gael fersiwn fwy hygyrch neu haws ei deall o'r ffurflen gais 
  • yn gyffredinol, mae staff Canolfannau Dysgu o'r farn bod y broses o weinyddu'r cynllun yn hylaw, ond mae cefnogi rhai ymgeiswyr (e.e., dysgwyr ESOL) yn gofyn am adnoddau ychwanegol
  • mae mabwysiadu Cytundebau Dysgu digidol wedi gwella'r gallu i fonitro presenoldeb ac ymgysylltiad. Mae'r rhan fwyaf o'r derbynyddion a holwyd yn cofio llofnodi cytundeb, ac adroddwyd bod cydymffurfiaeth â gofynion presenoldeb yn uchel
  • mae gwelliannau i awtomeiddio casglu data ar bresenoldeb wedi gwella prosesau talu a monitro. Nododd y rhan fwyaf o'r derbynyddion a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod wedi derbyn taliadau ar amser, ond nododd rhai eu bod wedi profi oedi. Gofynnodd rhai hefyd am amserlenni talu mwy hyblyg
  • mae diffyg eglurder yn y canllawiau ynghylch a yw dysgwyr yn anghymwys os ydynt wedi astudio cwrs o'r blaen ar yr un lefel neu wedi astudio cymhwyster lefel uwch heb gymorth GDLlC (AB)

O ran cymhwystra ar gyfer y cynllun a gwerth y cymorth, canfu'r adolygiad y canlynol:

  • mae'r trothwyon incwm aelwydydd a fabwysiadwyd ar gyfer y GDLlC (AB) yn rhy isel ac yn eithrio llawer o ddysgwyr sy'n profi caledi gwirioneddol. Roedd hyn yng nghyd-destun pryderon ariannol yn cael effaith gymedrol ar arferion bwyta tua hanner yr ymatebwyr i'r arolwg ac effaith fwy difrifol ar tua thraean ohonynt. Ceir diffyg cyfatebiaeth rhwng trothwyon incwm y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a'r GDLlC (AB) sy'n creu gostyngiad sydyn yn y cymorth i ddysgwyr sy'n symud ymlaen i ddarpariaeth oedolion
  • mae dau fath o ddysgwr wedi'u heithrio rhag cael mynediad at gymorth GDLlC (AB): y rhai sy'n ymgymryd â chyrsiau AB Lefel 4 nad ydynt yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr addysg uwch; a dysgwyr rhan-amser nad ydynt yn bodloni'r gofyniad o isafswm o 275 o oriau cyswllt y flwyddyn
  • er nad yw dysgwyr o bell yn gymwys ychwaith, mae pryderon ynghylch sut i fonitro eu presenoldeb a'u hymgysylltiad yn ei gwneud yn anodd argymell ymestyn y cymhwystra i'r grŵp hwn. Fodd bynnag, wrth i ddysgu digidol a darpariaeth hybrid barhau i dyfu a bod dysgwyr o bell yn dal i wynebu costau i astudio, dylid ystyried adolygu'r cymhwystra ar gyfer y math hwn o ddarpariaeth yn barhaus 
  • mae'r cynnydd diweddar yng ngwerth y GDLlC (AB) yn cael ei groesawu'n eang gan ddysgwyr a staff Canolfannau Dysgu a dylid ei gadw a'i gynyddu yn y blynyddoedd i ddod yn unol â chwyddiant
  • mae'r amserlen dalu dymhorol bresennol yn gweithio i lawer ond mae rhai dysgwyr yn cael anawsterau o ran rheoli eu cyllid dros gyfnodau hwy

Argymhellion

Cynigir cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

Argymhelliad 1

Mae cyfle i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r GDLlC (AB) y tu hwnt i golegau a lleoliadau addysgol eraill. Gallai ymgysylltu'n ehangach drwy fannau cyhoeddus fel lleoliadau cymunedol, meddygfeydd teulu a llyfrgelloedd a phlatfformau digidol helpu i gyrraedd darpar ymgeiswyr yn gynharach wrth iddynt wneud eu penderfyniadau.

Argymhelliad 2

Mae angen datblygu deunyddiau hyrwyddo mwy hygyrch, gan gynnwys adnoddau digidol a hawdd eu deall, i helpu Canolfannau Dysgu i egluro'n glir pwy sy'n gymwys ar gyfer y cynlluniau, y broses ymgeisio a'r manteision.

Argymhelliad 3

Mae angen proses ymgeisio symlach, gan gynnwys cyfeirio dysgwyr at dudalen ymgeisio GDLlC (AB) ar ôl iddynt gofrestru ar-lein am gyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Argymhelliad 4

Byddai'n fuddiol pe gallai ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ddigidol fel rhan o'u cais a phe gallai Cyllid Myfyrwyr Cymru dderbyn mathau eraill o ddogfennau, fel 'cod rhannu' y Swyddfa Gartref ar gyfer ffoaduriaid.

Argymhelliad 5

Byddai'n werth ystyried sut y gellid rhoi rhagor o adnoddau i Ganolfannau Dysgu sy'n cael nifer fawr o geisiadau gan ddysgwyr nad ydynt yn gallu siarad Saesneg, er mwyn iddynt allu darparu'r cymorth angenrheidiol wedi'i deilwra sydd ei hangen ar y garfan hon.

Argymhelliad 6

Dylai'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ddarparu hyfforddiant a/neu sesiynau briffio amlach i staff Canolfannau Dysgu er mwyn sicrhau cysondeb o ran y ffordd y mae'r canllawiau'n cael eu cymhwyso mewn perthynas â phresenoldeb, dilyniant a meini prawf cymhwystra.

Argymhelliad 7

Dylid rhoi mwy o eglurhad ynghylch yr hyn y dylai dilyniant academaidd ei olygu fel rhan o'r canllawiau ac a yw dysgwyr sydd wedi astudio ar yr un lefel neu lefel uwch yn flaenorol yn gymwys i gael cymorth drwy'r GDLlC (AB) ai peidio.

Argymhelliad 8

Dylid gwneud rhai agweddau ar y ffurflen gais ar-lein yn orfodol, yn enwedig y cwestiynau am brofiad o ofal a phlant dibynnol, er mwyn casglu data monitro gwell am gyfradd y deilliannau llwyddiannus i ddysgwyr sy'n agored i niwed. Gellir defnyddio'r data hyn yn eu tro i lywio datblygiad y cynllun.

Argymhelliad 9

Dylai'r ffurflen gais ofyn i ymgeiswyr nodi lefel a phwnc eu cwrs. Byddai modd casglu'r wybodaeth hon yn well drwy opsiynau caeedig yn hytrach na blychau testun agored er mwyn gwella'r data monitro sydd ar gael ar gyfer pynciau a lefel yr astudiaethau y mae derbynyddion GDLlC (AB) yn eu dilyn.

Argymhelliad 10

Dylid cadw gwerth presennol y GDLlC (AB) a rhoi prosesau ar waith i gynyddu gwerth y grant yn unol â chynnydd mewn chwyddiant a chostau byw, a hynny'n flynyddol, os bydd adnoddau ariannol yn caniatáu.

Argymhelliad 11

Yn amodol ar yr adnoddau ariannol sydd ar gael, dylid cynyddu'r trothwyon incwm aelwydydd ar gyfer cymhwystra y GDLlC (AB). Dylai'r trothwy incwm aelwyd uchaf ar gyfer dysgwyr llawnamser gyd-fynd â'r trothwy incwm ar gyfer yr LCA, gan roi ystyriaeth i ddull yr LCA o osod trothwyon incwm gwahanol ar gyfer dysgwyr sy'n dod o aelwydydd â phlant dibynnol ychwanegol. At hynny, dylid codi'r trothwyon incwm aelwydydd a osodwyd ar gyfer symiau grant is ar gyfer y GDLlC (AB) ac ar gyfer dysgwyr rhan-amser mewn modd cymesur. Dylid adolygu trothwyon incwm aelwydydd yn flynyddol i adlewyrchu'r cynnydd mewn chwyddiant.

Argymhelliad 12

Yn amodol ar yr adnoddau ariannol sydd ar gael, dylid ymestyn y GDLlC (AB) i gynnwys dysgwyr addysg bellach sy'n ymgymryd â chymwysterau Lefel 4 nad ydynt yn cael eu cefnogi gan addysg uwch.

Argymhelliad 13

Dylid ystyried lleihau nifer yr oriau cymwys ar gyfer dysgwyr rhan-amser cymwys.

Argymhelliad 14

Dylid adolygu'n barhaus yr achos dros gynnwys dysgwyr sy'n dysgu o bell yn y GDLlC (AB).

Argymhelliad 15

Dylid ymchwilio i a fyddai gweinyddu model talu mwy amserol, fel taliadau misol, yn opsiwn costeffeithiol.

Manylion cyswllt

Awduron: Nia Bryer, Heledd Bebb, a Tanwen Grover, Ymchwil OB3

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cangen Addysg a Sgiliau Ôl-16
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 32/2026
ISBN digidol 978 1 83745 179 1

Image
GSR logo