Neidio i'r prif gynnwys

Adolygiad o weithrediad y rhaglen Bwndeli Babi

Mae Cangen Ymchwil Plant a Theuluoedd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r gwaith o weithredu'r rhaglen Bwndeli Babi. Nod yr adolygiad hwn yw creu darlun clir o sut mae'r rhaglen Bwndeli Babi yn cael ei gweithredu, nodi unrhyw broblemau cynnar sy'n effeithio ar gyrhaeddiad a darpariaeth y rhaglen, a llywio gwelliannau uniongyrchol i'r gwasanaeth a'r gwaith o ddylunio gwerthusiad allanol.

Fel rhan o'r adolygiad hwn, bydd y Gangen Ymchwil Plant a Theuluoedd yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar gyfer gweithwyr proffesiynol a allai fod â rôl o ran hyrwyddo'r rhaglen, ei darparu neu gefnogi mynediad ati.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y gwaith ymchwil. Bydd y Gangen Ymchwil Plant a Theuluoedd yn dileu data personol cyn llunio'r adroddiad ac ni fydd yn darparu data y gellir eu defnyddio i’ch adnabod yn bersonol i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn inni wneud hynny.

Bydd crynodeb o ganfyddiadau'r adolygiad hwn, ynghyd â'r camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb, yn cael eu rhannu â Matronau Cymunedol, Ymwelwyr Iechyd, Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, timau Dechrau'n Deg a phartneriaid cyflawni perthnasol eraill. Gallwch hefyd ddewis cael copi yn uniongyrchol trwy ddarparu eich manylion cyswllt proffesiynol ar ddiwedd yr arolwg.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynllunio gwaith gwerthuso pellach ar gyfer y Bwndeli Babi, gyda disgwyl i'r gwaith hwnnw gael ei gynnal gan sefydliad ymchwil annibynnol a gontractiwyd gan Lywodraeth Cymru. Ar ddiwedd yr arolwg, gallwch nodi a hoffech inni gysylltu â chi ynghylch cymryd rhan yn y gwaith ymchwil pellach hwn.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn ddewis cwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig inni er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Yr enw cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Llywodraeth Cymru yw: Abigail Kelly.

Cyfeiriad e-bost: Abigail.kelly@llyw.cymru

Pa ddata personol yr ydym yn eu dal, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.

Byddwch chi wedi cael gafael ar yr arolwg hwn drwy ddolen a rannwyd drwy rwydweithiau proffesiynol yr ydych yn rhan ohonynt. Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'r ddolen i'r arolwg â Matronau Cymunedol, Fforwm Ymwelwyr Iechyd Cymru, timau Dechrau'n Deg a chydweithwyr Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd sydd eisoes yn ymwneud â chyflwyno'r rhaglen Bwndeli Babi ac sydd mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru. Gofynnwyd i'r cysylltiadau hyn gylchredeg yr arolwg i weithwyr proffesiynol perthnasol a allai fod â rôl o ran hyrwyddo'r rhaglen, ei darparu neu gefnogi mynediad ati.

Nid yw'r ymchwil yn ei gwneud yn ofynnol casglu data personol ychwanegol oddi wrthych. Fodd bynnag, ar ddiwedd yr arolwg hwn, byddwch yn cael yr opsiwn i ddarparu eich cyfeiriad e-bost proffesiynol os byddech yn hoffi:

  • Cael copi o'r 'crynodeb o'r canfyddiadau' o'r ymchwil hon, gan gynnwys sut mae adborth gan weithwyr proffesiynol perthnasol ym maes iechyd yn llywio datblygiad parhaus y rhaglen 
  • Clywed gennym ni ynglŷn â chymryd rhan mewn gwerthusiad o'r rhaglen Bwndeli Babi yn y dyfodol - gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynllunio ac y disgwylir iddo gael ei gynnal gan sefydliad ymchwil annibynnol a gontractiwyd gan Lywodraeth Cymru.

Gallwch ddewis cael y 'crynodeb o'r canfyddiadau', clywed gennym ni am y gwerthusiad yn y dyfodol, neu'r ddau. Dim ond at y dibenion a ddewiswyd gennych chi y bydd y Gangen Ymchwil Plant a Theuluoedd yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost. Mae cymryd rhan yn ddewis gwirfoddol ac os penderfynwch yn ddiweddarach nad ydych am gymryd rhan, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn ac fe gaiff eich manylion eu dileu.

Os byddwch yn dewis rhoi data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion y byddwch yn eu darparu, na chysylltu eich enw â'r rhain. 

  • Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n gwneud cwyn ac yn rhoi data personol er mwyn cael ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon eich cais, ac wedyn bydd yn ei ddileu o ddata’r ymchwil.

Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Mae cymryd rhan yn ddewis cwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ynghylch ei gallu i gyflawni ei blaenoriaethau. Gallai’r wybodaeth a gesglir yn ystod y gwaith ymchwil hwn gael ei defnyddio, er enghraifft, i wneud y canlynol:

  • deall sut mae'r rhaglen Bwndeli Babi yn cael ei darparu yn ymarferol ar draws gwahanol ardaloedd o Gymru
  • nodi cyfleoedd i wella darpariaeth y rhaglen, trefniadau cyfathrebu ac arweiniad i weithwyr proffesiynol
  • llywio penderfyniadau am ddatblygiad y rhaglen Bwndeli Babi yn y dyfodol 
  • cefnogi gweithgareddau monitro, ymchwil a gwerthuso yn y dyfodol mewn perthynas â Bwndeli Babi

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi cael ei chreu ar gyfer y prosiect hwn, a dim ond y tîm ymchwil sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect sydd â mynediad ati. Caiff eich manylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch wedi dewis eu rhoi inni eu storio yn y ffolder gyfyngedig hon. Ni fydd ymchwilwyr yn darparu unrhyw wybodaeth bersonol wrth gyflwyno adroddiadau am ganfyddiadau i'r tîm polisi.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw SmartSurvey. Rydym wedi sicrhau bod SmartSurvey yn cydymffurfio â GDPR y DU a'i bod yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd. 

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion posibl o dorri rheolau diogelu data. Os amheuir bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 

Bydd y Gangen Ymchwil Plant a Theuluoedd yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei rannu â swyddogion Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith datblygu polisi. Bydd crynodeb o'r canfyddiadau hefyd yn cael ei rannu â rhanddeiliaid allanol sy'n ymwneud â chyflwyno'r rhaglen Bwndeli Babi. Ni fydd yr adroddiad na'r crynodeb yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Am faint rydym yn cadw’ch data personol?

Os ydych chi'n darparu cyfeiriad e-bost, dim ond at y dibenion a ddewiswyd gennych y bydd y Gangen Ymchwil Plant a Theuluoedd yn ei gadw. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei ddileu o fewn chwe mis ar ôl i chi gael y crynodeb o'r canfyddiadau a/neu glywed gennym ni ynglŷn â chymryd rhan yn y gwerthusiad o'r rhaglen Bwndeli Babi yn y dyfodol.

Hawliau'r unigolyn

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi fel rhan o'r adolygiad hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld copi o'ch data eich hun 
  • gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar y gwaith o brosesu'r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn i'ch data gael eu 'dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru  
Parc Cathays  
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno. 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a roddir fel rhan o'r astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio GDPR y DU, dyma’r manylion cyswllt: Abigail.kelly@llyw.cymru.