Neidio i'r prif gynnwy

Esbonnir sut y caiff caniatâd aelodau staff y darparwr i weinyddu Cynnig Gofal Plant Cymru ei reoli.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Caniatáu i staff ychwanegol reoli’r lleoliad

Rhaid i chi actifadu'r lleoliad i ganiatáu i aelodau eraill o staff ymuno â chyfrif y lleoliad a chael yr un breintiau a chaniatâd â'r person arweiniol, megis, cyflwyno ceisiadau am daliadau.

Bydd angen i chi rannu rhif Cynnig Gofal Plant y lleoliad (a gaiff ei ddarparu ar ôl i chi gofrestru), y rhif AGC/Ofsted, y rhif SIN, cod post y lleoliad, a’r PIN Actifadu gyda’r aelod o staff gan y bydd angen iddyn nhw fewnbynnu’r wybodaeth hon.

Unwaith y bydd yr aelod o staff wedi cyflwyno ei gais i ymuno â'r lleoliad, bydd angen i chi ei actifadu ar eich dangosfwrdd.

Unwaith y byddan nhw wedi ymuno â'r lleoliad ar y gwasanaeth digidol cenedlaethol, byddan nhw hefyd yn gallu actifadu rhagor o aelodau staff sy'n gwneud cais i ymuno.

Ymuno â lleoliad sy’n bodoli eisoes

Er mwyn ymuno â chyfrif ar gyfer lleoliad gofal plant sydd eisoes wedi cofrestru ar wasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru, bydd angen ichi fewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych chi gyfrif Porth y Llywodraeth, bydd angen ichi greu cyfrif cyn bwrw ymlaen.

Er mwyn ymuno â'r lleoliad, bydd angen i chi ddewis yr opsiwn ‘Ymuno â lleoliad sydd eisoes wedi’i gofrestru ar y gwasanaeth digidol cenedlaethol.’

Yna byddwch chi’n cael eich gofyn i ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • rhif lleoliad y Cynnig Gofal Plant a ddarparwyd pan gafodd y lleoliad ei gofrestru ar y gwasanaeth digidol cenedlaethol
  • rhif cofrestru AGC neu Ofsted ar gyfer y lleoliad
  • y rhif SIN os yw'r lleoliad wedi'i gofrestru yng Nghymru. Mae modd dod o hyd i hwn ar ohebiaeth AGC i'ch lleoliad ac mae ar gael drwy fewngofnodi i AGC ar-lein
  • cod post y lleoliad
  • y PIN Actifadu a ddarparwyd i'r person arweiniol a gofrestrodd y lleoliad ar y gwasanaeth digidol

Gall aelod o staff sydd wedi ymuno ag un lleoliad hefyd ymuno â lleoliad arall.

Defnyddwyr sy’n gadael lleoliad

Mae'r lleoliad yn gyfrifol am symud staff o gyfrif y lleoliad pan fyddan nhw'n gadael eu cyflogaeth i atal unrhyw fynediad heb awdurdod. I wneud hyn, mae angen i chi ddewis y swyddogaeth berthnasol ar ddangosfwrdd eich lleoliad. Mae gan yr Awdurdod Lleol y swyddogaeth hon hefyd, os oes angen.