Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae sicrhau bod digon o dai fforddiadwy ar gael yng Nghymru yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae'r lefelau uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr mewn rhai cymunedau ac effaith bosibl hynny ar y tai sydd ar gael a pha mor fforddiadwy ydynt, ynghyd â dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol sy’n ffynnu, wedi bod yn bwnc trafod ers tro. Fel y dengys gwaith ymchwil diweddar, mae'r materion yn gymhleth ac nid oes un ateb i bopeth (Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru adroddiad gan Dr Simon Brooks). Dyma pam mae'n rhaid inni edrych ar yr ystod lawn o gamau y gallwn eu cymryd.

Ar 6 Gorffennaf, nododd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, “ddull tair elfen uchelgeisiol” er mwyn mynd i'r afael â phroblemau fforddiadwyedd ac effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ar gymunedau a'r Gymraeg. Mae'r dull tair elfen yn gweithio tuag at y canlynol:

  • cefnogaeth – rhoi sylw i ba mor fforddiadwy yw tai ac i ba raddau y maent  ar gael
  • fframwaith a system rheoleiddio – edrych ar y gyfraith gynllunio a chyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau
  • cyfraniad tecach – defnyddio systemau treth lleol a chenedlaethol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i’r cymunedau lle maent yn prynu.

Dilynwyd hyn ar 23 Tachwedd gan gyhoeddiad y caiff cynllun peilot aml-gam ei gynnal i brofi effaith gronnol nifer o ymyriadau yn ardal Dwyfor, Gwynedd. Bydd cam cyntaf y cynllun peilot yn cynnwys mesurau cymorth ymarferol a fydd yn ceisio gwneud gwahaniaeth i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i bobl leol, ac mae bwriad i gyflwyno mesurau cynllunio a threthu yn ystod ail gam y cynllun, yn dibynnu ar ganlyniad gwaith ymgynghori. Yr ymgynghoriad hwn yw’r trydydd mewn cyfres o ymgyngoriadau ar fesurau cynllunio a threthu, yn dilyn rhai ynghylch trethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar a deddfwriaethpholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Rydym hefyd yn ymgynghori ar ein Cynllun Cymunedau Cymraeg.

Fel rhan o'r dull gweithredu hwn, rydym yn ystyried newidiadau posibl i'r dreth trafodiadau tir er mwyn cefnogi gwaith arall i reoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar amrywiadau lleol i'r dreth trafodiadau tir er mwyn adlewyrchu'r heriau sy'n wynebu marchnadoedd tai lleol. Ni ddisgwylir y bydd newidiadau i'r dreth trafodiadau tir ar eu pen eu hunain yn ddigon i ddatrys y problemau sy'n gysylltiedig â chrynodiadau uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Fodd bynnag, gall newidiadau i'r dreth trafodiadau tir, ynghyd â chamau gweithredu eraill, wneud cyfraniad a allai wneud gwahaniaeth gyda'i gilydd.

Cyflwyniad

Mae Cymru wedi hen arfer croesawu ymwelwyr ac mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'n heconomi. Fodd bynnag, pan fo nifer uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr mewn rhai cymunedau, gall hyn gael effaith ar gynaliadwyedd y cymunedau hynny. Mae effeithiau posibl hefyd ar y farchnad dai mewn ardaloedd lle mae ail gartrefi a llety gwyliau yn boblogaidd. Caiff pryderon eu codi'n aml am effaith ail gartrefi a llety gwyliau ar faint o dai sydd ar gael a pha mor fforddiadwy ydynt i bobl sy'n byw'n barhaol yn yr ardal, neu sy'n dymuno aros yn yr ardal, yn enwedig pobl ifanc.

Yn gynharach eleni, comisiynodd Llywodraeth Cymru waith ymchwil i edrych ar ymyriadau rhyngwladol a meithrin dealltwriaeth well o gyffredinrwydd ac effeithiau ail gartrefi ar gymunedau ledled Cymru (Ymchwil i Ddatblygu Sylfaen Dystiolaeth ar Ail Gartrefi). Roedd y gwaith ymchwil hwn wedi amlygu natur leol ail gartrefi, a welir yn bennaf mewn ardaloedd arfordirol, gwledig ac yng Nghaerdydd ac Abertawe. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod crynodiad uwch o ail gartrefi mewn rhai cymunedau nag eraill o fewn awdurdodau lleol.

Mae'r gwaith ymchwil yn cydnabod bod ail gartrefi yn rhan o ystod ehangach o ffactorau sy'n dylanwadu ar ba mor fforddiadwy yw tai, a'i bod yn anodd gwahanu eu heffaith oddi wrth ffactorau eraill fel cyflogau cyfartalog, y gallu i fenthyca, a'r mathau o dai sydd ar gael. Er mai dim ond un o blith ystod o ffactorau a gaiff eu hystyried gan bobl sy'n prynu eiddo yw'r dreth trafodiadau tir o bosibl, gallai ddylanwadu ar y farchnad fel rhan o gyfres ehangach o ymatebion polisi. Treth gyfnodol yw’r dreth  trafodiadau tir, y gellir ond ei chodi ar adeg prynu eiddo, felly nid yw'n debygol o gael effaith fawr ar y gyfran bresennol o lety gwyliau neu ail gartrefi mewn cymuned yn y tymor byr i'r tymor canolig. Fodd bynnag, gallai helpu i leihau nifer y pryniannau yn y dyfodol a thros y tymor hwy a gall fod yn ddefnyddiol fel rhan o gyfres ehangach o ymatebion i fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar sut y gellir gwneud newidiadau i'r dreth trafodiadau tir er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl sy'n awyddus i brynu cartrefi i fyw ynddynt yn barhaol. Yn arbennig, mae'r ymgynghoriad yn cynnig amrywiadau lleol i'r dreth trafodiadau tir er mwyn adlewyrchu'r heriau sy'n wynebu rhai cymunedau ac mae'n ceisio barn ar y canlynol:

  • maint yr ardaloedd lle gallai amrywiadau lleol gael eu cyflwyno, er enghraifft, ardaloedd awdurdodau lleol cyfan neu gymunedau llai
  • y dull o nodi'r ardaloedd lle gallai cyfraddau gwahanol fod yn gymwys 
  • y mathau o drafodiadau a allai fod yn destun cyfraddau gwahanol mewn ardaloedd lleol.

Nid oes diffiniad penodol o ail gartref. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried sut rydym yn diffinio ail gartrefi yn ein gwaith. Mae'n bosibl y gellir defnyddio un diffiniad cytûn yn y dyfodol, neu y gellir cysoni diffiniadau'n well. Yn yr un modd, fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn dod i'r casgliad bod rhesymau da dros ddefnyddio diffiniadau gwahanol at ddibenion gwahanol. Yn yr ymgynghoriad hwn, mae “ail gartref” yn cyfeirio at eiddo preswyl nad yw'n brif breswylfa'r perchennog ac a gaiff ei ddefnyddio'n achlysurol gan y perchennog, ei deulu a ffrindiau. Mae “llety gwyliau tymor byr” yn cyfeirio at eiddo preswyl nad yw'n brif breswylfa'r perchennog ac a gaiff ei osod yn rheolaidd ar sail fasnachol. Mewn rhai achosion, bydd yr eiddo yn perthyn i'r ddau gategori, “ail gartref” a “llety gwyliau”, ar sail y diffiniadau hyn. Rydym wrthi'n ymgynghori ar newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio sy'n cynnig y byddai eiddo'n cael ei ystyried yn ail gartref pe bai'n cael ei feddiannu am 183 o ddiwrnodau neu lai ac yn llety gwyliau tymor byr pe bai'n cael ei osod am gyfnod heb fod yn hwy na 31 o ddiwrnodau ar gyfer pob cyfnod meddiannu.

Cyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir

Y sefyllfa bresennol

Cafodd y dreth trafodiadau tir ei chyflwyno yn lle treth dir y dreth stamp yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Mae'r dreth trafodiadau tir yn dreth genedlaethol sy'n daladwy pan brynir tir neu eiddo yng Nghymru. Mae cyfraddau a bandiau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o drafodiadau ym mha le bynnag y caiff eiddo ei brynu yng Nghymru. Caiff y dreth ei chasglu a'i rheoli gan Awdurdod Cyllid Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r cyfraddau preswyl uwch (cyfraddau uwch) fel arfer yn gymwys pan fo cwmni'n prynu eiddo preswyl, neu pan fo unigolyn yn prynu eiddo preswyl a'i fod eisoes yn berchen ar un eiddo preswyl neu fwy. Mae cyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir wedi bod yn gymwys ers i'r dreth gael ei chyflwyno yn lle treth dir y dreth stamp ac fe'u pennwyd yn wreiddiol dri phwynt canran yn uwch na'r prif gyfraddau, cyn cael eu cynyddu i bedwar pwynt canran ychwanegol ar 22 Rhagfyr 2020.

Prif gyfraddau preswyl y dreth trafodiadau tir
Trothwy prisiau Cyfradd y dreth trafodiadau tir
Y gyfran hyd at a chan gynnwys £180,000 0%
Y gyfran dros £180,000 hyd at a chan gynnwys £250,000 3.5%
Y gyfran dros £250,000 hyd at a chan gynnwys £400,000 5%
Y gyfran dros £400,000 hyd at a chan gynnwys £750,000 7.5%
Y gyfran dros £750,000 hyd at a chan gynnwys £1,500,000 10%
Y gyfran dros £1,500,000 12%
LTT higher residential rates
Trothwy prisiau Cyfradd y dreth trafodiadau tir (prif gyfradd +4%)
Y gyfran hyd at a chan gynnwys £180,000 4%
Y gyfran dros £180,000 hyd at a chan gynnwys £250,000 7.5%
Y gyfran dros £250,000 hyd at a chan gynnwys £400,000 9%
Y gyfran dros £400,000 hyd at a chan gynnwys £750,000 11.5%
Y gyfran dros £750,000 hyd at a chan gynnwys £1,500,000 14%
Y gyfran dros £1,500,000 16%

Mae'r cyfraddau uwch yn golygu bod pobl sydd eisoes yn berchen ar brif breswylfa ac sy'n prynu ail gartref yn talu mwy o dreth trafodiadau tir ar hyn o bryd na phobl sy'n prynu eu hunig eiddo preswyl. Yn yr un modd, mae pobl sy'n prynu eiddo preswyl i'w ddefnyddio fel llety gwyliau tymor byr hefyd yn talu mwy o dreth trafodiadau tir ar hyn o bryd na rhywun sy'n prynu ei unig eiddo preswyl, os ydynt yn berchen ar eiddo preswyl yn barod. Yn ogystal, ar hyn o bryd, codir treth uwch pan fo cwmnïau'n prynu llety gwyliau tymor byr. Fodd bynnag, gan fod y cyfraddau uwch yn gymwys i bob eiddo preswyl ychwanegol a brynir gan unigolion a phob pryniant gan gwmnïau, mae'r cyfraddau hyn yn gymwys i fathau eraill o drafodiadau hefyd, na chaiff llawer ohonynt eu hystyried yn ail gartrefi neu'n llety gwyliau ar y cyfan.

Gall cyfraddau uwch y dreth fod yn gymwys hefyd wrth brynu'r canlynol:

  • eiddo prynu i osod a fydd yn darparu llety rhent i'w feddiannu fel prif breswylfa
  • eiddo a brynir cyn gorffen gwerthu eiddo blaenorol gGellir hawlio ad-daliadau os caiff yr eiddo dan sylw ei brynu yn lle prif breswylfa flaenorol a gaiff ei gwerthu o fewn tair blynedd i brynu'r brif breswylfa newydd)
  • eiddo a brynir i roi cartref i berthnasau neu ddibynyddion, er enghraifft, eiddo a brynir ar y cyd rhwng plentyn sy'n oedolyn a'i rieni er mwyn i'r plentyn fyw ynddo, neu eiddo a brynir fel prif breswylfa i berson hŷn dibynnol neu berthynas sy'n agored i niwed
  • eiddo a brynir i'w adnewyddu a'i ailwerthu
  • eiddo a brynir gan landlordiaid cymdeithasol preswyl (fodd bynnag, gellir hawlio rhyddhad yn aml)
  • eiddo a brynir gan gyflogwr i ddarparu llety sydd ei angen er mwyn i'w gyflogai gyflawni ei waith
  • eiddo a brynir at ddibenion busnes eraill, er enghraifft, fel llety i bobl sy'n agored i niwed neu bobl fethedig
  • eiddo a brynir gan awdurdodau lleol
  • eiddo a brynir fel bod gan berson sydd â phrif breswylfa rywle arall gartref yn agosach at ei fan gwaith.

Prif ddiben y dreth trafodiadau tir yw codi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru, ac mae'r cyfraddau uwch yn cyfrif am gyfran sylweddol o'r refeniw a godir drwy'r dreth. Yn 2020-21, o'r £154 miliwn a godwyd drwy'r holl drafodiadau preswyl, codwyd £66 miliwn drwy'r dreth ychwanegol a oedd yn ddyledus o dan y cyfraddau uwch. Roedd cyfran y dreth a godwyd drwy'r cyfraddau uwch yn arbennig o uchel y flwyddyn honno, o ganlyniad i effeithiau cyfunol y cynnydd o 1 pwynt canran ym mhob un o fandiau'r cyfraddau uwch o 22 Rhagfyr 2020 a chynnydd dros dro yn y trothwy cyfradd sero ar gyfer y prif gyfraddau preswyl o 27 Gorffennaf 2020 tan 30 Mehefin 2021, nad oedd yn gymwys i'r cyfraddau uwch. Fodd bynnag, mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r cyfraddau uwch wedi cyfrannu cyfran sylweddol o'r refeniw a godwyd o hyd. Yn 2019-20, o'r £161 miliwn a godwyd drwy'r holl drafodiadau preswyl, codwyd £60 miliwn drwy'r dreth ychwanegol a oedd yn ddyledus o dan y cyfraddau uwch.

Newidiadau arfaethedig

Er mai prif ddiben y dreth trafodiadau tir yw codi refeniw, mae modd cysoni'r ffordd y caiff refeniw ei godi ag amcanion polisi ehangach, gan gynnwys mynd i'r afael ag effaith niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai cymunedau. Ar hyn o bryd, nid oes modd amcangyfrif yr effaith y gallai newidiadau posibl ei chael ar refeniw, gan y bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau y mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn arnynt, yn ogystal â'r cyfraddau a gaiff eu cymhwyso. Yn dibynnu ar gynllun y polisi, gallai'r newidiadau posibl gynyddu refeniw os caiff trethi eu codi. Fodd bynnag, mae newidiadau i drethi hefyd yn debygol o arwain at rai ymatebion ymddygiadol hefyd, fel lleihad mewn trafodiadau, a all wrthbwyso unrhyw gynnydd posibl mewn refeniw yn rhannol neu'n gyfan gwbl. Gallai fod yn ddymunol gweld lleihad mewn rhai mathau o drafodiadau, yn enwedig os bydd hyn yn newid y cymysgedd trafodiadau a meddiannaeth mewn ardaloedd, gyda chyfran uwch o drafodiadau prif gyfraddau o gymharu â thrafodiadau cyfraddau uwch. Felly, nod y newidiadau posibl hyn fyddai cyfrannu at ganlyniadau polisi, nid cynyddu refeniw. Fodd bynnag, gall y newidiadau arfaethedig hefyd arwain at newidiadau mewn refeniw y gall fod iddynt oblygiadau posibl o ran adnoddau Llywodraeth Cymru yn gyffredinol.

Mae'r gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a gwaith ymchwil Dr Simon Brooks ill dau yn dangos natur leol ail gartrefi. Felly, mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymchwilio i'r rôl y gall y dreth trafodiadau tir ei chwarae wrth ddarparu ymateb lleol. 

Mae adroddiad Dr Brooks yn argymell y canlynol:

“Dylai fod modd amrywio cyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir mewn un ai siroedd neu wardiau llywodraeth leol er mwyn adlewyrchu amgylchiadau lleol. Er mwyn cyflawni hyn:

  1. Gallai Llywodraeth Cymru ddirprwyo i gynghorau sir hawl i amrywio cyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir, gan greu’r potensial i ychwanegu cyfradd bellach at y dreth o hyd at 4% o werth yr ail eiddo mewn rhai rhannau o Gymru.
  2. Neu, gallai Llywodraeth Cymru amrywio cyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir yn y dull hwn mewn wardiau llywodraeth leol penodol yr effeithir arnynt yn ddwys gan y broblem ail gartrefi.”

Er bod yr adroddiad yn cydnabod bod ffyrdd gwahanol y gallai newidiadau i'r dreth trafodiadau tir adlewyrchu'r heriau y gall nifer uchel o ail gartrefi  a llety gwyliau eu hachosi mewn rhai cymunedau, dylid nodi nad yw'n bosibl dirprwyo cyfrifoldeb am bennu cyfraddau'r dreth i awdurdodau lleol heb newid deddfwriaeth sylfaenol y Deyrnas Unedig. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2014, yn galluogi'r Senedd i ddeddfu ynghylch trethi datganoledig, gan gynnwys y dreth trafodiadau tir. Nid yw Deddf 2006 yn caniatáu i'r Senedd ddirprwyo'r pwerau hyn i gorff arall, fel awdurdodau lleol. Gan fod y dreth trafodiadau tir yn dreth genedlaethol ddatganoledig ac nid yn dreth leol, ni all y Senedd alluogi awdurdodau lleol i wneud newidiadau i gyfraddau'r dreth yn eu hardaloedd. Byddai modd i awdurdodau lleol gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r amrywiadau i gyfraddau uwch y dreth yn eu hardaloedd. Fodd bynnag, dim ond y Senedd a all ddeddfu ar gyfer y dreth a Gweinidogion Cymru fyddai'n gyfrifol o hyd am unrhyw benderfyniad i amrywio cyfraddau'r dreth.

Cynigir, felly, y gallai Llywodraeth Cymru ddarparu ar gyfer cynyddu cyfraddau'r dreth ar gyfer rhai trafodiadau mewn ardaloedd y nodir bod angen cymorth arnynt i reoli problemau sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi a llety gwyliau.

C1. Ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyfraddau'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr mewn ardaloedd lle mae achos â thystiolaeth dros wneud hynny?

Ar hyn o bryd, fel treth genedlaethol, nid oes fframwaith yn bodoli ar gyfer amrywiadau lleol o fewn y dreth trafodiadau tir a byddai angen gwneud nifer o benderfyniadau ynghylch sut y gellid darparu ar gyfer amrywiadau lleol ac, felly, rydym yn ceisio barn ar sut y dylid cymhwyso unrhyw newidiadau.

Maint yr ardaloedd lle gallai amrywiadau gael eu gwneud

Os yw Llywodraeth Cymru am gynyddu cyfraddau'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau mewn lleoliadau penodedig, gellid gwneud hyn ar gyfer ardaloedd mwy, fel ardal awdurdod lleol, neu ar gyfer ardaloedd llai, fel ward awdurdod lleol. 

Mae cyfran yr ail gartrefi yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau lleol. Ym mis Awst 2021, Wrecsam, Torfaen a Blaenau Gwent a gofnododd y cyfrannau isaf o ail gartrefi y codir y dreth gyngor arnynt, gyda llai na phum eiddo ym mhob un yn cael eu cofnodi yn ail gartrefi trethadwy (Ail gartrefi y codir y dreth gyngor arnynt yng Nghymru, ONS 2021). Cofnododd awdurdodau lleol eraill gyfrannau llawer uwch o ail gartrefi trethadwy, gyda Gwynedd ac Ynys Môn yn cofnodi'r cyfrannau uchaf o ail gartrefi trethadwy (9.5% ac 8.1% yn y drefn honno). Un ffordd o amrywio cyfraddau'r dreth yn lleol fyddai cynyddu'r cyfraddau ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hynny lle ceir problemau'n gysylltiedig ag ail gartrefi a llety gwyliau.

Mae'r dystiolaeth yn dangos hefyd fod cyfran yr ail gartrefi yn amrywio'n sylweddol o fewn awdurdodau lleol. Er enghraifft, er mai Gwynedd sydd â'r gyfran uchaf o ail gartrefi trethadwy yn gyffredinol, mae ardaloedd yng Ngwynedd lle mae cyfran yr ail gartrefi trethadwy gymaint â 29.9% ac eraill lle mae'r gyfran cyn lleied â 0.69% (cyfran yr anheddau y gellir codi'r dreth gyngor arnynt a gaiff eu cyfrif yn ail gartrefi ar gyfer ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol, ibid). Un ffordd arall o amrywio cyfraddau'r dreth yn lleol yw cynyddu'r cyfraddau ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau mewn ardaloedd lleol iawn, fel wardiau neu godau post penodol.

Byddai unrhyw amrywiadau lleol i'r dreth trafodiadau tir yn creu ffiniau ychwanegol ar gyfer y dreth a fyddai'n ychwanegu at gymhlethdod y system drethu. Byddai amrywio cyfraddau rhwng awdurdodau lleol yn ei gwneud yn bosibl i'r dreth adlewyrchu amgylchiadau lleol, gan gyfyngu ar nifer y ffiniau newydd posibl ar gyfer y dreth. Byddai defnyddio ardaloedd awdurdodau lleol hefyd yn cyd-fynd â'r ffiniau ar gyfer y dreth gyngor ac yn adlewyrchu'r ffiniau trethi eiddo presennol.

Diben amrywiadau lleol i'r cyfraddau uwch fyddai ei gwneud yn bosibl i godi mwy o dreth ar ail gartrefi a llety gwyliau a brynir mewn ardaloedd lle mae cyffredinrwydd yr eiddo hyn yn creu problemau i gymunedau lleol. Opsiwn arall, felly, fyddai amrywio'r cyfraddau mewn ardaloedd mwy lleol lle mae dwyseddau uchel o ail gartrefi a llety gwyliau. Gallai'r opsiwn hwn fod yn fwy ymatebol, gan y byddai modd newid yr ardaloedd lle mae'r cyfraddau yn gymwys dros amser, wrth i'r sefyllfa newid. Fodd bynnag, ni fyddai newidiadau rhy aml i gyfraddau mewn ardaloedd gwahanol yn creu system drethu sefydlog, nac yn rhoi eglurder a sicrwydd i drethdalwyr.

Mewn unrhyw ardal lle gallai cynnydd yng nghyfraddau'r dreth trafodiadau tir fod yn gymwys, byddai angen adolygu'r angen am gyfraddau gwahanol ym mhob ardal yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae'n debygol po leiaf fo'r ardal y mwyaf tebygol y bydd angen gwneud newidiadau ar ôl adolygiad. Disgwylir hefyd y bydd newidiadau i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir yn fwy effeithiol o ran arafu'r cynnydd yn nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau yn hytrach na lleihau nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau sy'n bodoli eisoes. Gellir dadlau, felly, y byddai'n fwy effeithiol cynyddu cyfraddau mewn ardaloedd lle nad yw lefelau'r eiddo hyn yn creu problemau eto, ond lle mae perygl y byddant yn cynyddu, er mwyn atal problemau rhag codi. Gall mwy o'r ardaloedd hyn gael eu cwmpasu os caiff cyfraddau eu hamrywio ar gyfer ardaloedd mwy. Gallai fod yn bosibl ymdrin â chymunedau sydd  “mewn perygl” gan ddefnyddio dull gweithredu mwy lleol ond byddai angen cynnwys nifer mwy o ardaloedd. Hefyd, pe bai cyfraddau'n cael eu cynyddu mewn cymunedau llai yn hytrach nag ar draws awdurdodau lleol cyfan, gallai hyn olygu y bydd mwy o ail gartrefi yn cael eu prynu mewn ardaloedd eraill.

C2. Mewn ardaloedd o ba faint y dylai’r amrywiadau lleol i’r cyfraddau gael eu defnyddio yn eich barn chi - awdurdodau lleol cyfan neu gymunedau llai yn unig?

Y dull o nodi’r ardaloedd lle gallai cyfraddau gwahanol fod yn gymwys

Beth bynnag fo maint yr ardal lle caiff cyfraddau'r dreth trafodiadau tir eu cynyddu, byddai angen ystyried yn ofalus sut y gwneir penderfyniadau am yr ardaloedd y dylai cynnydd o'r fath fod yn gymwys iddynt a byddai angen dull clir ar gyfer gwneud y penderfyniadau hynny.

Gellid ystyried nifer o ffactorau er mwyn penderfynu a oes angen cynyddu cyfraddau mewn ardal benodol. Gallai'r ffactorau perthnasol gynnwys y canlynol:

  • canran yr eiddo preswyl yn yr ardal sy'n ail gartrefi neu'n llety gwyliau (heb gynnwys eiddo na ellir ei feddiannu drwy gydol y flwyddyn) 
  • pris cyfartalog tŷ lleol o gymharu ag incwm lleol
  • yr effaith bosibl ar y Gymraeg.

Un opsiwn fyddai i Lywodraeth Cymru bennu meini prawf yn seiliedig ar rai o’r ffactorau uchod neu bob un ohonynt (neu ffactorau eraill a nodir). Yna, pe bai'r meini prawf yn cael eu bodloni mewn ardal benodol, byddai'r cyfraddau'n cael eu cynyddu. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso mewn ffordd gyson ac yn rhoi eglurder a sicrwydd. Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd data cadarn ar gael ar gyfer rhai ffactorau mewn ardaloedd llai, sy'n golygu na fydd yr opsiwn hwn yn addas o bosibl os caiff cyfraddau eu hamrywio mewn ardaloedd mwy lleol.

Opsiwn arall fyddai i awdurdodau lleol gyflwyno achos dros gynyddu cyfraddau yn eu hardal gyfan, neu ardaloedd penodol oddi mewn iddi. Byddai angen i awdurdodau lleol ddangos tystiolaeth bod angen cynyddu cyfraddau mewn ardal benodol, drwy gyfeirio at ffactorau perthnasol (fel y tri y cyfeiriwyd atynt uchod). Byddai'r opsiwn hwn o bosibl yn golygu y gellid ystyried y problemau sy'n bodoli mewn ardal yn fanylach a rhoi rôl i ddemocratiaeth leol. Gallai fod i'r gwaith hwn oblygiadau o ran adnoddau awdurdodau lleol, ond mae llawer o awdurdodau lleol eisoes yn casglu tystiolaeth am ardaloedd sy'n teimlo effaith ail gartrefi a llety gwyliau fel rhan o weithgareddau eraill i reoli eu heffaith a helpu i lywio elfennau eraill o'u dyletswyddau a'u gwasanaethau cyhoeddus.

C3. Yn eich barn chi, pa broses y dylid ei defnyddio i benderfynu a ddylai’r cyfraddau arfaethedig newydd fod yn gymwys mewn ardal benodol?

C4. Os defnyddir meini prawf i benderfynu ym mha ardaloedd y mae’r cyfraddau arfaethedig newydd yn gymwys, pa feini prawf y dylid eu defnyddio yn eich barn chi?

Yn ogystal â phenderfynu yn y lle cyntaf y dylai ardaloedd penodedig fod yn rhai lle gwneir newidiadau i  gyfraddau, byddai angen adolygu'n rheolaidd pa mor briodol ydyw bod y cynnydd yn parhau i fod yn gymwys yn yr ardaloedd hynny. Yn yr un modd, byddai angen penderfynu a ddylid cynyddu’r cyfraddau mewn ardaloedd eraill. Byddai'n bwysig pennu cyfnod adolygu priodol sy'n caniatáu i newidiadau mewn amgylchiadau gael eu hadlewyrchu'n briodol gan roi lefel resymol o sefydlogrwydd a sicrwydd ar yr un pryd.

C5. Beth yw eich barn chi ar ba mor rheolaidd y dylid adolygu ardaloedd lle mae cyfraddau wedi cael eu cynyddu?

Trafodiadau lle dylid defnyddio cyfraddau a gaiff eu hamrywio'n lleol

Yn ogystal ag ystyried yr ardaloedd lle byddai'n briodol amrywio cyfraddau'r dreth trafodiadau tir, hoffem gael eich barn hefyd ar y mathau o drafodiadau y dylid gosod cyfraddau uwch arnynt mewn rhai ardaloedd.

Un opsiwn fyddai amrywio'r cyfraddau uwch presennol yn ôl lleoliad, fel bod y cyfraddau uwch presennol yn parhau i fod yn gymwys ledled Cymru ond eu bod yn cael eu cynyddu mewn ardaloedd penodedig. Byddai pob trafodiad sy'n agored i'r cyfraddau uwch ar hyn o bryd naill ai'n parhau i dalu'r cyfraddau uwch cenedlaethol presennol neu'r cyfraddau uwch wedi’u cynyddu sy'n gymwys yn yr ardal lle mae'r eiddo wedi'i leoli.

Opsiwn arall fyddai cyflwyno cyfraddau newydd a fyddai ond yn gymwys i ail gartrefi a llety gwyliau a brynir mewn ardaloedd penodedig. Byddai pob trafodiad arall sy'n agored i'r cyfraddau uwch yn yr ardal honno yn parhau i gael ei drethu ar y cyfraddau uwch presennol.

Byddai cyflwyno cyfraddau newydd a fyddai ond yn gymwys i drafodiadau i brynu ail gartrefi a llety gwyliau yn cynnig ymateb mwy penodol i'r problemau sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai cymunedau. Drwy ddewis yr opsiwn hwn, ni fyddai unrhyw gynnydd mewn cyfraddau ar fathau eraill o drafodiadau sy'n agored i'r cyfraddau uwch.

Os caiff y cyfraddau uwch presennol eu cynyddu, gall fod goblygiadau i'r sector rhentu preifat; yn benodol, gall gael effaith ar yr eiddo sydd ar gael i'w rentu am dymor hir a'r rhent sy'n daladwy ar eiddo o'r fath. Byddai cynyddu'r cyfraddau uwch presennol hefyd yn cynyddu'r dreth ar fathau eraill o drafodiadau, gan gynnwys pontio rhwng prynu cartref newydd a gwerthu cartref blaenorol. Er bod ad-daliadau ar gael ar gyfer y cyfraddau uwch sy'n gymwys wrth brynu prif breswylfa newydd os caiff y brif breswylfa flaenorol ei gwerthu o fewn tair blynedd i brynu'r brif breswylfa newydd, gallai cynnydd mewn costau a delir ymlaen llaw olygu bod pontio yn anymarferol mewn rhai achosion.

Os na chaiff cyfraddau gwahanol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau eu cyflwyno byddai'n rhaid ystyried effaith unrhyw gynnydd ar fathau eraill o drafodiadau wrth benderfynu a fyddai'n briodol cynyddu'r cyfraddau uwch yn yr ardal gyfan.

Fodd bynnag, er mwyn codi cyfraddau gwahanol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau, byddai'n rhaid ystyried defnydd bwriadedig eiddo ar adeg prynu'r eiddo hwnnw. Ar hyn o bryd, mae'r dreth sy'n daladwy yn seiliedig ar y ffeithiau ar adeg y trafodiad, gan gynnwys a fydd y prynwr yn berchen ar fwy nag un eiddo preswyl yn y pen draw. Byddai ystyried defnydd bwriadedig yn cymhlethu'r broses o weithredu'r dreth trafodiadau tir yn sylweddol oherwydd efallai fod gan drethdalwyr fwriadau cymysg neu ansicr, neu gall y bwriad hwnnw newid dros amser. Mae dull gweithredu sy'n seiliedig ar ddefnydd bwriadedig y prynwr o eiddo yn oddrychol ac felly gall fod yn wallus a gall gael ei gamddefnyddio o bosibl.

Gallai maint yr ardal arfaethedig ar gyfer cynyddu’r cyfraddau ddylanwadu ar y penderfyniad i gyflwyno cyfraddau gwahanol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau yn unig. Er enghraifft, os caiff y cyfraddau eu cynyddu dros ardal awdurdod lleol i gyd, yna gall fod yn fwy buddiol cael cyfraddau gwahanol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau er mwyn lleihau'r effaith ar fathau eraill o drafodiadau. Gall hyn fod yn arbennig o wir os oes ardaloedd o fewn yr awdurdod lleol lle ceir lefelau is o ail gartrefi, a/neu ddibyniaeth sylweddol ar y sector rhentu preifat i ddarparu tai. Fodd bynnag, os caiff cyfraddau eu hamrywio ar lefel fwy lleol, yna byddai'r cynnydd yn y cyfraddau uwch yn effeithio ar lai o drafodiadau. Gall hyn yn ei dro leihau'r angen i gymhwyso'r cyfraddau i ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn unig.

C6. Beth yw eich barn ar y canlynol:

  • amrywio'r cyfraddau uwch presennol ar gyfer pob trafodiad y mae’r gyfradd uwch yn berthnasol iddo mewn ardal benodedig? neu
  • cyflwyno cyfraddau newydd sydd ond yn gymwys i eiddo a brynir y bwriedir ei ddefnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr mewn ardal benodedig?

C7. Ydy maint yr ardal (yr awdurdod lleol i gyd neu ardaloedd llai oddi mewn iddo) y byddai'r cynnydd mewn cyfraddau yn gymwys iddi yn dylanwadu ar eich barn ynghylch a oes angen cyfraddau gwahanol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr?

Os ystyrir bod cyfraddau gwahanol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn briodol, byddai angen pennu pa drafodiadau cyfradd uwch y byddai’r cyfraddau newydd wedi’u cynyddu yn berthnasol iddynt, a pha rai y byddai’r cyfraddau presennol yn dal yn berthnasol iddynt. Oherwydd yr heriau sy’n codi wrth ystyried y defnydd y bwriedir ei wneud o’r eiddo, mae’n bosibl mai’r ffordd fwyaf eglur o fynegi pa gyfraddau sy'n gymwys i bob trafodiad fyddai nodi pa drafodiadau eiddo fydd yn parhau i dalu'r cyfraddau uwch presennol ac y bydd pob trafodiad arall yn talu'r cyfraddau newydd wedi’u cynyddu ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau.

I gyflawni hyn, byddai angen rhestr gynhwysfawr o'r trafodiadau sy'n agored i'r cyfraddau uwch ar hyn o bryd ond nad ydynt yn ymwneud â phrynu ail gartrefi na llety gwyliau tymor byr. Pe bai cyfraddau gwahanol yn cael eu cyflwyno, cynigir y byddai'r mathau canlynol o drafodiadau yn parhau i dalu'r cyfraddau uwch presennol, yn hytrach na'r cyfraddau wedi’u cynyddu ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr:

  • eiddo prynu i osod a fydd yn darparu llety rhent i'w feddiannu fel prif breswylfa, 
  • eiddo a brynir cyn cwblhau'r broses o werthu eiddo blaenorol (a bydd ad-daliad ar gael o hyd os bydd y trafodiad yn disodli prif breswylfa flaenorol a gaiff ei gwerthu o fewn tair blynedd i brynu'r brif breswylfa newydd)
  • eiddo a brynir i roi prif breswylfa i berthnasau neu ddibynyddion, er enghraifft, eiddo a brynir ar y cyd rhwng plentyn sy'n oedolyn a'i rieni er mwyn i'r plentyn fyw ynddo, neu eiddo a brynir fel prif breswylfa i berson hŷn dibynnol neu berthynas sy'n agored i niwed
  • eiddo a brynir i'w adnewyddu a'i ailwerthu
  • eiddo a brynir gan landlordiaid cymdeithasol preswyl, a bydd y rhyddhad presennol ar gael o hyd,
  • eiddo a brynir gan gyflogwr i ddarparu llety sydd ei angen er mwyn i'w gyflogai gyflawni ei waith, 
  • eiddo a brynir at ddibenion busnes eraill, er enghraifft, fel llety i bobl sy'n agored i niwed neu bobl eiddil
  • eiddo a brynir gan awdurdodau lleol
  • eiddo a brynir fel bod gan berson sydd â phrif breswylfa rywle arall gartref yn agosach at ei fan gwaith os oes rhaid iddo fod yn y lleoliad hwnnw at ddibenion gwaith
  • eiddo a brynir fel ail gartref/llety gwyliau tymor byr, lle mae gan yr eiddo amodau meddiannu dan gyfyngiadau sy'n golygu na ellid byw ynddo drwy gydol y flwyddyn

Os caiff cyfraddau eu cynyddu, cynigir y dylent fod yn gymwys i ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Mae llety gwyliau tymor byr yn gwneud cyfraniad pwysig i'r economi dwristiaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, mae llawer o'r problemau sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi hefyd yn gysylltiedig â llety gwyliau tymor byr. Am mai dim ond mewn ardaloedd lleol lle mae problemau sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o eiddo y cynigir y dylid cynyddu cyfraddau, ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai'n gymesur i gynyddu cyfraddau ar gyfer llety gwyliau tymor byr hefyd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae'r eiddo a ddefnyddir fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr yn destun cyfyngiadau cynllunio sy'n golygu na fyddai modd byw yn yr eiddo drwy gydol y flwyddyn. Gan nad oes modd i eiddo o'r fath gael eu defnyddio’n gyfreithlon fel cartrefi parhaol, cynigir na ddylai'r cynnydd mewn cyfraddau fod yn gymwys i'r mathau hyn o eiddo.

C8. Os caiff cyfraddau eu cynyddu, ydych chi'n cytuno y dylid eu cymhwyso i lety gwyliau tymor byr hefyd, yn ogystal ag ail gartrefi? Esboniwch eich ateb.

C9. Ydych chi'n cytuno na ddylid cynyddu cyfraddau ar gyfer eiddo na ellir byw ynddo drwy gydol y flwyddyn? Esboniwch eich ateb.

C10. Oes unrhyw drafodiadau cyfraddau uwch presennol, heblaw am ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, lle gallai cynyddu cyfraddau gael effaith gadarnhaol ar gymunedau yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.

Os ceir cyfraddau gwahanol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, efallai y bydd angen dull “adfachu” er mwyn gallu codi treth pan fo'r defnydd gwirioneddol a wneir o eiddo yn wahanol i'r defnydd bwriadedig a nodwyd ar adeg prynu'r eiddo. Ni fyddai angen hyn pe bai’r cyfraddau uwch presennol yn cael eu hamrywio, gan nad yw'r defnydd bwriadedig yn ystyriaeth berthnasol. Yn achos y dreth trafodiadau tir, mae sefyllfaoedd lle mae'n rhaid adfachu rhyddhad os bydd newidiadau'n digwydd ar ôl dyddiad y trafodiad (er enghraifft, rhaid i ryddhad grŵp gael ei dynnu yn ôl os bydd prynwr eiddo o gwmni grŵp arall yn gadael y grŵp o fewn tair blynedd i ddyddiad y trafodiad). Yn ôl y rheolau, rhaid i'r trethdalwr ailasesu ei atebolrwydd ac anfon ffurflen arall i dalu'r dreth ychwanegol pe na bai’r rhyddhad a hawliwyd gan y trethdalwr wedi bod yn ddilys ar ddyddiad y trafodiad a pe bai'r digwyddiad dilynol wedi bodoli ar neu cyn dyddiad y trafodiad.

Pe bai cyfraddau lleol ond yn gymwys i ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr, mae'n debygol y byddai amgylchiadau'n codi lle bydd y defnydd a wneir o eiddo yn newid dros amser. Er enghraifft, efallai y bydd person yn caffael eiddo i'w ddefnyddio fel eiddo prynu i osod ac yn ei rentu ar sail hirdymor fel cartref parhaol am gyfnod o amser ond ei fod wedyn yn dechrau gosod yr eiddo fel llety gwyliau tymor byr. Mewn amgylchiadau o'r fath, gall fod yn ddymunol i'r trethdalwr orfod talu'r dreth ychwanegol a fyddai wedi bod yn daladwy pe bai wedi nodi ar ddyddiad prynu'r eiddo mai ei fwriad oedd defnyddio'r eiddo fel llety gwyliau tymor byr. Byddai'n bwysig bod rheol yn sicrhau, os bydd y bwriad hwnnw'n newid o fewn cyfnod penodol o amser ar ôl y trafodiad, na fydd y gyfundrefn drethu, na bwriad polisi Llywodraeth Cymru, yn cael eu niweidio os bydd y bwriad hwnnw'n newid yn fuan ar ôl y trafodiad. I'r gwrthwyneb, weithiau y caiff eiddo ei gaffael er mwyn ei ddefnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau a bod y defnydd hwnnw'n newid i ddefnydd na fyddai wedi bod yn agored i'r cynnydd yng nghyfraddau'r dreth trafodiadau tir.

Cynigir y bydd angen rheolau adfachu os caiff cyfraddau'r dreth trafodiadau tir eu cynyddu ar gyfer eiddo a brynir ac y bwriedir ei ddefnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr. Fodd bynnag, rydym yn gofyn barn ynghylch a yw cyfnod adfachu yn briodol i fynd i'r afael â newidiadau yn nefnydd bwriadedig yr eiddo, am ba mor hir y dylai'r cyfnod adfachu bara, ac a ddylid darparu cyfnod ad-dalu hefyd.

C11. Ydych chi'n cytuno y dylid cael rheol adfachu fel y dylai'r trethdalwr orfod cyflwyno ffurflen newydd a thalu'r dreth ychwanegol os bydd defnydd eiddo, o fewn cyfnod penodol ar ôl dyddiad y trafodiad, yn newid i ddefnydd sy’n golygu y byddai’r cynnydd yn y cyfraddau wedi bod yn berthnasol iddo?

C12. Oes unrhyw amgylchiadau lle byddai rheolau adfachu o'r fath yn gymwys, ond na fyddent yn briodol nac yn deg yn eich barn chi?

C13. Pe bai rhywun yn prynu eiddo gyda'r bwriad o'i ddefnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr ond nad yw'r eiddo yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd hon yn y diwedd, a ddylai'r trethdalwr allu cael ad-daliad o'r dreth ychwanegol yn eich barn chi?

C14. Pa gyfnod o amser fyddai'n briodol ar gyfer cyfnod adfachu a/neu ad-dalu, yn eich barn chi?

C15. Os caiff cyfraddau eu cyflwyno sy'n golygu bod yn rhaid ystyried defnydd bwriadedig, oes gennych chi unrhyw sylwadau ynglŷn â sut y gellid llunio hynny mewn ffordd sy’n symleiddio’r broses gydymffufio i drethdalwyr, drwy leihau’r siawns o wneud camgymeriad?

Effeithiau ar y Gymraeg

Gall rhai ardaloedd sydd â chanran uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr fod hefyd yn gymunedau sydd â chyfran uchel, neu draddodiad, o drigolion Cymraeg, lle mae’r Gymraeg yn iaith y gymuned. Felly, mewn rhai cymunedau, gall ail gartrefi gael effaith hefyd ar y defnydd a wneir o'r Gymraeg yn y cymunedau hynny. Fodd bynnag, fel y nododd Dr Brooks, er y gall cynnydd mewn ail gartrefi mewn cymunedau gael effaith negyddol ar y Gymraeg, efallai na fyddai ceisio gwrthdroi hyn yn sydyn, gan droi ail gartrefi yn brif breswylfeydd, o fudd i'r Gymraeg chwaith (Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru adroddiad gan Dr Simon Brooks). Yn y cyd-destun hwnnw, gellid ystyried bod y dreth trafodiadau tir yn gymharol fwy effeithiol o ran lleihau'r cynnydd y gallai rhai cymunedau ei weld yn nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn y tymor hwy, yn hytrach na lleihau'r nifer yn sydyn, sy'n golygu y byddai’r dreth yn cael mwy o effaith dros y tymor canolig i'r tymor hir.

Er mwyn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r ffordd y gallai'r dreth trafodiadau tir effeithio ar y Gymraeg, ac yn enwedig y cymunedau hynny sy'n ei defnyddio yn bennaf, hoffem gael eich barn ar yr effeithiau tebygol y byddai'r cynigion yn eu cael ar y Gymraeg. Yn benodol, hoffem wybod sut y gallai'r cynigion effeithio ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

C16. Pa effeithiau y gallai'r cynigion hyn eu cael ar y Gymraeg a chymunedau sy'n defnyddio'r Gymraeg yn bennaf, yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

C17. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau ychwanegol mewn perthynas â'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr nad ydynt wedi cael eu trin yn benodol, nodwch nhw yma.

Y camau nesaf

Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi'r holl ymatebion ac yn cyhoeddi crynodeb ar ein gwefan. Bydd yr ymatebion yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisi eang ar ail gartrefi a'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi. Bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud penderfyniad ar sut i fwrw ymlaen â'r cynigion.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

C1. Ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyfraddau'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr mewn ardaloedd lle mae achos â thystiolaeth dros wneud hynny?

C2. Mewn ardaloedd o ba faint y dylai’r amrywiadau lleol i’r cyfraddau gael eu defnyddio yn eich barn chi - awdurdodau lleol cyfan neu gymunedau llai yn unig?

C3. Yn eich barn chi, pa broses y dylid ei defnyddio i benderfynu a ddylai’r cyfraddau arfaethedig newydd fod yn gymwys mewn ardal benodol?

C4. Os defnyddir meini prawf i benderfynu ym mha ardaloedd y mae’r cyfraddau arfaethedig newydd yn gymwys, pa feini prawf y dylid eu defnyddio yn eich barn chi?

C5. Beth yw eich barn chi ar ba mor rheolaidd y dylid adolygu ardaloedd lle mae cyfraddau wedi cael eu cynyddu? Os defnyddir meini prawf i benderfynu ym mha ardaloedd y mae’r cyfraddau arfaethedig newydd yn gymwys, pa feini prawf y dylid eu defnyddio yn eich barn chi?

C6. Beth yw eich barn ar y canlynol:

  • amrywio'r cyfraddau uwch presennol ar gyfer pob trafodiad y mae’r gyfradd uwch yn berthnasol iddo mewn ardal benodedig? neu
  • cyflwyno cyfraddau newydd sydd ond yn gymwys i eiddo a brynir y bwriedir ei ddefnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr mewn ardal benodedig?

C7. Ydy maint yr ardal (yr awdurdod lleol i gyd neu ardaloedd llai oddi mewn iddo) y byddai'r cynnydd mewn cyfraddau yn gymwys iddi yn dylanwadu ar eich barn ynghylch a oes angen cyfraddau gwahanol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr?

C8. Os caiff cyfraddau eu cynyddu, ydych chi'n cytuno y dylid eu cymhwyso i lety gwyliau tymor byr hefyd, yn ogystal ag ail gartrefi? Esboniwch eich ateb.

C9. Ydych chi'n cytuno na ddylid cynyddu cyfraddau ar gyfer eiddo na ellir byw ynddo drwy gydol y flwyddyn? Esboniwch eich ateb.

C10. Oes unrhyw drafodiadau cyfraddau uwch presennol, heblaw am ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, lle gallai cynyddu cyfraddau gael effaith gadarnhaol ar gymunedau yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.

C11. Ydych chi'n cytuno y dylid cael rheol adfachu fel y dylai'r trethdalwr orfod cyflwyno ffurflen newydd a thalu'r dreth ychwanegol os bydd defnydd eiddo, o fewn cyfnod penodol o amser ar ôl dyddiad y trafodiad, yn newid i ddefnydd sy’n golygu y byddai’r cynnydd yn y cyfraddau wedi bod yn berthnasol iddo?  

C12. Oes unrhyw amgylchiadau lle byddai rheolau adfachu o'r fath yn gymwys, ond na fyddent yn briodol nac yn deg yn eich barn chi?

C13. Pe bai rhywun yn prynu eiddo gyda'r bwriad o'i ddefnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr ond nad yw'r eiddo yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd hon yn y diwedd, a ddylai'r trethdalwr allu cael ad-daliad o'r dreth ychwanegol yn eich barn chi? 

C14. Pa gyfnod o amser fyddai'n briodol ar gyfer cyfnod adfachu a/neu ad-dalu, yn eich barn chi?

C15. Os caiff cyfraddau eu cyflwyno sy'n golygu bod yn rhaid ystyried defnydd bwriadedig, oes gennych chi unrhyw sylwadau ynglŷn â sut y gellid llunio hynny mewn ffordd sy’n symleiddio’r broses gydymffufio i drethdalwyr, drwy leihau’r siawns o wneud camgymeriad?

C16. Pa effeithiau y gallai'r cynigion hyn eu cael ar y Gymraeg a chymunedau sy'n defnyddio'r Gymraeg yn bennaf, yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

C17. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau ychwanegol mewn perthynas â'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr nad ydynt wedi cael eu trin yn benodol, nodwch nhw yma.

Sut i ymateb

Anfonwch eich sylwadau erbyn 28 Mawrth 2022, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad.

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG44179

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.