Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nid oes un ffynhonnell ddata wedi'i anelu'n benodol at ddeall perchnogaeth ail gartrefi. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o ffynonellau data a gasglwyd at amrywiaeth o ddibenion, ac am gyfnodau gwahanol o amser, yn gallu darparu rhywfaint o wybodaeth am ail gartrefi a chartrefi gwyliau. Mae'r rhain yn cynnwys Cyfrifiad 2021, data Treth Gyngor, data Treth Trafodiadau Tir a data Ardrethi Annomestig. Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r ffynonellau hyn – y diffiniadau a ddefnyddir, cryfderau, cyfyngiadau, argaeledd data, ac yn amlygu rhai o'r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau. Mae hefyd yn tynnu sylw at y pwyntiau allweddol ar gyfer y cyfnod amser diweddaraf ar gyfer pob un o'r ffynonellau (mae hyn yn amrywio rhwng ffynonellau).

Prif bwyntiau

  • Nid oes diffiniad cyffredin na safonol o 'ail gartref’. Defnyddir diffiniadau gwahanol mewn setiau data, gan fod pob un yn cael ei gasglu at ddiben penodol.
  • Ni ddylai ffynonellau data y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn gael eu cymharu'n uniongyrchol na'u cyfuno, oherwydd:
    • gwahanol ddiffiniadau
    • cwmpas amrywiol a gorgyffwrdd rhwng ffynonellau
    • natur ‘cipolwg’ rhai o'r ffynonellau a chyfnodau cyfeirio gwahanol.

Cyfrifiad 2021

  • Casglodd Cyfrifiad 2021 wybodaeth am bobl oedd fel arfer yn byw yng Nghymru a Lloegr ac a ddywedodd eu bod yn aros am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn mewn ail gyfeiriad. Casglwyd gwybodaeth am leoliad a phwrpas yr ail gyfeiriad, ond ni ofynnwyd cwestiynau am berchenogaeth.  
  • Roedd bron i 100,000 o ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio yng Nghymru adeg Cyfrifiad 2021.  O'r rheiny, roedd bron i 40,000 yn gyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall, 24,000 yn gyfeiriad cartref myfyrwyr a 10,070 yn dai gwyliau. Roedd enghreifftiau eraill o ail gyfeiriadau yn cynnwys cyfeiriad wrth weithio oddi cartref, cyfeiriad y lluoedd arfog a chyfeiriad partner.
  • Roedd 10,070 o ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau yng Nghymru, cyfradd o 6.9 o gartrefi gwyliau i bob 1,000 o anheddau. Dywedodd 36,370 o bobl eu bod wedi defnyddio ail gyfeiriad (am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn) fel cartref gwyliau yng Nghymru, sy'n cyfateb i 11.7 o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau ar gyfer pob 1,000 o breswylwyr arferol.  Roedd y crynodiadau o dai gwyliau ar eu huchaf ar hyd ardaloedd arfordirol yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.
  • Nid yw'r Cyfrifiad yn nodi pob eiddo a ddefnyddir fel 'cartrefi gwyliau' neu osodiadau tymor byr – mae'n seiliedig ar eiddo sy'n cael ei ddefnyddio fel ail gyfeiriad am o leiaf 30 diwrnod o'r flwyddyn.

Y dreth gyngor

  • Diffinnir ail gartref at ddibenion treth gyngor fel annedd nad yw'n unig gartref neu'n brif gartref person, sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol ac a feddiannir yn gyfnodol.
  • Yn 2023-24, amcangyfrifir bod 24,170 o ail gartrefi yng Nghymru lle mae'r dreth gyngor yn daladwy (cartrefi trethadwy) (2% o'r holl gartrefi trethadwy). Mae'r nifer hwn wedi aros yn gymharol sefydlog dros y pum mlynedd diwethaf. Ar lefel awdurdod lleol yn 2023-24, mae'r gyfran hon ar ei huchaf yng Ngwynedd (8.3% o'r holl gartrefi trethadwy) a Sir Benfro (6.5% o'r holl gartrefi trethadwy).

Y Dreth Trafodiadau Tir

  • Mae'r Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy ar ôl prynu eiddo preswyl. Codir y dreth ar sail un o’r canlynol:
    • ardrethi busnes: fel arfer pan nad yw'r prynwr eisoes yn berchen ar unrhyw anheddau eraill, neu pan fo'r prynwr yn disodli ei brif breswylfa
    • cyfraddau uwch: fel arfer pan fo'r prynwr eisoes yn berchen ar eiddo preswyl eraill, neu ar gyfer pryniannau gan gwmnïau
  • Yn hanesyddol, nid yw Awdurdod Cyllid Cymru wedi nodi’n uniongyrchol y defnydd arfaethedig o eiddo a brynir ar gyfraddau treth uwch, gan gynnwys i'w ddefnyddio fel ail gartref neu fel eiddo prynu i osod.
  • Yn 2021-22, roedd 23% o'r holl drafodiadau preswyl ar gyfraddau treth uwch.
  • Ac eithrio trafodiadau cyfraddau uwch a oedd yn bryniannau gan gwmnïau ac yn 'pontio' (prif breswylfa flaenorol sy’n disgwyl cael ei gwerthu), amcangyfrifwyd bod 15% o'r holl drafodion preswyl yn 2021-22 yn bryniannau gan unigolion (na chawsant eu prynu fel prif breswylfa).

Ardrethi annomestig

  • Mae ardrethi annomestig, y cyfeirir atynt yn aml fel ardrethi busnes, yn dreth leol lle mae perchnogion a meddiannwyr ('trethdalwyr') eiddo annomestig yn cyfrannu'n ariannol tuag at ddarparu gwasanaethau lleol.
  • Un o'r categorïau eiddo o fewn ardrethi annomestig yw eiddo sydd wedi'i gofrestru fel llety gwyliau hunanddarpar. Er mwyn dosbarthu'r math hwn o lety yn annomestig, rhaid i weithredwyr ddarparu tystiolaeth bod rhai meini prawf gosod yn cael eu bodloni.
  • Nid oes angen i lety gwyliau hunanddarpar gofrestru fel llety annomestig ac felly nid yw nifer yr eiddo hyn ar y rhestr ardrethi annomestig o reidrwydd yn adlewyrchiad cywir o'r holl lety gwyliau hunanddarpar yng Nghymru. Mae'r ffigurau’n cynnwys amrywiaeth o fathau o eiddo a ddefnyddir at y diben hwn.
  • Yn 2022-23, roedd tua 11,300 o lety gwyliau hunanddarpar ar y rhestr ardrethi annomestig (sef 8.8% o'r holl eiddo sy’n atebol am ardrethi annomestig). 

Gosodiadau tymor byr

  • Gall data o’r we o setiau data masnachol roi syniad o stoc dai sy'n cael ei defnyddio at ddibenion gosod tymor byr yn unig. Ond nid yw'r data hwn yn dweud unrhyw beth wrthym am berchnogaeth yr eiddo hynny ac a ydynt yn atebol am ardrethi annomestig neu’r dreth gyngor. 
  • Ar gyfer 2023 hyd yma, hysbysebwyd oddeutu 26,000 o eiddo unigryw fel gosodiad tymor byr. Mae hyn ond yn cynnwys eiddo y gellid ei ddefnyddio fel cartrefi ac nid yw'n cynnwys ystafelloedd sengl a llety amgen fel podiau glampio a iwrtiau.

Beth yw ‘ail gartrefi’?

Nid oes diffiniad cyffredin na safonol o 'ail gartref’. Yn ôl Gwaith ymchwil ar ail gartrefi: crynodeb o’r adolygiad o’r dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru:

Nid oes dealltwriaeth gyffredin na chyson o ail gartref y tu hwnt i’r consensws ei fod yn eiddo nad yw’n brif breswylfa i’r perchennog. ...Mae’r diffiniadau amryfal o ail gartrefi yn peri problemau penodol wrth geisio cael amcangyfrifon meintiol o leoliadau a nifer yr anheddau a ddefnyddir yn y modd hwn...

Mae diffiniadau gwahanol ar gyfer 'ail gartrefi' yn berthnasol wrth ymdrin ag amrywiol setiau data – gan fod pob un yn cael ei gasglu at ddiben gwahanol, gyda diffiniadau penodol yn cael eu defnyddio at ddibenion cynllunio ac at ddibenion treth, er enghraifft.

Gellir defnyddio ail gartref am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys fel cartref gwyliau preifat i'r perchennog neu fel cyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion gwaith (i aros ynddo wrth weithio i ffwrdd o’r prif gartref teuluol).

Nid oes diffiniad safonol ar gyfer 'cartref gwyliau', ac mae'r term hwn weithiau'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at ail gyfeiriad a ddefnyddir gan y perchennog/ perchnogion at ddibenion gwyliau personol, yn ogystal ag eiddo lle cynigir llety tymor byr. Mae gorgyffwrdd rhwng 'ail gartrefi' a 'chartrefi gwyliau’.

O fewn y cyd-destun cynllunio, mae newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio yng Nghymru (y 'Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd') yn gwahaniaethu’n glir rhwng prif breswylfeydd, cartrefi eilaidd a llety gwyliau tymor byr. Maent yn seiliedig ar nifer y diwrnodau y’u defnyddir. Ar 20 Hydref 2022 gwnaed newidiadau i'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) i greu dosbarthiadau defnydd newydd ar gyfer 'Tai annedd, a ddefnyddir fel unig breswylfa neu brif breswylfa' (Dosbarth C3), 'Tai annedd, heblaw am fel unig breswylfa neu brif breswylfa  (Dosbarth C5) a 'Gosodiadau byrdymor' (Dosbarth C6). Diwygiwyd Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (y GPDO) hefyd i ganiatáu newidiadau a ganiateir rhwng y dosbarthiadau defnydd newydd, C3, C5 a C6. Gellir datgymhwyso'r hawliau datblygu a ganiateir yma o fewn ardal benodol drwy Gyfarwyddyd Erthygl 4 a wneir gan awdurdod cynllunio lleol ar sail tystiolaeth leol gadarn.

Esbonnir y diffiniadau a ddefnyddir o fewn setiau data penodol yn fanylach yng ngweddill yr erthygl hon.

Cyfrifiad 2021

Pa ddata sydd ar gael?

Mae'r cyfrifiad yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bob 10 mlynedd ac mae'n casglu gwybodaeth am bobl ac aelwydydd yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 ym mis Mawrth 2021, yn ystod pandemig COVID-19.

Yn ogystal â nodi eu prif gyfeiriad, gofynnodd Cyfrifiad 2021 i bobl oedd yn arfer byw yng Nghymru a Lloegr a oeddent yn aros mewn cyfeiriad arall am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn. Os felly, gofynnwyd iddynt am y cyfeiriad (os o fewn y DU) a phwrpas yr ail gyfeiriad, gyda'r opsiynau canlynol:

  • cyfeiriad canolfan lluoedd arfog
  • cyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o gartref
  • cyfeiriad llawn myfyriwr
  • cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor
  • cyfeiriad rhiant neu warcheidwad
  • cyfeiriad partner
  • cyfeiriad cartref gwyliau
  • arall

Mae'r Cyfrifiad yn rhoi data i ni ar nodweddion pobl sydd ag ail gyfeiriad (gan gynnwys lleoliad eu cyfeiriad arferol) yn ogystal â lleoliad a math yr ail gyfeiriad. Fodd bynnag, ni chasglwyd gwybodaeth am berchnogaeth ail gyfeiriadau.

Mae data cyfrifiad ar gael ar gyfer amrywiaeth o ddaearyddiaethau gwahanol, gan gynnwys awdurdodau lleol, wardiau ac ardaloedd bach fel Ardaloedd Allbwn Haen Isaf sy’n rhan o’r hierarchaeth ardaloedd daearyddol ystadegol (SYG).

Beth mae'r data hwn yn ei ddweud wrthym am ail gyfeiriadau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru?

Cyhoeddodd SYG ddata Cyfrifiad 2021 ar leoliad ail gyfeiriadau a ddefnyddir (am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn) gan y rhai yr oedd eu prif gyfeiriad yng Nghymru neu yn Lloegr, ar 20 Mehefin 2023: Cartrefi gwyliau yng Nghymru a Lloegr

Dangosodd hyn fod bron i 100,000 o ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio yng Nghymru adeg Cyfrifiad 2021.  O'r rheiny, roedd bron i 40,000 yn gyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall, 24,000 yn gyfeiriad cartref myfyrwyr a 10,070 yn dai gwyliau. Roedd enghreifftiau eraill o ail gyfeiriadau yn cynnwys cyfeiriad wrth weithio oddi cartref, cyfeiriad y lluoedd arfog a chyfeiriad partner.

Cyhoeddodd yr SYG ddadansoddiad hefyd o ail gyfeiriadau a ddefnyddiwyd (am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn) fel cartrefi gwyliau o Gyfrifiad 2021. Cyhoeddwyd datganiad ystadegol cysylltiedig yn crynhoi'r prif bwyntiau i Gymru hefyd.

Ym mis Mawrth 2021, roedd 10,070 o ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau yng Nghymru. Roedd hyn yn cyfateb i gyfradd o 6.9 o gartrefi gwyliau fesul 1,000 o anheddau yng Nghymru, oedd yn uwch nag ar gyfer pob rhanbarth yn Lloegr heblaw am y De-orllewin. Roedd y crynodiadau o dai gwyliau ar eu huchaf ar hyd ardaloedd arfordirol yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.

Dywedodd 36,370 o bobl eu bod yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yng Nghymru oedd yn cyfateb i 11.7 o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau fesul 1,000 o breswylwyr arferol. Ar lefel awdurdod lleol, Gwynedd ac Ynys Môn oedd â'r gyfradd uchaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau, o'i gymharu â'r boblogaeth leol, o blith holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr (79.0 a 63.3 defnyddiwr fesul 1,000 o breswylwyr arferol, yn y drefn honno).

O'r 36,370 o bobl a oedd fel arfer yn byw yng Nghymru a Lloegr ac a nododd eu bod yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yng Nghymru, roedd 26,940 yn dod o Loegr.

Roedd tua dwy ran o dair (3,545) o'r rhai a ddefnyddiodd dai gwyliau yn Sir Benfro yn dod o Gymru, De Cymru yn bennaf.

Mae Ffigur 1 yn fap sy'n dangos ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau wedi ei fynegi fel cyfradd fesul 1,000 o anheddau, ar gyfer ardaloedd a elwir yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (SYG). Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol yn cynnwys rhwng 2,000 a 6,000 o aelwydydd.

Roedd y gyfradd ar ei huchaf yn Abersoch ac Aberdaron yng Ngwynedd, gyda 153.3 o ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau fesul 1,000 o anheddau. Roedd y gyfradd yn uwch na 50 mewn 13 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol yng Nghymru. Roedd y rhain ar hyd ardaloedd arfordirol yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.

Ffigur 1: Ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau (cyfradd fesul 1,000 o anheddau), Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol, Cymru, Cyfrifiad 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Map yn dangos ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau a fynegwyd fel cyfradd fesul 1,000 o anheddau, ar lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol. Disgrifir y map yn y sylwebaeth.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021, Cartrefi Gwyliau yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Mae mapiau ychwanegol ar gyfer ardaloedd cynnyrch ehangach haen is, a wardiau etholiadol ar gael. Ceir data pellach ar ail gyfeiriadau (pob categori nid dim ond cartrefi gwyliau) a defyddwyr ail gartrefi ar gael ar wefan SYG.

Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am breswylwyr yng Nghymru sydd ag ail gyfeiriad?

O’r rhai y mae eu prif gyfeiriad yng Nghymru, defnyddiodd 141,000 o bobl (4.5% o'r boblogaeth breswyl arferol) ail gyfeiriad yn y DU, sy’n gynnydd o 125,000 (4.1%) yn 2011. Defnyddiodd 21,000 o bobl eraill yng Nghymru (0.7%) ail gyfeiriad y tu allan i'r DU. 

Y mathau mwyaf cyffredin o ail gyfeiriadau oedd cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall (a ddefnyddiwyd gan 58,000 o bobl, sef 36.0% o’r rheini a ddefnyddiodd ail gyfeiriad) a chyfeiriadau cartref myfyrwyr (37,000, 23.2%).

O’r rhai a nododd fod ei prif gyfeiriad yng Nghymru, adroddodd 18,000 ohonynt yn 2021 eu bod yn defnyddio cartref gwyliau. Roedd hyn yn cynrychioli 0.6% o'r holl bobl (cyfran debyg i 2011), a oedd yn is na'r ffigwr cyfatebol ar gyfer Lloegr (0.8%).

Mae gwybodaeth ychwanegol am bobl sydd ag ail gyfeiriad ar gael yn: Tai yng Nghymru (Cyfrifiad 2021).

Cyfyngiadau

Casglodd y cyfrifiad wybodaeth am ail gyfeiriadau gyda pherson yn aros yno o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn. Ni chasglodd Cyfrifiad 2021 ddata ar ail gyfeiriadau nad oedd rhywun yn aros ynddynt am y cyfnod hwn. Os oedd rhywun yn berchen ar ail gyfeiriad ond heb aros yno, neu os nad oedd yr un person yn aros ynddo am 30 diwrnod y flwyddyn neu fwy, ni chafodd ei gofnodi. Roedd y cyfrifiad yn gofyn ble roedd pobl yn byw neu'n aros, ond nid oedd yn gofyn am berchenogaeth ail gyfeiriadau. Roedd canllawiau (SYG) ar-lein ar gael i ymatebwyr oedd ag ail eiddo.

Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021). Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.

Mae'r cyfrifiad yn cyfrif myfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Roedd rhywfaint o dystiolaeth o newidiadau i'r boblogaeth yn ystod y tymor o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Darllenwch mwy am sut y gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol sicrhau amcangyfrif cywir o nifer y myfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor.

Y dreth gyngor

Pa ddata sydd ar gael?

At ddibenion y dreth gyngor, diffinnir ail gartref fel annedd nad yw'n unig gartref neu'n brif gartref person ac sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol. Cyfeirir at yr anheddau hyn yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (Deddfwriaeth y DU) fel ‘anheddau a feddiennir yn gyfnodol’ ond yr enw mwyaf cyffredin arnynt yw ‘ail gartrefi’. Nid yw'r diffiniad treth gyngor o ail gartref wedi'i gyfyngu i eiddo a ddefnyddir fel cartrefi penwythnos/gwyliau preifat. Mae'n cynnwys, er enghraifft, anheddau a gedwir at ddibenion gwaith, anheddau sydd ar gael i'w gwerthu, cartrefi tymhorol a charafanau.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn data treth gyngor mewn dwy ffordd:

  1. Detholiad awtomatig o systemau Refeniw a Budd-daliadau Awdurdodau Lleol unigol, a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i brosesu taliadau i fusnesau lleol, talwyr treth gyngor ac aelwydydd incwm isel. Mae cipluniau o ddata lefel eiddo yn cael eu cymryd bob mis ac yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru gan yr SYG; a
  2. Ffurflen Anheddau’r Dreth Gyngor sy’n flynyddol. Mae’r awdurdod yn cynhyrchu amcangyfrifon o’r sylfaen drethi ar gyfer nifer yr anheddau trethadwy yn y flwyddyn ariannol sydd ar ddod. Cyfrifir yr amcangyfrifon hyn ar lefel yr awdurdod lleol, gan ystyried y data lefel eiddo a gofnodwyd ar 31 Hydref bob blwyddyn, ac unrhyw newidiadau sy'n debygol o ddigwydd yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Noder bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd yn cyhoeddi data treth cyngor sy'n darparu ystadegau ar y stoc wirioneddol o eiddo yn hytrach na rhagolygon.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal nifer o ddilysiadau o'r ffurflen Anheddau’r Dreth Gyngor i sicrhau bod y data'n gywir cyn iddo gael ei gymeradwyo gan Brif Swyddog Cyllid yr awdurdod lleol. Er nad yw'r data treth gyngor lefel eiddo yn destun unrhyw sicrwydd ansawdd ffurfiol unwaith y bydd yr SYG yn ei dderbyn, mae anghysondebau weithiau wedi cael eu trafod ag awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol i ddeall ansawdd y data lefel eiddo yn well a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n briodol.

Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym?

Mae'r adran hon yn cyflwyno data ar gyfer cartrefi trethadwy yn unig (mae anheddau sydd wedi'u hesemptio rhag y dreth gyngor wedi'u heithrio). Efallai y bydd annedd wedi'i hesemptio rhag talu treth gyngor am nifer o resymau, er enghraifft os yw'r annedd yn cael ei gadael yn wag gan rywun sy'n byw mewn cartref gofal. Ceir rhagor o wybodaeth am y treth cyngor ar wefan Llywodraeth Cymru. Sylwch y gallai anheddau a ddiffinir fel rhai sydd wedi'u hesemptio at ddibenion treth gyngor fod wedi eu cynnwys mewn setiau data eraill a gyflwynir yn yr erthygl hon.

Cyhoeddir gwybodaeth a gesglir yn ffurflen Anheddau’r Dreth Gyngor ym mis Ionawr bob blwyddyn.  Mae gwybodaeth fanylach ar gael ar StatsCymru.

Ffigur 2: Amcangyfrif o nifer yr ail gartrefi trethadwy yng Nghymru, 2018-19 i 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar sy'n dangos newid yn yr amcangyfrif o ail gartrefi trethadwy. Disgrifir y duedd yn y testun.

Ffynhonnell: Y ffurflen Anheddau’r Dreth Gyngor flynyddol

Tai gwag ac ail gartrefi trethadwy, fesul blwyddyn (nifer yr anheddau) (StatsCymru)

Mae'r data a gasglwyd yn y ffurflen Anheddau’r Dreth Gyngor flynyddol yn dangos bod y nifer amcangyfrifedig o ail gartrefi trethadwy yng Nghymru wedi cynyddu 6% (o 23,426 i 24,873) rhwng 2018-19 a 2021-22. Gostyngodd y ffigwr hwn 4% yn 2022-23 i 23,974, a chynyddu ychydig i 24,170 yn 2023-24.

Tabl 1: Amcangyfrif o nifer yr ail gartrefi trethadwy yn ôl awdurdod lleol, 2021-22 i 2023-24
Awdurdod lleol 2021-22  2022-23  2023-24 
Ynys Môn  2,139 2,208 2,236
Gwynedd  5,098 4,720 4,758
Conwy  1,181 1,155 1,384
Sir Ddinbych 393 397 422
Sir y Fflint 280 273 269
Wrecsam 0 0 0
Powys  1,333 1,342 1,376
Ceredigion  1,694 1,715 1,788
Sir Benfro  4,068 4,216 3,940
Sir Gaerfyrddin  1,113 1,061 1,000
Abertawe  2,104 1,585 1,624
Castell-nedd Port Talbot  548 495 486
Pen-y-bont ar Ogwr  27 26 74
Bro Morgannwg  516 452 449
Rhondda Cynon Taf  241 273 434
Merthyr Tudful  214 200 257
Caerffili 238 234 244
Blaenau Gwent  0 0 0
Torfaen  5 4 8
Sir Fynwy  200 212 184
Casnewydd  4 21 12
Caerdydd  3,477 3,385 3,225
Cymru 24,873 23,974 24,170

Disgrifiad o Dabl 1: Tabl sy'n dangos yr amrywiaeth rhwng awdurdodau lleol o ran nifer yr ail gartrefi trethadwy a amcangyfrifwyd. Mae'r tabl yn dangos bod yr amcangyfrifon o nifer yr ail gartrefi trethadwy yn 2023-24 yn amrywio o 0 yn Wrecsam a Blaenau Gwent i 4,758 yng Ngwynedd.

Ffynhonnell: Y ffurflen Anheddau’r Dreth Gyngor flynyddol

Tai gwag ac ail gartrefi trethadwy, fesul blwyddyn (nifer yr anheddau) (StatsCymru)

Ar lefel awdurdod lleol, mae data o’r ffurflen Anheddau’r Dreth Gyngor flynyddol yn dangos bod y nifer uchaf a amcangyfrifwyd o ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd (ar gyfer 2023-24 amcangyfrifir bod 4,758 o ail gartrefi trethadwy, sy'n cyfrif am 8.3% o'r holl gartrefi trethadwy) a Sir Benfro (ar gyfer 2023-24 amcangyfrifir bod 3,940 o ail gartrefi trethadwy, sy’n cyfrif am 6.5% o'r holl gartrefi trethadwy).

Nid yw gwybodaeth o set ddata'r dreth gyngor ar lefel eiddo yn cael ei chyhoeddi'n rheolaidd, ond mae data yn ymwneud ag Awst 2021 ar lefel yr awdurdod lleol a'r Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (noder nad oedd data ar gael ar gyfer Abertawe a Sir Benfro, ac nad yw canrannau wedi eu cyhoeddi lle roedd llai na 5 ail gartref). Mae 408 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol yng Nghymru (am ragor o wybodaeth gweler Daearyddiaethau ystadegol - y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)).

Gellir gweld yr wybodaeth hon hefyd ar MapDataCymru:

Ffigur 3: Canran yr anheddau trethadwy sy’n ail gartrefi, fesul MSOA, Awst 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Map sy'n dangos sut mae canran yr anheddau trethadwy sy'n ail gartrefi yn amrywio yn ôl Ardal Gynnyrch Haen Ganol. Mae'r map yn dangos bod y canrannau mwyaf o ail gartrefi trethadwy i'w gweld yng ngogledd-orllewin Cymru.

Ffynhonnell: Systemau refeniw a budd-daliadau awdurdodau lleol

Canran treth gyngor ail gartrefi trethadwy yng Nghymru yn ôl Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (MapDataCymru)

[Nodyn 1] Data ddim ar gael ar gyfer Abertawe a Sir Benfro

Yn unol â ffurflen Anheddau’r Dreth Gyngor, ym mis Awst 2021, canfuwyd y nifer uchaf o ail gartrefi trethadwy yng Ngwynedd gyda 5,535 o ail gartrefi trethadwy, a oedd yn cyfrif am 9% o'r holl gartrefi trethadwy. Yng Ngwynedd, roedd canran yr ail gartrefi trethadwy yn amrywio o 1% yn Ardaloedd Cynnyrch Haen Ganol 002 a 006 (yn ardal Bangor a Chaernarfon) i 30% yn Ardal Gynnyrch Haen Ganol 014 (pen pellaf penrhyn Llŷn

Rydym yn bwriadu cyhoeddi diweddariad i'r data hwn yn ddiweddarach yn haf 2023.

Y Dreth Trafodiadau Tir

Pa ddata sydd ar gael?

O 1 Ebrill 2018, fe wnaeth y Dreth Trafodiadau Tir ddisodli Treth Tir y Dreth Stamp ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir a brynwyd yng Nghymru. Mae'r cyfraddau treth a'r bandiau treth ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn amrywio yn dibynnu ar y math o drafodiad. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu ac yn rheoli'r dreth hon ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyhoeddi:

Beth ddylem fod yn ymwybodol ohono wrth ddehongli ystadegau ar y Dreth Trafodiadau Tir?

Gall trafodiadau preswyl fod naill ai ar y:

  • prif gyfradd: fel arfer pan nad yw'r prynwr eisoes yn berchen ar unrhyw anheddau eraill, neu pan fo'r prynwr yn prynu prif breswylfa yn lle ei brif breswylfa
  • cyfraddau uwch: fel arfer pan fo'r prynwr eisoes yn berchen ar anheddau eraill, neu os nad yw'r prynwr yn unigolyn, fel:
    • prynu eiddo prynu-i-osod
    • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
    • prynu eiddo newydd tra'n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes (a elwir yn 'pontio’)
    • pryniannau gan gwmnïau neu sefydliadau

Mae'r ystadegau Treth Trafodiadau Tir ond yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y cyfnod amser perthnasol. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Wrth ddefnyddio ystadegau Treth Trafodiadau Tir ar gyfer awdurdodau lleol, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y bydd nifer y trafodiadau preswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau. Mae hyn oherwydd yr amrywiaeth o ran maint a phoblogaeth yr awdurdodau lleol.

Un gwahaniaeth pwysig o ran ail gartrefi yw bod Treth Trafodiadau Tir yn ‘gyfnodol’ (yn dibynnu ar ffeithiau am y pryniant a'r prynwyr ar yr adeg y mae'r trafodiad yn digwydd), tra bod y Dreth Gyngor ac ardrethi annomestig yn cael eu codi'n barhaus gan ymgorffori gwybodaeth sy'n cael ei diweddaru o bryd i'w gilydd am werth a defnydd cyfredol pob eiddo.

Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym?

Mae ystadegau blynyddol y Dreth Trafodiadau Tir yn cyflwyno trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn. Mae hyn yn dweud wrthym ym mha drafodion cyfraddau uwch awdurdodau lleol sy'n ffurfio cyfran fwy neu lai o'r holl drafodion preswyl mewn awdurdod lleol.

Ffigur 4: Trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol, 2019-20 a 2021-22

Image

Disgrifiad: Mae Ffigur 4 yn dangos yr amrywiad eang rhwng awdurdodau lleol yn lefel y trafodiadau preswyl cyfraddau uwch. Cyflwynir y data hwn fel canran o'r holl drafodion preswyl.

Ffynhonnell: Dadansoddiad o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir i Awdurdod Cyllid Cymru

Ystadegau TTT Preswyl fesul mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Ar y cyfan roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn fwy cyffredin mewn awdurdodau yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru, a fydd yn rhannol wedi’u dylanwadu gan bryniannau ail gartrefi neu dai gwyliau. Yn 2021-22, gwelwyd y canrannau uchaf yng Ngwynedd (37%), Ynys Môn (32%) a Sir Benfro (30%). Gwelwyd y canrannau isaf yn Sir Fynwy (15%) a Thorfaen (16%). 23% oedd y ganran ar gyfer Cymru.

Ar gyfer 2021-22, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg i 2019-20 (data a dynnwyd ym mis Mehefin 2020). Rydym yn cymharu'r flwyddyn ddiweddaraf o ddata yn erbyn 2019-20 yn hytrach na 2020-21, oherwydd effeithiau'r coronafeirws (COVID-19) yn y flwyddyn honno. Yr awdurdodau lleol â'r newidiadau canrannol mwyaf rhwng y ddwy flynedd oedd:

  • Merthyr Tydful, (cynnydd o 5 pwynt canran)
  • Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy (pob un â gostyngiad o 4 pwynt canran)
  • Powys, Caerffili a Chaerdydd (pob un â gostyngiad o 3 phwynt canran)

Un cyfyngiad hanesyddol ar y data cyfraddau uwch yw nad yw'n disgrifio'r bwriad y tu ôl i'r trafodiadau cyfraddau uwch. Er enghraifft, a yw eiddo yn cael ei brynu fel eiddo prynu i osod, i'w ddefnyddio fel ail gartref neu am reswm arall. Mae’r erthygl flynyddol yn egluro sut i ddehongli’r ystadegau ardal leol hyn a sut y gellir dadansoddi trafodiadau cyfraddau uwch ymhellach. Mae’r erthygl yn egluro:

  • sut mae'n bosibl gwahanu data ar bryniannau a wneir gan gwmnïau a phryniannau a wneir gan unigolion
  • sut i amcangyfrif yr hyn a elwir yn 'pontio’. Hynny yw, lle mae unigolyn yn prynu eiddo fel prif breswylfa newydd ond nad yw wedi gwerthu ei brif breswylfa flaenorol eto ar yr adeg prynu

Mae tynnu pryniannau gan gwmnïau ac amcangyfrifon o 'bontio' o gyfanswm trafodiadau cyfraddau uwch yn rhoi amcangyfrifon ar gyfer nifer yr unigolion sy'n prynu eiddo i'w ddefnyddio am reswm arall heblaw fel prif breswylfa.

Ffigur 5: Canran fras o'r trafodiadau preswyl mewn gwahanol gategorïau cyfraddau uwch o’r Treth

Image

Disgrifiad: Mae Ffigur 5 yn dangos yr amrywiaeth eang rhwng awdurdodau lleol mewn pryniannau gan gwmnïau, pryniannau gan unigolion (pontio heb ei gwblhau - prif breswylfa flaenorol sy'n aros i gael ei werthu), a phryniannau gan unigolion (heb eu prynu fel prif breswylfa).   

Ffynhonnell: Dadansoddiad o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir i Awdurdod Cyllid Cymru

Eglurhad o’r data a ddefnyddir yn ystadegau ardaloedd lleol Awdurdod Cyllid Cymru 2021 i 2022 (Taenlen Dogfen Agored, 12 Kb)

Trwy eithrio pryniannau cwmni ac achosion pontio heb eu cwblhau o gyfanswm y trafodiadau cyfraddau uwch, rydym yn cael gwell amcangyfrif o bryniannau a wnaed gan unigolion (na chawsant eu prynu fel prif breswylfa).

Mae Ffigur 5 yn dangos, wrth ystyried pryniannau gan unigolion (heb eu prynu fel prif breswylfa) fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, fod amrywiaeth eang rhwng awdurdodau lleol. Mae'r canrannau hyn yn amrywio o 9% yn Sir Fynwy i 28% yng Ngwynedd. 15% oedd y ganran ar gyfer Cymru.

Er nad yw hyn yn caniatáu i ni nodi'n glir nifer yr ail gartrefi a brynir bob blwyddyn, na'r defnydd a fwriedir ohonynt, mae’n ein helpu i ddatblygu dealltwriaeth well.

Pa waith sydd ar y gweill yn y dyfodol?

Ym mis Gorffennaf 2023, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cyhoeddi diweddariad blynyddol ar gyfer 2022-23 i’r canlynol:

  • ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl daearyddiaeth
  • yr erthygl sy’n egluro sut i ddehongli ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ardaloedd lleol

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn bwriadu ymchwilio i weld a allant gyhoeddi rhai ystadegau daearyddol yn amlach. Er enghraifft, ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl awdurdod lleol a chwarter. Cysylltwch â data@acc.llyw.cymru i rannu unrhyw sylwadau sydd gennych ar y posibiliadau hyn.

Ym mis Mehefin 2023, cyflwynodd Awdurdod Cyllid Cymru gwestiwn newydd ar y ffurflen Treth Trafodiadau Tir. Mae'r cwestiwn hwn yn gofyn am y bwriad y tu ôl i bryniannau preswyl ar gyfraddau treth uwch, gan gynnwys prynu ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn bwriadu adolygu ansawdd a defnyddioldeb y data hwn, yn ogystal ag ymchwilio i gysylltu ein data â ffynonellau data presennol megis y data a gedwir gan Rhentu Doeth Cymru. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn rhoi diweddariad pellach ar y dadansoddiadau posibl y gellid eu gwneud. Mae'r diweddariad hwn yn debygol o fod ar gael ochr yn ochr â diweddariad haf 2024 i ystadegau blynyddol y Dreth Trafodiadau Tir a'r erthyglau sy'n egluro sut i ddefnyddio ystadegau ardaloedd lleol. Cyfyngiad hysbys o'r cwestiwn newydd ar y ffurflen fydd bod yr ymatebion ond yn gallu adlewyrchu'r bwriad ar gyfer defnyddio’r eiddo ar yr adeg prynu. Gallai'r defnydd a fwriadwyd newid ar ôl i'r pryniant ddigwydd.

Ardrethi annomestig

Pa ddata sydd ar gael?

Mae ardrethi annomestig, y cyfeirir atynt yn aml fel ardrethi busnes, yn dreth leol lle mae perchnogion a deiliaid ('trethdalwyr') eiddo annomestig yn cyfrannu'n ariannol tuag at ddarparu gwasanaethau lleol.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yn prisio eiddo at ddibenion codi ardrethi annomestig. Fel rhan o'r broses brisio (neu 'sgorio'), mae'r Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn categoreiddio eiddo yn ôl eu defnydd. Un o'r categorïau hyn yw eiddo sydd wedi'i gofrestru fel llety gwyliau hunanddarpar.

Er mwyn i lety gwyliau hunanddarpar gael ei ddosbarthu fel llety nad yw'n ddomestig, rhaid i weithredwyr ddarparu tystiolaeth ei fod yn bodloni meini prawf gosod penodol. O 1 Ebrill 2023, mae’n ofynnol i’r eiddo fod ar gael i’w gosod am o leiaf 252 diwrnod o’r flwyddyn, a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod. Mae hyn yn gynnydd o’r meini prawf blaenorol, sef ei bod yn ofynnol i’r eiddo fod ar gael i’w gosod am 140 diwrnod a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 diwrnod, a oedd wedi bod yn eu lle ers 1 Ebrill 2010.

Caiff eiddo nad ydynt yn bodloni'r meini prawf hyn eu cofnodi ar y rhestr ar gyfer treth gyngor ac maent yn atebol am y dreth gyngor. Nid oes angen i lety gwyliau hunanddarpar gofrestru fel llety annomestig, ac felly nid yw nifer yr eiddo hyn ar y rhestr ardrethi annomestig o reidrwydd yn adlewyrchiad cywir o'r holl lety gwyliau hunanddarpar yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn data yn ymwneud ag ardrethi annomestig mewn tair ffurf:

  1. Ffurflenni ariannol awdurdodau lleol, a dderbynnir yn flynyddol. Mae'r rhain ar lefel awdurdod lleol ac nid oes unrhyw wybodaeth am y math o eiddo wedi'i chynnwys yn y data hwn.
  2. Gwybodaeth filio awdurdodau lleol, a dderbynnir yn flynyddol. Derbynnir y data hwn ar lefel eiddo ac mae'n cynnwys y math o eiddo, lleoliad yr eiddo a gwybodaeth am faint o ardrethi annomestig sy'n ddyledus ac unrhyw ryddhad a gymhwysir.
  3. Gwybodaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio am ardrethi, a dderbynnir ddwywaith y flwyddyn. Derbynnir y data hwn ar lefel eiddo ac mae'n cynnwys y math o eiddo a’i leoliad.

Mae'r ddwy set ddata unigol ar lefel eiddo wedi'u cyfyngu i ddefnydd mewnol Llywodraeth Cymru yn unig, a hynny ar gyfer datblygu a monitro polisi ardrethi annomestig. Ni chyhoeddir unrhyw ddata gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyhoeddi data a gasglwyd yn flynyddol o'i restr ardrethi.

Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym?

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyhoeddi data ar lefel Cymru ar nifer y gosodiadau hunanddarpar ar y rhestr ardrethi annomestig. Mae data ar gael ar gyfer 2013-14 i 2022-23.

Ffigur 6: Llety gwyliau hunanddarpar sydd ar gael i’w gosod yn y rhestr ardrethi annomestig yng Nghymru

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar sy'n dangos newid yn nifer y llety gwyliau hunanddarpar. Disgrifir y duedd yn y testun.

Ffynhonnell: Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Mae nifer y llety gwyliau hunanarlwyo ar y rhestr ardrethi annomestig bron wedi treblu dros y degawd diwethaf, gan gynyddu o 3,900 yn 2013-14 i 11,300 yn 2022-23. Yn 2013-14, roedd eiddo hunanarlwyo yn cynnwys 3.6% o'r holl eiddo ardrethi annomestig. Bob blwyddyn mae'r gyfran hon wedi cynyddu ac roedd yn 8.8% yn 2022-23.

I roi hyn mewn cyd-destun, fe wnaeth nifer y gwestai, tai llety a llety hamdden eraill aros yn sefydlog o 2013-14 i 2022-23, heb gynnydd na gostyngiadau mawr. Mae tua 600 o westai ac 800 o westai wedi'u rhestru bob blwyddyn.

Gosodiadau tymor byr

Pa ddata sydd ar gael?

Mae gosodiadau tymor byr yn cynnwys cyfran sylweddol o'r llety gwyliau yng Nghymru ac amrywiaeth eang o fathau o eiddo (mae'r rhain yn cael eu hunan-ddosbarthu gan berchnogion ac maent yn cynnwys fflatiau, tai, gwely a brecwast a glampio). Mae Llywodraeth Cymru yn prynu data o’r we gan Transparent, sy’n cynnwys data o AirBnB, Booking.com, Vrbi, Trip Advisor a data perchnogol o systemau rheoli eiddo annibynnol. Defnyddir y data'n bennaf gan Croeso Cymru i ddeall perfformiad yr economi ymwelwyr.

Beth ddylem fod yn ymwybodol ohono wrth ddefnyddio data ar osodiadau tymor byr?

Gall y data roi arwydd o stoc tai sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gosodiadau tymor byr yn unig – nid yw'n dweud dim wrthym am berchnogaeth yr eiddo hynny nac a ydynt yn atebol am ardrethi annomestig neu’r dreth gyngor. Mae gosodiadau tymor byr yn ddeinamig iawn, gydag eiddo yn cael eu tynnu'n ôl a'u hychwanegu ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn ac am gyfnodau amrywiol o amser. Yn ogystal, nid yw eiddo a ychwanegir at y gwefannau bob amser yn "stoc newydd" ac yn aml gallant adlewyrchu darparwyr llety sy'n newid eu sianeli archebu am resymau masnachol. Felly, ni all Transparent fesur y twf mewn gosodiadau tymor byr yn gywir ond mae'n rhoi arwydd o raddfa'r sector.

Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym?

Mae'r siart isod yn dangos cyfanswm yr eiddo unigryw a hysbysebir fel gosodiadau tymor byr. Mae hyn ond yn cynnwys eiddo y gellid ei ddefnyddio fel cartrefi ac nid yw'n cynnwys ystafelloedd sengl a llety amgen fel podiau glampio a iwrtiau.

Ffigur 7: Eiddo unigryw a hysbysebwyd, 2019 i 2023 (hyd at 29 Mai), gan Transparent

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart i ddangos nifer yr eiddo unigryw y gellid eu defnyddio fel ail gartrefi a hysbysebwyd ar AirBnB, Booking.com, Vrbo, a Tripadvisor am y cyfnod 2019 i 29 Mai 2023.

Ffynhonnell: Transparent, lawrlwythwyd 29 Mai 2023.

Gellir dod o hyd i gyngor a chanllawiau pellach yma: Casgliad o ffynonellau data darparwyr llety ymwelwyr ac ymwelwyr

Pa waith sydd ar y gweill yn y dyfodol?

Mae data ar deiliadaeth gosodiadau tymor byr yn cael ei integreiddio i'r adroddiadau ehangach ar deiliadaeth y sector llety. Mae'r data ar osodiadau tymor byr ar gael ar gyfer dadansoddiad ad hoc i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau yn Croeso Cymru ac ar gyfer cyrchfannau ledled Cymru, ynghyd â llywio meysydd polisi ehangach.

Ffynonellau data eraill

fforddiadwyedd yn ehangach, ond nid ydynt yn edrych ar 'ail gartrefi' yn benodol. 

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn Ystadegyn Cenedlaethol sy'n dangos newidiadau yng ngwerth eiddo preswyl yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cyhoeddir data'n fisol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF, ac mae ar gael ar lefel gwlad ac awdurdod lleol. Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiadau - GOV.UK (www.gov.uk).

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cyhoeddi Ystadegau prisiau tai ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru a Lloegr. Mae'r rhain yn darparu amcangyfrif o brisiau eiddo cyfartalog ar gyfer ardaloedd sy'n llai nag awdurdodau lleol, megis wardiau ac ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi cymarebau fforddiadwyedd, sy’n nodi’r berthynas rhwng prisiau tai ac incwm aelwydydd ar draws y DU. Mae'r rhain ar gael ar lefel ardaloedd cynnyrch ehangach haen ganol. Caiff hyn ei ategu gan gyfres o fesurau ychwanegol o fforddiadwyedd tai.

Cysylltu data

Mae Prosiect Cartrefi Data Gweinyddol (AD| Homes), a elwir yn ffurfiol yn Adnodd Dadansoddi’r Stoc Dai i Gymru, yn brosiect cysylltu data o fewn Llywodraeth Cymru sy'n dwyn ynghyd setiau data gweinyddol amrywiol yn ymwneud â chartrefi yng Nghymru. Mae caffaeliadau data diweddar yn cynnwys gwybodaeth am dreth gyngor ar lefel eiddo a gasglwyd yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol Cymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn bwriadu archwilio sut y gallwn ddefnyddio'r data y mae gennym fynediad iddo i ddatblygu ymhellach ein dealltwriaeth o adeiladwaith a chyflwr ail gartrefi, er enghraifft, cysylltu data treth gyngor ar lefel eiddo â chofnodion Tystysgrif Perfformiad Ynni i nodi sut mae effeithlonrwydd ynni ail gartrefi yn cymharu â mathau eraill o gartrefi. Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer darnau perthnasol o waith yn stats.housingconditions@llyw.cymru

Gwybodaeth am ansawdd

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am ansawdd a methodoleg ar gyfer pob un o'r ffynonellau data y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad hwn yn ffynhonnell ddata wreiddiol y cyhoeddiadau hyn. Darperir dolenni i'r dogfennau hyn yn yr adran berthnasol.

Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol

Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau untro lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a'u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:

  • cyflwyno cyfres newydd o ddata arbrofol
  • dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
  • tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
  • dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau

Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:

  • ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
  • ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddir
  • resymau eraill a nodir

Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa.

Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag Ystadegyn Gwladol, ond gellir ei ddefnyddio gydag allbynnau Ystadegau Gwladol a bydd, serch hynny, wedi cael ei ystyried yn ofalus a'i archwilio'n fanwl cyn ei gyhoeddi. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad wedi'i gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymhariaeth â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellir defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg sydd ar waith.

Mae erthyglau yn dilyn yr arferion rhyddhau a ddiffinnir yn y protocol arferion rhyddhau ac, felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ar ddyddiad a bennir ymlaen llaw yn yr un ffordd ag allbynnau ystadegol eraill.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Luned Jones
Ystadegydd: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099