Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 ar nifer a lleoliad ail gyfeiriadau, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir fel cartrefi gwyliau. Mae'r bwletin ystadegol hwn yn crynhoi'r prif bwyntiau i Gymru o gyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Nid oes diffiniad cyffredin na safonol o 'ail gartref’. Defnyddir diffiniadau gwahanol o fewn setiau data (e.e. Cyfrifiad 2021, data Treth Gyngor, data Treth Trafodiadau Tir), gan fod pob un yn cael ei gasglu at ddiben penodol. Mae’r erthygl ystadegol cysylltiedig Ail gartrefi: Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym? yn darparu rhagor o wybodaeth am ffynonellau data ar ail gartrefi, gan gynnwys cryfderau a chyfyngiadau pob un.

Casglodd Cyfrifiad 2021 wybodaeth am bobl a oedd fel arfer yn byw yng Nghymru a Lloegr a ddywedodd eu bod yn aros o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn mewn ail gyfeiriad. Casglwyd gwybodaeth am leoliad a phwrpas yr ail gyfeiriad - mae enghreifftiau'n cynnwys cyfeiriad wrth weithio oddi cartref, cyfeiriad y lluoedd arfog, cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall a chartref gwyliau. Ceir mwy o fanylion ar gwestiynau’r Cyfrifiad yn yr adran ansawdd a methodoleg.

I ategu cyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartrefi gwyliau o Gyfrifiad 2021.  Ni wnaeth y Cyfrifiad nodi’r holl eiddo a ddefnyddiwyd fel 'cartrefi gwyliau' neu osodiadau tymor byr. Os oedd rhywun yn berchen ar ail gyfeiriad ond heb aros yno, neu os nad oedd yr un person yn aros ynddo am 30 diwrnod y flwyddyn neu fwy, ni chafodd ei nodi. Roedd y cyfrifiad yn gofyn ble roedd pobl yn byw neu'n aros, ond nid oeddent yn gofyn am berchnogaeth ail gyfeiriadau. 

Mae rhagor o ddata ar ail gyfeiriadau (pob categori nid yn unig cartrefi gwyliau), a defnyddwyr ail gyfeiriadau ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Prif bwyntiau

Roedd bron i 100,000 o ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio yng Nghymru adeg Cyfrifiad 2021.  O'r rheiny, roedd bron i 40,000 yn gyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall, 24,000 yn gyfeiriad cartref myfyrwyr a 10,070 yn dai gwyliau. Roedd enghreifftiau eraill o ail gyfeiriadau yn cynnwys cyfeiriad wrth weithio oddi cartref, cyfeiriad y lluoedd arfog a chyfeiriad partner.

Mae'r holl ddata yng ngweddill yr adroddiad hwn yn ymwneud â 'chartrefi gwyliau' fel y'u diffinnir yng Nghyfrifiad 2021 – ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartrefi gwyliau am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn gan bobl sy'n byw yng Nghymru neu Loegr fel arfer.

Cartrefi gwyliau

  • Ym mis Mawrth 2021, roedd 10,070 o ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau yng Nghymru.
  • Roedd y crynodiadau o dai gwyliau ar eu huchaf ar hyd ardaloedd arfordirol yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.
  • Roedd tua 6.9 o gartrefi gwyliau i bob 1,000 o anheddau yng Nghymru, sy'n uwch nag ar gyfer pob rhanbarth yn Lloegr ar wahân i'r De-orllewin (7.5 fesul 1,000 o anheddau).
  • Roedd Gwynedd ac Ynys Môn ymhlith y pedwar awdurdod lleol â'r cyfraddau uchaf o dai gwyliau ar draws Cymru a Lloegr.

Defnyddwyr Cartrefi gwyliau

  • Dywedodd 36,370 o bobl eu bod wedi defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yng Nghymru, sy'n cyfateb i 11.7 o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau ar gyfer pob 1,000 o breswylwyr arferol.
  • Roedd cyfradd defnyddwyr cartrefi gwyliau yng Nghymru, o'i gymharu â'r boblogaeth o breswylwyr arferol, yn uwch nag ar gyfer pob rhanbarth yn Lloegr.
  • Ar lefel awdurdod lleol, Gwynedd ac Ynys Môn oedd â'r gyfradd uchaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau, o'i gymharu â'r boblogaeth, allan o holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr (79.0 a 63.3 defnyddiwr fesul 1,000 o breswylwyr arferol yn y drefn honno). 
  • O'r 36,370 o bobl a oedd fel arfer yn byw yng Nghymru a Lloegr ac a nododd eu bod wedi defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yng Nghymru, roedd 26,940 yn dod o Loegr.
  • Roedd tua dwy ran o dair (3,545) o'r rhai a ddefnyddiodd dai gwyliau yn Sir Benfro yn dod o Gymru, De Cymru yn bennaf.

Cartrefi gwyliau

Roedd nifer yr ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartrefi gwyliau yng Nghymru yn cyfateb i oddeutu 6.9 fesul 1,000 o anheddau. Roedd y gyfradd hon yn uwch nag ar gyfer pob rhanbarth yn Lloegr heblaw am y De-orllewin (7.5 fesul 1,000 o gartrefi).

Ar lefel awdurdod lleol, roedd y gyfradd ar ei huchaf yng Ngwynedd (41.0 o ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel tai gwyliau fesul 1,000 o anheddau) ac Ynys Môn (32.9 fesul 1,000). Roedd Gwynedd ac Ynys Môn ymhlith y pedwar awdurdod lleol â'r cyfraddau uchaf ar draws Cymru a Lloegr.

Mae Ffigur 1 yn fap sy'n dangos ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau a fynegir fel cyfradd fesul 1,000 o anheddau, ar gyfer ardaloedd a elwir yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (SYG). Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol yn cynnwys rhwng 2,000 a 6,000 o aelwydydd.

Roedd y gyfradd ar ei huchaf yn Abersoch ac Aberdaron yng Ngwynedd, gyda 153.3 o ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau fesul 1,000 o anheddau. Roedd y gyfradd yn uwch na 50 mewn 13 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol yng Nghymru. Roedd y rhain ar hyd ardaloedd arfordirol yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.

Ffigur 1: Ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau (cyfradd fesul 1,000 o anheddau), Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol, Cymru, Cyfrifiad 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Map yn dangos ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau a fynegwyd fel cyfradd fesul 1,000 o anheddau, ar lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol. Disgrifir y map yn y sylwebaeth.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021, Cartrefi gwyliau yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Mae data hefyd ar gael ar gyfer ardaloedd llai o faint fel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (SYG), sy'n cynnwys rhwng 400 a 1,200 o aelwydydd. Roedd 11 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is lle’r oedd mwy nag 1 o bob 10 annedd yn cael eu defnyddio fel cartref gwyliau (o dan ddiffiniad Cyfrifiad 2021). Roedd y rhain i gyd yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro. O'r 100 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yng Nghymru a Lloegr sydd â cyfrannau uchaf, roedd 21 yng Nghymru – ac roedd un o'r rhain yn Abertawe.

Ffigur 2: Ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau (cyfradd fesul 1,000 o anheddau), Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is, Cymru, Cyfrifiad 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Map yn dangos ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau a fynegwyd fel cyfradd fesul 1,000 o anheddau, ar gyfer ardaloedd cynnyrch ehangach haen is. Disgrifir y map yn y sylwebaeth.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021, Cartrefi gwyliau yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Mae data hefyd ar gael ar gyfer wardiau etholiadol ac yn y map isod.

Ffigur 3: Ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau (cyfradd fesul 1,000 o anheddau), Wardiau Etholiadol, Cymru, Cyfrifiad 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Map yn dangos ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartref gwyliau a fynegwyd fel cyfradd fesul 1,000 o anheddau, ar gyfer wardiau etholiadol. Disgrifir y map yn y sylwebaeth.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021, Cartrefi gwyliau yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Defnyddwyr cartrefi gwyliau

Ar adeg Cyfrifiad 2021, dywedodd 36,370 o bobl a oedd fel arfer yn byw yng Nghymru a Lloegr eu bod wedi defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yng Nghymru am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn. Roedd hyn yn cyfateb i 11.7 o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau fesul 1,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru, ac roedd yn uwch na'r gyfradd ar gyfer pob rhanbarth yn Lloegr.

Ar lefel awdurdod lleol, Gwynedd ac Ynys Môn oedd â'r gyfradd uchaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau, o'i gymharu â'r boblogaeth leol, o blith holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr (79.0 a 63.3 defnyddiwr fesul 1,000 o breswylwyr arferol, yn y drefn honno). Ynys Môn welodd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd ar draws holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr – i fyny o 41.5 fesul 1,000 yn 2011.

Lleoliad y preswylfa arferol

O'r 36,370 o bobl a oedd fel arfer yn byw yng Nghymru a Lloegr ac a nododd eu bod yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yng Nghymru, roedd 26,940 yn dod o Loegr.

O'r rhai a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yng Nghymru, roedd tua thraean (32.3%) yn dod o Ogledd-orllewin Lloegr ac ychydig yn llai na chwarter (22.8%) o Orllewin Canolbarth Lloegr. Roedd dros chwarter y defnyddwyr cartrefi gwyliau yng Nghymru yn dod o Gymru (25.9%). Roedd hyn yn amrywio ar draws awdurdodau lleol:

  • Roedd mwyafrif y bobl sy'n defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yng Ngwynedd yn dod o Ogledd Orllewin Lloegr (43.3%) neu Orllewin Canolbarth Lloegr (32.1%).
  • Roedd tua dwy ran o dair (3,545) o'r rhai a ddefnyddiodd dai gwyliau yn Sir Benfro yn dod o Gymru, De Cymru yn bennaf.

Defnyddwyr cartrefi gwyliau o Gymru

O'r 17,520 o breswylwyr arferol yng Nghymru a ddefnyddiodd ail gyfeiriad fel cartref gwyliau, defnyddiodd 53.8% (9,430) gartref gwyliau yng Nghymru, defnyddiodd 34.0% (5,965) gartref gwyliau y tu allan i'r DU gyda'r 12.1% sy'n weddill (2,125) yn defnyddio cartref gwyliau yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o breswylwyr arferol a ddefnyddiodd gartref gwyliau (2,330) a gwelwyd y cyfrannau uchaf o breswylwyr arferol a ddefnyddiodd gartref gwyliau ym Mro Morgannwg, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf (i gyd yn 0.8%).

Y lleoliad mwyaf poblogaidd ar gyfer cartref gwyliau i breswylwyr yng Nghymru oedd Sir Benfro.

Cartrefi gwyliau: y math o lety

Yng Nghymru, roedd 44.8% o'r ail gyfeiriadau y nodwyd eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer cartrefi gwyliau yn eiddo sengl.

Cartrefi tair ystafell wely oedd y math mwyaf cyffredin o gartref gwyliau, gan gyfrif am 37.9% o gartrefi gwyliau, ac yna cartrefi dwy ystafell wely (sef 36.5%).

Rhagor o wybodaeth

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau ansawdd penodol ar gyfer Tai (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Darperir rhagor o wybodaeth am brosesau sicrhau ansawdd yn y fethodoleg ar gyfer sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Yn ogystal â nodi eu prif gyfeiriad, gofynnodd Cyfrifiad 2021 i ymatebwyr nodi hefyd a oeddent yn aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn. Os felly, gofynnwyd iddynt am y cyfeiriad (os o fewn y DU) a phwrpas yr ail gyfeiriad, gyda'r opsiynau canlynol:

  • cyfeiriad canolfan lluoedd arfog
  • cyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o gartref
  • cyfeiriad llawn myfyriwr
  • cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor
  • cyfeiriad rhiant neu warcheidwad
  • cyfeiriad partner
  • cyfeiriad cartref gwyliau
  • arall

Mae'r data a gynhwysir yn yr adroddiad hwn ond yn cynnwys pobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru a Lloegr a ddywedodd eu bod yn aros o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn yn yr ail gyfeiriad.

Efallai y bydd gan bobl nad ydynt yn breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr ail gyfeiriad yng Nghymru a Lloegr ond na fyddent yn cael eu cynnwys yn y data hwn.

Ni chaiff rhai ail gyfeiriadau gael eu defnyddio gan unrhyw breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn, ac ni fyddai'r rhain yn cael eu cynnwys yn y data hyn.

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, un o drigolion arferol y DU yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, yn y DU ac a oedd wedi aros neu a fwriadodd aros yn y DU am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac a oedd y tu allan i'r DU ac a fwriadwyd i fod y tu allan i'r DU am lai na 12 mis.

Cymerir data ar nifer yr ystafelloedd gwely a math o lety’r ail gyfeiriad o ddata Nodweddion Eiddo Asiantaeth y Swyddfa Brisio, neu ddata Cyfrifiad 2021 os yw ar gael. Nid yw'n bosibl cael yr wybodaeth hon ar gyfer yr holl anheddau yr ydym wedi'u rhestru fel ail gyfeiriadau.

Geirfa

Mae annedd yn uned hunangynhwysol o lety a all fod yn wag neu fod rhywun yn byw ynddo, er enghraifft tai neu fflatiau. Maent fel arfer yn cynnwys un aelwyd, ond mae'r rhai sydd â mwy nag un aelwyd yn cael eu rhannu a'u galw'n "annedd a rennir". Os nad oes gan annedd breswylwyr arferol yn byw ynddynt, er enghraifft eu bod yn wag ar ôl cael eu gwerthu, gelwir y rhain yn "anheddau gwag", ond gallai preswylwyr tymor byr neu ymwelwyr fod wedi eu defnyddio ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, er enghraifft cartrefi gwyliau.

I gael geirfa lawn, gweler Geiriadur Cyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Eu diben yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Luned Jones
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 24/2023

Image
Ystadegau Gwladol