Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w wneud os ydych chi’n cael anhawster talu treth ar amser i Awdurdod Cyllid Cymru a chymorth i dalu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os na allwch dalu ar amser

Mae’n bwysig dweud wrthym cyn gynted â phosibl am unrhyw anhawster rydych yn ei gael neu’n disgwyl ei gael wrth ein talu.

Rydym yn annog unrhyw un sy'n wynebu anhawster ariannol i gysylltu â ni:

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Pan fyddwch yn cysylltu, byddwn yn gofyn i chi am eich sefyllfa er mwyn caniatáu i ni archwilio’r holl opsiynau i’ch helpu i dalu eich bil treth.

Yr hyn y gallwn ei ystyried

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael, a byddwn yn trafod gyda chi pa un sydd fwyaf addas i'ch sefyllfa benodol.

Dim ond mewn achosion o galedi ariannol sylweddol y defnyddir y rhain. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am rywfaint o wybodaeth i'w hadolygu cyn cytuno, fel cyfriflenni banc.

Bydd llog dyddiol yn dal i gael ei ychwanegu yn seiliedig ar y swm sy'n ddyledus i ni, ac efallai y codir cosbau arnoch yr un fath.

Os nad ydych yn ymgysylltu â ni neu os byddwch yn gwrthod talu, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy yn ddiweddarach, ac efallai y bydd angen i ni gymryd camau gorfodi i adennill yr hyn sy'n ddyledus i ni.

Cymorth a chefnogaeth ychwanegol

Efallai y byddwch am gael cyngor pellach gan gyfreithiwr, cynghorydd treth neu gyfrifydd.

Os ydych chi'n cael anhawster ein talu gyda chredydwyr eraill, gallwch gael cyngor ariannol neu ddyled am ddim.

Gallwch hefyd awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan.