Arolwg Cenedlaethol Cymru peilot 2023: hysbysiad prefiatrwydd
Mae'n esbonio sut rydym yn defnyddio data personol a gesglir gan Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cynhelir Arolwg Cenedlaethol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid gan Kantar Public a Beaufort Research. Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am safbwyntiau a bywydau pobl er mwyn helpu i ddatblygu polisïau a phenderfynu sut y mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Bob blwyddyn, mae'r arolwg yn cynnal cyfweliadau gyda thua 12,000 o bobl 16+ ar draws Cymru. Mae’r arolwg peilot hwn yn cynnwys cyfweliadau dros y ffôn neu yn y cartref gyda nifer bach o bobl i brofi newidiadau i’r arolwg i sicrhau eu bod yn gweithio’n dda. Mae yna hefyd adran ar-lein fer ar ddiwedd y cyfweliad ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio’r rhyngrwyd.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil ac mae'n cael yr wybodaeth a gesglir gan Kantar Public a Beaufort Research. Defnyddir yr wybodaeth o’r peilot hwn i wirio a yw prosesau’r arolwg yn gweithio fel yr ydym am iddynt wneud. Bydd yr arolwg yn casglu data personol yn ogystal â data nad ydynt yn cael eu hystyried yn ddata personol o dan GDPR y DU.
Gellir dod o hyd i gyhoeddiadau blaenorol yr arolwg ar dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol.
Eich dewis chi yn llwyr yw p'un ai i gymryd rhan yn y peilot ymchwil hwn ai peidio. Er hynny, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniadau’r peilot ymchwil i sicrhau bod yr arolwg yn gweithio’n gywir fel y gall y Llywodraeth, cynghorau lleol a GIG Cymru, yn y dyfodol, weithredu ar faterion sy'n effeithio arnoch chi a phobl yn eich ardal.
Y manylion cyswllt ar gyfer tîm yr Arolwg Cenedlaethol yn Llywodraeth Cymru yw:
Cyfeiriad e-bost: arolygon@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 2021
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Kantar Public yw Stuart Grant:
Cyfeiriad e-bost: stuart.grant@kantar.com
Rhif ffôn: 020 7076 1600
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Beaufort Research yw Chris Timmins:
Cyfeiriad e-bost: chris@beaufortresearch.co.uk
Rhif ffôn: 029 2037 8565
Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddyfais adnabod’. Mae cyfeiriadau cyfranogwyr yn cael eu dewis ar hap o restr gyhoeddus y Post Brenhinol o’r holl gyfeiriadau yng Nghymru, ac anfonir llythyr at aelwydydd yn eich gwahodd i gymryd rhan. Yn y llythyr, gofynnir ichi ddarparu rhif ffôn ac os ydych yn dewis gwneud, eich enw a’ch cyfeiriad e-bost os ydych yn fodlon eu darparu ar hyn o bryd. Bydd Kantar Public yn ceisio cael rhifau ffôn sy’n gysylltiedig â’r cyfeiriadau hyn a ddewisir ar hap o ffynonellau sydd ar gael yn fasnachol o'r enw Sagacity a Data8, sy'n darparu cyfleuster i gyplysu rhifau ffôn yn erbyn y cyfeiriadau yn y sampl. Bydd cyfeiriadau hefyd yn cael eu cyplysu â chronfeydd data o rifau ffôn megis y llyfr rhifau ffôn ar-lein. Pan ddarperir rhif ffôn gan aelwyd, yna bydd Kantar Public a Beaufort Research yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi i gynnal yr arolwg, fel arall bydd Kantar Public a Beaufort Research yn defnyddio rhif ffôn y maent wedi’i gyplysu. Os nad oes rhif ffôn ar gael, bydd Kantar Public a Beaufort Research yn anfon cyfwelydd i’r cyfeiriad i drefnu cyfweliad (naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn).
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan na chael negeseuon atgoffa yna atebwch y llythyr gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg, yna bydd Kantar Public a Beaufort Research yn casglu’r wybodaeth bersonol ychwanegol ganlynol:
- enw
- cyfeiriad e-bost
- dyddiad geni
- cyfeiriadedd rhywiol
- grŵp ethnig
- crefydd
- iechyd a salwch, gan gynnwys taldra a phwysau, ac a ydych yn feichiog
Gall cyfweliadau gael eu harsylwi neu eu recordio at ddibenion hyfforddi a monitro yn unig gan aelodau o’r tîm ymchwil yn Kantar Public, Beaufort Research, a/neu Lywodraeth Cymru.
Cynigir taleb i ymatebwyr yr arolwg fel diolch am gymryd rhan yn yr arolwg. Os byddwch yn dewis cael y daleb wedi’i hanfon atoch drwy e-bost yna bydd Kantar Public neu Beafourt Research yn ei hanfon. Os hoffech gael taleb bost, yna bydd Kantar Public a Beaufort Research yn cofnodi eich manylion ac yn pasio eich enw a’ch cyfeiriad post yn ddiogel i Greens Digital, sy’n anfon y talebau. Ni fydd Greens Digital ond yn defnyddio’ch manylion i anfon y daleb atoch chi ac ni fyddant yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall. Byddant yn dileu eich manylion yn ddiogel o fewn mis ar ôl anfon y daleb. Bydd Greens Digital yn dal eich gwybodaeth yn ddiogel. Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna’n ei ddileu. Ni fydd unrhyw ymholiadau neu gwynion yn rhan o’r data ymchwil ar unrhyw adeg.
Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o'r wybodaeth a gasglwn yn yr arolwg yn 'ddata categori arbennig' (gwybodaeth am ethnigrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol ac iechyd) a’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw ei bod yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol neu ddibenion ymchwil. Mae eich cyfranogiad yn gyfan gwbl wirfoddol. Er hynny, mae astudiaethau ymchwil peilot fel hyn yn bwysig iawn gan eu bod yn ein galluogi i wneud yn siŵr bod yr arolwg yn gweithio’n dda ac i ddeall effeithiau newidiadau i ddyluniad yr arolwg. Bydd eich cyfranogiad felly yn helpu i siapio sut y cynhelir yr arolwg yn y blynyddoedd i ddod ac i sicrhau bod y data a gesglir yn y dyfodol yn helpu i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gadarn. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr arolwg mewn blynyddoedd i ddod, er enghraifft:
- i ddarganfod pa mor fodlon yw pobl gyda'u hardal leol, ac am faterion yn eu hardal leol
- i edrych ar sut y gallwn helpu pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd i gael mynediad ato ac i deimlo'n hyderus wrth ei ddefnyddio
- i weld a yw pobl yn ei chael hi'n hawdd gwneud apwyntiadau yn y feddygfa, ac os nad ydynt, pa rwystrau penodol y mae angen inni fynd i'r afael â hwy
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Caiff gwybodaeth bersonol a ddarperir i Kantar Public a Beaufort Research ei storio ar weinydd diogel o hyd. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cael mynediad at y data. Ni fydd Kantar Public a Beaufort Research ond yn defnyddio’r data hyn at ddibenion ymchwil. Mae Kantar Public a Beaufort Research wedi’u hachredu fel rhai sy’n bodloni safonau Cyber Essential Plus. Wrth gynnal arolygon, mae Kantar Public a Beaufort Research yn defnyddio rhaglen feddalwedd o'r enw Forsta Plus. Rydym wedi sicrhau bod Forsta Plus yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.
Mae gan Kantar Public, Beaufort Research a Greens Digital weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion a amheuir o dorri rheolau diogelwch data. Os ceir amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri sy'n effeithio ar eich gwybodaeth, bydd Kantar Public neu Beaufort Research yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod ichi ac i unrhyw reoleiddiwr cymwys pan mae'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Bydd unrhyw ddata personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn crëwyd ffolder sydd â mynediad wedi’i gyfyngu i dîm ymchwil yr Arolwg Cenedlaethol yn unig. Bydd yr wybodaeth a gesglir ond yn cael ei defnyddio i wirio sut mae’r arolwg yn gweithio, ac nid i ddod i gasgliadau am bobl unigol.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?
Bydd Kantar Public a Beaufort Research yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract a bydd yn dileu unrhyw ddata personol gan gynnwys eich manylion cyswllt ac unrhyw recordiadau a ddefnyddir fel rhan o’r hyfforddiant, o fewn tri mis ar ôl cyflwyno’r adroddiad i Lywodraeth Cymru ar ganlyniad y Peilot. Pan fyddwch yn dewis cael taleb bost, bydd y cwmni cyflenwi talebau Greens Digital yn cadw eich manylion cyswllt ar ôl y cyfweliad i anfon y daleb atoch a byddant yn dileu eich manylion cyswllt o fewn mis ar ôl anfon y daleb. Bydd Kantar Public yn rhoi i Lywodraeth Cymru set ddata na fydd yn cynnwys eich enw na’ch manylion cyswllt ond efallai mewn rhai achosion y byddant yn adnabyddadwy. Bydd Llywodraeth Cymru yn dileu eich data o fewn tri mis ar ôl cael y set ddata gan Kantar Public.
Hawliau'r unigolyn
O dan GDPR y DU, mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r arolwg hwn, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i weld copi o'ch data eich hun
- i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
- i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
- hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer,
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Tîm yr Arolwg Cenedlaethol
Cyfeiriad e-bost: arolygon@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 2021
Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru isod:
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.