Neidio i'r prif gynnwy

Y datganiad ystadegol cyntaf

Roedd penawdau'r canlyniadau cenedlaethol wedi cael eu cyhoeddi ar wefan ACTC ar 6ed Rhagfyr 2018. Diben cyhoeddi'r rhain oedd darparu amcan da o'r data sydd ar gael o'r arolwg, a'u rhyddhau i'r cyhoedd eu gweld. Cyhoeddwyd Dangosydd Canlyniadau er mwyn i ddefnyddwyr allu archwilio data ar ystod y bynciau. Bydd y Dangosydd Canlyniadau yn cael ei ddiweddaru fel y cyhoeddir pob adroddiad pwnc. Cyhoeddwyd hefyd dogfennau cynorthwyol megis Adroddiad ansawdd ac Adroddiad technegol.

Safon Ansawdd Tai Cymru

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar sut yr oedd ACTC yn asesu elfennau or Safon Ansawdd Tai Cymru ym mis Ebrill 2019. Safon ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru yw SATC. Er mai dim ond ymdrin â thai cymdeithasol y mae’r safon, mae dadansoddi’r elfennau hynny a gafodd eu hasesu gan yr Arolwg yn caniatáu i ni gyflwyno cymariaethau ar draws yr holl ddeiliadaethau.

Effeithlonrwydd ynni anheddau

Cyhoeddwyd yr adroddiad ACTC ar effeithlonrwydd ynni anheddau ym mis Hydref 2019, ac mae’n cynnwys ystadegau ar Dystysgrif Perfformiad Ynni a chyfraddau Effaith Amgylcheddol anheddau. Mae hefyd yn cynnwys manylion am fesurau arbed ynni, mathau o danwydd a defnydd o ynni adnewyddadwy a systemau gwresogi.

Hygyrchedd anheddau

Bydd yr adroddiad ar hygyrchedd anheddau yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf a bydd yn cynnwys gwybodaeth ar hygyrchedd y stoc dai yng Nghymru yn ogystal â’r addasiadau sydd mewn tai.

Stoc anheddau a nodweddion aelwydydd

Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi fel pecyn sleidiau a bydd yn cynnwys ystadegau ar nodweddion y stoc dai yng Nghymru (ee. oedran y stoc, math, deiliadaeth, adeiladwaith, amwynderau, darpariaeth ar gyfer parcio, mannau agored y tu allan, hygyrchedd, yr ardal leol) a nodweddion yr aelwydydd (megis lefelau meddiannaeth, oed pennaeth yr aelwyd, cyfansoddiad yr aelwyd, cyllid yr aelwyd etc.). Rydym yn bwriadu cyhoeddi hwn cyn diwedd y flwyddyn.

System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai

System werthuso ar sail risg yw System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i helpu awdurdodau lleol i nodi ac osgoi risgiau a pheryglon tebygol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch oherwydd diffygion mewn anheddau. Defnyddir hyn i bennu a yw mangreoedd preswyl yn ddiogel i fyw ynddynt, neu a oes perygl yn bodoli a allai fod yn niweidiol i iechyd a diogelwch meddiannydd tebygol. Mesurwyd 26 o 29 perygl yn yr arolwg neu fe’u modelwyd gan ddefnyddio data ACTC. Rydym yn anelu at gyhoeddi adroddiad ar y data ACTC gan roi dadansoddiad o’r elfennau o beryglon tai a diogelwch a fesurwyd yn 2021

Dadansoddiad tlodi tanwydd

Cyhoeddwyd y prif ganlyniadau ar dlodi tanwydd ym mis Mai 2019, ac fe’i dilynwyd gan ddadansoddiad manylach o dlodi tanwydd ym mis Awst 2019. Cyhoeddwyd amcangyfrifon wedi’u modelu gan yr awdurdodau lleol ym mis Awst 2020.

Cysylltu data arolwg Cyflwr Tai Cymru â gwybodaeth am iechyd yng Nghronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) a ffynonellau eraill

Mae llawer o ddiddordeb mewn cysylltu data Cyflwr Tai Cymru â data am iechyd a llesiant aelwydydd (boed o Arolwg Cenedlaethol Cymru neu ffynonellau data a gedwir yng nghronfa ddata SAIL. Mae hyn yn rhywbeth y mae tîm y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai a Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w hwyluso a byddant yn ymchwilio iddo dros y blwyddyn nesaf.

Dadansoddiad a data ar lefel is

Amcangyfrifon ar lefel genedlaethol yn unig a ddarperir gan arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 ar y cychwyn. Bydd tîm y Rhaglen Dystiolaeth yn gweithio i ddefnyddio data Cyflwr Tai ochr yn ochr ag amryw o ffynonellau data arall gan gynnwys y rhai a ddefnyddiwyd fel rhan o'r prosiect arall yn y Rhaglen, sef Adnodd Dadansoddi Stoc Dai Cymru, i greu model enghreifftiol o ddata cyflwr tai ar gyfer ardaloedd daearyddol llai. Mae hyn yn rhywbeth y bydd y Tîm yn ymchwilio iddo ar ôl gorffen y dadansoddiadau pwnc manwl.

Cael mynediad i setiau data ar gyfer eich ymchwil a’ch gwaith dadansoddi eich hun

Cyn gynted ag y bo modd ar ôl cyhoeddi'r Datganiad Ystadegol Cyntaf bydd detholiad o'r setiau data'n cael eu ffeilio ag Archif Data'r DU. Mae'n bosibl y rhoddir mynediad at setiau data mwy manwl os gwneir achos addas dros hynny ac y sefydlir Trefniant Mynediad i Ddata â Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru. Bydd data hefyd ar gael ar gais fel rhan o’n broses arferol.