Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth ar ddatblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned. Maent yn ategu’r canllawiau ar yr Ysgolion Bro ac Atodiad 3: Datblygu Trefniadau ar gyfer Ymgysylltu â Theuluoedd mewn Ysgolion Bro. Maent wedi’u llunio yn bennaf ar gyfer:

  • ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol
  • lleoliadau meithrin nas cynhelir
  • colegau arbenigol
  • unedau cyfeirio disgyblion

Ond gallant hefyd gynnig gwybodaeth i sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol.

Mae’r diffiniadau o'r brif derminoleg a ddefnyddir yn y canllawiau hyn ar gael yn yr adran ‘Geirfa’ yn y canllawiau. Mae’r cysylltiadau rhwng Ysgolion Bro a pholisïau eraill Llywodraeth Cymru ar gael yn ‘Atodiad 1: Cysylltiadau rhwng Ysgolion Bro a pholisïau eraill’.

Model Ysgolion Bro

Image
Ein model ar gyfer ysgolion bro

Mae’r model ar gyfer Ysgolion Bro yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â theuluoedd, cymunedau ac asiantaethau. Model hyblyg ydyw, sy’n golygu y bydd pob Ysgol Bro yn edrych yn wahanol. Dylid datblygu dulliau gweithredu mewn partneriaeth â phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau sy’n gysylltiedig â’r ysgol. Dylid hefyd teilwra’r dulliau gweithredu hynny i ddiwallu anghenion penodol y rhanddeiliaid hyn. Mae’r model ar ei fwyaf effeithiol pan fo’r ddarpariaeth yn briodol i gyd-destun yr ysgolion, y teuluoedd a’r cymunedau unigol. Nid mater o ofyn i ysgolion wneud mwy yw hyn. Yn hytrach, mae’n fater o ddeall manteision ymgysylltu â’r gymuned ehangach i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Mae yna ddigonedd o ewyllys da ac ymrwymiad enfawr yn ein cymunedau. Mae’r canllawiau hyn yn tynnu sylw at y ffyrdd y gall ysgolion a chymunedau gydweithio i fanteisio i’r eithaf ar hyn. Mae ymgysylltu â chymunedau yn ein cefnogi wrth roi cenhadaeth ein cenedl ar waith i sicrhau tegwch, a safonau a dyheadau uchel i bawb.

Cyflwyniad i ymgysylltu â’r gymuned

Mae'r dystiolaeth ymchwil yn dangos bod angen ymgysylltiad cryf â’r gymuned ehangach os yw ysgolion am chwarae eu rhan lawn yn y gwaith o leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad (Estyn, Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru, 2020, Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol). Y rheswm am hyn yw nad yw ysgolion yn bodoli ar wahân. Maent yn rhan allweddol o rwydwaith o sefydliadau statudol, preifat a gwirfoddol sy’n gwasanaethu ac yn cefnogi’r gymuned leol. Drwy ymgysylltu â sefydliadau cymunedol, a thrwy wneud y defnydd gorau o’u hasedau, gall ysgolion:

  • fanteisio i'r eithaf ar eu rôl wrth sicrhau datblygiadau addysg, iechyd a chymunedol
  • helpu i greu cymunedau llewyrchus, cydgysylltiedig sydd wedi’u grymuso

Fel rhan o’r model ar gyfer yr Ysgolion Bro, mae ymgysylltu â’r gymuned yn golygu bod ysgolion yn gwneud y canlynol:

  • cydweithio â’r gymuned leol
  • cyfeirio unigolion at wasanaethau cymorth neu gynghori
  • defnyddio'r sgiliau a'r sefydliadau yn y gymuned i ehangu a chyfoethogi cyfleoedd dysgu ac i ddylanwadu'n gadarnhaol ar newid
  • cynnig cyfleoedd, os yw’n briodol, i ddefnyddio cyfleusterau'r ysgol ar gyfer gweithgareddau’ sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid, dysgu oedolion, lles, chwarae a chwaraeon yn ogystal â gweithgareddau diwylliannol a chymunedol eraill

Manteision ymgysylltu â'r gymuned

Mae datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned yn gallu:

  • cryfhau gwaith yr ysgol i ymgysylltu â theuluoedd
  • cryfhau'r profiadau dysgu ac addysgu a gynigir gan yr ysgol, gan ddod ag adnoddau i mewn a chyfoethogi'r cwricwlwm
  • darparu adnoddau i gefnogi dysgwyr ac aelodau o’r teulu, er enghraifft gofal iechyd, mentrau gofal cymdeithasol
  • cefnogi teuluoedd incwm isel i fynd i’r afael â thlodi plant ac anghydraddoldeb, a’u helpu i ddod o hyd i lwybrau allan o dlodi
  • sicrhau bod ysgolion yn cefnogi ac yn dysgu oddi wrth deuluoedd amlieithog ac sy’n perthyn i’r mwyafrif byd-eang a chymunedau amlethnig
  • darparu cyfleoedd hyfforddi ar y cyd i staff, dysgwyr, rhieni ac aelodau eraill o’r gymuned
  • cysylltu dysgwyr a theuluoedd â chymorth a chefnogaeth gynnar drwy Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, ymwelwyr iechyd, gwasanaethau meddygon teulu lleol
  • galluogi gweithwyr proffesiynol i weithio gydag eraill a sicrhau na ddyblygir adnoddau i gefnogi dysgwyr, teuluoedd a’r gymuned
  • galluogi ysgolion i wneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd cymunedol, gan ddatblygu cydlyniant cymunedol a chyfalaf cymdeithasol
  • cefnogi rhieni sy’n gweithio drwy drefniadau partneriaeth agos rhwng ysgolion a gofal plant
  • darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu oedolion, gan ganiatáu i aelodau o'r gymuned ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu hyder
  • galluogi defnydd cymunedol ehangach o asedau'r ysgol, er enghraifft, cyfleusterau chwaraeon a chymdeithasol, neu o dir yr ysgol, sy'n gallu gwella iechyd a lles y gymuned leol
  • cynyddu'r defnydd o wasanaethau cymorth cymunedol ehangach, er enghraifft, cyngor ar bopeth, a chyngor ar yrfaoedd, ac ati
  • ei gwneud yn bosibl cydweithio ag arweinwyr grwpiau cymunedol ar gyfer prosiectau cymunedol ar y cyd a gwirfoddoli
  • helpu ysgolion i hyrwyddo ailymgysylltu â dysgwyr drwy gysylltiadau â'r gymuned ehangach a darparwyr trydydd parti (yn unol ag ‘Y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Trosolwg’)

Gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant

Rhaid i bob cam i ymgysylltu â’r gymuned:

  • adlewyrchu amrywiaeth y plant a’r bobl ifanc, y teuluoedd a’r cymunedau yng Nghymru
  • ymateb i gwerthoedd ac anghenion diwylliannol
  • sicrhau cyfleoedd cyfartal
  • bod yn gwbl gynhwysol

Mae Cymru wedi nodi gweledigaeth i fod yn genedl wrth-hiliol, lle caiff pawb eu gwerthfawrogi am bwy ydynt a'r cyfraniad a wnânt. Ymdrinnir â hyn yng ‘Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol’. Mae gwybodaeth a chymorth ar gyfer dysgu proffesiynol am amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL) ar gael i bob gweithiwr addysg proffesiynol ledled Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan DARPL.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Yn gyffredinol, mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn nodi’r hyn y mae angen i ysgolion ei ystyried wrth wneud penderfyniadau a datblygu polisïau sy’n effeithio ar ddysgwyr â gwahanol nodweddion gwarchodedig. Rhaid i ysgolion roi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:

  • diddymu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid ac ymddygiad arall a waherddir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig yn gyffredin a'r rheini sydd heb nodwedd o'r fath
  • meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig yn gyffredin a'r rheini sydd heb nodwedd o'r fath

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn yr adroddiad Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Mynd ati fel ysgol gyfan i ymgysylltu â’r gymuned

Er mwyn ymgysylltu â’r gymuned, rhaid gweithredu ar lefel ysgol gyfan:

  • yn strategol
  • gyda chefnogaeth pob rhanddeiliad
  • ar sail safbwyntiau teuluoedd a chymunedau, gan adlewyrchu eu gwerthoedd a’u hanghenion diwylliannol

Gallai’r prif ystyriaethau ar gyfer dull ysgol gyfan gynnwys:

  • Arweinyddiaeth
  • Llais disgyblion
  • Llywodraethwyr
  • Staff dynodedig
  • Cydweithio rhwng ysgolion

Arweinyddiaeth

Yn yr ysgolion bro mwyaf effeithiol mae yna arweinwyr sy’n creu gweledigaeth ar gyfer pawb ac sy’n blaenoriaethu ymgysylltu â’u teuluoedd, y gymuned a gwasanaethau ehangach. Gall y Safonau Proffesiynol ar gyfer pob ymarferydd ysgol:

  • helpu ymarferwyr i ddatblygu arferion rhagorol
  • cefnogi ei gynnydd proffesiynol

Mae rhagor o wybodaeth am arweinyddiaeth ar gyfer Ysgolion Bro ar gael ym Mhecyn Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned, ‘Thema 1: Arweinyddiaeth ar gyfer system sy’n gwella ei hun Adnoddau 1-7’.

Llais disgyblion

Mae plant a phobl ifanc yn ganolog i ddull gweithredu Ysgol Fro. Mae pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd, a dylai popeth a wnawn adlewyrchu hyn. Fel y’u nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, dylai eu hawliau gael:

  • eu cydnabod
  • eu parchu
  • eu hyrwyddo

Gyda hyn mewn cof:

  • dylai llais plant a phobl ifanc gael ei glywed wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau
  • dylai plant a phobl ifanc fod yn rhan amlwg o’r broses benderfynu
  • dylai plant a phobl ifanc gymryd rhan yn y broses o ddatblygu strategaethau ymgysylltu â’r gymuned, fel bod modd iddynt roi eu barn am eu cymuned o’u hamrywiol safbwyntiau gwahanol

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gael plant i leisio eu barn ar gael ar wefan Plant yng Nghymru ac ar wefan Estyn.

Cyrff llywodraethu a llywodraethwyr cymunedol

Rhaid i broses o benodi cyrff llywodraethu a llywodraethwyr cymunedol:

  • ystyried yr angen i werthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth a thegwch
  • sicrhau arferion cynhwysol sy’n galluogi pawb i gymryd rhan a phob llais i gael ei glywed, er mwyn dyfnhau dealltwriaeth a meithrin cydberthnasau o ymddiriedaeth ac ymgysylltiad â’r gymuned

Rôl cyrff llywodraethu

Mae cyrff llywodraethu yn atebol am gyfeiriad strategol yr ysgol ac ansawdd yr addysg a ddarperir. Oherwydd hynny mae ganddynt rôl allweddol o ran cefnogi trefniadau i ymgysylltu â’r gymuned.

Mae cyrff llywodraethu’n penodi llywodraethwyr cymunedol i gynrychioli buddiannau cymunedol ehangach yr ysgol.

Rôl llywodraethwyr cymunedol

Gall llywodraethwyr cymunedol helpu i wella ymgysylltiad â chymunedau gan:

  • eu bod yn adnabod y gymuned
  • bod ganddynt yn aml gysylltiadau â llawer o asedau a grwpiau cymunedol gweithgar
  • y gallant helpu i ddatblygu partneriaethau strategol

Mae rhagor o wybodaeth i lywodraethwyr am Ysgolion Bro ar gael yn ‘Canllaw i’r gyfraith i lywodraethwyr ysgolion’.

Staff dynodedig

Rôl swyddogion ymgysylltu â theuluoedd

Gall swyddogion ymgysylltu â theuluoedd hefyd fod yn gyfrifol am ddatblygu mwy o ymgysylltiad â’r gymuned gan eu bod yn aml yn adnabod y teuluoedd a'r gymuned leol yn dda eisoes, ac yn gallu adeiladu ar y cysylltiadau naturiol sydd eisoes ar waith. Mae 'Atodiad 3: Datblygu Trefniadau ar gyfer Ymgysylltu â Theuluoedd mewn Ysgolion Bro' yn darparu mwy o fanylion am y rôl hon.

Rôl rheolwyr Ysgolion Bro

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael cyllid ar gyfer swydd rheolwr Ysgol Fro. Gallant ddatblygu’r rôl hon mewn ffordd sy’n ategu eu gweledigaeth strategol ehangach nhw ar gyfer Ysgolion Bro. Gall y swyddi hyn fod mewn ysgol, clwstwr o ysgolion neu’n ganolog.

Rolau a chyfrifoldebau posibl ar gyfer rheolwyr Ysgolion Bro

Gallai’r rôl gynnwys y tasgau allweddol canlynol:

  • gweithio gyda’r uwch dîm arwain i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag ymgysylltu â’r gymuned, teuluoedd a dysgwyr
  • cynllunio ar gyfer ac arwain y gwaith o weithredu rhaglenni a gwasanaethau o ansawdd yn unol â model Ysgolion Bro
  • sicrhau bod gwaith sy’n ymwneud â theuluoedd, y gymuned ac asiantaethau yn gydnaws â gweledigaeth yr ysgol a’r cwricwlwm, er mwyn cydymffurfio â’r dysgu a’r addysgu yn yr ysgol
  • cydgysylltu ymarferion mapio cymunedol a theuluol ac archwiliadau asesu adnoddau a gaiff eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd
  • datblygu cynllun ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau datblygu ysgol ehangach eraill ac sy’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, a nodi ffyrdd y gallai gwaith partneriaeth fod o fudd i’r ysgol, y dysgwyr a’r gymuned
  • datblygu neu integreiddio â strwythur partneriaeth i ddatblygu strategaethau ar y cyd ag asiantaethau eraill megis gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, swyddogion lles addysg, cydlynwyr ymgysylltiad a chynnydd, cydgysylltwyr digartrefedd ymysg pobl ifanc, yr heddlu, y trydydd sector, chwaraeon a hamdden, llyfrgelloedd, dysgu oedolion, y blynyddoedd cynnar, sefydliadau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a’r sector gwirfoddol 
  • cefnogi’r gwaith o werthuso cynlluniau Ysgolion Bro drwy gydgysylltu’r gwaith o gasglu data a chreu adroddiadau ar gyfer rhanddeiliaid eraill
  • nodi ffrydiau cyllid grant posibl a sicrhau grantiau i gefnogi datblygiad parhaus Ysgolion Bro
  • cefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff yr ysgol a rhanddeiliaid eraill er mwyn rhannu’r weledigaeth ac arferion da
  • cynllunio cymorth priodol i blant o aelwydydd incwm isel, gan ymgysylltu â gwasanaethau eraill, i sicrhau bod y cymorth a gynllunnir yn ategu unrhyw gymorth arall y gallai’r plant fod yn ei gael
  • datblygu strategaethau ar gyfer delio â phroblemau presenoldeb, lefelau cyrhaeddiad isel a materion lles i bob dysgwr, ond yn enwedig dysgwyr o aelwydydd incwm isel, a monitro eu heffaith
  • cydweithio’n agos â swyddogion ymgysylltu â theuluoedd (os oes rhai ar gael)
  • cynllunio ar gyfer datblygu defnydd cymunedol mwy o gyfleusterau’r ysgol lle bo’n briodol, a allai gynnwys dysgu oedolion, cyfleoedd diwylliannol neu chwaraeon a hamdden
  • datblygu cyfleoedd i gyfoethogi’r diwrnod ysgol drwy glybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol

Cydweithio rhwng ysgolion

Yn aml, mae ysgolion sy’n agos at ei gilydd yn ddaearyddol yn rhannu’r un gymuned, sefydliadau cymunedol a gwasanaethau cymorth ehangach. Ac yn aml, bydd gan deuluoedd blant neu bobl ifanc mewn dwy ysgol yn yr ardal, hynny yw mewn ysgol gynradd ac mewn ysgol uwchradd. Felly mae’n bosibl y bydd gan yr ysgolion hyn flaenoriaethau cyffredin a gwybodaeth berthnasol i’w rhannu. Ac efallai y byddant yn elwa o ddatblygu dull o ymgysylltu â’r gymuned sy’n seiliedig ar le penodol neu glwstwr. Byddai hyn yn sicrhau:

  • defnydd mwy effeithiol o gyllid a grantiau
  • bod gwasanaethau i deuluoedd yn fwy effeithlon ac nad ydynt yn cael eu dyblygu
  • ymwybyddiaeth fwy o bŵer cydweithio

Gall rheolwr Ysgol Fro helpu i ddatblygu’r cydweithio hwn ar draws ysgolion.

Cynllunio trefniadau i ymgysylltu â’r gymuned

Ni ddylid ystyried cynllunio ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd ac â’r gymuned fel rhywbeth cwbl wahanol i flaenoriaethau datblygu eraill yr ysgol. Yn hytrach dylid ei weld fel rhan annatod o’r cylch gwella a gwerthuso. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddogfen ‘Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd’.

Rhaid i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a blaenoriaethau gwella cenedlaethol eraill gael sylw dyledus gan bob ysgol wrth iddynt bennu eu blaenoriaethau gwella. At hyn, rhaid i gynllun datblygu’r ysgol gynnwys manylion am sut y bydd y corff llywodraethu yn gweithio gyda chymuned ehangach yr ysgol, er enghraifft:

  • rhieni dysgwyr yr ysgol
  • trigolion lleol
  • ysgolion eraill
  • asiantaethau
  • busnesau

Dylai cynllun datblygu’r ysgol hefyd gynnwys manylion am sut y gall adnoddau, grantiau a chyllid helpu i gefnogi’r gwaith hwn. Mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn allweddol o ran sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Mae’n darparu cyllid ychwanegol i ysgolion a lleoliadau i wneud yn siŵr bod plant o aelwydydd incwm isel yn gallu cyflawni eu potensial. Mae canllawiau ar sut i ddefnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol drwy ddatblygu strategaethau Ysgolion Bro ar gael yn y canllawiau ar y 'Grant Datblygu Disgyblion: trosolwg'.

Ni ddylid ystyried datblygu fel Ysgol Fro a datblygu ymgysylltiad â’r gymuned fel strategaeth tymor byr. Bydd cynnwys y dulliau gweithredu hyn ym mhroses ddatblygu hirdymor yr ysgol, a dilyn camau gwella a gwerthuso parhaus yn sicrhau bod strategaethau i ymgysylltu â’r gymuned yn rhai cyson a sefydlog.

Bydd cynllunio ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned yn cynnwys y camau canlynol:

Sefydlu gweledigaeth

Dylai’r weledigaeth hon fod yn deg a chynhwysol, gan gynnwys plant a phobl ifanc, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned.

Meithrin cydberthnasau â rhieni a theuluoedd

Mae meithrin cydberthynasau ehangach gyda’r gymuned yn dechrau gyda sicrhau bod gan ysgolion ddealltwriaeth o’u plant a’u pobl ifanc, a’u teuluoedd. Mae canllawiau ar ddatblygu trefniadau i ymgysylltu â theuluoedd mewn ysgolion bro ar gael yn 'Atodiad 3: Datblygu Trefniadau ar gyfer Ymgysylltu â Theuluoedd mewn Ysgolion Bro'. 

Meithrin cysylltiadau â’r gymuned ehangach

Bydd angen i ysgolion adnabod eu cymuned er mwyn deall beth fydd y partneriaethau gorau i gefnogi datblygiad y plant a’r bobl ifanc a’u teuluoedd. Bydd angen i ysgolion gyfathrebu’n effeithiol â phartneriaid i ddeall eu strwythurau a’u prosesau er mwyn cefnogi:

  • cydweithio
  • rhannu gwybodaeth
  • gwneud penderfyniadau ar y cyd

Ymgorffori amcanion ymgysylltu â’r gymuned yng nghynllun datblygu’r ysgol

Dylai ysgolion sefydlu eu blaenoriaethau gyda’r rhanddeiliaid, a sicrhau bod cynllun datblygu eu hysgol yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer. Dylai pob strategaeth a ddefnyddir helpu i wella addysg, datblygiad a lles plant.

Monitro a gwerthuso effaith yr ymgysylltu

Dylid cynnal gwerthusiadau priodol a thrylwyr.

Wrth ymgysylltu â chymunedau:

  • dylid canolbwyntio ar yr unigolyn, gan wrando ar aelodau’r gymuned a’u gwerthfawrogi
  • dylid gweithredu ar sail cryfderau, gan gydnabod ac adeiladu ar gryfderau a sgiliau cymunedau
  • dylid bod yn ystyriol o drawma, gan gydnabod effaith eang trawma, a deall a hyrwyddo'r llwybrau gwella posibl
  • dylid gweithredu ‘gyda’ chymuned, nid ‘drosti’

Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned ar gael ym Mhecyn Cymorth Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned, ‘Thema 5: Datblygu partneriaethau cymunedol a gweithio amlasiantaethol Adnoddau 1–2’.

Mae rhagor o wybodaeth am ddulliau ystyriol o drawma ar gael yn ‘Cymru sy’n Ystyriol o Drawma: Dull Cymdeithasol o Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd’ ar wefan Hyb ACE Cymru.

Partneriaethau cymunedol, dysgu cymunedol, gweithredu cymunedol

Partneriaethau cymunedol

Gall datblygu partneriaethau cymunedol fod o fudd i ysgolion ac i gymunedau fel ei gilydd. Mae gan bob cymuned adnoddau a gwasanaethau sy’n gallu:

  • cefnogi arferion ysgol
  • cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  • gwella a llywio’r cwricwlwm

Yn yr un modd, mae gan ysgolion adnoddau dynol, ffisegol a materol a allai, o’u rhyddhau, gefnogi’r gymuned. Bydd y trefniant iawn rhwng ysgolion a phartneriaid eraill yn amrywio, yn dibynnu ar natur y gymuned. Dylai arweinwyr ysgolion fod yn glir ynghylch rôl yr ysgol mewn mentrau ehangach ar lefel leol, a datblygu’r partneriaethau sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw (Increasing the use of school facilities (Saesneg yn unig), Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (2016)).

Dod i adnabod eich cymuned

Dylai fod gan bob ysgol ddealltwriaeth o’r gwasanaethau a’r sefydliadau sy’n rhan amlwg o’u cymuned fel bod modd iddynt wneud y defnydd gorau o’u hasedau a’u rhannu. Gellir sicrhau hyn drwy:

  • dreulio amser yn y gymuned
  • siarad ag aelodau’r gymuned
  • ymchwilio i’r cyfleoedd sy’n bodoli

Yn ogystal, gall gynnal proses fapio gymunedol ffurfiol hefyd helpu i gasglu, dehongli a rhannu gwybodaeth, er mwyn gallu nodi’r hyn sydd gan y gymuned i’w gynnig. Gallai proffil cymunedol gynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • y boblogaeth (gallai hyn gynnwys proffilio grwpiau penodol o fewn y gymuned)
  • anghenion economaidd-gymdeithasol
  • iechyd
  • tai
  • addysg
  • crefydd
  • plismona
  • cynghorau cymuned
  • cysylltiadau trafnidiaeth
  • cyfleusterau cymunedol ehangach
  • darpariaeth gwaith ieuenctid
  • darpariaeth gofal plant
  • darpariaeth gwaith chwarae (cynlluniau chwarae â staff)
  • gwasanaethau cymorth a chefnogaeth gynnar lleol i deuluoedd a rhieni
  • arweinwyr awdurdodau lleol o ran trechu tlodi
  • partneriaethau bwyd awdurdodau lleol

Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn cynnig ystadegau amddifadedd ar gyfer ardaloedd yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu ysgolion i ddeall cyd-destun eco-economaidd eu cymunedau.

Mae’r sefydliadau canlynol yn cynnig cyfleoedd partneriaeth allweddol ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned. Nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfaw,r a bydd ysgolion am ystyried partneriaethau yn eu cymunedau eu hunain.

Gwasanaethau ieuenctid

Mae gan weithwyr ieuenctid gysylltiadau cymunedol cadarn, a gwybodaeth fanwl am y gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned.

Mae’n bwysig bod Ysgolion Bro:

  • yn gweithredu’n unol â gwasanaethau gwaith ieuenctid lleol, ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw
  • yn cyfeirio pobl ifanc at wasanaethau gwaith ieuenctid lleol
  • yn nodi sut y gellid defnyddio gweithwyr ieuenctid yn yr ysgol

Gall awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am wasanaethau ieuenctid eu hardal.

Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yw’r corff annibynnol sy’n cynrychioli’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r Cyngor yn hyrwyddo gwaith ieuenctid ac yn cefnogi cydweithio.

Trydydd Sector Cymru

Mae’r term ‘Trydydd Sector’ yn ddisgrifiad cynhwysol a chyffredinol o ystod amrywiol iawn o sefydliadau sy’n rhannu set o werthoedd a nodweddion. Mae’r Trydydd Sector yn cwmpasu ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys:

  • cymdeithasau cymunedol
  • grwpiau hunangymorth
  • sefydliadau gwirfoddol
  • elusennau
  • sefydliadau sy’n seiliedig ar ffydd a chred
  • mentrau cymdeithasol
  • busnesau cymunedol
  • cymdeithasau tai
  • ymddiriedolaethau datblygu
  • sefydliadau cydweithredol
  • sefydliadau cydfuddiannol

Mae sefydliadau’r trydydd sector yn cael effaith gadarnhaol fawr ar gymunedau yng Nghymru, a gallent gynnig cyfleoedd partneriaeth gwych i ysgolion. Mae’r grwpiau partneriaeth allweddol o fewn cymunedau yn cynnwys y canlynol.

Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Rhwydwaith o sefydliadau cymorth yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru ar gyfer y trydydd sector cyfan yng Nghymru. Mae’n cynnwys 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Grwpiau sy’n seiliedig ar grefydd a chred

Mae cymunedau Cymru yn lleoedd amrywiol. Mae grwpiau sy’n seiliedig ar grefydd a chred yn elfen bwysig o’r amrywiaeth hon. Maent yn cyfrannu’n fawr at fywyd cyhoeddus, ac mae’r berthynas rhyngddynt a grwpiau cymunedol eraill yn rhan bwysig o gydlyniant cymunedol.

Mae gan bob awdurdod lleol gyngor ymgynghorol sefydlog ar grefydd, gwerthoedd a moeseg, a hyd 2026, gyngor ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol. Bydd y rhain yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau lleol sy’n seiliedig ar grefydd a chred. Gallant fod yn bwyntiau cyswllt defnyddiol i ysgolion er mwyn nodi grwpiau crefyddol ac anghrefyddol amlwg yn y gymuned, a chysylltu â nhw.

Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol ar Addysg Grefyddol Cymru

Pwrpas Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol ar Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGauC) yw cefnogi cyfnewid arferion da a chynrychioli nodau, gwaith a safbwyntiau’r cynghorau ymgynghorol sy’n aelodau ohoni. Er mwyn cyflawni hyn:

  • mae’r cynghorau ymgynghorol yn anfon cynrychiolwyr i gyfarfodydd tymhorol CCYSAGauC
  • trefnir mentrau a phrosiectau cenedlaethol perthnasol ym meysydd crefydd, gwerthoedd a moeseg, a chydaddoli
  • siaredir ar ran pob un o gynghorau ymgynghorol Cymru drwy ymgysylltu â chyrff ac asiantaethau perthnasol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru
  • caiff dogfennau allweddol perthnasol y cynghorau ymgynghorol eu coladu
  • sicrheir bod cydberthnasau gwaith â chyrff cyfatebol yn Lloegr yn cael eu cynnal

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CCYSAGauC.

Cyngor Celfyddydau Cymru

Gall Cyngor Celfyddydau Cymru gefnogi ysgolion i ddatblygu eu harlwy o ran y celfyddydau a chreadigrwydd. Gall ddarparu cyfleoedd i athrawon a dysgwyr i ymchwilio i greadigrwydd ar draws eu meysydd dysgu a phrofiad, gan dynnu ar sgiliau a gwybodaeth gweithwyr proffesiynol creadigol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cymdeithasau tai

Mae llawer o gymdeithasau tai yn datblygu cysylltiadau agos ag ysgolion a lleoliadau yn eu cymuned, ac yn cefnogi ystod o brosiectau sy’n cael effaith gadarnhaol ar blant a’u teuluoedd.

 

Cartrefi Cymunedol Cymru yw’r sefydliad ambarél ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru, a gall ddarparu rhagor o fanylion am gymdeithasau tai sy’n gweithredu yn eich ardal chi.

Mae’r astudiaethau achos isod yn rhoi enghreifftiau o’r ffyrdd y mae cymdeithasau tai wedi gweithio gyda’u hysgolion a’u cymunedau.

Rhyddhau cyfleusterau ysgolion at ddefnydd y gymuned

Mae gan ysgolion ystod o gyfleusterau, gan gynnwys adeiladau, arbenigedd staff ac adnoddau ymarferol y gallai’r gymuned ehangach eu defnyddio.

Anogir ysgolion i wneud y canlynol:

  • pan fo’n briodol, agor eu hadeiladau at ddefnydd y gymuned ehangach
  • datblygu partneriaethau â grwpiau cymunedol fel y gellir rhannu a defnyddio adnoddau ac arbenigedd

Pan fydd ysgolion yn gwneud hyn, mae’r manteision hirdymor yn eang, gan gynnwys:

  • effaith gadarnhaol ar ddysgwyr yn yr ysgol, er enghraifft, gall mynediad at gyfleusterau clybiau ieuenctid ar y safle leihau cyfraddau troseddu yn y gymuned ac achosion o fwlio
  • mwy o falchder cymunedol
  • gwell perthynas rhwng plant a phobl ifanc, teuluoedd a thrigolion y gymuned leol
  • darparu gweithgareddau chwaraeon a chymdeithasol, yn ogystal â mannau chwarae diogel i blant a phobl ifanc o deuluoedd incwm isel.

Fel rheol, y corff llywodraethu a’r pennaeth sy’n penderfynu hwyluso’r defnydd o adnoddau ar gyfer y gymuned ehangach. Mae angen i uwch arweinwyr a llywodraethwyr ysgol gyfathrebu gweledigaeth glir. Mae llawer o lywodraethwyr yn aelodau o’r gymuned ac yn gallu helpu i hwyluso’r broses. Byddai angen i ysgolion â chymeriad crefyddol ymgynghori â’r awdurdodau esgobaethol hefyd.

Er mwyn hwyluso’r defnydd gorau o adnoddau’r ysgol ar gyfer y gymuned ehangach, dylid ystyried y meysydd canlynol.

Capasiti staff

Rydym yn sylweddoli bod galwadau amrywiol yn cael eu rhoi ar staff ysgolion. Mae’r ymchwil yn dangos bod sefydlu rolau penodedig o fewn strwythur ysgol sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned yn effeithiol. Gellir defnyddio rolau’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a Rheolwr Ysgol Fro i helpu i ddatblygu’r gwaith partneriaeth sy’n ofynnol i hwyluso defnyddio’r ysgol fel ased cymunedol. Mae yna faterion ymarferol hefyd o ran capasiti staff mewn perthynas â diogelu a glanhau’r safle, a chostau cynnal a chadw rheolaidd sy’n ymwneud â gweithgarwch y tu allan i oriau’r ysgol. Yn aml, mae yna grantiau i helpu gyda’r costau hyn, er enghraifft grantiau cymunedol Chwaraeon Cymru.

Cymunedau gwasgaredig

Mae rhai ysgolion yn denu dysgwyr o ardal ddaearyddol eang. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ysgolion arbennig
  • ysgolion â chymeriad crefyddol
  • ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd lle siaredir Saesneg yn bennaf
  • ysgolion mewn ardaloedd gwledig

Nid yw denu dysgwyr o ardal ddaearyddol eang yn rhwystr o reidrwydd. Ond mae’n golygu bod ystyr y gair ‘cymuned’ yn newid rywfaint, gan nad yw’n ymwneud â’r ardal leol yn unig. 

Cyd-destun lleol

Mae diwallu anghenion lleol yn ystyriaeth bwysig wrth agor cyfleusterau ysgol i’r gymuned eu defnyddio, a bydd ardaloedd gwahanol yn wynebu heriau gwahanol. Mae cyfranogiad cymunedol ac ymgynghori yn ffactorau pwysig wrth sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd fuddiol. Rhaid ystyried holl anghenion y gymuned.

Addasrwydd cyfleusterau

Efallai na fydd gan rai ysgolion gyfleusterau priodol ar hyn o bryd i’r gymuned eu defnyddio. Dyrannwyd cyllid cyfalaf i gefnogi ysgolion i addasu eu safleoedd i hwyluso defnydd cymunedol.

Chwaraeon Cymru

Pan fydd ysgolion yn agor eu cyfleusterau, mae cynnydd amlwg yn lefel y chwaraeon a’r gweithgarwch corfforol yr ymgymerir ag ef. Mae adnodd chwaraeon hwylus a chydweithredol mewn lleoliad ysgol yn gyfle hirdymor, cynaliadwy i gymunedau fanteisio ar gyfleoedd chwaraeon, a gwella eu hiechyd a’u lles ar yr un pryd.

Mae Chwaraeon Cymru, y sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, yn cyllido amryw o brosiectau cymunedol ac ar lawr gwlad, ac yn gallu helpu ysgolion i gysylltu â rhaglenni a phrosiectau amrywiol.

Mae rhagor o fanylion ynghylch creu cysylltiadau rhwng ysgolion a’r gymuned ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru.

Mae Chwaraeon Cymru wedi cynhyrchu'r adnoddau a'r wybodaeth ganlynol a allai fod o ddiddordeb arbennig i ysgolion.

Adroddiad Addysg Actif y Tu Hwnt i’r Diwrnod Ysgol

Mae Adroddiad Addysg Actif y Tu Hwnt i’r Diwrnod Ysgol:

  • yn nodi manteision cydweithio ag ystod o bartneriaid chwaraeon
  • yn tynnu sylw at arferion da, elfennau sy’n hwyluso, a heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth agor eu cyfleusterau i gymunedau lleol
  • yn amlinellu’r manteision i ysgolion wrth agor eu cyfleusterau y tu hwnt i’r diwrnod ysgol

Mae’n cynnwys astudiaethau achos buddiol gan ysgolion sydd wedi gweithio gyda Chwaraeon Cymru i ddarparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar safle’r ysgol ar ôl y diwrnod ysgol.

Swyddogion Pobl Ifanc Egnïol

Mae Chwaraeon Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i gasglu data am y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ysgolion drwy Arolwg Chwaraeon Ysgol, ac yn buddsoddi ynddynt i ddarparu rhaglenni gweithgarwch sy’n cefnogi ysgolion i gysylltu â’r gymuned leol. Gall Swyddogion Pobl Ifanc Egnïol awdurdodau lleol helpu ysgolion i nodi’r cyllid, y rhaglenni a’r cymorth sydd ar gael i ddarparu gweithgareddau a chlybiau allgwricwlar.

Llysgenhadon Ifanc

Trwy fod yn Llysgenhadon Ifanc mae pobl ifanc yn creu ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer eu cyfoedion ac oedolion i wneud gweithgarwch corfforol drwy chwaraeon. Mae’r rhaglen yn datblygu ystod o sgiliau arwain a gweithredu ymhlith pobl ifanc, gan eu galluogi i ddefnyddio eu llais fel disgyblion i greu a darparu’r cyfleoedd ymhlith eu cyfoedion. Caiff rhaglen Llysgenhadon Ifanc Cymru ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru, Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a thîm datblygu chwaraeon pob awdurdod lleol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy eich tîm datblygu chwaraeon lleol.

Citbag

Mae Citbag yn ganolfan ddysgu ar-lein i helpu ysgolion i roi’r sgiliau, yr hyder a’r profiadau chwaraeon i bobl ifanc er mwyn iddynt fwynhau chwaraeon ar hyd eu hoes. Mae’n cynnwys adnoddau i athrawon, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, rhieni a dysgwyr sydd wedi’u datblygu gan arbenigwyr addysg a chwaraeon. Diben yr adnoddau yw helpu i weithredu’r Cwricwlwm i Gymru.

Cyllid

Mae'r rhan fwyaf o ffrydiau cyllid Chwaraeon Cymru yn targedu sefydliadau gwirfoddol a chlybiau chwaraeon cymunedol nad ydynt yn bodoli i wneud elw. Gall clybiau neu sefydliadau o’r fath sy’n gweithredu ar safle ysgolion wneud cais am arian o Gronfa Cymru Actif a/neu Lle i Chwaraeon – Crowdfunder, cyn belled â bod y manteision arfaethedig yn canolbwyntio ar y gymuned ac at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â’r cwricwlwm (na dibenion allgwricwlar).

Fodd bynnag, mae Chwaraeon Cymru yn cynnig opsiynau cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon sy’n cael eu gweithredu gan ysgol neu sydd wedi’u lleoli mewn ysgol, sydd â ffocws ar fantais gymunedol. Dylai ceisiadau gael eu gwneud drwy bartner cenedlaethol, megis awdurdod lleol neu gorff llywodraethu cenedlaethol. Mae’r opsiynau cyllid fel a ganlyn.

  • Cronfa Gyfalaf Chwaraeon Cymru – buddsoddiadau cyfalaf yn seiliedig ar flaenoriaethau cynllun busnes Chwaraeon Cymru
  • Pitch Collaboration – corff llywodraethu cenedlaethol (rygbi, pêl-droed a hoci) a grŵp a arweinir gan Chwaraeon Cymru sy’n edrych ar ddarpariaeth caeau artiffisial (3G ac ATP) ledled Cymru
  • Court Collaboration – corff llywodraethu cenedlaethol (pêl-fasged, tenis a phêl-rwyd) a grŵp a arweinir gan Chwaraeon Cymru sy’n edrych ar ddarpariaeth cyrtiau awyr agored ledled Cymru

I gael gwybod mwy am y tair cronfa, anfonwch e-bost i capital@sport.wales.

Hawl plant i chwarae a Chwarae Cymru

Hawl plant i chwarae

Caiff pwysigrwydd chwarae ei gydnabod a’i warchod yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae Erthygl 31 o’r confensiwn yn nodi’n glir:

  • bod gan blant yr hawl i chwarae
  • bod gan blant yr hawl i ymuno mewn gweithgareddau adloniant eraill
  • y dylai’r gwladwriaethau sydd wedi ymrwymo i’r confensiwn gydnabod yr hawliau hyn

Efallai nad oes digon o leoedd addas i chwarae mewn rhai cymunedau. Yn aml, tir yr ysgol yw’r ased awyr agored mwyaf sydd yna mewn cymuned. Mae agor tir yr ysgol i blant gael chwarae yn cyflawni rôl bwysig o ran mynd i’r afael â’r angen brys i sicrhau bod ardaloedd chwarae awyr agored ar gael i fwy o blant.

Er mwyn creu amgylchedd sy’n cynnig cyfleoedd ardderchog i blant chwarae a mwynhau eu hamser hamdden mae gofyniad cyfreithiol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Fel rhan o’r asesiad hwn, rhaid i awdurdodau lleol:

  • asesu a yw eu hardaloedd yn cynnig digon o gyfleoedd i chwarae
  • sicrhau bod eu hardaloedd yn cynnig digon o gyfleoedd i chwarae
  • asesu i ba raddau y mae ysgolion yn cynnig cyfleoedd i chwarae y tu allan i oriau’r ysgol
Chwarae Cymru

Mae Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n cefnogi chwarae plant, wedi datblygu cronfa o adnoddau a all gefnogi ysgolion i agor tir eu safle.

Clybiau a gofal plant y tu allan i oriau ysgol

Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol yn diwallu anghenion eu cymuned leol drwy:

  • alluogi rhieni yng Nghymru i hyfforddi, gweithio a symud ymlaen yn eu gyrfa, gan wella eu hamgylchiadau, trechu tlodi ac anghydraddoldeb, a helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau i blant
  • darparu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli lleol
  • helpu i ddatblygu sgiliau newydd yn y gymuned i ehangu a chyfoethogi cyfleoedd chwarae a dysgu
  • darparu cyfleoedd chwarae, gan feithrin cysylltiadau â’r ysgol a helpu i wella iechyd a lles
  • meithrin cysylltiadau cyson â phlant a theuluoedd

Mae adeiladau ysgol yn darparu lleoliad gwych ar gyfer clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol. Mae cynnal y ddarpariaeth hon ar y safle yn sicrhau parhad gofal, a chyfleoedd chwarae a dysgu estynedig a chyfoethocach i blant. Gall clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol hefyd ddarparu cyfleoedd datblygu a chynnydd i staff ysgolion.

CWLWM

Gall consortiwm gofal plant CWLWM helpu ysgolion i ystyried sut i ddatblygu trefniadau partneriaeth agos â gofal plant, i gefnogi rhieni sy’n gweithio.

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn rhan o gonsortiwm gofal plant CWLWM. Mae’n gorff ambarél ac yn llais i glybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol ar lefel Cymru gyfan. Gallant gefnogi ysgolion i sefydlu gofal plant y tu allan i oriau ysgol ar y safle neu gerllaw.

Gall adeiladau ysgol ddarparu lleoliad addas hefyd ar gyfer mathau eraill o ofal plant, megis darpariaeth cylch a grwpiau chwarae. Mae consortiwm gofal plant CWLWM, Mudiad Meithrin a Blynyddoedd Cynnar Cymru yn gallu cynnig cyngor a chymorth pellach.

Dysgu cymunedol

Mae sicrhau’r cyfle i bobl fod yn ddysgwyr gydol oes, a bod pawb yng Nghymru yn dysgu, ac yn parhau i ddysgu, gan ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiadau yn rhan o genhadaeth ein cenedl. Gall ysgolion gefnogi’r nod o roi mynediad at gyfleoedd dysgu i holl aelodau’r gymuned, gan gynnwys pobl ifanc ac oedolion, drwy bartneriaethau â darparwyr dysgu cymunedol a sefydliadau cymorth cymunedol. Gall hyn helpu teuluoedd incwm isel i ddod o hyd i lwybrau allan o dlodi. Gallai’r rhain gynnwys:

  • rhaglenni dysgu i deuluoedd
  • sectorau ieuenctid statudol a gwirfoddol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • grwpiau’r trydydd sector

Rhaglenni dysgu i deuluoedd

Mae rhaglenni dysgu i deuluoedd yn cyfeirio at unrhyw weithgarwch dysgu sydd, yn ôl y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

  • yn cynnwys plant ac oedolion y teulu
  • â’r nod o sicrhau deilliannau dysgu i blant ac oedolion y teulu
  • yn cyfrannu at ddiwylliant o ddysgu o fewn y teulu

Gall rhaglenni dysgu i deuluoedd:

  • helpu i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu
  • gwella hyder, cyflogadwyedd, iechyd a lles
  • cefnogi datblygiad a lefelau cyrhaeddiad plant

Gall rhaglenni dysgu i deuluoedd amrywio o ran strwythur a chynnwys. Fodd bynnag, nod pob rhaglen yw gwella sgiliau sylfaenol oedolion, a chynyddu eu hymgysylltiad ag addysg eu plant. Gall ysgolion ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer rhaglenni dysgu i deuluoedd drwy gysylltu â phartneriaeth dysgu oedolion eu hawdurdod lleol.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn sefydliad annibynnol sy’n ymroddedig i ddysgu gydol oes. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ei wefan Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Mae Estyn hefyd wedi cyhoeddi astudiaethau achos effeithiol ar raglenni dysgu i deuluoedd:

Mae canllawiau pellach a fframwaith yn cael eu datblygu ar gyfer dysgu i deuluoedd. Byddwn yn darparu’r ddolen at y rhain unwaith y byddant wedi’u cyhoeddi.

Dysgu oedolion yn y gymuned

Mae cyfleoedd dysgu oedolion yn y gymuned yn hyblyg ac wedi’u llunio ar gyfer oedolion a theuluoedd. Cânt eu darparu mewn lleoliadau yn y gymuned er mwyn diwallu anghenion lleol. Mae yna bartneriaeth dysgu oedolion ym mhob ardal awdurdod lleol, ac arweinydd dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob awdurdod lleol a sefydliad addysg bellach. Gallant gynnig cymorth a chyngor i ysgolion am gyfleoedd dysgu i oedolion a theuluoedd.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnig cyfleoedd dysgu oedolion yn y gymuned mewn lleoliadau ledled Cymru ac ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru.

Dysgu pob oed

Mae dysgu pob oed yn tynnu pobl o bob cenhedlaeth at ei gilydd. Mae’r prosiectau’n cynnig gweithgareddau sy’n dod â budd a mwynhad i bawb. Mae’n rhan bwysig o ddysgu gydol oes, lle mae cenedlaethau’n cydweithio i feithrin sgiliau, gwerthoedd a gwybodaeth. Maent yn dysgu mwy am y grwpiau oed gwahanol ac yn teimlo’n rhan o’u cymuned.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Pontio’r Cenedlaethau: dod â chenedlaethau at ei gilydd’.

Gyrfa Cymru

Gall Gyrfa Cymru helpu pobl ifanc:

  • i gynllunio eu gyrfa
  • i baratoi i gael swydd
  • i ddod o hyd i’r prentisiaethau, y cyrsiau a’r hyfforddiant iawn yn eu hardal, yn ogystal â gwneud cais

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gyrfa Cymru.

Cwricwlwm i Gymru

Mae Cwricwlwm i Gymru yn rhoi cyfle i ysgolion a chlystyrau ddatblygu eu rhaglenni dysgu eu hunain sy’n gweddu’n well i anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Hefyd, mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ganolog iddo. Mae’r amcanion hyn yn ategu dulliau gweithredu Ysgolion Bro.

Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod rhoi lle canolog i ysgolion yn eu cymunedau yn helpu i weithredu’r cwricwlwm yn llwyddiannus. Drwy’r ffocws cymunedol hwn, gellir creu gwell perthynas rhwng ysgolion a theuluoedd, cymunedau a chyflogwyr. Bydd y cydberthnasau hyn yn cefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol a’r camau nesaf i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant.

Dim ond drwy ymgysylltu mewn ffordd bwrpasol â’r gymuned y gall ysgolion lywio eu cwricwlwm. Gall ysgolion fanteisio ar wybodaeth arbenigol a thynnu ar adnoddau ychwanegol drwy grwpiau sydd eisoes yn bodoli yn y gymuned. Efallai y bydd llawer o’r grwpiau hyn yn rhai gwirfoddol.

Astudiaethau achos

Mae’r astudiaethau achos hyn yn dangos sut mae ysgolion wedi mynd ati i gynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu effeithiol ynghylch dinasyddiaeth, sy’n canolbwyntio ar feysydd dysgu allweddol, gan gynnwys:

  • cynefin
  • cymunedau lleol
  • cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Bagloriaeth Cymru

Cafodd Bagloriaeth Cymru ei dylunio yng Nghymru ar gyfer ein dysgwyr. Mae'n cynnig profiadau ehangach na rhaglenni dysgu traddodiadol, er mwyn diwallu anghenion amrywiol pobl ifanc. Mae’n gymhwyster eang sy'n addysgu sgiliau allweddol, sy'n ategu'r pynciau a'r cyrsiau sydd eisoes ar gael i ddysgwyr. Drwy Fagloriaeth Cymru, caiff dysgwyr brofiad go iawn o'r byd y tu allan i'r ysgol. Maent hefyd yn dysgu sut i roi eu sgiliau ar waith mewn sefyllfaoedd ymarferol, gan gynnwys drwy ymgymryd â phrosiectau a heriau cymunedol. 

Gwobr Dug Caeredin

Gwobr sy’n cydnabod cyflawniad pobl ifanc yw Gwobr Dug Caeredin. Mae’n agored i bob person ifanc 14 i 24 oed. Mae’n cefnogi pobl ifanc i fod yn ddinasyddion sy’n cyfrannu, ac mae’n hyrwyddo effaith gadarnhaol o fewn cymunedau. Mae elusen Dug Caeredin yn trwyddedu miloedd o sefydliadau cymunedol, gan gynnwys ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid i gynnig y wobr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Dug Caeredin. 

Prifysgol y Plant

Elusen yw Prifysgol y Plant sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i ddatblygu cariad at ddysgu ymhlith plant. Mae’n annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgwricwlar o fewn yr ysgol a’r tu allan iddi, ac yn dathlu hyn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Prifysgol y Plant.

Gweithredu cymunedol

Mae pob un ohonom yn dymuno byw mewn cymuned lewyrchus, gydgysylltiedig sydd wedi’i grymuso, a gall ffurfio grwpiau gweithredu cymunedol sy’n tynnu pobl ynghyd gyfrannu at hyn. Mae’r fframwaith trefnu cymuned a dull datblygu cymunedol ar sail asedau yn cynnig enghreifftiau o ffyrdd y gall unigolion ddod ynghyd i gael effaith gadarnhaol ar eu cymuned. Gallai’r wybodaeth hon fod o fudd wrth wneud cynlluniau i ymgysylltu â’r gymuned.

Y Fframwaith Trefnu Cymuned

Mae’r fframwaith hwn yn hwyluso’r gwaith o drefnu cymuned – gan dynnu pobl ynghyd i gymryd camau cadarnhaol. Mae’n nodi rhestr o brosesau sy’n:

  • cyfrannu at y gwaith hwn
  • helpu cymunedau i wrando ar ei gilydd a chysylltu â’i gilydd er mwyn gweithredu a newid pethau

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ei wefan, sef Community Organisers (Saesneg yn unig).

Datblygu cymunedol ar sail asedau 

Mae datblygu cymunedol ar sail asedau yn canolbwyntio ar gryfderau ac asedau cymuned yn hytrach na’i diffygion a’i phroblemau.

Gall ysgolion gymryd rhan weithredol yn y broses hon. Drwy wneud hyn gallant helpu i integreiddio grwpiau amrywiol o bobl, sy’n arwain yn ei dro at ymdeimlad cryf o gydlyniant a dealltwriaeth gymunedol.

Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygu cymunedau ar sail asedau ar gael ar wefan Create Your Space a gwefan Nurture Development (Saesneg yn unig).

Plant a phobl ifanc: cyfranogi a gweithredu

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i godi ei lais am y materion sy’n bwysig iddo, ac i weithredu yn eu cylch. Yn aml, pan fydd plant a phobl ifanc yn cael cyfle i godi ymwybyddiaeth am fater penodol, gall ysgogi newid o fewn cymuned leol. Mae’r Comisiynydd Plant wedi llunio ystod o adnoddau defnyddiol sy’n helpu plant a phobl ifanc i wneud gwahaniaeth mewn:

  • ysgolion uwchradd
  • lleoliadau addysg bellach
  • grwpiau cyfranogiad ieuenctid
  • grwpiau ieuenctid cymunedol

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiynydd Plant.