Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd i gysylltu â ni

Mae ein horiau gwaith arferol o ddydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm a dydd Gwener 9am i 4.30pm.

Nid ydym yn wasanaeth brys felly ni fyddwn fel arfer yn ymateb y tu allan i'r oriau hyn.

Swyddfa Ardal

Gwent

(Casnewydd)

Rhif ffôn ardal: 03000 252 800

Cyfeiriad e-bost ardal: cafcasscymrugwent@gov.wales

Canolbarth a gorllewin Cymru:

(Aberystwyth / Caerfyrddin / Y Drenewydd /Llandrindod Wells)

Rhif ffôn ardal: 03000 255 016

Cyfeiriad e-bost ardal: cafcasscymrumid&west@gov.wales

De Cymru

(Caerdydd / Merthyr Tudful)

Rhif ffôn ardal: 03000 628 877

Cyfeiriad e-bost ardal: cafcasscymrusouthwales@gov.wales

South west Wales

(Abertawe)

Rhif ffôn ardal: 03000 255 600

Cyfeiriad e-bost ardal: cafcasscymrusouthwest@gov.wales

Gogledd Cymru

(Wrecsam / Cyffordd Llandudno / Caernarfon)

Rhif ffôn ardal: 03000 625 821

Cyfeiriad e-bost ardal: cafcasscymrunorthwales@gov.wales

Cwrteisi a pharch

Rydym yn falch o’n gweithlu amrywiol.  Gallwch bob amser ddisgwyl gael eich trin mewn modd cwrtais ac heb gwahaniaethu wrth gyfathrebu â ni. Felly, byddwn yn disgwyl i chi ein trin ni yn yr un modd. Nid ydym yn disgwyl i chi siarad â ni mewn modd amharchus, ymosodol neu mewn modd sy’n gwahaniaethol ac nid ydym yn disgwyl cael unrhyw negeseuon e-bost na negeseuon eraill sy'n sarhaus, yn amharchus neu'n ymosodol. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn ymateb fel a ganlyn.

  • Byddwn yn rhoi gwybod i chi y bydd yr alwad yn dod i ben os byddwch yn parhau i ddefnyddio tôn sarhaus, ddiangen neu amhriodol.

  • Os byddwch yn bygwth neu'n defnyddio trais corfforol yn erbyn aelodau o staff, yn eu sarhau ar lafar neu'n eu haflonyddu, yna bydd yr alwad ffôn yn dod i ben.

Cyfathrebu dros y ffôn

Os bydd angen i chi ffonio'r ymarferydd sy'n gweithio gyda chi a'ch teulu, dylech ddefnyddio rhif ffôn y swyddfa ardal (wedi'i restru uchod) ar gyfer yr ardal y mae eich achos wedi'i ddyrannu iddi.

Mae ein hymarferwyr yn gweithio gyda nifer o deuluoedd ar unrhyw un adeg, ac ni fyddant bob amser yn gallu ymateb i chi ar unwaith. Byddwn yn cofnodi eich galwad ffôn a byddwn yn ymdrechu i osgoi oedi diangen wrth gysylltu nôl.

Caiff galwadau yn ystod oriau swyddfa eu hateb gan aelod o'r staff cymorth busnes. Os na fydd yr ymarferydd perthnasol ar gael i dderbyn yr alwad, bydd yr aelod o staff cymorth busnes yn nodi eich manylion ac yn rhoi crynodeb o'r neges i'r ymarferydd. 

Bydd yr ymarferwyr yn anelu at ddychwelyd eich galwad cyn gynted â phosibl. Ni fydd y staff cymorth busnes yn gallu dweud yn union pryd y caiff eich galwad ei dychwelyd, ond byddant yn rhoi gwybod i chi os na fydd ymarferydd yn debygol o fod ar gael am fwy na tri diwrnod gwaith, er enghraifft os byddant yn gwybod fod ymarferydd ar wyliau.

Ni chaiff rhifau ffôn symudol ymarferwyr eu rhannu fel arfer, ac nid oes gan staff cymorth busnes yr hawl i rannu rhifau ffôn symudol ymarferwyr. Os bydd yn rhaid i ymarferydd eich ffonio gan ddefnyddio ffôn symudol, ni fydd y rhif yn cael ei ddangos fel arfer.

Yn gyffredinol, mae ein hymarferwyr yn gweithio oriau swyddfa arferol (o ddydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am-4.30pm), ac ni fyddant fel arfer yn gallu ymateb i alwadau y tu allan i'r oriau hyn.

 Efallai y byddwch yn derbyn negeseuon testun gennym, a hynny fel arfer er mwyn trefnu apwyntiad. Byddwch yn ymwybodol nad yw'r system electronig ganolog rydym yn ei defnyddio i anfon negeseuon testun yn eich galluogi i ymateb, felly os bydd unrhyw anhawster â'r apwyntiad a gynigiwyd, dylech roi gwybod i ni drwy ffonio'r swyddfa ardal y mae eich achos wedi'i ddyrannu iddi.

Cyfathrebu drwy lythyr neu drwy e-bost

Os byddwch am anfon e-bost atom am eich achos, defnyddiwch gyfeiriad e-bost y swyddfa ardal y mae eich achos wedi'i ddyrannu iddi, sydd i'w weld yn y rhestr ar ddechrau'r ddogfen hon.

Pan fyddwn yn gweithio gyda'ch teulu, bydd aelod o'n tîm cymorth busnes yn cysylltu â chi dros y ffôn er mwyn dilysu eich cyfeiriad e-bost, sef proses sy'n ein galluogi i rannu gwybodaeth gyfrinachol â chi drwy e-bost.

Yn ystod yr alwad i ddilysu eich cyfeiriad e-bost, yn gyntaf byddwn yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi er mwyn cadarnhau pwy ydych, gan sicrhau ein bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel.  Yna byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pa gyfeiriad e-bost yr hoffech i ni ei ddefnyddio pan fyddwn yn cysylltu â chi. Ar ôl i chi gadarnhau hyn, byddwn yn anfon e-bost i'r cyfeiriad e-bost hwnnw yn gofyn i chi anfon cod atom. Byddwn yn anfon y cod atoch drwy neges destun. Bydd angen i chi anfon y cod hwn atom drwy e-bost o'r cyfeiriad e-bost y nodwyd gennych yr hoffech i ni ei ddefnyddio. Ar ôl i ni dderbyn a chadarnhau'r cod, bydd ein timau cymorth busnes yn gallu rhannu llythyrau, adroddiadau a gohebiaeth arall â chi drwy'r cyfeiriad e-bost y nodwyd gennych yr hoffech i ni ei ddefnyddio.

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anhawster gyda darllen neu ysgrifennu, neu cael fynediad at e-byst cyfrinachol fel y gallwn ystyried sut orau y gallwn gyfathrebu a chi. 

Os bydd angen i ni anfon unrhyw wybodaeth gyfrinachol atoch drwy'r post, neu os byddai'n well gennych i ni anfon gwybodaeth drwy'r post, byddwn yn defnyddio gwasanaethau post Tracio ac Olrhain a bydd angen i chi lofnodi ar gyfer yr eitem.

Cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau o ran cyfeiriad neu rif ffôn.

Cyfathrebu am adroddiad llys

Os byddwch yn derbyn copi o adroddiad rydym wedi ei ysgrifennu ar gyfer y llys a'ch bod yn anghytuno â'i gynnwys a'i argymhellion, dylech drafod hyn â'ch cyfreithiwr os oes gennych un - neu roi gwybod i'r llys pan fyddwch yn mynychu. Os byddwch yn credu bod manylion penodol yn yr adroddiad yn anghywir (e.e. sillafiadau enwau neu ddyddiadau geni ac ati – yr hyn a elwir yn wallau ffeithiol), yna rhowch wybod i ni am hyn, er mwyn i awdur yr adroddiad allu ymateb cyn gynted â phosibl os bydd angen newid unrhyw beth.

Ymweld â'r swyddfa

Ni ddylech ddod i unrhyw un o'n swyddfeydd heb apwyntiad gan nad yw'n debygol y bydd yr ymarferydd ar gael, ac y gallai hyn fod yn rhwystredig i chi.

Os byddwch am gael cyfarfod â'ch ymarferydd, rhaid i chi drefnu apwyntiad. Er mwyn gwneud cais am apwyntiad neu alwad ffôn i drafod materion â'r ymarferydd, cysylltwch â'r swyddfa berthnasol sy'n gweithio gyda'ch teulu.

Mae ein disgwyliadau o ran ymddygiad cwrtais a pharchus hefyd yn berthnasol i bob ymweliad ac apwyntiad yn y swyddfa. Bydd apwyntiadau yn dod i ben os na chaiff y disgwyliadau hyn eu bodloni.

Pan fydd ein gwaith gyda chi yn dod i ben

Os byddwn yn gweithio gyda chi mewn perthynas â materion cyfraith breifat (adnabyddus fel peilot Braenaru yn Gogledd Cymru), bydd ein cyfraniad yn dod i ben unwaith y byddwn wedi cwblhau'r gwaith y mae'r llys wedi gofyn i ni ei wneud. Gall hyn olygu y byddwn wedi cwblhau'r hyn sy'n angenrheidiol erbyn y gwrandawiad llys cyntaf.

Gall y llys ofyn i ni weithio gyda chi a'ch teulu am gyfnod hwy ac i ddarparu adroddiad manylach i'r llys, ond gallai hyn olygu o hyd y byddai ein rôl yn dod i ben cyn i'ch achos llys ddod i ben, sy'n golygu na fydd yr ymarferydd yn gallu trafod unrhyw wybodaeth bellach â chi oni bai y bydd y llys yn gofyn iddo wneud hynny. Bydd ein cyfraniad at fater cyfraith gyhoeddus yn dod i ben ar ddiwedd y Gwrandawiad Terfynol.

Os bydd gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch plentyn ar ôl i'n gwaith ddod i ben, dylech roi gwybod i adran gwasanaethau cymdeithasol yr Awdurdod Lleol yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi a/neu'r heddlu os yw'r plentyn yn wynebu niwed uniongyrchol.

Os byddwch am gysylltu â ni ar ôl i'n gwaith ddod i ben er mwyn canmol y gwasanaeth a gawsoch neu er mwyn gwneud cwyn, dylech gysylltu naill ai â'r tîm ardal a fu'n gweithio gyda chi, neu gallwch ddefnyddio hyb adborth Cafcass Cymru.