Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cyd-destun

Ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng mis Hydref 2023 a mis Ionawr 2024 a chyhoeddwyd dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ym mis Ebrill 2024. Mae’r gwaith hwn ac amrywiaeth eang o ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi arwain at ddatblygu’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) (“y Bil”), sydd â’r nod o sicrhau bod digartrefedd yng Nghymru yn beth prin a byrhoedlog nad yw’n ailddigwydd.

Mae nodau’r Bil yn adeiladu ar y sylfeini a nodwyd yn Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) (2014) (“Deddf 2014”), a fu’n allweddol o ran sefydlu system ddigartrefedd a oedd yn seiliedig ar atal, lleihau’r pwyslais ar y cysyniad o “brofi” cyn y gellir cael gwasanaethau, ehangu opsiynau llety a meithrin cydweithrediad rhwng gwasanaethau cyhoeddus.

Er ei bod yn drawsnewidiol ar y pryd, nododd y gwerthusiad o Ddeddf 2014 heriau parhaus i gyflawni nodau allweddol sy’n gysylltiedig at atal a digartrefedd mynych. Mae’r fersiwn ddiweddaraf o Fonitor Digartrefedd Cymru (2021) (1) hefyd yn nodi bod mwy o bobl wedi ceisio cymorth ers 2014, ond bod y cyfraddau llwyddiant o ran atal a lleddfu digartrefedd yn aros yn ddigyfnewid (2). Mae’r ddeddfwriaeth gyfredol wedi dyddio bellach ac nid yw’n rhoi ymateb digonol i’r cynnydd digynsail yn y galw ar hyn o bryd na’r pwysau sy’n gysylltiedig â digartrefedd yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg. Nod y Bil yw gwella’r system ddigartrefedd fel y gall ymateb yn well i’r pwysau a wynebir heddiw, a darparu system gynaliadwy sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a fydd yn adddas ar gyfer anghenion y dyfodol.

Sut rydych wedi cymhwyso / y byddwch yn cymhwyso’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 at y camau gweithredu arfaethedig, drwy gydol y cylch polisi a chyflawni?

Mae’r Bil yn un rhan o broses o drawsnewid y system digartrefedd a thai yng Nghymru yn yr hirdymor, fel y’i nodwyd yn y Strategaeth ar Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd (2019) a’r Rhaglen Lywodraethu. Bydd y diwygiadau’n helpu i gyflawni nod polisi hirdymor Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Ailgartrefu Cyflym (gallu pobl ddigartref i gael tai hirdymor yn gyflym, dod yn fwy hunangynhaliol ac aros yn eu tai) a chynnal y newid sylweddol i arferion a gyflawnwyd mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws.

Mae digartrefedd yn achosi anghyfiawnder cymdeithasol sylweddol sy’n arwain at effeithiau negyddol sylweddol ar gymunedau ac unigolion. Mae’r effeithiau negyddol hyn yn bellgyrhaeddol ac yn cwmpasu costau a cholledion economaidd sylweddol, ochr yn ochr ag effeithiau ar unigolion mewn perthynas ag iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder troseddol (ymhlith eraill). Felly, mae dadleuon economaidd a moesol cryf dros gefnogi’r cynnig i gyflwyno’r Bil sy’n ffordd bwysig o gyflawni’r nodau llesiant i greu Cymru ffyniannus, Cymru Iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynus.

Hirdymor

Mae gwaith ymchwil a wnaed i ddatblygu’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn amcangyfrif bod digartrefedd wedi costio tua £275m i gyd yn 2023-24 i’r gwasanaeth cyhoeddus, sef cost o £20,000 fesul aelwyd ddigartref ar gyfartaledd (3). Mae bron hanner y gost hon yn ymwneud â llety dros dro. Ceir hefyd gost gynyddrannol sylweddol digartrefedd i’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach, sef cost amcangyfrifedig o £64m, neu £4,700 fesul aelwyd ddigartref yn 2023/2024.

Yn ogystal â’r gost ariannol, mae digartrefedd yn cael effaith niweidiol ar iechyd a llesiant pobl ddigartref, a hefyd ar eu potensial i ennill arian oherwydd diffyg llety sefydlog. Er enghraifft, mae effaith mynd yn ddigartref i ganlyniadau iechyd yn cyfateb i £12,200 y person o ran gwerth ariannol, a gallai enillion a gollir fod yn werth tua £3,300 (4). Amcangyfrifir bod cost bersonol digartrefedd o’r fath dros £200 y flwyddyn. O ganlyniad, amcangyfrifir bod digartrefedd yn costio dros gyfanswm o £485m y flwyddyn i gymdeithas yng Nghymru.

Os na chymerwn gamau pellach, mae cost digartrefedd yn debygol o gynyddu yn ôl cyfradd gyfartalog o fwy na 3% y flwyddyn. Dros gyfnod o ddeng mlynedd, heb ymyrraeth, gallai cost digartrefedd i’r sector cyhoeddus gynyddu 17% o £275m yn 2023-24 i £383m mewn termau real erbyn 2033-34.

Atal

Mae’r system ddigartrefedd yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau sylweddol. Un o’r rhain yw ymdopi â’r galw cynyddol. Am y rheswm hwn, bydd y rhan gyntaf o’r Bil yn sicrhau bod gwasanaethau digartrefedd yn rhoi ffocws o’r newydd ar atal, gyda phwyslais cryfach ar nodi ac ymyrryd yn gynnar. Bydd yn ehangu mynediad at y system ddigartrefedd ac yn targedu cymorth ychwanegol at y rhai sydd ei angen mwyaf. Drwyddo bydd modd mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a fydd yn ystyried achosion sylfaenol digartrefedd ac yn ymdrin ag anghenion cymorth unigolion yn well, ac a fydd yn ehangu’r cyfrifoldeb am hyn i’r gwasanaeth cyhoeddus cyfan yng Nghymru.

Integreiddio

Nododd strategaeth 2019 Llywodraeth Cymru ar roi diwedd ar ddigartrefedd yr egwyddor mai cyfrifoldeb y gwasanaeth cyhoeddus ehangach yw digartrefedd a bod y Bil yn rhoi’r egwyddor hon ar waith.

Bydd pobl sy’n ddigartref neu’n wynebu risg o ddigartrefedd fel arfer yn dod i gysylltiad â nifer o wasanaethau cyhoeddus wrth iddynt geisio deall a rheoli eu sefyllfa o ran llety (5). Mae’n hanfodol bod pob un o’r gwasanaethau hyn yn gweithredu i atal digartrefedd, naill ai ar eu pen eu hunain neu gyda phartneriaid er mwyn helpu darpar geisydd digartref i gael cymorth tai a digartrefedd ar gam cynnar. Ar y sail hon ac er mwyn cydnabod y croestoriad a welir rhwng digartrefedd a materion cyfiawnder cymdeithasol eraill, rydym yn cynnig diwygiadau sy’n ehangu’r cyfrifoldeb am nodi ac atal digartrefedd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r diwygiadau hyn yn cynnwys dyletswydd newydd ar awdurdodau cyhoeddus penodedig i “ofyn a gweithredu” mewn perthynas â digartrefedd. Mae’r awdurdodau cyhoeddus penodedig hyn yn cynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn cyflwyno canllawiau i helpu’r sector addysg i atal digartrefedd. Bydd y Bil hefyd yn cyflwyno cyfres o ddiwygiadau mwy penodol sydd â’r nod o dargedu gweithgarwch atal tuag at y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o ran digartrefedd. Mae’r diwygiadau hyn yn rhan hollbwysig o’n hagenda ym maes rhianta corfforaethol, ein dull gweithredu sy’n rhoi’r plentyn yn gyntaf ym maes cyfiawnder ieuenctid a’n ffocws ar atal mewn perthynas â’r gwasanaeth cyfiawnder troseddol.

Cydweithio a chynnwys

Cyflwynwyd y Bil ar ôl blynyddoedd o ymgysylltu a chydgynhyrchu â rhanddeiliaid. Dechreuwyd ar hyn drwy waith y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd a thrwy gyhoeddi ein strategaeth yn 2019, a gafodd ei llywio gan ein hymateb i bandemig byd-eang a’r argyfwng costau byw presennol a’i mireinio gan Banel Adolygu Arbenigol annibynnol. Mae’r Bil yn seiliedig ar sylfeini tystiolaethol cadarn ac mae wedi cael ei lywio gan safbwyntiau rhanddeiliaid ar bob cam o’r broses.

Mae’r Bil yn nodi nifer o ddarpariaethau i newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod digartrefedd yng Nghymru yn beth prin a byrhoedlog nad yw’n ailddigwydd; yn seiliedig ar argymhellion a chyngor a roddwyd i Lywodraeth Cymru gan Banel Adolygu Arbenigol annibynnol, a gynullwyd i adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol a gwneud argymhellion penodol i’w diwygio.

Wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth, rydym wedi ystyried tystiolaeth gan bobl â phrofiad bywyd o ddigartrefedd ac arbenigwyr ar ymarfer, polisi ac ymchwil ym maes digartrefedd. Ar bob cam o’r broses o ddatblygu’r Bil hwn rydym wedi ceisio sicrhau bod cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu’n annigonol yn cael eu cynnwys a’u hystyried.

Er mwyn datblygu’r Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, gwnaethom roi cyllid i nifer o sefydliadau i’n helpu i ymgysylltu â chymunedau ac unigolion ar hyd a lled Cymru. Rydym yn ddiolchgar i Cymorth Cymru, a weithiodd gyda mwy na 300 o bobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd, gan gynnwys y rhai sy’n byw mewn llety dros dro, pobl ifanc, pobl sy’n gadael gofal, goroeswyr camdriniaeth, a phobl yn y carchar.

At hynny, er mwyn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd ochr yn ochr â phrofiad o un neu fwy o’r nodweddion gwarchodedig yn llywio’r gwaith hwn, comisiynwyd Tai Pawb i ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu â ffocws a oedd yn cynnwys ceiswyr lloches, ffoaduriaid, pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, pobl hŷn a phobl LHDTC+.

Gan weithio’n agos gyda TPAS, gwnaethom hefyd gynnal arolwg o fwy na 600 o denantiaid tai cymdeithasol er mwyn cael deall safbwyntiau tenantiaid tai cymdeithasol ar y ddeddfwriaeth arfaethedig, yn enwedig y cynigion ynglŷn â dyrannu a mynediad at dai cymdeithasol. Ymgysylltodd yr arolwg ag amrywiaeth eang o randdeiliaid; roedd 47% yn anabl, roedd 11% yn bobl LHDTC+ ac roedd 22% yn ofalwyr (6).

Gwnaeth y gweithgarwch ymgysylltu cynnar hwn â ffocws osod y sylfeini ar gyfer y Papur Gwyn ond gwnaeth hefyd helpu i nodi bylchau yn ein sylfaen dystiolaeth a’r angen am ragor o ymgysylltu. Aethom ati i geisio llenwi’r bylchau hyn yn ystod y cyfnod ymgynghori; rydym yn ddiolchgar i’r canlynol:

  • Cyngor Mudo Cymru a ymgymerodd â gweithgarwch ymgysylltu manwl pellach â cheiswyr nodded yng Nghymru, er mwyn ein helpu i ddeall mwy am brofiad y rhai yng Nghymru sydd newydd gael statws ffoaduriaid.
  • End Youth Homelessness Cymru, am ymgysylltu’n fanwl â phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal;
  • ALMA Economics am ei ymchwil i arferion dyrannu a;
  • Dr Nia Rees am ei hymchwil gyda phlant dibynnol, o dan 16 oed, sy’n ddigartref.

Effaith

Ceir sylfaen dystiolaeth gadarn dros ben ar gyfer y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru), amlinellir y sylfaen dystiolaeth hon yn fanwl yn adroddiad y Panel Adolygu Arbenigol ac yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru ac mae wedi’i gwreiddio ym mhrofiad bywyd pobl ddigartref. Mae’r dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn amlinellu’r ymateb i’r diwygiadau arfaethedig a’r meysydd lle ceir y gwrthwynebiad a’r cytundeb mwyaf.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, ymgymerwyd â mwy na 100 awr o ymgysylltu ym mhob rhan o Gymru, gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, staff gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau yn y trydydd sector a phobl â phrofiad bywyd o ddigartrefedd, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig.

Mae egwyddorion y Bil wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth ym mhob rhan o Wasanaeth Cyhoeddus Cymru, ond mae llawer o randdeiliaid yn mynegi pryder p’un a ellir rhoi’r egwyddorion hyn ar waith yn ystod cyfnod o bwysau sylweddol ar wasanaethau digartrefedd a phan fo’r galw am lety yng Nghymru yn fwy na’r cyflenwad.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, er mwyn ymateb yn briodol i’r pryderon hyn, y bydd angen gweithredu fesul cam, a bydd y Bil yn cychwyn drwy orchymyn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni i gynllunio proses weithredu y gellir ei chyflawni ac sy’n gynaliadwy.

Costau ac Arbedion

Costau’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

Disgwylir y bydd costau trosiannol a gweithredu untro o £15.3m yn gysylltiedig â’r Bil. Bydd costau gweithredu rheolaidd hefyd o £40m a fydd yn codi bob blwyddyn o ddechrau’r broses gychwyn ac wedi hynny, a fydd yn adlewyrchu’r gofynion cynyddol ar wasanaethau digartrefedd o ganlyniad i’r diwygiadau. Amcangyfrifir mai’r gost barhaus yn 2027-28 fydd £22.9m, a bydd hon yn codi i £41.7m yn 2035-36. Mae llawer o’r costau gweithredu rheolaidd hyn yn ymwneud â gofynion staffio cynyddol gwasanaethau digartrefedd awdurdodau lleol.

Dros gyfnod o ddeng mlynedd, disgwylir i’r diwygiadau gostio £247m mewn termau gwerth presennol, gyda’r rhan fwyaf o’r gost hon yn cael ei hysgwyddo gan awdurdodau lleol (7).

Manteision y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

Os bydd y Bil yn cael ei roi ar waith i gyflawni ei amcanion yn llwyddiannus, bydd yn arwain at nodi’r risg o ddigartrefedd yn gynt ac atal yr achos hwn o ddigartrefedd rhag digwydd. Bydd hyn, yn ei dro, yn lleihau nifer y bobl sy’n mynd i mewn i’r rhan acíwt o’r system ddigartrefedd a thrwy hynny’n lleihau’r costau sy’n gysylltiedig â llety dros dro, rheoli achosion a’r effeithiau ar lesiant a chyflogaeth yr unigolyn. 
I’r rhai na allant osgoi digartrefedd, mae’r Bil yn anelu at leihau’r cyfnod cyn bod pobl ddigartref yn cael eu hailgartrefu mewn llety sefydlog, a fydd yn arwain at leihau’r costau sy’n gysylltiedig â llety dros dro a rheoli achosion.

Fel gyda phob math o ddeddfwriaeth, bydd effeithiolrwydd y Bil yn dibynnu ar broses weithredu gadarn. Fodd bynnag, yn seiliedig ar senario lle mae’r diwygiadau yn cynyddu cyfraddau atal 10% ac yn cynyddu’r gyfran o bobl ddigartref sy’n cael eu cynorthwyo’n llwyddiannus i gael cartref 10%, byddai nifer y bobl sy’n ddigartref yng Nghymru yn 2031-32 (pan ddisgwylir y bydd manteision llawn y diwygiadau wedi cael eu gwireddu) yn lleihau o 18,000 i 14,000 o aelwydydd a byddai hyn yn golygu gostyngiad o 22% yng nghost digartrefedd erbyn 2031-32, heb gynnwys costau gweithredu.

O ystyried bod unigolion sy’n ddigartref yn fwy tebygol o gael canlyniadau iechyd gwaeth na’r rhai nad ydynt yn ddigartref, ceir manteision cymdeithasol ehangach hefyd os bydd cyfraddau atal a lleddfu digartrefedd yn gwella. Yn seiliedig ar senario o 10%, amcangyfrifir y bydd y diwygiadau yn arwain at tua 700 o flynyddoedd o fywyd iach ychwanegol (0.16 blynedd y person) sy’n cyfateb i £53m mewn termau ariannol. Disgwylir hefyd y bydd enillion ychwanegol o £14m drwy ddarparu mwy o lety sefydlog.

Gwerth am arian y diwygiadau

Disgwylir i’r broses o weithredu’r diwygiadau gostio £247m mewn termau gwerth presennol hyd at 2035-36. Os bydd y diwygiadau yn sicrhau newid o 10% yn y gyfradd atal a lleddfu digartrefedd, bydd y gost hon yn cael ei gwrthbwyso gan fanteision ariannol gwerth £481m ar hyn o bryd. Mae hyn yn awgrymu y bydd y diwygiadau yn arwain at fanteision ariannol net gwerth £235m dros 10 mlynedd, gan arwain at gymhareb budd a chost ganlyniadol o 2. Mae hyn yn golygu y bydd pob £1 a fuddsoddir yn y diwygiadau i’r system ddigartrefedd yn cynhyrchu £2 mewn manteision. Os cynhwysir y manteision anariannol o ran iechyd a’r gallu i ennill arian hefyd, yna bydd £703m, sy’n golygu, ar gyfer pob £1 wedi’i gwario, y bydd y diwygiadau’n creu bron £4 o fanteision, sy’n gymhareb budd a chost o 3.9.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn nodi mwy o fanylion ynglŷn â chostau a manteision y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).

Mecanwaith

Deddfwriaeth sylfaenol.

(1) Gwerthusiad o Ddeddfwriaeth Digartrefedd (Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014): adroddiad terfynol | LLYW.CYMRU

(2) Fitzpatrick, S., Pawson, H., Bramley, G., Young, G., Watts, B. a Wood, J. (2021) Y Monitor Digartrefedd: Cymru 2021. Llundain: Crisis

(3) Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus ehangach

(4) Noder y gall y canlyniadau hyn gronni dros sawl blwyddyn.

(5) Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd: adroddiad Mawrth 2020

(6) Experiences-of-homelessness-Final-Version-CYM.pdf (taipawb.org)

(7) Caiff gwerthoedd iechyd eu disgowntio ar 1.5%, a chaiff gwerthoedd nad ydynt yn werthoedd iechyd eu disgowntio ar 3.5%.

(8) Esbonnir y gostyngiad hwn yn bennaf drwy wella cyfradd atal digartrefedd.Mae cyfraddau lleddfu gwell hefyd yn cyfrannu at y lleihad hwn mewn llwyth achosion drwy symud pobl i lety sefydlog yn gynt, ond mae’r effaith hon yn llai o ystyried na fyddai gweithgareddau lleddfu yn effeithio ar faint o bobl sy’n cysylltu am eu bod yn ddigartref ar y cychwyn. 
 

Casgliad

8.1 Sut mae’r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi cael eu cynnwys wrth fynd ati i'w ddatblygu?

Mae Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) (“y Bil”) yn seiliedig ar argymhellion a chyngor a roddwyd i Lywodraeth Cymru gan Banel Adolygu Arbenigol. Cafodd y Bil a'i ddogfennau ategol eu datblygu ar ôl cynnal trafodaethau helaeth a phellgyrhaeddol gyda'r awdurdodau lleol, y cymdeithasau tai, y gwasanaeth cyhoeddus ehangach a'r trydydd sector.

Er mwyn datblygu'r Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, rydym wedi bod yn trafod â dros 350 o unigolion ledled Cymru sydd â phrofiad o ddigartrefedd, gan gynnwys pobl sy'n byw mewn llety dros dro, pobl ifanc, pobl sy'n gadael gofal, pobl sydd wedi goroesi camdriniaeth, pobl sydd yn y carchar, ceiswyr lloches, ffoaduriaid, pobl anabl, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, pobl hŷn a phobl LHDTC+. Gwnaethom hefyd gynnal arolygon ymhlith dros 600 o denantiaid tai cymdeithasol.

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae cefnogaeth eang i egwyddorion y Bil a'r weledigaeth ar gyfer digartrefedd a nodir yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid penodol wedi codi pryderon penodol am rai o'r cynigion. Mae'r pryderon hynny'n gysylltiedig â chanlyniadau anfwriadol posibl, â maint a chyflymder y newid, yr adnodd sydd ei angen i gyflawni'r Bil, a sut y gellir sicrhau y bydd y partneriaid cyflawni yn gallu ymdopi â'r gwaith o'i weithredu. Mae'r adborth hwnnw wedi cael ei ystyried wrth inni fynd ati i ddatblygu'r Bill ac rydym yn nodi isod y prif effeithiau arwyddocaol, ein bwriadau o ran polisi, a'n safbwyntiau cynnar am gynllunio gweithredu.

Atal 

Bydd y Bil yn darparu ar gyfer rhagor o waith atal ac ar gyfer symud i system ddigartrefedd a fydd yn ystyriol o drawma ac yn canolbwyntio ar unigolion. Mae'r Bil yn rhoi ffocws cryfach ar adnabod digartrefedd yn gynt, ar gadw rhagor o bobl yn eu cartrefi ac ar leihau costau i unigolion a'r pwrs cyhoeddus.

Hygyrchedd

Heblaw am ychydig iawn o eithriadau, bydd gan unrhyw un a fydd yn ddigartref yr hawl i gael cymorth digartrefedd a llety brys, gan agor y system i ragor o bobl fydd mewn angen a sicrhau cysondeb ar draws Cymru yn y ffordd yr eir ati i ymdrin â nhw.

Mae'r awdurdodau lleol yn pryderu am y galw ychwanegol y gallent ei wynebu yn sgil gwasanaethau mwy hygyrch ac maent yn poeni hefyd am ganlyniadau anfwriadol hynny, gan gynnwys mwy o achosion o gamfanteisio ar y system, trais tuag at staff, ac ôl-ddyledion rhent.

Bydd gan y Gweinidogion hyblygrwydd o ran pryd i weithredu'r diwygiadau i'r system ddigartrefedd graidd, a gellir sicrhau bod hynny'n digwydd ar yr un pryd ag y bydd y polisi ehangach yn cael ei weithredu. Mae mesurau ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y Bil ehangach er mwyn mynd i'r afael â phryderon yr awdurdodau lleol. 

Rhannu cyfrifoldeb, adnabod yn gynt, a gwell help

Bydd y Bil yn sicrhau bod y gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn gyfrifol am adnabod unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, ei fod yn cymryd y camau y mae’n gallu eu cymryd i'w cynorthwyo, ac yn eu cyfeirio at yr awdurdod tai lleol am gymorth arbenigol.

Targedu mesurau atal

Bydd y rheini sydd yn y perygl mwyaf o fod yn ddigartref, yn enwedig pobl sy'n gadael gofal, ar eu hennill o ganlyniad i'r Bil. 

Gwneud y defnydd gorau o'r cyflenwad llety

Mae arferion dyrannu yn rhai lleol iawn, ac mae amrywiadau mawr ledled Cymru yn y ffordd yr eir ati i ddyrannu tai cymdeithasol, gan arwain at sefyllfa lle mae llawer o unigolion bregus yn aros yn hir mewn llety dros dro. Bydd y Bil yn diwygio'r gyfraith ar ddyrannu tai cymdeithasol fel bod y cyflenwad tai yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyf effeithiol; gan leddfu'r pwysau ar ddefnyddio llety dros dro a darparu rhagor o ffyrdd i'r awdurdodau lleol ddarparu ar gyfer pobl.

Mae rhai o'r rhanddeiliaid yn gwrthwynebu diwygiadau yn y maes hwn, gan awgrymu y bydd ysgogiadau eraill yn ffordd fwy effeithiol o sicrhau newid, a chan bwyso arnom i ddiogelu annibyniaeth y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC).

8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,

  • yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Gall annhegwch systemig, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail hil, rhywedd a nodweddion gwarchodedig eraill gyfrannu at ddigartrefedd a golygu ei fod yn parhau, ac mae hynny, yn ei dro, yn cael cryn effaith negyddol ar iechyd a llesiant unigolyn, ac yn gallu arwain at broblemau iechyd difrifol a chymhleth. Mewn sawl achos, gellir cysylltu'r cymhlethdod hwnnw â'r pwysau sy'n gysylltiedig â thlodi a mathau eraill o anfantais strwythurol. Mae atal digartrefedd yn lleihau anghydraddoldebau iechyd ac yn gwella llesiant cyffredinol, gan gyfrannu at y nod llesiant o greu Cymru iachach.

Bydd y cynigion yn y Bil yn hyrwyddo cydraddoldeb trwy wella mynediad at wasanaethau tai, trwy dargedu gwaith at y bobl hynny yr effeithir arnynt yn anghymesur gan ddigartrefedd, trwy wella mynediad i lety a thrwy weithio i liniaru gwahaniaethu ar unrhyw sail. Mae mynd i'r afael â digartrefedd yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, gan gyfrannu at y nod llesiant o greu Cymru fwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynus.

Gall digartrefedd gael ystod o effeithiau negyddol a thrawmatig ar unigolyn. Gall yr effeithiau hynny arwain at oblygiadau cymunedol, diwylliannol ac ieithyddol ehangach, yn enwedig i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Gall digartrefedd arwain at ddadleoli, a all amharu ar y cymunedau hynny lle siaredir y Gymraeg yn bennaf. Gall y dadleoli hwnnw leihau'r defnydd o'r Gymraeg wrth i bobl ymwneud â'i gilydd o ddydd i ddydd a gwanhau'r clymau cymunedol sy'n cynnal yr iaith. Mae'r effaith hyd yn oed yn waeth mewn lleoliadau gwledig lle gall fod yn anos i bobl gael gwasanaethau mewn iaith o'u dewis a lle mae’r cyflenwad tai yn llai, yn enwedig mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Bydd y Bil yn cyfrannu'n uniongyrchol at nod ehangach Llywodraeth Cymru o hwyluso a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a chefnogi'r nod llesiant o greu Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Bydd y diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig, o'u gweithredu'n briodol, yn arwain at welliannau o ran sut yr eir ati i adnabod, i atal ac i liniaru digartrefedd yng Nghymru. Bydd y diwygiadau craidd y bwriedir eu gwneud i'r system ddigartrefedd yn arwain at ddull tecach, mwy cyson a chynhwysol o weithredu ar ddigartrefedd. Mae'r Bil yn rhoi pwyslais cryfach ar ymyrryd yn gynt ac ar atal digartrefedd; gan bennu amodau lle bydd gofyn i'r awdurdodau lleol fynd ati'n gynt i weithio gydag unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, gan ganolbwyntio mwy ar fynd i'r afael â'r anghenion cymorth sy'n cyfrannu at ddigartrefedd.

Mae ystod o gynigion yn y Bil i gryfhau'r camau a gymerir i atal digartrefedd ymhlith y bobl hynny yr effeithir arnynt yn anghymesur gan ddigartrefedd, a bydd yn sicrhau y bydd yr awdurdodau lleol yn gallu gweithio'n agosach gyda phartneriaid i gydgysylltu'r gwaith y byddant yn ei wneud ar ran yr unigolion hynny sy'n ddigartref ac sydd hefyd ag anghenion cymorth eraill. Bydd yn cryfhau'r cymorth a fydd ar gael i'r rheini sy'n ddigartref ac sydd hefyd ag anghenion cymorth eraill. Bydd hynny o fudd penodol i blant a phobl ifanc, pobl sy'n gadael gofal, cymunedau ar y cyrion ac unigolion agored i niwed. Pan lwyddir i atal unigolyn rhag mynd yn ddigartref, mae'n fwy tebygol o gyfrannu at yr economi drwy gael ei gyflogi a thrwy wario, gan feithrin twf economaidd a lleihau tlodi, a chan gyfrannu at ein nod llesiant o greu Cymru lewyrchus.

8.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn casglu data am ddigartrefedd oddi wrth yr awdurdodau lleol ac yn cyhoeddi'r data hynny ar ffurfiau gwahanol, gan gynnwys adroddiadau misol a blynyddol. Wrth i'r Bil gael ei fireinio, byddwn yn mynd ati i ailgynllunio'r broses casglu data i adlewyrchu'r ddeddfwriaeth ddiwygiedig a'r dyletswyddau newydd.

Mae ymrwymiad yn y Bil i fynd ati'n rheolaidd i adolygu'r defnydd o lety dros dro, a bydd yr adolygiadau hynny'n sail i ragor o ddiwygiadau a fydd yn gysylltiedig ag addasrwydd llety. Bydd yr adolygiadau hefyd yn darparu data cryfach ar ddemograffeg y defnydd dros dro o lety. Wrth i'r Bil gael ei weithredu, bydd y broses honno'n cael ei hategu gan waith i ddatblygu data am ddigartrefedd ar lefel achosion unigol. Bydd hynny'n arwain at welliannau mawr i ansawdd y data ar ddigartrefedd.

Bydd y Bil yn cael ei gychwyn yn raddol a'i weithredu dros amser. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid cyflenwi i sicrhau bod gwaith i gynyddu'r cyflenwad tai ac i gynyddu capasiti'r awdurdodau tai lleol yn cael ei wneud wrth i'r Bil gael ei weithredu.

Rydym wedi ymrwymo i asesu'r ddeddfwriaeth dros y tymor hir a byddwn, ar yr adeg briodol, yn mynd ati i gomisiynu gwerthusiad annibynnol trwy gystadleuaeth agored.