Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r polisi cwotâu yn canolbwyntio'n benodol ar gynyddu nifer yr ASau benywaidd, o gofio'r lefelau cynrychiolaeth anwadal yn y Senedd ers 1999 a bod menywod a merched yn cyfrif am dros 50% o boblogaeth Cymru ac felly yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol. Ar ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, roedd 1,586,000 o fenywod (51.1% o'r boblogaeth) ac 1,521,000 o ddynion (48.9%) yng Nghymru.

Mae llawer iawn o ymchwil academaidd wedi ystyried ym mha ffyrdd y gall cynrychiolaeth menywod fod o fudd i sefydliadau democrataidd drwy wella eu gallu i graffu ar ran buddiannau ystod ehangach o gymunedau a phobl, a'u cynrychioli, gan gynnwys pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Mae rhai o'r manteision posibl a nodwyd yn cynnwys y ffordd y mae menywod yn blaenoriaethu meysydd polisi a deddfwriaethol penodol; hyrwyddo diwylliannau ac arferion gwaith penodol; cydweithio â chynrychiolwyr o bleidiau gwleidyddol eraill; creu modelau rôl mewn swyddi arweinyddol gwleidyddol a chryfhau cyfreithlondeb deddfwrfa. Mae ymchwil wedi dangos hefyd y gall cwotâu chwarae rhan allweddol wrth gynyddu'r siawns o ethol deddfwrfa sy'n adlewyrchu cydbwysedd rhywedd ei hetholwyr (How Do Electoral Gender Quotas Affect Policy? Clayton, 2021). Mae ymchwil ryngwladol yn awgrymu bod presenoldeb menywod mewn deddfwrfa yn gysylltiedig â lefelau is o lygredd, gan fod menywod yn llai llygredig fel unigolion a chan eu bod yn tueddu i chwarae rhan bwysig o ran gwrthweithio llygredd (Women political leaders: the impact of gender on democracy Cowper-Coles, 2021 a Women and corruption: What positions must they hold to make a difference? 2015). Mae llawer o'r manylion ar y buddion posibl hyn wedi'u nodi yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil.

Bernir bod y cynigion ar gyfer cwotâu yn gymesur gan nad ydynt, er eu bod yn rhagnodi lle y dylai pleidiau gwleidyddol osod menywod ar restrau ymgeiswyr etholiad o fewn paramedrau penodol, yn atal pleidiau gwleidyddol rhag enwebu nifer cyfartal o ymgeiswyr sy'n fenywod ac ymgeiswyr nad ydynt yn fenywod.

Cydnabyddir nad yw'r polisi ond yn ymwneud â menywod sy'n sefyll mewn etholiad i'r Senedd ac nad yw'n cynnig cwotâu amrywiaeth cyfatebol i ymgeiswyr yn achos pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig eraill. Mae hyn yn cydymffurfio â'r hyn a argymhellodd SPC yn eu hadroddiad yn 2022.

Mae'r asesiad hwn yn ystyried effeithiau'r cynigion polisi ar grwpiau gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Daethpwyd i'r casgliad bod rhai grwpiau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, a grwpiau eraill y gallai fod effaith arnynt o bosibl, yn seiliedig ar adolygiad o ymchwil o bob cwr o'r byd a asesodd ganlyniadau ac effeithiau tymor hwy cyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer etholiadau deddfwriaethol cenedlaethol a rhanbarthol.

Ar ôl asesu'r cynigion i ddeall eu heffeithiau, lluniwyd casgliadau bod effaith uniongyrchol ar y grwpiau canlynol:

  • Dynion a menywod (nodwedd warchodedig: rhyw)
  • Pobl draws (nodwedd warchodedig: ailbennu rhywedd)

O ran menywod a dynion, un o brif effeithiau'r polisi cwotâu yw'r effaith ar yr hawl i sefyll mewn etholiad (Erthygl 3 Protocol 1 - yr hawl i etholiadau rhydd). Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn atal unrhyw un rhag sefyll, tra'n cadw cyfran o safleoedd mwy ffafriol ar restrau ymgeiswyr ar gyfer menywod. Bernir bod yr olaf yn angenrheidiol ac yn gymesur wrth geisio cyflawni'r nod cyfreithlon o wneud y Senedd yn fwy effeithiol, drwy fod yn fwy cynrychioliadol o ran cyfansoddiad rhywedd poblogaeth Cymru.

Nid oes dim yn y rheolau ynghylch cyfran a gosodiad menywod ar restrau sy'n atal unrhyw unigolyn rhag sefyll mewn etholiadau. Er hynny, mae'r asesiad effaith hwn yn cydnabod y gallai’r gofyniad i ddatgan eu rhywedd yn y termau a nodir yn y Bil arwain at rywfaint o bryder i rai unigolion ynghylch gwneud hynny.

Efallai y bydd y gofyniad i gwblhau datganiad rhywedd yn cael effaith fwy sylweddol ar ymgeiswyr traws ac anneuaidd o ran eu preifatrwydd a'u hawliau data, gan y gallai'r wybodaeth hon fod yn fwy sensitif iddynt hwy.

Nodir dadansoddiad o'r effeithiau posibl ar hawliau preifatrwydd a data yn adran Hawliau Dynol yr asesiad hwn a hefyd yn yr Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data. Mae effaith bosibl gorfod datgan eu rhywedd ar iechyd meddwl rhai ymgeiswyr yn cael ei hystyried yn fanylach yn yr adran o'r asesiad hwn sy'n ymwneud â nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd.

Ystyriwyd y gallai fod effeithiau eilaidd ar grwpiau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig eraill o ganlyniad i gyflwyno cwotâu ac mae'r casgliadau hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar dystiolaeth ryngwladol ac ymchwil o bob cwr o'r byd. Mae'r Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Bil yn rhoi rhagor o fanylion, ond yn gryno, canfu ymchwil fod cynnydd mewn dadleuon ar amrywiaeth o faterion a pholisïau cymdeithasol a theuluol o ganlyniad i gynrychiolaeth menywod mewn sefydliadau gwleidyddol (Point break: using machine learning to uncover a critical mass in women’s representation 2021 a Cowper-Coles 2021). Mae'n rhesymol dod i'r casgliad bod potensial ar gyfer canlyniad cadarnhaol tebyg ar gyfer y Senedd o ganlyniad i gynyddu cynrychiolaeth menywod. Mae'n bosibl, drwy gyflawni màs critigol o leisiau menywod, y gallai fod cynnydd mewn dadleuon ar faterion sy'n ymwneud â'r grwpiau canlynol sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig:

  • Plant a phobl ifanc (nodwedd warchodedig: oedran)
  • Y rhai sy'n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth (nodwedd warchodedig: beichiogrwydd a mamolaeth)
  • Pobl anabl (nodwedd warchodedig: anabledd)
  • Y rhai y mae arnynt angen gofal, gan gynnwys pobl hŷn a phobl anabl (nodweddion gwarchodedig: oedran ac anabledd)

Mae ymchwil yn dangos y gall cyflwyno cwotâu fod yn gymhelliant i fwy o fenywod sefyll am swydd etholedig ac arwain at fwy o gynrychiolaeth o ystod o safbwyntiau amrywiol.

Mae ymchwil hefyd yn awgrymu y gall cynyddu cyfran y menywod wneud deddfwrfa yn fwy cynrychioliadol o'r boblogaeth yn ehangach, gan na ddylid ystyried menywod yn grŵp unffurf, ond yn un sydd wedi'i wahaniaethu drwy hunaniaethau croestoriadol a phrofiadau gwahanol (Clayton, 2021).

Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys mecanwaith adolygu lle y bydd y Senedd ei hun, drwy sefydlu pwyllgor (os bydd yn pleidleisio i gymeradwyo cynnig y mae'n rhaid ei gyflwyno i sefydlu un) yn cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith rheolau'r cwota. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r Senedd ystyried effaith y polisi.

Cofnod o effeithiau gan nodwedd warchodedig

Grŵp/nodwedd warchodedig: Oedran

Meddyliwch am wahanol grwpiau oedran.

Effeithiau'r cynnig

Mae effaith gadarnhaol bosibl yn y tymor hwy wedi'i nodi - sef cynnydd yng nghynrychiolaeth etholedig menywod o ystod ehangach o oedrannau (ac eithrio unrhyw un nad yw'n 18 oed cyn y diwrnod y maent yn cael eu henwebu - Atodlen 1A, Deddf Llywodraeth Cymru 2006), yn enwedig os yw wedi'i gyfuno ag ymyriadau eraill i ddileu rhwystrau i gyfranogiad mewn gwleidyddiaeth.

Nodwyd effaith gadarnhaol bosibl - sef cynnydd mewn dadleuon ar faterion sy'n ymwneud â'r rhai sy'n rhannu'r nodwedd warchodedig hon.

Rhesymau

Oedran cyfartalog Aelod o'r Senedd yw 55 oed (Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw'r Chweched Senedd?). Cymherir hyn ag oedran cyfartalog (canolrifol) poblogaeth Cymru, sef 42 oed (Demograffeg a mudo yng Nghymru - Cyfrifiad 2021). Mae’r ffigurau hyn yn dangos yn glir bod y Senedd yn denu proffil hŷn o berson na’r boblogaeth gyffredinol. Mae ymchwil yn awgrymu bod nifer isel o aelodau iau o'r Senedd. Gallai cyflwyno cwotâu gael effaith gadarnhaol ar hyn, gan arwain at annog menywod o bob oedran i sefyll mewn etholiad a llwyddo i gael eu hethol.

Mae cyflwyno cwotâu mewn gwledydd ledled y byd yn dangos bod gwleidyddion benywaidd, wrth gyfrannu at ddatblygu polisi, deddfu a chraffu, yn tueddu i dynnu sylw at amrywiaeth ehangach o faterion cymdeithasol i'w trafod, sy'n effeithio ar bobl o bob oedran (Piscopo 2020 and Clayton, 2021).

Lliniaru

Amherthnasol

Grŵp/nodwedd warchodedig: Anabledd

Ystyriwch y model cymdeithasol o anabledd a sut y gallai eich cynnig achosi’n anfwriadol, neu sut y gellid ei ddefnyddio’n rhagweithiol i ddileu, y rhwystrau sy’n anablu pobl sydd â gwahanol fathau o amhariada.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd. Rydym yn deall nad amhariadau sy’n anablu pobl, ond y rhwystrau y maent yn dod ar eu traws mewn cymdeithas. Sicrhau bod eich cynnig yn chwalu rhwystrau, yn hytrach na’u creu, yw’r ffordd orau o wella cydraddoldeb i bobl anabl. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r fewnrwyd a chwilio am ‘model cymdeithasol’.

Effeithiau'r cynnig

Nodwyd effaith gadarnhaol bosibl - sef cynnydd mewn dadleuon ar faterion sy'n ymwneud â'r rhai sy'n rhannu'r nodwedd warchodedig hon a chyfranogiad gan Aelodau sydd â phrofiad bywyd o fod yn anabl, yn enwedig os yw wedi'i gyfuno ag ymyriadau eraill i ddileu rhwystrau i gyfranogiad mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus.

Rhesymau

Mae ymchwil ar gyflwyno cwotâu mewn gwledydd ledled y byd yn awgrymu bod gwleidyddion benywaidd, wrth gyfrannu at ddatblygu polisi, deddfu a chraffu, yn tynnu sylw at amrywiaeth ehangach o faterion cymdeithasol i'w trafod (Cowper-Coles 2021).

Gallai cynnydd mewn cynrychiolaeth ymhlith menywod arwain at fwy o gynrychiolaeth ymhlith menywod sy'n cael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas.

Lliniaru

Amherthnasol

Grŵp/nodwedd warchodedig: Ailbennu rhywedd

Y weithred o drawsnewid a phobl Drawsryweddol.

Effeithiau'r cynnig

Efallai y bydd effaith ar breifatrwydd ac o bosibl iechyd meddwl ymgeiswyr traws.

Rhesymau

Mae hyn i'w briodoli i'r gofyniad i bob ymgeisydd gwblhau datganiad rhywedd ynghylch a ydynt yn fenyw neu beidio, fel rhan o'r broses enwebu ymgeiswyr. I rai unigolion, gallai rhoi'r wybodaeth hon fod yn fater sensitif. Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn wir am bobl drawsryweddol, gan y gallai fod risg uwch o her iddynt hwy drwy ddeiseb etholiadol. Mae i hyn y potensial i'r ymgeisydd fod yn destun craffu oherwydd ei rywedd, ac fe allai’r ymgeisydd ystyried mai mater personol a phreifat yw hyn. Mae potensial hefyd am sylw gan y cyfryngau a chan eraill o ganlyniad i achos cyfreithiol. Mae'r canlyniadau negyddol posibl ar iechyd meddwl yn cael eu nodi o ymchwil sy'n awgrymu bod pobl draws wedi nodi bod ofni gwahaniaethu neu ddial, gan gynnwys y posibilrwydd o gael eu cywilyddio yn gyhoeddus neu beidio â chael eu cymryd o ddifrif, yn ffactor sy'n effeithio ar eu parodrwydd i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol.

Nododd yr ymchwil hefyd fod pobl draws yn poeni am gael eu ‘datgelu’ ac y gallai hyn effeithio ar eu penderfyniad i ganiatáu i wybodaeth amdanynt eu hunain fod ar gael yn gyhoeddus, yn enwedig wrth gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau gwleidyddol proffil uchel, gan gynnwys sefyll mewn etholiad (adroddiad i Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth 2010). Mae ymchwil arall yn dangos, o 1054 o bobl draws a arolygwyd, fod 81% o'r ymatebwyr yn dweud bod diffyg derbyniad o'r rhywedd y maent yn byw ynddo wedi creu teimlad o ofn, a’u bod felly’n ei weld yn rhwystr rhag cymryd rhan mewn ystod o sefyllfaoedd bywyd bob dydd (Trans Mental Health Study 2012).

Lliniaru

Bydd angen i blaid ymgeisydd wybod sut y mae eu hymgeiswyr yn cwblhau'r datganiad rhywedd a bydd angen i weinyddwyr etholiadol weld datganiadau rhywedd. Bydd pleidiau a gweinyddwyr etholiadol yn ddarostyngedig i'r gyfraith diogelu data wrth ymdrin â'r data. Mae manylion pellach am y broses ar gyfer rhannu gwybodaeth wedi'u nodi yn yr Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data ar gyfer y Bil.

Rhagwelir y bydd dwy sefyllfa gyfyngedig bosibl lle y gallai fod angen i ddatganiad rhywedd ymgeisydd gael ei weld gan eraill heblaw'r ymgeisydd, y blaid y mae'n sefyll drosti a'r Swyddog Canlyniadau/staff gweinyddu etholiadol perthnasol a'r Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol (efallai na fydd y Swyddog yn ei weld mewn gwirionedd, ond yn cael gwybod am yr hyn y mae'r ymgeisydd yn y safle cyntaf neu'r unig safle ar restr wedi'i nodi). Gallai'r sefyllfa gyntaf godi os oes gan bersonau cyfyngedig eraill hawl i'w archwilio yn ystod y broses etholiadol (mae'r Bil yn rhoi pŵer i ddarparu ar gyfer hyn mewn is-ddeddfwriaeth). Rhagwelir y byddai'r is-ddeddfwriaeth, os bydd yn rhoi hawliau archwilio, hefyd yn cynnwys mesurau diogelu priodol, yn union fel sydd ar hyn o bryd mewn perthynas â hawliau archwilio presennol yn achos ffurflenni cyfeiriadau cartref ymgeiswyr. Yr ail sefyllfa yw pan gyflwynir her gyfreithiol (e.e. deiseb etholiadol i herio'r etholiad) a phan fydd datganiad rhywedd yr ymgeisydd yn berthnasol i'r achos, a allai arwain at ddatgelu eu datganiad i'r llys. Er hynny, nid yw deisebau etholiadol a heriau cyfreithiol eraill yn digwydd yn aml, felly bernir mai bach iawn yw'r risg y bydd hyn yn digwydd. Bernir y gallai'r risg hon o her gyfreithiol fod ychydig yn uwch ar gyfer rhai unigolion trawsryweddol yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Er na chaiff yr wybodaeth a ddarperir yn natganiad rhywedd ymgeisydd ei chyhoeddi, bydd trefn rhestr pleidiau ar gyfer etholaeth (a gaiff ei llywio gan ddatganiadau ymgeiswyr a'r rheolau cwota) ar gael i'r cyhoedd. Felly, efallai y bydd modd canfod, neu o leiaf ddarogan yn hyderus, sut y mae rhai ymgeiswyr (er nad pob ymgeisydd o reidrwydd) wedi datgan eu rhywedd.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Beichiogrwydd a mamolaeth

Effeithiau'r cynnig

Nodwyd effaith gadarnhaol bosibl - sef cynnydd mewn dadleuon ar faterion sy'n ymwneud â'r rhai sy'n rhannu'r nodwedd warchodedig hon.

Rhesymau

Fel y soniwyd eisoes, mae ymchwil yn awgrymu y gall cynnydd yn nifer y menywod mewn deddfwrfa arwain at fwy o ffocws ar faterion sy'n berthnasol i bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Hefyd, gall cwotâu rhywedd mewn rhai cyd-destunau arwain at gynrychiolaeth fwy amrywiol yn fwy cyffredinol, gan gynnwys o blith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Clayton, 2021).

Lliniaru

Amherthnasol

Grŵp/nodwedd warchodedig: Hil

Cynhwyswch wahanol leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn a Theithwyr a Mudwyr, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid.

Effeithiau'r cynnig

Mae effaith gadarnhaol bosibl yn y tymor hwy wedi'i nodi – sef cynnydd yng nghynrychiolaeth etholedig menywod i ddechrau, ac o bosibl ymhlith menywod o gefndiroedd du a lleiafrifol ethnig maes o law.

Rhesymau

Fel y soniwyd eisoes, mae ymchwil yn awgrymu y gall cynnydd yn nifer y menywod mewn deddfwrfa arwain at fwy o ffocws ar faterion sy'n berthnasol i bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Hefyd, gall cwotâu rhywedd mewn rhai cyd-destunau arwain at gynyddu cynrychiolaeth leiafrifol (Clayton, 2021 a Cowper-Coles 2021).

Mitigation

Amherthnasol

Grŵp/nodwedd warchodedig: Crefydd, cred a diffyg cred

Effeithiau'r cynnig

Mae effaith gadarnhaol bosibl yn y tymor hwy wedi’i nodi - sef cynnydd yng nghynrychiolaeth etholedig menywod sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd crefyddol ac sydd ag amrywiaeth o gredoau.

Rhesymau

Fel y soniwyd eisoes, mae ymchwil yn awgrymu y gall cynnydd yn nifer y menywod mewn deddfwrfa arwain at fwy o ffocws ar faterion sy'n berthnasol i bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Hefyd, gall cwotâu rhywedd mewn rhai cyd-destunau arwain at gynrychiolaeth fwy amrywiol yn fwy cyffredinol, gan gynnwys o blith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Clayton, 2021 a Cowper-Coles 2021).

Lliniaru

Amherthnasol

Grŵp/nodwedd warchodedig: Rhyw / Rhywedd

Effeithiau'r cynnig

Nodwyd y bydd effaith gadarnhaol ar ymgeiswyr benywaidd oherwydd y meini prawf gosod ymgeiswyr (bod rhaid i fenyw ddilyn ymgeisydd nad yw'n fenyw, heblaw o ran yr ymgeisydd sydd ar waelod y rhestr ymgeiswyr) a'r trothwyon gofynnol o 50% a nodir yn y polisi. Nod hyn yw sicrhau nad yw ymgeiswyr benywaidd yn cael eu hisraddio i waelod rhestrau ymgeiswyr y pleidiau lle maent yn llai tebygol o gael eu hethol.

I fenywod yn fwy cyffredinol, mae potensial i gyfran uwch o ASau benywaidd etholedig arwain at fwy o amlygrwydd ac ystyriaeth o faterion polisi sy'n gysylltiedig â menywod a theuluoedd yn y Senedd a rhannu safbwyntiau ehangach ar ystod o faterion eraill.

Nodwyd y bydd effaith negyddol gyfyngedig ar ddynion, sef y gallai rhai dynion beidio â cael eu rhoi ar restr ymgeiswyr oherwydd y cwota, neu y gallent gael eu rhoi mewn safle llai ffafriol. Gallai hyn olygu na fyddant yn cael eu hethol.

Gallai hefyd gael effaith fwy cyfyngedig ar fenywod o bryd i'w gilydd, a allai gael eu gosod mewn safle llai ffafriol ar restr i gydymffurfio â'r meini prawf gosod. Gallai hyn olygu na fyddant yn cael eu hethol.

Rhesymau

Nod y ddeddfwriaeth yw gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol, drwy geisio sicrhau bod y Senedd yn adlewyrchu cyfansoddiad rhywedd poblogaeth Cymru yn well, gyda'r manteision polisi cysylltiedig y disgwylir iddynt ddeillio o hyn.

Nod y polisi yw cyflawni'r amcan cyffredinol hwn drwy gael meini prawf fertigol (lefel etholaethol) a llorweddol (lefel genedlaethol) sy'n ymwneud â chyfran yr ymgeiswyr benywaidd y mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol eu cyflwyno ar gyfer etholiad. O leiaf 50% o fenywod ar y lefel fertigol a 50% ar y lefel lorweddol ar yr amod bod mwy nag un ymgeisydd ar bob lefel. Mae ymchwil yn awgrymu bod cael meini prawf gosod ar gyfer ymgeiswyr benywaidd ar lefel leol a chenedlaethol yn bwysig, er mwyn i gwotâu gyflawni'r canlyniad a ddymunir sef ethol mwy o fenywod (Quotas for Women in Politics 2009 t38).

Gallai'r rheol bod rhaid i ymgeisydd nad yw’n fenyw gael ei ddilyn gan fenyw ar restr olygu bod ymgeiswyr (gan gynnwys menywod o bosibl ar brydiau) yn cael eu gosod yn is i lawr rhestr nag y byddent wedi bod fel arall, a allai olygu na chânt eu hethol pan fyddent wedi cael eu hethol fel arall. Yn yr un modd, gallai'r rheol bod rhaid i o leiaf 50% o restr plaid fod â menyw yn y safle cyntaf neu'r unig safle, olygu bod ymgeisydd nad yw'n fenyw yn cael ei osod yn yr ail safle ar restr pan fyddai fel arall wedi bod yn y safle cyntaf.

Gallai gwrthod rhestrau pleidiau nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau fertigol (etholaeth) olygu na fydd pleidiau a'u hymgeiswyr yn sefyll mewn etholiad.

Gallai darpariaethau'r Gorchymyn Cynnal Etholiadau i fynd i'r afael â diffyg cydymffurfio â'r meini prawf llorweddol (lefel genedlaethol) olygu bod ymgeiswyr nad ydynt yn fenywod yn cael eu symud i lawr safle ar restr, neu hyd yn oed yn achlysurol, yn peidio â chael eu henwebu yn yr etholiad hwnnw.

Ni fyddai ymgeisydd plaid sy'n methu â datgan a yw'n fenyw neu beidio yn ystod y broses enwebu yn cael ei enwebu'n ddilys, felly ni fyddai'n gallu sefyll yn yr etholiad hwnnw.

Lliniaru

Os nad yw pleidiau yn bodloni'r meini prawf etholaethol a nodir yn y ddeddfwriaeth, ni fyddant yn gallu sefyll unrhyw ymgeiswyr o fewn yr etholaeth benodol, gan y bydd eu rhestr ymgeiswyr yn cael ei gwrthod gan y Swyddog Canlyniadau. Mae ymchwil yn awgrymu bod hon yn ffordd effeithiol o sicrhau cydymffurfiaeth (Twenty Years of Parité Under the Microscope in France 2023 tt. 225-226). Ar y lefel genedlaethol, os na fydd pleidiau'n bodloni'r meini prawf, rhagwelir y bydd Swyddogion Canlyniadau'n ymyrryd er mwyn galluogi'r blaid i sefyll mewn cynifer o etholaethau â phosibl, gan gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth (gyda phleidiau yn cael cyfle byr yn gyntaf i ddewis y rhestr(au) etholaethol i'w newid er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio). Er mwyn osgoi materion o ddiffyg cydymffurfio sy'n codi lle y byddai ymgeiswyr yn cael eu hatal rhag sefyll, rhoddir ystyriaeth i unrhyw fesurau codi ymwybyddiaeth a chanllawiau y mae eu hangen cyn i'r cwota ddod i rym. Disgwylir hefyd y gallai'r cyfle presennol ar gyfer ymgysylltu rhwng pleidiau a Swyddogion Canlyniadau yn ystod y broses enwebu helpu pleidiau i gydymffurfio.

Bernir bod y dull gweithredu yn gymesur wrth gyflawni'r nod o Senedd fwy effeithiol, gan fod menywod wedi bod yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: Cyfeiriadedd rhywiol 

Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol

Effeithiau'r cynnig

Mae effaith gadarnhaol bosibl yn y tymor hwy wedi’i nodi – sef cynnydd mewn cynrychiolaeth etholedig yn achos menywod sy'n hoyw neu'n ddeurywiol.

Rhesymau

Mae ymchwil a wnaed gan y Senedd yn 2021 yn dangos bod tri Aelod o'r Senedd ar hyn o bryd yn nodi eu bod yn LHDTC+ (Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw'r Chweched Senedd?). Mae hyn yn cyfateb i 5% o'r Aelodau presennol o'r Senedd. Gellir cymharu hyn â data o Gyfrifiad 2021 sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol ar gyfer Cymru gyfan, sy'n dangos bod 1.5% o boblogaeth Cymru yn nodi eu bod yn hoyw neu'n lesbiaidd, bod 1.2% yn nodi eu bod yn ddeurywiol, a 0.3% yn nodi eu bod yn arddel cyfeiriadedd rhywiol arall (Cyfrifiad 2021 ONS).

Fel y soniwyd eisoes, mae ymchwil yn awgrymu y gall cynnydd yn nifer y menywod mewn deddfwrfa arwain at fwy o ffocws ar faterion sy'n berthnasol i bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig. Hefyd, gall cwotâu rhywedd mewn rhai cyd-destunau arwain at gynrychiolaeth fwy amrywiol yn fwy cyffredinol, gan gynnwys o blith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Clayton, 2021 a Cowper-Coles 2021).

Lliniaru

Amherthnasol

Grŵp/nodwedd warchodedig: Priodas a phartneriaeth sifil

Effeithiau'r cynnig

Ni nodwyd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol penodol.

Rhesymau

Amherthnasol

Mitigation

Amherthnasol

Grŵp/nodwedd warchodedig: Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed

Effeithiau'r cynnig

Gallai cynyddu nifer y deddfwyr benywaidd arwain at fwy o ffocws yn nadleuon y Senedd ar faterion sy'n ymwneud â phlant a'u hawliau, ac at graffu mwy effeithiol yn y meysydd polisi hyn.

Fel y nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol, ni ddisgwylir i'r cynigion gael unrhyw effeithiau andwyol ar blant a hawliau plant. Rhaid i ddarpar Aelodau o’r Senedd fod yn 18 oed ar ddiwrnod eu henwebiad i gael sefyll mewn etholiad.

Rhesymau

Fel y soniwyd, mae ymchwil yn awgrymu y gall cynnydd yn nifer y menywod mewn deddfwrfa arwain at fwy o ffocws ar faterion sy'n berthnasol i bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys plant a phobl ifanc (Clayton, 2021 a Cowper-Coles 2021).

Lliniaru

Amherthnasol

Grŵp/nodwedd warchodedig: Aelwydydd incwm isel

Effeithiau'r cynnig

Os bydd mwy o fenywod yn cael eu cymell gan gwotâu i sefyll am etholiad, ac yn cael eu cefnogi i sefyll drwy fentrau ac ymyriadau eraill, mae'n rhesymol dod i'r casgliad y gallai mwy o fenywod o ystod ehangach o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ddod yn Aelodau Seneddol, gan arwain at adlewyrchu'r ystod hon o brofiad bywyd yn y Senedd.

Rhesymau

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai cwotâu fod yn gymhelliant i fwy o fenywod sefyll mewn etholiad (Unpacking diversity 2018, t6).

Lliniaru

Amherthnasol

Hawliau Dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig

Erthygl 8: Yr hawl i breifatrwydd

Effeithiau'r cynnig

Mae effaith negyddol bosibl ar bob ymgeisydd sy'n sefyll dros blaid wleidyddol gofrestredig, o ganlyniad i'r ffaith ei bod yn ofynnol iddynt ddatgelu a ydynt yn fenyw neu beidio. I'r mwyafrif o ymgeiswyr, er hynny, mae'r mater a ydynt yn fenyw neu beidio yn nodwedd weladwy ac yn un y maent yn gyfforddus i fod yn agored yn ei chylch. Gallai’r effaith negyddol hon fod yn fwy perthnasol i ymgeiswyr traws ac anneuaidd, yn enwedig os daw eu datganiad yn hysbys yn gyhoeddus yn erbyn eu hewyllys neu os daw'n destun her.

Rhesymau

Mae amcangyfrifon o Gyfrifiad 2021 yn awgrymu bod pobl y mae eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'w rhyw a bennwyd adeg eu geni, yn cynnwys cyfran gymharol fach o boblogaeth Cymru, sef 0.4% (Nodyn: Roedd y cwestiwn ar hunaniaeth rhywedd yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021. Roedd y cwestiwn yn un gwirfoddol ac fe'i gofynnwyd i bobl 16 oed a throsodd yn unig). Mae nifer y bobl sy'n perthyn i'r grŵp hwn a fyddai hefyd yn debygol o fod yn ymgeisydd ar gyfer etholiad Senedd yn isel iawn.

O ran deisebau etholiad, mae'r niferoedd sydd wedi cael eu ffeilio yn y DU yn isel iawn ac mae'r niferoedd hyd yn is byth yn achos y rhai sydd wedi'u dwyn gerbron y llysoedd i'w hystyried yn ffurfiol. Nid oes unrhyw ddeisebau wedi bod mewn perthynas ag etholiadau'r Senedd hyd yn hyn.

Lliniaru

Bydd y blaid a'r gweinyddwyr etholiadol yn ddarostyngedig i'r gyfraith diogelu data wrth ymdrin â'r data personol (gan gynnwys datganiadau rhywedd) sydd wedi'u cynnwys mewn papurau enwebu. Mae manylion pellach am y broses ar gyfer rhannu gwybodaeth wedi'u nodi yn yr Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data ar gyfer y Bil.

Rhagwelir y bydd dwy sefyllfa gyfyngedig bosibl lle y gallai fod angen i ddatganiad rhywedd ymgeisydd gael ei weld gan eraill heblaw'r ymgeisydd, y blaid y mae'n sefyll drosti a'r Swyddog Canlyniadau/staff gweinyddu etholiadol perthnasol a'r Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol (efallai na fydd y Swyddog yn ei weld mewn gwirionedd, ond yn cael gwybod am yr hyn y mae'r ymgeisydd yn y safle cyntaf neu'r unig safle ar restr wedi'i nodi). Gallai'r sefyllfa gyntaf godi os oes gan bersonau cyfyngedig eraill hawl i'w archwilio yn ystod y broses etholiadol (mae'r Bil yn rhoi pŵer i ddarparu ar gyfer hyn mewn is-ddeddfwriaeth). Rhagwelir y byddai'r is-ddeddfwriaeth, os bydd yn rhoi hawliau archwilio, hefyd yn cynnwys mesurau diogelu priodol, yn union fel sydd ar hyn o bryd mewn perthynas â hawliau archwilio presennol yn achos ffurflenni cyfeiriadau cartref ymgeiswyr. Yr ail sefyllfa yw pan gyflwynir her gyfreithiol (e.e. deiseb etholiadol i herio'r etholiad) a phan fydd datganiad rhywedd yr ymgeisydd yn berthnasol i'r achos, a allai arwain at ddatgelu eu datganiad i'r llys. Er hynny, nid yw deisebau etholiadol a heriau cyfreithiol eraill yn digwydd yn aml, felly bernir mai bach iawn yw'r risg y bydd hyn yn digwydd. Bernir y gallai'r risg hon o her gyfreithiol fod ychydig yn uwch ar gyfer rhai unigolion trawsryweddol yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Er na chaiff yr wybodaeth a ddarperir yn natganiad rhywedd ymgeisydd ei chyhoeddi, bydd trefn rhestr pleidiau ar gyfer etholaeth (a gaiff ei llywio gan ddatganiadau ymgeiswyr a'r rheolau cwota) ar gael i'r cyhoedd. Felly, efallai y bydd modd canfod, neu o leiaf ddarogan yn hyderus, sut y mae rhai ymgeiswyr (er nad pob ymgeisydd o reidrwydd) wedi datgan eu rhywedd.

Erthygl 3 Protocol 1: Yr hawl i etholiadau rhydd / yr hawl i sefyll mewn etholiad

Effeithiau'r cynnig

Nid oes dim yn y rheolau cwota yn atal unrhyw berson neu blaid rhag sefyll yn etholiadau’r Senedd.

Gallai agweddau amrywiol ar y rheolau y darperir ar eu cyfer yn y Bil a'r ddarpariaeth gysylltiedig sydd i'w gwneud o dan orchymyn adran 13 ymyrryd â hawliau i sefyll mewn etholiad.

Gallai'r rheolau olygu na fydd rhai darpar ymgeiswyr yn sefyll pan fyddent wedi gwneud fel arall, neu y byddant mewn safle is ar restrau nag y byddent wedi bod fel arall. Gallai hyn gael yr effaith nad ydynt yn cael eu hethol pan fyddent wedi cael eu hethol fel arall.

Gallai hyn olygu hefyd na fydd pleidiau'n gallu cyflwyno eu dewis o ymgeiswyr. Gallai methu â chydymffurfio â'r rheolau hefyd olygu na fydd ymgeiswyr a phleidiau yn gallu sefyll.

Rhesymau

Gallai'r rheolau olygu bod darpar ymgeiswyr nad ydynt yn fenywod yn cael eu cynnwys ar restr ymgeiswyr plaid er mwyn cydymffurfio â'r gofyniad bod o leiaf 50% o ymgeiswyr ar restr yn fenywod.

Gallai'r rheol bod rhaid i ymgeisydd nad yw’n fenyw gael ei ddilyn gan fenyw ar restr olygu bod ymgeiswyr (gan gynnwys menywod o bosibl ar brydiau) yn cael eu gosod yn is i lawr rhestr nag y byddent wedi bod fel arall, a allai olygu na chânt eu hethol pan fyddent wedi cael eu hethol fel arall. Yn yr un modd, gallai'r rheol bod rhaid i o leiaf 50% o restr plaid fod â menyw yn y safle cyntaf neu'r unig safle, olygu bod ymgeisydd nad yw'n fenyw yn cael ei osod yn yr ail safle ar restr pan fyddai fel arall wedi bod yn y safle cyntaf.

Gallai gwrthod rhestrau pleidiau nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau fertigol (etholaeth) olygu na fydd pleidiau a'u hymgeiswyr, yn sefyll mewn etholiad.

Gallai darpariaethau'r Gorchymyn Cynnal Etholiadau i fynd i'r afael â diffyg cydymffurfio â'r meini prawf llorweddol (lefel genedlaethol) olygu bod ymgeiswyr nad ydynt yn fenywod yn cael eu symud i lawr safle ar restr, neu hyd yn oed yn achlysurol, yn peidio â chael eu henwebu yn yr etholiad hwnnw.

Ni fyddai ymgeisydd plaid sy'n methu â datgan a yw'n fenyw neu beidio yn ystod y broses enwebu yn cael ei enwebu'n ddilys, felly ni fyddai'n gallu sefyll yn yr etholiad hwnnw.

Gallai’r gofyniad i wneud datganiad rhywedd beri pryder i rai darpar ymgeiswyr (ymdriniwyd ag agweddau preifatrwydd hyn uchod yng nghyd-destun Erthygl 8).

Lliniaru

Mae'r cwotâu yn hanfodol i gyflawni'r nod cyfreithlon y mae'r ddeddfwriaeth yn mynd ar ei drywydd sef gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol drwy adlewyrchu, yn fras, gyfansoddiad rhywedd y boblogaeth y mae'n ceisio ei chynrychioli a'i gwasanaethu.

Er mwyn rhoi effaith i'r nod hwnnw, mae'r rheolau cwota yn ceisio sicrhau bod 50% o Aelodau o’r Senedd sy'n cael eu hethol yn ffurfiol mewn etholiad cyffredinol yn fenywod, o gofio bod menywod wedi bod, ac yn dal i fod, yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol o ran rhywedd.

Mae'r gofyniad bod ymgeisydd plaid yn datgan a yw'n fenyw neu beidio ac unrhyw ddarpariaethau i orfodi'r rheolau (e.e. gwrthod rhestrau nad ydynt yn cydymffurfio) yn angenrheidiol er mwyn i'r rheolau fod yn effeithiol.

Mae'r gofynion yn y Bil ynghylch cyfran a lleoliad menywod ar restrau ymgeiswyr plaid yn glir a bydd y canlyniadau yn rhagweladwy.

Rhoddir ystyriaeth bellach i ddarpariaethau'r is-ddeddfwriaeth i sicrhau eu bod hwythau hefyd yn glir, yn gymesur a bod modd rhag-weld y canlyniadau.

Nid yw'r rheolau ynghylch cyfran a lleoliad menywod ar restrau plaid yn cyfyngu ar hawl unigolion i sefyll mewn etholiad y tu hwnt i'r hyn sy'n angenrheidiol i ddiogelu cyfran o'r safleoedd mwy ffafriol ar restrau i fenywod, ac felly gynyddu'r siawns y bydd y nod polisi yn cael ei gyflawni – sef dychwelyd Senedd sy'n fwy cynrychioliadol o gyfansoddiad rhywedd poblogaeth Cymru, er mwyn bod yn ddeddfwrfa fwy effeithiol.

Erthygl 14: Amddiffyn rhag gwahaniaethu

Effeithiau'r cynnig

Fel y nodwyd uchod, ceir posibilrwydd o effeithiau negyddol ar ddarpar ymgeiswyr, ond gallai hyn ddigwydd i raddau mwy, neu’n amlach, yn achos darpar ymgeiswyr nad ydynt yn fenywod na'r rhai sy'n fenywod.

Fel y nodwyd uchod hefyd, efallai y bydd effeithiau mwy negyddol i bobl drawsryweddol neu anneuaidd.

Rhesymau

Fel y nodwyd mewn perthynas ag Erthygl 3 o Brotocol 1.

Fel y nodwyd uchod mewn perthynas ag Erthygl 8.

Lliniaru

Fel y nodwyd uchod mewn perthynas ag Erthygl 8 ac Erthygl 3 o Brotocol 1.

Yn y pen draw, nid yw'r rheolau'n atal unrhyw blaid rhag cael niferoedd cyfartal o ddynion a menywod ar eu rhestrau ac yn y safle cyntaf ar draws yr holl etholaethau lle y maent yn dewis sefyll ymgeiswyr, gan ei gwneud yn bosibl i ddynion a menywod gael eu cynrychioli mewn niferoedd cyfartal yn gyffredinol yn yr etholiad.

Hawliau Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir

Ni fernir y bydd y Bil yn effeithio’n benodol ar ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd na dinasyddion y Swistir (y mae eu hawliau’n cael eu diogelu gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion) o’i gymharu â phobl eraill sy’n byw yng Nghymru.