Blwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol: gwersi a ddysgwyd (crynodeb)
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau ymchwil gyda chontractwyr a datblygwyr a oedd yn rhan o flwyddyn tri (2019 i 2020) o'r Rhaglen Tai Arloesol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir a chyd-destun
Roedd y Rhaglen Tai Arloesol, a lansiwyd gyntaf yn 2017, yn rhaglen cyllid grantiau i gefnogi’r sector tai i ‘brofi a dysgu’ oddi wrth arloesiadau mewn adeiladu a darparu tai. Bu cyfanswm o bedwar iteriad o’r rhaglen, sef: Blwyddyn Un (blwyddyn galendr 2017 i 2018), Blwyddyn Dau (blwyddyn galendr 2018 i 2019), Blwyddyn Tri (blwyddyn galendr 2019 i 2020) a Blwyddyn Pedwar (blwyddyn galendr 2020 i 2021). Ym Mlwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol (blwyddyn galendr 2019 i 2020), diwygiwyd y cwmpas o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol i hwyluso lefel uwch o arloesedd na’r hyn a gefnogwyd yn nwy flynedd gyntaf y rhaglen. Yr amcanion datganedig oedd:
- cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy
- sicrhau bod dylunio a darparu tai fforddiadwy yn cyd-fynd â saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), 2015
- mynd i’r afael â chost a gwerth mewn cartrefi newydd a datblygu tai sy’n bodloni anghenion tai penodol nawr ac yn y dyfodol
- darparu cymorth i’r rhai sy’n barod i arloesi drwy ddefnyddio dulliau amgen
- dangos y buddiannau sy’n gysylltiedig â dulliau amgen, er mwyn annog mwy o ddiddordeb
- manteisio ar gyfleoedd i ddarparu swyddi, hyfforddiant sgiliau a datblygu diwydiannau lleol
- lledaenu’r canfyddiadau allweddol yn gyhoeddus a sicrhau y dysgir cymaint â phosibl amdanynt
- helpu i drechu tlodi drwy ddarparu cartrefi sy’n fwy ynni effeithlon ac yn rhatach i’w rhedeg
- cefnogi adfywio a datblygu economaidd ehangach
Yn yr un modd ag iteriadau blaenorol y Rhaglen Tai Arloesol, roedd Blwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol ar agor i landlordiaid cymdeithasol a’r sector preifat. Cafodd 8 datblygiad ledled Cymru gyllid ym Mlwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol.
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Ym mis Rhagfyr 2024, comisiynodd Llywodraeth Cymru Alma Economics i gynnal ymchwil i’r gwersi a ddaeth i’r amlwg o drydedd flwyddyn y Rhaglen Tai Arloesol. Roedd yr ymchwil hon yn dilyn gwerthusiadau tebyg a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o Flwyddyn Un [troednodyn 1] a Blwyddyn Dau [troednodyn 2] y Rhaglen Tai Arloesol. Nod yr ymchwil hon, yn bennaf, oedd deall y gwersi adeiladu a ddysgwyd o’r cynlluniau a gefnogwyd gan drydedd flwyddyn y Rhaglen Tai Arloesol, ac archwilio pynciau cysylltiedig, fel cymharu canfyddiadau ar draws blynyddoedd blaenorol y Rhaglen Tai Arloesol a chymharu barn datblygwyr o ddatblygiadau arloesol yn erbyn datblygiadau tai mwy traddodiadol.
Roedd y fethodoleg a ddilynwyd yn gyfuniad o gyfweliadau ansoddol, grwpiau ffocws ac ymchwil desg ar y rhaglen. I ddechrau, cynhaliwyd trafodaethau cwmpasu â rhanddeiliaid allweddol, fel swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd yn gysylltiedig â dylunio a gweithredu’r Rhaglen Tai Arloesol, yn ogystal â Chadeirydd presennol Comisiwn Dylunio Cymru. Dilynwyd hyn gan adolygiad desg o ddogfennau polisi perthnasol, data monitro ac adroddiadau gwerthuso Blwyddyn Un a Blwyddyn Dau’r Rhaglen Tai Arloesol.
Cynhaliwyd y gwaith maes mewn tri cham. Yn y cam cyntaf, cynhaliwyd cyfanswm o 14 o gyfweliadau â datblygwyr a chontractwyr ar draws pob un o’r 8 prosiect a gafodd gyllid ym Mlwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol. Yn yr ail gam, cynhaliwyd grŵp ffocws â chyfranogwyr mynych y Rhaglen Tai Arloesol, h.y. datblygwyr a gafodd gyllid grant rhaglen ar gyfer mwy nag un flwyddyn o’r Rhaglen Tai Arloesol. Roedd 3 chyfranogwr yn bresennol yn y grŵp ffocws, a galluogodd gasglu mewnwelediadau ar wersi ar draws nifer o flynyddoedd o’r Rhaglen Tai Arloesol, gan ganiatáu i ni nodi a dilysu canfyddiadau trawsbynciol. Yn y trydydd cam, sef y cam olaf, cynhaliwyd 2 gyfweliad â datblygwyr nad oeddent yn rhan o Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol, er mwyn archwilio’r rhwystrau a allai fod wedi’u hatal rhag cymryd rhan a chael mewnwelediadau i sut y gellid goresgyn y rhwystrau hyn.
Roedd rhai cyfyngiadau i’r gwaith maes. Er y cynhaliwyd cyfweliadau â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig nad oeddent yn rhan o Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol, dim ond 2 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yr ymgysylltwyd â nhw, gan effeithio ar ba mor gynhwysfawr yr oedd canfyddiadau trydydd cam y gwaith maes. Ar ben hynny, ni chafwyd unrhyw ymgysylltiad â rhai awdurdodau a oedd yn rhan o rai o’r prosiectau llwyddiannus ym Mlwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol, fel yr Awdurdod Priffyrdd Lleol, y trafodwyd eu cyfranogiad gan rai cyfranogwyr yn ystod y gwaith maes.
Prif ganfyddiadau
Canfyddiadau o’r broses adeiladu
Canfu’r ymchwil hon fod cyfranogwyr o’r farn bod perthnasoedd cryf rhwng datblygwyr a chontractwyr yn hanfodol ar gyfer y broses adeiladu. Tynnwyd sylw yn bennaf at gyflogi rheolwyr prosiect profiadol ar gyfer datblygiadau arloesol a gweithio â dulliau casglu data yn gamau a gymerwyd i gryfhau perthnasoedd.
Hefyd, crybwyllodd y cyfranogwyr gynnydd o ran pontio’r bwlch o ran sgiliau adeiladu, gan ddangos gwelliant yng nghyd-destun heriau’r gweithlu a nodwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Er bod rhai prosiectau a oedd yn rhan o Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol wedi’u heffeithio gan brinder gweithwyr â sgiliau adeiladu sero net, tynnodd cyfranogwyr a gododd y mater hwn sylw at ddatblygiadau cadarnhaol a wnaed i fynd i’r afael â’r prinder, fel busnesau’n buddsoddi mewn datblygiad a hyfforddiant sgiliau sero net.
Crybwyllodd mwyafrif y prosiectau a oedd yn defnyddio Dulliau Adeiladu Modern amserlenni adeiladu cyflymach. Er bod cyfranogwyr yn cydnabod bod gan Ddulliau Adeiladu Modern bremiwm o ran cost, roedd cyfranogwyr yn teimlo bod y dulliau hyn yn dod yn fwyfwy cost effeithiol a’u bod yn gyflymach i’w gosod ar y safle. Mae hyn yn cyd-fynd â’r canfyddiadau ar gostau dulliau arloesol o gymharu ag adeiladu traddodiadol, y crybwyllodd cyfranogwyr eu bod yn uwch, wedi’u sbarduno’n rhannol gan gyflenwyr pwrpasol yr oedd eu hangen ar gyfer rhai deunyddiau. Er bod y canfyddiadau hyn ar gostau yn gyson â chanfyddiadau iteriadau blaenorol o’r Rhaglen Tai Arloesol, i raddau helaeth, mynegodd cyfranogwyr optimistiaeth ynghylch sefydlogi costau wrth i dechnolegau gael eu datblygu dros gyfnod a darbodion maint.
Yn yr un modd, crybwyllwyd nad oedd y gallu i fanteisio ar dechnolegau a dulliau arloesol wedi achosi fawr ddim o oedi i brosiectau a oedd yn rhan o Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol. Lle bu oedi, priodolwyd hyn yn bennaf i bandemig y coronafeirws (COVID-19) gan gyfranogwyr, gydag ychydig o brosiectau’n profi oedi wrth gael batris a phympiau gwres. O’u cymharu ag iteriadau blaenorol y Rhaglen Tai Arloesol, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu gwelliannau yn y sector wrth addasu i liniaru heriau’r gadwyn gyflenwi. Ar wahân i’r effeithiau ar y gadwyn gyflenwi a nodwyd uchod, archwiliodd yr ymchwil hon effaith gyffredinol COVID-19 ar Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol hefyd, a chanfod, er bod COVID-19 wedi effeithio ar bob cynllun, i ryw raddau, roedd cyfranogwyr o’r farn ei fod wedi cael effaith ddifrifol ar ychydig o gynlluniau cyfrannog yn unig.
Amlygwyd bod yr angen i ymgysylltu’n gynnar ag awdurdodau perthnasol yn hollbwysig wrth ddarbwyllo awdurdodau lleol perthnasol a rhanddeiliaid am hyfywedd arloesiad. Tynnodd rhai datblygwyr sylw at yr angen am hyn trwy ddyfynnu enghreifftiau o heriau a wynebwyd wrth gael cymeradwyaeth ar gyfer ffyrdd gan eu Hawdurdod Priffyrdd Lleol.
Ystyriwyd bod treialu ac arbrofi â dulliau arloesol, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â thechnolegau ynni adnewyddadwy newydd neu safonau adeiladu uchelgeisiol, fel Passivhaus, yn bwysig i ddatblygwyr a chontractwyr fagu hyder mewn dulliau newydd, arloesol cyn eu darparu ar raddfa fawr. Yn gysylltiedig â hynny, canfu’r ymchwil hon hefyd bod y safleoedd adeiladu o Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol wedi cynnig dysgu amser real i’r sector ar ddulliau ac ymagweddau arloesol.
Archwiliodd yr ymchwil hon hefyd sut roedd dulliau adeiladu arloesol yn cymharu â dulliau a thechnolegau mwy traddodiadol ar gyfer adeiladu tai. Er y trafodwyd y canfyddiadau yn ymwneud â’r gost a’r gallu i gael deunyddiau uchod, crybwyllodd y cyfranogwyr, yn gyffredinol, fod defnyddio Dulliau Adeiladu Modern wedi arwain at amserlenni adeiladu cyflymach a llai o wastraff. Gwelwyd bod canfyddiadau lleol ynghylch dulliau arloesol, fel Dulliau Adeiladu Modern a datblygiadau ffrâm bren, yn fwy cadarnhaol nag ar gyfer datblygiadau mwy traddodiadol, hefyd. Priodolwyd y canfyddiadau cadarnhaol hyn i amserlenni adeiladu cyflymach a gostyngiad mewn llwch a sŵn ar gyfer datblygiadau â’r arloesiadau hyn.
Nododd tua hanner y cyfranogwyr fod dulliau ac ymagweddau arloesol yn cael eu prif ffrydio i ddatblygiadau arferol, a chrybwyllodd rhai cyfranogwyr fod arloesiadau a gyflawnwyd trwy Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol wedi dod yn “normal newydd” iddynt.
Canfyddiadau o’r broses gynllunio
Canfuwyd nad oedd y broses gynllunio ym Mlwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol yn wahanol i’r arfer, gyda mwyafrif y cyfranogwyr yn nodi bod unrhyw heriau neu oedi a wynebwyd yn nodweddiadol o’r system dai yng Nghymru ac nad oeddent yn benodol i Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol. Lle y canfuwyd heriau, roedd y rhain yn gysylltiedig â dim ond ychydig o brosiectau a gymerodd ran, a grybwyllodd heriau wrth gael cymeradwyaeth gan awdurdodau eraill, fel yr Awdurdod Priffyrdd Lleol, ar ôl cael cymeradwyaeth gynllunio eisoes.
Canfyddiadau o’r broses ymgeisio
At ei gilydd, crybwyllodd y datblygwyr a gymerodd ran yn y broses ymgeisio ar gyfer Blwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol ei bod yn syml, a chrybwyllwyd bod profiadau cynnig yn dod yn haws dros amser. Roedd y rhwystrau a wynebwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig nad oeddent yn rhan o Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol yn cynnwys amserlenni canlyniadau cymharol hir a phrinder eglurder adborth. Wedi dweud hynny, wrth grybwyll y materion hyn, soniodd y cyfweledigion hyn fod hyblygrwydd y Rhaglen Tai Arloesol o ran costau yn ddefnyddiol, gan nodi bod hyn ar goll o gynlluniau cyllid grant eraill.
Casgliad
Amlinellodd y gwerthusiad o Flwyddyn Tri’r Rhaglen Tai Arloesol ganfyddiadau allweddol yn ymwneud â’r broses adeiladu, y broses ymgeisio a’r broses gynllunio. Er yr ymhelaethwyd ar y rhain uchod, maent i gyd yn arwydd o’r cynnydd a wnaed yn y sector tai yng Nghymru o ran defnyddio dulliau a methodolegau arloesol dros y blynyddoedd. Caiff y cynnydd hwn ei amlygu’n bennaf gan ganfyddiadau allweddol yr ymchwil hon: canfuwyd bod y costau uwch sydd fel arfer yn gysylltiedig â dulliau ac ymagweddau arloesol wedi sefydlogi, bod oedi a heriau yn ymwneud â manteisio ar y gadwyn gyflenwi wedi effeithio’n ddifrifol ar ychydig o ddatblygiadau yn unig, a chanfuwyd bod cynnydd wedi’i wneud wrth bontio’r prinder sgiliau adeiladu sero net. Roedd cynnydd hefyd yn amlwg yn y broses ymgeisio, a chrybwyllwyd ei bob yn dod yn haws dros amser, er bod rhai Datblygwyr Cymdeithasol Cofrestredig nad oeddent yn cymryd rhan wedi tynnu sylw at feysydd i’w gwella. Yn yr un modd, er bod y broses gynllunio wedi amlinellu rhai heriau, roedd y rhain wedi’u cyfyngu i ychydig o gyfranogwyr. Roedd yr ymchwil hon hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd ffactorau eraill fel rhai sy’n ganolog i’r broses adeiladu arloesol, fel y berthynas rhwng datblygwyr a chontractwyr ac ymgysylltu’n gynnar â rhanddeiliaid allweddol – gan amlygu gwersi defnyddiol i’r sector eu dwyn ymlaen.
Troednodiadau
[1] Ambrose, A, Archer, T, Bimpson, E (2020), ‘Ymchwil i nodi gwersi cynnar sy'n dod i'r amlwg o'r Rhaglen Tai Arloesol’
[2] Industryline Research (2024), ‘Rhaglen Tai Arloesol, blwyddyn dau: gwersi a ddysgwyd’
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Alma Economics
Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Tîm Ymchwil Tai
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: TîmYmchwilTai@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 6/2026
ISBN Digidol: 978-1-83715-931-4
