Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ein hail erthygl flynyddol i gynnwys data ar fwriad prynwyr mewn trafodiadau Treth Trafodiadau Tir cyfradd uwch. Fe gyhoeddom ein herthygl gyntaf am y data hwn ym mis Hydref 2024, a oedd yn cynnwys data ar gyfer un flwyddyn un unig. Bellach, gydag ail flwyddyn o ddata ar gael, gallwn gyflwyno tueddiadau o fewn y data am y tro cyntaf. Cyn yr erthyglau hyn, byddem yn cyhoeddi erthyglau blynyddol i amcangyfrif sawl person a fyddai’n prynu tŷ na fyddai’n brif annedd iddynt. 

Fe ddechreuom gasglu fwriad prynwyr mewn trafodiadau cyfradd uwch data yn ystod haf 2023, a hynny trwy gyflwyno cwestiwn newydd ar y ffurflen dreth Treth Trafodiadau Tir. Mae'r cwestiwn newydd yn berthnasol i bob trafodiad lle prynir eiddo preswyl sy’n gymwys i dalu’r cyfraddau uwch. Cyflwynwyd y cwestiwn hwn gyda chydymffurfiaeth treth, er mwyn llywio datblygiadau i bolisi Treth Trafodiadau Tir, ac er mwyn gwella’r wybodaeth sydd gennym ynghylch trafodiadau ar y gyfradd uwch. Darllenwch ein hadran ‘Dadansoddi’r data a sicrhau ansawdd’ am ragor o wybodaeth.

Prif bwyntiau

Ewch i’r adran 'Sut mae dehongli'r data hwn' i ddarllen am gyfyngiadau'r data a ddefnyddiwyd yn yr erthygl hon. Er enghraifft, rydym yn egluro fod yr wybodaeth sydd gennym ynghylch bwriad prynwyr mewn trafodiadau cyfradd uwch yn adlewyrchu’r hyn a nodwyd ar y ffurflen dreth pan wnaed y trafodiad yn unig ac y gallai hynny fod yn wahanol i ddefnydd y prynwr o’r eiddo yn y pen draw.

O ran yr eiddo a brynwyd rhwng Gorffennaf 2024 a Mehefin 2025 (y flwyddyn ddiweddaraf) a Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 (y flwyddyn flaenorol):

Dadansoddiad Cymru

  • Yn y flwyddyn ddiweddaraf, pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ oedd â’r gyfran fwyaf o drafodiadau cyfradd uwch o blith yr holl drafodiadau preswyl (9%), a phryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ yn ail (6%).
  • O’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol, gwelwn fod pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ wedi aros ar 9%, tra bod pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ wedi gostwng 1 pwynt canran (o 7%).
  • Bu cynnydd o 12% yn y nifer o bryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn debyg i’r cynnydd a welwyd yng nghyfanswm y pryniannau preswyl (15%).
  • Er gwaethaf y cynnydd mawr mewn trafodiadau preswyl, ni ddilynodd pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ yr un duedd, gan aros yr un fath.

Dadansoddiad Awdurdodau Lleol

  • Roedd pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ fel canran o’r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall, gyda Merthyr Tudful a Blaenau Gwent yn rhannu’r ganran uchaf (17%).
  • Arhosodd y ganran o bryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ yn debyg i’r flwyddyn flaenorol, ac eithrio’r newidiadau mwy a welwyd yn awdurdodau Wrecsam (gostyngiad o 4 pwynt canran) a Sir Ddinbych (gostyngiad o 2 bwynt canran).
  • Yn y flwyddyn ddiweddaraf, roedd y nifer o bryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ fel canran o’r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o un awdurdod i’r llall, o ganran o 3% yr un yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, a Thorfaen i 13% ar Ynys Môn.
  • O ran pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’, bu gostyngiadau o 5 pwynt canran ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond roeddent yn dal i fod yn uwch nag unrhyw awdurdod lleol arall.
  • Ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd roedd y cynnydd yn nifer y trafodiadau prif gyfradd yn uwch na’r cyfartaledd. Gallai hyn egluro rhai o’r newidiadau mawr a welwyd yn y gyfran o bryniannau cyfradd uwch.
  • Ar gyfer pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, gwelwyd fod y gwahaniaeth rhwng awdurdodau lleol wedi culhau’n arw. Caewyd y bwlch o 14 pwynt canran yn y flwyddyn flaenorol i 10 pwynt canran yn y flwyddyn ddiweddaraf.
  • Mae’r tueddiadau hyn yn cyd-fynd â pholisïau tai gwyliau a gyflwynwyd yng Nghymru yn cael effaith ar ymddygiad prynwyr. 

Y dreth sy’n ddyledus

  • Yn y flwyddyn ddiweddaraf, roedd oddeutu 50% yn fwy o bryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ nag yr oedd o bryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’. Er hyn, roedd y cyfraniad refeniw treth o bryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ oddeutu 25% yn uwch na’r dreth o bryniannau ‘landlord prynu-i-osod’. 

Newid ym mwriad prynwyr

Roedd ein herthygl flaenorol (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2024) yn cynnwys dadansoddiad a oedd yn cyflwyno data ar drafodiadau a ddaeth i rym rhwng Gorffennaf 2023 a Mehefin 2024, fel ag yr oeddent ym mis Gorffennaf 2024. Yn adran ‘Dadansoddiad o’r newid ym mwriad prynwyr’ yr erthygl hon, rydym yn dadansoddi’r data i weld a fu newid ym mwriad prynwyr y trafodiadau hyn yn ystod y 12 mis canlynol.

Pan fyddwn yn ystyried diwygiadau a wnaed i ddata Gorffennaf 2023 hyd Fehefin 2024, gwelwyd gostyngiad annisgwyl o 7% yn y nifer o bryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’. Gellir priodoli hyn i hawliadau hwyrach am ad-daliadau o’r gyfradd uwch yn erbyn y trafodiadau dan sylw.

Mae’r newidiadau cyfatebol o ran pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ yn gymharol fychan. Credwn felly mai’r rheswm dros y gostyngiad mwy o ran pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ yw camddealltwriaeth gan y rhai a oedd yn llenwi’r ffurflenni Treth Trafodiadau Tir wrth ateb y cwestiwn. Neu, os nad oedd gwir fwriad y pryniant yn hysbys, efallai bod ‘ail dŷ’ wedi’i ddewis fel ateb amwys wrth brynu eiddo ychwanegol.

Y casgliad tebygol yw bod y categori ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ yn cynnwys achosion o ddosbarthiadau eraill (megis pontio), ac felly mae’r niferoedd ychydig yn uwch na’r gwirionedd. 

Dadansoddi’r data a sicrhau ansawdd

A ninnau bellach â gwerth dwy flynedd o ddata ar gael, rydym wedi gallu sicrhau ansawdd hyn dros amser. Er enghraifft, er nad yw’r data yn caniatáu i ni wneud cymariaethau uniongyrchol, rydym wedi defnyddio data am yr eiddo sydd ar gofrestr Rhentu Doeth Cymru ar hyn o bryd er mwyn gwirio a yw’r wybodaeth yn ein categori ‘landlord prynu-i-osod’ yn synhwyrol. Mae hyn wedi helpu i adnabod cyfyngiadau’r data (gweler yr adran 'Sut mae dehongli'r data hwn').

Yn yr erthygl hwn, rydym yn dadansoddi data ar gyfer y ddau fath canlynol o ardaloedd lleol:

  • awdurdodau ileol
  • parciau cenedlaethol

Rydym hefyd wedi cynnwys data ar 16 etholaeth newydd y Senedd yn y daenlen a gyhoeddwyd ar y cyd â’r erthygl hon.

Mae'r cwestiwn bwriad cyfraddau uwch yn cynnig y dewisiadau hyn o ran ymateb:

  • pontio, neu heb werthu’r brif breswylfa flaenorol
  • landlord prynu-i-osod
  • prynu ail gartref / tŷ gwyliau
  • prynu llety gwyliau
  • defnydd masnachol neu fusnes (heb gynnwys prynu-i-osod)
  • prynu ar gyfer rhywun arall (gan gynnwys plant)
  • prynu mewn perthynas ag ymddiriedolaeth
  • trosglwyddo ecwiti (gan gynnwys gyda morgais)
  • arall (wrth ddewis yr opsiwn hwn, rhaid i’r defnyddiwr nodi pam eu bod yn gwneud y trafodiad cyfradd uwch)

Mae’r canllawiau ar gyfer Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir yn cynnig rhagor o wybodaeth ynghylch y dewisiadau hyn.

Rydym wedi grwpio'r 9 ymateb posibl i'r cwestiwn newydd i mewn i gategorïau llai. Gwnaethpwyd hyn gan fod nifer yr ymatebion a gafwyd mewn rhai categorïau mewn rhai ardaloedd lleol yn rhy isel i’w cyhoeddi. Mae'r erthygl hon yn defnyddio'r categorïau canlynol:

Er mwyn gwella'r data, rydym hefyd wedi dadansoddi ymatebion y trethdalwyr neu'r asiantau a ddewisodd 'Arall' ar y ffurflen dreth. Os yw’r ymateb yn ei gwneud hi’n amlwg bod pryniant yn perthyn i un o’r categorïau eraill, megis tŷ gwyliau, rydym wedi symud yr ymateb i’r categori perthnasol. Roedd llawer o ymatebion nad oeddent yn perthyn yn amlwg i gategorïau eraill. Er enghraifft, cadwyd yr ymatebion 'prynu eiddo ychwanegol' yn y categori 'arall'. 

Dim ond ychydig o ymatebion a symudwyd i wahanol gategori. O'r 10,450 o drafodiadau cyfraddau uwch a wnaed rhwng Gorffennaf 2024 a Mehefin 2025, tua 40 ohonynt (llai nag 1%) a symudwyd i’r categorïau 'prynu-i-osod', 'ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau,' ac 'ad-daliadau cyfradd uwch neu bontio' a ddefnyddir yn y datganiad hwn.

Sut mae dehongli'r data hwn

Cyfyngiadau i'r data

  • Mae'r data a gyhoeddwyd yn adlewyrchu'r bwriad a nodwyd ar y ffurflen dreth pan wnaed y pryniant. Neu pan fo’r ymateb ymhlith yr ychydig rai a symudom i gategori arall, fel y disgrifir uchod. Gallai sut y defnyddir yr eiddo erbyn hyn fod yn wahanol i'r bwriad a nodwyd pan brynwyd ef.
  • Ychydig wybodaeth sydd gennym am sut arferai’r gwerthwr ddefnyddio'r eiddo. O ganlyniad, nid oes modd i ni wybod a yw bwriad prynwr yn arwydd o newid yn y ffordd y defnyddir yr eiddo.
  • Mae’r prif ganfyddiadau a gyflwynwn yma dan effaith y newidiadau yn niferoedd y trafodiadau cyfradd uwch ac yn niferoedd y trafodiadau prif gyfradd preswyl. Bu cynnydd arwyddocaol yn y nifer o drafodiadau prif gyfradd preswyl dros y cyfnod, ac mae hynny wedi achosi heriau wrth ddehongli’r data, byddwn yn trafod hynny mewn mwy o fanylder yn nes ymlaen.
  • Mae’r data yn cynrychioli eiddo a brynwyd o fewn un flwyddyn benodol. O ganlyniad, nid yw o reidrwydd yn adlewyrchiad o holl stoc eiddo unrhyw ardal benodol.
  • Gyda gwerth dwy flynedd o ddata bellach ar gael, gallwn gymharu’r flwyddyn diweddaraf gyda’r flwyddyn flaenorol a gweld rhai newidiadau sylweddol yn rhai o ardaloedd Cymru. Ond ni allwn gymharu’r data dros gyfnod hirach.
  • Gall y tueddiadau amrywio tipyn rhwng blynyddoedd. Mae hyn oherwydd y nifer fechan o drafodiadau a ddigwydda yn rhai o ardaloedd Cymru, felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r data hwn.
  • Gan amlaf, cyfreithwyr neu drawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflen Dreth Drafodiadau Tir ar ran y trethdalwr. O ddadansoddi lleoliadau a gwybodaeth arall a roddir, rydym o’r farn bod asiantau yn dehongli’r categorïau bwriad yn wahanol ar brydiau neu hyd yn oed yn camddehongli bwriad y prynwr. Er enghraifft, credwn fod ‘ail gartref’ yn cael ei ddehongli mewn ffordd generig o bryd i’w gilydd, pan nad yw’r bwriad yn amlwg, ac yn sicr ag ystyr ehangach na chyd-destun ‘gwyliau’ yn unig. Bydd amrywioldeb yn bodoli yn yr ymatebion o fewn categorïau eraill hefyd, yn dibynnu ar yr unigolyn sy'n llenwi'r ffurflen dreth. Mae’n debygol y bydd hyn yn cael mwy o effaith mewn ardaloedd trefol, ac mae ein dadansoddiad yn dangos clystyrau o gwmpas canol dinasoedd neu drefi. 

Cafodd y data ar gyfer Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 a ddefnyddiwyd yn yr erthygl hon ei dynnu o’n system ar 21 Gorffennaf 2025. At ddibenion cymharu, cafodd y data ar gyfer Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 a ddefnyddiwyd yn yr erthygl hon ei dynnu o’n system ar 15 Gorffennaf 2024. Defnyddiwyd yr un cyfnod tynnu data ar gyfer ystadegau chwarterol diweddaraf. O ganlyniad, mae cyfanswm y trafodiadau cyfradd uwch a geir yma yn cyd-fynd â’r ystadegau arferol ar gyfer y cyfnodau hyd at Mehefin 2025.

Ffigur 1: Trafodiadau ar y gyfradd uwch wedi’u rhannu yn ôl categori bwriad, fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 1: Trafodiadau cyfraddau uwch fel cyfran o'r holl drafodiadau preswyl, wedi’u rhannu yn ôl y bwriad a nodwyd ar ffurflen dreth y prynwr: prynu ‘landlordiaid prynu-i-osod’; prynu ‘ail gartrefi, tai gwyliau, neu lety gwyliau’; ad-daliadau cyfradd uwch neu bontio, a phrynu arall. Mae’r dadansoddiad o’r ddau gategori cyntaf (a’r rhai mwyaf) wedi’i gyflwyno yn y ddau ffigur canlynol.

Ffynhonnell: Bwriad prynwyr mewn trafodiadau lle talwyd y Dreth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch [Taenlen Dogfen Agored, 19 Kb]

Yn y flwyddyn ddiweddaraf, pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ oedd yn gyfrifol am y gyfran fwyaf o drafodiadau cyfradd uwch o’r holl drafodiadau preswyl (9%), gyda phryniannau ‘ail gartrefi, tai gwyliau neu lety gwyliau’ yn ail (6%). Fodd bynnag, mae’r canrannau hyn dan effaith y newid yn nifer y trafodiadau cyfradd uwch yn ogystal â’r newid yng nghyfanswm y trafodiadau (a ddefnyddiwyd yn yr enwadur). O ganlyniad, mae Tabl 1 isod yn ystyried nifer gwirioneddol y trafodiadau ym mhob categori preswyl a’r newid dros amser.

Tabl 1: Nifer y trafodiadau preswyl mewn gwahanol gategorïau bwriad prynwyr mewn trafodiadau cyfradd uwch, Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024, Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025, a’r newid canran
Math o drafodiad a bwriad cyfraddau uwch Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 Newid canran 
Preswyl 44,600 51,140 15%
O'r rhain: prif gyfraddau 34,230 40,070 17%
Cyfraddau uwch [Nodyn 1] 10,370 11,080 7%
O'r rhain: landlord prynu-i-osod 4,000 4,490 12%
Ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau 2,980 2,990 0%
Ad-daliadau cyfradd uwch neu bontio 1,710 1,910 11%
Arall 1,680 1,690 1%

[Nodyn 1] Er cysondeb â Ffigur 1 uchod, mae’r trafodiadau a arferai fod ar y gyfradd uwch ond sydd bellach wedi’u had-dalu wedi’u cynnwys yn y llinell ‘preswyl cyfradd uwch’.

O gymharu data ar gyfer Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 gyda’r flwyddyn flaenorol:

  • bu cynnydd o 15% yn y nifer o drafodiadau preswyl
  • roedd hwn yn cynnwys cynnydd o 17% yn nifer y trafodiadau prif gyfradd preswyl a chynnydd o 7% mewn trafodiadau cyfradd uwch
  • ni fu cymaint o gynnydd yn y trafodiadau cyfradd uwch o gymharu â’r brif gyfradd, yn bennaf oherwydd i’r gyfradd pryniannau ‘ail gartrefi, tai gwyliau neu lety gwyliau’ aros yn wastad
  • roedd y cynnydd mewn pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ (12%) yn nes at y cyfartaledd preswyl

Er y bu sawl cynnydd mawr o ran trafodiadau preswyl a rhai o’r categorïau bwriad prynwyr trafodiadau cyfradd uwch, ni welwyd yr un cynnydd o ran pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau a llety gwyliau’. Gallai hyn arwain at ddod i gasgliad bod polisïau ynghylch ail gartrefi yn Nghymru wedi lleihau’r nifer o bryniannau.

Er bod hynny’n debygol, nid yw’n data yn caniatáu i ni ddweud hynny’n bendant. Ni allwn ddweud o edrych ar y data bod tai a arferai fod y ail gartrefi bellach wedi’u prynu i fod yn brif anheddau, neu bod pryniannau posibl o ail gartrefi wedi cael eu rhwystro. Gallai un neu’r ddau o’r rhesymau hyn fod yn rhesymau posibl dros y tueddiadau hyn.

Ffigur 2: Trafodiadau ar y gyfradd uwch lle nodwyd ‘landlord prynu-i-osod’ fel bwriad fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 a Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 2: Yn Ngorffennaf 2024 i Fehefin 2025, pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ oedd 17% o’r holl drafodiadau preswyl a wnaed ym Merthyr Tydfil a Blaenau Gwent, y canrannau uchaf o blith yr holl awdurdodau lleol. Y cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan oedd 9%. O gymharu’r flwyddyn diwethaf gyda’r un flaenorol, gwelwyd y newidiadau canran mwyaf yn Wrecsam (gostyngiad o 4 pwynt canran) a Sir Ddinbych (gostyngiad o 2 pwynt canran). Roedd newidiadau’r holl awdurdodau lleol eraill unai yn 1 pwynt canran neu lai. Mae disgwyl i’r canrannau hyn amrywio rhywfaint o flwyddyn i flwyddyn, a hynny oherwydd nad yw’r data yn cynrychioli’r holl stoc prynu-i-osod, dim ond y rhai a brynir yn y flwyddyn dan sylw.

Ffynhonnell: Bwriad prynwyr mewn trafodiadau lle talwyd y Dreth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch [Taenlen Dogfen Agored, 19 Kb]

Ffigur 3: Trafodiadau ar y gyfradd uwch lle nodwyd ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ fel bwriad, fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 a Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 3: Pan gymharwn y pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau’ rhwng Gorffennaf 2024 a Mehefin 2025 gyda rhai’r flwyddyn flaenorol, gwelwyd gostyngiad o 5 pwynt canran yr un yn Ynys Môn, lawr i 13%, ac yng Ngwynedd, i 12%. Roedd y newidiadau yn yr holl Awdurdodau Lleol eraill yn 2 bwynt canran neu lai.

Ffynhonnell: Bwriad prynwyr mewn trafodiadau lle talwyd y Dreth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch [Taenlen Dogfen Agored, 19 Kb]

Er bod Ynys Môn a Gwynedd yn parhau i fod â chanrannau uwch na’r awdurdodau lleol eraill a ddangosir yn ffigwr 3, mae’r gwahaniaeth rhwng y brig a’r gwaelod wedi culhau o 14 pwynt canran yn y flwyddyn flaenorol i 10 pwynt canran yn y flwyddyn ddiweddaraf. 

Y caran ar gyfer Cymru yn y flwyddyn ddiweddaraf oedd 6%, ychydig yn is na’r canran o 7% yn y flwyddyn flaenorol. Er y gostyngiad hwn, mae Tabl 1 yn dangos bod y nifer o ‘ail gartrefi, tai gwyliau neu lety gwyliau’ wedi aros yn eithaf cyson ers y flwyddyn flaenorol.

Mae’r newidiadau canran ar gyfer yr awdurdodau a ddisgrifir uchod yn cyd-fynd â chyflwyniad polisïau ynghylch ail gartrefi yng Nghymru yn effeithio ar ymddygiad prynwyr.

Gwelwyd newidiadau cymharol fawr o ran pwyntiau canran yn nau o’n Parciau Cenedlaethol yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro bu gostyngiad o 10% (i 25%), a gostyngiad o 8% yn Eryri (i 18%), gyda’r ddau ganran yn parhau i fod yn uwch nag unrhyw awdurdod lleol. Fel y dywedwyd yn y cafeat uchod, gallai newidiadau mawr yn y canrannau hyn dros amser ddigwydd oherwydd y nifer isel o drafodiadau yn yr ardaloedd hyn. 

Ffigur 4: Trafodiadau ar y gyfradd uwch wedi’u rhannu yn ôl categori bwriad a’r dreth sy’n ddyledus, fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 [Nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 4: Ar gyfer Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025, roedd 9% o'r holl drafodiadau preswyl yn rhai prynu-i-osod, ac yn gyfrifol am 13% o'r dreth breswyl oedd yn ddyledus (£37 miliwn). Roedd y canran a oedd yn ail gartrefi, tai gwyliau, neu lety gwyliau yn is (6%) na phrynu-i-osod, ond gyda chanran uwch o dreth yn ddyledus (17% neu £46 miliwn). Yn Ngorffennaf 2023 i Fehefin 2024, roedd y gyfran gyfatebol o dreth dyledus ar ail gartrefi, tai gwyliau a llety gwyliau yn 20%. Mae hyn yn adlewyrchiad o werth uwch yr eiddo yn y categori hwn ar gyfartaledd, o gymharu â’r eiddo prynu-i-osod. 

Nodyn 1: Mae'r siart hwn yn eithrio trafodiadau sy'n gysylltiedig â phontio neu ad-daliadau cyfradd uwch. Ni chodir y gyfradd uwch ar drafodiadau lle gwneir ad-daliadau cyfradd uwch, felly nid ydynt yn berthnasol wrth ystyried treth sy'n ddyledus yn y siart hwn. Disgwylir i ad-daliadau cyfradd uwch gael eu hawlio maes o law ar gyfer y trafodiadau hynny lle nodwyd mai pontio oedd y bwriad. Ar 21 Gorffennaf 2025, roedd swm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer yr holl achosion hyn yn £30 miliwn.

Dadansoddiad o’r newid ym mwriad prynwyr

Un o’r cafeatau a nodwn wrth drafod y data ar fwriad prynwyr yw mai cipolwg o’r sefyllfa ar un cyfnod yn unig ydyw, a gall newid yn ôl ymddygiad prynwyr. Gallwn bellach adnabod rhai newidiadau ym mwriad prynwyr, pan fo’r diwygiadau’n digwydd o ran math o drafodiad yn yr achosion a oedd yn rhan o ddadansoddiad y flwyddyn flaenorol. Gallai hyn ddigwydd oherwydd y canlynol:

  • mae’r prynwr wedi dewis defnyddio’r eiddo fel eu prif annedd, ac felly’n hawlio ad-daliad o elfen cyfradd uwch y dreth
  • mae’r prynwr wedi gwneud hawliad i Awdurdod Cyllid Cymru ddiwygio eu ffurflen dreth o fod yn un cyfradd uwch i fod yn drafodiad amhreswyl
  • mae trafodiad na chafodd ei gyflwyno fel un cyfradd uwch wedi’i ddiwygio i fod yn un cyfradd uwch, o ganlyniad i ymchwiliad gan Awdurdod Cyllid Cymru er enghraifft
  • mae trafodiadau cyfradd uwch na chafodd eu cynnwys yn nadansoddiad y flwyddyn flaenorol bellach wedi cael eu cyflwyno i Awdurdod Cyllid Cymru

Gan ddechrau gyda’r data ar gyfer Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024, mae Tabl 2 yn dadansoddi’r diwygiadau a wnaed ers 15 Gorffennaf 2024 (sef pan gyhoeddwyd y data hyn gyntaf yn erthygl y llynedd) a 21 Gorffennaf 2025. Mae’r tabl yn cyfeirio at y ddau gategori cyntaf a restrir uchod dan yr enwau ‘ddim yn drafodiadau cyfradd uwch bellach’ a’r ddau gategori olaf fel ‘trafodiadau cyfradd uwch newydd’. 

Tabl 2: Newidiadau ym mwriad prynwyr (ers 15 Gorffennaf 2024) ar gyfer trafodiadau cyfradd uwch a ddaeth i rym rhwng Gorffennaf 2023 a Mehefin 2024
Categori bwriad cyfraddau uwchData a gyhoeddwyd yn 2024Dim yn drafodiadau cyfradd uwch bellach [Nodyn 1]Trafodiadau cyfradd uwch newydd [Nodyn 2]Fel ar 2025Newid canran
Landlord prynu-i-osod 4,000 -40 70 4,030 1%
Ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau 2,980 -240 20 2,760 -7%
Arall 1,680 -20 50 1,710 2%
Pontio [Nodyn 3] 1,240 -430 10 820  
Ad-daliadau cyfradd uwch [Nodyn 3] 470 720 [k] 1,200  
Cyfanswm trafodiadau cyfraddau uwch a ad-daliadau cyfraddau uwch 10,370 -10 150 10,520 1%

[k] Yn cynrychioli gwerth sy’n talgrynnu i 0, ond sydd heb fod yn 0.

[Nodyn 1] Mae hyn yn cyfrif y nifer o drafodiadau cyfradd uwch sydd naill ai wedi’u diwygio i fod yn drafodiad prif gyfradd (yn bennaf oherwydd ad-daliad neu wall) neu’n un o’r nifer fechan sydd wedi’u diwygio i gyfradd amhreswyl o ganlyniad i weithgareddau cydymffurfio neu liniaru. 

[Nodyn 2] Mae hwn yn cyfrif y nifer o drafodiadau cyfradd uwch newydd a gyflwynir i Awdurdod Cyllid Cymru ar ôl y cyhoeddiad yn 2024 ynghyd â thrafodiadau a allai fod wedi cael eu diwygio o fod ar un gyfradd dreth i fod yn gyfradd uwch o ganlyniad i weithgareddau cydymffurfio.

[Nodyn 3] Ar y cyfan, mae’r adolygiadau mawr a welir yn y categorïau hyn yn cyd-fynd â’r hawliadau am ad-daliad a ddisgwylir.

Mae’r tabl yn dangos bod y newidiadau data ers 15 Gorffennaf 2024 yn tueddu i fod yn rhai bychain. Dyma’r materion difyrraf:

  • o’r 720 ad-daliad cyfradd uwch a wnaed yn y 12 mis hyd 21 Gorffennaf, dim ond 430 oedd wedi nodi cyn hynny eu bod yn bwriadu pontio
  • o’r rhai a oedd yn weddill, roedd y rhan fwyaf (240 achos) wedi nodi cyn hynny eu bod yn bwriadu defnyddio’r eiddo fel ‘ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau’
  • mae llai o ad-daliadau o lawer ar gyfer pryniannau â’r categorïau bwriad ‘landlord prynu-i-osod’ ac ‘arall’ (40 achos o’r cyntaf, ac 20 achos o’r ail)

O ran y 240 achos pan nodwyd mai ‘ail gartref, tai gwyliau neu lety gwyliau’ oedd y bwriad, mae tri achos tebygol dros hyn.

  1. Efallai fod rhai wedi camddehongli’r cwestiwn wrth lenwi’r ffurflen Treth Trafodiadau Tir. Neu, pan nad oedd gwir fwriad y pryniant yn hysbys, efallai fod y categori hwn wedi’i ddewis oherwydd ystyr generig ‘ail gartref’ fel eiddo ychwanegol
  2. Bu newid gwirioneddol ym mwriad pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau a llety gwyliau’ a’u bod bellach yn cael eu defnyddio fel prif anheddau
  3. Hawliwyd rhai ad-daliadau cyfradd uwch mewn camgymeriad

Yn ymarferol, mae’n debyg bod y tri rheswm yn wir. Gan mai niferoedd cymharol fychan o drafodiadau sydd yn y categorïau ‘landlord prynu-i-osod’ ac ‘arall’, tybir mai’r achos cyntaf yw’r prif reswm. Y casgliad tebygol yw bod y categori ‘ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau’ yn cynnwys rhai achosion a ddylai fod wedi’u cofnodi mewn categorïau eraill. Mae hyn yn cryfhau’r canfyddiad mai pryniannau ‘tir prynu-i-osod’ sydd fwyaf cyffredin yn y data, yn enwedig o edrych ar y cwymp yn nghanran y pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau a llety gwyliau’ a welir yn Ffigur 3. 

Er bod 240 achos yn annisgwyl o uchel, bychan yw’r effaith gyffredinol ar yr ystadegau a gyflwynwyd yn gynharach yn yr erthygl. Rydym wedi edrych ar wasgariad yr achosion hyn dros ardaloedd lleol Cymru. Byddai effaith y data a ddangosir yn Ffigur 3 ar unrhyw ardal yn llai nag 1 pwynt canran, ac ni fyddai’n newid prif neges y data dan sylw.

Yn rhifyn y flwyddyn nesaf o’r erthygl hon, byddwn yn gallu ehangu ein dadansoddiad i ystyried blwyddyn ychwanegol o ad-daliadau cyfradd uwch ar gyfer Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 yn ogystal â blwyddyn o ad-daliadau ar gyfer Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025.

Mewn ymateb i’r trydydd rheswm a restrwyd ar gyfer y 240 achos hwn, mae ACC eisoes wedi adolygu ac wedi newid rhai o’i brosesau gweithrediadol sy’n ymwneud â thrin hawliadau am ad-daliadau cyfradd uwch. 

Rhagor o wybodaeth

Mae gwybodaeth am ansawdd ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn egluro sut rydym wedi datrys materion ansawdd gyda data ardaloedd lleol.

Yn Mehefin 2023, cyhoeddwyd Llywodraeth Cymru yr erthygl ystadegol 'Ail gartrefi: Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym?’. Roedd hwn yn cynnwys rhannau o’n herthyglau blaenorol ar amcangyfrif dosraniad trafodiadau Treth Trafodiadau Tir cyfradd uwch. Mae’r dadansoddiad o Dreth Trafodiadau Tir yn erthygl Llywodraeth Cymru bellach wedi’i ddisodli gan yr erthygl hon sy'n dadansoddi bwriad cyfradd uwch.

Eich adborth

Rydym yn ystyried gwneud cynlluniau pellach ar gyfer y data hwn, a byddwn yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr ynghylch ei ddefnyddioldeb. Anfonwch eich adborth i data@acc.llyw.cymru