Ynghylch TermCymru
Casgliad yw TermCymru o’r termau y bydd cyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio yn eu gwaith bob dydd.
Dyma grynodeb o rai o brif nodweddion TermCymru.
Meysydd TermCymru
Yn achos pob term yn TermCymru, cofnodir pwnc, rhan ymadrodd a statws. Yn achos rhai termau, cofnodir hefyd ddiffiniad, brawddeg o gyd-destun a/neu nodiadau defnydd. Bydd hyn yn fwy tebygol yn achos termau mwy diweddar.
Cewch esboniad o’r drefn statysau, ac o holl feysydd TermCymru, ar y tudalennau perthnasol ar y dde.
Diweddaru TermCymru
Ychwanegir termau at gronfa dermau TermCymru yn rheolaidd. Mae’n graddol dyfu yn gronfa helaeth o dermau safonol a chyfoes a ddefnyddir yn y gwahanol feysydd y mae’r Llywodraeth yn ymdrin â hwy.
Caiff TermCymru ei ddiweddaru’n awtomatig unwaith yr wythnos, yn oriau mân bore Gwener.
Cofiwch y gallwch hefyd lawrlwytho cronfa TermCymru yn ei chrynswth o wefan META-SHARE.
Cofnodion eraill yn TermCymru
Yn ogystal â thermau, mae TermCymru hefyd yn cynnwys llawer o gofnodion eraill a all fod o gymorth i gyfieithwyr megis enwau, teitlau, ymadroddion a segmentau.
Cewch esboniad o ystyr y gair ‘term’, a diben safoni termau, ar y dudalen am ystyr ‘term’ a ‘safoni termau’