Ymgynghoriad ar y canllawiau statudol drafft sydd i'w cyhoeddi o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
Hoffem glywed eich barn ar y Canllawiau Statudol drafft sydd i'w cyhoeddi o dan Ran 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan Ran 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (y cyfeirir ati wedyn fel Deddf PGChC). Mae Gweinidogion Cymru yn ceisio adborth gan y sector cyhoeddus yng Nghymru, cyflogwyr, undebau llafur, partneriaid cymdeithasol ac unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb cyn cyhoeddi'r canllawiau statudol.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ar y canllawiau statudol sydd i'w cyhoeddi o dan Ran 3 o Ddeddf PGChC. Bydd yn ofynnol i Awdurdodau Contractio a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf PGChC ystyried y canllawiau hyn.
Nid ydym yn ceisio barn ar fwriad y polisi am fod bwriad y polisi wedi'i gadarnhau ac wedi'i seilio yn y Ddeddf. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ynghylch a yw'r canllawiau statudol drafft yn adlewyrchu bwriad y polisi.
Gofynnir i ymatebwyr nodi a ydynt yn cytuno â'r cwestiynau a ofynnir o dan bob adran. Os bydd ymatebwyr yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf, cânt gyfle i esbonio eu rhesymau. Dylai sylwadau ganolbwyntio ar a yw bwriad y polisi'n cael ei adlewyrchu yn briodol yn y canllawiau. Yn ogystal, mae tri chwestiwn yn ymwneud â’r Gymraeg.
Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y canllawiau ymlaen llaw wedi ein galluogi i gwtogi'r cyfnod ymgynghori, gan ei leihau o 12 wythnos i wyth wythnos. Mae'r dull hwn yn sicrhau y gellir cyhoeddi'r canllawiau statudol cyn cychwyn Rhan 3 o Ddeddf PGChC maes o law. Yn ei dro, bydd hyn yn galluogi Awdurdodau Contractio i roi gofynion Rhan 3 ar waith yn llawn o'r dyddiad y deuant i rym, gan sicrhau manteision iddynt a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Y Cefndir
Mae Adran 43 o Ddeddf PGChC yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch gweithredu Rhan 3: Caffael Cymdeithasol Gyfrifol: Gall y canllawiau hyn wneud darpariaeth am y materion canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- bodloni’r gofyniad yn adran 24(1) i gynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol
- gosod amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol
- cymryd pob cam rhesymol i fodloni amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol
- cymalau gweithiau cyhoeddus Cymdeithasol
- y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu
- cymalau gweithlu cyhoeddus Cymdeithasol
- ymgynghori wrth lunio strategaeth gaffael
- ffurf a chynnwys strategaethau caffael ac adroddiadau caffael blynyddol
- y broses a ddefnyddir gan awdurdod contractio i gymeradwyo ei strategaeth gaffael
- strategaethau caffael ar y cyd.
Rhannwyd canllawiau sy'n ymwneud ag (e) ac (f) ar y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a'r gweithlu cymdeithasol a'r cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol ar 10 Medi 2025 fel rhan o ymgynghoriad (Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu drafft) a ddaeth i ben ar 3 Rhagfyr 2025. Rhannwyd canllawiau sy'n ymwneud â (d) uchod, ar gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol, ar 24 Tachwedd 2025 fel rhan o (Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol drafft) a fydd yn cau ar 19 Ionawr 2026. Nid yw'r adrannau hyn o ganllawiau, felly, wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn.
Canllawiau statudol drafft
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys adrannau o ganllawiau statudol sy'n ymdrin â'r pynciau canlynol:
- caffael cymdeithasol gyfrifol
- gosod a chyflawni amcanion caffael cyfrifol cymdeithasol
- hysbysiadau – cymalau gweithiau a'r gweithlu
- strategaethau caffael
- adroddiadau blynyddol ar gaffael cymdeithasol gyfrifol
- cofrestrau contractau
- ymchwiliadau caffael
Camau nesaf
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y fersiwn derfynol o'r canllawiau statudol yn cael ei chyhoeddi gan Weinidogion Cymru.
Cwestiynau
Canllawiau statudol ar gaffael cymdeithasol gyfrifol
Mae'r adran hon o ganllawiau yn cyfeirio at adran 24 o'r Ddeddf, a'r diffiniadau yn adrannau 21 i 23. Mae'n gwneud darpariaeth ynghylch adran 23, sy'n bwriadu sicrhau bod awdurdodau contractio'n cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth geisio cyflawni'r nodau llesiant ym mhob agwedd ar eu caffael cyhoeddus. Mae'n esbonio sut y gall awdurdodau contractio wneud hyn mewn ffordd gymesur ac yn darparu enghreifftiau o sut y gellid cyflawni hyn drwy wahanol gamau proses gaffael.
1a: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod bwriad y polisi ar gyfer Caffael Cymdeithasol Gyfrifol yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y canllawiau statudol?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
1b: Os ydych yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â Chwestiwn 1a, esboniwch pam nad ydych yn credu bod y canllawiau statudol yn bodloni'r gofyniad.
Y canllawiau statudol ar osod a bodloni'r amcanion ar gyfer caffael cymdeithasol gyfrifol
Mae'r adran hon o ganllawiau'n cyfeirio at adran 24 o'r Ddeddf, sy'n bwriadu hyrwyddo caffael cymdeithasol gyfrifol drwy wneud darpariaeth ynghylch awdurdodau contractio yn gosod a chyhoeddi amcanion ar gyfer caffael cymdeithasol gyfrifol. Mae'n esbonio sut y dylid drafftio'r amcanion hyn a sut y gall awdurdodau contractio gymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r rhain yn eu caffaeliadau rhagnodedig, gan gynnwys yng nghyd-destun caffael cydweithredol.
2a: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod bwriad y polisi ar gyfer Gosod a Chyflawni Amcanion ar gyfer Caffael Cymdeithasol Gyfrifol yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y canllawiau statudol?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
2b: Os ydych yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â Chwestiwn 2a, esboniwch pam nad ydych yn credu bod y canllawiau statudol yn bodloni'r gofyniad.
Notifications – Works and Workforce Clauses statutory guidance
Mae'r adran hon o ganllawiau'n ategu canllawiau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad sy'n ymwneud â'r cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol a'r cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol a'r Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Cod Gweithlu. Mae adrannau 29 a 30 ac adrannau 35 a 36 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio hysbysu Gweinidogion Cymru os nad ydynt yn bwriadu cynnwys, neu nad ydynt wedi cynnwys cymalau gweithiau neu gymalau gweithlu mewn contract perthnasol. Mae'r canllawiau yn bwriadu cydbwyso'r angen i awdurdodau contractio gynnwys y cymalau lle bynnag y bo modd, gan gydnabod na fydd hyn yn bosibl neu'n gymesur mewn rhai amgylchiadau. Mae'n gwneud hyn drwy wneud darpariaeth ynghylch yr hyn y mae'n rhaid i awdurdodau contractio ei wneud yn ymarferol, a sut y bydd Gweinidogion Cymru yn ymateb ac yn cyhoeddi crynodeb o bob hysbysiad.
3a: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod bwriad y polisi ar gyfer Hysbysiadau yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y canllawiau statudol?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
3b: Os ydych yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â Chwestiwn 3a, esboniwch pam nad ydych yn credu bod y canllawiau statudol yn bodloni'r gofyniad.
Canllawiau statudol ar strategaethau caffael
Mae'r adran hon o ganllawiau yn cyfeirio at adran 38 o'r Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio, naill ai'n unigol neu ar y cyd, baratoi a chyhoeddi strategaeth gaffael. Mae'n bwriadu cynyddu tryloywder drwy wneud darpariaeth i awdurdodau contractio gyhoeddi manylion ynghylch y ffordd maent yn bwriadu cynnal caffael mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol; y camau y byddant yn eu cymryd i gyflawni eu hamcanion caffael; a sut y byddant yn sicrhau bod taliadau'n cael eu gwneud yn brydlon. Mae'n nodi sut y dylai awdurdodau fodloni'r gofyniad cyhoeddi hwn, gan gynnwys ymgynghori a cheisio cytundeb ar y strategaeth gaffael ac unrhyw ddiwygiadau dilynol.
4a: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod bwriad y polisi ar gyfer Strategaethau Caffael yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y canllawiau statudol?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
4b: Os ydych yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â Chwestiwn 4a, esboniwch pam nad ydych yn credu bod y canllawiau statudol yn bodloni'r gofyniad.
Canllawiau statudol ar adroddiadau blynyddol ar gaffael cymdeithasol gyfrifol
Mae'r adran hon o ganllawiau'n cyfeirio at adran 39 o'r Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio sydd wedi ymgymryd ag unrhyw gaffaeliadau rhagnodedig yn ystod y flwyddyn gyhoeddi adroddiad blynyddol. Mae'n bwriadu gwella tryloywder caffael cyhoeddus yng Nghymru drwy wneud darpariaeth ynghylch nodi, bob blwyddyn, sut mae awdurdodau contractio wedi cyflawni eu hamcanion cyhoeddedig; darparu crynodeb o'r caffael y maent yn bwriadu ei wneud dros y ddwy flynedd ganlynol; ac adrodd ar ffigurau a gyfrifwyd o nodweddion penodol y cyflenwyr y maent wedi dyfarnu contractau iddynt yn ystod y flwyddyn. Mae'r canllawiau hyn hefyd yn annog awdurdodau contractio i gynnwys gwybodaeth, astudiaethau achos a data arall sy'n dangos sut maent wedi cyflawni eu dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol yn ystod y flwyddyn.
5a: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod bwriad y polisi ar gyfer Adroddiadau Blynyddol ar Gaffael Cymdeithasol Gyfrifol yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y canllawiau statudol?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
5b: Os ydych yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â Chwestiwn 5a, esboniwch pam nad ydych yn credu bod y canllawiau statudol yn bodloni'r gofyniad.
Canllawiau statudol ar gofrestrau contractau
Mae'r adran hon o ganllawiau yn cyfeirio at adran 40 o'r Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi cofrestr contractau. Mae'n bwriadu cynyddu tryloywder contractau pob awdurdod drwy wneud darpariaeth ynghylch y gofrestr contractau, gan gynnwys defnyddio'r swyddogaeth cofrestrau contractau yn GwerthwchiGymru, gan sicrhau bod y manylion yn cael eu cynnal a darparu dolen i hyn ar wefan pob awdurdod.
6a: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod bwriad y polisi ar gyfer Cofrestr Contractau yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y canllawiau statudol?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
6b: Os ydych yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â Chwestiwn 6a, esboniwch pam nad ydych yn credu bod y canllawiau statudol yn bodloni'r gofyniad.
Canllawiau statudol ar ymchwiliadau caffael
Mae'r adran hon o'r canllawiau yn cyfeirio at adran 41 o'r Ddeddf, sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ymchwilio i sut mae awdurdodau contractio'n cynnal eu gweithrediadau caffael. Mae'r canllawiau yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ymchwiliadau ac yn bwriadu sicrhau bod awdurdodau contractio'n cydymffurfio â'u dyletswyddau caffael, a chynyddu tryloywder mewn perthynas â Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad sy'n crynhoi canlyniadau ymchwiliad.
7a: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod bwriad y polisi ar gyfer Ymchwiliadau Caffael yn cael ei adlewyrchu'n briodol yn y canllawiau statudol?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
7b: Os ydych yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â Chwestiwn 7a, esboniwch pam nad ydych yn credu bod y canllawiau statudol yn bodloni'r gofyniad.
Y Gymraeg
Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd wrth ymgynghori i ofyn am eich barn ar effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg yn unol â Safonau Llunio Polisïau.
8a: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau statudol enghreifftiol ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
A ydych yn credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?
8b: Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y canllawiau statudol enghreifftiol er mwyn gwneud y canlynol:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
9: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23.55, 10 Chwefror 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost at: YmgynghoriadCaffaelCymdeithasolGyfrifolCyhoeddus@llyw.cymru
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Gwasanaethau ac Arolygiaethau Corfforaethol
Yr Is-adran Caffael Masnachol
Y Tîm Deddfwriaeth Caffael
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'i weld
- i ofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Cathays Park
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn:
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch aton ni yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny a gyhoeddir yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG51731
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
