Neidio i'r prif gynnwy

Sut y mae Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 yn gymwys i drefniant gwasanaethau iechyd o dan y gyfundrefn dethol darparwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Awst 2026

Crynodeb gweithredol

Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024

Mae Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 (“Deddf 2024”) yn darparu’r gallu i gyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

Mae’r Gyfundrefn Dethol Darparwyr newydd i Gymru, a nodir yn Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 (“y Rheoliadau”), yn disodli’r gyfundrefn gaffael bresennol wrth gaffael gwasanaethau iechyd annibynnol a ddarperir ar ran y GIG yng Nghymru.

Drwy’r Rheoliadau bydd caffael gwasanaethau iechyd penodol, pan gânt eu caffael gan awdurdodau perthnasol, yn cael ei dynnu o gwmpas Deddf Caffael 2023 (“Deddf 2023”). Mae Deddf 2023 yn nodi’r disgwyliad y defnyddir tendro cystadleuol i ddyfarnu contractau.

Nod y Rheoliadau yw rhoi mwy o hyblygrwydd i’r awdurdodau perthnasol y maent yn gymwys iddynt wrth ddethol darparwyr ar gyfer gwasanaethau iechyd. O dan y Rheoliadau, mae tendro cystadleuol yn un offeryn i awdurdodau perthnasol ei ddefnyddio pan fydd o fudd, ochr yn ochr â llwybrau eraill a allai fod yn fwy cymesur, ac sy’n galluogi datblygu partneriaethau sefydlog a darparu gofal cydweithredol yn well. Mae’r Gyfundrefn yn dal i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol ystyried gwerth am arian fel maen prawf pwysig, ac i fod yn dryloyw, yn deg ac yn gymesur yn eu proses gaffael.

Mae’r Rheoliadau wedi’u gwneud o dan adran 10A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“deddf 2006”) ac adran 120A(1) o ddeddf 2023.

Mae’r canllawiau statudol hyn yn cyd-fynd â’r rheoliadau ac wedi'u llunio i gynorthwyo sefydliadau i ddeall a dehongli egwyddorion gweithredol Cyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru a dylid eu darllen ar y cyd â’r Rheoliadau. Nid yw’r ddogfen hon yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol neu gyngor proffesiynol arall; dylid ceisio cyngor annibynnol fel sy’n briodol.

Pam cyflwyno’r Rheoliadau ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd?

Yn unol â bwriad Deddf 2024, nod y Rheoliadau yw cyflwyno’r canlynol:

  • proses hyblyg a chymesur ar gyfer dethol darparwyr gwasanaethau iechyd (fel y gellir gwneud pob penderfyniad gyda’r bwriad o sicrhau anghenion y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau, gwella ansawdd y gwasanaethau, a gwella’r effeithlonrwydd wrth ddarparu’r gwasanaethau)
  • y gallu i gydweithio mwy ar draws y system, gan sicrhau bod yr holl benderfyniadau ynghylch sut y mae gwasanaethau iechyd yn cael eu trefnu yn cael eu gwneud yn dryloyw
  • cyfleoedd i leihau biwrocratiaeth a chostau sy’n gysylltiedig â’r gyfundrefn bresennol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyd-greu’r Rheoliadau gyda’r GIG yng Nghymru, gan ddefnyddio arbenigedd gweithwyr comisiynu a chaffael proffesiynol o fewn y GIG ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ar y polisi, gan ennyn cefnogaeth gref (gan y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad) ar draws cyrff GIG Cymru a llywodraeth leol.

Sut y mae’r Rheoliadau’n gweithio?

Mae’r canllawiau statudol hyn yn nodi sut y dylai’r Rheoliadau gael eu mabwysiadu gan yr awdurdodau perthnasol y maent yn gymwys iddynt. Rhaid i’r awdurdodau perthnasol canlynol roi sylw i’r canllawiau hyn wrth gaffael gwasanaethau iechyd ar ran y GIG yng Nghymru:

  • cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru
  • byrddau iechyd lleol
  • ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • awdurdodau iechyd arbennig

Mae’r Rheoliadau’n gymwys i drefnu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau iechyd y cyhoedd gan awdurdodau perthnasol. Nid yw’r Rheoliadau’n gymwys i gaffael nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn rhai iechyd (megis meddyginiaethau, offer meddygol, glanhau, arlwyo, gwasanaethau ymgynghori busnes a gofal cymdeithasol), oni bai eu bod wedi’u trefnu fel rhan o gaffaeliad cymysg. Mae’r hyn sy’n gyfystyr â chaffaeliad cymysg wedi’i nodi yn y Rheoliadau ac fe’i hesbonnir ymhellach yn y canllawiau hyn.

Gall awdurdodau perthnasol ddilyn 3 proses gaffael wahanol i ddyfarnu contractau ar gyfer gwasanaethau iechyd o dan y rheoliadau:

  • prosesau dyfarnu uniongyrchol (proses dyfarniad uniongyrchol 1 a phroses dyfarniad uniongyrchol 2)
  • y broses darparwr mwyaf addas
  • y broses gystadleuol

Y prosesau dyfarnu uniongyrchol

Mae’r rhain yn golygu dyfarnu contractau i ddarparwyr pan nad oes fawr o reswm, os o gwbl, i geisio newid o’r darparwr presennol neu i asesu darparwyr yn erbyn ei gilydd, oherwydd:

  • mai’r darparwr presennol yw’r unig un sy’n gallu darparu’r gwasanaethau iechyd (proses dyfarniad uniongyrchol 1)
  • bod y darparwr presennol yn bodloni ei gontract presennol, ei fod yn debygol o fodloni’r contract newydd i safon ddigonol, ac nad yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol (proses dyfarniad uniongyrchol 2)

Mae 2 broses dyfarnu uniongyrchol bosibl (1 a 2). Mae rhagor o fanylion isod.

Rhaid defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 1 pan fydd pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • mae’r gwasanaethau iechyd y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â nhw yn cael eu darparu eisoes gan ddarparwr
  • mae’r awdurdod perthnasol wedi’i fodloni mai dim ond y darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) presennol a all ddarparu’r gwasanaethau iechyd y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â nhw oherwydd natur y gwasanaethau iechyd

Ni chaniateir defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 1 i gwblhau cytundeb fframwaith.

Caniateir defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2 pan fydd pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 1
  • mae cyfnod contract presennol ar fin dod i ben, ac mae’r awdurdod perthnasol yn cynnig contract newydd i ddisodli’r contract presennol ar ddiwedd ei gyfnod
  • nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol
  • mae’r awdurdod perthnasol o’r farn bod y darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) presennol yn bodloni’r contract presennol ac yn debygol o fodloni’r contract arfaethedig i safon ddigonol

Ni chaniateir defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2 i gwblhau cytundeb fframwaith.

Y broses darparwr mwyaf addas

Mae hyn yn golygu dyfarnu contract i ddarparwyr heb gynnal proses gystadleuol, gan fod yr awdurdod perthnasol yn gallu nodi’r darparwr mwyaf addas. 

Gellir defnyddio’r broses gaffael hon pan fydd pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 1
  • ni all yr awdurdod perthnasol ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 2 neu nid yw’n dymuno gwneud hynny
  • mae’r awdurdod perthnasol o’r farn, gan ystyried darparwyr tebygol a’r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael i’r awdurdod perthnasol ar y pryd, ei bod yn debygol y bydd yn gallu nodi’r darparwr mwyaf addas (heb gynnal proses gystadleuol)

Ni chaniateir defnyddio’r broses darparwr mwyaf addas i gwblhau cytundeb fframwaith. 

Y broses gystadleuol

Mae hyn yn golygu cynnal proses gystadleuol i ddyfarnu contract. Rhaid defnyddio’r broses gaffael hon pan fydd pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 1
  • nid yw’r awdurdod perthnasol yn gallu neu’n dymuno dilyn proses dyfarniad uniongyrchol 2 ac nid yw’n gallu neu’n dymuno dilyn y broses darparwr mwyaf addas

Rhaid defnyddio’r broses gystadleuol os yw’r awdurdod perthnasol yn dymuno cwblhau cytundeb fframwaith.

Meini prawf allweddol

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried 5 maen prawf allweddol wrth gymhwyso proses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas neu’r broses gystadleuol. Sef:

  • ansawdd
  • gwerth
  • cydweithio a chynaliadwyedd gwasanaethau
  • gwella mynediad a lleihau anghydraddoldebau iechyd
  • cyfrifoldeb cymdeithasol

Sut y mae’r Rheoliadau’n cynorthwyo prosesau caffael teg a thryloyw?

Mae’r hyblygrwydd o ran prosesau caffael a roddir i awdurdodau perthnasol o dan y Rheoliadau yn seiliedig ar ofynion tryloywder cryf. Mae’r gofynion hyn, sy’n galluogi craffu’n briodol ar benderfyniadau ac yn sicrhau atebolrwydd amdanynt, yn cynnwys:

  • o dan yr holl amgylchiadau, mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol gadw cofnodion o’u penderfyniadau a chyhoeddi hysbysiadau yn cadarnhau canlyniad eu proses gaffael
  • wrth ddilyn y broses darparwr mwyaf addas neu’r broses gystadleuol, rhaid i awdurdodau perthnasol nodi’n glir ymlaen llaw eu bwriadau i ddefnyddio’r prosesau hyn
  • wrth ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas neu’r broses gystadleuol, rhaid i’r awdurdod perthnasol:
    • gynnal cofnod o benderfyniadau ar bwysigrwydd cymharol pob un o’r meini prawf allweddol, a sut yr aseswyd darparwyr yn erbyn y meini prawf allweddol
    • cael cyfnod segur pan ellir cyflwyno sylwadau ac ymateb i unrhyw sylwadau a ddaw i law cyn cadarnhau ei benderfyniad a dyfarnu contract i’r darparwr dethol

Os bydd yr awdurdod perthnasol yn canfod achos neu achosion o ddiffyg cydymffurfio, rhaid iddo roi camau ar waith i fynd i'r afael â'r mater ac i wella ymlyniad â'r Rheoliadau.

Sut y mae sefydliadau’n defnyddio’r Rheoliadau?

Mae’r canllawiau statudol hyn yn rhoi manylion ynghylch sut y disgwylir i sefydliadau fabwysiadu’r Rheoliadau i wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd, fel eu bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynhyrchion gweithredu y caiff sefydliadau eu defnyddio i’w helpu i gymhwyso’r Gyfundrefn.

Mae’r Rheoliadau’n rhoi pwyslais ar awdurdodau perthnasol yn ymddwyn mewn ffordd dryloyw, deg a chymesur wrth wneud eu trefniadau gyda darparwyr (ar draws y sectorau annibynnol a gwirfoddol). Bydd mabwysiadu’r ymddygiadau hyn yn galluogi gweithredu’r Rheoliadau yn llwyddiannus ac, yn ei dro, yn cyflawni bwriad Deddf 2024 i wella canlyniadau cleifion drwy gael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen o’r broses o weithio gyda darparwyr iechyd annibynnol ac annog cydweithio.

Adran 1: cyflwyniad

Cyflwyniad

Diwygiodd Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 (“Deddf 2024”) Ddeddf Caffael 2023 (“Deddf 2023”) a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”) i roi newidiadau deddfwriaethol ar waith i alluogi Gweinidogion Cymru i ddatgymhwyso darpariaethau Deddf 2023 mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae’r pŵer a fewnosodwyd gan Ddeddf 2024 yn Neddf 2006 yn galluogi i ddarpariaeth amgen gael ei gwneud, gan ddefnyddio dull system gyfan sy’n gydnaws â gwasanaethau iechyd yn darparu’r un gofal o ansawdd uchel, ac â chyflawni canlyniadau iechyd mwy cyfartal i bawb yng Nghymru.

Fel rhan o’r newidiadau deddfwriaethol hyn, mae adran 120A o Ddeddf 2023 yn darparu pŵer i ddatgymhwyso’r gyfundrefn gaffael mewn perthynas â chaffael gan y GIG yng Nghymru. Mae adran 10A o Ddeddf 2006 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth (amgen) benodol ynghylch caffael gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 (“y Rheoliadau”) a wneir o dan adran 10A o Ddeddf 2006 ac adran 120A(1) o Ddeddf 2023 yn cyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer trefnu caffael y gwasanaethau iechyd hynny ar gyfer awdurdodau perthnasol – y Gyfundrefn Dethol Darparwyr (“y Gyfundrefn”). Felly, bydd caffaeliad gwasanaethau iechyd perthnasol a drefnir o dan y Rheoliadau hyn yn parhau i fod y tu allan i gwmpas Deddf 2023.

Oherwydd ffocws ar gystadleuaeth, ystyrir bod Deddf 2023 yn creu rhwystrau i gydweithio ac yn arwain at brosesau caffael cymhleth. Felly, drwy’r rheoliadau, bydd caffael gwasanaethau iechyd perthnasol yn cael ei dynnu o gwmpas deddf 2023.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyd-ddatblygu’r Gyfundrefn drwy ddefnyddio arbenigedd gweithwyr comisiynu a chaffael proffesiynol sy’n gweithio mewn awdurdodau perthnasol. Yn ogystal, fe wnaeth y Llywodraeth ymgynghori ar egwyddorion gweithredol y rheoliadau arfaethedig fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2023, a daeth 34 o ymatebion i law gan ystod o randdeiliaid. Bu’r ymatebion i’r ymarfer ymgynghori o gymorth i lywio datblygiad ein polisi, y rheoliadau a’r canllawiau statudol.

Croesawodd yr ymatebwyr yr eglurder y byddai’r gyfundrefn newydd yn ei roi i gomisiynwyr a darparwyr: gan symud i ffwrdd oddi wrth gystadleuaeth, rhoi mwy o ffocws ar gydweithio, a chael gwared ar fiwrocratiaeth, yn ogystal â rhoi mwy o hyblygrwydd, cymesuredd a chysondeb, gan hefyd wneud prosesau’n eglur a helpu i wneud prosesau caffael yn dryloyw.

O dan y Gyfundrefn, disgwylir i awdurdodau perthnasol:

  • weithredu er budd cleifion ac unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau, gwella ansawdd y gwasanaethau a gwella effeithlonrwydd wrth ddarparu’r gwasanaethau
  • sicrhau bod penderfyniadau ynghylch pa sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd yn gadarn ac yn amddiffynadwy, a bod gwrthdaro buddiannau yn cael ei reoli’n briodol
  • mabwysiadu proses dryloyw, deg a chymesur wrth ddilyn y Rheoliadau

Mae’r Gyfundrefn yn ei gwneud yn bosibl parhau â’r trefniadau presennol ar gyfer darparu gwasanaethau os yw’r trefniadau hynny’n gweithio’n dda ac na fyddai chwilio am ddarparwr arall yn rhoi gwerth i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Pan fo angen ystyried newid trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau, mae’n darparu proses deg, dryloyw a chymesur ar gyfer prosesau caffael, sy’n cynnwys yr opsiwn o ddefnyddio tendro cystadleuol.

Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan adran 10A (6) o Ddeddf 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch cydymffurfio â’r Rheoliadau.

Mae’r canllawiau hyn yn nodi sut y mae’n rhaid i’r Rheoliadau gael eu dilyn gan yr awdurdodau perthnasol y maent yn gymwys iddynt:

  • cyngor sir
  • cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru
  • bwrdd iechyd lleol
  • ymddiriedolaeth y GIG
  • awdurdod iechyd arbennig yng Nghymru

Mae hefyd yn manylu ar gwmpas y Rheoliadau a sut y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol eu cymhwyso wrth ystyried meini prawf allweddol a gofynion tryloywder. Mae’r canllawiau hefyd yn amlinellu sut y disgwylir i awdurdodau perthnasol reoli gwrthdaro buddiannau.

Rhaid i awdurdodau perthnasol gymhwyso’r Rheoliadau a rhoi sylw i’r canllawiau hyn, a disgwylir iddynt eu darllen ochr yn ochr â’r atodiadau, sy’n rhoi rhagor o fanylion am y Rheoliadau a’r trefniadau pontio sydd ar waith ar gyfer yr adeg pan ddaw’r Rheoliadau i rym.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i gyd-fynd â’r canllawiau hyn, y gall sefydliadau ei ddefnyddio wrth gymhwyso’r Gyfundrefn i drefnu i ddarparu gwasanaethau iechyd.

Wrth arfer swyddogaethau i gydymffurfio â’r Rheoliadau, rhaid i awdurdodau perthnasol barhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill, lle bo hynny’n gymwys.

Nid yw’r canllawiau hyn yn nodi sut i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill.

Mae unrhyw gyfeiriad yn y canllawiau statudol hyn at ddeddfwriaeth neu ddarpariaeth ddeddfwriaethol yn gyfeiriad ati fel y’i diwygir, fel y’i hestynnir neu fel y’i hailddeddfir o bryd i’w gilydd. Cynghorir awdurdodau perthnasol i fod yn ymwybodol hefyd o ofynion a dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi mewn deddfwriaeth. Er enghraifft, disgwylir i awdurdodau perthnasol lynu wrth ofynion allyriadau sero net a chyllideb garbon Llywodraeth Cymru, Cymru Iachach, Nodiadau Polisi Caffael Cymru a Datganiad Polisi Caffael Cymru o ran caffael nwyddau a gwasanaethau’r GIG (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr).

Adran 2: cwmpas y rheoliadau

Nodir y cwmpas yn Rheoliad 3(1) o Reoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025.

Diffinnir awdurdodau perthnasol yn adran 10A(9) o Ddeddf 2006.

Diffinnir y gwasanaeth iechyd yn adran 206(1) o Ddeddf 2006. Diffinnir gwasanaethau iechyd yn adran 10A(1)(a) o ddeddf 2006. Diffinnir codau’r eirfa gaffael gyffredin (GGG) sydd i’w defnyddio o dan y Rheoliadau yn Atodlen 1.

I ba sefydliadau y mae’r canllawiau hyn yn gymwys?

Mae’r canllawiau hyn yn gymwys i’r awdurdodau perthnasol canlynol yng Nghymru y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r Rheoliadau o dan adran 10A(9) o Ddeddf 2006:

  • cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru
  • byrddau iechyd lleol
  • ymddiriedolaethau’r GIG
  • awdurdodau iechyd arbennig

Pryd y bydd y gyfundrefn yn gymwys?

Mae’r Rheoliadau’n pennu bod y Gyfundrefn yn gymwys pan fydd awdurdodau perthnasol yn caffael gwasanaethau iechyd perthnasol at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau ynghylch caffaeliad cymysg).

Diffinnir y gwasanaeth iechyd (“health service”) yn adran 206(1) o Ddeddf 2006. Mae’r diffiniad hwn yn parhau yn adran 1(1) o Ddeddf 2006 ac o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006. Mae adran 1(1) o Ddeddf 2006 yn cyfeirio at “health service” fel:

[…] the promotion in Wales of a comprehensive health service designed to secure improvement— 
(a) in the physical and mental health of the people of Wales, and 
(b) in the prevention, diagnosis and treatment of illness.

Mae’r diffiniad hwn yn cwmpasu gwasanaethau iechyd y GIG a’r gwasanaeth iechyd cynhwysfawr a ddarperir wrth gyflawni swyddogaethau iechyd y cyhoedd Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf 2006.

Yn hynny o beth, nid yw’r gwasanaethau iechyd sy’n ddarostyngedig i’r Gyfundrefn hon ond yn cynnwys y gwasanaethau (boed yn driniaeth, yn ddiagnosis neu’n atal cyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol) a ddarperir i unigolion (hynny yw cleifion neu ddefnyddwyr gwasanaethau) neu grwpiau o unigolion (er enghraifft pan fo triniaeth yn cael ei darparu i grŵp megis ar ffurf therapi grŵp).

Dim ond gwasanaethau iechyd perthnasol a gwmpesir gan y rheoliadau, ac maent wedi’u diffinio gan godau’r eirfa gaffael gyffredin a nodir yn atodlen 1 (a restrir yn Atodiad A).

I grynhoi, mae gwasanaeth o fewn cwmpas pan fydd awdurdod perthnasol yn comisiynu neu’n is-gontractio gwasanaeth:

  • a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd, boed hynny drwy’r GIG neu drwy wasanaethau iechyd y cyhoedd yng Nghymru
  • sy’n cynnwys darparu gwasanaethau iechyd i unigolion neu grwpiau o unigolion
  • sy’n perthyn i un neu fwy o’r codau GGG penodedig

Mae gwasanaethau iechyd o fewn cwmpas yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr yn y sectorau'r Mentrau Cymdeithasol, Cymunedol a Wirfoddorol (VCSE) a’r sector annibynnol. Yn fras, mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu trefnu gan yr awdurdod perthnasol megis ysbyty, cymuned, iechyd meddwl, gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal lliniarol, ambiwlans a gwasanaethau cludo cleifion y mae’r darparwr angen cofrestriad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) neu Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar eu cyfer, yn ogystal â gwasanaethau a drefnir gan awdurdodau perthnasol sy’n canolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau, iechyd rhywiol ac atgenhedlu ac ymweliadau iechyd.

Mae’r diffiniad hwn yn gwahardd yn fwriadol wasanaethau ‘nad ydynt yn wasanaethau iechyd’ neu wasanaethau ‘cyfagos ag iechyd’ rhag cael eu trefnu odan y Gyfundrefn. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na chaniateir trefnu ymgynghoriaeth fusnes, arlwyo, gwasanaethau gweinyddol, gwasanaethau cludo cleifion nad oes angen cofrestriad AGIC neu AGC ar eu cyfer, na gwasanaethau eraill a allai gefnogi seilwaith y gwasanaeth iechyd, ond nad ydynt yn darparu gwasanaethau iechyd yn uniongyrchol i bobl, o dan y Gyfundrefn (ac eithrio pan fyddant yn rhan ddilys o gaffaeliad cymysg).

Rhaid i wasanaethau iechyd sydd o fewn cwmpas y Gyfundrefn berthyn i un neu fwy o godau’r Eirfa Gaffael Gyffredin (GGG), a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau. Mae Atodiad A yn rhestru’r codau GGG sy’n cyfateb i’r gwasanaethau a gwmpesir gan y Gyfundrefn hon a rhaid i ymarferwyr caffael ddefnyddio’r rhain i gefnogi penderfyniadau ynghylch cwmpas. Rhaid i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r cod(au) GGG mwyaf perthnasol ar gyfer y gwasanaeth iechyd y maent yn ei gaffael.

Pan nad oes cod manylach ar gael, disgwylir i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r cod cyffredinol ar gyfer “gwasanaethau iechyd”.

Pa sefydliadau na chaiff ddefnyddio’r Gyfundrefn?

Dim ond sefydliadau a ddiffinnir fel awdurdodau perthnasol yn adran 10A(9) o Ddeddf 2006 a gaiff ddefnyddio’r Gyfundrefn hon. O’r herwydd, ni chaiff Gweinidogion Cymru ei defnyddio i drefnu gwasanaethau iechyd yn uniongyrchol.

Fodd bynnag, mae’n werth nodi y bydd cyrff sy’n gweithredu o dan fwrdd iechyd lleol, ymddiriedolaeth GIG, cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru neu awdurdod iechyd arbennig yn dal i gael eu hystyried yn awdurdod perthnasol. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru sy’n gyd-bwyllgor o’r saith bwrdd iechyd sy’n gweithredu ar y cyd ar eu rhan.

Mae’n bosibl y bydd Gweinidogion Cymru yn comisiynu gwasanaethau iechyd gan awdurdodau perthnasol (hynny yw cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig). Mewn achosion o’r fath, os yw’r awdurdod perthnasol hwnnw wedyn yn is-gontractio ymhellach y gwasanaethau hyn sydd o fewn cwmpas y Rheoliadau, rhaid i’r awdurdod perthnasol hwnnw ddilyn y Rheoliadau wrth isgontractio.

Beth na chaniateir ei drefnu o dan y gyfundrefn?

Mae trefniadau na fyddent yn cael eu hystyried yn gaffael, gan nad ydynt yn bwriadu creu rhwymedigaethau cyfreithiol, yn annhebygol o ddod o dan gwmpas deddfwriaeth caffael. Er enghraifft, trefniadau a ystyrir yn ‘gontractau’r GIG’ (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel contractau’r GIG i’r GIG) fel y’u diffinnir o dan adran 7 o Ddeddf 2006, neu wasanaethau fferyllol cymunedol a ddarperir gan drefniadau a wneir o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.

Hefyd, rhaid i nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau iechyd, sydd o fewn cwmpas y Gyfundrefn, gael eu trefnu o dan y rheolau sy’n llywodraethu caffael cyhoeddus ehangach oni bai eu bod yn dod o fewn y diffiniad o gaffaeliad cymysg a nodir yn y gyfundrefn.

Dyma enghreifftiau o gaffaeliadau nad ydynt o fewn cwmpas y gyfundrefn hon:

  • nwyddau (er enghraifft meddyginiaethau, offer meddygol)
  • gwasanaethau gofal cymdeithasol
  • gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau iechyd neu wasanaethau cyfagos ag iechyd (er enghraifft gwaith cyfalaf, ymgynghoriaeth fusnes, arlwyo, gwasanaethau gweinyddol ysbytai, gwasanaethau dillad gwely ysbytai neu ymgyrchoedd marchnata iechyd y cyhoedd) nad ydynt yn darparu gwasanaethau iechyd i unigolyn

Ystyriaethau sector-benodol

Gwasanaethau meddygol, deintyddol, fferyllol ac offthalmig sylfaenol

Mae rhai gwasanaethau gofal sylfaenol o fewn cwmpas y gyfundrefn, gan gynnwys gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol[troednodyn 1] a gwasanaethau gofal llygaid. Nid yw gwasanaethau fferyllol cymunedol a ddarperir gan drefniadau a wneir o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 o fewn cwmpas y rheoliadau. Bydd y ffordd y caniateir ymdrin â gwahanol fathau o ofal sylfaenol o dan y gyfundrefn yn dibynnu ar y sefyllfa a’r contractau nue gytundebau dan sylw.

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol craidd yn aml yn cael eu comisiynu yn seiliedig ar gontractau parhaus sy’n rhedeg nes iddynt ddod i ben ac nad oes angen i awdurdodau perthnasol eu had-drefnu fel mater o drefn. Pan fo awdurdod perthnasol yn trefnu gwasanaethau gofal sylfaenol, rhaid iddo ystyried pa broses gaffael sy’n briodol (gweler prosesau caffael o dan y rheoliadau). Ceir rhagor o fanylion am sut y mae’r rheoliadau’n gymwys i ofal sylfaenol yn atodiad C.

Caffaeliad cymysg

Diffinnir caffaeliad cymysg yn Rheoliadau 3(1), 3(2), 3(3), 3(4) a 3(7).

Ystyr “caffaeliad cymysg” yw caffael:

a) gwasanaethau iechyd perthnasol at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru
b) nwyddau neu wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau iechyd hynny

pan fo’r ddau faen prawf canlynol wedi eu bodloni: 

  • mai prif bwnc y caffaeliad yw gwasanaethau iechyd perthnasol at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru
  • bod yr awdurdod perthnasol yn penderfynu na ellid cyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau eraill yn rhesymol o dan gontract ar wahân

Diffinnir gwerth oes amcangyfrifedig yn Rheoliadau 4(1), 4(2) a 4(3).

Gallai contractau i ddarparu gwasanaethau iechyd gynnwys sawl elfen: rhai ohonynt yn wasanaethau iechyd sy’n amlwg o fewn cwmpas y Rheoliadau, a rhai ohonynt, pe baent yn cael eu caffael ar eu pennau eu hunain, a fyddai o fewn cwmpas y rheolau caffael cyhoeddus ehangach (gweler deddf 2023).

Nid yw’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau nad ydynt ymwneud ag iechyd ar eu pen eu hunain.

Pan fydd contract yn cynnwys cymysgedd o wasanaethau iechyd sydd o fewn cwmpas y Rheoliadau a gwasanaethau neu nwyddau sydd y tu allan i’r cwmpas, dim ond pan fodlonir y ddau ofyniad isod y caniateir i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r Rheoliadau hyn:

  • bod prif bwnc y contract yn wasanaethau iechyd sydd o fewn y cwmpas
  • bod yr awdurdod perthnasol o’r farn na ellid cyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau eraill yn rhesymol o dan gontract ar wahân

Mae prif bwnc y contract yn cael ei bennu gan ba un o’r canlynol yw’r uchaf:

  • gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau iechyd
  • werth oes amcangyfrifedig y nwyddau neu’r gwasanaethau eraill

Ystyr gwerth oes amcangyfrifedig contract yw ei werth am yr amser sy’n cael ei amcangyfrif gan yr awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 4. Bydd hwn yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • yn achos contract cyfnod penodol, yr uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu
  • yn achos contract heb gyfnod penodol, yr uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract mewn unrhyw gyfnod o fis, wedi’i luosi â 48
  • ar gyfer cytundeb fframwaith, swm gwerth oes amcangyfrifedig yr holl gontractau sydd wedi’u dyfarnu, neu a allai gael eu dyfarnu, yn unol â’r cytundeb fframwaith hwnnw (fel y cyfrifir o dan Reoliad 4(2)(a) a 4(2)(b))

Gwerth oes amcangyfrifedig

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut y mae gwerth oes amcangyfrifedig yn cael ei gymhwyso yng nghyd-destun caffaeliadau cymysg ac wrth bennu'r prif bwnc. Mae Rheoliad 13, sy'n ymdrin ag "addasiadau", a Rheoliad 7(10), sy'n ymwneud â "newid sylweddol", ill dau yn cyfeirio'n benodol at werth oes amcangyfrifedig. Felly, mae ei gymhwysiad hefyd yn berthnasol wrth asesu a yw'r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol o'r contract presennol, fel yr amlinellir yn y canllawiau ar gyfer addasiadau a ganiate ‘Pennu nad yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol i’r contract presennol’ ac ‘Addasiadau a ganiateir’ yn y canllawiau hyn.

Gwerth oes amcangyfrifedig yw’r cyfanswm y gallai awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan gontract. Mae hyn yn cynnwys gwerth unrhyw wasanaethau a fydd yn cael eu darparu gan y darparwr o dan y contract ac eithrio ar gyfer talu, gwerth unrhyw opsiynau ar gyfer gwasanaethau ychwanegol pe bai’r awdurdod perthnasol yn arfer opsiwn o’r fath, gwerth unrhyw opsiynau i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract, unrhyw ffioedd ychwanegol sy’n daladwy o dan y contract, ac unrhyw symiau sy’n cynrychioli gwobrau neu daliadau a allai fod yn daladwy i ddarparwr sy’n cymryd rhan mewn caffaeliad. Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried yr holl amgylchiadau sy’n berthnasol i’r amcangyfrif ar yr adeg y cyfrifir yr amcangyfrif.

Wrth gymhwyso hyn i’r meini prawf ar gyfer caffaeliad cymysg, mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol gyfrifo’r gwasanaethau iechyd a’r elfennau nwyddau a gwasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ i gyfrifo a oes gan y dadansoddiad o werth oes amcangyfrifedig elfen gwasanaeth iechyd uwch; os felly, gwasanaethau iechyd perthnasol yw’r prif bwnc. Os mai’r nwyddau neu wasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ yw’r prif bwnc (hynny yw o werth uwch), ni fydd modd i’r awdurdod perthnasol ddyfarnu contract o dan y Rheoliadau a rhaid ymgymryd â’r broses gaffael yn unol â’r Gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach.

Enghreifftiau o gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig mewn caffaeliadau cymysg

Contractau cyfnod penodol

Gwerth oes amcangyfrifedig awdurdod perthnasol ar gyfer contract cyfnod penodol yw’r uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract, gan gynnwys, pan fo’n gymwys, symiau a dalwyd eisoes.

Er enghraifft:

a) Os dyfernir contract am gyfnod o 24 mis gyda’r opsiwn i’w estyn am gyfnod o 12 mis, y cyfanswm sy’n daladwy i’r darparwr ar gyfer yr holl wasanaethau dan gontract ac opsiynau estyn ychwanegol a arferir fyddai’r gwerth a fyddai’n daladwy dros gyfnod o 36 mis.

b) Os dyfernir contract am gyfnod o 24 mis gydag opsiynau wedi’u cynnwys mewn perthynas â gwasanaethau ychwanegol, premiymau, ffioedd, comisiynau ac ati, y gwerth a fyddai’n daladwy yw’r gwerth 24 mis ynghyd â’r holl wasanaethau, premiymau a ffioedd ychwanegol yn ystod y cyfnod taladwy.

Unwaith y bydd yr awdurdod perthnasol wedi cyfrifo ‘gwerth oes amcangyfrifedig’ y contract yn ei gyfanrwydd, bydd angen iddo gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau iechyd a’r nwyddau neu’r gwasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ yn erbyn cyfanswm amcan(a) y gwerth 36 mis neu (b) y gwerth 24 mis. Os mai’r nwyddau neu gwasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ fydd y gwerth mwyaf, ystyrir mai nhw yw’r prif bwnc ac ni fydd modd i’r awdurdod perthnasol ddyfarnu contract o dan y rheoliadau.

Un maes nodedig lle defnyddir caffaeliadau cymysg yw trefnu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol gyda’i gilydd mewn un contract. Byddai contract o’r fath yn cynnwys cymysgedd o wasanaethau iechyd sydd o fewn y cwmpas a gwasanaethau gofal cymdeithasol sydd y tu allan i’r cwmpas. Pe bai’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried yn rhai ‘cysylltiedig’ â’r gwasanaethau iechyd, bydd angen i’r awdurdod perthnasol sicrhau mai gwasanaethau iechyd yw prif bwnc y contract arfaethedig drwy gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y contract cyfan yn gyntaf, ac yna bennu gwerth yr elfennau iechyd (o fewn y cwmpas) a gofal cymdeithasol (y tu allan i’r cwmpas).

Er enghraifft, pe bai gwerth oes amcangyfrifedig y contract arfaethedig yn £1 filiwn, byddai angen i’r gwasanaethau iechyd fod yn brif bwnc y contract ac felly yr elfen â’r gwerth uchaf. Felly, er mwyn caffael y contract o dan y rheoliadau fel caffaeliad cymysg, byddai angen i gyfanswm gwerth y gwasanaethau iechyd fod yn £500,001 neu fwy (mwy na 50%) a’r elfen gofal cymdeithasol yn £499,999 neu lai (llai na 50%). Pan mai gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau gofal cymdeithasol yw’r mwyaf, ni fodlonir y profion caffaeliad cymysg, ac nid yw’r rheoliadau’n gymwys. Rhaid ymgymryd â’r broses gaffael yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach.

Contractau heb gyfnod penodol

Gwerth oes amcangyfrifedig awdurdod perthnasol ar gyfer contract heb gyfnod penodol yw’r uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract mewn cyfnod o fis, wedi’i luosi â 48. Er enghraifft, bydd contractau a ddyfernir heb gyfnod penodol y cytunwyd arno hynny yw contract penagored a ddyfernir o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (y ‘rheoliadau GMS’), yn parhau i redeg yn barhaus ac ni fyddant yn dod i ben oni bai eu bod yn cael eu terfynu. Dylai awdurdod perthnasol y mae’n ofynnol iddo gyfrifo’r gwerth oes amcangyfrifedig ddefnyddio’r uchafswm y gallai’r awdurdod perthnasol ddisgwyl ei dalu o dan y contract mewn cyfnod o fis, ac yna ei luosi â 48; bydd y ffigur hwn wedyn yn cynrychioli’r gwerth oes amcangyfrifedig.

Mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau iechyd a’r nwyddau a’r cydrannau gwasanaethau ‘cysylltiedig’ eraill er mwyn cyfrifo a oes gan y dadansoddiad o werth oes amcangyfrifedig elfen gwasanaeth iechyd uwch. Os felly, y gwasanaethau iechyd yw’r prif bwnc. Os mai’r nwyddau neu wasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ (y tu allan i’r cwmpas) yw’r prif bwnc (y gwerth mwyaf), ni fydd yr awdurdod perthnasol yn gallu dyfarnu contract caffaeliad cymysg o dan y rheoliadau. Rhaid ymgymryd â’r broses gaffael yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach.

Cytundebau fframwaith

Gwerth oes amcangyfrifedig ar gyfer cytundeb fframwaith yw swm gwerthoedd amcangyfrifedig yr holl gontractau sydd wedi’u dyfarnu, neu a allai gael eu dyfarnu, yn unol â’r fframwaith hwnnw. Er enghraifft, er mwyn cyfrifo prif bwnc cytundeb fframwaith ar gyfer caffaeliad cymysg, rhaid i awdurdod perthnasol:

  • gyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y cytundeb fframwaith (hynny yw swm gwerth oes amcangyfrifedig yr holl gontractau sydd wedi’u dyfarnu, neu a allai gael eu dyfarnu, o dan y fframwaith)
  • cyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig y gwasanaethau iechyd a gwerth oes amcangyfrifedig y nwyddau ‘cysylltiedig’ a gwasanaethau eraill sy’n debygol o gael eu trefnu yn ôl y gofyn drwy’r cytundeb fframwaith

Os mai gwerth oes amcangyfrifedig elfen gwasanaethau iechyd y contract yw’r mwyaf, a bod yr holl feini prawf eraill o ran caffaeliad cymysg eraill yn cael eu bodloni, caiff awdurdod perthnasol gwblhau cytundeb fframwaith caffaeliad cymysg o dan y Rheoliadau. Os mai gwerth oes amcangyfrifedig y nwyddau neu wasanaethau eraill ‘cysylltiedig’ sydd â’r gwerth uchaf, ni fydd yr awdurdod perthnasol yn gallu cwblhau cytundeb fframwaith caffaeliad cymysg o dan y rheoliadau hyn. Rhaid ymgymryd â’r broses gaffael yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach.

Ni all nwyddau neu wasanaethau sydd y tu allan i’r cwmpas gael eu hystyried yn rhan o gaffaeliad cymysg ond pan fo’r awdurdod perthnasol o’r farn na ellir eu gwahanu oddi wrth y gwasanaethau iechyd sydd o fewn y cwmpas fel rhan o’r un contract. Dim ond pan fo’r awdurdod perthnasol o’r farn y byddai caffael y gwasanaethau iechyd a’r nwyddau neu’r gwasanaethau eraill ar wahân yn cael effaith andwyol sylweddol, neu’n debygol o gael effaith o’r fath, ar allu’r awdurdod perthnasol i weithredu yn unol â’r egwyddorion caffael y caiff awdurdod perthnasol benderfynu na ellid cyflenwi nwyddau neu wasanaethau eraill yn rhesymol o dan gontract ar wahân.

Er enghraifft, gallai awdurdodau perthnasol rag-weld anawsterau wrth ddarparu gwasanaethau os ydynt yn cynnal dau gaffaeliad o dan wahanol gyfundrefnau caffael (hynny yw un ar gyfer y gwasanaethau iechyd o dan y Rheoliadau a nwyddau neu wasanaethau eraill o dan gyfundrefn gaffael ehangach) gan y gallai arwain at ddyfarnu contractau i ddau gyflenwr gwahanol. Gallai hyn fod yn broblem lle gallai’r ddau wasanaeth fod i’r un claf unigol neu grŵp o gleifion, a gallai arwain at ddarpariaeth gymhleth neu wasanaethau o safon is yn sgil bod â dau ddarparwr gwahanol.

Bydd angen i awdurdodau perthnasol ystyried hyn fesul achos a rhaid iddynt gadw cofnod mewnol o’r rhesymeg dros eu penderfyniad i ymgymryd â chaffaeliad cymysg, gan y byddai hyn yn rheswm dros y penderfyniad a wneir (gweler tryloywder).

Pan fodlonir y profion uchod, mae’r Rheoliadau’n gymwys, a gellir ymgymryd â chaffaeliad cymysg gan ddefnyddio’r Rheoliadau. Os na fodlonir y profion hyn, nid yw’r Gyfundrefn yn gymwys i’r gwasanaethau sydd y tu allan i’r cwmpas a rhaid ymgymryd â’r elfen honno o’r broses gaffael yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer caffael cyhoeddus ehangach (gweler deddf 2023).

Gweler isod rai enghreifftiau eraill o wasanaethau y gellir eu trefnu o dan y Rheoliadau, ond a allai olygu bod angen defnyddio rhyw gymaint o gaffaeliad cymysg ar gyfer gwasanaethau iechyd a gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd i gyflawni eu hamcanion craidd:

  • gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol a drefnir o dan drefniant partneriaeth (o dan adran 33 o Ddeddf GIG Cymru 2006) gan awdurdod perthnasol gyda darparwr yn y sector annibynnol neu wirfoddol
  • cludiant cleifion, sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd (y mae’r darparwr angen cofrestriad AGIC neu AGC ar eu cyfer) a gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd (lle nad oes angen cofrestriad AGIC neu AGC)
  • pecynnau a drefnir o dan y Gronfa Gofal Integredig
  • gwasanaethau Rhyddhau i Adfer yna Asesu (D2RA)
  • gwasanaethau ôl-ofal iechyd meddwl, megis gwasanaethau cymorth a drefnir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • gwasanaethau carchar sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd
  • gwasanaethau ceiswyr lloches sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd
  • gwasanaethau cyn-filwyr sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd

Troednodiadau

[1] Mae gwasanaethau deintyddol cymunedol a ddarperir o dan a3(1)(c) o Ddeddf 2006 hefyd wedi'u cynnwys o fewn cwmpas y Rheoliadau, er nad ydynt wedi'u dosbarthu fel gwasanaethau gofal sylfaenol fel y'u diffinnir yn Neddf 2006

Adran 3: cymhwyso’r gyfundrefn

Nodiadau cyffredinol

Manylir ar y prosesau penodol sydd i’w dilyn wrth ddethol darparwyr yn yr adran gwneud penderfyniadau o dan y rheoliadau. Wrth ddilyn unrhyw un o’r prosesau caffael, rhaid i awdurdodau perthnasol weithredu’n dryloyw, yn deg ac yn gymesur.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol hefyd ystyried materion yn ymwneud â llywodraethiant, cynllunio a thirwedd darparwyr wrth gymhwyso’r gyfundrefn.

Mae’r Rheoliadau’n caniatáu dyfarnu contract i fwy nag un darparwr, naill ai ar y cyd neu fel arall. 

Egwyddorion caffael

Nodir yr egwyddorion caffael yn rheoliad 5.

Disgwylir i’r awdurdodau perthnasol sicrhau, wrth ddilyn y gyfundrefn hon, eu bod yn gwneud penderfyniadau er lles pennaf y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. I wneud hyn, rhaid iddynt weithredu gyda’r nod o:

  • sicrhau anghenion y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau
  • gwella ansawdd y gwasanaethau
  • gwella effeithlonrwydd wrth ddarparu’r gwasanaethau

Rhaid i awdurdodau perthnasol hefyd weithredu’n dryloyw, yn deg ac yn gymesur wrth gaffael gwasanaethau iechyd.

Mae’r Rheoliadau’n datgan bod rhaid i awdurdodau perthnasol hefyd roi sylw i ddatganiad polisi caffael Cymru a gyhoeddwyd o dan adran 14 o Ddeddf 2023.

Llywodraethiant

Disgwylir i awdurdodau perthnasol bennu’r ffordd orau o ddilyn y gyfundrefn hon o fewn eu trefniadau strwythurol a’u trefniadau llywodraethiant ehangach. Mae’r gyfundrefn hon yn nodi cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i gynnal proses gaffael. Fodd bynnag, nid yw’n ei gwneud yn ofynnol i benderfyniadau gael eu gwneud gan bwyllgorau sefydliadol penodol o fewn awdurdodau perthnasol nac ar lefel benodol o fewn system sefydliadol. Disgwylir i awdurdodau perthnasol sicrhau bod eu llywodraethiant mewnol yn cynorthwyo i gymhwyso’r gyfundrefn hon yn effeithiol.

Cynllunio

Er mwyn cymhwyso’r Gyfundrefn hon yn effeithiol, disgwylir i awdurdodau perthnasol fod â dealltwriaeth glir o’r gwasanaethau y maent am eu trefnu a’r canlyniadau y maent yn bwriadu i’r gwasanaethau eu cyflawni.

Mae’r rhain yn rhagofynion i unrhyw benderfyniad ynghylch dethol darparwr. Rydym yn disgwyl i’r bwriadau hyn gael eu sefydlu’n glir mewn da bryd drwy’r gweithgarwch cynllunio arferol sy’n digwydd ar draws system. Disgwylir i awdurdodau perthnasol adlewyrchu’r bwriadau hyn yn eu piblinell fasnachol, a disgwylir i benderfyniadau a wneir o dan y Gyfundrefn hon wasanaethu ac adlewyrchu’r bwriadau hyn hefyd.

Mae'r Gyfundrefn hefyd yn nodi sut y dylai awdurdodau perthnasol ymdrin â sefyllfaoedd brys sydd heb eu cynllunio, gan gynnwys dyfarniadau brys ac addasiadau brys i gontractau (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau). Mae hyn yn nodi pryd y caniateir newidiadau yn ystod tymor contract presennol heb broses gaffael newydd, a phryd y bydd angen proses gaffael newydd.

Tirwedd darparwyr

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ddatblygu a chynnal gwybodaeth ddigon manwl am ddarparwyr perthnasol, gan gynnwys dealltwriaeth o’u gallu i ddarparu gwasanaethau i’r boblogaeth (leol / ranbarthol / genedlaethol) berthnasol, gan amrywio dulliau gwirioneddol/posibl o ddarparu gwasanaethau, a galluoedd, cyfyngiadau a chysylltiadau â rhannau eraill o’r system. Efallai y bydd awdurdodau perthnasol yn dymuno ystyried ymgymryd â gwaith ymgysylltu â’r farchnad ymlaen llaw i ddiweddaru neu gynnal eu gwybodaeth am y dirwedd darparwyr.

Rydym yn disgwyl i’r wybodaeth hon fynd y tu hwnt i wybodaeth am ddarparwyr presennol ac i fod yn nodwedd gyffredinol o waith cynllunio ac ymgysylltu, a ddatblygir fel rhan o’r broses gomisiynu yn hytrach nag ar y pwynt contractio yn unig. Heb y ddealltwriaeth hon, mae’n bosibl na fydd gan awdurdodau perthnasol ddigon o dystiolaeth i gadarnhau bod y darparwr presennol yn perfformio i’r ansawdd a’r gwerth gorau, y byddant yn colli cyfleoedd i wella gwasanaethau a nodi datblygiadau arloesol gwerthfawr ac, yn y pen draw, y bydd hynny’n arwain at ddarparwyr yn cyflwyno sylwadau (gweler y cyfnod segur).

Defnyddio dull cymesur

Mae’r Gyfundrefn yn gymwys i drefnu’r holl wasanaethau iechyd perthnasol; nid oes isafswm trothwy ar gyfer cymhwyso’r Gyfundrefn. Felly, wrth gymhwyso’r Gyfundrefn hon, disgwylir i awdurdodau perthnasol ddefnyddio dull cymesur. Disgwylir iddynt sicrhau nad yw eu dull o weithredu’r Gyfundrefn hon yn creu baich anghymesur mewn perthynas â’r manteision a fydd yn cael eu cyflawni.

Mae hefyd yn bwysig bod penderfyniadau’n amddiffynadwy ac yn cael eu gwneud yn dilyn ystyriaethau perthnasol.

Diwydrwydd dyladwy, meini prawf dethol sylfaenol a gwaharddiadau

Nodir y meini prawf dethol sylfaenol yn Rheoliad 22 ac yn atodlen 18. Nodir gwaharddiadau yn rheoliadau 25 a 26.

Wrth gymhwyso’r Gyfundrefn hon, disgwylir i awdurdodau perthnasol ymgymryd â gwiriadau diwydrwydd dyladwy rhesymol a chymesur ar ddarparwyr. Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried a oes gan y darparwr y maent yn bwriadu ymrwymo i gontract ag ef y capasiti cyfreithiol ac ariannol a’r gallu technegol a phroffesiynol i gyflawni’r contract.

Ar gyfer proses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas a’r broses gystadleuol, ac wrth sefydlu cytundeb fframwaith, rhaid i awdurdodau perthnasol asesu a ystyrir bod darparwyr yn addas i ddarparu gwasanaeth drwy gymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol fel yr amlinellir yn Atodlen 18. Rhaid i’r holl ofynion meini prawf dethol sylfaenol fod yn gysylltiedig ac yn gymesur â phwnc y contract neu’r cytundeb fframwaith.

Nid yw’n ofyniad rheoleiddiol i awdurdodau perthnasol gymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol wrth ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 1, nac wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd awdurdod perthnasol o’r farn mai’r arfer gorau fyddai cadarnhau capasiti cyfreithiol neu ariannol a gallu technegol neu broffesiynol darparwr wrth ymgymryd â phroses dyfarniad uniongyrchol 1.

Gall y meini prawf dethol sylfaenol fod yn berthnasol i’r canlynol:

  • addasrwydd y darparwr i ymgymryd â gweithgarwch penodol; pan fo’n ofynnol i’r darparwr feddu ar awdurdodiad penodol neu fod yn aelod o sefydliad penodol i allu cyflawni’r gwasanaethau gofynnol, caiff yr awdurdod perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr brofi bod ganddo awdurdodiad neu aelodaeth o’r fath
  • sefyllfa economaidd ac ariannol y darparwr; caiff yr awdurdod perthnasol osod gofynion i sicrhau bod gan y darparwr y capasiti economaidd ac ariannol angenrheidiol i gyflawni’r contract
  • gallu technegol a phroffesiynol y darparwr; caiff yr awdurdod perthnasol osod gofynion i sicrhau bod gan ddarparwr yr adnoddau a’r profiad dynol a thechnegol angenrheidiol i gyflawni’r contract i safon briodol

Rhaid i awdurdod perthnasol ddiystyru darparwr gwaharddedig o safbwynt cymryd rhan mewn unrhyw un neu ragor o’r prosesau caffael a chaiff ddiystyru darparwr gwaharddadwy pe bai darparwr yn ddarparwr gwaharddedig neu’n ddarparwr gwaharddadwy yn unol ag adran 57 a 58 o Ddeddf 2023. Sylwer, at ddibenion cymhwyso adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2023 o dan y Rheoliadau, mae cyfeiriadau at “gyflenwr” ac “awdurdod contractio” yn Neddf 2023 i’w darllen fel “darparwr” ac “awdurdod perthnasol” yn y drefn honno. O dan y rheoliad gwaharddiadau, mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol atal darparwyr sydd wedi’u gwahardd rhag cymryd rhan mewn prosesau caffael a chael contractau wedi’u dyfarnu iddynt, ac mae’n caniatáu i awdurdodau perthnasol atal darparwyr y gellir eu gwahardd rhag cymryd rhan mewn prosesau caffael a chael contractau wedi’u dyfarnu iddynt.

Darparwyr gwaharddedig yw darparwyr a fyddai’n gyflenwr gwaharddedig o dan adrannau 57 a 58 o Ddeddf 2023, ac mae unrhyw gyfeiriad at berson â chyswllt yn yr adrannau hynny i’w hepgor. Rhaid i ddarparwyr sydd ar y rhestr o ragwaharddiadau yn seiliedig ar sail fandadol ar gyfer gwahardd hefyd gael eu hystyried yn ddarparwr gwaharddedig. Gall darparwyr hefyd fod yn ddarparwr gwaharddedig yn rhinwedd bod sail fandadol ar gyfer gwahardd yn gymwys i’w is-gontractwyr.

Rhaid i ddarparwyr sydd ar y rhestr o ragwaharddiadau yn seiliedig ar sail fandadol ar gyfer gwahardd hefyd gael eu hystyried ddarparwr gwaharddedig. Gall darparwyr hefyd fod yn ddarparwr gwaharddedig yn rhinwedd bod sail fandadol ar gyfer gwahardd yn gymwys i’w is-gontractwyr.

Rhaid i ddarparwyr sydd ar y rhestr o ragwaharddiadau yn seiliedig ar sail ddisgresiynol ar gyfer gwahardd hefyd gael eu hystyried yn rhai gwaharddadwy. Gall darparwyr hefyd fod yn ddarparwr gwaharddadwy yn rhinwedd bod sail ddisgresiynol ar gyfer gwahardd yn gymwys i’w is-gontractwyr.

Os yw darparwr neu is-gontractwr ar y rhestr o ragwaharddiadau am ei fod yn fygythiad i ddiogelwch gwladol mewn perthynas â mathau penodol o gontract, rhaid trin y darparwr neu’r is-gontractwr fel darparwr gwaharddedig, ond dim ond mewn perthynas â’r contractau o’r math a ddisgrifir yn y rhestr o ragwaharddiadau.

Yn hynny o beth, mae darparwr neu is-gontractwr yn “ddarparwr gwaharddedig” os yw’r awdurdod perthnasol o’r farn bod sail fandadol ar gyfer gwahardd yn gymwys i’r darparwr neu’r is-gontractwr, a bod yr amgylchiadau a arweiniodd at gymhwyso’r sail ar gyfer gwahardd yn parhau neu’n debygol o godi eto.

Mae darparwr neu is-gontractwr yn “ddarparwr gwaharddadwy” os yw’r awdurdod perthnasol o’r farn bod sail ddisgresiynol yn gymwys i’r darparwr neu’r is-gontractwr a bod yr amgylchiadau a arweiniodd at gymhwyso’r sail ar gyfer gwahardd yn parhau neu eu bod yn debygol o godi eto.

Wrth ystyried a yw cymhwysiad sail ar gyfer gwahardd yn parhau neu a yw’n debygol o godi eto, gall yr awdurdod perthnasol roi sylw i’r canlynol:

  • tystiolaeth bod y darparwr neu’r is-gontractwr wedi cymryd yr amgylchiadau o ddifrif
  • camau y mae’r darparwr neu’r is-gontractwr wedi’u cymryd i atal yr amgylchiadau rhag parhau neu rhag codi eto
  • ymrwymiad y bydd camau o’r fath yn cael eu cymryd neu ddarparu gwybodaeth i ganiatáu dilysu neu fonitro
  • faint o amser sydd ers i’r amgylchiadau godi ddiwethaf
  • unrhyw dystiolaeth, esboniad neu ffactor arall y mae’r awdurdod perthnasol yn ei ystyried yn briodol

Cyn penderfynu bod darparwr neu is-gontractwr yn ddarparwr gwaharddedig neu waharddadwy, mae gan awdurdodau perthnasol ddyletswydd i roi cyfle rhesymol i’r darparwyr gyflwyno sylwadau a darparu tystiolaeth ynghylch a yw’r sail ar gyfer gwahardd yn gymwys ac a yw’r amgylchiadau’n debygol o godi eto (proses “hunan-lanhau”). Wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd hon, mae’n bwysig nad yw’r awdurdodau perthnasol yn gwneud ceisiadau anghymesur am wybodaeth am y sail ar gyfer gwahardd. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau anghymesur am brawf o absenoldeb sail ar gyfer gwahardd, neu geisiadau anghymesur i gamau unioni gael eu cymryd lle bodlonir y sail.

Felly, rhaid i ddarparwr neu is-gontractwr a ystyrir yn ‘ddarparwr gwaharddedig’ gael cyfle rhesymol i ymateb i benderfyniad fod sail fandadol ar gyfer gwahardd yn gymwys.

Os bydd darparwr gwaharddedig yn methu â darparu tystiolaeth ddigonol bod y mater(ion) wedi’u datrys neu eu bod yn annhebygol o ddigwydd eto, rhaid i’r awdurdod perthnasol wahardd y darparwr hwnnw rhag y broses gaffael a pheidio â dyfarnu contract i’r darparwr neu is-gontractwr gwaharddedig na chwblhau cytundeb fframwaith gydag ef.

Fodd bynnag, os bydd awdurdod perthnasol o’r farn bod angen hollbwysig i ddiogelu iechyd y cyhoedd, caiff fynd ati i ddyfarnu’r contract neu i gwblhau’r cytundeb fframwaith gyda’r darparwr gwaharddedig.

Yn hynny o beth, pan fo awdurdod perthnasol yn penderfynu y byddai peidio â rhoi’r dyfarniad i’r darparwr gwaharddedig yn debygol o beri risg i ddiogelwch cleifion neu’r cyhoedd, caiff yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract i ddarparwr gwaharddedig neu gwblhau cytundeb fframwaith ag ef fel y nodir o dan Reoliad 25(2).

Prosesau caffael o dan y rheoliadau

Nodir y prosesau caffael yn Rheoliad 7.

Rhaid cymhwyso’r Gyfundrefn hon pryd bynnag y bydd awdurdodau perthnasol yn gwneud penderfyniadau ynghylch caffael gwasanaethau iechyd.

Y cam cyntaf i awdurdodau perthnasol sy’n cymhwyso’r Gyfundrefn hon yw nodi pa un o’r prosesau caffael canlynol sy’n gymwys.

Rhaid defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 1 pan fydd pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • mae darparwr eisoes ar gyfer y gwasanaethau iechyd y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â nhw
  • mae’r awdurdod perthnasol wedi’i fodloni mai dim ond y darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) presennol a all ddarparu’r gwasanaethau iechyd y mae’r trefniadau contractio arfaethedig yn ymwneud â nhw oherwydd natur y gwasanaethau iechyd

Ni chaniateir defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 1 i gwblhau cytundeb fframwaith.

Caniateir defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas neu’r broses gystadleuol, pan fydd pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 1
  • mae cyfnod y contract presennol ar fin dod i ben, ac mae’r awdurdod perthnasol yn cynnig contract newydd i ddisodli’r contract hwnnw ar ddiwedd ei gyfnod
  • nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol
  • mae’r awdurdod perthnasol o’r farn bod y darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) presennol yn bodloni’r contract presennol ac yn debygol o fodloni’r contract arfaethedig i safon ddigonol

Ni chaniateir defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2 a’r broses darparwr mwyaf addas i gwblhau cytundeb fframwaith.

Caniateir defnyddio’r broses darparwr mwyaf addas pan fydd pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 1
  • nid yw’r awdurdod perthnasol yn gallu neu’n dymuno dilyn proses dyfarniad uniongyrchol 2
  • mae’r awdurdod perthnasol o’r farn, gan ystyried darparwyr tebygol a’r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael i’r awdurdod perthnasol ar y pryd, ei bod yn debygol y bydd yn gallu nodi’r darparwr mwyaf addas (heb gynnal proses gystadleuol)

Ni chaniateir defnyddio’r broses darparwr mwyaf addas i gwblhau cytundeb fframwaith.

Rhaid defnyddio’r broses gystadleuol pan fo pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 1
  • nid yw’r awdurdod perthnasol yn gallu neu’n dymuno dilyn proses dyfarniad
  • uniongyrchol 2 ac nid yw’n gallu neu’n dymuno dilyn y droses darparwr mwyaf addas

Rhaid defnyddio’r broses gystadleuol os yw’r awdurdod perthnasol yn dymuno cwblhau cytundeb fframwaith.

Unwaith y bydd yr awdurdod perthnasol wedi nodi pa rai o’r amgylchiadau hyn sy’n gymwys ac wedi nodi’r broses gaffael briodol i’w dilyn, bydd angen iddo ddilyn y broses gaffael honno fel y nodir yn fanwl yn yr adrannau isod.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol nodi pa broses gaffael sy’n gymwys mewn digon o bryd cyn i gontract ddod i ben. Nid yw’r ffaith fod proses gaffael benodol wedi’i defnyddio i ddethol darparwr yn y gorffennol yn golygu bod rhaid (nac y bydd modd) defnyddio’r un dull ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol.

Caniateir gwneud addasiadau penodol yn ystod cyfnod contract i ganiatáu am newidiadau i wasanaethau neu amgylchiadau. Mae’r adran ar addasiadau i gontract yn nodi’r amodau a’r gofynion tryloywder ar gyfer yr addasiadau hyn.

O dan amgylchiadau cyfyngedig, efallai y bydd angen i awdurdodau perthnasol weithredu’n gyflym, er enghraifft, i fynd i’r afael â risgiau uniongyrchol i ddiogelwch cleifion neu ddiogelwch y cyhoedd, lle byddai’n anymarferol dilyn y camau sy’n ofynnol o dan y Gyfundrefn hon. Mae’r adran ar ddyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontract yn nodi’r amgylchiadau hyn a sut y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol weithredu os byddant yn codi.

Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1

Mae’r broses y mae’n rhaid ei dilyn wrth ddyfarnu contract o dan broses dyfarniad uniongyrchol 1 wedi’i nodi yn Rheoliadau 7(4) ac 8.

Mae’r math o wasanaeth yn golygu nad oes dewis realistig arall yn lle’r darparwr presennol. Ni chaniateir defnyddio’r broses hon i ddyfarnu contractau wrth sefydlu gwasanaeth newydd neu i gwblhau cytundeb fframwaith neu i ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith.

Rhaid defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 1 i ddyfarnu contractau i’r darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) presennol pan fo natur y gwasanaeth yn golygu nad oes dewis realistig arall yn lle’r darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) presennol. Hyd yn oed pan fydd darparwyr eraill yn y farchnad, cyn belled â nad yw’r rhain yn cael eu hystyried yn ddewisiadau realistig ar gyfer gofynion penodol yr awdurdod perthnasol, rhaid defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 1 i ddyfarnu contract.

Ni chaniateir defnyddio Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1 i wneud y canlynol:

  • dyfarnu contract wrth sefydlu gwasanaeth newydd
  • cwblhau cytundeb fframwaith
  • dyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith

Unwaith y bydd yr awdurdod perthnasol wedi canfod y gall ddefnyddio Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1, rhaid iddo ddilyn y camau isod:

  1. Cyhoeddi hysbysiad yn cynnwys ei fwriad i ddyfarnu’r contract i’r darparwr dethol (gweler tryloywder) a chadw at y cyfnod segur (gweler y cyfnod segur).
  2. Ymrwymo i gontract â’r darparwr presennol ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben.
  3. Cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau dyfarnu’r contract i’r contractwr o fewn 30 diwrnod i’r contract gael ei ddyfarnu.

Rhaid i awdurdodau perthnasol ddilyn y camau tryloywder gofynnol (gweler yr adran tryloywder ac atodiad B) pan fyddant yn dyfarnu contractau i’r darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) presennol gan ddefnyddio’r dull hwn.

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried y gwaharddiadau yn Rheoliadau 25 a 26 a’u cymhwyso fel y bo’n briodol.

Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2

Mae’r broses y mae’n rhaid ei dilyn wrth ddyfarnu contract o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2 wedi’i nodi yn Rheoliadau 7(5) a 9.

Mae’r darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol ac yn debygol o fodloni’r contract arfaethedig, ac nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol i’r contract presennol. Ni chaniateir defnyddio’r broses hon i ddyfarnu contractau wrth sefydlu gwasanaeth newydd neu i gwblhau cytundeb fframwaith neu i ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith.

Caniateir defnyddio Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 i ddyfarnu contract arfaethedig i’r darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) presennol, i ddisodli contract presennol sy’n dod i ben, pan fodlonir yr holl brofion isod:

  • nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1
  • mae cyfnod y contract presennol ar fin dod i ben, ac mae’r awdurdod perthnasol yn cynnig contract newydd i ddisodli’r contract hwnnw ar ddiwedd ei gyfnod
  • nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol i’r contract presennol (gweler pennu nad yw trefniant contractio arfaethedig yn newid sylweddol)
  • mae’r awdurdod perthnasol o’r farn bod y darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol i safon ddigonol, yn unol â’r manylion a amlinellir yn y contract, a chan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol
  • mae’r awdurdod perthnasol o’r farn y bydd y darparwr presennol yn debygol o fodloni’r contract arfaethedig i safon ddigonol gan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol

Ni chaniateir defnyddio Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 i wneud y canlynol:

  • dyfarnu contract wrth sefydlu gwasanaeth newydd
  • cwblhau cytundeb fframwaith
  • dyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith

Unwaith y bydd yr awdurdod perthnasol wedi canfod y gall ddefnyddio Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, rhaid iddo ddilyn y camau isod:

  1. cyhoeddi hysbysiad yn cynnwys ei fwriad i ddyfarnu’r contract i’r darparwr dethol (gweler tryloywder) a chadw at y cyfnod segur (gweler y cyfnod segur)
  2. ymrwymo i gontract â’r darparwr presennol ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben
  3. cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau dyfarnu’r contract i’r contractwr o fewn 30 diwrnod i’r contract gael ei ddyfarnu

Hyd yn oed os bodlonir y profion ar gyfer defnyddio Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, nid oes rhaid i awdurdodau perthnasol ddefnyddio Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau perthnasol yn dal i ddewis dilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas neu’r broses gystadleuol, er enghraifft am eu bod yn dymuno profi’r farchnad.

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried y gwaharddiadau yn Rheoliadau 25 a 26 a’u cymhwyso fel y bo’n briodol.

Pennu nad yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol i’r contract presennol

Diffinnir newid sylweddol yn Rheoliadau 7(9) a 7(10). Nodir yr amgylchiadau pan nad yw newid yn newid sylweddol yn Rheoliadau 7(11) a 7(12).

Er mwyn defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2, rhaid i’r awdurdod perthnasol fod wedi’i fodloni nad yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol, hynny yw nid ydynt yn dod o fewn yr amgylchiadau a nodir yn Rheoliadau 7(9) a 7(10).

O dan y Gyfundrefn hon, newid sylweddol yw naill ai:

a) pan fo’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw

b) pan fo’r trefniadau contractio arfaethedig yn bodloni’r trothwy newid sylweddol

Bodlonir y trothwy newid sylweddol pan fydd pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • gellir priodoli’r trefniadau contractio arfaethedig (o’u cymharu â’r contract presennol) i benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod perthnasol
  • £500,000 neu uwch yw gwerth oes amcangyfrifedig y contract arfaethedig (hynny yw hafal i neu £500,000 yn fwy) na gwerth oes amcangyfrifedig y contract presennol pan ymrwymwyd iddo
  • 25% neu uwch yw gwerth oes amcangyfrifedig y contract arfaethedig (h.y. hafal i neu 25% yn fwy) na gwerth oes amcangyfrifedig y contract presennol pan ymrwymwyd iddo

Nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn bodloni’r trothwy newid sylweddol, fel y’i nodir yn Rheoliadau 7(11) ac 7(12), pan naill ai:

  • bod gwahaniaeth sylweddol o ran cymeriad i’r contract presennol (pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw), ond bod hynny’n unig oherwydd newid yn hunaniaeth y darparwr oherwydd, er enghraifft, olyniaeth i safle’r darparwr yn dilyn newidiadau corfforaethol gan gynnwys meddiannu, uno, caffael neu ansolfedd a bod yr awdurdod perthnasol wedi’i fodloni bod y darparwr yn bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol; yn ogystal, nid yw’r trothwy newid sylweddol wedi’i fodloni
  • nid yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol hwnnw, ac mae’r trothwy newid sylweddol wedi’i fodloni; fodd bynnag, mae’r newid rhwng y trefniadau contractio presennol a’r rhai arfaethedig yn digwydd er mwyn ymateb i ffactorau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod perthnasol neu’r darparwr; mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys newidiadau yn nifer defnyddwyr gwasanaethau neu gleifion, neu newidiadau mewn prisiau yn unol â fformiwla y darperir ar ei chyfer yn nogfen y contract

Pan fo’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol, ystyrir bod hyn yn newid sylweddol. Pan ystyrir bod trefniadau contractio yn sylweddol wahanol, ni all yr awdurdod perthnasol ddibynnu ar broses dyfarniad uniongyrchol 2 i ddyfarnu’r contract arfaethedig (oni bai bod rheoliad 7(11) yn gymwys).

Os nad yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad i’r contract presennol, ond bod y trefniadau contractio arfaethedig yn bodloni’r trothwy newid sylweddol, ni all yr awdurdod perthnasol ddibynnu ar broses dyfarniad uniongyrchol 2 i ddyfarnu contract newydd (oni bai bod rheoliad 7(12) yn gymwys).

Mae’r dull ar gyfer cyfrifo gwerth oes amcangyfrifedig contract wedi’i nodi yn Rheoliad 4.

Enghraifft o newid sylweddol

A. Mae gan awdurdod perthnasol gontract sydd â gwerth oes amcangyfrifedig o £3 miliwn. Mae’r contract yn dod i ben ac mae’r awdurdod perthnasol am barhau gyda’r darparwr presennol. Gellir priodoli hynny felly i benderfyniad yr awdurdod perthnasol. Gwerth oes amcangyfrifedig y trefniadau contractio arfaethedig yw £4 miliwn. Ni fydd y contract arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad.

Y newid yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract arfaethedig yw £1 miliwn, sy’n fwy na £500,000 ac sy’n cynrychioli 33% o werth oes amcangyfrifedig y contract presennol, sydd dros y trothwy o 25%. Felly, ni chaiff yr awdurdod perthnasol ddefnyddio Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 ar gyfer y trefniadau contractio arfaethedig; yn hytrach, rhaid iddo ddilyn y dull ar gyfer y Broses Darparwr Mwyaf Addas neu’r broses gystadleuol.

Enghraifft o newid nad yw’n sylweddol

B. Mae gan awdurdod perthnasol gontract gyda darparwr presennol, a gwerth oes amcangyfrifedig y contract yw £1 miliwn. Mae’r contract bellach yn dod i ben ac mae’r awdurdod perthnasol yn dymuno cynyddu’r gwerth oes amcangyfrifedig £400,000 pan fydd y contract yn cael ei adnewyddu. Fodd bynnag, mae gweddill y trefniadau contractio yr un peth. Felly, gwerth oes amcangyfrifedig y contract newydd arfaethedig fydd £1.4 miliwn. Ni fydd y contract arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad. Felly, yr ystyriaeth nesaf yw a yw’r trothwy newid sylweddol yn cael ei fodloni.

Gan ei fod yn rhywbeth y mae’r awdurdod perthnasol yn dymuno ei wneud, gellir ei briodoli i benderfyniad yr awdurdod perthnasol. Mae’r newid o £400,000 yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract yn 40% o werth oes amcangyfrifedig y contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol, ac mae hynny dros y trothwy o 25%. Fodd bynnag, ni fodlonir cymal olaf y trothwy gan fod y newid o dan y trothwy o £500,000 ac felly nid yw hyn yn newid sylweddol. Gall yr awdurdod perthnasol fwrw ymlaen â’r dull o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2.

C. Mae gan awdurdod perthnasol gontract gyda darparwr presennol, ac mae gwerth oes amcangyfrifedig y contract yn £10 miliwn. Mae’r contract yn dod i ben ac mae’r awdurdod perthnasol yn dymuno parhau â’r darparwr sydd wedi dod yn gyfrifol am sefydliad y darparwr presennol mewn caffaeliad diweddar. Mae’r darparwr sydd wedi caffael sefydliad y darparwr presennol yn bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol. Gwerth oes amcangyfrifedig y trefniadau contractio arfaethedig yw £10.2 miliwn.

Y newid yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract arfaethedig yw £200,000, sef 2% o werth oes amcangyfrifedig y contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol. Mae’r newid arfaethedig yn is na’r trothwy newid sylweddol o 25% a £500,000. Mae’r contract arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad oherwydd newid darparwr; fodd bynnag, yr unig reswm dros y newid sylweddol yw  newid yn hunaniaeth y darparwr oherwydd y newid corfforaethol. Felly, mae rheoliad 7(11) yn gymwys, a gall yr awdurdod perthnasol ddibynnu ar broses dyfarniad uniongyrchol 2 ar gyfer y trefniadau contractio arfaethedig.

D. Mae gan awdurdod perthnasol gontract gyda darparwr presennol, a gwerth oes amcangyfrifedig y contract yw £2 filiwn. Mae’r contract yn dod i ben ac mae’r awdurdod perthnasol yn dymuno parhau â’r darparwr presennol. Gwerth oes amcangyfrifedig y trefniadau contractio arfaethedig yw £2.6m. Ni fydd y contract arfaethedig yn sylweddol wahanol o ran cymeriad.

Y newid yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract arfaethedig yw £600,000, sef 30% o werth oes amcangyfrifedig y contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract presennol. Mae’r newid arfaethedig dros y trothwy o 25% a £500,000. Felly, mae’r trothwy newid sylweddol wedi’i fodloni; fodd bynnag, mae newid rhwng y trefniadau contractio presennol a’r rhai arfaethedig (£600,000), a hynny oherwydd newid yn nifer y cleifion y mae angen y gwasanaeth iechyd penodol arnynt. Yn hynny o beth, mae’r newid arfaethedig yn ymateb i ffactorau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod perthnasol a’r darparwr. Felly, mae rheoliad 7(12) yn gymwys, a gall yr awdurdod perthnasol ddibynnu ar broses dyfarniad uniongyrchol 2 ar gyfer y trefniadau contractio arfaethedig.

Canfod bod y darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol, a’i fod yn debygol o allu bodloni’r contract newydd i safon ddigonol

Unwaith y bydd yr awdurdod perthnasol wedi pennu nad yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol, rhaid iddo asesu a yw’r darparwr presennol:

  • yn bodloni’r contract presennol i safon ddigonol, yn unol â’r manylion a amlinellir yn y contract presennol, a chan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol
  • y bydd yn debygol o allu bodloni’r contract arfaethedig i safon ddigonol, yn unol â’r manylion a amlinellir yn y contract arfaethedig, gan ystyried meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol

I wneud hyn, rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu ar bwysigrwydd cymharol y meini prawf allweddol i’r gwasanaeth dan sylw, cyn asesu’r darparwr presennol mewn perthynas â phob un o’r meini prawf allweddol.

Rhaid i’r awdurdod perthnasol fod o’r farn, yn seiliedig ar ei asesiadau, fod y darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol ac yn debygol o allu bodloni’r contract arfaethedig i safon ddigonol. Rhaid i’r awdurdod perthnasol hefyd asesu a yw’r darparwr presennol yn parhau i fodloni’r meini prawf dethol sylfaenol.

Os nad yw Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 yn gymwys gan fod y trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol o’r contract presennol, neu os nad yw’r darparwr presennol yn bodloni’r contract presennol neu nad yw’n debygol o allu bodloni’r contract arfaethedig, rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas neu’r broses gystadleuol.

Rhaid i awdurdodau perthnasol gadw cofnodion o’r ystyriaethau hyn (gweler tryloywder) a’r penderfyniadau sy’n deillio ohonynt, gan ei bod yn bosibl y bydd angen iddynt ddatgelu gwybodaeth am y rhesymeg dros eu penderfyniad os gwneir sylwadau (gweler y cyfnod segur).

Y Broses Darparwr Mwyaf Addas

Diffinnir y broses y mae’n rhaid ei dilyn wrth ddyfarnu contract o dan y Broses Darparwr Mwyaf Addas yn Rheoliadau 7(5), 7(6), a 10.

Mae’r awdurdod perthnasol yn gallu nodi’r darparwr mwyaf addas heb gynnal ymarfer cystadleuol.

Nod y broses gaffael hon yw caniatáu i awdurdodau perthnasol wneud asesiad ynghylch pa ddarparwr (neu grŵp o ddarparwyr) sydd fwyaf addas i gyflawni’r trefniadau contractio arfaethedig yn seiliedig ar ystyriaeth o’r meini prawf allweddol a’r meini prawf dethol sylfaenol, a dyfarnu contract heb gynnal ymarfer cystadleuol.

Mae’r broses gaffael hon yn rhoi mecanwaith i awdurdodau perthnasol ar gyfer proses resymol a chymesur heb gynnal ymarfer cystadleuol. Mae’n addas ar gyfer amgylchiadau lle bo awdurdod perthnasol o’r farn, o ystyried darparwyr tebygol a’r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael iddo ar y pryd (gweler tirwedd darparwyr), ei fod yn debygol o allu nodi’r darparwr mwyaf addas i ddarparu’r gwasanaethau iechyd i’r boblogaeth berthnasol (lleol / rhanbarthol / cenedlaethol). Cynghorir awdurdodau perthnasol i ddilyn y dull caffael hwn dim ond pan fyddant yn hyderus y gallant, gan weithredu’n rhesymol, nodi’n glir yr holl ddarparwyr tebygol sy’n gallu darparu’r gwasanaethau iechyd a phasio unrhyw faen prawf neu is-faen prawf allweddol sydd wedi’i ddynodi fel pasio neu fethu.

Ni chaniateir defnyddio’r broses darparwr mwyaf addas i gwblhau cytundeb fframwaith nac i ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith.

Dilyn y broses gaffael hon

Caniateir dilyn y broses gaffael hon pan fo unrhyw un o’r canlynol yn gymwys:

  • nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1
  • mae’r awdurdod perthnasol yn newid trefniant contractio presennol yn sylweddol (fel na chaniateir parhau ag ef o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2)
  • mae gwasanaeth newydd yn cael ei drefnu
  • nid yw’r darparwr presennol eisiau darparu’r gwasanaethau mwyach
  • mae’r awdurdod perthnasol am ystyried darparwyr posibl (hyd yn oed pan nad yw’r trefniadau contractio arfaethedig yn newid sylweddol neu fel arall), gan fod hyn er lles pennaf pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, ond nad oes unrhyw fudd i gynnal proses gystadleuol neu mae’n anghymesur gwneud hynny

Wrth ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas:

  1. Cynghorir yr awdurdod perthnasol i ystyried unrhyw ddarpariaethau contractiol presennol perthnasol sy’n ymwneud â therfynu contract neu ymadael â chontract pan fo contract presennol gyda darparwr presennol ar waith, p’un ai yw’r darparwr presennol yn dymuno rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau neu ei fod yn methu â’u darparu mwyach.
  2. Cynghorir yr awdurdod perthnasol i ystyried cynnal ymarfer ymgysylltu â’r farchnad ymlaen llaw (gweler tirwedd darparwyr) i helpu i nodi’r holl ddarparwyr addas a datblygu manyleb y gwasanaeth.
  3. Rhaid i’r awdurdod perthnasol benderfynu ar bwysigrwydd cymharol pob un o’r meini prawf allweddol ar gyfer y gwasanaeth dan sylw (gweler meini prawf allweddol), gan ystyried pwysigrwydd cymharol y maen prawf gwerth yn ofalus. Ar gyfer prosesau caffael sydd â gwerthoedd contract uwch, cynghorir rhoi mwy o ffocws ar werth am arian ac ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau sydd i’w darparu, oni bai bod hyn yn golygu nad yw’r gwasanaeth yn diwallu orau anghenion y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu.
  4. Rhaid i’r awdurdod perthnasol fod o’r farn, drwy ystyried darparwyr y mae’n deall eu bod yn debygol o fod â’r gallu i ddarparu gwasanaethau i’r boblogaeth (leol / ranbarthol / genedlaethol) berthnasol, a’r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael ar y pryd (gweler tirwedd darparwyr), ei fod yn debygol o allu nodi’r darparwr mwyaf addas.
  5. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad yn nodi ei fwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas (gweler tryloywder). Ni chaiff fwrw ymlaen i asesu darparwyr tebygol tan o leiaf 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o fwriad i’w gyhoeddi. Fe’i cynghorir hefyd i sicrhau bod darparwyr posibl yn ymwybodol eu bod yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarnu’r contract.
  6. Cynghorir yr awdurdod perthnasol i ofyn i’r darparwyr y nododd eu bod yn debygol o allu darparu gwasanaethau i’r boblogaeth berthnasol (lleol / rhanbarthol / cenedlaethol), ac unrhyw ddarparwr neu ddarparwyr a ymatebodd i’r hysbysiad yn cyhoeddi’r bwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas, am ragor o wybodaeth a fyddai’n helpu’r broses gaffael, yn ôl yr angen.
  7. Rhaid i’r awdurdod perthnasol nodi darparwyr posibl a allai fod y darparwr mwyaf addas, gan ystyried y darparwyr y mae’n deall eu bod yn debygol o fod â’r gallu i ddarparu gwasanaethau i’r boblogaeth (leol / ranbarthol / genedlaethol) berthnasol ac unrhyw ddarparwr neu ddarparwyr a ymatebodd i’w hysbysiad yn cyhoeddi’r bwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas, gan gyfeirio at y meini prawf allweddol a’r meini prawf dethol sylfaenol.
  8. Rhaid i’r awdurdod perthnasol asesu’r darparwyr posibl a nodwyd, gan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol, a’r meini prawf gwahardd a nodir yn rheoliadau 25 a 26, mewn ffordd deg ar draws y darparwyr (hynny yw ar yr un sail), a dethol y darparwr neu’r darparwyr mwyaf addas i ddyfarnu contract iddo neu iddynt.
  9. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad yn cynnwys ei fwriad i ddyfarnu’r contract i’r darparwr dethol (gweler tryloywder) a chadw at y cyfnod segur (gweler y cyfnod segur).
  10. Caiff yr awdurdod perthnasol ymrwymo i gontract gyda’r darparwr dethol ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben.
  11. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau dyfarnu’r contract o fewn 30 diwrnod i’r contract gael ei ddyfarnu.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’u gwybodaeth sefydledig am ddarparwyr posibl (gweler tirwedd darparwyr). Caiff awdurdodau perthnasol gysylltu â darparwyr a gofyn am wybodaeth yn ôl yr angen, ond fe’u cynghorir i ddefnyddio dull cymesur.

Rhaid i awdurdodau perthnasol allu dangos eu bod wedi deall y darparwyr amgen a dod i benderfyniad rhesymol wrth ddethol darparwr, ond nid oes angen i hyn fod drwy ymarfer cystadleuol ffurfiol. Rhaid i awdurdodau perthnasol gadw cofnodion cadarn o’r ystyriaethau hyn a dilyn y gofynion tryloywder perthnasol (gweler tryloywder). Mae’n bosibl y bydd angen iddynt ddatgelu gwybodaeth am y rhesymeg dros eu penderfyniad os gwneir sylwadau (gweler y cyfnod segur).

Os nad oes gan yr awdurdod perthnasol ddigon o wybodaeth i wneud asesiad o dan y Broses Darparwr Mwyaf Addas ar unrhyw adeg yn ystod y broses, er enghraifft, oherwydd na chafodd ddigon o wybodaeth i helpu ei broses gaffael, fe’i cynghorir i ddefnyddio’r broses gystadleuol. Os yw’r awdurdod perthnasol yn methu â nodi’r darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) mwyaf addas, rhaid iddo ddilyn y Broses Gystadleuol i ddewis darparwr neu roi’r gorau i’r broses gaffael yn llwyr yw hynny’n briodol.

Os bydd yr awdurdod perthnasol yn penderfynu newid o’r broses darparwr mwyaf addas i naill ai broses dyfarniad uniongyrchol 2 neu’r broses gystadleuol ar ôl iddo gyhoeddi bwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas, rhaid i’r awdurdod perthnasol roi’r gorau i’r broses darparwr mwyaf addas cyn dechrau Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 neu’r broses gystadleuol.

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried y gwaharddiadau yn rheoliadau 25 a 26 a’u cymhwyso fel y bo’n briodol.

Rhagor o wybodaeth

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ddatblygu a chynnal gwybodaeth ddigon manwl am ddarparwyr perthnasol sydd â’r gallu i ddiwallu anghenion cleifion o fewn yr ôl troed daearyddol perthnasol, y gellir ei defnyddio i nodi darparwyr addas (gweler tirwedd darparwyr). Caiff awdurdodau perthnasol nodi darparwyr addas drwy ymchwil i’r farchnad, ymgysylltu’n rheolaidd â darparwyr, cofrestrau o ddarparwyr perthnasol neu ymatebion i’w hysbysiad o’u bwriad i ddilyn y Broses Darparwr Mwyaf Addas.

Y Broses Gystadleuol

Mae Rheoliadau 7(5), 7(6), 7(7) a Rheoliad 11 yn nodi’r broses y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol ei dilyn wrth ddyfarnu contract o dan y Broses Gystadleuol.

Cynnal ymarfer caffael cystadleuol

Rhaid dilyn y broses gaffael hon pan nad yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ddilyn proses dyfarnu uniongyrchol 1, neu pan nad yw’r awdurdod perthnasol yn gallu neu’n dymuno dilyn proses dyfarnu uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas (er enghraifft, am nad yw wedi gallu nodi darparwr mwyaf addas neu am ei fod yn dymuno profi’r farchnad).

Rhaid defnyddio’r broses gaffael hon wrth gwblhau cytundeb fframwaith (gweler cytundebau fframwaith).

Dilyn y broses gaffael hon

Rhaid cadw at y camau a amlinellir yn y rheoliadau a’r gofynion tryloywder. Caniateir i awdurdodau perthnasol bennu gweithdrefnau ychwanegol i’w cymhwyso wrth ddethol darparwr gan ddefnyddio’r broses gystadleuol, gan ystyried manylion y gwasanaethau sy’n cael eu caffael er mwyn dylunio gweithdrefn bwrpasol.

Wrth ddilyn y Broses Gystadleuol:

  1. Bydd angen i awdurdodau perthnasol ddatblygu manyleb gwasanaeth sy’n nodi gofynion yr awdurdod perthnasol ar gyfer y gwasanaeth. Wrth wneud hynny, gall awdurdod perthnasol ystyried cynnal ymarfer ymgysylltu â’r farchnad ymlaen llaw.
  2. Rhaid i awdurdodau perthnasol bennu meini prawf dyfarnu’r contract neu’r fframwaith ar gyfer y gwasanaeth sy’n cael ei gaffael, gan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso’r meini prawf dethol sylfaenol (gweler meini prawf allweddol a meini prawf dethol sylfaenol).
  3. Rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi’n ffurfiol y cyfle i wneud cais (gweler tryloywder) a sicrhau bod darparwyr yn cael amserlen resymol i ymateb. Wrth gyhoeddi’r cyfle, rhaid cynnwys gwybodaeth am sut y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu, gan gynnwys a fydd y meini prawf dyfarnu yn cael eu hasesu fesul cam.
  4. Rhaid i awdurdod perthnasol asesu unrhyw geisiadau a dderbynnir drwy ddilyn y broses asesu – hynny yw, yn erbyn y meini prawf dyfarnu, a’r meini prawf gwahardd a nodir yn rheoliadau 25 a 26 mewn ffordd deg ar draws pob cais (hynny yw ar yr un sail). Gellir gwneud hyn fesul cam, yn unol â cham 3 uchod.
  5. Rhaid i awdurdod perthnasol nodi’r darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) llwyddiannus.
  6. Rhaid i awdurdod perthnasol hysbysu’r darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) llwyddiannus yn ysgrifenedig o’i fwriad i ddyfarnu contract neu i gwblhau cytundeb fframwaith a rhaid iddo hefyd hysbysu pob darparwr aflwyddiannus yn ysgrifenedig fod ei gais wedi bod yn aflwyddiannus.
  7. Rhaid i awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad o’i fwriad i ddyfarnu’r contract i / cwblhau cytundeb fframwaith gyda’r darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) dethol (gweler tryloywder) a chadw at y cyfnod segur (gweler y cyfnod segur).
  8. Caiff awdurdod perthnasol ymrwymo i gontract neu gwblhau cytundeb fframwaith gyda’r darparwr (neu’r grŵp o ddarparwyr) dethol ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben.
  9. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau dyfarnu’r contract o fewn 30 diwrnod i’r contract gael ei ddyfarnu.

Mae’r meini prawf dyfarnu y cyfeirir atynt uchod yn cynnwys y meini prawf dethol sylfaenol, y meini prawf allweddol ac unrhyw elfennau eraill o ddyfarnu’r contract. Gellir asesu’r cydrannau hyn fesul cam - er enghraifft, efallai y bydd darparwr nad yw’n bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol yn cael ei ddiystyru heb asesiad pellach.

Caiff awdurdodau perthnasol gymryd rhan mewn deialog neu negodi gyda’r holl gynigwyr neu gyda chynigwyr ar y rhestr fer cyn penderfynu i bwy i ddyfarnu contract a chyda’r nod o wella ar gynigion cychwynnol, ar yr amod eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chymesur ac yn trin pob cynigiwr yn gyfartal.

Rhaid i awdurdodau perthnasol gadw cofnodion o’r weithdrefn a ddilynir i ddethol darparwr (gan gynnwys manylion y weithdrefn bwrpasol), o sut y perfformiodd pob cais yn erbyn y meini prawf dyfarnu a’r rhesymeg dros ddethol y cynigiwr llwyddiannus (gweler tryloywder).

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried y gwaharddiadau yn rheoliadau 25 a 26 a’u cymhwyso fel y bo’n briodol.

Cytundebau fframwaith

Diffinnir cytundebau fframwaith yn Rheoliad 16.

Caiff awdurdodau perthnasol sefydlu cytundebau fframwaith o dan y Rheoliadau i drefnu gwasanaethau iechyd sydd o fewn cwmpas y Gyfundrefn (neu sy’n cael eu categoreiddio fel caffaeliadau cymysg o fewn y Gyfundrefn).

Beth yw cytundeb fframwaith?

Mae cytundebau fframwaith at ddibenion y gyfundrefn hon yn gytundebau mewn perthynas â gwasanaethau iechyd sydd o fewn cwmpas y gyfundrefn hon rhwng un neu ragor o awdurdodau perthnasol ac un neu ragor o ddarparwyr. Mae cytundebau fframwaith yn nodi’r telerau a’r amodau y caiff y darparwr ymrwymo i un neu agor o gontractau ag awdurdod perthnasol ar eu sail, yn ystod y cyfnod y mae’r cytundeb fframwaith ar waith.

Rhaid i’r awdurdod perthnasol (neu’r awdurdodau perthnasol) a gaiff ddyfarnu contractau ar sail y cytundeb fframwaith gael eu nodi yn y cytundeb fframwaith (naill ai wrth eu henw neu drwy ddisgrifio’r math o awdurdod perthnasol). Rhaid i gontractau a ddyfernir ar sail cytundeb fframwaith fod rhwng yr awdurdod perthnasol (neu’r awdurdodau perthnasol) a nodwyd yn y cytundeb fframwaith, a darparwr sy’n barti i’r cytundeb fframwaith, yn unig.

Ni ddylai cytundeb fframwaith bara mwy nag wyth mlynedd, ac eithrio mewn achosion eithriadol pan fo’r awdurdod perthnasol wedi’i fodloni bod pwnc y cytundeb fframwaith yn cyfiawnhau tymor hwy.

Caniateir addasu telerau ac amodau cytundeb fframwaith yn unol â’r gofynion ar gyfer addasu contractau ar gyfer y gyfundrefn hon (gweler addasu contract).

Cwblhau cytundeb fframwaith

Mae’r broses y mae’n rhaid ei dilyn wrth gwblhau cytundeb fframwaith wedi’i nodi yn Rheoliad 16.

Mae’r broses y mae’n rhaid ei dilyn wrth ychwanegu darparwyr at gytundeb fframwaith presennol wedi’i nodi yn Rheoliad 17.

Wrth gwblhau cytundeb fframwaith, rhaid i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r broses gystadleuol i ddethol darparwr neu ddarparwyr i fod yn barti i’r cytundeb fframwaith.

Yn ystod cyfnod cytundeb fframwaith, rhaid i’r awdurdod perthnasol ddechrau proses gystadleuol i ganiatáu i ddarparwyr pellach gael eu dethol i fod yn barti i’r cytundeb fframwaith. Rhaid cychwyn hyn o leiaf unwaith yn ystod pedair blynedd gyntaf y cytundeb fframwaith cychwynnol, ac o leiaf unwaith yn y pedair blynedd wedi hynny.

Cytundeb fframwaith, enghreifftiau pellach o’r broses gystadleuol

Yn ystod cyfnod y cytundeb fframwaith, mae’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ganiatáu i ddarparwyr pellach gael eu dethol i fod yn barti i’r cytundeb fframwaith.

Enghraifft A: caiff cytundeb fframwaith ei gwblhau ar gyfer cyfnod o 6 blynedd o dan y Rheoliadau, rhwng 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2031

Mae’r awdurdod perthnasol yn penderfynu ei bod yn briodol cynnal ymarfer cystadleuol pellach i ddethol darparwyr ychwanegol i fod yn barti i’r cytundeb fframwaith pan fo’n flwyddyn ers dyfarnu’r cytundeb fframwaith cychwynnol (hynny yw ar 1 Ebrill 2026, a chaiff ei gynnal o fewn y pedair blynedd ers dyfarnu’r fframwaith i fodloni gofyniad rheoliad 17(2)(a)). Yna mae’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol gynnal ymarfer cystadleuol arall er mwyn i ddarparwyr ychwanegol fod yn barti i’r cytundeb fframwaith erbyn y bumed flwyddyn ers dyfarnu’r cytundeb fframwaith cychwynnol (1 Ebrill 2030). Wrth gwblhau’r ymarfer cystadleuol pellach erbyn 1 Ebrill 2030, bydd yr awdurdod perthnasol o fewn y pedair blynedd ers cychwyn y Broses Gystadleuol gyntaf i ddethol darparwyr ychwanegol (pen y flwyddyn gyntaf – 2 Ebrill 2026), gan fodloni’r gofynion a nodir o dan reoliad 17(2)(b). 

Enghraifft B: cytundeb fframwaith a ddyfernir am gyfnod o 8 mlynedd o dan y Rheoliadau, 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2033

Mae’r awdurdod perthnasol yn penderfynu ei bod yn briodol cynnal ymarfer cystadleuol pellach bedair blynedd i ddyddiad dyfarnu’r cytundeb fframwaith 8 mlynedd cychwynnol gyntaf (1 Ebrill 2029, a gychwynnir o fewn y pedair blynedd cyntaf ers dyfarnu’r fframwaith gan fodloni rheoliad 17(2)(a)). Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ymgymryd ag ymarfer cystadleuol arall er mwyn i ddarparwyr ychwanegol wneud cais a chael eu hasesu, i fodloni rheoliad 17(2)(b) oherwydd bod y cyfnod o bedair blynedd a dyddiad dod i ben y cytundeb fframwaith yn gydamserol.

Nid oes cyfyngiad ar awdurdodau perthnasol o ran y nifer o weithiau y maent yn cychwyn prosesau cystadleuol i ddethol darparwyr ychwanegol ar gyfer cytundeb fframwaith. Caiff awdurdodau perthnasol benderfynu ei bod yn briodol agor cytundeb fframwaith i ddarparwyr pellach yn amlach na’r cyfnod gofynnol a nodir yn y rheoliadau. Dylai awdurdodau perthnasol sicrhau bod amlder agor y cytundeb fframwaith yn dryloyw, yn deg ac yn gymesur.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i nodi sut a phryd y bydd cytundeb fframwaith yn cael ei agor ar gyfer dethol darparwyr ychwanegol o fewn telerau ac amodau’r cytundeb fframwaith hwnnw. Rhaid i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r dull ar gyfer y Broses Gystadleuol i ddethol darparwyr ychwanegol ar gyfer y cytundeb fframwaith, a chynghorir awdurdodau perthnasol i ddefnyddio’r un meini prawf dyfarnu ag a ddefnyddiwyd wrth sefydlu’r cytundeb fframwaith gwreiddiol.

Wrth gwblhau cytundeb fframwaith, rhaid i awdurdodau perthnasol nodi hyd y cytundeb fframwaith a pha awdurdodau perthnasol a all ddyfarnu contractau yn seiliedig ar y cytundeb fframwaith. Mae disgwyl i’r awdurdodau perthnasol nodi:

  • y gweithdrefnau ar gyfer trefniant yn ôl y gofyn o dan y cytundeb fframwaith
  • y telerau a’r amodau ar gyfer unrhyw gontractau a ddyfernir yn seiliedig ar y cytundeb fframwaith
  • sut y gellir ychwanegu darparwyr ychwanegol at y cytundeb fframwaith yn ddiweddarach

Ni chaiff awdurdodau perthnasol gwblhau cytundeb fframwaith gyda darparwr a chânt wahardd darparwr o’r broses gaffael os yw’r darparwr yn bodloni’r meini prawf gwahardd a nodir yn rheoliadau 22 a 23. Cynghorir awdurdodau perthnasol i nodi yn nhelerau ac amodau eu cytundeb fframwaith y caniateir iddynt dynnu darparwr o’r cytundeb fframwaith os yw’r darparwr hwnnw’n bodloni’r meini prawf gwahardd.

Dyfarnu contractau yn seiliedig ar gytundeb fframwaith

Diffinnir y prosesau y mae’n rhaid eu dilyn wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith yn Rheoliadau 18, 19, 20 a 21.

Dim ond awdurdodau perthnasol y nodir eu bod yn gallu dyfarnu contractau o dan y cytundeb fframwaith a gaiff ddyfarnu contractau i ddarparwyr sy’n barti i’r cytundeb fframwaith hwnnw. Caiff awdurdodau perthnasol benderfynu bod y meini prawf ar gyfer dyfarnu contractau o dan gytundeb fframwaith yn wahanol i’r meini prawf dyfarnu ar gyfer cwblhau’r fframwaith.

Rhaid i awdurdodau perthnasol ddyfarnu contract o dan gytundeb fframwaith yn unol â thelerau ac amodau’r cytundeb fframwaith hwnnw.

Caiff awdurdodau perthnasol ddyfarnu contract yn seiliedig ar fframwaith yn un o’r ffyrdd canlynol:

  • heb gystadleuaeth os yw’r cytundeb fframwaith yn cynnwys un darparwr yn unig (cytundeb fframwaith darparwr sengl) o dan Reoliad 19 a chyhoeddi hysbysiad o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract gan ddefnyddio’r wybodaeth a nodir yn Atodlen 3)
  • os yw’r cytundeb fframwaith yn cynnwys mwy nag un darparwr, dewis a ddylid dyfarnu’r contract:
    • a) gyda chystadleuaeth a dan Reoaliad 20
    • b) heb gystadleuaeth (drwy ddyfarniad uniongyrchol) o dan Reoliad 21

Ym mhob un o’r senarios hyn, rhaid i awdurdodau perthnasol wneud penderfyniadau yn unol â’r cytundeb fframwaith.

Os ydynt yn dyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth (drwy fini-gystadleuaeth), rhaid i awdurdodau perthnasol ddilyn y camau yn Rheoliad 20:

  • gwahodd yr holl ddarparwyr perthnasol sy’n barti i’r cytundeb fframwaith i gyflwyno cynnig i ddarparwr y gwasanaethau iechyd perthnasol, gan gynnwys yr wybodaeth a nodwyd yn Atodlen 16
  • dilyn telerau ac amodau’r cytundeb fframwaith, gan gynnwys sut y mae’n rhaid i gystadlaethau gael eu cynnal wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar y cytundeb fframwaith hwnnw (os yw hyn wedi’i nodi)
  • asesu unrhyw gynigion a gafwyd a rhoi gwybod i ddarparwyr llwyddiannus ac aflwyddiannus am y canlyniad
  • cyflwyno hysbysiad o fwriad i ddyfarnu i’r darparwr dewisol ar gyfer ei gyhoeddi gan gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 11 a chadw at gyfnod segur yn unol â Rheoliad 12(4)
  • os ceir sylwadau ysgrifenedig, mae’n rhaid i’r awdurdod perthnasol gadw at ofynion Rheoliad 12 a rhoi gwybod i ddarparwyr am y penderfyniadau pellach o ran dyfarnu contract, ailadrodd y camau yn y broses, neu roi’r gorau i gaffael
  • os na cheir sylwadau ysgrifenedig, caiff yr awdurdod perthnasol symud ymlaen i ddyfarnu’r contract i’r darparwr dewisol ac mae’n rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad o’r dyfarniad o gontract o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract gan ddefnyddio’r wybodaeth a nodwyd yn Atodlen 12 (gweler tryloywder ac Atodiad B)

Os yw’n dyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth (drwy ddyfarniad uniongyrchol) rhaid i’r awdurdodau perthnasol ddilyn y camau yn Rheoliad 21:

  • cyflwyno hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract i’r darparwr dewisol ar gyfer ei gyhoeddi gan gynnwys yr wybodaeth a nodir yn atodlen 2 a chadw at gyfnod segur yn unol â Rheoliad 12(4)
  • os ceir sylwadau ysgrifenedig, mae’n rhaid i’r awdurdod perthnasol gadw at ofynion Rheoliad 12 a rhoi gwybod i ddarparwyr am y penderfyniadau pellach o ran dyfarnu contract, ailadrodd y camau yn y broses, neu roi’r gorau i gaffael
  • os na cheir sylwadau ysgrifenedig erbyn diwedd y cyfnod segur, caiff yr awdurdod perthnasol symud ymlaen i ddyfarnu’r contract i’r darparwr dewisol ac mae’n rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad o’r dyfarniad o gontract o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract gan ddefnyddio’r wybodaeth a nodwyd yn Atodlen 3 (gweler tryloywder ac Atodiad B).

Wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith, caiff cyfnod y contract fod yn fwy na hyd y cytundeb fframwaith.

Disgwylir i gontractau a ddyfernir o gytundeb fframwaith beidio â bod yn fwy na chyfanswm gwerth oes amcangyfrifedig y cytundeb fframwaith.

Rhoi’r gorau i broses gaffael

Mae’r broses y mae’n rhaid ei dilyn wrth roi’r gorau i broses gaffael wedi’i nodi yn Rheoliad 15.

Mae cynnwys yr hysbysiad sy’n cadarnhau’r penderfyniad i roi’r gorau i broses gaffael wedi’i nodi yn Atodlen 17.

Caiff awdurdodau perthnasol benderfynu rhoi’r gorau i’r broses gaffael (a pheidio â dyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith) ar unrhyw adeg cyn dyfarnu, cyn belled ag y bo’r penderfyniad hwn yn dryloyw, yn deg ac yn gymesur. Os bydd awdurdod perthnasol yn penderfynu rhoi’r gorau i broses gaffael yn ystod y cyfnod segur, dim ond ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben y caiff yr awdurdod roi’r gorau i’r broses gaffael.

Ar ôl penderfynu rhoi’r gorau i broses gaffael, disgwylir i awdurdodau perthnasol hysbysu darparwyr a oedd yn cael eu hystyried ar gyfer contract neu gytundeb fframwaith (er enghraifft mewn ymateb i dendr o dan y Broses Gystadleuol) y rhoddwyd y gorau i’r broses. Rhaid i awdurdodau perthnasol hefyd gyflwyno hysbysiad o’r penderfyniad i roi’r gorau iddi a rhaid iddynt gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 17. Rhaid cyflwyno’r hysbysiad hwn o fewn 30 diwrnod i’r penderfyniad i roi’r gorau i broses gaffael, neu os gwnaed y penderfyniad yn ystod y cyfnod segur, o fewn 30 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod segur. Pan wneir y penderfyniad i roi’r gorau i broses gaffael yn ystod y cyfnod segur, rhaid i awdurdodau perthnasol sicrhau eu bod yn dilyn y camau angenrheidiol a nodir yn rheoliad 12 (gweler y cyfnod segur).

Rhaid i awdurdodau perthnasol hefyd gadw cofnod o’u rhesymu dros roi’r gorau i broses gaffael (gweler cadw cofnodion).

Ailadrodd cam mewn proses gaffael

Nodir y broses y mae’n rhaid ei dilyn wrth ddychwelyd i gam cynharach yn y broses gaffael ac ailadrodd camau yn rheoliad 15.

Wrth ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, y Broses Darparwr Mwyaf Addas neu’r broses gystadleuol, caiff awdurdodau perthnasol ddewis dychwelyd i gam cynharach mewn proses gaffael. Rhaid i bob darparwr sydd wedi’i hysbysu’n flaenorol ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer dyfarniad contract, neu i fod yn barti i gytundeb fframwaith, gael ei hysbysu’n ysgrifenedig fod yr awdurdod perthnasol yn dychwelyd i gam cynharach yn y broses gaffael, gan gynnwys y cam ac unrhyw newidiadau i amserlenni. Pan wneir y penderfyniad i ddychwelyd i gam cynharach mewn proses gaffael yn ystod y cyfnod segur, rhaid i awdurdodau perthnasol sicrhau eu bod yn dilyn y camau angenrheidiol a nodir yn Rheoliad 12. Er mwyn osgoi amheuaeth, os yw’r awdurdod perthnasol yn ailadrodd cam fel ymateb i sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod segur, nid oes angen iddo gyfleu’r penderfyniad hwn ddwywaith (gweler y cyfnod segur).

Ni ddylai awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r opsiwn i ddychwelyd i gam cynharach mewn proses gaffael fel cyfle i addasu’r paramedrau dethol (h.y. addasu’r meini prawf allweddol neu newid manylebau’r gwasanaeth). Os oes angen i awdurdodau perthnasol addasu’r paramedrau dethol dylent roi’r gorau i’r broses gaff(yn unol â’r rheoliadau) a dechrau un newydd.

Adran 4: meini prawf allweddol

Trosolwg

Diffinnir meini prawf allweddol y rheoliadau yn Rheoliad 6.

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried pum maen prawf allweddol wrth wneud penderfyniadau caffael o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas, y broses gystadleuol, ac wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth o dan y Gyfundrefn.  Mae atodiad D i’r canllawiau hyn yn rhoi manylion am yr hyn y mae pob maen prawf yn ei gwmpasu. I grynhoi, mae’r meini prawf hyn fel a ganlyn:

  • ansawdd, hynny yw yr angen i sicrhau gwasanaethau o ansawdd da
  • gwerth, hynny yw yr angen i ymdrechu i sicrhau gwerth da o ran cydbwysedd costau, manteision cyffredinol, a goblygiadau ariannol trefniant contractio arfaethedig
  • cydweithredu a chynaliadwyedd gwasanaethau, hynny yw y graddau y gellir darparu gwasanaethau:
    • mewn ffordd gydweithredol
    • mewn ffordd gynaliadwy (sy’n cynnwys sefydlogrwydd gwasanaethau iechyd o ansawdd da neu barhad gwasanaethau iechyd)
    • mewn ffordd sy’n gwella canlyniadau iechyd
  • gwella mynediad a lleihau anghydraddoldebau iechyd, hynny yw sicrhau hygyrchedd gwasanaethau a thriniaethau ar gyfer pob claf cymwys a gwella anghydraddoldebau iechyd
  • cyfrifoldeb cymdeithasol, hynny yw a allai’r hyn a gynigir wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn yr ardal ddaearyddol sy’n berthnasol i drefniant contractio arfaethedig

Cymhwyso meini prawf allweddol

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried pob un o’r meini prawf allweddol yn y Gyfundrefn wrth wneud penderfyniadau o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas, y broses gystadleuol (gan gynnwys wrth gwblhau cytundeb fframwaith ac wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth). Rhaid i awdurdodau perthnasol allu cyfiawnhau eu penderfyniadau wrth ddilyn y prosesau caffael hyn mewn perthynas â’r meini prawf allweddol, a chadw cofnod o hyn. Ceir rhagor o fanylion am gofnodi prosesau caffael a thryloywder yn yr adran tryloywder.

Caiff y ffordd y mae awdurdodau perthnasol yn asesu darparwyr yn erbyn y meini prawf allweddol, gan gynnwys pa dystiolaeth y maent yn ei hystyried, amrywio yn ôl y gwasanaeth y maent am ei gaffael. Mae’n bosibl y bydd awdurdod perthnasol yn dymuno mynd i’r afael â blaenoriaethau penodol; disgwylir i’r rhain gael eu disgrifio fel rhan o’r meini prawf allweddol a gellir eu hystyried wrth benderfynu ar bwysigrwydd cymharol y meini prawf allweddol.

Rhaid i awdurdodau perthnasol fod yn ymwybodol bod dyletswyddau cydraddoldeb yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, yn berthnasol i’r holl feini prawf, a rhaid rhoi sylw dyladwy i’r gofynion hyn wrth ystyried pob maen prawf.

Cydbwyso’r meini prawf allweddol

Nid yw pwysigrwydd cymharol y meini prawf allweddol yn cael ei bennu ymlaen llaw gan y Rheoliadau na’r canllawiau hyn ac nid oes hierarchaeth na phwysoliad rhagnodedig ar gyfer pob maen prawf. Rhaid i awdurdodau perthnasol benderfynu ar bwysigrwydd cymharol y meini prawf allweddol ar gyfer pob penderfyniad a wnânt o dan y Gyfundrefn hon, yn seiliedig ar y trefniadau contractio arfaethedig a’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni drwyddynt/drwy’r gwasanaethau, gan gynnwys senarios pan fo maen prawf penodol yn un ‘pasio/ methu’, neu pan fo meini prawf allweddol penodol yr un mor bwysig â’i gilydd. Rhaid ystyried pob maen prawf, ac ni ddisgwylir i unrhyw un gael ei ddiystyru wrth ddilyn proses gaffael.

Nid yw’r Gyfundrefn yn nodi sut y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol gydbwyso’r meini prawf allweddol; fodd bynnag, disgwylir i awdurdodau perthnasol fod yn ymwybodol o ofynion neu ddyletswyddau ehangach wrth ystyried penderfyniadau caffael. Er enghraifft, mae disgwyl i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig lynu wrth uchelgeisiau sero net a chyllideb garbon Llywodraeth Cymru, Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023, Datganiad Polisi Caffael Cymru, “Cymru Iachach”, a’r angen i sicrhau gwerth am arian wrth drefnu gwasanaethau iechyd (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr). Nid yw’r hyblygrwydd a gynigir gan y Gyfundrefn yn golygu bod awdurdodau perthnasol yn esempt rhag cydymffurfio â’u rhwymedigaethau eraill.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried yn arbennig o ofalus bwysigrwydd cymharol y maen prawf gwerth wrth wneud asesiadau o dan y broses darparwr mwyaf addas.

Ar gyfer prosesau caffael sydd â gwerthoedd contract uwch, cynghorir y dylid rhoi mwy o ffocws ar werth am arian ac ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau sydd i’w darparu, oni bai bod hyn yn golygu nad yw’r gwasanaeth yn diwallu anghenion y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu.

Wrth wneud asesiadau yn erbyn y meini prawf allweddol o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2 a’r broses darparwr mwyaf addas, disgwylir i awdurdodau perthnasol ddefnyddio gwybodaeth a thystiolaeth o ystod o ffynonellau, yn ogystal â’u gwybodaeth a’u profiad o weithio gyda darparwyr. Gallant ofyn i ddarparwyr am ragor o wybodaeth i gynorthwyo gyda’r asesiad hwn os dymunant. Mae’r esboniad o bob maen prawf yn atodiad D yn cynnwys enghreifftiau o ffynonellau perthnasol pan fo hynny’n briodol.

Wrth ddilyn y broses gystadleuol a dyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth, ni chaiff awdurdodau perthnasol ond defnyddio’r wybodaeth a gynhwysir yn y cynnig i asesu’r cynnig, ac eithrio wrth gymhwyso gwaharddiadau Rheoliadau 25 a 26. Caiff awdurdodau perthnasol nodi yn eu dogfennau tendro y bydd darparwr sy’n camliwio cynnig yn fwriadol yn cael ei wahardd o’r broses gaffael.

Rhaid i awdurdodau perthnasol gyfiawnhau a chofnodi sut y maent wedi rhoi pwysigrwydd cymharol i bob un o’r meini prawf allweddol ar gyfer y gwasanaeth y maent yn ei drefnu. Ceir rhagor o fanylion am gofnodi’r broses gaffael yn yr adran tryloywder.

Rhaid i awdurdodau perthnasol sicrhau eu bod yn cyflawni dyletswyddau statudol perthnasol eraill wrth benderfynu ar bwysigrwydd cymharol pob un o’r meini prawf, gan gynnwys egwyddorion caffael cyfraith gyhoeddus arferol ynghylch rhesymoldeb penderfyniadau. Disgwylir hefyd i awdurdodau perthnasol ystyried polisïau cenedlaethol a lleol a chanllawiau anstatudol eraill wrth benderfynu ar bwysigrwydd cymharol pob un o’r meini prawf.

Rhagor o fanylion

Ceir rhagor o fanylion am sut y disgwylir i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r meini prawf allweddol yn Atodiad D.

Adran 5: tryloywder

Mae Rheoliad 24 yn nodi’r broses i’w dilyn pan fo’n ofynnol i awdurdodau perthnasol gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi o dan y Rheoliadau.

Manylir ar y gofynion cadw gwybodaeth perthnasol yn Rheoliad 30.

Mae’r gofynion ar gyfer yr hysbysiadau tryloywder, gan gynnwys cynnwys yr hysbysiadau, wedi’u nodi yn Atodlenni 2 i 18.

Mae Rheoliad 23 yn nodi’r amgylchiadau lle bydd awdurdodau perthnasol wedi’u heithrio rhag cyhoeddi ‘gwybodaeth fasnachol sensitif’.

Mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol ddangos tystiolaeth eu bod wedi arfer yn briodol y cyfrifoldebau a’r hyblygrwydd a roddir iddynt gan y Gyfundrefn, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau a wneir am wasanaethau iechyd yn destun craffu ac atebolrwydd priodol. Mae’r adran hon yn nodi’r camau y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol eu cymryd i fod yn dryloyw yn eu proses gaffael o dan y Gyfundrefn hon.

Mae sawl elfen i’r gofynion tryloywder o dan y Gyfundrefn hon – mae’r rhain yn gymwys mewn ffyrdd gwahanol yn ôl pa broses gaffael sy’n cael ei chymhwyso. Mae Atodiad B yn darparu gwybodaeth fanwl am y gofynion tryloywder ar gyfer pob proses o dan y Rheoliadau. Rhaid i awdurdodau perthnasol ddilyn y gofynion tryloywder sy’n berthnasol i’r dull sy’n cael ei ddilyn.

Mewn rhai amgylchiadau, nid oes rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi gwybodaeth mewn hysbysiadau y mae’n ei ystyried yn “wybodaeth fasnachol sensitif” fel y diffinnir yn Rheoliad 23(2). Mae Atodiad B yn rhoi manylion pellach.

O dan yr holl amgylchiadau, rhaid i awdurdodau perthnasol gadw cofnodion mewnol o’u prosesau caffael a rhaid iddynt gyhoeddi hysbysiadau yn cadarnhau eu penderfyniad i ddyfarnu contract.

Wrth ddilyn y broses darparwr mwyaf addas, rhaid i awdurdodau perthnasol hefyd wneud eu bwriadau’n glir ymlaen llaw drwy gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi.

Wrth ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 1, proses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas, y broses gystadleuol (gan gynnwys wrth gwblhau cytundeb fframwaith) ac wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda neu heb gystadleuaeth, rhaid i awdurdodau perthnasol hefyd gyfleu eu penderfyniad i ddyfarnu contract yn gyhoeddus a chadw at gyfnod segur y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynddo. Rhaid i’r cyfnod segur ddod i ben cyn y gellir dyfarnu contractau.

Rhaid cyhoeddi’r holl hysbysiadau tryloywder y cyfeirir atynt yn yr adran hon gan ddefnyddio’r platfform digidol canolog, Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS) drwy gyflwyno hysbysiad yn gyntaf ar blatfform digidol Cymru, GwerthwchiGymru (S2W). Os na fydd y platfform digidol Cymreig (S2W) ar gael, caiff awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad neu wybodaeth ar y platfform digidol canolog (FTS) neu ar FTS drwy ddefnyddio system ar-lein arall. Os nad yw’r platfform digidol Cymreig ar gael, dylid ystyried bod hyn yn bodloni’r gofyniad i gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi, unwaith y bodlonir amodau penodol.

Os nad yw’r platfform digidol canolog ar gael, caiff awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi ar y platfform digidol Cymreig yn unig, neu os nad yw’r platfform digidol Cymreig ar gael ychwaith, ar system ar-lein arall. Rhaid i awdurdod perthnasol sy’n defnyddio’r platfform digidol Cymreig (S2W) neu system ar-lein arall gydweithredu â Swyddfa’r Cabinet i sicrhau y cyhoeddir yr hysbysiad neu’r wybodaeth wedyn ar y platfform digidol canolog fel bod modd i ddarparwyr ac aelodau o’r cyhoedd weld yr hysbysiad neu’r wybodaeth. Os ydynt yn defnyddio system heblaw FTS neu S2W, mae’n ofynnol hefyd i awdurdodau perthnasol sicrhau bod system o’r fath yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n rhad ac am ddim ac sy’n hawdd i ddarparwyr a phobl anabl ei chyrchu. Os bydd cyflwyno hysbysiad neu wybodaeth yn cael ei wrthod gan Swyddfa’r Cabinet ni fydd cyhoeddiad yr awdurdod perthnasol yn cael ei ystyried mwyach fel un sy’n bodloni’r gofyniad i gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi fel y nodir yn y Rheoliadau.

Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn yr hysbysiadau wedi’i nodi yn Atodiad B a dylai awdurdodau perthnasol gyfeirio at y canllaw ar wahân ar gyhoeddi’r hysbysiadau hyn ar y Platfform Digidol Canolog (FTS).

Yn ogystal â’r hysbysiadau sy’n ofynnol o dan yr amrywiol  brosesau caffael, rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi hysbysiadau pan fyddant yn rhoi’r gorau i broses gaffael, yn gwneud dyfarniad brys neu addasiad brys i gontract, neu’n ymgymryd ag addasiadau penodol i gontract nad ydynt yn rhai brys. Mae Atodiad B yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer pob un o’r senarios hyn.

Cadw cofnodion o brosesau caffael

Manylir ar y gofynion gwybodaeth perthnasol yn Rheoliad 30.

Rhaid i awdurdodau perthnasol wneud a chadw cofnodion clir sy’n manylu ar eu proses gaffael a’u rhesymeg. Rhaid gwneud hyn ar gyfer pob proses gaffael (Proses Dyfarniad Uniongyrchol 1, Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2, y Broses Darparwr Mwyaf Addas, a’r broses gystadleuol), wrth gwblhau cytundeb fframwaith, ac wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith, boed hynny wedi’i wneud drwy gystadleuaeth ai peidio. Mae hyn yn cynnwys achosion pan roddwyd y gorau i broses gaffael neu pan benderfynodd yr awdurdod perthnasol ddychwelyd i gam cynharach yn y broses. Rhaid i’r cofnodion gynnwys:

  • enw’r darparwr y mae’r contract wedi’i ddyfarnu iddo neu enw unrhyw ddarparwr sy’n barti i gytundeb fframwaith a naill ai gyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu gyfeiriad ei brif leoliad busnes
  • y broses gaffael a ddilynwyd i ddethol darparwr/darparwyr, gan gynnwys manylion y weithdrefn a ddefnyddiwyd pan ddilynir y Broses Gystadleuol
  • y rhesymau dros benderfyniadau a wnaed o dan y rheoliad
  • manylion unrhyw ddarparwyr sy’n waharddedig neu’n waharddadwy
  • y rhesymau dros wahardd neu dros beidio â gwahardd darparwr gwaharddadwy o broses gaffael
  • pan fo contract wedi’i ddyfarnu neu gytundeb fframwaith wedi’i gwblhau gyda darparwr gwaharddedig oherwydd yr ystyrid bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, disgrifiad o’r penderfyniad hwn
  • manylion yr unigolyn/unigolion sy’n gwneud y penderfyniadau (gall hyn fod yn enw pwyllgor neu’n deitlau swyddi unigolion sy’n gwneud y penderfyniad, fel y bo’n briodol)
  • unrhyw wrthdaro buddiannau datganedig neu wrthdaro buddiannau posibl i unigolion sy’n ymwneud â’r broses gaffael a sut y cafodd y rhain eu rheoli neu sut y byddant yn cael eu rheoli
  • os rhoddir y gorau i gaffaeliad, y dyddiad y rhoddwyd y gorau iddo

Dylai awdurdodau perthnasol sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw wrth gontractio ar gyfer caffaeliadau cymysg, gan gynnwys sut y mae’r caffaeliad yn bodloni’r gofynion ar gyfer caffaeliadau cymysg o dan y gyfundrefn hon.

Wrth ddilyn Proses Dyfarniad Uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas, rhaid i gofnodion gynnwys hefyd ddisgrifiad o’r modd yr ystyriwyd y meini prawf allweddol (er enghraifft pwysoliad, hierarchaeth neu ddisgrifiad mwy anffurfiol o bwysigrwydd), a sut yr aseswyd y meini prawf dethol sylfaenol wrth wneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd cymharol y meini prawf allweddol a ddefnyddiodd yr awdurdod perthnasol i wneud penderfyniad, y rhesymeg dros bwysigrwydd cymharol y meini prawf allweddol a’r rhesymeg dros ddethol y darparwr gan gyfeirio at y meini prawf allweddol.

Wrth ddilyn y Broses Gystadleuol (gan gynnwys wrth gwblhau cytundeb fframwaith neu wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth), rhaid i gofnodion gynnwys hefyd ddisgrifiad o’r ffordd yr ystyriwyd y meini prawf allweddol, sut yr aseswyd y meini prawf dethol sylfaenol a sut y gwerthuswyd meini prawf dyfarnu contract neu fframwaith wrth wneud penderfyniad. Disgwylir i hyn gynnwys pwysigrwydd cymharol y meini prawf allweddol a ddefnyddiodd yr awdurdod perthnasol i wneud penderfyniad, y rhesymeg dros bwysigrwydd cymharol y meini prawf allweddol a’r rhesymeg dros ddethol y darparwr gan gyfeirio at y meini prawf allweddol.

Wrth gwblhau cytundeb fframwaith, disgwylir i’r cofnodion gnnwys y telerau a’r amodau a fydd yn cael eu gosod gan y cytundeb fframwaith ac yn cynnwys pa awdurdodau perthnasol sy’n rhan o’r cytundeb fframwaith.

Wrth ddyfarnu contract o gytundeb fframwaith, dylai’r cofnodion nodi o ba gytundeb fframwaith y mae’r contract yn cael ei ddyfarnu.

Rhaid i awdurdodau perthnasol fod yn ymwybodol y gallai fod angen iddynt ddatgelu gwybodaeth am y rhesymeg dros eu penderfyniadau o dan y rheoliadau os ceir sylwadau (gweler y cyfnod segur). Disgwylir i awdurdodau perthnasol gadw eu cofnodion am gyfnod sy’n cyd-fynd â pholisïau cadw cofnodion eu sefydliad ac unrhyw ddeddfwriaeth gymwys.

Disgwylir hefyd i awdurdodau perthnasol gadw cofnodion o’u penderfyniadau a’u prosesau caffael wrth addasu contract.

Cadw cofnodion o brosesau caffael o dan amgylchiadau brys

Wrth ddyfarnu neu addasu contract o dan amgylchiadau brys, rhaid i awdurdodau perthnasol greu a chadw cofnodion clir sy’n manylu ar eu proses gaffael a’u rhesymeg. Rhaid i’r cofnodion gynnwys:

  • cyfiawnhad dros ddefnyddio’r esemptiad amgylchiadau brys
  • enw’r darparwyr y dyfarnwyd y contract iddynt a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif leoliad busnes y darparwyr
  • y dull a ddefnyddiwyd i ddethol darparwr a’r broses a ddilynwyd (hynny yw dyfarniad brys neu addasiad brys)
  • gwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r addasiad a, phan fo’r cofnodion yn cyfeirio at addasiad brys, unrhyw newid i werth neu hyd y contract
  • manylion yr unigolion sy’n gwneud y penderfyniad (gall hyn fod yn enw pwyllgor neu deitlau swyddi unigolion sy’n gwneud y penderfyniad, fel y bo’n briodol)
  • unrhyw wrthdaro buddiannau datganedig neu wrthdaro buddiannau posibl ar ran unigolion sy’n gwneud y penderfyniad (heb gynnwys enwau unigol) a sut y cafodd y rhain eu rheoli neu y byddant yn cael eu rheoli

Dylai awdurdodau perthnasol sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw wrth gontractio ar gyfer caffaeliadau cymysg, gan gynnwys sut y mae’r caffaeliad yn bodloni’r gofynion ar gyfer caffaeliadau cymysg o dan y gyfundrefn hon.

Crynodeb blynyddol

Mae gofynion y crynodeb blynyddol wedi’u nodi yn Rheoliad 31.

Rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi crynodeb blynyddol yn nodi sut y maent wedi cymhwyso’r Rheoliadau, a hynny ar-lein (er enghraifft drwy adroddiadau blynyddol neu ddatganiad llywodraethiant blynyddol yr awdurdodau perthnasol). Dylai’r crynodeb blynyddol cyntaf ymwneud â chontractau a ddyfernir gan ddefnyddio’r Rheoliadau rhwng 24 Hydref 2025 a 31 Mawrth 2026, a dylid ei gyhoeddi heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd blwyddyn ariannol 2025 i 2026. Yn dilyn y crynodeb blynyddol cyntaf, rhaid cyhoeddi pob crynodeb blynyddol arall heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

Rhaid i hyn gynnwys, yn y flwyddyn mae’r crynodeb yn ymwneud â hi:

  • nifer y contractau a ddyfarnwyd yn uniongyrchol o dan broses dyfarniad uniongyrchol 1 a phroses dyfarniad uniongyrchol 2
  • nifer y contractau a ddyfarnwyd o dan y Broses Darparwr Mwyaf Addas
  • nifer y contractau a ddyfarnwyd o dan y Broses Gystadleuol
  • nifer y cytundebau fframwaith a gwblhawyd
  • nifer y contractau a ddyfarnwyd yn seiliedig ar gytundeb fframwaith
  • nifer y cytundebau fframwaith lle cwblhawyd proses gystadleuol i ganiatáu i ddarparwyr ychwanegol fod yn barti i’r fframwaith
  • nifer y darparwyr ychwanegol (os o gwbl) a ddetholwyd i fod yn barti i’r cytundeb fframwaith
  • nifer y contractau brys a ddyfarnwyd a’r addasiadau brys a wnaed (yn unol â’r adran dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau)
  • nifer y darparwyr newydd y dyfarnwyd contractau iddynt
  • nifer y darparwyr sydd wedi rhoi’r gorau i ddal unrhyw gontractau gyda’r awdurdod perthnasol
  • manylion y sylwadau a gafwyd, gan gynnwys:
    • nifer y sylwadau a gafwyd yn ysgrifenedig ac yn ystod y cyfnod segur yn unol â Rheoliad 12(5)
    • crynodeb o natur a chanlyniad y sylwadau hynny
  • nifer y darparwyr a gafodd eu gwahardd o broses gaffael
  • nifer y darparwyr nad oedd modd eu gwahardd o broses gaffael ac, o’r rheini, y nifer a gafodd eu gwahardd o broses gaffael o dan Reoliadau 25(3) neu 26(5)

Gofynion monitro

Mae’r gofynion monitro wedi’u nodi yn Rheoliad 32.

Rhaid i awdurdodau perthnasol fonitro eu cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau. Rhaid cyhoeddi canlyniadau’r monitro ar-lein yn flynyddol (a gellir eu hintegreiddio â gofynion adrodd blynyddol eraill) a rhaid cynnwys prosesau, penderfyniadau a wnaed o dan y Rheoliadau, addasiadau i gontractau a datgan a rheoli gwrthdaro buddiannau. Caiff awdurdodau perthnasol ddefnyddio archwilwyr mewnol i fodloni’r gofynion hyn.

Os bydd adroddiad cydymffurfiaeth yn canfod achos neu achosion o ddiffyg cydymffurfio, rhaid i awdurdodau perthnasol roi camau ar waith i fynd i’r afael â’r mater hwn ac i wella’r ymlyniad wrth y Gyfundrefn.

Adran 6: adolygu penderfyniadau yn ystod y cyfnod segur

Cyflwyniad i adolygu penderfyniadau yn ystod y cyfnod segur

Manylir ar ofynion y cyfnod segur, gan gynnwys ar gyfer adolygu penderfyniadau, yn Rheoliad 12 a Rheoliad 14(4). Mae'r ddarpariaeth ar gyfer cyngor arbenigol annibynnol wedi'i nodi yn Rheoliad 29; mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i sut y gallai hyn weithio'n ymarferol, a'r trefniadau gweithredol y byddai eu hangen i'w gefnogi. Bydd y manylion hyn yn cael eu cadarnhau a'u cyfathrebu cyn gynted â phosibl.

Nid yw'r Gyfundrefn Dethol Darparwyr yn cyfyngu ar allu awdurdodau perthnasol i geisio'u cyngor cyfreithiol eu hunain neu i ddibynnu arno, gan gynnwys wrth ystyried a yw'r Gyfundrefn yn berthnasol i'w trefniadau ar gyfer gwasanaethau fesul achos unigol.

Mae’r adran hon yn esbonio sut y gellir adolygu penderfyniadau penodol a wneir o dan y Gyfundrefn yn ystod y cyfnod segur cyn iddynt gael eu cwblhau’n derfynol, a sut y dyfernir contract o dan weithdrefnau penodol.

Beth yw’r cyfnod segur?

Rhaid cadw at y cyfnod segur unwaith y bydd hysbysiad o fwriad i wneud dyfarniad i ddarparwr o dan broses dyfarniad uniongyrchol 1, proses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas, y broses gystadleuol wedi’i gyhoeddi (gan gynnwys cwblhau cytundeb fframwaith) neu wrth ddyfarnu contract o dan gytundeb fframwaith gyda neu heb gystadleuaeth.

Mae’r cyfnod segur yn dilyn penderfyniad i ddethol darparwr a rhaid iddo ddod i ben cyn y gellir dyfarnu’r contract. Mae’n rhoi amser i unrhyw ddarparwr a allai fod wedi cael ei ddethol fel arall i ddarparu’r gwasanaethau y mae’r contract yn ymwneud â nhw i gyflwyno sylwadau ac i awdurdodau perthnasol ystyried y sylwadau hynny ac ymateb iddynt fel y bo’n briodol. Am ragor o fanylion, gweler yr adran isod ar gael sylwadau.

Rhaid i’r cyfnod segur bara am o leiaf wyth diwrnod gwaith. Mae’r cyfnod segur yn dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract neu i gwblhau cytundeb fframwaith ac, oni bai bod sylw ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno, mae’n dod i ben am hanner nos ar yr wythfed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y dechreuodd y cyfnod segur (gweler enghreifftiau isod). Os daw unrhyw sylwadau i law yn ystod y cyfnod hwn, bydd y cyfnod segur yn parhau ar agor nes bydd yr awdurdod perthnasol yn darparu unrhyw wybodaeth y gofynnwyd amdani, yn ystyried y sylwadau ac yn gwneud penderfyniad pellach.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol fod yn ymwybodol o’r broses a’r amserlen ar gyfer adolygu penderfyniadau o dan y Gyfundrefn hon a disgwylir iddynt gynllunio’r modd y trefnir gwasanaethau yn unol â hynny. Disgwylir iddynt sicrhau y gellir cwblhau’r adolygiad o’r broses gaffael, a dyfarnu’r contract arfaethedig, cyn i’r contract presennol ddod i ben.

Pryd y mae’r cyfnod segur yn dod i ben?

Rhaid bod yn ofalus wrth gyfrifo diwedd y cyfnod segur. Mae’r cyfnod segur yn dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir bwriad i ddyfarnu contract neu gwblhau cytundeb fframwaith (gall hyn ddigwydd ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith). Rhaid i sylwadau ddod i law cyn hanner nos ar yr wythfed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod hwnnw.

Bydd y cyfnod segur yn dod i ben am hanner nos ar yr wythfed diwrnod gwaith, os:

  • na dderbynnir unrhyw sylwadau erbyn hanner nos ar yr wythfed diwrnod gwaith
  • nad yw’r sylwadau a gafwyd yn bodloni’r amodau gofynnol (a nodir isod)

Pan ddaw sylwadau sy’n bodloni’r amodau gofynnol i law, bydd y cyfnod segur yn para hyd nes y bydd yr awdurdod perthnasol:

  • yn cwblhau ei adolygiad
  • yn cyfleu ei benderfyniad pellach (gyda rhesymau) i’r darparwr a gyflwynodd y sylwadau ac i’r darparwr y bwriedid dyfarnu’r contract iddo ar ddechrau’r cyfnod segur
  • yn dod i’r casgliad ei fod yn barod i ddyfarnu’r contract, neu ei fod yn dymuno dychwelyd i gam cynharach yn y broses gaffael neu roi’r gorau i’r broses

Os ceir sylwadau sy’n bodloni’r amodau gofynnol, rhaid i ddiwedd y cyfnod gwahardd fod o leiaf 5 niwrnod gwaith ar ôl i’r awdurdod perthnasol gyfleu ei benderfyniad i’r darparwyr perthnasol. 

Pan fo’r awdurdod perthnasol yn penderfynu dyfarnu’r contract (yn hytrach na dychwelyd i gam cynharach yn y broses neu roi’r gorau i’r broses), dylai’r cyfnod segur ddod i ben pan ddaw’r awdurdod perthnasol i’r casgliad ei fod yn barod i ddyfarnu’r contract a bod o leiaf 5 niwrnod gwaith ers i’r awdurdod perthnasol gyfleu ei benderfyniad pellach. 

Rhaid i’r cyfnod segur ddod i ben cyn dyfarnu contract a chyhoeddi cadarnhad o’r penderfyniad (neu cyn dychwelyd i gam cynharach yn y broses neu roi’r gorau i broses). Dim ond ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben ac ar ôl i’r contract gael ei ddyfarnu y gellir trosglwyddo gwasanaethau.

Cael sylwadau

Caiff darparwyr gyflwyno sylwadau i’r awdurdod perthnasol o fewn wyth diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r cyfnod segur (hynny yw wyth diwrnod gwaith yn dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o fwriad i ddyfarnu). Ni all darparwyr gyflwyno sylwadau ar ôl y cyfnod hwnnw, hyd yn oed os yw’r cyfnod segur wedi’i estyn mewn ymateb i sylwadau gan ddarparwr arall.

Diben cyflwyno sylwadau yw ceisio adolygiad o’r penderfyniad a wnaed, er mwyn penderfynu a yw awdurdod perthnasol wedi cymhwyso’r Gyfundrefn yn gywir ac a yw wedi gwneud penderfyniad caffael priodol.

Nid yw awdurdodau perthnasol ond yn gorfod ymateb i sylwadau sy’n bodloni’r holl amodau canlynol:

  • mae’r sylwadau gan ddarparwr a fyddai fel arall wedi bod yn ddarparwr y gwasanaethau y mae’r contract yn ymwneud â nhw
  • mae’r darparwr wedi’i dramgwyddo gan benderfyniad yr awdurdod perthnasol
  • mae’r darparwr o’r farn bod yr awdurdod perthnasol wedi methu â chymhwyso’r Gyfundrefn yn gywir ac mae’n gallu nodi sail resymol i gefnogi ei gred
  • mae’r sylwadau’n cael eu cyflwyno’n ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig) i’r awdurdod perthnasol o fewn wyth diwrnod gwaith i ddechrau’r cyfnod segur

Wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gall yr holl ddarparwyr fframwaith perthnasol gyflwyno sylwadau i’r awdurdod perthnasol.

Caiff awdurdodau perthnasol ymateb hefyd i sylwadau nad ydynt yn bodloni’r amodau hyn.

Yn unrhyw achos, rhaid i awdurdodau perthnasol ddilyn y gofynion tryloywder perthnasol ar gyfer y dull y maent yn ei ddefnyddio a rhaid iddynt gadw cofnodion mewnol o’u proses gaffael (gweler tryloywder).

Enghraifft o gyfrifo isafswm hyd y cyfnod segur y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynddo

Enghraifft A

Cyhoeddir yr hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract ddydd Iau 6 Tachwedd 2025. Mae’r cyfnod segur yn dechrau ar 6 Tachwedd 2025. Gellir cyflwyno sylwadau am hyd at 8 diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae’r cyfnod segur yn dechrau. Felly, byddai’r cyfnod segur yn dod i ben am hanner nosddydd Mawrth 18 Tachwedd 2025 (Dylid ystyried mai hanner nos yw diwedd y dydd).

Enghraifft B

Cyhoeddir yr hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract ddydd Gwener 7 Tachwedd 2025. Mae’r cyfnod segur yn dechrau ar 7 Tachwedd 2025. Gellir cyflwyno sylwadau am hyd at 8 diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae’r cyfnod segur yn dechrau. Felly, byddai’r cyfnod segur yn dod i ben am hanner nos ddydd Mercher 19 Tachwedd 2025.

Enghraifft C

Cyhoeddir yr hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract ddydd Mercher 13 Tachwedd 2025. Mae’r cyfnod segur yn dechrau ar 13 Tachwedd 2025. Gellir cyflwyno sylwadau am hyd at 8 diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae’r cyfnod segur yn dechrau. Felly, byddai’r cyfnod segur yn dod i ben am hanner nos ddydd Mawrth 25 Tachwedd 2025.

Ystyried sylwadau

Dylai awdurdodau perthnasol sicrhau bod mecanweithiau llywodraethiant mewnol priodol ar waith i ymdrin â sylwadau a wneir yn erbyn penderfyniadau caffael. I’r perwyl hwn, dylai awdurdodau perthnasol, lle bo’n bosibl, sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu hadolygu gan unigolion nad oeddent yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol. Pan nad yw hyn yn bosibl, dylai awdurdodau perthnasol sicrhau bod o leiaf un unigolyn nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol yn cael ei gynnwys yn y broses adolygu.

Os yw’r awdurdod perthnasol yn ystyried sylwadau ar yr un mater gan fwy nag un darparwr, gall ystyried y rhain gyda’i gilydd os yw hynny’n briodol.

Pan ddaw sylw i law o fewn yr wyth diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r cyfnod segur:

  1. Rhaid i’r awdurdod perthnasol sicrhau bod y darparwr sydd wedi’i dramgwyddo yn cael cyfle i esbonio neu egluro ei sylwadau os nad ydynt yn glir.
  2. Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddarparu unrhyw wybodaeth y mae’r darparwr yn gofyn amdani y mae’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol ei chadw o dan y gyfundrefn (gweler cadw cofnodion) cyn gynted â phosibl, ac eithrio:
    • lle byddai hyn yn rhagfarnu buddiannau masnachol cyfreithlon unrhyw berson, gan gynnwys yr awdurdod perthnasol
    • lle gallai hyn ragfarnu cystadleuaeth deg rhwng darparwyr
    • pan fyddai hyn yn groes i fudd y cyhoedd mewn rhyw fodd arall

Sylwer bod y ddarpariaeth hon yn cyd-fynd â’r rhwymedigaethau presennol o ran casglu a datgelu gwybodaeth a data, gan gynnwys y rhai yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018, y dylai awdurdodau perthnasol eu hystyried mewn perthynas â’r wybodaeth a’r data a gânt yn ystod proses gaffael ar gyfer gwasanaethau iechyd perthnasol.

  1. Disgwylir i’r awdurdod perthnasol ddarparu amserlen ddangosol ar gyfer erbyn pryd y gallai’r sylwadau gael eu hystyried, ac erbyn pryd y gallai’r darparwr ddisgwyl yn rhesymol i benderfyniad gael ei wneud.

Disgwylir i’r darparwr sydd wedi’i dramgwyddo, a wnaeth y sylwadau, ymateb yn brydlon ac yn gryno i gwestiynau gan yr awdurdod perthnasol am y pwyntiau y mae wedi’u gwneud ac, os na all ymateb o fewn amserlen resymol, disgwylir iddo ddarparu cyfiawnhad. Rydym yn disgwyl i’r awdurdod perthnasol ganiatáu digon o amser a chyfle i’r darparwr a wnaeth y sylwadau ymateb i gwestiynau gan yr awdurdod perthnasol. Os bydd y darparwr yn methu ag ymateb/cyfathrebu, cyfrifoldeb yr awdurdod perthnasol yw penderfynu a ddylid cwblhau ei asesiad o’r sylwadau a chyfleu ei benderfyniad i’r darparwr.

Pan fo awdurdod perthnasol wedi cwblhau’r camau uchod, rhaid iddo wedyn:

  1. Adolygu’r dystiolaeth a’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad gwreiddiol, gan ystyried y sylwadau a gyflwynwyd.
  2. Ystyried a oes rhinwedd i’r sylw (er enghraifft mae’n nodi nad yw’r broses wedi’i dilyn yn gywir neu mae’n dod â gwybodaeth i’r amlwg sy’n berthnasol i’r penderfyniad a wnaed).

Canlyniad sylwadau

Pan fo’r awdurdod perthnasol yn canfod bod gan sylw rinwedd (er enghraifft mae’n nodi nad yw’r broses wedi’i dilyn yn gywir neu mae’n dod â gwybodaeth i’r amlwg sy’n berthnasol i’r penderfyniad a wnaed), rhaid iddo ystyried ymhellach a yw hyn yn effeithio ar y bwriad i ddyfarnu contract i’r darparwr dethol. Yna, rhaid iddo benderfynu a ddylai:

  • ymrwymo i gontract neu gwblhau’r cytundeb fframwaith fel y bwriadwyd
  • dychwelyd i gam cynharach yn y broses ddethol, naill ai i ddechrau’r broses neu i’r fan lle y nodwyd diffyg, cywiro’r diffyg hwn ac ailadrodd y cam hwnnw a’r camau dilynol (gweler ailadrodd cam)
  • roi’r gorau i’r broses gaffael (gweler rhoi’r gorau i broses gaffael)

Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyfleu’r penderfyniad a ddisgrifir uchod yn brydlon ac yn ysgrifenedig:

  • i’r darparwr a wnaeth y sylwadau
  • i’r darparwr yr oedd yr awdurdod perthnasol yn bwriadu dyfarnu’r contract iddo ar ddechrau’r cyfnod segur, neu i’r holl ddarparwyr yr oedd yr awdurdod perthnasol yn bwriadu cwblhau’r cytundeb fframwaith gyda nhw ar ddechrau’r cyfnod segur

Dim ond pan fo’r awdurdod perthnasol wedi adolygu ei benderfyniad, rhannu ei gasgliad (yn ysgrifenedig) â’r darparwyr perthnasol a dod i’r casgliad ei fod yn barod i ddyfarnu’r contract, neu ei fod yn mynd i ddychwelyd i gam cynharach yn y broses neu roi’r gorau i’r broses, y gall y cyfnod segur ddod i ben.

Rhaid i’r awdurdod perthnasol ganiatáu o leiaf 5 niwrnod gwaith ar ôl y diwrnod yr anfonodd ei ymateb i’r darparwr cyn i’r cyfnod segur ddod i ben. Mae’r amser hwn yn caniatáu i’r darparwr ystyried ymateb yr awdurdod perthnasol, a gofyn am eglurhad pellach. Mae’r amser hwn hefyd yn caniatáu i’r awdurdod perthnasol ailystyried ei benderfyniad a gwneud unrhyw benderfyniadau dilynol os oes angen. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyfleu unrhyw benderfyniad pellach o’r fath yn ysgrifenedig i’r darparwr (fel yr amlinellir uchod).

Os bydd darparwr yn cyflwyno sylwadau i Uned Adolygu Caffael Cymru ac fe’u derbynnir ar gyfer adolygiad, byddai’r cyfnod segur fel arfer yn parhau hyd nes y byddai’r Uned wedi rhoi ei chyngor a bod yr awdurdod perthnasol wedi gwneud penderfyniad pellach yng ngoleuni’r cyngor hwnnw.

Y Gwasanaeth Adolygu Caffael

Mae'r manylion ynghylch gweithrediad gwasanaeth adolygu caffael o dan Wasanaeth Adolygu Caffael Cymru yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r diwygiadau caffael parhaus. Bydd y manylion hyn yn cael eu cadarnhau a'u cyfathrebu cyn gynted â phosibl.

Egwyddorion cyffredinol

Mae Rheoliad 14 yn rhoi'r gallu i awdurdodau perthnasol ddyfarnu contractau mewn amgylchiadau brys, ac i gontractau presennol gael eu haddasu ar frys mewn amgylchiadau rhagnodedig. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y mae'r darpariaethau hyn yn debygol o gael eu defnyddio, a hynny dim ond pan fo'r awdurdod perthnasol yn fodlon bod yr amodau statudol wedi'u bodloni a bod yr angen i weithredu ar frys wedi'i asesu'n briodol.

Dylai awdurdodau perthnasol sicrhau:

  • bod y llwybr priodol o dan Reoliad 14 yn cael ei nodi a'i gymhwyso;
  • bod y defnydd o bwerau brys yn gyfiawn, yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth; ac
  • y cedwir cofnod clir ac archwiliadwy o'r broses o wneud penderfyniadau.

Dyfarniad neu addasiad brys (Rheoliad 14(1) – (2))

Caiff awdurdod perthnasol wneud dyfarniad brys neu addasu contract. Mae'r dull hwn ar gael pan fo'r awdurdod o'r farn bod brys, nad oedd wedi'i rag-weld, ac y byddai oedi o ran cydymffurfio â Rheoliadau 7 i 13 yn peri risg i ddiogelwch cleifion neu'r cyhoedd. 

Rhaid i awdurdodau perthnasol sicrhau:

  • y bodlonir yr amodau a nodir yn Rheoliad 14(2) yn llawn; ac
  •  y cyhoeddir hysbysiad o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyfarnu neu addasu'r contract.

Addasu contract presennol (Rheoliad 14(3) – (4))

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth i alluogi awdurdod perthnasol i wneud addasiadau brys i gontract presennol mewn amgylchiadau penodol pan fo caffaeliad wedi'i ddechrau a chyfnod segur wedi dechrau. 

Mae'n ofynnol i awdurdod perthnasol sy'n awyddus i ddefnyddio'r dull hwn fod wedi ceisio cyngor arbenigol annibynnol yn unol â Rheoliad 29 yn ystod y cyfnod segur. 

Caiff awdurdod perthnasol addasu contract presennol yn unol â Rheoliad 14(3), yn ddarostyngedig i'r amodau yn Rheoliad 14(4). Mae'r rhain yn darparu mai dim ond pan fo'r holl amodau canlynol wedi'u bodloni y gall y llwybr addasu hwn fod yn gymwys:

  • Dechreuwyd y caffaeliad yn unol â'r Rheoliadau;
  • Mae cyfnodau segur wedi dechrau;
  • Gofynnwyd am gyngor arbenigol annibynnol;
  • Mae'r awdurdod perthnasol o'r farn bod y contract i ddod i ben cyn diwedd y cyfnod segur;
  • Mae angen addasu er mwyn sicrhau parhad;
  • Ni ellir bodlonir gofynion yn Rheoliadau 7-13 cyn i'r contract ddod i ben.

Dylai awdurdodau perthnasol fod yn ymwybodol bod y trefniadau ar gyfer cael cyngor arbenigol annibynnol yn parhau i fod yn destun datblygu pellach. Pan fo angen i awdurdod perthnasol ddibynnu ar y llwybr i addasu contract presennol o dan Reoliad 14(3), rhaid iddo gysylltu â Llywodraeth Cymru.  Mae canllawiau pellach ar ddarparu a gweithredu Rheoliad 29, yn benodol, ar gyfer cyngor arbenigol annibynnol yn destun ystyriaeth bellach ynghylch sut y gallai hyn weithio'n ymarferol. Darperir rhagor o fanylion maes o law.

Adran 7: addasu contractau a chytundebau fframwaith yn ystod eu cyfnod

Trosolwg

Mae’r gofynion ar gyfer addasu contractau neu gytundebau fframwaith yn ystod eu cyfnod wedi’u nodi yn Rheoliad 13.

Bydd sefyllfaoedd yn codi pan fydd angen addasu contractau neu gytundebau fframwaith i adlewyrchu neu ystyried newidiadau i wasanaethau neu amgylchiadau yn ystod eu cyfnod.

Un o nodau’r Gyfundrefn yw osgoi prosesau nad ydynt ond yn cyflwyno gwerth cyfyngedig i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Felly, mae’r Gyfundrefn hon yn caniatáu i rai addasiadau gael eu gwneud i gontractau neu gytundebau fframwaith yn ystod eu cyfnod heb fod angen proses gaffael newydd.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellir gwneud addasiadau a ganiateir heb ddilyn proses gaffael newydd, ond mewn rhai achosion bydd angen cyhoeddi hysbysiadau.

O dan y Gyfundrefn, ni chaniateir addasiadau sy’n golygu y byddai contract neu gytundeb fframwaith sy’n bodoli eisoes yn sylweddol wahanol o ran cymeriad ac mae’n ofynnol i broses gaffael newydd gael ei chynnal. Mae rhagor o wybodaeth am addasiadau a ganiateir ac na chaniateir isod.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried yr adran hon ar y cyd â darpariaethau addasiadau (amrywiadau) y contract neu’r is-gontract perthnasol (er enghraifft, amrywio contract / manyleb yn nhelerau ac amodau safonol GIG Cymru).

Dim ond i addasu contractau yn ystod eu cyfnod, ac nid i osgoi’r Rheoliadau pan ddaw contract i ben a bod angen dyfarnu un newydd, y caniateir defnyddio’r darpariaethau yn yr adran hon.

Addasiadau a ganiateir

O dan y Gyfundrefn hon, caniateir rhai addasiadau ac nid oes angen proses gaffael newydd ar eu cyfer.

Addasiadau i gontractau a ddyfarnwyd yn wreiddiol o dan broses dyfarniad uniongyrchol 1

Pan fo’r contract gwreiddiol wedi’i ddyfarnu o dan broses dyfarniad uniongyrchol 1 ac nad yw’r addasiad yn newid cymeriad y contract yn sylweddol, caniateir yr addasiad.

Os gellir priodoli’r addasiad hwnnw i benderfyniad yr awdurdod perthnasol ac os yw’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract ers ymrwymo iddo yn £500,000 neu fwy, caniateir yr addasiad o hyd, ond rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad.

Addasiadau i gontractau a ddyfarnwyd yn wreiddiol o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas, neu gontractau neu gytundebau fframwaith a ddyfarnwyd neu a gwblhawyd yn wreiddiol o dan y broses gystadleuol, neu addasiadau i gontractau neu gytundebau fframwaith a ddyfarnwyd neu a gwblhawyd yn wreiddiol o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015

Pan fo’r contract gwreiddiol wedi’i ddyfarnu o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas, neu gontractau neu gytundebau fframwaith a ddyfarnwyd neu a gwblhawyd yn wreiddiol o dan y broses gystadleuol (gan gynnwys cytundebau fframwaith) neu Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, caniateir addasiadau yn yr achosion canlynol:

  • darperir ar gyfer yr addasiad mewn ffordd glir a diamwys yn nogfennau’r contract neu’r cytundeb fframwaith (hynny yw mae cwmpas a natur y newid posibl wedi’i ddisgrifio’n fanwl yn y contract presennol)
  • dim ond newid yn hunaniaeth y darparwr yw’r addasiad, a hynny oherwydd olyniaeth i safle darparwr yn dilyn newidiadau corfforaethol (er enghraifft o ganlyniad i feddiannu, uno, caffael neu ansolfedd corfforaethol), a phan fo’r awdurdod perthnasol wedi’i fodloni bod y darparwr yn bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol
  • nid yw’r addasiad yn gwneud y contract na’r cytundeb fframwaith yn sylweddol wahanol o ran cymeriad ac mae wedi’i wneud mewn ymateb i ffactorau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod perthnasol a’r darparwr gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
    1. nifer y cleifion neu’r defnyddwyr gwasanaethau
    2. prisiau yn unol â fformiwla y darperir ar ei chyfer yn nogfennau’r contract (er enghraifft cysylltu mynegeion)
  • gellir priodoli’r addasiad i benderfyniad yr awdurdod perthnasol ac nid yw’n newid cymeriad y contract neu’r cytundeb fframwaith yn sylweddol, ac mae’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith o dan £500,000 neu o dan 25% o’i gymharu â gwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith pan ymrwymwyd iddo neu pan gafodd ei gwblhau

Os bydd yr awdurdod perthnasol yn gwneud addasiad a ganiateir i gontract a ddyfarnwyd yn wreiddiol o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas, neu addasiad i gontract neu gytundeb fframwaith a ddyfarnwyd neu a gwblhawyd yn wreiddiol o dan y broses gystadleuol neu Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015), rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad pan fo pob un o’r isod yn gymwys:

  • gellir priodoli’r addasiad hwnnw i benderfyniad yr awdurdod perthnasol
  • mae’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith yn £500,000 neu fwy

Newid cronnus yw gwerth yr holl addasiadau a ganiateir o dan y Rheoliadau pan gaiff ei ychwanegu at werth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith ers ymrwymo iddo neu ers iddo gael ei gwblhau. Er enghraifft, os mai gwerth oes amcangyfrifedig contract yw £1 filiwn adeg gwneud y contract, a bod addasiad wedi’i wneud i’r contract yr oedd modd ei briodoli i benderfyniad yr awdurdod perthnasol sy’n werth £350,000 (35%), gwerth y newid cronnus yw £350,000. Os bydd angen addasiad pellach i’r contract y gellir ei briodoli i benderfyniad yr awdurdod perthnasol, ni chaniateir i werth y newid hwnnw fod yn fwy na £150,000 gan y byddai hyn yn golygu mai’r newid cronnus yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract fyddai £500,000 a 50% o werth oes y contract pan ymrwymwyd iddo. Felly, byddai addasiadau pellach â gwerth mwy na £150,000 yn fwy na’r gwerthoedd addasu a ganiateir o dan y Rheoliadau.

Sylwer:

  • rhaid i gontractau yr ymrwymwyd iddynt cyn cychwyn y rheoliadau gael eu haddasu yn unol â’r gyfundrefn hon

Addasiadau na chaniateir

Pan fo modd priodoli’r penderfyniad i wneud yr addasiad i’r awdurdod perthnasol a bod yr addasiad hwnnw’n gwneud y contract neu’r cytundeb fframwaith presennol yn sylweddol wahanol o ran cymeriad, ni chaniateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn hon a bydd angen ymgymryd â phroses gaffael newydd.

Yn ogystal, ni chaniateir addasiadau pan fo’r contract gwreiddiol wedi’i ddyfarnu yn dilyn proses dyfarniad uniongyrchol 2 neu’r broses darparwr mwyaf addas, neu pan fo’r contract neu’r cytundeb fframwaith gwreiddiol wedi’i ddyfarnu neu ei gwblhau yn dilyn y broses gystadleuol neu o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, a phan fo’r addasiad yn golygu:

  • newid cronnus o £500,000 neu fwy yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith pan ymrwymwyd iddo neu pan gafodd ei gwblhau
  • newid cronnus o 25% neu fwy yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract neu’r cytundeb fframwaith pan ymrwymwyd iddo neu pan gafodd ei gwblhau

Mewn achos o’r fath, bydd angen cynnal proses gaffael newydd a bydd rhaid i’r awdurdod perthnasol ddilyn y broses gaffael briodol i ddethol darparwr (neu grŵp o ddarparwyr) ar gyfer y gwasanaeth sydd wedi newid yn sylweddol.

Enghreifftiau o addasiadau i ddyfarniadau contractau presennol o dan Reoliad 13(4)(d)

Enghraifft 1

Mae awdurdod perthnasol yn ymrwymo i gontract â gwerth oes amcangyfrifedig o £5 miliwn pan ymrwymwyd i’r contract. Nid oes unrhyw addasiadau wedi bod i’r contract hyd yn hyn. Mae’r awdurdod perthnasol yn cynnig addasu’r contract. Nid yw’r addasiad yn golygu bod y contract yn sylweddol wahanol o ran cymeriad, a gwerth yr addasiad yw £600,000. Er bod yr addasiad hwn dros £500,000, nid yw ond 12% o werth oes amcangyfrifedig y contract presennol pan ymrwymwyd i’r contract hwnnw. Felly, caniateir yr addasiad o dan Reoliad 13(4)(d).

Enghraifft 2

Mae awdurdod perthnasol yn ymrwymo i gontract sydd â gwerth oes amcangyfrifedig o £4 miliwn. Mae’r contract wedi’i addasu o’r blaen, a chyfanswm yr addasiadau hyd yma yw £600,000, sydd felly’n newid cronnus o 15% yng ngwerth oes amcangyfrifedig y contract. Does dim un addasiad wedi bod yn fwy na £500,000 hyd yn hyn. Mae’r awdurdod perthnasol yn bwriadu addasu’r contract ymhellach. Nid yw’r addasiad yn gwneud y contract yn sylweddol wahanol o ran cymeriad. Gwerth oes amcangyfrifedig yr addasiad hwn yw £600,000, sydd, o’i gyfuno â’r addasiadau blaenorol, yn fwy na’r newid o £500,000 yng ngwerth cronnus gwerth oes amcangyfrifedig y contract. Mae’r newid cronnus yn y gwerth (sydd bellach yn £1.2 miliwn) yn gynnydd o 30%, felly mae’n fwy na’r 25% a ganiateir. Felly, ni chaniateir yr addasiad hwn o dan Reoliad 13(4)(d).

Enghraifft 3

Mae gan awdurdod perthnasol werth contract o £1 filiwn. Nid yw’r contract hwn wedi’i addasu o’r blaen. Mae’r awdurdod perthnasol yn cynnig addasu’r contract. Gwerth oes amcangyfrifedig yr addasiad yw £600,000. Mae hyn yn fwy na’r terfyn o £500,000 ar gyfer newid cronnus ac mae’n golygu newid cronnus o 60% i werth oes amcangyfrifedig y contract. Felly, ni chaniateir yr addasiad hwn o dan reoliad 13(4)(d).

Addasiadau i gontract mewn sefyllfaoedd brys

Mae’n bosibl bydd angen gwneud addasiadau ar frys i gontract. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i awdurdodau perthnasol fod yn dryloyw o hyd ynglŷn â’u proses gaffael. O ran pryd y gellir addasu contractau ar sail sefyllfaoedd brys, a’r hyn y mae angen ei gyhoeddi a phryd, mae manylion ar gael yn yr adran dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau.

Adran 8: gwrthdaro buddiannau

Trosolwg

Mae gofynion gwrthdaro buddiannau wedi’u nodi yn Rheoliad 27.

Mae datgan a rheoli gwrthdaro buddiannau fel mater o drefn yn agwedd allweddol ar lywodraethiant da, ac yn hanfodol o ran cynnal hyder y cyhoedd mewn prosesau caffael ac o ran diogelu staff, cynghorwyr, swyddogion gweithredol ac ymddiriedolwyr rhag honiadau eu bod wedi gweithredu’n amhriodol.

Rhaid i awdurdodau perthnasol gymryd mesurau priodol i atal, nodi ac unioni gwrthdaro buddiannau sy’n codi yn effeithiol wrth gymhwyso’r Rheoliadau. Rhaid i awdurdodau perthnasol sicrhau bod eu trefniadau llywodraethiant ar gyfer gwneud penderfyniadau caffael yn gallu rheoli gwrthdaro sy’n codi. Mae’n bosibl y byddant yn dymuno rhoi rôl i bwyllgorau byrddau neu gyfarwyddwyr anweithredol (neu bobl eraill ar lefel uwch sy’n annibynnol ar y broses gaffael) i reoli a datrys gwrthdaro buddiannau sy’n ymwneud â phenderfyniadau caffael.

Mae angen i’r ffordd y rheolir gwrthdaro buddiannau fod yn gydnaws â’r weledigaeth o gydweithio a amlinellir yn "Cymru iachach" ac â’r weledigaeth arfaethedig i gyflwyno iechyd a gofal cymdeithasol lleol di-dor. Felly, dylai awdurdodau perthnasol ddilyn a rhoi sylw i’r weledigaeth a’r cynllun hwnnw wrth reoli gwrthdaro buddiannau ynghylch penderfyniadau caffael.

Diffinnir gwrthdaro buddiannau fel hyn yn Rheoliad 27(3):

[…] mae gwrthdaro buddiannau yn cynnwys unrhyw sefyllfa pan fo gan unigolyn, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, fuddiant ariannol, buddiant economaidd neu fuddiant personol arall y gellid canfod ei fod yn peryglu ei ddidueddrwydd a’i annibyniaeth yng nghyd-destun y broses gaffael.

Mae’n ofynnol i unrhyw unigolyn o’r fath ei esgusodi ei hun o’r broses gaffael, oni bai bod yr unigolyn yn bodloni un o’r amodau a nodir yn Rheoliad 27(6), sef:

  • yr unigolyn yw’r unig berson sydd ag arbenigedd mewn maes y mae angen ei asesu yn unol â meini prawf dyfarnu’r contract neu’r cytundeb fframwaith
  • yr unigolyn yw’r unig berson â’r cymwysterau priodol neu’r wybodaeth briodol sydd ar gael i weithredu mewn perthynas â phroses gaffael

Os bodlonir un o’r amodau uchod neu’r ddau ohonynt, caiff awdurdod perthnasol benderfynu nad yw’n ofynnol i’r unigolyn ei esgusodi ei hun ac y bydd yr awdurdod perthnasol yn cymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw’r gwrthdaro buddiannau yn rhoi mantais annheg i ddarparwr neu’n rhoi darparwr o dan anfantais annheg mewn perthynas â’r broses gaffael. Gallai camau rhesymol gynnwys ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gymryd mesurau angenrheidiol i sicrhau nad oes mantais nac anfantais annheg iddo.

Pan fo awdurdod perthnasol o’r farn bod gwrthdaro buddiannau yn rhoi mantais annheg i ddarparwr mewn perthynas â dyfarnu contract cyhoeddus ac na fydd y darparwr yn cymryd camau y mae’r awdurdod perthnasol yn eu hystyried yn angenrheidiol i sicrhau nad yw’r darparwr yn cael mantais annheg, rhaid i’r awdurdod perthnasol (mewn perthynas â dyfarnu contract neu gwblhau fframwaith) drin y darparwr fel darparwr gwaharddedig. O ganlyniad, ni chaiff yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract i’r darparwr o dan broses dyfarniad uniongyrchol 1 neu 2, asesu unrhyw ddarparwr o’r fath o dan y broses darparwr mwyaf addas, nac asesu unrhyw gynigion gan unrhyw ddarparwr o’r fath o dan y broses gystadleuol. Fodd bynnag, mae eithriad i’r rheol hon mewn amgylchiadau lle mae awdurdod perthnasol yn ystyried dyfarnu contract i, neu gwblhau cytundeb fframwaith gyda darparwr i ddiogelu iechyd y cyhoedd fel y nodwyd yn Rheoliad 27 (11).

Rydym yn cynghori y dylid darllen yr adran hon ar y cyd â rheoliadau a chanllawiau statudol perthnasol eraill, fel y maent yn gymwys i awdurdodau perthnasol.

Egwyddorion rheoli

Disgwylir i’r broses o reoli gwrthdaro buddiannau fod yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  1. Rhaid i bob penderfyniad a wneir o dan y Gyfundrefn hon ymdrechu’n glir ac yn wrthrychol tuag at gyflawni swyddogaethau a dyletswyddau statudol awdurdodau perthnasol a gyfeirir tuag at ddarparu gwasanaeth y mae gan yr awdurdod perthnasol y pŵer i’w darparu. Disgwylir i unigolion sydd ynghlwm wrth benderfyniadau sy’n ymwneud â’r swyddogaethau hyn weithredu’n glir wrth gyflawni’r swyddogaethau a’r dyletswyddau hynny, yn hytrach na hyrwyddo eu buddiannau ariannol, economaidd, personol, proffesiynol neu sefydliadol uniongyrchol neu anuniongyrchol eu hunain.
  2. Mae angen datgan, cofnodi a rheoli buddiannau personol a phroffesiynol yr holl unigolion sy’n ymwneud â phenderfyniadau ynghylch caffael yn briodol, gan ddilyn trefniadau gwrthdaro buddiannau sefydledig yr awdurdod perthnasol. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir a phenodol ynghylch natur unrhyw fuddiant ac unrhyw wrthdaro a allai godi ynghylch penderfyniad penodol, a sut y rheolir unrhyw wrthdaro ar gyfer pob penderfyniad. Er mwyn bodloni’r gofynion tryloywder o dan y Gyfundrefn hon, rhaid i awdurdodau perthnasol gadw cofnodion mewnol o wrthdaro buddiannau unigolion a sut y cafodd y rhain eu rheoli neu sut y byddant yn cael eu rheoli (gweler tryloywder).
  3. Rhaid cyhoeddi unrhyw wrthdaro buddiannau a sut y cawsant eu rheoli neu sut y bwriedir eu rheoli ochr yn ochr â’r cadarnhad o’r penderfyniad i ddethol darparwr (gweler tryloywder). Pan wneir y penderfyniad gan bwyllgor/grŵp, cynghorir y dylid datgan buddiannau’r pwyllgor/grŵp yn hytrach nag enwau’r unigolion yn y pwyllgor/grŵp y maent yn perthyn iddo. Pan wneir y penderfyniad gan unigolyn, cynghorir y dylai gwrthdaro buddiannau gael ei ddatgan yn erbyn teitl swydd yr unigolyn yn hytrach na’i enw.
  4. Disgwylir i’r camau i liniaru gwrthdaro buddiannau wrth wneud penderfyniadau caffael fod yn unol â’r Rheoliadau ac yn gymesur. Dylent hefyd geisio bod yn gydnaws ag ysbryd gwneud penderfyniadau caffael ar y cyd, lle bynnag y bo modd. Disgwylir i gamau lliniaru gyfrif am ystod o ffactorau, gan gynnwys yr effaith y gallai’r canfyddiad o benderfyniad amheus ei chael, a’r risgiau a’r manteision o fod ag unigolyn penodol yn rhan o’r broses o wneud y penderfyniad. Gall mesurau lliniaru gynnwys:
    • gwahardd person y mae ganddo fuddiannau sy’n gwrthdaro o’r drafodaeth a’r broses gaffael, pan nad yw’r amodau a nodir o dan Reoliad 24(6) wedi’u bodloni neu pan nad ydynt yn gymwys
    • gwahardd yr unigolyn y mae ganddo fuddiannau sy’n gwrthdaro a sicrhau arbenigedd technegol neu leol o ffynhonnell arall heb fuddiannau sy’n gwrthdaro, pan nad yw’r amodau a nodir o dan Reoliad 27(6) wedi’u bodloni neu pan nad ydynt yn gymwys
    • trefnu strwythurau penderfyniadau caffael fel bod ystod o safbwyntiau’n cael eu cynrychioli, yn hytrach na bod unigolion y gallai fod ganddynt fuddiannau sy’n gwrthdaro yn y mwyafrif
    • gynnull pwyllgor heb fod yr unigolyn y mae ganddo fuddiannau sy’n gwrthdaro yn bresennol, er enghraifft wrth ymdrin â phenderfyniadau arbennig o anodd neu gymhleth pan na all aelodau gytuno o bosibl, neu i atal penderfyniad anniogel rhag cael ei wneud neu argraff o duedd
  5. Rydym yn disgwyl i awdurdodau perthnasol wahaniaethu’n glir rhwng yr unigolion hynny sy’n ymwneud â phroses gaffael ffurfiol a’r rhai y mae eu mewnbwn yn llywio penderfyniadau ond nad ydynt yn ymwneud â’r broses gaffael ei hun (megis drwy lunio dealltwriaeth yr awdurdod perthnasol o’r ffordd orau o ddiwallu anghenion cleifion a darparu gofal ar gyfer ei boblogaeth). Disgwylir i’r ffordd y mae gwrthdaro buddiannau’n cael ei reoli adlewyrchu’r gwahaniaeth hwn. Er enghraifft, pan fo gan ddarparwyr annibynnol (gan gynnwys y rhai yn y sector Menter Gymdeithasol Gymunedol Wirfoddol (VCSE)) gontractau ar gyfer gwasanaethau, byddai’n briodol ac yn rhesymol i’r awdurdod perthnasol eu cynnwys mewn trafodaethau, megis am ddyluniad llwybrau a darpariaeth gwasanaethau, yn enwedig ar lefel lleoli. Fodd bynnag, byddai hyn yn amlwg yn wahanol i unrhyw ystyriaethau ynghylch contractio a chomisiynu, y byddent yn cael eu gwahardd ohonynt.
  6. Pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud o dan y broses gystadleuol, rhaid i unrhyw unigolyn sy’n gysylltiedig â sefydliad sydd â buddiant personol yn y broses gaffael ei esgusodi ei hun o’r broses benderfynu yn ystod y broses gaffael honno, pan nad yw’r amodau a nodir o dan Reoliad 27(6) wedi’u bodloni neu pan nad ydynt yn gymwys.
  7. Disgwylir i’r ffordd y mae gwrthdaro buddiannau’n cael ei datgan a’i rheoli gyfrannu at ddiwylliant o dryloywder ynghylch sut y gwneir penderfyniadau.

Adran 9: dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau

Dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau

Manylir ar y gofynion ar gyfer dyfarnu neu addasu contract ar frys yn Rheoliadau 14(1), 14(2) a 14(4).

Mae adegau cyfyngedig pan allai fod angen i awdurdodau perthnasol weithredu ar frys a dyfarnu neu addasu contractau i fynd i’r afael â risgiau uniongyrchol i ddiogelwch cleifion neu’r cyhoedd.

Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys:

  • pan fo angen trefnu gwasanaeth newydd yn gyflym mewn argyfwng lleol, rhanbarthol neu genedlaethol annisgwyl, er enghraifft i ymdrin â phandemig
  • pan fo pryderon brys o ran ansawdd/diogelwch yn peri risgiau i gleifion neu’r cyhoedd ac yn golygu bod angen gwneud newidiadau ar unwaith
  • pan na all darparwr presennol, yn sydyn, ddarparu gwasanaethau mwyach o dan gontract presennol (er enghraifft y darparwr yn mynd yn ansolfent neu’n wynebu prinder gweithwyr hanfodol yn sydyn) a bod angen dod o hyd i ddarparwr newydd

Mewn sefyllfaoedd brys, caiff awdurdodau perthnasol wneud y penderfyniadau canlynol heb ddilyn y camau sy’n ofynnol o dan y Gyfundrefn hon:

  • ailddyfarnu contractau a ddelir gan y darparwyr/darparwyr presennol
  • dyfarnu contractau am wasanaethau newydd
  • dyfarnu contractau am wasanaethau sydd wedi newid yn sylweddol
  • wneud addasiadau i gontract (heb gyfyngiad)

Dim ond pan fydd pob un o’r isod yn gymwys y caiff awdurdod perthnasol wneud dyfarniad brys neu addasiad brys i gontract:

  • rhaid i’r dyfarniad neu’r addasiad gael ei wneud ar frys
  • nid oedd modd rhag-weld y rheswm dros y brys ac ni ellir ei briodoli i’r awdurdod perthnasol
  • byddai gohirio dyfarnu’r contract er mwyn cymhwyso’r gyfundrefn yn llawn yn debygol o beri risg i ddiogelwch cleifion neu’r cyhoedd

Ni chaiff awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r darpariaethau i ddyfarnu neu addasu contractau ar frys yn y Gyfundrefn hon os gellir priodoli’r brys i’r ffaith nad yw’r awdurdod perthnasol wedi gadael digon o amser i wneud penderfyniadau caffael neu gynnal proses gaffael – nid yw cynllunio gwael yn rheswm derbyniol dros ddefnyddio’r darpariaethau hyn.

O dan yr amgylchiadau brys hyn:

  • disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfyngu ar gyfnod y contract neu gyfnod yr addasiad i’r contract i’r hyn sy’n gwbl angenrheidiol; cynghorir y dylai’r cyfnod hwn fod yn ddigon hir i fynd i’r afael â’r sefyllfa frys ac y dylid cymhwyso’r Rheoliadau ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yn llawn cyn gynted ag y bo modd; rydym yn rhag-weld na fydd contract a ddyfernir o dan Reoliad 14 yn para mwy na 12 mis; os bydd yn para’n hirach, rhaid i awdurdodau perthnasol gyfiawnhau a chofnodi’r penderfyniad hwn
  • rhaid cadw cofnodion o’u proses gaffael, gan gynnwys cyfiawnhad dros ddefnyddio dyfarniad brys (gweler tryloywder ac Atodiad B)
  • rhaid i awdurdodau perthnasol fod yn dryloyw ynghylch eu penderfyniad drwy gyhoeddi hysbysiad dyfarniad brys (gweler tryloywder ac Atodiad B)

Caiff awdurdodau perthnasol hefyd wneud addasiadau brys penodol i estyn hyd contract presennol yn ystod y cyfnod segur os ceisir cyngor gan Uned Adolygu Caffael Cymru, yn unol â Rheoliad 14(3).

Adran 10: terfynu contractau

Terfynu contractau

Mae’r gofynion ar gyfer terfynu contractau wedi’u nodi yn Rheoliad 28.

Rhaid i awdurdodau perthnasol sicrhau bod pob contract a ddyfernir yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi’r awdurdod perthnasol i’w derfynu:

  • mae angen addasu’r contract ond ni chaniateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn (gweler addasu contract) heb ddilyn proses gaffael newydd
  • os dylai’r darparwr, adeg dyfarnu’r contract, fod wedi’i wahardd o’r broses gaffael yn unol â’r meini prawf gwahardd a nodir yn Rheoliadau 25 a 26
  • ers dyfarnu’r contract, mae’r darparwr wedi dod yn ddarparwr wedi’i wahardd neu yn ddarparwr y gellir ei wahardd
  • mae’r is-gontractwr y mae’r darparwr yn is-gontractio’r cyfan neu ran o’r contract iddo yn ddarparwr wedi’i wahardd neu y gellir ei wahardd

Caiff y darpariaethau sy’n caniatáu terfynu contract fynd i’r afael â sut y byddai terfyniadau o’r fath yn digwydd, er enghraifft drwy nodi hysbysiad terfynu a thrwy fynd i’r afael ag unrhyw faterion canlyniadol a allai godi o’r terfyniad hwnnw. Os nad yw’r contract yn cynnwys darpariaethau penodol sy’n caniatáu i’r awdurdod perthnasol derfynu ar y seiliau a nodir uchod, mae teler ymhlyg mewn unrhyw gontract a ddyfernir o dan y Rheoliadau y caiff yr awdurdod perthnasol wneud hynny drwy roi rhybudd rhesymol.

Atodiad A: codau’r eirfa gaffael gyffredin

Atodiad A: codau’r Eirfa Gaffael Gyffredin (GGG)

Mae codau’r GGG wedi’u rhestru yn Atodlen 1.

Diffiniwyd codau'r GGG sydd wedi’u mabwysiadu gan y rheoliadau gan Reoliad (CE) Rhif 2195/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

Rhaid i wasanaethau iechyd sydd o fewn cwmpas y Gyfundrefn berthyn i un neu ragor o’r codau GGG a fabwysiadwyd.

Mae’r rhestr isod o godau GGG yn cyfateb i wasanaethau a gwmpesir gan y gyfundrefn. Rhaid i’r rhestr hon gael ei defnyddio gan awdurdodau perthnasol i gefnogi penderfyniadau ynghylch cwmpas. Rhaid i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r cod mwyaf penodol a allant, yn hytrach nag un cyffredinol. Er enghraifft, pan fo awdurdodau perthnasol yn comisiynu cylchoedd ar gyfer ffrwythloni in vitro, rhaid i awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r cod GGG ar gyfer ‘ffrwythloni in vitro’ yn hytrach nag un ar gyfer ‘gwasanaethau gynaecolegol neu obstetrig’. Fodd bynnag, gan nad yw’r rhestr o godau GGG yn cynnwys pob math o wasanaeth iechyd, caiff awdurdodau perthnasol ddefnyddio’r rhiant god cyffredinol ar gyfer ‘gwasanaethau iechyd’ mewn rhai sefyllfaoedd pan nad oes cod manylach ar gael. Os oes cod manylach ar gael, ond nad yw wedi’i gynnwys yn y rhestr isod, mae’r gwasanaeth y tu allan i’r cwmpas.

Cod GGG 85100000-0

Disgrifiad:

Gwasanaethau iechyd.

Cod GGG 85110000-3

Disgrifiad:

Gwasanaethau ysbyty a gwasanaethau cysylltiedig.

Cod GGG 85111000-0

Disgrifiad:

Gwasanaethau ysbyty.

Cod GGG 85111100-1

Disgrifiad:

Gwasanaethau ysbyty llawfeddygol.

Cod GGG 85111200-2

Disgrifiad:

Gwasanaethau ysbyty meddygol.

Cod GGG 85111300-3

Disgrifiad:

Gwasanaethau ysbyty gynaecolegol.

Cod GGG 85111310-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau ffrwythloni in vitro.

Cod GGG 85111320-9

Disgrifiad:

Gwasanaethau ysbyty obstetrig.

Cod GGG 85111400-4

Disgrifiad:

Gwasanaethau ysbyty adsefydlu.

Cod GGG 85111500-5

Disgrifiad:

Gwasanaethau ysbyty seiciatrig.

Cod GGG 85111600-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau orthoteg.

Cod GGG 85111700-7

Disgrifiad:

Gwasanaethau therapi ocsigen.

Cod GGG 85111800-8

Disgrifiad:

Gwasanaethau patholeg.

Cod GGG 85111810-1

Disgrifiad:

Gwasanaethau dadansoddi gwaed.

Cod GGG 85111820-4

Disgrifiad:

Gwasanaethau dadansoddi bacteriolegol.

Cod GGG 85111900-9

Disgrifiad:

Gwasanaethau dialysis ysbyty.

Cod GGG 85112200-9

Disgrifiad:

Gwasanaethau gofal i gleifion allanol.

Cod GGG 85120000-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau ymarfer meddygol a gwasanaethau cysylltiedig.

Cod GGG 85121000-3

Disgrifiad:

Gwasanaethau ymarfer meddygol.

Cod GGG 85121100-4

Disgrifiad:

Gwasanaethau ymarfer cyffredinol.

Cod GGG 85121200-5

Disgrifiad:

Gwasanaethau arbenigol meddygol.

Cod GGG 85121210-8

Disgrifiad:

Gwasanaethau gynaecoleg neu obstetreg.

Cod GGG 85121220-1

Disgrifiad:

Gwasanaethau arbenigol arenneg neu’r system nerfol.

Cod GGG 85121230-4

Disgrifiad:

Gwasanaethau cardioleg neu wasanaethau arbenigol yr ysgyfaint.

Cod GGG 85121231-1

Disgrifiad:

Gwasanaethau cardioleg.

Cod GGG 85121232-8

Disgrifiad:

Gwasanaethau arbenigol yr ysgyfaint.

Cod GGG 85121240-7

Disgrifiad:

Gwasanaethau’r glust, y trwyn a’r gwddf neu wasanaethau awdiolegydd.

Cod GGG 85121250-0

Disgrifiad:

Gwasanaethau gastroenteroleg a geriatreg.

Cod GGG 85121251-7

Disgrifiad:

Gwasanaethau gastroenteroleg.

Cod GGG 85121252-4

Disgrifiad:

Gwasanaethau geriatreg.

Cod GGG 85121270-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau seiciatreg neu seicoleg.

Cod GGG 85121271-3

Disgrifiad:

Gwasanaethau cartref ar gyfer pobl â phroblemau seicolegol.

Cod GGG 85121280-9

Disgrifiad:

Gwasanaethau offthalmoleg, dermatoleg neu orthopaedeg.

Cod GGG 85121281-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau offthalmoleg.

Cod GGG 85121282-3

Disgrifiad:

Gwasanaethau dermatoleg.

Cod GGG 85121283-0

Disgrifiad:

Gwasanaethau orthopaedeg.

Cod GGG 85121290-2

Disgrifiad:

Gwasanaethau paediatreg neu wroleg.

Cod GGG 85121291-9

Disgrifiad:

Gwasanaethau paediatreg.

Cod GGG 85121292-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau wroleg.

Cod GGG 85121300-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau arbenigol llawfeddygol.

Cod GGG 85130000-9

Disgrifiad:

Gwasanaethau ymarfer deintyddol a gwasanaethau cysylltiedig.

Cod GGG 85131000-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau ymarfer deintyddol.

Cod GGG 85131100-7

Disgrifiad:

Gwasanaethau orthodonteg.

Cod GGG 85131110-0

Disgrifiad:

Gwasanaethau llawfeddygaeth orthodontig.

Cod GGG 85140000-2

Disgrifiad:

Gwasanaethau iechyd amrywiol.

Cod GGG 85141000-9

Disgrifiad:

Gwasanaethau a ddarperir gan bersonél meddygol.

Cod GGG 85141100-0

Disgrifiad:

Gwasanaethau a ddarperir gan fydwragedd.

Cod GGG 85141200-1

Disgrifiad:

Gwasanaethau a ddarperir gan nyrsys.

Cod GGG 85141210-4

Disgrifiad:

Gwasanaethau triniaeth feddygol yn y cartref.

Cod GGG 85141211-1

Disgrifiad:

Gwasanaethau triniaeth feddygol dialysis yn y cartref.

Cod GGG 85141220-7

Disgrifiad:

Gwasanaethau cynghori a ddarperir gan nyrsys.

Cod GGG 85142000-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau parafeddygol.

Cod GGG 85142100-7

Disgrifiad:

Gwasanaethau ffisiotherapi.

Cod GGG 85143000-3

Disgrifiad:

Gwasanaethau ambiwlans.

Cod GGG 85144000-0

Disgrifiad:

Gwasanaethau cyfleusterau iechyd preswyl.

Cod GGG 85144100-1

Disgrifiad:

Gwasanaethau gofal nyrsio preswyl.

Cod GGG 85145000-7

Disgrifiad:

Gwasanaethau a ddarperir gan labordai meddygol.

Cod GGG 85146000-4

Disgrifiad:

Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau gwaed.

Cod GGG 85146100-5

Disgrifiad:

Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau sberm.

Cod GGG 85146200-6

Disgrifiad:

Gwasanaethau a ddarperir gan fanciau organau trawsblannu.

Cod GGG 85148000-8

Disgrifiad:

Gwasanaethau dadansoddi meddygol.

Cod GGG 85149000-5

Disgrifiad:

Gwasanaethau fferylliaeth, ond heb gynnwys gwasanaethau fferylliaeth gymunedol a drefnir o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.

Cod GGG 85150000-5

Disgrifiad:

Gwasanaethau delweddu meddygol.

Cod GGG 85160000-8

Disgrifiad:

Gwasanaethau optegydd.

Cod GGG 85323000-9

Disgrifiad:

Gwasanaethau iechyd cymunedol, ond dim ond mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd cymunedol a ddarperir i unigolion.

Cod GGG 85312330-1

Disgrifiad:

Gwasanaethau cynllunio teulu, ond dim ond i’r graddau y darperir y gwasanaethau hynny i unigolion i gefnogi iechyd rhywiol ac iechyd atgenhedlu.

Cod GGG 85312500-4

Disgrifiad:

Gwasanaethau adsefydlu, ond dim ond i’r graddau y darperir y gwasanaethau hynny i unigolion i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau neu ar gyfer adsefydlu iechyd meddwl neu iechyd corfforol unigolion.

Atodiad B: tryloywder

Gofynion tryloywder

Mae Rheoliad 24 yn nodi’r broses i’w dilyn pan fo’n ofynnol i awdurdodau perthnasol gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi o dan y Rheoliadau.

Mae’r gofynion ar gyfer yr hysbysiadau, gan gynnwys cynnwys yr hysbysiadau, wedi’u nodi yn Atodlenni 2 i 18.

Mae Rheoliad 23 yn gosod yr amgylchiadau lle mae’r awdurdodau perthnasol wedi’u heithrio rhag cyhoeddi ‘gwybodaeth fasnachol sensitif’.

Rhaid cadw at y camau a amlinellir yn y Rheoliadau a’r gofynion tryloywder. Mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol ddangos tystiolaeth eu bod wedi arfer yn briodol y cyfrifoldebau a’r hyblygrwydd a roddir iddynt gan y Gyfundrefn, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau a wneir am wasanaethau iechyd yn destun craffu ac atebolrwydd priodol. Mae’r atodiad hwn yn nodi’r camau y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol eu cymryd i fod yn dryloyw yn eu proses gaffael o dan y Gyfundrefn hon. Rhaid i awdurdodau perthnasol ddilyn y broses dryloywder sy’n berthnasol i’r dull sy’n cael ei ddilyn.

Rhaid cyhoeddi’r holl hysbysiadau y cyfeirir atynt yn yr adran hon gan ddefnyddio’r platfform digidol canolog, Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS) drwy gyflwyno hysbysiad yn gyntaf ar y platfform digidol Cymreig, GwerthwchiGymru (S2W). Os na fydd y platfform digidol Cymreig (S2W) ar gael, caiff awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad neu wybodaeth ar y platfform digidol Canolog (FTS) neu ar FTS drwy ddefnyddio system ar-lein arall. Pan na fo’r platfform digidol Cymreig ar gael, dylid ystyried bod hyn yn bodloni’r gofyniad i gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi, unwaith y bodlonir amodau penodol.

Pan na fo’r platfform digidol canolog ar gael, caiff awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi ar y platfform digidol Cymreig (S2W) yn unig, neu os nad yw S2W ar gael ychwaith, ar system ar-lein arall. Rhaid i awdurdod perthnasol sy’n defnyddio’r platfform digidol Cymreig neu system ar-lein arall gydweithredu â Swyddfa’r Cabinet i sicrhau y cyhoeddir yr hysbysiad neu’r wybodaeth wedyn ar y platfform digidol canolog a bod darparwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn gallu gweld yr hysbysiad neu’r wybodaeth. Os ydynt yn defnyddio system heblaw FTS neu S2W, mae’n ofynnol hefyd i awdurdodau perthnasol sicrhau bod y system hon yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n rhad ac am ddim ac sy’n hawdd i ddarparwyr a phobl anabl ei chyrchu.

Os bydd Swyddfa’r Cabinet yn gwrthod cyflwyno hysbysiad neu wybodaeth, ni fydd cyhoeddiad yr awdurdod perthnasol yn cael ei ystyried mwyach fel un sy’n bodloni’r gofyniad i gyflwyno hysbysiad i’w gyhoeddi fel y nodir yn y rheoliadau.

Hysbysiadau y mae angen eu cyhoeddi o dan brosesau’r Rheoliadau

Hysbysiadau sydd eu hangen i ddyfarnu contractau o dan y prosesau caffael a chytundebau fframwaith::

Proses dyfarniad uniongyrchol 1

  • cyfleu penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i ddyfarnu
  • cadarnhau penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad
  • addasu contract: cyhoeddi hysbysiad ar gyfer gwneud addasiadau i gontract

Proses dyfarniad uniongyrchol 2

  • cyfleu penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i ddyfarnu
  • cadarnhau penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad
  • addasu contract: cyhoeddi hysbysiad ar gyfer gwneud addasiadau i gontract

Y broses darparwr mwyaf addas

  • bwriadau clir: cyhoeddi hysbysiad o’r dull arfaethedig ymlaen llaw
  • cyfleu penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i ddyfarnu
  • cadarnhau penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad
  • addasu contract: cyhoeddi hysbysiad ar gyfer gwneud addasiadau i gontract

Y broses gystadleuol

  • bwriadau clir: cyhoeddi hysbysiad yn gwahodd cynigion ar gyfer tendr cystadleuol
  • cyfleu penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i ddyfarnu
  • cadarnhau penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad
  • addasu contract: cyhoeddi hysbysiad ar gyfer gwneud addasiadau i gontract

Hysbysiadau sydd eu hangen ar gyfer prosesau mewn perthynas â chytundebau fframwaith:

Sefydlu cytundeb fframwaith (yn dilyn y broses gystadleuol)

  • bwriadau clir: cyhoeddi hysbysiad yn gwahodd cynigion ar gyfer tendr cystadleuol
  • cyfleu penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i ddyfarnu
  • cadarnhau penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad
  • addasu contract: cyhoeddi hysbysiad ar gyfer gwneud addasiadau i fframwaith

Contractau yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth

  • cadarnhau penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad
  • addasu contract: cyhoeddi hysbysiad ar gyfer gwneud addasiadau i fframwaith

Contractau yn seiliedig ar gytundeb fframwaith yn dilyn cystadleuaeth

  • cyfleu penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i ddyfarnu
  • cadarnhau penderfyniadau: cyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad
  • addasu contract: cyhoeddi hysbysiad ar gyfer gwneud addasiadau i fframwaith

Gofynion tryloywder ar gyfer proses dyfarniad uniongyrchol 1, neu wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth

Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud penderfyniadau o dan Broses Dyfarniad Uniongyrchol 1, neu’n dyfarnu i ddarparwr yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth, rhaid cadw at y gofynion canlynol.

Y bwriad i ddyfarnu (proses dyfarniad uniongyrchol 1 neu ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth)

Mae cynnwys yr hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract wedi’i nodi yn Atodlen 2.

Os yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 1, neu ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad yn nodi ei fwriad i ddyfarnu contract yn defnyddio’r broses gaffael honno. Rhaid iddo gael ei gyhoeddi (gweler y Gofynion Tryloywder) fel hysbysiad dyfarnu contract a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau.

Rydym yn disgwyl i’r hysbysiad hefyd gynnwys y dyddiadau lle bwriedir i’r gwasanaethau gael eu darparu, os yw hynny’n hysbys.

Mae cyhoeddi’r bwriad i ddyfarnu yn nodi dechrau’r cyfnod segur.

Hysbysiad yn dilyn dyfarniad (proses dyfarniad uniongyrchol 1 neu ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth)

Mae cynnwys yr hysbysiad yn dilyn dyfarnu contract wedi’i nodi yn Atodlen 3. 

Pan fydd y cyfnod segur wedi dod i ben, gall yr awdurdod perthnasol ddyfarnu’r contract. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r dyfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler y Gofynion Tryloywder) fel corigendwm i’r hysbysiad dyfarnu contract (a gyhoeddwyd cyn y cyfnod segur fel bwriad i ddyfarnu) a rhaid cynnwys yr wybodaeth fel y nodwyd yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau.

Os, yn dilyn cyfnod segur, na all yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract, neu os nad yw’n dymuno dyfarnu contract, rhaid iddo ddilyn y broses ar gyfer rhoi’r gorau i broses gaffael.

Gofynion tryloywder ar gyfer dyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith darparwr sengl

Mae cynnwys yr hysbysiad yn dilyn dyfarnu contract wedi’i nodi yn Atodlen 3.

At ddibenion dyfarnu contract i ddarparwr yn seiliedig ar gytundeb fframwaith darparwr sengl, rhaid i’r awdurdodau perthnasol gyhoeddi hysbysiad o ddyfarnu’r contract o fewn 30 diwrnod i roi’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler y gofynion tryloywder) a chynnwys y gofynion am wybodaeth a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau.

Ym mhob sefyllfa, os na all yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract neu os nad yw’n dymuno gwneud hynny, rhaid iddo ddilyn y broses ar gyfer rhoi’r gorau i broses gaffael.

Gofynion tryloywder ar gyfer proses dyfarniad uniongyrchol 2

Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud penderfyniadau o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2, rhaid cadw at y gofynion canlynol.

Bwriad i ddyfarnu (proses dyfarniad uniongyrchol 2)

Mae cynnwys yr hysbysiad bwriad i ddyfarnu wedi’i nodi yn Atodlen 4.

Os yw’r awdurdod perthnasol yn bwriadu defnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2, rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad sy’n nodi ei fwriad i ddyfarnu contract gan ddefnyddio’r broses gaffael honno. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad dyfarnu contract a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau.

Rydym yn disgwyl i’r hysbysiad gynnwys hefyd y dyddiadau y bwriedir darparu’r gwasanaethau rhyngddynt, os ydynt yn hysbys.

Mae cyhoeddi’r hysbysiad bwriad i ddyfarnu yn nodi dechrau’r cyfnod segur.

Hysbysiad yn dilyn dyfarniad (droses dyfarniad uniongyrchol 2)

Mae cynnwys yr hysbysiad yn dilyn dyfarnu contract wedi’i nodi yn Atodlen 5.

Unwaith y bydd y cyfnod segur wedi dod i ben, caiff yr awdurdodau perthnasol ddyfarnu’r contract. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r dyfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel corigendwm i’r hysbysiad dyfarnu contract (a gyhoeddwyd cyn y cyfnod segur fel bwriad dyfarnu) a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau.

Yn dilyn y cyfnod segur, os na all yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract, neu os nad yw’n dymuno gwneud hynny, rhaid iddo ddilyn y broses ar gyfer rhoi’r gorau i broses gaffael.

Gofynion tryloywder ar gyfer y broses darparwr mwyaf addas

Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud penderfyniadau o dan y droses darparwr mwyaf addas, rhaid cadw at y gofynion canlynol.

Y bwriad i ddilyn y broses darparwr mwyaf addas

Mae cynnwys yr hysbysiad o fwriad i ddilyn y broses darparwr mwyaf addas wedi’i nodi yn Atodlen 6.

Ar ôl i’r awdurdod perthnasol benderfynu dilyn y dull ar gyfer y Broses Darparwr Mwyaf Addas, rhaid iddo gyhoeddi ei fwriad i ddilyn y dull hwn. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 6 i’r Rheoliadau.

Ni ddisgwylir i’r hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer y broses darparwr mwyaf addas gynnwys manylion ynghylch pa ddarparwyr sydd dan ystyriaeth fel darparwyr addas.

Ni chaiff yr awdurdod perthnasol fwrw ymlaen i asesu darparwyr tan o leiaf 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o fwriad i’w gyhoeddi, fel bod darparwyr yn ymwybodol o’r dull y mae’r awdurdod perthnasol yn ei ddefnyddio i ddethol darparwr.

Bwriad i ddyfarnu i’r darparwr dethol o dan y broses darparwr mwyaf addas

Mae cynnwys yr hysbysiad bwriad i ddyfarnu wedi’i nodi yn Atodlen 7.

Ar ôl i’r awdurdod perthnasol ddethol darparwr, rhaid iddo gyhoeddi ei fwriad i ddyfarnu contract. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad dyfarnu contract, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7 i’r Rheoliadau.

Rydym yn disgwyl i’r hysbysiad gynnwys hefyd:

  • p’un ai gwasanaeth newydd neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes yw hwn
  • p’un ai darparwr newydd neu ddarparwr presennol yw hwn
  • y dyddiadau y bwriedir darparu’r gwasanaethau rhyngddynt, os ydynt yn hysbys

Mae cyhoeddi’r hysbysiad bwriad i ddyfarnu yn nodi dechrau’r cyfnod segur.

Hysbysiad yn dilyn dyfarniad (y broses darparwr mwyaf addas)

Mae cynnwys yr hysbysiad yn dilyn dyfarnu contract wedi’i nodi yn Atodlen 8.

Unwaith y bydd y cyfnod segur wedi dod i ben, caiff yr awdurdod perthnasol ddyfarnu’r contract. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r dyfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel corigendwm i’r hysbysiad dyfarnu contract (a gyhoeddwyd cyn y cyfnod segur fel bwriad dyfarnu) a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 8 i’r Rheoliadau.

Yn dilyn y cyfnod segur, os na all yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract, neu os nad yw’n dymuno gwneud hynny, rhaid iddo ddilyn y broses ar gyfer rhoi’r gorau i broses gaffael.

Gofynion tryloywder ar gyfer y broses gystadleuol neu wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith heb gystadleuaeth

Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud penderfyniadau o dan y broses gystadleuol, gan gynnwys mewn perthynas â chwblhau cytundeb fframwaith, neu os yw awdurdodau perthnasol yn dyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth, rhaid cadw at y gofynion canlynol.

Gwahodd cynigion (y broses gystadleuol ac wrth sefydlu cytundeb fframwaith)

Mae cynnwys yr hysbysiad yn gwahodd cynigion wedi’i nodi yn Atodlen 9.

Pan fo’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu dilyn y broses gystadleuol (gan gynnwys sefydlu cytundeb fframwaith), rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad a fydd yn cychwyn y tendr cystadleuol.

Er nad yw hynny’n ofynnol, caiff hefyd gyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) cyn yr hysbysiad am gyfle tendr cystadleuol. Os cyhoeddir PIN, cynghorir awdurdodau perthnasol i gynnwys manylion y gwasanaeth sydd ei angen, hyd arfaethedig y contract ac unrhyw ddarpariaeth arfaethedig ar gyfer estyn neu derfynu’n gynnar, ac unrhyw faterion eraill (hysbys neu a ragwelir) sy’n debygol o fod o ddiddordeb i ddarparwyr posibl.

Rhaid cyhoeddi’r gwahoddiad i wneud cynigion mewn tendr cystadleuol (gweler gofynion tryloywder). Rhaid i’r hysbysiad contract, neu’r dogfennau a ddarperir yng nghynnwys yr hysbysiad (er enghraifft dogfennau tendro), gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 9 i’r rheoliadau.

Gwahodd cynigion (wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth)

Manylir ar gynnwys y gwahoddiad i ddarparwyr sy’n rhan o’r cytundeb fframwaith hysbysiad yn gwahodd cynigion yn Atodlen 16.

Wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth, rhaid i’r awdurdod perthnasol wahodd pob darparwr sy’n rhan o’r cytundeb fframwaith i gyflwyno cynnig (bid). Nid oes rhaid cyhoeddi’r gwahoddiad hwn.

Rhaid i’r gwahoddiad gynnwys yr wybodaeth sydd wedi’i nodi yn atodlen 16 i’r rheoliadau. 

Bwriad i ddyfarnu (y broses gystadleuol, wrth sefydlu cytundeb fframwaith neu wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth

Mae cynnwys yr hysbysiad bwriad i ddyfarnu wedi’i nodi yn Atodlen 11.

Ar ôl i’r awdurdod perthnasol nodi’r darparwyr llwyddiannus (gan gynnwys wrth sefydlu cytundeb fframwaith neu ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth), rhaid iddo gyhoeddi ei fwriad i ddyfarnu contract i’r darparwyr llwyddiannus. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 11 i’r rheoliadau.

Rydym yn disgwyl i’r hysbysiad gynnwys hefyd:

  • p’un ai gwasanaeth newydd neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes yw hwn
  • p’un ai darparwr newydd neu ddarparwr presennol yw hwn
  • y dyddiadau y bwriedir darparu’r gwasanaethau rhyngddynt, os ydynt yn hysbys

Cyfathrebu â darparwyr aflwyddiannus

Mae cynnwys cyfathrebiadau i ddarparwyr aflwyddiannus wedi’i nodi yn Atodlen 10.

Ar ôl nodi’r darparwyr llwyddiannus, rhaid i awdurdodau perthnasol gyfleu eu penderfyniad yn ysgrifenedig i’r darparwyr aflwyddiannus cyn cyhoeddi’r hysbysiad o fwriad i ddyfarnu. Rhaid i awdurdodau perthnasol roi gwybodaeth ysgrifenedig i’r darparwyr aflwyddiannus ynghylch pam na fu eu cynnig yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 10 i’r Rheoliadau.

Rydym yn cynghori y dylai’r cyfeiriad y dylid anfon sylwadau ysgrifenedig iddo (a gaiff fod yn gyfeiriad e-bost) gael ei ddarparu yn y cyfathrebiad hefyd.

Caiff awdurdodau perthnasol hefyd ddewis rhoi adborth i ddarparwyr aflwyddiannus ar yr hyn a wnaethant yn dda a’r hyn y gallent fod wedi’i wneud i wella eu cynnig.

Mae cyhoeddi’r hysbysiad o fwriad i ddyfarnu yn nodi dechrau’r cyfnod segur. Wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth, caiff pob dim ond darparwr perthnasol a oedd yn barti i’r cytundeb fframwaith gyflwyno sylwadau i’r awdurdod perthnasol.

Hysbysiad o ddyfarniad yn dilyn cystadleuaeth (y Broses Gystadleuol, wrth sefydlu cytundeb fframwaith, ac wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth)

Mae cynnwys yr hysbysiad syn cadarnhau’r penderfyniad yn dilyn y Broses Gystadleuol ac wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth wedi’i nodi yn Atodlen 12.

Unwaith y bydd y cyfnod segur wedi dod i ben, caiff yr awdurdod perthnasol ddyfarnu’r contract (gan gynnwys y rhai a ddyfernir ar sail cytundeb fframwaith) neu gwblhau’r cytundeb fframwaith. Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi hysbysiad yn cadarnhau’r dyfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel corigendwm i’r hysbysiad dyfarnu contract (a gyhoeddwyd cyn dechrau’r cyfnod segur fel bwriad i ddyfarnu), a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 12 i’r rheoliadau.

Yn dilyn y cyfnod segur, os na all yr awdurdod perthnasol ddyfarnu contract, neu os nad yw’n dymuno gwneud hynny, rhaid iddo ddilyn y broses ar gyfer rhoi’r gorau i’r broses gaffael (gweler isod).

Gofynion tryloywder ar gyfer rhoi’r gorau i broses gaffael

Mae cynnwys yr hysbysiad sy’n cadarnhau’r penderfyniad i roi’r gorau i broses gaffael wedi’i nodi yn Atodlen 17.

Pan fo awdurdodau perthnasol yn rhoi’r gorau i broses gaffael, mae’r gofynion tryloywder canlynol yn gymwys.

Rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r penderfyniad i roi’r gorau i’r broses gaffael ac i beidio â dyfarnu contract. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel corigendwm i’r hysbysiad diwethaf a gyhoeddwyd, o fewn 30 diwrnod i’r penderfyniad, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 17 i’r Rheoliadau.

Gofynion tryloywder ar gyfer addasiadau i gontract neu gytundeb fframwaith

Mae cynnwys hysbysiad addasu contract neu gytundeb fframwaith wedi’i nodi yn Atodlen 13.

Pan fo awdurdodau perthnasol yn gwneud addasiad i gontract a ganiateir o dan y gyfundrefn hon sy’n gofyn am hysbysiad, rhaid cydymffurfio â’r gofynion isod.

Cadarnhad o addasiad

Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r addasiad o fewn 30 diwrnod i addasu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad addasu, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 13 i’r rheoliadau.

Gofynion tryloywder ar gyfer amgylchiadau brys

O dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen i awdurdodau perthnasol weithredu’n gyflym i fynd i’r afael â risgiau uniongyrchol i ddiogelwch ac ansawdd gofal. Gweler yr adran dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontract.

O dan yr amgylchiadau brys hyn, rhaid i awdurdodau perthnasol fod yn dryloyw o hyd ynghylch eu penderfyniadau a dilyn y gofynion isod.

Cadarnhad o ddyfarnu contract o dan amgylchiadau brys

Mae cynnwys hysbysiad o ddyfarniad brys wedi’i nodi yn Atodlen 14.

Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’r penderfyniad i ddyfarnu contract o dan amgylchiadau brys o fewn 30 diwrnod i ddyfarnu’r contract. Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad dyfarnu contract, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 14 i’r Rheoliadau.

Cadarnhad o addasiad o dan amgylchiadau brys

Mae cynnwys hysbysiad o addasiad brys wedi’i nodi yn Atodlen 15.

O dan amgylchiadau brys, rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi cadarnhad o’u penderfyniad i wneud addasiad i gontract o fewn 30 diwrnod i wneud yr addasiad i gontract (oni bai bod yr addasiad yn un a ganiateir heb dryloywder; gweler addasiadau i gontract). Rhaid cyhoeddi hwn (gweler gofynion tryloywder) fel hysbysiad addasu, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 15 i’r Rheoliadau.

Eithrio’n gyffredinol o ddyletswyddau i gyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif

Mae Rheoliad 23 yn nodi’r amgylchiadau lle bydd awdurdodau perthnasol wedi’u heithrio rhag cyhoeddi ‘gwybodaeth fasnachol sensitif’.

Mewn rhai amgylchiadau, does dim angen i awdurdodau perthnasol gyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ‘wybodaeth fasnachol sensitif’ mewn hysbysiadau, fel y diffinnir yn Rheoliad 23(2).

Rhaid defnyddio’r eithriad hwn dim ond pan fo awdurdodau perthnasol yn fodlon bod yr wybodaeth yn wybodaeth fasnachol sensitif, ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus mewn cyhoeddi’r wybodaeth. Nid yw’r eithriad yn atal awdurdod perthnasol rhag datgelu gwybodaeth fasnachol sensitif wrth geisio cyngor annibynnol drwy Uned Adolygu Caffael Cymru fel y nodir yn Rheoliad 29.

Os yw awdurdod perthnasol yn penderfynu peidio â chyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif, dylid nodi’r rheswm dros y penderfyniad hwn yn yr hysbysiadau yn Atodlenni 2 i 15 ac Atodlen 17.

Atodiad C: gwasanaethau gofal sylfaenol

Atodiad C: gwasanaethau gofal sylfaenol

Mae'r atodiad hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol am sut y disgwylir i'r Gyfundrefn gael ei chymhwyso wrth gynnal proses gaffael ar gyfer darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, pan fo'r gwasanaethau hynny o fewn cwmpas y Gyfundrefn. Bydd angen i awdurdodau perthnasol ystyried a yw'r Gyfundrefn yn gymwys i'w trefniadau ar gyfer gwasanaethau fesul achos a dylent gael cyngor cyfreithiol annibynnol pan fo'n briodol. Dylid darllen yr atodiad hwn ochr yn ochr â deddfwriaeth berthnasol, a chanllawiau.

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn cyfeirio at wasanaethau meddygol sylfaenol, fferyllfeydd cymunedol, gofal deintyddol sylfaenol, a gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol. Mewn rhai amgylchiadau, bydd caffael gwasanaethau gofal sylfaenol o fewn cwmpas y Gyfundrefn.

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal meddygol sylfaenol a gofal deintyddol sylfaenol yn bennaf, yn aml yn cael eu darparu o dan gontractau, nad oes ganddynt ddyddiad gorffen penodol, ac felly maent yn rhedeg hyd nes eu y byddant yn terfynu. Felly, nid yw'r contractau hyn yn cael eu haildrefnu fel mater o drefn gan awdurdodau perthnasol.

Fodd bynnag, bydd sefyllfaoedd pan fydd rhaid i awdurdodau perthnasol ddewis darparwr newydd ar gyfer gwasanaeth; er enghraifft:

  • wrth ymateb i derfyniadau contract sydd wedi'u cynllunio neu heb eu cynllunio 
  • pan fydd contractau â therfynau amser (megis gwasanaethau meddygol darparwr amgen neu wasanaethau deintyddol personol, neu wasanaethau atodol) yn dod i ben
  • pan drefnir gwasanaethau newydd (megis meddygfeydd newydd o fewn ystad neu ddatblygiad newydd)

Yn y sefyllfaoedd hyn, pan fo'r Gyfundrefn yn gymwys, rhaid i awdurdodau perthnasol ddilyn y broses gaffael briodol.

Fel rheol gyffredinol mewn achosion lle mae'r gyfundrefn yn gymwys:

  • rhaid i wasanaethau gofal sylfaenol newydd lle mae awdurdod perthnasol yn ymrwymo i'r contract arfaethedig gyda darparwr gael eu trefnu drwy gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol
  • gellir parhau â'r gwasanaethau presennol pan fo contract y darparwr presennol yn dod i ben a bod yr awdurdod perthnasol yn dymuno parhau gyda'r darparwr presennol ac yn penderfynu bod y darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol (gan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso'r meini prawf dethol sylfaenol), ac nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol), drwy ddyfarnu o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2
  • gellir gwneud addasiadau i gontractau presennol yn unol â'r gyfundrefn (gweler addasiadau i gontractau)

Gwasanaethau meddygol sylfaenol

Mae'r adran hon yn rhoi enghreifftiau o sut y gellir cymhwyso'r Gyfundrefn wrth gynnal proses gaffael ar gyfer gwasanaethau meddygol sylfaenol ar draws pum senario:

  1. parhad contractau presennol
  2. addasu contractau presennol
  3. darparwr yn gadael mewn ffordd wedi'i chynllunio
  4. newidiadau sydyn neu heb eu cynllunio i gontractau presennol
  5. gwasanaethau newydd ac integredig

1. Parhad contractau presennol

Mae gan ddarparwr practis meddyg teulu gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) presennol

Mae hwn yn gontract a negodir yn genedlaethol, a wneir o dan adran 42(2) o ddeddf 2006 ar y telerau a nodir o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 ('Rheoliadau GMS’). Mae'r contractau hyn yn benagored [troednodyn 1] oni bai bod yr awdurdod perthnasol neu'r darparwr yn eu terfynu.

Mae'r contract eisoes wedi'i ddyfarnu a bydd yn parhau i redeg yn barhaus ac ni fydd yn dod i ben oni bai ei fod yn cael ei derfynu. Felly, ni chynhelir proses gaffael.

Mae gan ddarparwr practis meddyg teulu gontract Gwasanaethau Meddygol Darparwr Amgen (APMS) presennol

Mae APMS yn golygu trefniadau a wneir o dan adran 41(2) o Ddeddf 2006 ar delerau a nodir o dan gyfarwyddydau a ddyroddir o bryd i'w gilydd.

Mae'r contract hwn yn un am amser cyfyngedig, felly mae’n para cyfnod penodedig, gyda'r darparwr penodedig ac felly mae angen ei ail-ddyfarnu o bryd i'w gilydd. Mae'r opsiynau canlynol ar gael i awdurdodau perthnasol wrth gaffael contract APMS newydd pan fydd y contract presennol yn dod i ben:

  • os nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol) a bod y darparwr yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol, yna gall yr awdurdod perthnasol ddyfarnu'r contract gan ddefnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2
  • os yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol) neu os yw'r awdurdod perthnasol am geisio darparwr (darparwyr) newydd, yna caiff yr awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael gan ddefnyddio naill ai'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol

2. Addasu contractau presennol

Uno dau bractis meddyg teulu neu fwy yn arwain at newidiadau i gontractau presennol

Gall uno olygu newidiadau mawr i gontractau. Efallai y bydd rhai cynigion yn fwy syml (hynny yw, uno dau gontract GMS), tra bod eraill yn debygol o fod yn fwy cymhleth (hynny yw uno contractau GMS ac APMS). Os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu bwrw ymlaen â chynnig o'r fath, efallai y bydd angen iddo benderfynu a ddylid parhau â chontract presennol neu gynnal proses gaffael.

Mae uno sy'n arwain at yr un gwasanaethau yn parhau, ond gyda grwpiau neu unigolion gwahanol, o dan un o'r contractau a oedd yn bodoli cynt, yn addasiadau a ganiateir o dan y Gyfundrefn. Felly, ni fyddai angen cynnal proses gaffael. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn.

Os yw uno'n arwain at newidiadau sylweddol i'r contract, megis newid sylweddol i'r gwasanaethau, mae’n ofynnol cynnal proses gaffael. Rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol oherwydd bod yr awdurdod perthnasol i bob pwrpas yn comisiynu gwasanaeth newydd.

Unig ymarferydd neu bartneriaeth yn dymuno disodli ei gontract neu ei chontract gydag un newydd, fel ei fod yn cael ei ddal gan gorff corfforaethol

Os yw'r awdurdod perthnasol yn cytuno i'r cynnig, gall y math hwn o addasiad i gontract fod yn addasiad a ganiateir o dan y Gyfundrefn, ar yr amod nad yw'r gwasanaeth yn newid. Felly, os yw hwn yn addasiad a ganiateir, nid oes angen cynnal proses gaffael. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn.

Newidiadau sylweddol i gontractau presennol

Er enghraifft, ychwanegu meddygfa gangen newydd o dan gontract neu gyflwyno newidiadau mawr i fecanweithiau talu contract. Os yw'r newid ei hun yn dderbyniol i'r awdurdod perthnasol, caniateir caniatáu'r math hwn o addasiad contract o dan y Gyfundrefn, yn dibynnu ar faint yr addasiad a’r rheswm amdano, a'r effaith y mae'n ei chael ar y gwasanaethau a ddarperir. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn.

Partneriaeth meddyg teulu yn newid aelodau (newid a wneir gan y practis) pan nad oes unrhyw newidiadau i'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu

Mae partïon y contract yn newid ond nid yw hyn yn arwain at newidiadau i'r gwasanaethau a ddarperir.

Gall y math hwn o addasiad contract fod yn addasiad a ganiateir o dan y Gyfundrefn ar yr amod nad yw'r gwasanaeth yn newid. Felly, os yw hwn yn addasiad a ganiateir, nid oes angen cynnal proses dethol darparwr. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn.

Mae partneriaeth meddyg teulu yn diddymu, ac mae'r cyn-bartneriaid yn anghytuno ynghylch pwy ddylai ysgwyddo’r contract i ddarparu'r gwasanaethau

Pan fo hyn yn ymwneud â chontract GMS, bydd y contract yn aros gyda'r bartneriaeth hyd nes y bydd y partneriaid yn enwebu un partner i gymryd y contract. Yn achos contract APMS, bydd angen adolygu darpariaethau'r contract perthnasol i bennu canlyniadau diddymu.

Yn achos contract GMS, pan nad yw partneriaeth wedi cyflwyno hysbysiad sy'n enwebu un o'r partneriaid i ymgymryd â'r contract ac, yn hytrach, ei bod wedi rhoi hysbysiad yn terfynu ei chontract presennol, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael.

Rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Newidiadau sylweddol i gontractau GMS neu APMS presennol

Os yw'r trefniadau contractio yn newid yn sylweddol (gan nodi bod yn rhaid i unrhyw addasiadau gydymffurfio o hyd â Rheoliadau'r GMS neu gyfarwyddydau APMS (fel sy’n briodol), yna ni chaniateir yr addasiad.

O ganlyniad, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael a rhaid iddo gymhwyso naill ai'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i ddethol y darparwyr ar gyfer y gwasanaeth newydd.

3. Darparwr yn gadael mewn ffordd wedi'i chynllunio

Darparwr yn gadael contract GMS, neu APMS, mewn ffordd wedi’i chynllunio

Yn y sefyllfaoedd hyn, y penderfyniad yw naill ai gwasgaru'r rhestr cleifion i'r practisau cyfagos pan nad yw maint y rhestr cleifion yn sylweddol, ac os felly ni chynhelir proses dethol darparwr, neu ddewis darparwr newydd.

Os yw darparwr newydd yn cael ei ddewis er enghraifft, pan fo'r rhestr cleifion yn sylweddol, yna rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

4. Newidiadau sydyn neu heb eu cynllunio i gontractau presennol

Terfynu contract GMS neu APMS presennol yn sydyn

Er enghraifft, o ganlyniad i ddiffyg ar ran contractwr neu fod y contractwr yn peidio â bod yn gymwys neu oherwydd marwolaeth meddyg teulu sy’n unig ddeiliad y contract neu golli ei gofrestriad â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

Yn y sefyllfaoedd hyn, y penderfyniad yw:

  • gwasgaru'r rhestr cleifion i'r practisau cyfagos, ac os felly nid yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael
  • dewis darparwr newydd – gall hyn fod naill ai fel contract dros dro neu ateb tymor hwy
  • i fwrdd iechyd lleol ddarparu'r gwasanaethau meddygol sylfaenol ei hun mewn practis gwasanaethau meddygol bwrdd iechyd lleol, ac os felly nid yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael

Os yw darparwr newydd yn cael ei ddewis, yna gellir defnyddio'r darpariaethau brys (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau) o fewn y Gyfundrefn i sicrhau anghenion dybryd, er enghraifft, sefydlu trefniadau dros dro. Fodd bynnag, gan mai trefniant dros dro fydd hwn, rhaid ei ailystyried ar ôl cyfnod penodol (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau am ragor o wybodaeth). I nodi, dim ond am uchafswm o ddwy flynedd y gellir rhoi contract dros dro o dan reoliadau'r GMS ar waith.

Yn bwysig, rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu trefniant parhaol newydd.

Mae angen darpariaeth frys i gyflenwi gwasanaeth oherwydd bod darparwr wedi optio allan o'i ddarparu

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • mae darparwr yn gadael y farchnad yn annisgwyl
  • mae angen aildrefnu gwasanaeth atodol o dan gyfarwyddyd yn gyflym oherwydd bod darparwr wedi gwrthod cymryd rhan yn annisgwyl

Yn y sefyllfaoedd hyn, y penderfyniad yw naill ai gwasgaru'r rhestr cleifion i'r practisau cyfagos, ac os felly nid yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael, neu ddewis darparwr newydd - gall hyn fod naill ai fel gwasanaeth cyflenwi dros dro neu ateb parhaol hirdymor.

Os yw darparwr newydd yn cael ei ddewis i gyflenwi gwasanaeth dros dro, yna gellir defnyddio'r darpariaethau brys (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau) o fewn y gyfundrefn i sicrhau anghenion dybryd, er enghraifft, sefydlu trefniadau dros dro. Fodd bynnag, gan mai trefniant dros dro fydd hwn, rhaid ei ailystyried ar ôl cyfnod penodol (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau am ragor o wybodaeth).

I nodi, dim ond am uchafswm o ddwy flynedd [troednodyn 2] y gellir rhoi contract dros dro o dan reoliadau'r GMS ar waith. Dim ond lle gellir cyfiawnhau hynny fel amgylchiad eithriadol y dylid cymhwyso uchafswm hyd contract dros dro o dan reoliadau'r GMS o dan y Gyfundrefn. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfyngu ar dymor y contract i'r hyn sy'n gwbl angenrheidiol yn unol â Rheoliad 14. Os yw'r dyfarniad brys yn fwy na 12 mis, yna rhaid i awdurdodau perthnasol gyfeirio'n benodol at y rhesymau pam mae’n para mwy na 12 mis yn eu hysbysiad o ddyfarniad brys o dan Atodlen 14 (paragraff 7 o Atodlen 14).

Yn bwysig, rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu trefniant parhaol newydd.

5. Gwasanaethau newydd ac integredig

Sefydlu gwasanaeth meddygol sylfaenol newydd (gan ddefnyddio contractau GMS neu APMS)

O dan yr amgylchiadau hyn, mae darparwr newydd yn cael ei ddewis ar gyfer y contract arfaethedig, ac felly mae'n rhaid i awdurdodau perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Trefnu gwasanaeth newydd o dan gontract APMS

Er enghraifft, trefnu gwasanaeth meddygol sylfaenol galw i mewn newydd mewn ysbyty. Gall hwn fod yn gontract APMS annibynnol sydd wedi'i leoli yn yr ysbyty, neu gall bwrdd iechyd lleol ddyfarnu contract APMS ar gyfer y gwasanaeth, neu gyflogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol yn uniongyrchol.

Pan fo'r awdurdod perthnasol yn caffael contract a bod darparwr yn cael ei ddethol ar gyfer y gwasanaeth newydd, rhaid i awdurdodau perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau gofal nad ydynt yn rhai sylfaenol cymysg

Er enghraifft, gwasanaethau 111 y GIG integredig, sydd fel arfer yn cael eu sefydlu o dan Gontract Gwasanaethau Meddygol Darparwr Amgen Safonol (Cymru) ac sy'n cynnwys gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau gofal brys.

Gan fod darparwr yn cael ei ddethol ar gyfer gwasanaeth newydd, rhaid i awdurdodau perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Comisiynu gwasanaethau atodol lleol

Er enghraifft, meddygon teulu sydd ag arbenigedd arbenigol (hynny yw, mewn dermatoleg neu fasdoriadau) yn cynnal gwasanaethau iechyd gofal eilaidd 'traddodiadol' mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Gellir cynnal y gwasanaethau hyn o dan gontract gyda bwrdd iechyd lleol neu drwy weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gyflogir gan yr awdurdod perthnasol. Yn achos y cyntaf, oherwydd bod darparwr yn cael ei ddethol ar gyfer gwasanaeth newydd, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Pan fo'r awdurdod perthnasol yn gwahodd pob practis meddyg teulu i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau ymarfer cyffredinol neu i ddarparu eu gwasanaethau ymarfer cyffredinol craidd i safon uwch, yna gellir cynnal y gwasanaethau hyn o dan addasiad i gontract. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y gyfundrefn.

Comisiynu gwasanaeth atodol o dan gyfarwyddyd na ellir ei ddarparu ond gan unig ddarparwr i ddiwallu anghenion y boblogaeth ehangach (cynllun triniaeth amgen er enghriafft, cleifion treisgar)

Fel arfer, sicrheir gwasanaethau o'r fath trwy gontractau APMS, ac o dan yr amgylchiadau hyn caiff darparwr newydd ei ddethol ar gyfer y contract arfaethedig. Felly, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Gwasanaethau deintyddol sylfaenol

Mae'r adran hon yn rhoi enghreifftiau o sut y gellir cymhwyso'r Gyfundrefn i gontractau gwasanaethau gofal deintyddol sylfaenol ar draws pedair senario:

  1. parhad contractau presennol
  2. addasu contractau presennol
  3. darparwr yn gadael mewn ffordd wedi’i chynllunio
  4. newidiadau sydyn neu heb eu cynllunio i gontractau presennol

1. Parhad contractau presennol

Mae gan bractis deintyddol gontract GDS presennol gydag awdurdod perthnasol

Ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig, mae hwn yn gontract parhaol a negodir yn genedlaethol, a wneir o dan adran 57 o Ddeddf 2006 ar y telerau a nodir o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 [troednodyn 2], oni bai ei fod yn cael ei derfynu gan yr awdurdod perthnasol neu'r darparwr. Caniateir diweddaru'r contract o bryd i'w gilydd i sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â'r rheoliadau hynny, ond nid yw'r gwasanaeth yn newid yn sylweddol.

Mae'r contract eisoes wedi'i ddyfarnu a bydd yn parhau i redeg yn barhaus ac ni fydd yn dod i ben oni bai ei fod yn cael ei derfynu. Felly, ni chynhelir proses gaffael.

Mae gan bractis deintyddol gontract PDS presennol gydag awdurdod perthnasol.

Mae hwn yn gontract a wneir o dan adran 64 o Ddeddf 2006 ar y telerau a nodir o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006.

Gellir defnyddio contractau PDS i drefnu gwasanaethau gorfodol neu wasanaethau arbenigol fel tawelyddu, neu wasanaethau cartref, ac yn gyffredinol mae terfyn amser arnynt – sydd fel arfer yn cael ei adolygu bob rhyw bum mlynedd. Mae contractau PDS yn cael eu negodi gyda chontractwyr cymwys a gallant ddod i ben (ac felly’r angen i’w hadnewyddu) o bryd i'w gilydd.

Pan ddaw contract PDS i ben a bod angen ei adnewyddu, mae'r opsiynau canlynol ar gael i awdurdodau perthnasol wrth gaffael contract PDS newydd pan fydd y contract presennol yn dod i ben:

  • os nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol) a bod yr awdurdod perthnasol yn fodlon bod y darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol, gall ddyfarnu'r contract gan ddefnyddio proses dyfarniad uniongyrchol 2
  • os yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol) neu os yw'r awdurdod perthnasol eisiau canfod darparwyr newydd, yna gall gynnal proses gaffael gan ddefnyddio naill ai'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol

2. Addasu contractau presennol

Unig ymarferydd neu bartneriaeth yn dymuno disodli ei gontract gydag un newydd, fel ei fod yn cael ei ddal gan gorff corfforaethol

Os yw'r awdurdod perthnasol yn cytuno i'r cynnig, gall y math hwn o addasiad i gontract fod yn addasiad a ganiateir o dan y Gyfundrefn, ar yr amod nad yw'r gwasanaeth yn newid. Felly, os yw hwn yn addasiad a ganiateir, nid oes angen cynnal proses gaffael. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn.

Newidiadau sylweddol i gontractau presennol

Er enghraifft, ychwanegu deintyddfa gangen newydd o dan gontract neu gyflwyno newidiadau mawr i fecanweithiau talu contract. Os yw'r newid ei hun yn dderbyniol i'r awdurdod perthnasol, caniateir caniatáu'r math hwn o addasiad contract o dan y Gyfundrefn, yn dibynnu ar faint yr addasiad a’r rheswm amdano, a'r effaith y mae'n ei chael ar y gwasanaethau a ddarperir. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y gyfundrefn.

Partneriaeth ddeintyddol yn newid aelodau (newid a wneir gan y practis deintyddol) pan nad oes unrhyw newidiadau i'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu

Mae partïon y contract yn newid ond nid yw hyn yn arwain at newidiadau i'r gwasanaethau a ddarperir.

Gall y math hwn o addasiad contract fod yn addasiad a ganiateir o dan y Gyfundrefn ar yr amod nad yw'r gwasanaeth yn newid. Felly, os yw hwn yn addasiad a ganiateir, nid oes angen cynnal proses dethol darparwr. Disgwylir i awdurdodau perthnasol gyfeirio at yr adran addasiadau i gontractau am ragor o wybodaeth ac i asesu a ganiateir yr addasiad o dan y Gyfundrefn.

Mae partneriaeth ddeintyddol GDS yn diddymu, ac mae'r cyn-bartneriaid yn anghytuno ynghylch pwy ddylai ysgwyddo’r contract i ddarparu'r gwasanaethau

Pan fo hyn yn ymwneud â chontract GDS, mae mecanwaith yn y contract y gall partneriaid y contract ei ddefnyddio i drosglwyddo’r contract i un o’r partneriaid.

Os nad yw’r bartneriaeth wedi cyflwyno hysbysiad sy'n enwebu un o'r partneriaid i ymgymryd â'r contract ac, yn hytrach, ei bod wedi rhoi hysbysiad yn terfynu ei chontract presennol, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael.

Rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol.

Newidiadau sylweddol i gontractau GDS neu PDS presennol

Os yw'r trefniadau contractio yn newid yn sylweddol, yna ni chaniateir yr addasiad.

O ganlyniad, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol gynnal proses gaffael a rhaid iddo gymhwyso naill ai'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i ddethol y darparwyr ar gyfer y gwasanaeth newydd.

3. Darparwr yn gadael mewn ffordd wedi'i chynllunio

Darparwr yn gadael contract GDS neu PDS mewn ffordd wedi’i chynllunio

Yn y sefyllfaoedd hyn, mae'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol ddewis darparwr newydd. Rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol oherwydd bod yr awdurdod perthnasol i bob pwrpas yn comisiynu gwasanaeth newydd.

4. Newidiadau sydyn neu heb eu cynllunio i gontractau presennol

Terfynu contract GDS neu PDS presennol yn sydyn, er enghraifft, o ganlyniad i ddiffyg gan gontractwr neu os yw'r contractwr yn peidio â bod yn gymwys

Os oes rhaid penodi darparwr newydd ar unwaith i gyflenwi gwasanaeth dros dro, yna gellir defnyddio'r darpariaethau brys (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau) o fewn y Gyfundrefn i sicrhau anghenion dybryd, er enghraifft, sefydlu trefniadau dros dro. Fodd bynnag, gan mai trefniant dros dro fydd hwn, rhaid ei ailystyried ar ôl cyfnod penodol (gweler dyfarniadau brys neu addasiadau brys i gontractau am ragor o wybodaeth). Yn bwysig, rhaid cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu trefniant parhaol newydd.

Gwasanaethau fferyllol

Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 yn nodi'r trefniadau contractio sy'n benodol i wasanaethau fferyllol cymunedol ac felly nid yw'r rhain yn dod o dan y Gyfundrefn. Fodd bynnag, mae gwasanaethau iechyd eraill sy'n cael eu darparu gan fferyllfeydd o fewn cwmpas y Gyfundrefn, gan gynnwys:

Pan fydd comisiynu gwasanaethau newydd o fewn cwmpas y Gyfundrefn (megis yr enghreifftiau uchod), yna gellir cymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu'r gwasanaethau hyn.

I barhau â'r trefniadau presennol (hynny yw, dyfarnu'r contract arfaethedig i ddarparwr presennol pan fo'r contract presennol yn dod i ben), gall proses dyfarniad uniongyrchol 2 fod yn opsiwn, ar yr amod nad yw'r gwasanaethau'n newid sylweddol (gweler newid sylweddol), ac mae'r awdurdod perthnasol yn fodlon bod y darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol.

Gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol

Mae'r sefyllfa, gyda darparu gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol, yn wahanol i'r sefyllfa mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau deintyddol sylfaenol. Dylid ystyried trefniadau fesul achos a cheisio cyngor cyfreithiol annibynnol pan fo hynny'n briodol.

Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023 ("y Rheoliadau Gwasanaethau Offthalmig")  a chyfarwyddydau eraill a ddyroddir i fyrddau iechyd lleol yn nodi'r trefniadau sy'n benodol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol o dan Ddeddf y GIG (Cymru) 2006.

Ystyrir y byddai darparu gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol, pan nad oes cyfyngiad ar nifer y darparwyr ymarferwyr cymwysedig, yn debygol o fod yng nghwmpas y Rheoliadau Gwasanaethau Offthalmig a'r Cyfarwyddydau ac na fyddai'n dod o fewn cwmpas y Gyfundrefn.

Fodd bynnag, pan wneir unrhyw ymdrechion i gyfyngu ar nifer yr ymarferwyr gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol, megis yn ôl pris, er enghraifft, mae'r gwasanaethau hyn yn debygol o fod o fewn cwmpas y gyfundrefn.

Wrth adnewyddu gwasanaethau presennol, sy'n dod o fewn cwmpas y Gyfundrefn, pan fo’r awdurdod perthnasol yn dymuno parhau gyda'r darparwr presennol, rhaid iddo asesu a yw'r darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol (gan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso'r meini prawf dethol sylfaenol). Pan fo'r awdurdod perthnasol yn penderfynu bod y darparwr presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o allu bodloni'r contract arfaethedig, ac nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol), gellir dyfarnu'r contract arfaethedig o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2.

Pan fydd comisiynu gwasanaethau newydd o fewn cwmpas y Gyfundrefn, gellir defnyddio'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu'r gwasanaethau hyn.

Mae unrhyw gaffael arall o wasanaethau gofal llygaid sylfaenol nad yw’n unol â'r rheoliadau a chyfarwyddydau gofal llygaid sylfaenol perthnasol (i'r graddau y’i caniateir gan y rheoliadau gofal llygaid sylfaenol), megis pan nad oes darpariaeth ddigonol (a bod gwasanaethau ar gontract allanol), yn debygol o fod o fewn cwmpas y Gyfundrefn.

Cydweithredfeydd a chlystyrau proffesiynol

Pan nad yw cydweithredfeydd neu glystyrau proffesiynol yn endidau cyfreithiol, ni allant ddal contract. Mae hyn yn golygu naill ai y bydd practis arweiniol yn dal pob contract ar gyfer y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol, neu bydd gan yr awdurdod perthnasol gontract gyda phob practis unigol yn y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol a all wedyn ddod at ei gilydd trwy gytundeb cydweithio. Mae rhai cydweithredfeydd neu glystyrau proffesiynol wedi sefydlu cwmni (neu endid corfforaethol arall) i gyflawni gwasanaethau neu swyddogaethau eraill ar eu rhan. Mae'r cwmni hwnnw'n endid cyfreithiol ar wahân, a gellir trin cwmni o'r fath fel unrhyw ddarparwr posibl arall wrth ystyried cynnal proses gaffael o dan y gyfundrefn.

Pan gomisiynir y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol i ddarparu gwasanaethau presennol sy'n dod o fewn cwmpas y gyfundrefn, mae'r contract yn dod i ben ac mae'r awdurdod perthnasol yn dymuno parhau â'r gydweithredfa broffesiynol bresennol neu'r clwstwr proffesiynol presennol a’i fod yn penderfynu bod y gydweithredfa broffesiynol bresennol neu'r clwstwr proffesiynol presennol yn bodloni'r contract presennol ac yn debygol o fodloni'r contract arfaethedig i safon ddigonol (gan ystyried y meini prawf allweddol a chymhwyso'r meini prawf dethol sylfaenol), ac nad yw'r contract arfaethedig yn newid sylweddol (gweler newid sylweddol), caniateir dyfarnu'r contract arfaethedig o dan broses dyfarniad uniongyrchol 2.

Os yw'r contract arfaethedig ar gyfer darparu gwasanaethau newydd sy'n dod o fewn cwmpas y Gyfundrefn, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymhwyso'r broses darparwr mwyaf addas neu'r broses gystadleuol i sefydlu'r gwasanaethau hyn.

Nid oes angen cymhwyso'r Gyfundrefn wedi hynny pan fydd y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol yn is-gontractio i sefydliadau eraill o fewn y gydweithredfa broffesiynol neu'r clwstwr proffesiynol (er efallai y bydd angen caniatâd yr awdurdod perthnasol, yn dibynnu ar y telerau contractiol neu delerau eraill sy'n gymwys i'r gwasanaeth).

Troednodiadau

[1] Ac eithrio mewn rhai amgylchiadau lle gellir defnyddio contract GMS dros dro (contractau meddyg teulu brys).

[2] Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023 (deddfwriaeth.gov.uk)

 

Atodiad D: meini prawf allweddol

Atodiad D: meini prawf allweddol

Diffinnir y meini prawf allweddol yn Rheoliad 6.

Nodir rhagor o fanylion am y meini prawf allweddol isod, gan fanylu ar yr hyn a gwmpesir gan bob un o’r meini prawf allweddol a’r materion y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol roi ystyriaeth ddyladwy iddynt wrth sefydlu eu meini prawf allweddol.

Rhaid ystyried yr holl feini prawf allweddol wrth ddilyn proses dyfarniad uniongyrchol 2, y broses darparwr mwyaf addas, y broses gystadleuol, neu wrth ddyfarnu contract yn seiliedig ar gytundeb fframwaith gyda chystadleuaeth a rhaid cofnodi sut y cânt eu hystyried. Rydym yn disgwyl na fydd unrhyw un o’r meini prawf allweddol yn cael ei ddiystyru. Nid yw’r Gyfundrefn yn nodi sut y mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol gydbwyso’r meini prawf allweddol; fodd bynnag disgwylir i awdurdodau perthnasol fod yn ymwybodol o ofynion neu ddyletswyddau ehangach wrth ystyried penderfyniadau caffael, megis:

Nid yw’r hyblygrwydd a gynigir gan y Gyfundrefn yn golygu nad oes rhaid i awdurdodau perthnasol gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried y pwysoliadau a’u canlyniadau wrth ystyried y gwasanaeth i’w ddarparu, a chyn dechrau proses gaffael.

Maen prawf 1: ansawdd

Ansawdd

Rhaid i awdurdodau perthnasol roi ystyriaeth ddyladwy i ansawdd y gwasanaethau sydd i’w darparu gan ddarparwr.

Beth yw gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel?

Mae’r Fframwaith ansawdd a diogelwch Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at nodweddion ansawdd mewn gofal iechyd a ddisgrifiwyd gan y sefydliad meddygaeth, fel yr oedd ar y pryd, ym 1999:

  • diogel: osgoi niwed
  • effeithiol: priodol a seiliedig ar dystiolaeth
  • canolbwyntio ar yr unigolyn: llawn parch ac yn ymateb i anghenion a dymuniadau unigolion
  • amserol: ar yr amser iawn
  • effeithlon: osgoi gwastraff
  • teg: siawns gyfartal o gael yr un canlyniad, ni waeth beth fo’r lleoliad, statws economaidd-gymdeithasol ac ati

Mae’r nodweddion ansawdd hyn yn cyd-fynd â’n hegwyddorion iechyd a gofal darbodus:

  • cyflawni iechyd a llesiant, a’r cyhoedd, cleifion a gweithwyr proffesiynol yn bartneriaid cyfartal yn y broses drwy gydgynhyrchu (canolbwyntio ar yr unigolyn)
  • gofalu am y rhai sydd â’r anghenion iechyd mwyaf yn gyntaf, gan wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r holl sgiliau ac adnoddau (amserol, effeithlon, effeithiol)
  • gwneud dim ond yr hyn sydd angen ei wneud: dim mwy, dim llai (diogel, effeithlon)
  • lleihau amrywiadau amhriodol gan ddefnyddio arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn modd cyson a thryloyw (teg, effeithiol, effeithlon)

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried gwybodaeth leol a chenedlaethol berthnasol am ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, lle mae ar gael.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried i ba raddau y bydd y canlyniadau a ddymunir o ran ansawdd yn cael eu cynnal neu eu gwella oherwydd y darparwr/y trefniadau sy’n cael eu hystyried.

Pan fo gwasanaeth newydd neu arloesol yn cael ei ystyried ac nad oes data ar ansawdd ar gael, cynghorir awdurdodau perthnasol i bwyso a mesur gwerth posibl y gwasanaeth newydd neu arloesol yn erbyn y risg na fydd y gwasanaeth yn darparu’r ansawdd disgwyliedig ac i ddeall sut y bydd perfformiad yn cael ei asesu, risgiau’n cael eu rheoli a’r gwasanaeth yn cael ei werthuso.

Rydym yn cynghori y dylai’r broses gaffael ar gyfer unrhyw wasanaeth newydd neu arloesol gynnwys asesiad o sut y bydd y gwasanaeth yn darparu gwybodaeth neu ddata ar ansawdd y ddarpariaeth ac yn monitro diogelwch gweithrediadau (o ystyried na fydd yn gallu dibynnu ar ddulliau neu ddangosyddion presennol).

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried parodrwydd a gallu’r darparwr i nodi, monitro a lliniaru risgiau yn barhaus, ymgysylltu â phrosesau llywodraethiant clinigol a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau wrth gynllunio a goruchwylio gwasanaethau.

Asesu’r dystiolaeth ar ansawdd

Mae asesu ansawdd gwasanaethau darparwr yn gymhleth ac yn gofyn am ddealltwriaeth dda o’r cyd-destun y bydd y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu ynddo. Mae hefyd yn gofyn am ddealltwriaeth o ba ffynonellau tystiolaeth sydd ar gael, yn ogystal â pha un sy’n darparu tystiolaeth orau mewn perthynas â’r darparwr dan sylw.

Gall ffynonellau gwybodaeth gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • model gwasanaeth y darparwr
  • holl adroddiadau arolygu diweddar rheoleiddwyr (gan gynnwys unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ansawdd a ddisgrifir yn yr adroddiad, sgoriau ansawdd cyffredinol a data ar fabwysiadu arloesedd) er enghraifft adroddiadau arolygu gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • mewnwelediad AGIC neu AGC
  • fframwaith perfformiad GIG Cymru
  • wrth gomisiynu gwasanaeth arbenigol, yr holl archwiliadau clinigol cenedlaethol neu adolygiadau canlyniadau sy’n berthnasol i’r gwasanaeth hwnnw
  • data rheoli contract
  • data dangosyddion perfformiad allweddol, gan gynnwys data ar gydraddoldebau ac anghydraddoldebau iechyd
  • boddhad y comisiynydd neu’r darparwr arweiniol ag ansawdd contractau neu is-gontractau blaenorol (lle bo hynny’n gymwys)
  • tystiolaeth bod cleifion a gofalwyr di-dâl sydd â phrofiad bywyd perthnasol yn cael cyfrannu fel partneriaid at wella profiad ac ansawdd
  • adborth gan gleifion a gofalwyr di-dâl ar ddarpariaeth gwasanaethau, gan gynnwys canlyniadau arolygon a chamau gweithredu sy’n cael eu cymryd mewn ymateb
  • data sy’n ymwneud â’r defnydd o arloesedd profedig

Sylw i sylwadau Llais 

Wrth ystyried gwybodaeth leol a chenedlaethol berthnasol am ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, rhaid i awdurdodau perthnasol roi sylw i unrhyw sylwadau a geir gan Llais.

Corff statudol annibynnol yw Llais, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Ar 1 Ebrill 2023, disodlodd Llais y saith cyngor iechyd cymuned sydd wedi cynrychioli buddiannau pobl yn y GIG yng Nghymru ers bron i 50 mlynedd. Mae Llais yn adeiladu ar waith y cynghorau iechyd cymuned â phwerau ychwanegol i gynyddu dylanwad y cyhoedd ar lunio gwasanaethau’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gwaith Llais yn cael ei sbarduno gan bryderon pobl Cymru, gan gefnogi a deall pryderon a godir a sicrhau bod pawb yn cael eu cynrychioli, yn enwedig lleisiau’r rhai nad ydynt yn cael eu clywed fel arfer.

Mae adran 15(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”) yn rhoi pŵer i gorff llais y dinesydd (sy’n cael ei adnabod yn weithredol fel Llais) i gyflwyno sylwadau i gorff GIG ac awdurdod lleol (y rhestrwyd y ddau fel awdurdodau perthnasol at ddibenion y Rheoliadau) ynghylch unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd neu ddarparu gwasanaethau cymdeithasol. Mae adran 15(3) yn nodi bod rhaid i awdurdodau perthnasol roi sylw i sylwadau a gyflwynir iddynt gan Llais wrth iddynt arfer unrhyw swyddogaeth y mae’r sylwadau’n berthnasol iddi.

Yng nghyd-destun y Rheoliadau, rhaid i awdurdodau perthnasol roi sylw i’r cyfryw sylwadau a geir gan Llais sy’n ymwneud ag unrhyw wasanaethau a gomisiynir ganddynt gan drydydd partïon, neu a ddarperir o dan gontract gan drydydd partïon.

Mae’r canllawiau statudol sy’n cyd-fynd â Deddf 2020 yn darparu y dylai awdurdodau perthnasol fod â gweithdrefnau ar waith i ymdrin â sylwadau o’r fath (ac yn enwedig paragraff 25):

[g]wneud darpariaeth i rannu’r sylwadau [Llais] â’r personau cyfrifol priodol ar gyfer y darparwr/darparwyr dan sylw a rhoi cyfle iddynt gyfrannu at yr ymateb.

Yn ogystal, er y bydd pryderon am ofal neu driniaeth unigolion fel arfer yn cael eu cyflwyno drwy’r weithdrefn gwyno berthnasol yn hytrach na sylwadau adran 15, mae paragraff 27 o’r canllawiau’n nodi y dylai awdurdodau perthnasol:

ddilyn eu gweithdrefnau perthnasol eu hunain er mwyn sicrhau bod pob unigolyn sy’n destun honiadau a gynhwysir mewn sylwadau corff llais y dinesydd yn cael amddiffyn ei hawl i’r drefn briodol.

Arloesi

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol asesu hefyd i ba raddau y gallai trefniant gyda darparwr arwain at welliannau a chynyddu gwelliannau wrth hybu a mabwysiadu arloesedd profedig wrth ddarparu gofal.

Wrth asesu arloesedd, cynghorir awdurdodau perthnasol i roi ystyriaeth briodol i unrhyw ddulliau arloesol penodol a gynigir gan ddarparwyr a allai helpu i sicrhau canlyniadau iechyd gwell.

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol ystyried sut y gall eu penderfyniadau wella neu gyfyngu ar allu tymor hwy pob awdurdod perthnasol i barhau i arloesi a diwallu anghenion iechyd. Disgwylir iddynt ystyried a all trefniant gyda darparwr amharu ar ddatblygu a mabwysiadu arloesedd, a sut y gall eu penderfyniadau effeithio ar allu’r farchnad darparwyr i gefnogi mynediad at wasanaethau newydd neu arloesol, neu ddatblygiad gwasanaethau o’r fath, i gleifion yn y dyfodol.

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol:

  • ystyried sut y gall eu penderfyniadau wella neu waethygu anghydraddoldebau o ran mynediad at wasanaethau iechyd, profiad o’r gwasanaethau hynny neu ganlyniadau sy’n deillio ohonynt
  • gweithredu gyda’r bwriad o sicrhau gwell ansawdd gwasanaethau mewn cysylltiad ag atal salwch, rhoi diagnosis o salwch a thrin salwch
  • wrth ymrwymo i gytundeb gyda darparwr, ystyried yr effaith ar leihau anghydraddoldebau o ran hygyrchedd gwasanaethau iechyd, ac ansawdd y canlyniadau a gyflawnir ar gyfer pob person cymwys ar ôl darparu gwasanaethau iechyd

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol ystyried sut y mae darparwyr yn gallu ymwneud ag ymchwil iechyd ac ymgymryd ag ymchwil iechyd, a’u parodrwydd i wneud hynny, a chânt eu cynghori i wneud trefniadau sy’n hyrwyddo a chefnogi ymchwil glinigol a’r defnydd o dystiolaeth ymchwil ar faterion sy’n berthnasol i’r gwasanaeth iechyd.

Dyletswyddau sy’n gysylltiedig ag ansawdd

Mae adran 12A, 20A a 24A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020) yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig i arfer eu swyddogaethau gyda’r bwriad o sicrhau gwelliant parhaus yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Diffinnir ansawdd fel ansawdd o ran effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd, diogelwch gwasanaethau iechyd, a phrofiad unigolion y darperir gwasanaethau iechyd iddynt, ymhlith pethau eraill.

Maen prawf 2: gwerth

Gwerth

Rhaid i awdurdodau perthnasol roi ystyriaeth briodol i’r angen i sicrhau gwerth da o ran costau, manteision cyffredinol a goblygiadau ariannol trefniant. Wrth asesu gwerth gwasanaeth/trefniant gyda darparwr, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried:

  • manteision y trefniant gyda darparwr: gellir gwerthuso manteision mewn perthynas â’r meini prawf eraill yn y Gyfundrefn a gallant fod yn berthnasol i gleifion (o ran canlyniadau neu brofiad cleifion), y boblogaeth (o ran gwell iechyd a llesiant) a threthdalwyr (drwy leihau baich cost salwch gydol oes gyfan y trefniant o fewn yr adnoddau sydd ar gael)
  • costau (neu gostau tebygol) y trefniant, gan gynnwys effeithlonrwydd y gwasanaeth, y gost dros hyd y contract, gwerth am arian, prisiad marchnad hanesyddol gwasanaethau penodol ac unrhyw feincnodi costau yn erbyn gwasanaethau tebyg eraill
  • unrhyw nodau ariannol lleol neu cenedlaethol perthnasol

Wrth farnu gwerth, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried costau a manteision trefniant gyda darparwr dros gyfnod disgwyliedig y contract, gan gynnwys amrywiadau mewn tueddiadau allanol a’r amrywiad posibl yng ngwerth y gwasanaeth dros hyd y contract.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried a allai trefniant penodol gyda darparwr effeithio’n gadarnhaol neu’n negyddol ar gostau neu fanteision gwasanaethau cysylltiedig eraill, neu flaenoriaethau comisiynu eraill.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried y costau i’r darparwr yn sgil newid trefniadau presennol neu sefydlu rhai newydd, ochr yn ochr â chost ddisgwyliedig y contract ei hun wrth asesu gwerth. Er enghraifft, gall trefnu gwasanaeth gyda darparwr newydd gynnig arbediad ariannol i’r awdurdod perthnasol dros gyfnod contract cymharol hir ond, os yw’r gost a ragwelir yn sgil newid i ddarparwr newydd, gan gynnwys unrhyw gyllid cychwynnol sydd ei angen, yn fwy na’r arbedion y mae’r darparwr newydd yn eu cynnig, mae angen ystyried ai trefniant o’r fath sy’n rhoi’r budd mwyaf i drethdalwyr wedyn. 

Caiff awdurdodau perthnasol:

  • ddefnyddio data cyhoeddedig (megis offeryn meincnodi) i feincnodi costau
  • gofyn i ddarparwyr am yr wybodaeth sydd ei hangen i bennu’r gwerth y maent yn ei gynnig (er enghraifft dadansoddiad o gostau)
  • ddefnyddio’r broses gystadleuol i bennu’r gwerth y mae darparwyr yn ei gynnig (gweler y broses gystadleuol)

Dyletswyddau sy’n gysylltiedig â gwerth

Mae adran 172 a 175 o Ddeddf 2006, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, yn gosod dyletswyddau ariannol ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i beidio â mynd y tu hwnt i’r terfynau adnoddau cyfalaf a refeniw a bennir bob blwyddyn ariannol.

Mae adran 21 a pharagraff 2(1) o Atodlen 4 i Ddeddf 2006 yn gosod dyletswydd ar ymddiriedolaethau’r GIG i:

ensure that its revenue is not less than sufficient, taking one financial year with another, to meet outgoings properly chargeable to revenue account.

Yn ogystal â’r dyletswyddau statudol hyn, mae Cymru iachach – sy’n gymwys i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig – yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff hynny roi sylw dyladwy i’r system "iechyd da", sy’n ceisio cefnogi a rhag-weld anghenion iechyd, atal salwch a lleihau effaith iechyd gwael, drwy system deg lle bydd gwasanaethau a chymorth yn darparu’r un safon uchel o ofal, ac yn sicrhau canlyniadau iechyd mwy cyfartal, i bawb yng Nghymru.

Gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth

Mae Cymru Iachach yn nodi’r angen i wasanaethau gael eu trawsnewid fel y gallant fodloni heriau’r dyfodol a helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau. Yn ystod hydref 2019, lansiwyd cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd seiliedig ar werth yng Nghymru a oedd yn manylu ar raglen dair blynedd i wreiddio’r fethodoleg gofal iechyd seiliedig ar werth er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion gan ddefnyddio adnoddau’n dda hefyd.

Mae datblygu a darparu dulliau gofal iechyd seiliedig ar werth yn cynnwys casglu a defnyddio data canlyniadau yn well ac ailddylunio llwybrau clinigol. Lle y bo’n briodol, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried archwiliadau clinigol ac adolygiadau o ganlyniadau, a Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) i alluogi i ddull gofal iechyd seiliedig ar werth gael ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau.

Lle y bo’n briodol, cynghorir awdurdodau perthnasol i sicrhau bod y broses gaffael yn rhan o broses ailddylunio gofal iechyd seiliedig ar werth a bod penderfyniadau’n gyson â dull gofal iechyd seiliedig ar werth o ran gwasanaethau i gleifion. Wrth asesu’r meini prawf hyn, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y bydd y darparwr sydd dan ystyriaeth yn gallu cefnogi archwiliadau clinigol, adolygiadau canlyniadau a PROMs ac a allai penderfyniad naill ai wella neu effeithio’n andwyol ar ddulliau casglu data canlyniadau ar gyfer gwasanaethau cysylltiedig. Disgwylir hefyd i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y bydd y gwaith a wneir gan y darparwr yn helpu’r awdurdod perthnasol i symud tuag at ddarparu gwasanaeth Iechyd a gofal iechyd seiliedig ar werth.

Maen prawf 3: cydweithredu a chynaliadwyedd gwasanaethau

Cydweithredu

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y gellir darparu’r gwasanaethau mewn ffordd gydweithredol.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i sicrhau bod eu penderfyniadau’n gyson â chynlluniau lleol a chenedlaethol ynghylch gwasanaethau i gleifion.

Wrth asesu’r meini prawf hyn, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y bydd y darparwr dan ystyriaeth yn gallu cydweithredu â gwasanaethau cysylltiedig eraill mewn ffordd sy’n gwella gofal (gan gydnabod nad yw cael gwasanaethau i gydweithredu o reidrwydd yn golygu bod rhaid i’r un darparwr ddarparu’r holl wasanaethau hynny).

Beth yw gwasanaethau cydweithredol?

Mae gwasanaethau cydweithredol yn wasanaethau a ddarperir ar y cyd mewn ffordd ddi-dor a chydlynol, i hyrwyddo gwasanaethau iechyd hygyrch, cynhwysfawr a pharhaus.

Gall gwasanaethau fod yn gydweithredol ar wahanol batrymau daearyddol (er enghraifft ar lefel cymdogaeth, lle neu lefel).

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried a all penderfyniad naill ai wella neu effeithio’n andwyol ar lwybrau gofal a theithiau cleifion drwy wasanaethau cysylltiedig eraill, yn ogystal â’r gwasanaeth sy’n cael ei ystyried, a cheisio osgoi tarfu diangen neu ddarnio gwasanaethau lle bo hynny’n bosibl.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried a allai cydweithredu:

  • wella ansawdd y gwasanaethau hynny (gan gynnwys canlyniadau eu darparu)
  • lleihau anghydraddoldebau rhwng pobl o ran eu gallu i gael mynediad at y gwasanaethau hynny
  • lleihau anghydraddoldebau rhwng pobl mewn o ran canlyniadau darparu’r gwasanaethau hynny

Wrth ystyried manteision posibl cydweithredu, cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried unrhyw gysylltiadau presennol rhwng y darparwyr sydd dan ystyriaeth a sefydliadau cysylltiedig, ac a yw’r rhain yn debygol o wella’n ddigonol i arwain at fanteision gweladwy i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried:

  • a fydd llif data cleifion yn cael ei wella neu ei rwystro gan y penderfyniad
  • a yw arferion gwaith, diwylliant, seilwaith a systemau’r darparwyr sy’n ymwneud â gwasanaethau cysylltiedig yn debygol o alluogi gwell cydweithredu
  • lleoliad y gwasanaethau a gynigir gan ddarparwyr ac a allai hyn effeithio ar allu’r darparwyr i integreiddio

Partneriaeth

Mae Cymru Iachach yn nodi’r angen i wasanaethau drawsnewid fel y gallant fodloni heriau’r dyfodol a helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau. Mae newidiadau o’r fath yn gofyn am "synnwyr cryf o bartneriaeth a gwerthoedd cyffredin". Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi caniatáu "gofal yn y gymuned sy’n croesi ffiniau traddodiadol sefydliadau a gwasanaethau", gan ganiatáu gwelliannau yn "iechyd a llesiant pawb yng Nghymru" sy’n "rhywbeth y gallwn ni oll [barhau i] gyfrannu tuag ato, drwy fath newydd o waith mewn partneriaeth gyhoeddus".

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol gefnogi trefniadau partneriaeth nawr ac yn y dyfodol sy’n caniatáu:

  • cyfleoedd partneriaeth strategol sy’n darparu modelau newydd o ofal di-dor ac yn darparu gwasanaethau integredig
  • dull cyfannol o gefnogi iechyd a llesiant
  • i gleifion adfer eu hannibyniaeth
  • modelau newydd o bartneriaeth rhwng darparwyr ac unigolion, gan alluogi pobl i leihau eu harhosiad yn yr ysbyty

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol ystyried a all penderfyniad naill ai wella neu effeithio’n andwyol ar weithio mewn partneriaeth ar draws y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol:

  • geisio sicrhau bod y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau yn anelu at fanteisio’n llawn ar drefniadau partneriaeth ar gyfer gwella gofal cleifion
  • ystyried sut y gallai’r trefniadau gyda darparwyr dan ystyriaeth effeithio ar drefniadau partneriaeth nawr ac yn y dyfodol
  • ystyried i ba raddau y caiff ddarparwyr weithredu i gynyddu trefniadau partneriaeth yn eu gweithgareddau eu hunain, a sut y gall gweithgareddau o’r fath arwain at welliannau eraill mewn canlyniadau iechyd i gleifion

Cynaliadwyedd gwasanaethau

Rhaid i awdurdodau perthnasol ystyried a allai’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau effeithio ar sefydlogrwydd a chynaliadwyedd gofal cleifion yn lleol a sut.

Wrth asesu cynaliadwyedd gwasanaethau, disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried sawl ffactor, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • effaith ariannol ar wasanaethau eraill
  • effeithiau ar barhad gwasanaethau cysylltiedig eraill
  • effaith bosibl ar ansawdd gwasanaethau cysylltiedig neu ddibynnol eraill (gan gynnwys y rhai a drefnir gan gyrff eraill)
  • sefydlogrwydd a chynaliadwyedd darparwyr eraill yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir
  • effaith ar allu’r farchnad ehangach i ddarparu’r gwasanaethau gofynnol yn y dyfodol

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried a allai’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau gael effaith barhaus a sylweddol ar y gweithlu gwasanaethau iechyd lleol a sut, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: 

  • gadw gweithlu lleol medrus
  • gyfleoedd hyfforddi perthnasol i’r gweithlu lleol ar gael yn barhaus (er enghraifft prentisiaethau, strwythur hyfforddi, lleoliadau clinigol)
  • yr effaith ar dimau sefydledig
  • a yw’r modelau cyflogaeth a ddefnyddir gan ddarparwyr yn gyson â blaenoriaethau polisi cyfredol y GIG ar gyfer y gweithlu

Disgwylir i awdurdodau perthnasol osgoi ansefydlogi darparwyr drwy eu proses gaffael. Os yw’r cynigion yn debygol o gael effaith negyddol ar sefydlogrwydd, hyfywedd neu ansawdd gwasanaethau eraill o ansawdd da ar unwaith neu dros amser, cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried a yw manteision ehangach y cynnig yn cyfiawnhau hyn.

Maen prawf 4: gwella mynediad a lleihau anghydraddoldebau iechyd

Gwella mynediad

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried i ba raddau y gallai’r trefniadau gyda darparwr gefnogi anghenion iechyd y boblogaeth leol, a sicrhau bod pob grŵp o gleifion yn gallu cael gafael ar wasanaethau mor rhwydd â phosibl.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried sut y gall darparwyr wneud y canlynol orau:

a) diwallu anghenion grwpiau lleol sy’n profi mynediad gwaeth na’r cyfartaledd
b) gwella mynediad at wasanaethau, a phrofiad a chanlyniadau cleifion, ar gyfer grwpiau difreintiedig ac agored i niwed a grwpiau â nodweddion gwarchodedig
c) ymdeimlo â’r poblogaethau y maent yn ceisio eu gwasanaethu, a’u deall
d) ehangu mynediad at wasanaethau drwy eu modelau cyflenwi
e) mynd i’r afael ag allgáu digidol
f) darparu gwasanaethau mewn lleoliadau sy’n hygyrch i gleifion

Lleihau anghydraddoldebau a gwahaniaethau iechyd

Mae’r Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn helpu i godi dealltwriaeth o’r effaith y mae ein hymddygiadau unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru. 

Mae’r fframwaith yn adlewyrchu dull cwrs bywyd a’r ffactorau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ehangach a all ddylanwadu’n gadarnhaol neu’n negyddol ar iechyd a llesiant unigolyn, cymuned neu gymdeithas. O enedigaeth hyd at oedran hŷn, dim ond drwy weithredu’n ddiwyd ar y cyd y gellir mynd i’r afael â’r penderfynyddion hyn, gan amrywiaeth o wasanaethau yn gweithio mewn partneriaeth ar lefel leol a chenedlaethol. Mae’r fframwaith yn offeryn y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan bawb sy’n ymwneud â dylunio neu ddarparu polisïau neu wasanaethau a all gyfrannu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at newidiadau neu ganlyniadau cadarnhaol yn iechyd y boblogaeth.

Disgwylir i awdurdodau perthnasol ystyried y ffyrdd y bydd y trefniant gyda darparwr yn effeithio ar anghydraddoldebau iechyd ac, wrth drefnu gwasanaethau, geisio lleihau anghydraddoldebau a gwahaniaethau iechyd. Er enghraifft, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai carfannau o’r boblogaeth i arfer dewis a disgwylir i’r cymorth hwn gael ei gynnig a’i ddarparu’n rhagweithiol.

Beth yw anghydraddoldebau iechyd?

Mae anghydraddoldebau iechyd yn wahaniaethau annheg y gellir eu hosgoi mewn iechyd ar draws y boblogaeth, a rhwng gwahanol grwpiau o fewn cymdeithas. Mae’r rhain yn cynnwys pa mor hir mae pobl yn debygol o fyw, y cyflyrau iechyd y gallent eu profi a’r gofal sydd ar gael iddynt. Maent yn codi oherwydd yr amodau y cawn ein geni ynddynt ac rydym yn tyfu, yn byw, yn gweithio ac yn heneiddio ynddynt. Mae’r amodau hyn yn dylanwadu ar sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu, a gallant effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol. O fewn y cyd-destun ehangach hwn, mae anghydraddoldebau yn y gwasanaeth iechyd yn ymwneud â’r mynediad sydd gan bobl at wasanaethau iechyd a’u profiad a’u canlyniadau.

Mae enghreifftiau o benderfynyddion iechyd ehangach yn aml yn gydgysylltiedig, ac maent yn cynnwys y ffactorau isod (nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr):

  • statws economaidd-gymdeithasol ac amddifadedd, er enghraifft:
    • di-waith
    • incwm isel
    • byw mewn ardaloedd difreintiedig (er enghraifft, tai gwael, addysg wael neu ddiweithdra)
  • nodweddion gwarchodedig:
    • oedran
    • anabledd
    • ailbennu rhywedd
    • priodas neu bartneriaeth sifil
    • beichiogrwydd a mamolaeth
    • hil
    • crefydd neu gred
    • rhyw
    • cyfeiriadedd rhywiol
  • grwpiau agored i niwed mewn cymdeithas neu grwpiau "iechyd cynhwysiant", er enghraifft:
    • mudwyr agored i niwed
    • cymunedau sipsiwn, Roma, a theithwyr
    • pobl sy’n cysgu ar y stryd a phobl ddigartref
    • gweithwyr rhyw
  • daearyddiaeth, er enghraifft:
    • trefol
    • gwledig

Dyletswyddau sy’n gysylltiedig â lleihau anghydraddoldebau a gwahaniaethau iechyd

Mae Cymru Iachach yn gosod dyletswyddau ar gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig. Ymysg y dyletswyddau mae’r canlynol:

  • angen canolbwyntio ar atal
  • gwella iechyd ac anghydraddoldeb fel allwedd i ddatblygu cynaliadwy
  • iechyd da a llesiant cenedlaethau o bobl Cymru yn y dyfodol
  • helpu pobl yn rhagweithiol drwy gydol eu hoes
  • ledled Cymru, gan wneud ymdrech arbennig i gyrraedd at y rhai mwyaf anghenus er mwyn helpu i leihau’r anghydraddoldebau iechyd a llesiant sy’n bodoli
  • lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd poblogaeth Cymru

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 149) a’r rhwymedigaethau ehangach yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyladwy i’r angen i ddileu gwahaniaethu neu aflonyddu anghyfreithlon, hybu cyfle cyfartal rhwng y rhai sydd â nodwedd warchodedig a’r rhai nad oes ganddynt nodwedd warchodedig a meithrin cysylltiadau da.

Nod y ddyletswydd yw sicrhau bod y rhai sy’n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb wrth gyflawni eu busnes o ddydd i ddydd.

Maen prawf 5: cyfrifoldeb cymdeithasol

Cyfrifoldeb cymdeithasol

Rhaid i awdurdodau perthnasol geisio sicrhau bod y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau wedi’u hanelu at sicrhau’r canlyniadau llesiant gorau posibl drwy gyfrannu at welliannau mewn canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau lleol.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i fod yn ymwybodol o ofynion a dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi mewn deddfwriaeth. Er enghraifft, mae disgwyl i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig gadw at y:

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn darparu fframwaith i wella llesiant Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus, a hynny drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, caffael cyhoeddus sy’n gyfrifol yn gymdeithasol a hyrwyddo gwaith teg. Mae’r ddeddf yn cynnwys dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ymgymryd â chaffael cyhoeddus sy’n gyfrifol yn gymdeithasol gyfrifol, i bennu amcanion ynghylch nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth gaffael ac adroddiadau blynyddol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff sicrhau y ceisir canlyniadau sy’n gyfrifol yn gymdeithasol drwy gadwyni cyflenwi.

Wrth asesu cyfrifoldeb cymdeithasol, disgwylir i awdurdodau perthnasol feddwl sut y mae’r trefniadau gyda darparwyr sydd dan ystyriaeth yn effeithio ar y canlynol:

a) materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy, gan gynnwys mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gwneud a bodloni ymrwymiadau ynghylch lleihau allyriadau, llygredd aer a defnydd a gwastraff, drwy hyrwyddo egwyddorion economi gylchol, yn ogystal â gwella’r amgylchedd naturiol ac adeiledig fel y bo’n gymwys

b) cyflawni mewn ffordd sy’n gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd, a hynny’n benodol drwy gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant a restrir yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

c) cyflogaeth gynhwysol a "da" a nodweddir gan egwyddorion gwaith teg lle mae gweithwyr yn cael eu talu’n deg, yn cael eu clywed a’u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu symud ymlaen mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau’n cael eu parchu, ac yn cefnogi cyfleoedd i bobl leol neu grwpiau poblogaeth sy’n profi anghydraddoldebau iechyd neu anghydraddoldebau eraill ac yn mynd i’r afael â risgiau caethwasiaeth fodern

d) cydlyniant cymunedol ac iechyd a llesiant ehangach y boblogaeth, gan gynnwys drwy helpu cymunedau i reoli ac adfer o effaith COVID-19

e) penderfynyddion cymdeithasol iechyd (er enghraifft, cyflogaeth, incwm, tai, yr amgylchedd lleol, bwyd, trafnidiaeth, cymuned, diogelwch)

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried i ba raddau y mae darparwyr wedi gweithredu i gynyddu canlyniadau llesiant yn eu gweithgareddau eu hunain, a sut y gall hyn arwain at welliannau eraill mewn canlyniadau iechyd.

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried cyfrifoldeb cymdeithasol mewn perthynas â’r meini prawf eraill yn y Gyfundrefn hon. Er enghraifft:

  • gall integreiddio gwell sy’n arwain at lai o deithiau cleifion arwain at fanteision amgylcheddol hefyd
  • gall gwasanaeth sy’n arwain at well ansawdd aer gyfrannu at well canlyniadau iechyd dros amser ac felly arbedion a ragwelir

Cynghorir awdurdodau perthnasol i ystyried sut y mae polisïau ac arferion darparwr yn cyd-fynd â’r canlynol:

  • symud tuag at sero net wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau
  • cynyddu effaith sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd fel sefydliadau angori a phartneriaid mewn lleoedd

Disgwylir i awdurdodau perthnasol beidio â gwneud trefniadau gyda darparwyr sy’n llesteirio’r potensial ar gyfer datblygu a mabwysiadu cynaliadwyedd o fewn y gwasanaethau neu’n arwain at farchnad darparwyr lleol na fydd o bosibl yn gallu cefnogi datblygiad gwasanaethau newydd neu gynaliadwy i gleifion yn y dyfodol.

Dyletswyddau a chanllawiau sy’n gysylltiedig â chanlyniadau llesiant

Gosodir dyletswyddau ar awdurdodau perthnasol i ddarparu sero net a chymryd camau i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn eu gweithrediadau a’u cadwyni cyflenwi.

Yr economi sylfaenol

Mae rhaglen yr economi sylfaenol yn pwyso a mesur sut y gallwn wario arian yng Nghymru i esgor ar ganlyniadau buddiol. Mae mwy na hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyrannu i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, felly mae’n bwysig canolbwyntio ar sut y mae’r arian hwn yn cael ei wario a sicrhau bod yr holl benderfyniadau’n cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn dod â’r budd mwyaf i bobl Cymru a’n heconomi.

Mae rhaglen yr economi sylfaenol yn canolbwyntio ar:

  • y nwyddau neu’r gwasanaethau uniongyrchol rydym yn eu prynu (er enghraifft, bwyd ar gyfer ysbytai)
  • y gweithlu rydym yn ei gyflogi’n uniongyrchol
  • sut y mae lleoli a chydleoli ein gwasanaethau yn effeithio ar gymunedau a sut y gallant gael mynediad at wasanaethau

Edrych ar sut y gall y nwyddau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu caffael helpu economi Cymru a chefnogi poblogaeth Cymru. Dylai ffocws o’r fath gefnogi cwmnïau o Gymru i ddarparu swyddi a hyfforddiant o fewn cadwyn gyflenwi leol a fydd hefyd yn gwneud gwelliannau i’n hamgylchedd. Bydd ystyriaethau o’r fath yn helpu pobl i sicrhau cyfleoedd hyfforddi neu ddod o hyd i waith ac i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i’r boblogaeth leol.

Lle y bo’n briodol, caiff awdurdodau perthnasol:

  • geisio sicrhau bod y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ynghylch pa ddarparwyr ddylai ddarparu gwasanaethau wedi’u hanelu at wneud y gorau o’r "economi sylfaenol"
  • ystyried sut y gallai’r trefniadau gyda darparwyr sydd dan ystyriaeth effeithio ar bobl Cymru a’n heconomi
  • canolbwyntio ar sut y gall y nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu caffael helpu economi Cymru a chefnogi poblogaeth Cymru drwy gynyddu gwariant yng Nghymru i gefnogi cwmnïau o Gymru sy’n darparu swyddi a hyfforddiant o fewn cadwyn gyflenwi leol
  • ystyried i ba raddau y gall darparwyr weithredu i gynyddu’r economi sylfaenol yn eu gweithgareddau eu hunain, a sut y gallai gwelliannau o’r fath yn yr economi sylfaenol arwain at welliannau eraill mewn canlyniadau iechyd yn sgil creu cymunedau cryfach a mwy gwydn

Disgwylir i awdurdodau perthnasol beidio â gwneud trefniadau gyda darparwyr a allai effeithio’n negyddol ar y gweithlu y maent yn ei gyflogi’n uniongyrchol neu y gallent ei gyflogi’n uniongyrchol neu a fyddai’n effeithio ar hygyrchedd gwasanaethau yn ein cymunedau.