Cydgynhyrchu yn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth: ymchwil gwersi a ddysgwyd o brototeip cydweithredol Llywodraeth Cymru a'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl - Cydgynhyrchu a chyfranogiad trwy gamau GSR
Nod yr ymchwil hon oedd asesu pa mor ymarferol oedd hi i gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar ddau brosiect cydweithredol sy'n archwilio argymhellion a gynigir gan y tasglu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Daeth yr adolygiad llenyddiaeth i'r casgliad mai nifer cyfyngedig o astudiaethau sy'n archwilio'r defnydd o ddulliau cydgynhyrchu arloesol yng nghyd-destun y llywodraeth. Ystyriwyd bod gwerth ymgymryd â'r prototeip cydgynhyrchu hwn yn hanfodol ar gyfer meithrin gwybodaeth am sut i gymhwyso'r dulliau hyn yn ymarferol ac yn effeithiol. Mae'r bennod hon yn archwilio sut y cyflwynwyd y prototeip cydgynhyrchu o fewn cyd-destun GSR a pha wersi y gellir eu dysgu.
GSR yw'r sefydliad aelodaeth broffesiynol ar gyfer ymchwil gymdeithasol yn y llywodraeth. Mae'r cod GSR yn atodiad i'r Cod Gwasanaeth Sifil ac mae'n cynnwys y gwerthoedd craidd o uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd.
Cyflwynwyd 2 brosiect ymchwil GSR yn gyfochrog. Roedd un yn archwilio'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a'r llall yn archwilio'r potensial ar gyfer Canolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Er bod yr ymdriniaeth ar draws y ddau brosiect ymchwil yn wahanol ar adegau, rhestrir rhai enghreifftiau craidd o weithio ar y cyd ar draws y camau ymchwil isod.
Dylunio a phenderfynu ar gwmpas yr ymchwil
- Rhannodd y tîm cydgynhyrchu fewnwelediadau ar y cyd i faterion hawliau anabledd i gefnogi dealltwriaeth ehangach o'r cyd-destun ymchwil (er enghraifft, adlewyrchwyd profiadau go iawn o'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a'r thema Byw'n Annibynnol yn yr ymchwil).
- Fe wnaeth cynllunio a phennu’r cwmpas ar y cyd yng nghyfnodau cynnar yr ymchwil siapio’r cwestiynau ymchwil.
- Nodwyd bylchau mewn tystiolaeth ar y cyd.
- Cyfrannodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd, gwybodaeth a sgiliau i ddylanwadu ar y fethodoleg.
Gwaith maes
- Roedd rhwydweithiau sefydledig y tîm cydgynhyrchu wedi arwain at gynnwys lleisiau amrywiol yn yr ymchwil (er enghraifft, uwch academydd, ymchwilydd PhD, Sefydliadau Pobl Anabl, Grwpiau Amhariad, cyflogwyr ac Undebau Llafur.
- Roedd yr iaith a ddefnyddiwyd mewn gwahoddiadau ymchwil a chanllawiau pwnc yn cyfateb i'r model cymdeithasol o anabledd ac wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion a disgwyliadau pobl anabl.
- Roedd agweddau cynhwysol ychwanegol i'r gwaith maes, gan gynnwys cyd-ddylunio'r canllaw pwnc, cyfarfodydd briffio i baratoi ar gyfer unrhyw grwpiau ffocws, cyd-hwyluso grwpiau ffocws a chynnal sesiynau briffio ar ôl grwpiau ffocws.
- Roedd sesiynau dadfriffio’n rhoi cyfleoedd i'r grŵp fyfyrio ar themâu a ddaeth i'r amlwg o'r grwpiau ffocws.
Dadansoddi data ac adrodd
- Cynhaliwyd cyfres o weithdai cyd-ddylunio; roedd y rhain yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch sut i gyd-ddadansoddi tystiolaeth.
- Cyfrannodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas yn ogystal ag arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau. Roedd hyn yn dylanwadu ar y dehongliad o’r canfyddiadau oedd yn dod i’r amlwg ac yn helpu i nodi’r themâu ansoddol oedd yn cael eu hadrodd.
- Cytunwyd ar y cyd ar fformatau adroddiadau i fodloni safonau modelau cymdeithasol o anabledd.
- Ysgrifennodd rhai cyd-gynhyrchwyr adrannau o'r adroddiad ac fe'u henwyd fel cyd-awduron.
- Cyfrannodd y tîm cydgynhyrchu at syniadau’n ymwneud â lledaenu gwybodaeth ar ôl cyhoeddi'r adroddiadau.
- Cyd-gyflwynodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu mewn gwahanol ddigwyddiadau lledaenu.
Un o fanteision ymdriniaeth gydgynhyrchiol a amlygwyd yn y cyfweliadau oedd y mewnwelediadau, y sgiliau a’r arbenigedd oedd gan y tîm cydgynhyrchu gyda’i gilydd, a hyn wedyn yn sicrhau fod yr ymchwil yn bodloni angen dilys oedd wedi ei ddynodi ac nad oedd yn dyblygu unrhyw ymchwil oedd eisoes wedi'i gynllunio. Roedd gweithio ar y cyd â Chadeiryddion y Tasglu i gytuno ar ddyluniad yr ymchwil yn sicrhau bod unrhyw ddulliau ac offer ymchwil yn cael eu teilwra i ddiwallu anghenion a disgwyliadau pobl anabl.
Dangosodd y data o’r cyfweliadau gymhellion unigol dros gymryd rhan yn y gwaith hwn. Yn ôl rhai roedd y broses gydgynhyrchu’n ffordd unigryw o weithio a'r broses gyntaf o'i math yn eu profiad nhw. Rhannai’r tîm cydgynhyrchu uchelgais i gynyddu lleisiau pobl anabl a gwella pethau iddyn nhw.
Er gwaethaf y cyd-gymhellion hyn i gymryd rhan yn y prototeip, roedd tensiwn ar adegau o ran sicrhau bod cyflawniad y prosiect yn parhau i fod yn cyfateb i god ymarfer GSR, yn enwedig o safbwynt yr egwyddor o ddidueddrwydd. Roedd y tîm cydgynhyrchu yn cynnwys ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n gweithio’n unol â’r cod GSR, swyddogion polisi a gweithwyr proffesiynol allanol o'r sectorau ymchwil academaidd a gwirfoddol, ac roedd gan rai ohonynt gefndir mewn gweithredu cymdeithasol hefyd. Roedd gan bob aelod o'r tîm cydgynhyrchu eu lle a'u persbectif eu hunain o fewn y prototeip, ac roedd llawer ohonynt yn dod â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas gyda hynny hefyd yn ffynhonnell gwybodaeth uniongyrchol ar gyfer y camau ymchwil.
I rai o’r Cadeiryddion Tasglu mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y cymhelliant i fod yn rhan o'r ymchwil yn deillio o gyd-destun problemau cymdeithasol ac yn uniongyrchol seiliedig ar brofiad bywyd o anablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas. Roedd hwn o bosib yn fan cychwyn gwahanol i fan cychwyn rhai o swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd yn rhan o'r prototeip. Roedd cydnabod sefyllfa holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu yn hanfodol i gyflawni'r prototeip hwn ac os oedd tensiynau’n codi, aethpwyd i’r afael â nhw ar y cyd.
I roi enghraifft o hyn, arweiniodd ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar ysgrifennu'r adroddiadau ymchwil drafft gyda rhai o Gadeiryddion y Tasglu yn cyfrannu penodau ac yn adolygu'r drafftiau wrth i'r gwaith fynd rhagddo, gan ddarparu adborth a chyfeiriad. Fodd bynnag, roedd yr egwyddor o ddidueddrwydd weithiau'n heriol i'w chysoni ag uchelgeisiau'r tîm cydgynhyrchu i sicrhau bod yr ymchwil mor effeithiol â phosibl. Wrth weithio tuag at gytuno ar adroddiad y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, mynegodd rhai o Gadeiryddion y Tasglu bryder nad oedd yr iaith a ddefnyddiwyd a chydbwysedd cyffredinol yr adroddiad yn adlewyrchu cryfder teimlad rhai cyfranogwyr am y cynllun. Mewn ymateb i hyn, gweithiodd y tîm cydgynhyrchu ar y cyd i adolygu unrhyw awgrymiadau a wnaed yn erbyn y dystiolaeth i sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r adroddiad yn gymesur ac yn parhau i fod yn unol â'r cod GSR.
Moeseg
Roedd ystyriaethau moesegol yn bwysig ar draws pob cam o'r cydgynhyrchu, gan gynnwys goblygiadau moesegol sy'n effeithio ar y tîm cydgynhyrchu. Er enghraifft, cydnabod cyfraniad pawb ac amddiffyn holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu rhag niwed.
Rhannodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu eu meddyliau a’r hyn roeddent wedi ei ddysgu mewn perthynas â’r egwyddor hawliau anabledd o "dim amdano ni, hebddo ni". Priodolwyd yr egwyddor hon fel ymateb i anghyfiawnderau hanesyddol a brofwyd gan bobl anabl mewn ymchwil gymdeithasol. Yn hanesyddol, y profiad o ymchwil y llywodraeth ac ymchwil academaidd oedd fel rhywbeth alldynnol, gyda rhai pobl anabl wedi’u trin fel pobl 'fregus' a’u gwrthrycholi, a rhai lleisiau wedi'u hymyleiddio.
Rhannodd y cyfranogwyr fyfyrdodau tebyg yn ystod camau cwmpasu'r prototeip ar ôl i ymchwilwyr Llywodraeth Cymru ofyn am gyngor gan bwyllgor moeseg cenedlaethol. Dywedwyd bod hyn wedi arwain at rywfaint o bryder gan fod y canlyniad yn awgrymu y gallai fod angen ystod o wiriadau diogelu ar gyfer pobl anabl sy'n rhan o'r ymchwil. Roedd rhai o’r Cadeiryddion Tasglu yn teimlo bod hyn yn anghymesur ac, yn hanesyddol, bod trin pobl anabl yn ddiofyn fel pobl fregus wedi eu heithrio ac wedi tawelu eu lleisiau. Mewn ymateb cytunwyd ar ymdriniaeth newydd lle byddai’r tîm cydgynhyrchu yn adolygu'r rhestr wirio moeseg gyda'i gilydd ac yn datblygu mesurau lliniaru cymesur ar gyfer risgiau a nodwyd wrth symud ymlaen. Un o'r gwersi a nodwyd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol yw adolygu unrhyw ystyriaethau moesegol gyda phob aelod o'r tîm cydgynhyrchu cyn gofyn am gyngor allanol.
Sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth GSR
Mae angen sicrhau ansawdd holl adnoddau ymchwil GSR a holl allbynnau’r ymchwil ac mae'r protocolau arferol ar gyfer adroddiadau GSR yn cynnwys cymeradwyaeth derfynol gan uwch ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn unig. Sefydlodd y prototeip Is-Grŵp Ansawdd i ddechrau i sicrhau bod safonau GSR yn cael eu cynnal. Roedd yr Is-grŵp yn cynnwys rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu a Phrif Swyddog Ymchwil gyda chyfrifoldeb am gymeradwyo allbynnau ymchwil a chynnal nodau’r prototeip wrth i'r ymchwil gael ei chyflawni. Yn y pen draw, profodd y mecanwaith hwn i fod yn anymarferol o ystyried yr amser oedd ei angen i hwyluso'r Is-grŵp. Codwyd pryderon hefyd o ran y ffaith nad oedd yn cynnwys holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu a bod hyn felly’n tanseilio’r egwyddor o wneud penderfyniadau ar y cyd.
Ar ôl chwalu’r Is-grŵp Ansawdd cytunwyd y byddai Uwch Brif Swyddog Ymchwil a oedd hefyd yn rhan o'r tîm cydgynhyrchu yn gyfrifol am arwain ar sicrhau bod safonau GSR yn cael eu bodloni ac am gymeradwyo’r allbynnau ymchwil terfynol. Darparodd Dirprwy Gyfarwyddwr yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd gyngor a chynnal adolygiad cymheiriaid o'r adroddiadau drafft. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu o’r farn bod proses sicrhau ansawdd GSR ar adegau yn gweithio'n dda fel fframwaith defnyddiol i gyfarwyddo cyflawniad y prosiect ac yn ychwanegu trylwyredd i'r ymchwil o safbwynt moeseg a chydymffurfiaeth.
Yn y dystiolaeth o’r gyfweliadau, ystyriwyd hefyd a yw'n bosibl rhannu pŵer yn gyfartal ar draws pob cam o'r cylch ymchwil o fewn lleoliad GSR. Adlewyrchwyd brofiadau cadarnhaol a negyddol gan y Cadeiryddion Tasglu ynglŷn â’r syniad bod ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn 'dal' yr adroddiad. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn teimlo bod hyn yn gweithio'n dda iddyn nhw o ystyried eu capasiti tra bod eraill yn teimlo nad oedd hyn yn cyd-fynd yn dda â'r egwyddorion cydgynhyrchu ac yn effeithio ar yr anghydbwysedd pŵer cyffredinol o fewn y tîm cydgynhyrchu. Cododd hyn gwestiwn ehangach ynghylch perchnogaeth yr allbynnau ymchwil GSR terfynol, a daeth i’r amlwg fel thema flaenllaw yn y dystiolaeth o’r cyfweliadau. Dywedwyd bod cyd-berchnogaeth o unrhyw allbynnau ymchwil yn fesur da wrth ystyried a yw prosiect wedi'i gyd-gynhyrchu'n llawn. Fodd bynnag soniodd rhai a gyfwelwyd am deimlad o gyd-berchnogaeth oherwydd iddynt gael eu henwi fel cyd-awduron yr adroddiadau terfynol.
Roedd canllawiau cyhoeddi GSR yn rhoi ymrwymiad clir i gyhoeddi, a chydnabuwyd bod gwybod y byddai adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y prototeip yn annog cymhelliant ac ymrwymiad cyffredinol pobl i'r cydgynhyrchiad. I rai, roedd yn golygu y byddai yna rywbeth diriaethol i dynnu sylw at bethau sydd o bwys i bobl anabl ac roedd yn cael ei ystyried yn ddefnyddiol i ddangos yr angen am welliannau i fywydau pobl anabl yng Nghymru.
Mae yna safon ansawdd sy’n golygu y dylai adroddiadau GSR Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi'n ddwyieithog (yn Gymraeg a Saesneg) ac o fewn 12 wythnos ar ôl llofnodi'r adroddiad. Cytunwyd y byddai'r allbynnau ymchwil terfynol yn cael eu cyhoeddi mewn fformat HTML (yn Gymraeg a Saesneg), BSL a Hawdd ei Ddeall. Gan fod hyn yn ffordd amgen o gyhoeddi adroddiadau ar gyfer GSR, roedd y broses gyhoeddi wedi cymryd ychydig yn hirach (yn agosach at 16 wythnos) na'r 12 wythnos arferol. Roedd angen caniatâd y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol i ymestyn yr amserlenni a chaniatáu hyblygrwydd i sicrhau bod yr holl allbynnau’n cael eu cyhoeddi ar yr un pryd.
Llywodraeth Cymru oedd y rheolwr data a hi oedd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar faterion yn ymwneud â diogelu data a diogelwch. Gwnaed diwygiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd GSR safonol a'r templedi cytundeb cyfrinachedd er mwyn cynnwys iaith sy'n cydnabod y dull cydgynhyrchu. Cyhoeddwyd Hysbysiadau Preifatrwydd ar wahân hefyd ar gyfer cyfranogwyr ymchwil sy'n ymwneud â phrosiectau ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus i ran Anabledd a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol i adlewyrchu manylion ychwanegol y dull cydgynhyrchu ac ymgysylltiad ehangach y tîm wrth gasglu a dadansoddi data. Yn ogystal cefnogodd y swyddog rheoli prosiect arweiniol aelodau allanol y tîm cydgynhyrchu i gael mynediad at ffolder ddiogel wrth rannu gwybodaeth swyddogol-sensitif a sicrhau trosglwyddiad diogel.
Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo nad oedd y cyd-destun llywodraeth y cyflwynwyd y prototeip ynddo ar adegau yn cyd-fynd â'r hyblygrwydd a ddisgwylir fel arfer o brosiect cydgynhyrchu. Myfyriodd rhai o'r cydgynhyrchwyr ynghylch cymhwysedd cydgynhyrchu fel dull ymchwil a holi a ellid ei ddefnyddio'n well yn y dyfodol ar gyfnodau penodol o'r cylch ymchwil yn hytrach nag ar draws pob cam. Gallai hyn weithio'n well i reoli’r llwyth gwaith a’r baich, er bod angen canfod cydbwysedd rhwng galluogi llwybrau at gyfranogiad nad ydynt yn cael eu hystyried yn docenistaidd. Byddai hyn yn sicrhau cynhwysiant ystyrlon a theg heb orlethu pobl sy’n cymryd rhan mwn sawl gweithgaredd ymchwil ar draws pob cam.
Er gwaethaf y canllawiau cyfyngedig sydd ar gael gan y llywodraeth ar hyn o bryd am gydgynhyrchu, roedd y tîm yn teimlo bod y prototeip ymchwil hwn yn dechrau gwneud argraff yng nghyd-destun GSR. Ystyriwyd ei fod yn gam cyntaf pwysig sy’n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r hyn a ddysgir o gydgynhyrchu mewn cyd-destun GSR a mynd â'r dysgu hwnnw ymlaen i brosiectau ymchwil cymdeithasol yn y dyfodol.
Dangosodd y dystiolaeth o’r gyfweliadau fod cydgynhyrchu o fewn GSR yn darparu ymchwil o ansawdd uchel, sydd yn gyrhaeddiad sylweddol. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn gweld y prototeip ymchwil gymdeithasol hwn fel dim ond y dechrau ac fel sbardun i greu ffordd newydd o gyflwyno ymchwil gymdeithasol sydd yn ystyried yn weithredol arbenigedd a phrofiad bywyd fel tystiolaeth a dulliau o gydweithredu.
