Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr ymchwil hon oedd asesu pa mor ymarferol oedd hi i gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar ddau brosiect cydweithredol sy'n archwilio argymhellion a gynigir gan y tasglu.

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Mehefin 2026

Diolchiadau

Diolchiadau

Ni fyddai'r prosiect ymchwil gymdeithasol hwn wedi bod yn bosibl heb amser hael a chyfraniadau helaeth a threiddgar aelodau’r tîm cydgynhyrchu ar bob cam o'r ymchwil ar gyfer prosiectau’r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a’r Ganolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol fel ei gilydd. 

Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch yn arbennig i aelodau'r tîm cydgynhyrchu o'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau parhaus i'r prosiect ymchwil gymdeithasol hwn.

Crynodeb gweithredol

Rhesymeg ac amcanion y prototeip cydgynhyrchu

Ym mis Medi 2023, cytunodd Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru i gydweithio â’r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). 

Nod y prototeip oedd treialu cydgynhyrchu fel ffordd o gynnal ymchwil gymdeithasol ar y cyd â chynrychiolwyr pobl anabl ac yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd. 

Roedd gan sawl aelod o’r tîm cydgynhyrchu, yn cynnwys rhai o swyddogion Llywodraeth Cymru, brofiad bywyd o gael eu hanablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas. 

Nod y prototeip oedd profi i ba raddau y gellir cyflawni cydgynhyrchu o fewn amgylchedd GSR ac wrth ystyried y cod GSR. GSR yw'r sefydliad aelodaeth broffesiynol ar gyfer ymchwil gymdeithasol yn y llywodraeth. Mae'r cod GSR yn atodiad i God y Gwasanaeth Sifil ac yn cynnwys gwerthoedd craidd uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. Mae’n nodi nifer o safonau y mae'n rhaid eu bodloni os yw ymchwil i gael ei hystyried yn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. 

Yr uchelgais, fel rhan o gyfrannu at Gymru sy’n Fwy Cyfartal o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oedd galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar well gwybodaeth a hyrwyddo canlyniadau gwell i bobl. Dyluniwyd y prototeip i ddarparu dysgu i’r gymuned GSR a swyddogion polisi i roi 'cyfranogiad' ar waith fel un o egwyddorion datblygu cynaliadwy y ddeddf. Byddai’r prototeip hefyd yn golygu bod modd cyflawni cenhadaeth Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru i “wella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni ddeall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru.” 

Amcanion yr ymchwil cydgynhyrchu hwn i wersi a ddysgwyd

Yn dilyn y prototeip cydgynhyrchu, nod y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd deall i ba raddau y mae'n bosibl i ymchwilwyr cymdeithasol y llywodraeth gydgynhyrchu ymchwil gymdeithasol. Yn ogystal, anelai’r ymchwil i ystyried unrhyw wersi ar gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yn GSR. Ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am ddarparu’r ymchwil gwersi a ddysgwyd o'r prototeip. 

Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach nag amhariadau, gan eirioli dros yr un hawliau i bobl anabl â'u cyfoedion. Mae'r model cymdeithasol yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i gymdeithas, gan alw am gael gwared ar rwystrau (strwythurol, diwylliannol a gwahaniaethol) sy'n atal cyfranogiad pobl anabl.

Amcanion y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd:

  • dod i gasgliadau ynghylch pa lefel o gyfranogiad sy'n ymarferol ar bob cam o brosiect GSR
  • deall beth sy’n rhwystro a beth sy’n galluogi cydgynhyrchu ymchwil o fewn GSR
  • deall gwerth ychwanegol cynnal ymchwil ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas, ac arbenigedd yn hynny o beth, ac ymgorffori’r model cymdeithasol o anabledd 

Methodoleg yr ymchwil gwersi a ddysgwyd o’r cydgynhyrchu

Cynhaliwyd cyfanswm o 16 cyfweliad lled-strwythuredig gyda 5 Cadeirydd Tasglu Hawliau Pobl Anabl ac 11 o swyddogion Llywodraeth Cymru (a oedd yn cynnwys ymchwilwyr cymdeithasol a swyddogion polisi) rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2025. 

Comisiynwyd ymchwilydd annibynnol o Lab Cydgynhyrchu Cymru i gasglu barn 4 Cadeirydd Tasglu ac i ymgymryd â dadansoddiad thematig o'r cyfweliadau. Yna rhannodd yr ymchwilydd annibynnol y themâu a nodwyd gydag ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru a oedd yn arwain ar y prosiect gwersi a ddysgwyd. 

Arweiniodd 2 ymchwilydd cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gasglu’r data a’r dadansoddiad thematig gan 11 swyddog Llywodraeth Cymru ac un Cadeirydd Tasglu. 

Arweiniodd uwch swyddog ymchwil a oedd yn gyn-aelod o'r prototeip cydgynhyrchu adolygiad desg o ddogfennau'r prosiect. 

Cynhaliodd Rhaglen Ymchwil Fewnol Llywodraeth Cymru adolygiad llenyddiaeth o dystiolaeth yn ymwneud â chydgynhyrchu ac ymchwil anabledd. 

Comisiynwyd adolygydd cymheiriaid annibynnol i wirio addasrwydd y teclynnau ymchwil cyn dechrau ar y gwaith maes, i hwyluso gweithdy myfyrio dadansoddi thematig ac i adolygu'r adroddiad drafft. Rhoddodd yr adolygydd cymheiriaid annibynnol gyngor a chefnogaeth i dîm y prosiect, yn enwedig ynghylch unrhyw faterion yn ymwneud â methodolegol neu foeseg.

Camau cyflawni’r prototeip cydgynhyrchu

Amlinellwyd y prototeip fel un i’w gyflawni mewn 3 cham, y cytunwyd arnynt gyda Phrif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

  • Cam 1 (i gyd-ddylunio gweledigaeth ar gyfer yr ymchwil, gan gynnwys pennu'r pynciau ar gyfer yr ymchwil a ffyrdd o weithio gyda'i gilydd).
  • Cam 2 (i gydgynhyrchu tystiolaeth a oedd yn cynnwys cyd-ddylunio a chyflwyno cynllun gwaith ymchwil, cydysgrifennu adroddiadau ymchwil a briffio gweinidogion ar y cyd, a lledaenu canfyddiadau'r ymchwil).
  • Cam 3 (ymchwil gwersi cydgynhyrchu a ddysgwyd dan arweiniad ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru i ddysgu o’r dull cydgynhyrchu a’i werthuso ac ystyried ffyrdd ychwanegol o gofnodi profiad ac arbenigedd bywyd a rhannu'r dysgu hwnnw o'r prototeip).

Y weledigaeth ar gyfer y prototeip cydgynhyrchu

Gweithiodd y tîm cydgynhyrchu gyda'i gilydd i gyd-ddylunio a chytuno ar y weledigaeth gyffredinol ar gyfer y prototeip. Roedd hyn yn diffinio cydgynhyrchu fel "gweithio mewn partneriaeth gyfartal, dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'n gilydd, cynnwys Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl heb eu gorlethu, a chyhoeddi adroddiadau o safon dda fel ymchwil wedi'i chydgynhyrchu a'i chydysgrifennu”. 

Roedd y weledigaeth yn nodi bwriad y tîm cydgynhyrchu i fabwysiadu ffyrdd o weithio gyda'i gilydd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn gynhwysol, yn dryloyw ac yn caniatáu i'r tîm fod yn greadigol a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Y pynciau ymchwil a gafodd eu harchwilio yn y prototeip cydgynhyrchu

Yn ystod camau cwmpasu'r prototeip cydgynhyrchu, cytunwyd y byddai'r tîm yn cydgynhyrchu 2 brosiect ymchwil yn seiliedig ar argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Roedd yr argymhellion hyn wedi'u nodi a'u cynnig i Lywodraeth Cymru yn flaenorol yn dilyn yr anghydraddoldebau a brofwyd gan bobl anabl mewn cymdeithas yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Roedd y pwnc ymchwil cyntaf yn archwilio'r potensial i sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Roedd yr ail bwnc ymchwil yn archwilio ffyrdd o wella'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru.

Casgliadau’r ymchwil gwersi a ddysgwyd o’r cydgynhyrchu

Gellir defnyddio'r dysgu o'r gwaith hwn ar gyfer prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol, yn ogystal ag ymgysylltiad pobl sydd â phrofiad bywyd mewn prosiectau GSR. Mae llawer o'r dysgu hefyd yn berthnasol i gydgynhyrchu mewn gwahanol gyd-destunau.

Mae'r dysgu yn cwmpasu 5 maes:

  • y broses gydgynhyrchu a'r defnydd ohoni
  • pŵer a pherthnasoedd
  • cydgynhyrchu a chyfranogiad trwy wahanol gamau ymchwil GSR
  • y model cymdeithasol o anabledd a hygyrchedd
  • dysgu unigol a sefydliadol

Y broses gydgynhyrchu a'r defnydd ohoni

Mae'r llenyddiaeth yn dangos nad oes unrhyw un diffiniad unigol o gydgynhyrchu a dangosodd y dystiolaeth a gafwyd trwy'r prototeip bod gan unigolion ddehongliadau gwahanol o'r hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu. Gall methodolegau cydgynhyrchu fod ar wahanol ffurfiau ac amrywio o ran sut maent yn cael eu cymhwyso a'r lefelau o gyfranogiad. Yn y prototeip hwn, roedd gan unigolion brofiadau blaenorol gwahanol o gydgynhyrchu. Roedd datblygu diffiniad a gweledigaeth ar y cyd i ddarparu dealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu yn hanfodol ar gyfer y prototeip hwn fel bod gan bawb gyd-ddealltwriaeth o sut y gallai’r unigolion sy'n gysylltiedig weithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydgynhyrchiol. 

Dangosodd y canfyddiadau y gall cynnal prosiect cydgynhyrchu fod yn heriol, a bod angen set graidd o sgiliau a phrofiad ar aelodau'r tîm cydgynhyrchu i wneud hyn. Roedd profiad mewn trafod, technegau hwyluso ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael eu hystyried yn alluogwyr. Roedd arfogi pawb i weithio mewn ffordd gydgynhyrchiol trwy hyfforddiant, cysgodi a dysgu o arfer gorau yn gallu helpu i feithrin perthnasoedd a hybu dealltwriaeth gyffredin o sut i gyflawni prosiect cydgynhyrchu yn y dyfodol. 

Ar gyfer y prototeip hwn, cyd-ddyluniodd a chytunodd y tîm cydgynhyrchu ar becyn cydnabyddiaeth a oedd yn darparu cyfleoedd dysgu a phrofiadau ymchwil. Roedd hyn yn lle taliad ariannol oherwydd y posibilrwydd y gallai cyfranogwyr golli hawliau lles ac incwm oherwydd rheolau treth a budd-dal lles y DU. Er y dywedwyd fod y pecyn cydnabyddiaeth yn arwain at fwy o ymrwymiad amser yn gyffredinol, cafodd ei dderbyn yn dda ac roedd yn darparu cyfleoedd i'r tîm gymhwyso sgiliau a gwybodaeth a oedd eisoes yn bodoli neu ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Fodd bynnag, canfu'r prototeip y gallai peidio â chynnig taliad ariannol gyfyngu ar ymgysylltiad mewn prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol i rai. Dylai ymarferwyr hefyd ystyried cynnwys digon o amser i gytuno ar drefniadau cydnabyddiaeth o fewn amserlenni prosiectau. 

Ar gyfer y prototeip hwn, roedd cyd-gynhyrchu fel dull o gyflawni ymchwil gymdeithasol yn ddwys o adnoddau ac yn cymryd mwy o amser na phrosiect GSR safonol. Yn y prototeip hwn, roedd yn anodd rhagweld yn iawn faint o amser ac adnoddau fyddai eu hangen i gyflawni'r hyn y cytunwyd arno, yn enwedig o ystyried bod cydgynhyrchu’n ffordd iteraidd o weithio. Roedd y prototeip yn gofyn am lawer iawn o ewyllys da, ymrwymiad ac amynedd i gynnal cyfranogiad. Cynigir bod hyn yn cael ei ystyried gan ymarferwyr sy'n dymuno cydgynhyrchu ymchwil yn y dyfodol.

Roedd cynnydd yng nghwmpas yr ymchwil yn ystod y prototeip lle cynhaliwyd ymchwil sylfaenol yn lle’r adolygiadau o dystiolaeth a gynlluniwyd ar y dechrau. Arweiniodd hyn at fwy o alwadau ar bobl dros gyfnod hirach na'r disgwyl ac roedd yn golygu na chafodd yr holl allbynnau arfaethedig eu cyflawni. Dylai prosiectau yn y dyfodol ystyried treulio mwy o amser yn y cam cyd-ddylunio cynnar i gadarnhau'r cwmpas ymchwil a chytuno ar hyn mewn unrhyw gylch gorchwyl. 

Teimlwyd fod y prototeip hwn yn cael effaith ar les unigol ar adegau, o ystyried maint y gwaith a'r perthnasoedd cysylltiedig. O ganlyniad i hyn roedd y tîm cydgynhyrchu wedi ymgorffori pwyntiau gwirio lles ar ddiwedd pob cyfarfod prosiect. Cynigir bod angen i brosiectau yn y dyfodol ystyried lles aelodau unigol o dimau cydgynhyrchu trwy gydol cyflawniad y prosiect ac mae angen i hyn fod yn gyfrifoldeb a rennir ymhlith aelodau'r grŵp. 

Roedd angen dangos yn glir sut y byddai penderfyniadau'n cael eu gwneud i sicrhau tryloywder a chynnal ymddiriedaeth. Roedd amcangyfrif amserlenni yn arbennig o heriol gan mai'r nod oedd i bawb gytuno gyda’i gilydd ar unrhyw benderfyniadau a wneir. Ar gyfer prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol, cynigir y dylid gwneud protocolau gwneud penderfyniadau yn glir mewn unrhyw gylch gorchwyl.

Roedd angen i'r prototeip fod yn iteraidd ac yn ymatebol i benderfyniadau a wnaed ar hyd y ffordd. Dylai prosiectau yn y dyfodol ystyried dull rheoli prosiect hyblyg. Gallai chwilio am reolwr prosiect annibynnol i arwain rheolaeth y prosiect o bosibl helpu i leihau'r baich, yn enwedig ar gyfer aelodau cydgynhyrchu sydd â chyfrifoldebau rheoli prosiect. 

Pŵer a pherthnasoedd

Mae’r llenyddiaeth yn dangos bod perthnasoedd yn greiddiol i lwyddiant wrth gydgynhyrchu a dangosodd y dystiolaeth fod angen mwy o amser i sefydlu ymddiriedaeth a pherthnasoedd ar ddechrau'r prototeip. Defnyddiwyd mapio asedau fel offeryn i archwilio manteision y cydgynhyrchu i bawb. Gallai unigolion fynegi’r hyn yr oedden nhw am ei gyfrannu a'r hyn yr oeddent am ei gymryd o'r prototeip. Canfu'r prototeip fod mapio asedau’n ffordd ddefnyddiol o ddeall cymhellion unigolion a datblygu perthnasoedd dwy-ffordd. Cynigir y dylid treulio amser yn sefydlu perthnasoedd ac yn mapio asedau ar ddechrau unrhyw brosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol. 

At ei gilydd ni lwyddwyd i lwyr gyflawni cydbwysedd pŵer ar gyfer y prototeip hwn ac roedd cydbwysedd pŵer yn amrywio trwy wahanol gamau’r prosiect. O ystyried mai ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect a’i adnoddau, roedd hyn yn effeithio ar y cydbwysedd pŵer ac yn arwain at densiynau o fewn y tîm cydgynhyrchu ar adegau. Cynigir y dylai unrhyw brosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol gydnabod rhai o’r anghydbwyseddau pŵer posibl mewn prosiect cydgynhyrchu ar ddechrau a thrwy gydol prosiect, gyda phawb yn agored ynghylch y rhesymau drostynt. 

Nid oedd y profiad o gydgynhyrchu’n gyson ymysg cyfranogwyr ac ar draws gwahanol gamau’r ymchwil gyda rhai’n teimlo wedi’u grymuso ac eraill yn teimlo wedi’u hallgáu. Roedd hyn yn wir am y Cadeiryddion Tasglu, ymchwilwyr Llywodraeth Cymru ac eraill a oedd yn rhan o'r prototeip. Gwelodd rhai gynnydd mewn rhannu pŵer, roedd eraill yn teimlo bod strwythurau'r llywodraeth yn eu hanfod yn cyfyngu ar bartneriaeth. Fel gyda'r prototeip cydgynhyrchu hwn, awgrymir bod ymarferwyr yn ceisio deall y gwahaniaethau hyn gan y gallai hynny ddarparu tystiolaeth hanfodol ynghylch yr amodau sy’n arwain at lwyddiant neu fethiant mewn cydgynhyrchu. 

Cydgynhyrchu a chyfranogiad trwy wahanol gamau ymchwil GSR

Nod y prototeip oedd cydgynhyrchu ar draws pob cam o'r ymchwil, fodd bynnag, roedd lefel y cydgynhyrchu’n amrywio ar draws gwahanol gamau cylch ymchwil GSR, yn enwedig wrth i amserlenni ymestyn. Roedd cyfathrebu agored a gonest ynghylch amser ac adnoddau yn bwysig i ddeall y rhesymau dros addasu'r arddull gweithio cydweithredol ar draws gwahanol gamau. Yn ystod camau dadansoddi ac adrodd y prototeip, cytunodd y tîm cydgynhyrchu i fabwysiadu dull mwy ymgynghorol i leihau rhywfaint o'r llwyth gwaith i'r grŵp, gydag ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn cymryd mwy o'r awenau. Yn y dyfodol, efallai y bydd prosiectau cydgynhyrchu eisiau ystyried beth sy'n bosibl neu ddim yn bosibl i’w gydgynhyrchu a rheoli disgwyliadau o fewn y grŵp o'r cychwyn cyntaf. 

Roedd enghreifftiau cadarnhaol o brofiad bywyd pobl o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas yn llywio prif gamau cylch ymchwil GSR. Roedd yr enghreifftiau hyn yn amrywio o brofiad bywyd sy'n ychwanegu gwerth at ddylunio, moeseg a chwmpasu gwaith ymchwil i ymgymryd â gwaith maes, dadansoddi data a llunio adroddiadau; pethau yr oedd y grŵp yn barnu eu bod yn gwella ansawdd cyffredinol yr ymchwil. Fodd bynnag, roedd i ba raddau y gallai rhai aelodau o’r grŵp gyfrannu yn cael ei bennu’n rhannol gan eu sgiliau ymchwil a’u harbenigedd. Mae'r prototeip yn ceisio dod i gasgliadau ynghylch pa lefel o gysylltiad sy'n ymarferol ar bob cam o brosiect GSR, ac roedd y dystiolaeth yn dangos y gellir cynnwys hyn yn effeithiol ar bob cam. 

Dangosodd y prototeip nad yw gwneud penderfyniadau ar y cyd yn bosib wrth sicrhau ansawdd adroddiadau ymchwil GSR, gan mai dim ond ymchwilwyr GSR all roi cymeradwyaeth derfynol. Dywedodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu bod proses sicrhau ansawdd GSR yn gweithio'n dda i ddarparu fframwaith a fformat defnyddiol ar gyfer cyhoeddi. Fodd bynnag, gan mai cyfrifoldeb ymchwilwyr GSR yw rhoi cymeradwyaeth derfynol, daeth y cwestiwn 'pwy sy'n berchen ar adroddiad?' i'r amlwg fel thema yn y dystiolaeth gyfweld. Roedd y thema hon yn cwestiynu i ba raddau y gellir bod â chyd-berchnogaeth o’r allbynnau terfynol mewn gwirionedd ac i ba raddau yr oedd y trefniadau i roi cymeradwyaeth derfynol yn siapio lefelau o bŵer a dylanwad.

Canfuwyd bod gwerthoedd gwrthrychedd a didueddrwydd y cod GSR yn ddefnyddiol ar gyfer y prototeip hwn. Mae'r gwerthoedd yn gosod disgwyliad clir am niwtraliaeth wrth ddylunio a chyflawni gweithgareddau ar draws y camau ymchwil ac yn feincnod defnyddiol ar gyfer myfyrio a dilysu. Roedd yr egwyddor o ddidueddrwydd weithiau yn heriol i'w chysoni ag uchelgeisiau'r tîm cydgynhyrchu i sicrhau bod yr ymchwil mor ddylanwadol â phosibl. Cynigir bod sgyrsiau am atblygedd a lleoliadedd fel grŵp yn cael eu cynnwys mewn prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol i gydnabod profiadau bywyd unigol a allai effeithio ar allu'r tîm cydgynhyrchu i gyd-fynd â'r gwerthoedd hyn.

Roedd cydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas wedi gwella hygrededd ac effaith gyffredinol yr ymchwil. Roedd tystiolaeth bod gwerth ychwanegol profiad bywyd wedi llywio ffocws yr ymchwil o ran bod y mater yn berthnasol i’r cyd-destun a bod pynciau a oedd yn gofyn am fwy o dystiolaeth wedi’u hadnabod. Gall ddarparu gwir fanteision o ran dynodi materion dilys y mae angen ymchwilio iddynt i lenwi unrhyw fylchau mewn tystiolaeth. Cynigir y gall cynnwys ystod eang o bobl sydd â phrofiad bywyd o bynciau neu faterion perthnasol fod yn fuddiol ac yn werthfawr ar gyfer dilysu wrth gynllunio tystiolaeth.

Codwyd cwestiynau ynghylch a oedd y prototeip yn mynd yn ddigon pell i ymwreiddio profiadau bywyd amrywiol ac ystyried croestoriadedd. Awgrymir y gellid, lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn briodol, ddylunio'r tîm cydgynhyrchu gyda chynrychiolaeth o’r croestoriadau perthnasol o gymdeithas mewn golwg. Os nad yw hyn yn ymarferol, yna gellid ystyried profiad bywyd amrywiol a chroestoriadol yn nulliau ymchwil prosiect neu o fewn mathau eraill o gydweithio. 

Y model cymdeithasol o anabledd a hygyrchedd

Roedd aelodau'r tîm cydgynhyrchu yn gadarnhaol ynghylch cymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd o fewn y prototeip ac yn teimlo ei fod wedi mynd ymhellach na phrosiectau eraill y buont yn rhan ohonynt. Cymerwyd camau i archwilio a chael gwared ar rwystrau unigol i’r graddau yr oedd y prosiect yn caniatáu hynny. Roedd hyn yn golygu gofyn yn rheolaidd i aelodau'r tîm cydgynhyrchu hysbysu'r tîm ynghylch unrhyw ofynion hygyrchedd. 

Fodd bynnag, roedd angen i'r tîm cydgynhyrchu weithio trwy rwystrau i gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd wrth ryngweithio â phrosesau y tu hwnt i reolaeth y tîm. Gallai gweithio mewn ffordd hygyrch sy'n cadw at y model cymdeithasol o anabledd weithiau gymryd mwy o amser. Fodd bynnag, roedd yn elfen hanfodol o'r prototeip, ac yn arfer parhaus a gweithredol yn unol ag arfer moesegol da i sicrhau cyfranogiad.

Roedd hygyrchedd wedi cefnogi cynnwys gwybodaeth a mewnwelediad newydd yn y broses. Roedd yn siapio lefel yr awdurdod a’r dylanwad y gallai unigolion ei gael yn y broses ymchwil gymdeithasol. Cynigir bod ymarferwyr yn ystyried sut i gymhwyso egwyddorion y model cymdeithasol yn well i ymchwil gymdeithasol a'i fod yn cael ei annog yn weithredol mewn prosiectau yn y dyfodol. 

Dysgu unigol a sefydliadol

Myfyriodd rhai cydgynhyrchwyr ynghylch eu dysgu unigol o ganlyniad i'r prototeip. Dangosodd tystiolaeth o'r ymchwil enghreifftiau cadarnhaol o bobl mewn gwahanol rolau yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn goresgyn unrhyw heriau wrth iddynt godi. Roedd rhai yn cydnabod eu bod wedi ennill dealltwriaeth ddyfnach o hawliau anabledd, yn enwedig yn y cyd-destun polisi presennol o faterion yn ymwneud ag anabledd yng Nghymru. Roedd eraill yn dweud eu bod wedi cael mewnwelediad ymarferol i sgiliau ymchwil a phrosesau GSR yn ogystal â'r model cymdeithasol o anabledd. 

Roedd y prototeip wedi cynyddu hyder a gwytnwch rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu, yn enwedig wrth weithio ar brosiectau ymchwil cymhleth a oedd yn gofyn am ystyried safbwyntiau amrywiol a dod o hyd i atebion ar y cyd. 

Un o nodau craidd y prototeip hwn oedd myfyrio ynghylch y seilwaith presennol ar gyfer cydgynhyrchu a chymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yng nghyd-destun GSR Cymru. Mae’r canfyddiadau o'r prototeip hwn wedi amlygu cyfleoedd ar gyfer dysgu a newid sefydliadol. Mae hyn eisoes yn cael ei ystyried yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a bydd yn parhau i gael ei ystyried yng nghyd-destun y Ddeddf, sy’n nodi’n glir mai 'cyfranogiad' yw un o'r ffyrdd hanfodol o weithio i gyflawni nodau llesiant y ddeddf. Bydd hefyd yn cael ei ystyried mewn perthynas â strategaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd i brif ffrydio cydraddoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad yn GSR Llywodraeth Cymru a phroffesiynau dadansoddol eraill.

Arsylwadau terfynol

Canfuwyd bod cydgynhyrchu ymchwil cymdeithasol yn ddull mwy moesegol o weithio, gan adlewyrchu egwyddor 'dim amdano ni, hebddo ni' y mudiad hawliau pobl anabl. Disgrifiwyd hyn fel ymateb i anghyfiawnderau hanesyddol a brofwyd gan bobl anabl mewn ymchwil. Dylai ymarferwyr ystyried hawl pobl sydd â phrofiad bywyd o nodweddion gwarchodedig i fod yn rhan o astudiaethau sy'n ymwneud â nhw. Cynigir y dylid ystyried hyn wrth gwmpasu ymchwil ac y gall cyfranogiad fod ar sawl ffurf, o aelodaeth o grŵp llywio i adolygiad gan gymheiriaid neu gydgynhyrchu llawn. 

Ceisiodd y prototeip hwn gymhwyso egwyddorion cydgynhyrchu cyn belled â phosibl trwy bob cam o'r prosiect. Roedd y cyfleoedd ar gyfer deinameg pŵer cyfartal a gwneud penderfyniadau ar y cyd yn amrywio trwy gydol camau'r prosiect ac mewn gwahanol weithgareddau a thasgau. Wrth edrych yn ôl, roedd labelu'r prototeip fel 'cydgynhyrchiad' weithiau yn achosi disgwyliadau afrealistig i'r tîm cydgynhyrchu. Dylid ystyried bob amser a ddylid, a sut i, ‘gydgynhyrchu’ neu 'gyd-ddylunio' a phryd y mae'n fwy priodol i 'ymgynghori' neu 'hysbysu'. Un o'r prif bwyntiau dysgu i ymarferwyr eu hystyried o'r prototeip hwn yw deall o ddifrif i ba raddau y gellir rhannu penderfyniadau ar bob cam o'r broses a bod yn glir ynghylch hynny o'r cychwyn cyntaf.

Cefndir

Rhesymeg dros y prototeip cydgynhyrchu

Ym mis Medi 2023, cytunodd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gydweithio gydag Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) wedi’i llywio gan brofiad bywyd. Byddai'r ymchwil yn profi i ba raddau y gellir cydgynhyrchu GSR, gan gydweithio i oresgyn rhwystrau a chroesawu a mabwysiadu dulliau sy’n galluogi newid.

Ystyriwyd fod hyn yn bwysig i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth, gwella gwybodaeth a dealltwriaeth a defnyddio dulliau arloesol megis cydgynhyrchu yn GSR.

Cefndir cydgynhyrchu

Nid yw cydgynhyrchu’n newydd, ond mae'n cynyddu mewn amlygrwydd wrth i fwy o sefydliadau gydnabod y gwerth y gall profiad bywyd ei ychwanegu at brosesau gwneud penderfyniadau. Mae cydgynhyrchu fel ymarfer a chysyniad dadleuol yn dyddio'n ôl i'r 1970au. Diffiniodd Elinor Ostrom gydgynhyrchu’n wreiddiol fel ffordd y gallai dinasyddion gyfrannu at lunio polisi cyhoeddus (The Multiple Facets of Co-Production: Building on the work of Elinor Ostrom gan Alford, 2014, ar gael ar Taylor and Francis online. 

Yn fwy diweddar, mae ymddangosiad "model llywodraethu cyhoeddus newydd" wedi rhoi ffocws ar berthnasoedd rhyng-sefydliadol, rhwydweithiau, partneriaethau cydweithredol, llywodraethu cyfranogol a mathau eraill o berthynas aml-actor (Understanding co-production as a new public governance tool gan Sorrentino ac eraill, 2018, ar gael ar Oxford Academic). Mae’r cyfeiriad yn y DU yn y degawdau diweddar wedi bod yn anelu fwyfwy tuag at gydgynhyrchu, sy’n cael ei weld fel "newid sydd yn synnwyr cyffredin o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus" (Reflections on Making Co-production Work: The Reality of Co-production from an Insider Perspective gan  Fillingham ac eraill, 2023, ar gael ar Oxford Academic).

Mae Arnstein (A Ladder of Citizen Participation, 1969, ar gael ar Taylor and Francis online) yn gweld y lefelau o gyfranogiad posibl mewn gwneud penderfyniadau fel grisiau ysgol (Ffigwr 1). Ar y lefel isaf o gyfranogiad, mae’r sefydliad sy'n cynnwys partner ddinasyddion â phrofiad bywyd yn dylanwadu arnynt. Nid oes cyfle i’r partneriaid gael unrhyw ddylanwad a manteisir arnynt gan sefydliadau sy’n cymryd yn ganiataol mai nhw sy’n deall y materion orau. Ar y lefel uchaf o gyfranogiad, mae gan bartner ddinasyddion reolaeth gref dros y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Mae pob cyfle iddynt ddylanwadu ar faterion ac fe'u hystyrir yn gyfranogwyr gweithredol, gyda phŵer cyfartal ag aelodau eraill o'r tîm. 

Ffigwr 1: lefelau cyfranogiad y cyhoedd a ddangosir gan ddefnyddio 'Ysgol Gyfranogiad' Arnstein 

Image

Trwy ddiffiniad, dylai cydgynhyrchu gynnwys cyfranogiad ar lefelau uwch yr ysgol. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o ymchwil sy'n honni ei bod wedi ei chydgynhyrchu yn mynd dim pellach na’r lefel ymgynghori, sy'n golygu nad oes gan bartneriaid mewn gwirionedd bŵer i wneud penderfyniadau gweithredol. Nid yw beirniadaeth o brosesau cydgynhyrchu yn tanseilio eu gwerth ond yn hytrach yn galw am ddiffiniad cliriach o'r broses. Dylai'r diffiniad newydd hwn werthfawrogi'r cysylltiadau rhwng y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'r gwerth y mae’r ddarpariaeth honno’n anelu at ei roi i gymdeithas (Beyond co-production: Value creation and public services gan Osborne ac eraill, 2021, ar gael ar Wiley online library). Mae Ocloo and Matthews (From tokenism to empowerment: progressing patient and public involvement in healthcare improvement, 2016, ar gael ar BMJ Journals) yn dadlau y dylai prosiectau gwella gwasanaethau arddel ymdriniaeth ddemocrataidd sy'n seiliedig ar hawliau a gwerthoedd, gan bwysleisio cyfranogiad uniongyrchol, grymuso a democrateiddio gwneud penderfyniadau ar lefel gymunedol. 

Amcanion y prototeip cydgynhyrchu

Nod yr ymchwil oedd creu prototeip o gydgynhyrchu fel ffordd o gynnal ymchwil gymdeithasol ochr yn ochr â chynrychiolwyr pobl anabl ac yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd. 

Nod yr ymchwil oedd galluogi cyflawniad cenhadaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd, sef “gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni ddeall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru.” Yr uchelgais, fel rhan o gyfrannu at Gymru sy’n Fwy Cyfartal o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oedd galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar well gwybodaeth a sbarduno canlyniadau gwell i bobl. Cyflwynwyd 'cyfranogiad' fel un o egwyddorion datblygu cynaliadwy'r ddeddf i gyflawni'r nodau llesiant. Mae'r prototeip cydgynhyrchu yn darparu dysgu i gymuned GSR a swyddogion polisi i gefnogi cyflawni'r egwyddor hon ar waith.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys cydgynhyrchu gyda'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Ym mis Gorffennaf 2021, amlygodd yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 yr anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas. Un o ymatebion Llywodraeth Cymru i'r adroddiad oedd sefydlu'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, sef partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a phobl anabl. Roedd y Tasglu’n cael ei gydgadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar y pryd ynghyd â chynrychiolydd dethol o Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Llywodraeth Cymru. Roedd y Tasglu’n gweithredu ar yr egwyddor o gydgynhyrchu, gyda thros 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a 350 o randdeiliaid allanol yn cydweithio i ddatblygu argymhellion a oedd yn anelu at wella’r canlyniadau i’r holl bobl anabl yng Nghymru. Defnyddiwyd yr argymhellion hyn i lywio canlyniadau a chamau gweithredu’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

Y cyd-destun ymchwil y darparwyd y prototeip ynddo

Mae cydraddoldeb a gweithio er budd y naill barti a’r llall yn hanfodol mewn cydgynhyrchu. Nod y prototeip oedd profi i ba raddau y gellir cyflwyno cydgynhyrchu o fewn amgylchedd GSR wrth ystyried y cod GSR. GSR yw'r sefydliad aelodaeth broffesiynol ar gyfer ymchwil gymdeithasol yn y llywodraeth. Mae'r cod GSR yn atodiad i'r Cod Gwasanaeth Sifil ac mae'n cynnwys y gwerthoedd craidd o uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. Mae hyn yn nodi nifer o safonau y mae'n rhaid eu bodloni os yw ymchwil i gael ei hystyried yn GSR. Mae'r fframwaith cymhwysedd GSR a'r protocol cyhoeddi GSR hefyd yn llywio'r ffordd y mae ymchwilwyr cymdeithasol yn cynhyrchu ymchwil. Mae pob ymchwilydd GSR yn gyfrifol am gynnal sicrwydd moesegol yn eu hymchwil.

Y 6 egwyddor foesegol ar gyfer ymchwil GSR

  • Egwyddor 1: dylai fod yn glir bod ymchwil yn cael ei gynnal i archwilio anghenion defnyddwyr ac er budd cyhoeddus. 
  • Egwyddor 2: dylai ymchwil fod yn seiliedig ar ddulliau ymchwil cadarn a dylid amddiffyn rhag rhagfarn wrth ddehongli’r canfyddiadau. 
  • Egwyddor 3: dylai ymchwil gadw at reoliadau diogelu data a thrin data personol yn ddiogel.
  • Egwyddor 4: dylai cyfranogiad mewn ymchwil fod yn seiliedig ar ganiatâd penodol a gwybodus. 
  • Egwyddor 5: dylai ymchwil alluogi cyfranogiad y grwpiau y mae'n ceisio eu cynrychioli.
  • Egwyddor 6: dylai ymchwil gael ei gynnal mewn ffordd sy'n lleihau niwed personol a chymdeithasol.

Trosolwg o'r pynciau ymchwil a archwiliwyd yn y prototeip cydgynhyrchu

Bwriad y prototeip oedd cryfhau gwaddol argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl a oedd wedi'u dynodi a'u cynnig eisoes i Lywodraeth Cymru. Dewisodd Cadeiryddion y Tasglu ddau argymhelliad i ymchwilio ymhellach iddynt a’r rhain oedd sail y prosiect cydgynhyrchu.

Pwnc ymchwil 1: Canolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol yng Nghymru

Roedd y pwnc ymchwil cyntaf yn archwilio'r potensial ar gyfer sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Cynhaliwyd gweithdy ar-lein gydag ystod o randdeiliaid i archwilio syniadau ar gyfer sefydlu Canolfan Genedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys barn ar yr hyn y dylai byw'n annibynnol ei olygu yn ymarferol, sut y gallai Canolfan Genedlaethol helpu i gefnogi byw’n annibynnol ac opsiynau ar gyfer modelau darparu posibl.

Roedd y gweithdy’n cynnwys:

  • pobl anabl 
  • cynrychiolwyr grwpiau pobl ag amhariad corfforol a sefydliadau pobl anabl
  • llywodraeth leol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill 
  • y sector gofal cymdeithasol
  • undebau llafur
  • swyddogion Llywodraeth Cymru
  • rhanddeiliaid unigol sy’n gweithredu dros hawliau pobl anabl 

Pwnc ymchwil 2: Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru

Roedd yr ail bwnc ymchwil yn archwilio ffyrdd o wella'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru. Argymhellodd aelodau Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl fod angen gwella'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac y dylid manteisio mwy ar y llwybrau presennol o gymorth a chyngor gan bobl anabl sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd. Cynhaliwyd tri grŵp ffocws a oedd yn cynnwys cyflogwyr, undebau llafur a chynrychiolwyr sefydliadau pobl anabl a grwpiau pobl ag amhariad corfforol. Fe wnaethant gynnig syniadau newydd ar gyfer y cynllun, a oedd yn cynnwys nod barcud cyflogwr unigryw ar gyfer Cymru, cynllun gwell gydag elfen Gymreig neu geisio gwelliannau i'r cynllun presennol ledled y DU.

Cyhoeddwyd dau adroddiad ymchwil ym mis Mehefin 2025 mewn fersiynau hygyrch gan gynnwys HTML yn Saesneg a Chymraeg, a chyhoeddwyd crynodebau gweithredol mewn fersiynau ychwanegol yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a fersiwn Hawdd ei Ddeall.

Y tîm cydgynhyrchu

Roedd y tîm cydgynhyrchu’n cynnwys ymchwilwyr cymdeithasol a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Anabledd a myfyriwr PhD. Roedd gan sawl aelod o’r tîm cydgynhyrchu, yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, brofiad bywyd o gael eu hanablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas.

Daeth Cadeiryddion y Tasglu Gweithgor Hawliau Anabledd ag arbenigedd a phrofiad ymchwilio o'r sectorau academaidd a gwirfoddol yn ogystal â phrofiad perthnasol mewn defnyddio dulliau cymysg a chydgynhyrchu. 

Diffinnir ‘cydgynhyrchydd’ fel aelod o'r tîm traws-sector a gydweithiodd i greu prototeip ar gyfer cydgynhyrchu adroddiad GSR ar gyfer y naill neu’r llall o’r pynciau ymchwil hyn. 

Y weledigaeth ar gyfer y prototeip cydgynhyrchu

Ar ôl sefydlu'r tîm cydgynhyrchu, gweithiodd yr aelodau gyda'i gilydd i gyd-ddylunio a chytuno ar y weledigaeth gyffredinol ar gyfer y prototeip. Roedd y weledigaeth yn diffinio cydgynhyrchu ar gyfer y prototeip fel "gweithio mewn partneriaeth gyfartal, dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'n gilydd, cynnwys Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Anabledd heb eu gorlethu, a chyhoeddi adroddiadau o safon dda fel ymchwil wedi'i gydgynhyrchu a'i gydysgrifennu”. 

Roedd y weledigaeth yn nodi bwriad y tîm cydgynhyrchu i fabwysiadu ffyrdd o weithio gyda'i gilydd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn gynhwysol, yn dryloyw ac yn caniatáu i'r tîm fod yn greadigol a dysgu oddi wrth ei gilydd. 

Yn ystod camau cwmpasu y prototeip cydgynhyrchu, cytunwyd y byddai'r tîm yn cydgynhyrchu'r ddau brosiect ymchwil yn seiliedig ar 2 argymhelliad y Tasglu Hawliau Anabledd fel y nodwyd uchod ac yn cynhyrchu prosiect ‘gwersi a ddysgwyd’ dilynol, sef yr hyn y mae’r adroddiad hwn yn seiliedig arno. Mae nodau’r prosiect hwn i’w gweld isod.

Y nodau ar gyfer yr ymchwil gwersi a ddysgwyd o gydgynhyrchu hwn

Nod cyffredinol y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd deall i ba raddau y mae'n bosibl i ymchwilwyr cymdeithasol y llywodraeth gydgynhyrchu ymchwil gymdeithasol. Yn ogystal, roedd bwriad i’r ymchwil ystyried unrhyw wersi ynglŷn â chymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yn GSR. 

Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach nag amhariadau, gan eirioli dros yr un hawliau i bobl anabl â'u cyfoedion. Mae'r model cymdeithasol yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i gymdeithas, gan alw am gael gwared ar rwystrau (strwythurol, diwylliannol a gwahaniaethol) sy'n atal cyfranogiad pobl anabl.

Amcanion y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd:

  • dod i gasgliadau ynghylch pa lefel o gyfranogiad sy'n ymarferol ar bob cam o brosiect GSR
  • deall y rhwystrau a'r galluogwyr i gydgynhyrchu ymchwil o fewn ymchwil gymdeithasol y llywodraeth
  • deall gwerth ychwanegol cynnal ymchwil ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas, ac arbenigedd yn hynny o beth, ac ymgorffori’r model cymdeithasol o anabledd 

Mae'r adroddiad ymchwil hwn yn cyflwyno’r dystiolaeth o'r gwersi a ddysgwyd yn dilyn y prototeip cydgynhyrchu.

Er gwybodaeth, pan gyfeirir at 'y prototeip' yn yr adroddiad hwn, mae hyn yn golygu cyflwyno 2 brosiect ymchwil gymdeithasol GSR gan ddefnyddio dull cydgynhyrchu dan arweiniad tîm o gydgynhyrchwyr. 

Methodoleg

Mae'r bennod hon yn nodi'r dulliau a'r gweithgarwch ymchwil a gynhaliwyd i ddatblygu’r dysgu o’r prototeip. Ymchwilwyr cymdeithasol y llywodraeth oedd yn gyfrifol am gyflawni’r gwersi a ddysgwyd o'r prototeip.

Trosolwg

Cynhaliwyd cyfanswm o 16 cyfweliad lled-strwythuredig gyda 5 Cadeirydd Tasglu Hawliau Anabledd ac 11 o swyddogion Llywodraeth Cymru (ymchwilwyr cymdeithasol a swyddogion polisi) rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2025. 

Comisiynwyd ymchwilydd annibynnol o Lab Cydgynhyrchu Cymru i gasglu barn Cadeiryddion y Tasglu ac i ymgymryd â dadansoddiad thematig o'r cyfweliadau. Wedi hynny, rhannodd yr ymchwilydd annibynnol y themâu a nodwyd gydag ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n arwain ar y prosiect gwersi a ddysgwyd. 

Arweiniodd uwch swyddog ymchwil a oedd yn gyn-aelod o'r prototeip cydgynhyrchu adolygiad desg o ddogfennau'r prosiect. 

Cynhaliodd Rhaglen Ymchwil Fewnol Llywodraeth Cymru adolygiad llenyddiaeth o dystiolaeth yn ymwneud â chydgynhyrchu ac ymchwil i faterion yn ymwneud ag anabledd. 

Yn ogystal, comisiynwyd adolygydd cymheiriaid annibynnol i wirio’r adnoddau ymchwil cyn dechrau ar y gwaith maes, i hwyluso gweithdy myfyrio oedd yn defnyddio dadansoddi thematig ac i adolygu'r adroddiad drafft. Mae'r adolygydd cymheiriaid yn athro cyswllt ac yn arbenigwr academaidd mewn hawliau anabledd a dulliau ymchwil cydgynhyrchu. Rhoddodd yr adolygwr cymheiriaid annibynnol gyngor a chefnogaeth i dîm y prosiect, yn enwedig ynghylch unrhyw faterion methodolegol neu foesegol.

Cyfweliadau lled-strwythuredig

Mabwysiadwyd ymdriniaeth samplu bwriadus i ddewis y gyfranogwyr a oedd wedi bod yn rhan o'r prototeip cydgynhyrchu o’r blaen. 

Cynhaliwyd y cyfweliadau’n rhithwir, neu gallai cyfranogwyr ddewis darparu ymateb ysgrifenedig pe bai’n well ganddynt. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr nodi unrhyw ofynion hygyrchedd ymlaen llaw. Rhoddwyd y canllaw pwnc cytunedig a’r dogfen ategol i'r cyfranogwyr ymlaen llaw hefyd (gweler Pwnc cytunedig a’r Ddogfen ategol). 

Drafftiwyd y canllaw pwnc gan uwch ymchwilydd a oedd eisoes wedi gweithio ar y prototeip cydgynhyrchu a chafodd ei adolygu gan yr adolygydd cymheiriaid annibynnol penodedig. 

Cwestiynau ymchwil

Roedd y cwestiynau ymchwil craidd fel a ganlyn:

  • Beth oedden ni’n anelu at ei wneud?
  • Beth oedd y prif gyflawniadau a beth chafodd ddim ei wneud (ar bob cam o'r prosiect)?
  • Beth oedd y gwerth ychwanegol a gafwyd wrth i bobl anabl ac ymchwilwyr cymdeithasol weithio ochr yn ochr i gynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (ar bob cam o'r prosiect)?
  • Beth helpodd a beth rwystrodd y cydgynhyrchu a pha atebion a gafwyd (ar bob cam o'r prosiect)? 
  • I ba raddau yr oedd unigolion yn gallu cymryd rhan lawn mewn cydgynhyrchu (ar bob cam o'r prosiect)? 
  • Beth yw'r prif wersi ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i'w galluogi i adlewyrchu'n well brofiad bywyd pobl o gael eu hanablu oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas? 

Arweiniodd 2 ymchwilydd cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gasglu’r data a’r dadansoddiad thematig gan 11 swyddog Llywodraeth Cymru ac un Cadeirydd Tasglu. 

Arweiniodd y cyfwelydd annibynnol penodedig o Labordy Cydgynhyrchu Cymru ar gasglu a dadansoddi’r data gyda 4 Cadeirydd Tasglu.

Mabwysiadwyd dull ansoddol lled-strwythuredig a oedd yn caniatáu i gyfranogwyr gyfeirio yn eu hymatebion at y meysydd a oedd o’r diddordeb mwyaf iddyn nhw ac yr oedd ganddynt y profiad mwyaf ohonynt. Mae cyfweld yn ddull ymchwil a ddefnyddir yn gyffredin i gasglu data ansoddol a chaniatáu archwiliad manwl o bwnc y cytunwyd arno. Fel y nodir yng nghanllawiau’r Llyfr Majenta ar werthuso a ddarparwyd gan Drysorlys EF, mae'r dull ymchwil hwn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd i’r hwylusydd holi a mwy o amser i archwilio barn cyfranogwyr. Mae data ansoddol hefyd yn ein helpu ni i ddeall nid yn unig 'beth' sydd wedi gweithio ond 'pam' a 'sut' y mae ymyriad wedi’i brofi fel y mae. 

Dylid nodi, mewn achosion lle cafwyd ymateb ysgrifenedig gan gyfranogwr, bod hynny’n cyfyngu ar y potensial i ymchwilio ymhellach i’r ymatebion. Fodd bynnag, i rai cyfranogwyr roedd hyn yn cynnig dull gwerthfawr amgen o ymateb yn lle cyfweliad wyneb yn wyneb ac efallai bod hyn wedi caniatáu "mwy o drefn amserol, cydlyniant a hunan-fyfyrio na rhoi cyfrif ar lafar" (Using Written Accounts in Qualitative Research gan Handy and Ross, 2005 ar dudalen 41, ar gael ar Cambridge University Press). Un o fanteision darparu ymateb ysgrifenedig yw y gellir ystyried cwestiynau ymlaen llaw a chyfeirio’n ôl atynt ac y gellir ysgrifennu’r atebion ar amser a chyflymder sy'n cyd-fynd ag anghenion y cyfranogwr ymchwil.

Dadansoddi'r data

Recordiwyd isdeitlau fel y gellid cynhyrchu trawsgrifiad o bob cyfweliad rhithwir oni bai bod cyfranogwyr wedi darparu ymateb ysgrifenedig. Cafodd y data a gasglwyd ei wneud yn ddienw a chynhaliwyd dadansoddiad thematig ohono. Roedd y dull a ddefnyddiwyd yn dilyn y dadansoddiad thematig systematig 6 cham a ddisgrifir gan Naeem ac eraill (A Step-by-Step Process of Thematic Analysis to Develop a Conceptual Model in Qualitative Research, 2023, ar gael ar Sage Journals) a ddatblygwyd o ddull Braun a Clarke (Using thematic analysis in psychology, 2008, ar gael ar Taylor and Francies online). Dewiswyd y dull hwn gan fod y broses systematig yn eu galluogi i wneud cysylltiadau clir rhwng y data, y dehongliad a'r casgliadau. Roedd y dull strwythuredig hwn hefyd yn sicrhau trylwyredd o ystyried faint o ddata ansoddol yr oedd angen ei ddadansoddi. 

Mae'r 6 cham wedi'u crynhoi isod.

Cam 1

Cam cychwynnol pan fydd ymchwilwyr yn cynnal archwiliad dwfn o’r data ac yn dewis dyfyniadau sy'n dod â'r data’n fyw ac yn adlewyrchu cwestiynau’r ymchwil.

Cam 2 

Yn cynnwys archwilio'r dyfyniadau a dewis geiriau allweddol sy'n eu hadlewyrchu.

Cam 3

Ymchwilwyr wedyn yn symleiddio'r geiriau allweddol trwy drosi data crai yn unedau mewnweledol, hydrin.

Cam 4 

Codau’n cael eu trefnu’n grwpiau ystyrlon i nodi patrymau sy'n cysylltu â chwestiynau’r ymchwil.

Cam 5 

Yn cynnwys deall a diffinio cysyniadau sy'n dod i'r amlwg o'r data.

Cam 6 

Ymchwilwyr yn dehongli'r data dan arweiniad damcaniaethau presennol i ateb y cwestiynau ymchwil. 

Defnyddiwyd y dull cam wrth gam hwn gan yr ymchwilydd o Lywodraeth Cymru a oedd yn arwain y prosiect a'r cyfwelydd annibynnol penodedig o Lab Cydgynhyrchu Cymru. Rhannwyd y themâu a ddaeth i’r amlwg mewn gweithdy myfyrio ar ddadansoddiad thematig gyda'r adolygwr cymheiriaid annibynnol a thrafodir hyn ymhellach isod. 

Adolygiad desg o ddogfennau’r prosiect

Cafodd dogfennau'r prosiect o'r prototeip cydgynhyrchu eu sganio a'u hymgorffori'n ddetholus gan uwch swyddog ymchwil Llywodraeth Cymru i gynhyrchu llinell amser y prototeip cydgynhyrchu a chrynodeb cyffredinol o weithgarwch. Defnyddiwyd hyn i ategu'r canllaw pwnc ac i weithredu fel proc cof i atgoffa cyfranogwyr ymchwil o'r hyn a ddigwyddodd ym mhob cam o'r prototeip cydgynhyrchu. 

Yr uwch swyddog ymchwil a arweiniodd y gwaith hwn hefyd oedd cydlynydd y prosiect ar gyfer y prototeip cydgynhyrchu ac roedd ganddynt wybodaeth a mewnwelediadau manwl gan eu bod wedi bod yn rhan o'r prosiect o’r cychwyn. Roedd hyn yn ased gwerthfawr ac o gymorth i sicrhau cyflawnrwydd y dasg. 

Yna adolygwyd y dogfennau prototeip yn systematig a'u crynhoi i ddarparu llwybr tystiolaeth a ymgorfforwyd yn y fethodoleg gyffredinol. 

Fel gyda'r cyfweliadau lled-strwythuredig, cynhaliwyd dadansoddiad thematig. Fodd bynnag, ar gyfer yr adolygiad desg mabwysiadwyd dull hybrid. Roedd defnyddio'r dull a amlinellir gan Fereday and Muir-Cochrane (Demonstrating Rigor Using Thematic Analysis: A Hybrid Approach of Inductive and Deductive Coding and Theme Development, 2006, ar gael ar Sage Journals) yn galluogi'r tîm ymchwil i ddefnyddio codau a oedd eisoes yn bodoli o'r dadansoddiad a wnaed o'r cyfweliadau lled-strwythuredig mewn ffordd systematig.

Ar ôl i'r codau hynny gael eu cymhwyso i'r dogfennau prototeip, ailadroddodd yr ymchwilydd cymdeithasol y camau a amlinellwyd uchod i ystyried unrhyw godau neu themâu newydd sy’n allanolion. Rhannwyd y themâu hyn gyda thîm y prosiect yn y gweithdy ar gyfer dadansoddi thematig. 

Adolygiad llenyddiaeth

Comisiynodd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd adolygiad llenyddiaeth mewnol, cyflym, ansystematig o dystiolaeth yn ymwneud â chydgynhyrchu ac ymchwil i faterion yn ymwneud ag anabledd. 

Nod yr adolygiad llenyddiaeth oedd archwilio a chrynhoi llenyddiaeth gyhoeddedig ar gydgynhyrchu mewn ymchwil, gyda ffocws ar sut mae cydgynhyrchu wedi cael ei ddefnyddio o fewn llywodraeth i weithredu neu newid polisi sy'n effeithio ar bobl anabl. 

Yn debyg i'r adolygiad pen-desg o ddogfennau prototeip, arweiniodd ymchwilydd cymdeithasol ddull hybrid o ddadansoddi thematig gan ddefnyddio’r codau a gafwyd eisoes o’r dadansoddiad o’r cyfweliadau lled-strwythuredig. Ar ôl i'r codau hynny gael eu cymhwyso i'r llenyddiaeth, ailadroddodd yr ymchwilydd cymdeithasol y camau a amlinellwyd uchod i ystyried unrhyw godau neu themâu newydd sy’n allanolion ac a gafodd eu rhannu gyda thîm y prosiect yn y gweithdy myfyrio dadansoddi thematig. 

Gweithdy myfyrio dadansoddi thematig

Ym mis Rhagfyr 2025, hwyluswyd gweithdy rhithwir gan adolygydd cymheiriaid annibynnol. Roedd y gweithdy’n cynnwys:

  • yr adolygydd cymheiriaid annibynnol penodedig
  • y cyfwelydd annibynnol penodedig o Lab Cydgynhyrchu Cymru
  • Uwch Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru a arweiniodd y prosiect gwersi a ddysgwyd; cyn-aelod o'r tîm cydgynhyrchu a oedd hefyd wedi ymgymryd â sampl o'r cyfweliadau a'r dadansoddiad lled-strwythuredig
  • Swyddog Ymchwil Llywodraeth Cymru a oedd hefyd wedi cynnal sampl o'r cyfweliadau a'r dadansoddiad lled-strwythuredig, yn ogystal â dadansoddiad o'r adolygiad llenyddiaeth. Nid oedd y swyddog ymchwil hwn wedi chwarae unrhyw ran yn y prototeip cydgynhyrchu cyn hyn.
  • Uwch Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru a oedd yn aelod blaenorol o'r tîm cydgynhyrchu ac a arweiniodd ar gwmpasu’r prosiect gwersi a ddysgwyd a’r dadansoddiad ymchwil desg o ddogfennau’r prosiect.

Pwrpas y gweithdy oedd adolygu, cymharu a mireinio themâu a ddaeth i’r amlwg o’r cyfweliadau lled-strwythuredig a'r ymatebion ysgrifenedig, yr adolygiad llenyddiaeth a'r adolygiad desg. Roedd hyn hefyd yn sicrhau yr ystyriwyd cynrychiolaeth gytbwys o safbwyntiau a bod profiad bywyd ac arbenigedd yn cael eu cynnwys wrth gytuno ar y themâu terfynol. 

Safleoliaeth ac atblygoliaeth

Mae'n bwysig cydnabod bod elfen o oddrychedd i'r ymchwil hon o ystyried bod rhai o'r ymchwilwyr cymdeithasol sy'n arwain ar yr ymchwil gwersi a ddysgwyd hefyd yn aelodau o'r tîm cyd-gynhyrchu o'r prototeip. 

Mae methodoleg sy’n atblygol "yn helpu i wella dibynadwyedd a hygrededd y canfyddiadau trwy gyfrif am werthoedd, credoau, gwybodaeth a rhagfarnau’r ymchwilwyr" (Positionality and reflexivity: negotiating insider-outsider positions within and across cultures gan Yip, 2023 ar dudalen 223, ar gael ar Taylor and Francis online). Ymgorfforwyd atblygoliaeth i fod yn weithredol yn nyluniad yr ymchwil o’r cychwyn cyntaf. Roedd rôl yr adolygwr cymheiriaid annibynnol yn cefnogi'r tîm ymchwil sy'n arwain y prosiect hwn i ystyried eu 'hymwybyddiaeth berthynol’ (Yip, 2023) a herio unrhyw ragdybiaethau neu ragfarnau posibl. 

Roedd y gweithdy myfyrio dadansoddi thematig yn darparu man cydweithredol ac atblygol i driongli'r dystiolaeth o'r cyfweliadau lled-strwythuredig a'r ymatebion ysgrifenedig, yr adolygiad llenyddiaeth a’r ymchwil desg. Cyflwynir y dystiolaeth hon yn thematig yn yr adroddiad hwn.

Y broses gydgynhyrchu a'i defnydd ohon

Pennu cwmpas y ddull prototeip o gydgynhyrchu

Fe wnaeth ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru bennu’r cwmpas ar gyfer sut i gydgynhyrchu ymchwil drwy adolygu tystiolaeth a chanllawiau cyhoeddedig, a chydgrynhoi gwybodaeth gan ymarferwyr cydgynhyrchu eraill yng Nghymru a'r DU. Ar ôl archwilio gwahanol fodelau cydgynhyrchu ac argaeledd darpar gyflenwyr sydd â phrofiad ac arbenigedd perthnasol, penderfynwyd mynd ati’n fewnol i wneud yr ymchwil. Rhannwyd rolau a thasgau ymchwil ar draws y tîm cydgynhyrchu. Yna gwahoddodd y tîm ymchwil Gadeiryddion y Tasglu i gyd-ddylunio a chydgynhyrchu ymchwil gymdeithasol.

Amlinellwyd y prototeip fel un i’w gyflawni mewn 3 cham, y cytunwyd arnynt gyda Phrif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru:

Cam 1 

Cyd-ddylunio gweledigaeth ar gyfer yr ymchwil, gan gynnwys pennu'r pynciau ar gyfer yr ymchwil a ffyrdd o weithio gyda'n gilydd.

Cam 2 

Cydgynhyrchu tystiolaeth a oedd yn cynnwys cyd-ddylunio a chyflwyno cynllun gwaith ymchwil, cyd-ysgrifennu adroddiadau ymchwil a briffio gweinidogion ar y cyd a lledaenu canfyddiadau'r ymchwil. 

Cam 3

Ymchwil gwersi a ddysgwyd yn sgil cydgynhyrchu dan arweiniad ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru i ddysgu o’r dull o gydgynhyrchu, a’i werthuso, ac ystyried ffyrdd ychwanegol o gofnodi arbenigedd a phrofiad bywyd a rhannu'r dysgu hwnnw a wnaed yn sgil y prototeip.

Nod yr ymchwil fyddai sefydlu prototeip o’r weledigaeth ar gyfer cydgynhyrchu ac archwilio dichonoldeb hyn o fewn cyd-destun GSR. Cytunwyd y byddai unrhyw benderfyniadau ymchwil yn cael eu rhannu ar draws y tîm cydgynhyrchu ar bob cam o'r cylch ymchwil. 

Mae tystiolaeth o'r llenyddiaeth am gydgynhyrchu yn dangos bod pobl yn tueddu i ddehongli’r hyn y mae cydgynhyrchu’n ei olygu mewn gwahanol ffyrdd (Varieties of Participation in Public Services: The Who, When, and What of Coproduction gan Nabatchi ac eraill, 2017, ar gael ar Wiley online library). Nodwyd ei bod yn bwysig datblygu diffiniad ymarferol y gallai pob parti cysylltiedig gytuno arno. Nodwyd y diffiniad o gydgynhyrchu a fabwysiadwyd yn y prosiect hwn yn y weledigaeth ar gyfer y prototeip, a ddyluniwyd ac a gytunwyd ar y cyd ag aelodau’r tîm cydgynhyrchu. 

Roedd y weledigaeth yn diffinio’r nodau cydgynhyrchu fel "gweithio mewn partneriaeth gyfartal, dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'n gilydd, cynnwys Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Anabledd heb eu gorlethu, a chyhoeddi adroddiadau o safon dda fel ymchwil wedi'i gydgynhyrchu a'i gyd-ysgrifennu”. Roedd y weledigaeth yn nodi bwriad y tîm cydgynhyrchu i fabwysiadu ffyrdd o gydweithio sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn gynhwysol, yn dryloyw ac yn caniatáu i'r tîm fod yn greadigol a dysgu gan ei gilydd. 

Defnyddiwyd mapio asedau fel dull o lywio rhywfaint o'r cynllunio ymchwil a oedd yn amlygu cryfderau ar draws y tîm cydgynhyrchu a’r uchelgeisiau cyffredinol ar gyfer y prosiect. Roedd y dull hwn yn pennu’r cydgytundeb trwy archwilio'r hyn yr oedd cydgynhyrchwyr unigol yn dymuno ei gyfrannu at y prototeip (o ran eu gallu a'u hadnoddau) a'r hyn yr oeddent am ei gael o'r gwaith hwn. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno ymchwil ddylanwadol, cyfleoedd newydd i gyd-gyflawni ymchwil (nid dim ond ei chyd-ddylunio) yn ogystal â dysgu sgiliau newydd mewn dulliau ymchwil, cydgynhyrchu, cyfathrebu, gweithio'n hygyrch ac i ddangos sut y gellid gwneud ymchwil yn wahanol yn y dyfodol.

Mabwysiadwyd cyfres o egwyddorion cydgynhyrchu i amlinellu sut y gallai'r tîm cydgynhyrchu weithio gyda'i gilydd. Roedd yr egwyddorion hyn yn cyfateb i'r rhai a ddatblygwyd gan y Co-Production Collective ac maent wedi'u nodi isod.

Bod yn ddynol

Gwerthfawrogi amrywiaeth o wybodaeth, profiad a gwahanol safbwyntiau a meithrin perthynas ag eraill sy’n fuddiol i'r ddwy ochr ac yn seiliedig ar onestrwydd ac ymddiriedaeth.

Bod yn gynhwysol

Cael gwared ar yr hyn sy’n rhwystro cyfranogiad, cydnabod cryfderau pobl a chefnogi eu datblygiad.

Bod yn dryloyw

Mynd i'r afael ag anghydbwysedd pŵer a hierarchaeth a rhannu rolau a chyfrifoldebau. 

Bod yn heriol 

Sicrhau myfyrio, dysgu a gwella parhaus a chroesawu syniadau a ffyrdd newydd o weithio.

Cafodd cyfres o ragdybiaethau gweithredol ynghylch yr amodau ar gyfer llwyddiant hefyd eu mynegi a'u cytuno ag aelodau o'r tîm cydgynhyrchu. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • mae rhannu a chynorthwyo’r naill a’r llall yn rhan allweddol o gydgynhyrchu, gan gynnwys rhannu penderfyniadau ynghylch sut i gyflawni ymchwil a rhannu allbynnau ymchwil
  • mae’n rhaid i ymchwil fodloni safonau GSR fel y gall canfyddiadau lywio polisi a phrosesau gwneud penderfyniadau yn well 
  • sefydlu ymddiriedaeth ar y ddwy ochr
  • rhaid i gydgynhyrchu fod yn ddeniadol ac yn werth chweil i’r bobl a’r sefydliadau sy’n cymryd rhan

Myfyrdodau ynghylch cam cwmpasu'r prototeip

Dangosodd data’r cyfweliadau bod gwahanol brofiadau a gwybodaeth am gydgynhyrchu ar draws y tîm cydgynhyrchu cyn y prototeip. Yn y cyfweliadau dywedodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu eu bod, oherwydd bod y prototeip cydgynhyrchu yn gam i ffwrdd o’r dull GSR mwy traddodiadol o weithio, yn teimlo dan bwysau i fod â dealltwriaeth gref a sgiliau mwy datblygedig i gyflwyno ymchwil cydgynhyrchu’n dda o'r cychwyn cyntaf. Disgrifiwyd y prototeip felly fel proses o ddysgu gan rai o'r ymchwilwyr. Roedd rhai o safbwyntiau Cadeiryddion y Tasglu yn nodi mai prosiect prototeip oedd hwn i fod o’r dechrau ac nad oedd felly’n mynd i fod yn ‘berffaith’ y tro cyntaf ond yn hytrach ei fod yn gyfle i weithio mewn ffordd wahanol, i ddysgu gyda’n gilydd ac i adeiladu sylfaen gref ar gyfer y dull hwn o weithio o fewn GSR.

Cafodd gweledigaeth y prosiect ei chyd-ddylunio a’i chytuno gan y tîm cydgynhyrchu a chafodd y gwahanol rolau eu datgan. Mae'r adolygiad llenyddiaeth yn tynnu sylw at yr angen i sefydlu Cylch Gorchwyl clir i nodi’r lefel o gyfranogiad mewn prosiect o'r cychwyn cyntaf yn ogystal â galluogi ail-drafod os oes angen (Involving disabled people in social research by the UK Government, 2011 ar dudalen 19, ar gael ar GOV.UK). Roedd tystiolaeth o'r ymchwil desg yn awgrymu y dylid ail-ymweld â’r weledigaeth a'r egwyddorion er mwyn arwain y gwaith llywodraethu, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau ar wahanol bwyntiau yn y broses, ond roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn ystyried a oedd digon o gyfleoedd ar gyfer hyn ar draws pob cam o'r ymchwil o fewn y prototeip.

Cytuno ar y pynciau ymchwil i'w harchwilio

Y cynnig gwreiddiol o fewn y cam cwmpasu oedd cyflwyno astudiaethau dichonoldeb ar hyd at 5 o argymhellion y Tasglu. Yn y pen draw, darparodd y prototeip 2 ddarn gwahanol o ymchwil sylfaenol a oedd yn cynnwys cwmpasu a chynllunio ymchwil, gwaith maes, dadansoddi data, adrodd a chyhoeddi. Roedd y pynciau ymchwil y cytunwyd arnynt yn canolbwyntio ar 2 o argymhellion y Tasglu a oedd yn ymwneud â'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a Byw'n Annibynnol fel thema trosfwaol. 

Mae tystiolaeth o’r cyfweliadau’n awgrymu bod cytuno ar bynciau ymchwil gydag aelodau o'r tîm cydgynhyrchu sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas wedi helpu i flaenoriaethu’r materion a oedd yn teimlo'n berthnasol yn y cyd-destun hwn ac yn gofyn am fwy o dystiolaeth. Roedd y tîm cydgynhyrchu’n uchelgeisiol ac yn llawn cymhelliant i gyflwyno tystiolaeth wedi’i chydgynhyrchu a fyddai’n cael dylanwad mawr ar bolisi. 

Ehangodd cwmpas yr ymchwil pan cynhaliwyd ymchwil sylfaenol yn hytrach na’r adolygiadau o dystiolaeth a gynlluniwyd yn wreiddiol. Yn ôl rhai myfyrdodau yn y data o’r cyfweliadau, cymerodd beth amser yn ystod y gweithdai cyd-ddylunio cychwynnol i gytuno ar y 2 thema olaf a fyddai'n cael eu harchwilio o fewn yr ymchwil. Un o'r materion a nodwyd oedd sut i gytuno ar bwnc ymchwil penodol pan ystyriwyd fod cymaint o faterion yn bwysig. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn teimlo bod cyfle i gyfrannu at drafodaethau cwmpasu yn bwysig er mwyn sicrhau bod gwahanol safbwyntiau’n cael eu clywed am yr hyn y dylid ei flaenoriaethu o fewn yr adnoddau a'r amserlenni sydd ar gael. Teimlwyd bod cael bod yn rhan o gyd-drafodaethau wedi cynorthwyo rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu i ddeall yn well pam fod rhai materion yn cael eu blaenoriaethu dros eraill o fewn cwmpas y prototeip.

Mae'r safbwyntiau hyn yn dangos y gall fod angen amser ychwanegol ar ddechrau gweithgarwch cwmpasu i wneud penderfyniadau ar y cyd, er mwyn sicrhau bod cyfle i gyd-drafod a chael cytundeb gan bawb. Mae hyn o bosibl yn wahanol i brosiectau GSR eraill sydd fel arfer yn cael eu cynllunio o fewn amserlenni cyfyngedig sy'n gysylltiedig â blaenoriaethau polisi a dyddiadau cau.

Er gwaethaf lleihau cwmpas yr ymchwil o 5 argymhelliad i 2, roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu’n teimlo o edrych yn ôl bod cwmpas yr ymchwil y cytunwyd arno o bosibl yn rhy fawr o ystyried yr amser a'r adnoddau oedd eu hangen i gyflawni ymchwil trwy ddull cydgynhyrchu. 

Rheoli prosiect

Llywodraeth Cymru oedd yn arwain ar reoli’r prosiect cydgynhyrchu, gydag un o'r ymchwilwyr cymdeithasol yn gweithredu fel cydlynydd y prosiect. Roedd y gweithgarwch rheoli prosiect yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio i hwyluso cydgynhyrchiant y gweithgareddau a'r allbynnau ymchwil, trefnu gweithgareddau rhoi cydnabyddiaeth, trefnu unrhyw addasiadau rhesymol, caffael cyflenwyr ar gyfer creu crynodebau hygyrch a rheoli contractau cyfieithu. Roedd y rôl hon hefyd yn cynnwys cynllunio amserlenni prosiect ac anfon cyfathrebiadau rheolaidd at holl aelodau'r tîm cyd-gynhyrchu. 

Roedd myfyrdodau cymysg yn y data o’r cyfweliadau ynghylch a oedd y dull hwn yn cyfyngu ar y graddau yr ystyriwyd bod y prototeip wedi'i gydgynhyrchu yn unol â'r weledigaeth wreiddiol a’r egwyddorion gweithio. Soniodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu eu bod yn teimlo, yn sgil y ffaith fod y cyllid a’r adnoddau i gyflawni’r gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru, nad oedd y prototeip yn cynrychioli cydgynhyrchu i’r graddau y byddent wedi’i ddisgwyl. Roedd rhai yn teimlo bod penderfyniadau ar adegau’n cael eu gwneud 'y tu ôl i'r llenni' ac nad oedd pob aelod o'r tîm cydgynhyrchu yn rhan o'r holl benderfyniadau oedd yn cael eu gwneud. Awgrymodd eraill fod y prototeip yn enghraifft dda o gydgynhyrchu a’i fod wedi mynd ymhellach na phrosiectau eraill y buont yn rhan ohonynt ac y dylid ei ddathlu. 

Gan fod hwn yn ddull newydd o gyflawni prosiect GSR, cododd rhai tasgau ychwanegol ac annisgwyl yn ystod y prototeip ac fe'u disgrifiwyd gan swyddogion rheoli prosiect Llywodraeth Cymru a Chadeiryddion y Tasglu fel rhai a oedd yn drwm o ran y defnydd o adnoddau ar adegau. Er enghraifft, roedd tasgau ychwanegol i'r arweinydd rheoli prosiect sicrhau bod dogfennau'r prosiect yn cael eu rhannu mewn fformatau hygyrch. Roedd rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu’n teimlo bod hyn weithiau yn arafu’r broses ddarparu, gan arwain at deimladau o rwystredigaeth. Dywedwyd hefyd fod y ffaith bod Llywodraeth Cymru’n arwain ar reolaeth prosiect o dro i dro’n rhwystro cyfranogiad creadigol rhai cydgynhyrchwyr. Roedd rhai’n teimlo mai eu rôl oedd galluogi eraill i gydgynhyrchu ymchwil yn hytrach na’u bod nhw eu hunain wedi'u grymuso i gydgynhyrchu'n uniongyrchol. Mae'r gwaith cudd hwn (er enghraifft, rhannu dogfennau prosiect yn ddiogel, amserlennu a chyfathrebu) yn dangos bod cydgynhyrchu nid yn unig yn gofyn am ewyllys da ac ymrwymiad, ond hefyd gydnabyddiaeth o'r mathau anweledig o waith a’r amynedd sydd eu hangen i gynnal cyfranogiad.

Dangosodd myfyrdodau o'r cyfweliadau y gallai bod â hwylusydd annibynnol i weithredu fel rheolwr prosiect ar gyfer y cydgynhyrchu fod wedi lliniaru rhai o'r materion a nodwyd uchod.

Cydnabyddiaeth

Gall talu pobl am eu hamser alluogi unigolion i gymryd rhan trwy gael gwared ar rwystrau ariannol a thrwy hynny ddenu grŵp mwy amrywiol o gydgynhyrchwyr (Polisi Taliadau gan y Coproduction Collective, 2024). Gall talu hefyd fod yn ffordd ddiriaethol o feithrin ymddiriedaeth a dangos y gwerthfawrogir cyfraniadau unigol pawb tuag at y cydgynhyrchu. 

Fodd bynnag, mae pob taliad a wneir i gydgynhyrchwyr yn ddarostyngedig i reolau treth a budd-daliadau lles cymhleth y DU a gellid eu cyfrif fel enillion ychwanegol gyda hynny o bosibl yn arwain at golli hawliau lles ac incwm. Mae’r Sefydliad Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol wedi cynhyrchu canllaw cynhwysfawr ar dalu pobl sy'n derbyn budd-daliadau (2023). Mae'n nodi cymhlethdod system fudd-daliadau bresennol CThEF, sy'n cymhwyso gwahanol reolau i'r ystod eang o fudd-daliadau lles. Mae'n rhoi cyfrifoldeb ar sefydliadau sy'n talu cydgynhyrchwyr unigol i "sicrhau bod pobl sy'n derbyn budd-daliadau yn cael eu cefnogi gan gyngor annibynnol ar hawliau lles" ac i gymryd camau eraill a all gefnogi unigolion i gysylltu â CThEF a'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). 

Am y rheswm hwn felly datblygwyd pecyn cydnabyddiaeth amgen, wedi’i gydgynllunio, ar gyfer holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu a oedd yn rhan o ddylunio a chyflawni'r ymchwil, yn lle taliad ariannol. Yr uchelgais oedd gwneud y prototeip yn brofiad gwerth chweil a bodloni uchelgeisiau cydgynhyrchwyr trwy gynnwys cyfleoedd i gymryd rhan mewn datblygu dyluniad yr ymchwil, gwaith maes, cyd-ddadansoddi, cyd-ysgrifennu adroddiadau a chymryd rhan mewn digwyddiadau lledaenu ar ôl eu cyhoeddi. Roedd y pecyn cydnabyddiaeth hefyd yn cynnwys dosbarthiadau meistr wedi'u teilwra’n arbennig ynghylch dulliau ymchwil sy’n ystyried hawliau anabledd yn ogystal â hyfforddiant mewn technegau cydgynhyrchu. Ystyriwyd yn gyffredinol fod yr ymdriniaeth hon yn gweithio’n dda gan ei bod yn rhoi cyfle i aelodau’r tîm cydgynhyrchu fod yn rhan o’r holl gamau ymchwil i’r graddau yr oedden nhw eu hunain yn ei ddymuno. 

Fodd bynnag, roedd teimlad bod y dull hwn o ymdrin â chydnabyddiaeth hefyd yn arwain at fwy o ymrwymiad amser. Arweiniodd hyn at rai pryderon ynghylch llwythi gwaith beichus yn enwedig i Gadeiryddion Tasglu a oedd yn cyflawni eu rolau o fewn y prototeip ochr yn ochr â rolau a chyfrifoldebau eraill. Dylid nodi hefyd bod y rhan fwyaf o Gadeiryddion y Tasglu a oedd yn rhan o'r tîm cydgynhyrchu hefyd yn uniongyrchol gysylltiedig â phrosiectau ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol. 

Mae data o’r cyfweliadau yn awgrymu bod hyfforddiant a dosbarthiadau meistr yn cael derbyniad da yn gyffredinol a bod rhai o'r dulliau adrodd straeon wedi helpu i atgyfnerthu ffyrdd newydd o feddwl am ddulliau ymchwil ac ymdriniaethau cydweithredol. Fodd bynnag, ni chafodd y sesiynau hyn dderbyniad cystal gan rai o’r Cadeiryddion Tasglu a oedd yn teimlo bod y sesiynau hyn yn gofyn am amser ac egni ychwanegol y tu hwnt i gwmpas y prototeip (a oedd eisoes yn gofyn am ymrwymiad amser mawr). Nodwyd hefyd y gallai peidio â chynnig taliad ariannol am eu cyfraniadau fod wedi cyfyngu ar eu hymgysylltiad yn y prototeip ac roedd teimlad bod rhai digwyddiadau cydnabyddiaeth yn docenistaidd. 

Adnoddau ac amserlenni

Mae'r llenyddiaeth yn nodi y gall cydgynhyrchu fod yn broses gymhleth ac ailadroddus o ddysgu ac ymateb ar y cyd. Disgrifiwyd cydgynhyrchu fel dull o gyflawni ymchwil gymdeithasol fel un sy’n draul mawr ar adnoddau o safbwynt yr amser y mae’n rhaid i Gadeiryddion Tasglu a swyddogion Llywodraeth Cymru ei neilltuo ar gyfer y gwaith. Mae'r cyfweliadau’n awgrymu ei bod yn anodd rhagweld yn iawn faint o amser ac adnoddau fyddai eu hangen i gyflawni'r hyn y cytunwyd arno’n wreiddiol yn ystod camau cynllunio a chwmpasu'r gwaith, yn enwedig o ystyried bod cydgynhyrchu’n ffordd iteraidd o weithio. Fe wnaeth amserlenni'r prosiect ymestyn y tu hwnt i’r amser a ragdybiwyd ar y dechrau, a chyflwynwyd y prosiect dros gyfnod o 18 mis yn hytrach na'r amcangyfrif cychwynnol o 6 mis ac roedd gofyn i’r tîm cydgynhyrchu gyfarfod yn aml iawn. 

O ystyried bod hon yn ffordd newydd o weithio i'r ymchwilwyr GSR oedd yn cymryd rhan a'i fod yn brototeip, cafodd gwahanol ddulliau hwyluso eu profi yn ystod y cam cwmpasu. Roedd teimlad bod hyn wedi arafu pethau ac wedi arwain at oedi o ran sefydlu ffyrdd effeithiol o weithio, cytuno ar gwmpas yr ymchwil a sefydlu ymddiriedaeth ymysg aelodau’r tîm cydgynhyrchu. Roedd rhai yn dweud y cymerodd amser i sefydlu cyd-ddealltwriaeth o ddisgwyliadau unigol o'r broses gydgynhyrchu, yn enwedig wrth symud o ddull ymgynghori mwy traddodiadol at gydgynhyrchu lle caiff penderfyniadau eu cytuno ar y cyd. Roedd hyn wedi cael effaith anfwriadol ar amserlenni a chyflawniad y prosiect. 

Roedd y tîm cydgynhyrchu’n cytuno â’r nod o gyhoeddi'r ymchwil cyn lansio’r ymgynghoriad ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl i sicrhau y gallai unrhyw dystiolaeth a gynhyrchwyd ar y cyd lywio ymatebion i'r ymgynghoriad. Barnwyd fod hyn wedi cael effaith bellach ar amserlenni'r prosiect wrth geisio cydamseru cyflwyniad y prototeip gyda menter arall gan Lywodraeth Cymru ar yr un pryd. 

Fel y nodwyd uchod, roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn teimlo bod yr uchelgais o ran yr hyn y gellid yn realistig ei gyflawni o fewn yr adnoddau a'r amserlenni oedd ar gael o bosibl wedi'u goramcangyfrif ar ddechrau'r prototeip. Fodd bynnag, gellid ystyried hefyd bod hyn yn rhan o fethodoleg iteraidd a chyfranogol. 

Wrth i amserlenni ymestyn, dargyfeiriwyd adnoddau ac ni chyflawnwyd rhai elfennau o'r dyluniad ymchwil fel y cynlluniwyd, gan gynnwys digwyddiad trafod. Arweiniodd hyn at siom i rai aelodau o'r tîm cyd-gynhyrchu oherwydd na chafodd eu disgwyliadau cychwynnol eu bodloni.

Dylid cydnabod bod swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am gyflawni ystod o brosiectau gyda blaenoriaethau ymchwil cydraddoldeb eraill ar wahân i'r prosiect cydgynhyrchu, gyda hyn hefyd o bosibl wedi effeithio ar amserlenni a chyfyngiadau adnoddau’r prototeip. Fe gafwyd mwy o adnoddau yn ystod cyflwyniad y prototeip wrth i amserlenni gael eu hymestyn. Fodd bynnag, nodwyd nad yw cynyddu adnoddau o reidrwydd yn creu’r amodau cywir ar gyfer llwyddiant mewn cydgynhyrchu o ystyried ei natur iteraidd. Mae ymgysylltiad cadarnhaol aelodau'r tîm cydgynhyrchu sydd â'r sgiliau, yr arbenigedd a'r rhwydweithiau perthnasol hefyd yn angenrheidiol i sicrhau bod y prosiect yn parhau i symud yn ei flaen. Mae'r bennod nesaf yn ystyried rôl perthnasoedd mewn cydgynhyrchu.

Pŵer perthnasoedd mewn cydgynhyrchu

Cyflwyniad

Daeth pŵer pobl â’i gilydd a chyfraniadau unigol i’r ymchwil i'r amlwg fel thema gref ar draws y dystiolaeth. Roedd sut yr oedd pŵer yn cael ei rannu, a oedd yn cael ei rannu, a pha mor gyson oedd hyn ar draws gwahanol gamau’r ymchwil o fewn y prototeip a sut yr oedd hyn yn cael ei deimlo a’i gyfathrebu yn amrywio ym mhrofiadau aelodau’r tîm gydgynhyrchu. Teimlwyd bod gan ansawdd y perthnasoedd a sefydlwyd a'r graddau y rhannwyd cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau gysylltiad cryf â theimlad unigolion o fod wedi’u grymuso ac o’u lles cyffredinol. Mae'r profiadau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y bennod hon.

Perthnasoedd fel sail dros lwyddiant

Ystyriwyd fod meithrin perthnasoedd da yn ganolog i’r broses gydgynhyrchu. Mae'r llenyddiaeth yn nodi y dylai prosiectau cydgynhyrchu fod yn gydfuddiannol eu natur (Including ‘seldom heard’ views in research: opportunities, challenges and recommendations from focus groups with British South Asian people with type 2 diabetes gan Prinjha ac eraill, 2020, ar gael ar Springer Nature Link). Mae hyn yn golygu y dylai aelodau o brosiectau ymchwil a gydgynhyrchir weld manteision clir a pherthnasol i gydnabod eu cyfraniadau. Gall cynnig cyfleoedd i aelodau wella eu sgiliau helpu i fagu hyder a grymuso pobl i wella eu gallu i wneud beth bynnag sy'n bwysig iddyn nhw (From tokenism to empowerment: progressing patient and public involvement in healthcare improvement gan Ocloo and Matthews, 2016, ar gael ar BMJ Journals). Mewn perthynas gydgynhyrchu ddwyochrog, gall unigolion â phrofiad bywyd a'r rhai heb y profiad hwnnw i gyd elwa trwy ddysgu ffyrdd newydd o edrych ar broblemau ymchwil trwy ymwneud â gwahanol safbwyntiau (Inclusive Research in Health, Rehabilitation and Assistive Technology: Beyond the Binary of the ‘Researcher’ and the ‘Researched’ gan Layton ac eraill, 2022, ar gael ar MDPI journals).

Cafodd hyn hefyd ei adlewyrchu yn y dystiolaeth o’r cyfweliadau. Roedd ymchwilwyr heb brofiad o gael eu hanablu oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas yn cydnabod eu bod yn gallu cynhyrchu ymchwil well a sicrhau ymgysylltiad cryfach â phartneriaid ymchwil a chyfranogwyr oherwydd y profiadau dysgu a gafwyd o'r prototeip. Cydnabuwyd hefyd y gellir rhannu dysgu torfol sy’n deillio o ymgysylltu â gwahanol safbwyntiau ar draws y proffesiwn GSR. Nododd ymchwilwyr cymdeithasol y gallai hyn lywio’n gadarnhaol brosiectau ymchwil cymdeithasol y dyfodol i ystyried cydraddoldeb a chynnwys profiad bywyd yn y cylch ymchwil.

Mae'r llenyddiaeth yn nodi bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol yn hanfodol i gyd-greu amgylchedd lle mae gan bob parti lais. Mae'n awgrymu na fydd pawb o reidrwydd yn cael y gair olaf mewn cydgynhyrchu, ond dylai'r bobl sydd â gwybodaeth am bwnc penodol fod yn rhan o wneud penderfyniadau. O fewn y tîm cydgynhyrchu, daeth pob un o Gadeiryddion y Tasglu â phrofiad ac arbenigedd sylweddol ar gyfer gwella meysydd polisi sy’n gysylltiedig ag anabledd. Roedd hyn yn cefnogi cyflwyno’r prototeip ac yn gwella ansawdd yr ymdriniaeth. Er enghraifft, roedd gan aelodau o'r tîm cydgynhyrchu eisoes berthnasoedd gwaith a ystyriwyd yn gryfder i'r prototeip. Dywedwyd fod cydgynhyrchu hefyd yn galluogi pobl i ddatblygu rhwydweithiau a mewnwelediadau newydd. Gwelwyd fod hyn yn gweithio’n arbennig o dda i bobl sy’n ffynnu wrth gydweithio. 

Mae’r dystiolaeth o’r cyfweliadau yn awgrymu bod eglurder ynghylch rolau o fewn y tîm cydgynhyrchu, cyd-ymddiriedaeth a chyd-gyfnewidiaeth hefyd yn cael eu hystyried yn elfennau sy’n galluogi’r prosiect. Ar gyfer prosiectau ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol, cytunwyd ar rolau a chyfrifoldebau yn ystod y camau cwmpasu i gynnwys pwy fyddai'n arwain ar dasgau ymchwil fel gwaith maes, dadansoddi ac adrodd. Fodd bynnag, dywedodd rhai aelodau bod angen mwy o eglurder ynghylch rolau, yn enwedig os oedd newidiadau staff ac aelodau newydd yn ymuno â'r tîm cydgynhyrchu ar gamau diweddarach. Amlygwyd diffyg eglurder ynghylch rolau penodol o fewn y tîm fel rhwystr rhag sefydlu cyd-ymddiriedaeth. 

Fel yr amlinellwyd yn y bennod flaenorol, Llywodraeth Cymru oedd yn arwain ar reoli prosiect ac adnoddau. Roedd rhai o swyddogion Llywodraeth Cymru yn teimlo bod rheoli newid (er enghraifft, yn ystod newidiadau i gwmpas neu ddyluniad ymchwil) yn heriol ar adegau o ystyried natur iteraidd cydgynhyrchu. Ni chafod pob elfen o ddyluniad gwreiddiol yr ymchwil ei gyflawni fel y bwriadwyd, yn enwedig wrth i amserlenni gael eu hymestyn. Ystyriwyd bod sicrhau bod aelodau'r tîm cydgynhyrchu’n cael gwybod am unrhyw newidiadau yn ffordd o reoli unrhyw newidiadau a lliniaru unrhyw broblemau a allai godi. Pan nad oedd hyn yn digwydd neu os nad oedd yn digwydd yn ddigon buan roedd yn arwain at fethiant mewn cyfathrebu rhwng aelodau'r tîm cydgynhyrchu a theimladau o allgáu neu rwystredigaeth i rai. Roedd bod yn dryloyw ynghylch unrhyw newid a nodi cyfleoedd ar gyfer deialog yn bwysig er mwyn sicrhau cyfathrebu clir ac effeithiol ac i drafod unrhyw bryderon, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth dros amser.

Cydbwysedd pŵer a’r pethau sy’n galluogi ac yn rhwystro rhag grymuso

Mae Pestoff (Co-production and Third Sector Social Services in Europe: Some Concepts and Evidence, 2012, ar gael ar Cambridge University Press) yn pwysleisio'r angen i fynd i'r afael yn uniongyrchol ag anghydbwysedd pŵer mewn cydgynhyrchu. Mae'n dadlau bod hyn yn gofyn am strategaethau bwriadol i sicrhau bod lleisiau pobl anabl nid yn unig yn cael eu clywed ond hefyd yn cael effaith ystyrlon ar wneud penderfyniadau a chanlyniadau. Roedd barn ymhlith cyfranogwyr yn gymysg o ran i ba raddau y dosbarthwyd pŵer ar draws y camau ymchwil. Gwelai rhai cydgynhyrchwyr bod cynnydd yn digwydd tuag at bŵer wedi’i rannu, er bod eraill yn teimlo bod cydgynhyrchu mewn sefyllfa llywodraeth yn cyfyngu ar bartneriaeth go iawn. 

Fel y trafodwyd yn y bennod flaenorol, cynlluniwyd a hwyluswyd cyflwyniad y prototeip mewn ffordd sy'n anelu at fod yn werthfawr gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer grymuso aelodau’r tîm cydgynhyrchu a rhoi cyfle iddynt gael dylanwad ar y cyd ar draws pob cam ymchwil. Er enghraifft, cydgynlluniodd a chydgyflwynodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu dri dosbarth meistr a gyflwynwyd gan arbenigwyr academaidd ar hawliau pobl anabl a chydgynhyrchu. O ganlyniad i hyn cyflwynwyd sesiynau hyfforddi ar-lein mewn dulliau cydgynghori, ymchwilio gwerthfawrogol, adrodd straeon a hwyluso. Yn ogystal, rhoddodd diwrnod ‘cwrdd i ffwrdd’ gyfle i rwydweithio wyneb yn wyneb, dathlu cyflawniadau a dylanwadu ar ddyluniad yr ymchwil hwn i wersi a ddysgwyd. Dangosodd y dystiolaeth fod y tîm cydgynhyrchu wedi dangos ymgysylltiad uchel a pharodrwydd i addasu a gweithio trwy heriau gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion ymarferol i unrhyw broblemau sy'n codi. 

Er gwaethaf bwriadau da o ran cytuno ar y nodau a'r weledigaeth gydgynhyrchu ar gyfer y prototeip, nid oedd pob penderfyniad wedi'i wneud yn gyfartal ar draws pob cam ymchwil. I rai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu roedd diffyg eglurder ynghylch rôl swyddogion polisi eraill y tu allan i'r prosiect, ynghyd â newidiadau i gwmpas y prototeip oherwydd llithriadau yn yr amserlen, yn codi pryderon. Yn y cyfweliadau, myfyriodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu ynghylch a yw'n bosibl rhannu pŵer yn gyfartal ar draws pob cam o brosiect GSR. Efallai bod pŵer a rennir wedi bod yn arbennig o heriol i'w wireddu gan mai swyddogion Llywodraeth Cymru oedd yn arwain ar reoli’r prosiect ac yn gyfrifol am roi cymeradwyaeth derfynol i ddogfennau’r prosiect megis canllawiau pwnc, hysbysiadau preifatrwydd ac adroddiadau drafft. 

Roedd myfyrdodau ynghylch a oedd swyddogion Llywodraeth Cymru bob amser yn cyflawni cydbwysedd o ran gweithio mewn partneriaeth gyfartal a chadw at weledigaeth y prototeip, yn enwedig wrth i amserlenni gael eu hymestyn. Dywedwyd bod hyn ar adegau yn creu tensiwn i swyddogion Llywodraeth Cymru, a oedd yn ceisio osgoi rhoi gormod o faich ar Gadeiryddion Tasglu ac ymddangos fel pe baent yn arwain yn rhy gryf, gan hefyd gynnwys holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu wrth wneud penderfyniadau yr un pryd. 

Roedd teimlad bod rhannu pŵer yn gysylltiedig â theimladau o gynhwysiant. Dywedodd rhai bod ymdeimlad cryf o gynhwysiant trwy gydol y prototeip, tra bod eraill yn myfyrio ynghylch anghydbwysedd pŵer amlwg ar adegau a arweiniodd at deimlad o ddiffyg cynhwysiant a gwerthfawrogiad ymysg rhai. O ystyried bod 2 rwydwaith sefydledig wedi ffurfio'r tîm cydgynhyrchu ar y dechrau (Cadeiryddion Tasglu a swyddogion Llywodraeth Cymru), cyfeiriodd rhai o aelodau'r tîm yn y cyfweliadau at deimlad o 'ni a nhw' ar adegau. Mae’n bosib bod hyn wedi’i wneud yn waeth oherwydd mai swyddogion Llywodraeth Cymru oedd yn arwain ar weithgareddau rheoli prosiect fel y trafodwyd yn y bennod flaenorol. Soniodd rhai Cadeiryddion Tasglu eu bod yn teimlo bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn 'gadael iddyn nhw' gymryd rhan, ac er y pwysleisiwyd fod hon yn agwedd gadarnhaol o ran mynd ati’n gydgynhyrchiol, mae o bosibl hefyd yn dangos ymdeimlad bod gan swyddogion Llywodraeth Cymru fwy o rym o'r cychwyn cyntaf. Yn ogystal, roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn dweud eu bod yn aml yn teimlo’u bod yn cael eu gweld dim ond fel swyddogion llywodraeth ac nid o reidrwydd fel pobl anabl eu hunain. Cydnabuwyd yn y dystiolaeth o gyfweliadau fod gwir barodrwydd i oresgyn unrhyw densiynau a gododd yn ystod y prototeip er mwyn cytuno ar atebion ar y cyd. 

Llesiant a chefnogaeth

Oherwydd bod y broses gydgynhyrchu’n ffordd ailadroddus a chydweithredol o weithio, mae angen cydnabod yr effaith bosibl ar les ac anghenion cefnogi’r unigolion sy'n cymryd rhan. 

Fel y disgrifiwyd yn y bennod flaenorol, roedd y prototeip cydgynhyrchu’n gofyn am lawer o adnoddau ar adegau. Dangosodd y dystiolaeth o’r cyfweliadau fod potensial i natur y broses gydgynhyrchu a'r pynciau ymchwil ysgogi emosiynau. Roedd rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu’n teimlo bod hyn wedi cael cost emosiynol arnyn nhw ar adegau. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu’n teimlo bod y prosiect yn eu sbarduno ac yn eu grymuso ond roedd eraill yn teimlo wedi’u llethu ar adegau. Roedd y profiadau a gafodd eu rhannu yn dangos bod lle wedi’i greu ar gyfer trafodaeth a myfyrio. Rhannodd rhai o Gadeiryddion y Tasglu eu profiad o deimlo'u bod yn gallu siarad yn agored a’u bod yn gwerthfawrogi proses a pherthnasoedd gwaith a oedd yn rhoi lle i hyn. 

Mae'r dystiolaeth o’r cyfweliadau yn awgrymu bod pwysau a baich emosiynol yn cael eu profi'n wahanol ymhlith aelodau o'r tîm cydgynhyrchu. Roedd rhai o ymchwilwyr Llywodraeth Cymru yn teimlo pwysau i beidio â gadael aelodau eraill o'r tîm i lawr ac i sicrhau bod yr ymchwil yn cyd-fynd â'u disgwyliadau, er nad oedd hyn bob amser yn cael ei gyflawni. Dywedodd rhai o swyddogion Llywodraeth Cymru eu bod yn teimlo pwysau i ddarparu allbwn gweladwy ac i gadw i fyny â chyflymder y cyflwyno i sicrhau bod y dystiolaeth yn cyd-fynd â'r cyd-destun polisi ehangach. 

Yn yr un modd, soniodd rhai Cadeiryddion Tasglu am deimladau o fod wedi’u gorlethu ar adegau, gyda nifer y cyfarfodydd a drefnwyd yn cael ei nodi fel y rheswm dros hyn i raddau helaeth. Mae ychydig o wahaniaeth rhwng teimladau Cadeiryddion y Tasglu hynny a oedd yn cyfrannu fel rhan o'u rolau proffesiynol a'r rhai a oedd yn gwirfoddoli eu hamser. Soniodd y rhai hynny a oedd yn rhoi amser o’u rolau proffesiynol ei bod yn anodd cadw i fyny â gofynion y prosiect ochr yn ochr â gofynion eu rolau a'u cyfrifoldebau eraill. 

Mae'r dystiolaeth o’r cyfweliadau yn tynnu sylw at densiwn a brofir weithiau gan Gadeiryddion Tasglu rhwng bod eisiau bod mor gysylltiedig â phosibl (gan gynnwys mynychu pob cyfarfod) a bod â digon o gapasiti ac amser i gyfrannu, yn enwedig o ystyried eu rolau mewn cynrychioli pobl anabl. Yn ogystal, roedd y dystiolaeth hefyd yn dangos tensiwn cynhenid ymysg aelodau'r tîm a oedd yn arwain ar reoli prosiectau i sicrhau cynhwysiant ystyrlon i bob cydgynhyrchydd bob amser, ar yr un pryd â cheisio osgoi gorlethu unrhyw unigolion gyda galwadau cyflawni’r prosiect. 

Arweiniodd unrhyw bryderon ynghylch llwyth gwaith gormodol i unrhyw aelodau o’r tîm cydgynhyrchu at gamau i liniaru hynny dros amser, a oedd yn cynnwys cyflwyno calendr o weithgareddau ymlaen llaw, ceisio cyfyngu ar nifer y cyfarfodydd ac annog rhannu cyfraniadau all-lein pan fo angen. Trefnwyd cyfarfodydd gwirio lles hefyd os oedd angen i gefnogi cydgynhyrchwyr. Cynhwyswyd gwyliau'r haf a'r Nadolig hefyd wrth gynllunio’r prototeip, gyda'r arweinydd rheoli prosiect yn anelu at sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo wrth adolygu dogfennau’r prosiect ar gyfnodau prysur. Tua diwedd y prototeip, cytunwyd y dylai Llywodraeth Cymru symud at ddull mwy ymgynghorol er mwyn lleihau llwythi gwaith ac ymrwymiad amser beichus. Roedd hyn yn cynnwys cytundeb bod elfen ‘gwersi a ddysgwyd’ y prototeip yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru.

O ystyried bod y prototeip hwn yn dibynnu ar berthnasoedd a phartneriaethau gwaith, roedd enghreifftiau hefyd o’r cyfweliadau bod rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu’n teimlo pwysau i sicrhau bod pob aelod o'r tîm yn cael eu cefnogi'n dda. Rhannodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu lawer o enghreifftiau o empathi a chefnogaeth, gan ddisgrifio sut y rhoddodd y prototeip gyfle iddynt ddysgu ar y cyd sut i gydweithio a deall y naill a’r llall yn well. I lawer o aelodau’r tîm cydgynhyrchu, sefydlu perthnasoedd gwaith cadarnhaol newydd oedd un o brif gyflawniadau'r prototeip, er gwaethaf unrhyw heriau a wynebwyd, ac ystyriwyd fod hyn yn ganlyniad cadarnhaol a fydd yn parhau y tu hwnt i’r prototeip.

Roedd myfyrdodau o'r cyfweliadau’n cynnwys sut y gallai prototeip cydgynhyrchu fel hwn wneud defnydd mwy effeithlon o amser yn y dyfodol a sut i werthfawrogi'n well yr amser a roddir gan y rhai sy'n cymryd rhan. Pwysleisiodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu fod cydnabyddiaeth ddigonol yn rhan bwysig o werthfawrogi eu cyfraniadau. 

Cafwyd enghreifftiau cadarnhaol cyffredin o gefnogaeth ar draws y tîm ac o rannu gwybodaeth a sgiliau er mwyn sicrhau bod y prototeip yn symud yn ei flaen. Fodd bynnag, dywedwyd bod angen mwy o gefnogaeth neu gyngor penodol ar gyfer unrhyw brosiectau ymchwil a fydd yn cael eu cydgynhyrchu yn y dyfodol. Dylai'r gefnogaeth hon helpu ymchwilwyr i ymgynghori ar unrhyw faterion nad ydynt yn teimlo’n hyderus yn eu cylch, yn enwedig wrth ymgymryd â methodolegau cyfranogol neu gydgynhyrchiol a gweithio mewn ffordd sy'n cadw at y model cymdeithasol o anabledd.

Y model cymdeithasol o anabledd a hygyrchedd

Cyflwyniad

O ddechrau’r cyfnod cwmpasu, roedd lefelau uchel o ymrwymiad ar draws y tîm cydgynhyrchu i ystyried yn ddwys sut y gellid (ac y dylid) cymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd. Cafodd addasiadau rhesymol eu bodloni pan fo angen ar gyfer holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu. Dangosodd y dystiolaeth o gyfweliadau a'r ymchwil desg enghreifftiau cadarnhaol o gynnydd a rhai anghysondebau yn y meysydd hyn, sydd wedi’u nodi isod.

Y model cymdeithasol o anabledd

Mae'r model cymdeithasol o anabledd wedi bod yn ymrwymiad hirsefydlog i Lywodraeth Cymru. Mae'n canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach nag amhariadau, gan eirioli dros yr un hawliau i bobl anabl â'u cyfoedion. Mae'r model cymdeithasol yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i gymdeithas, gan alw am gael gwared ar y rhwystrau (strwythurol, diwylliannol a gwahaniaethol) sy'n atal cyfranogiad pobl anabl. 

Gan adeiladu ar feirniadaeth y mudiad hawliau anabledd o'r model meddygol, roedd dyfodiad y model cymdeithasol o anabledd yn newid sylweddol ac arwyddocaol. Mae Oliver (Politics Of Disablement, 1990, ar gael ar Springer Nature Link) o'r farn bod eiriolaeth a datblygiad y model cymdeithasol o anabledd wedi bod yn allweddol mewn hyrwyddo hawliau anabledd a siapio arferion cydgynhyrchu. Trwy ganolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau cymdeithasol a hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad ym mhob maes o fywyd, mae'r model cymdeithasol hefyd yn sail i egwyddorion cydgynhyrchu. Mae'n mynnu y dylai pobl anabl fod yn cymryd rhan yn weithredol mewn creu, datblygu a gweithredu polisïau a gwasanaethau sy'n effeithio ar eu bywydau. 

Cydnabuwyd y model cymdeithasol o anabledd yng nghyfnodau cynnar y cynllunio ar gyfer prosiectau ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol a chyflawni’r prototeip cydgynhyrchu. Rhoddwyd ystyriaeth i'r allbynnau ymchwil a sicrhau bod y rhain yn bodloni safonau’r model cymdeithasol o anabledd. Er enghraifft, pan ddrafftiwyd yr adroddiad, cynhaliwyd gwiriad o’r iaith a ddefnyddiwyd i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r model cymdeithasol o anabledd. 

Mae'r dystiolaeth o gyfweliadau yn dangos ymdeimlad cryf o ymrwymiad i gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yn y prototeip hwn gan holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu. Myfyriodd rhai swyddogion Llywodraeth Cymru ar yr wybodaeth a'r sgiliau yr oeddent wedi'u hennill drwy'r prototeip o ran cymhwyso egwyddorion y model cymdeithasol i ymchwil gymdeithasol yn ymarferol a sut y gellir symud y wybodaeth honno ymlaen i unrhyw brosiectau ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol.

Galluogwyr a rhwystrau rhag gweithio'n hygyrch

Amlygodd Boyle ac eraill (Public services inside out, 2010, ar gael ar Nesta)  bwysigrwydd creu mannau lle gall pobl anabl gymryd rhan weithredol mewn prosesau cydgynhyrchu ar sail gyfartal. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth hygyrch, sicrhau hygyrchedd corfforol a meithrin sefydliad sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'r dystiolaeth o gyfweliadau yn awgrymu efallai na fydd yr hyn sy'n hygyrch i un person yn cael ei ystyried yn hygyrch i un arall a gall ddibynnu ar ddewisiadau’r unigolyn.

Nod y tîm cydgynhyrchu oedd gwneud ei ffyrdd o weithio mor hygyrch â phosibl ac roedd hygyrchedd yn rhan annatod o ddyluniad yr ymchwil. Dywedodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu fod y prototeip ymchwil hwn yn mynd ymhellach na phrosiectau eraill yr oeddent wedi bod yn rhan ohonynt o'r blaen i sicrhau bod y model cymdeithasol o anabledd ac egwyddorion hygyrchedd yn cael eu gweithredu fel galluogwyr ar draws pob cam o'r cylch ymchwil. Roedd hyn yn golygu gofyn i aelodau'r tîm cydgynhyrchu hysbysu'r tîm am unrhyw ofynion hygyrchedd a oedd yn cynnwys: 

  • sicrhau mynediad at y dechnoleg briodol ar gyfer holl weithgareddau’r tîm cydgynhyrchu
  • dogfennau prosiect yn Microsoft Word yn defnyddio penawdau gydag 'arddull’ sy’n sicrhau bod yr holl allbynnau ysgrifenedig yn hygyrch i bobl sy’n darllen gwybodaeth ar sgrin 
  • cynnig amrywiaeth o ffyrdd i holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu ddarparu mewnbwn gan gynnwys mynychu gweithdai, cyfarfodydd un-i-un, anfon negeseuon e-bost neu uwchlwytho dogfennau trwy blatfform diogel ymlaen llaw 
  • rhannu diweddariadau cyfathrebu rheolaidd sy’n rhoi trosolwg o gyfleoedd cyflenwi a chyfranogi sydd ar ddod 
  • cyllideb i ariannu unrhyw addasiadau rhesymol, adroddiadau hygyrch a gweithgareddau hyfforddi
  • anelu at sicrhau bod dehonglwyr a phalanteipyddion BSL ar gael ar gyfer unrhyw gyfarfodydd pan fo angen
  • cyhoeddwyd yr allbynnau ymchwil terfynol yn llawn yn Gymraeg a Saesneg mewn fformat HTML a chyhoeddwyd crynodebau gweithredol mewn HTML, BSL ac ar ffurf Hawdd Ei Ddeall the Easy Read 
  • cafodd ansawdd y fersiynau Hawdd eu Deall ei sicrhau gan bobl ag anableddau dysgu

Roedd y tîm cydgynhyrchu yn rhagweithiol wrth fyfyrio ar hygyrchedd wrth ddylunio a chyflwyno'r cydgynhyrchiad. Hefyd gofynnodd y swyddog rheoli prosiect arweiniol yn rheolaidd a oedd angen unrhyw addasiadau rhesymol neu a oedd unrhyw ddewisiadau personol. Roedd hyn yn cynnwys cylchredeg dogfennau byrrach pan fo angen neu beidio â defnyddio'r swyddogaeth sgwrsio mewn cyfarfod rhithwir os oedd hyn yn llai hygyrch i rai aelodau. 

Profodd rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu rwystrau o ran hygyrchedd ar rai adegau yn ystod y prototeip. Er enghraifft:

  • ym mhrofiad rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu roedd rhai teclynnau cyfathrebu’n llai hygyrch
  • roedd sicrhau’r caniatâd perthnasol ar gyfer technolegau priodol yn oedi’r gwaith o gyflawni’r prosiect ar adegau 
  • ar adegau roedd prinder dehonglwyr a phalandeipyddion BSL ar gael a roedd hynny’n effeithio ar amseroedd cyflwyno.
  • roedd y ffordd iteraidd yr oedd y tîm cydgynhyrchu’n gweithio weithiau’n galw am drefnu cyfarfodydd ar fyr-rybudd, ac nid oedd bob amser yn bosibl dod o hyd i balandeipydd (am y rheswm hwn roedd yn rhaid i aelodau o'r tîm cydgynhyrchu ddibynnu ar drawsgrifiadau mewn cyfarfodydd rhithwir ar adegau)

Yn gyffredinol, roedd y data o’r cyfweliadau yn awgrymu profiadau cadarnhaol i aelodau'r tîm cydgynhyrchu wrth ystyried hygyrchedd ac addasiadau rhesymol ar draws pob cam ymchwil. Awgrymodd rhai a gyfwelwyd nad oedd hyn yn teimlo’n docenistaidd a dywedodd eraill fod unrhyw addasiadau rhesymol a wnaed yn eu grymuso ac yn rhoi ymdeimlad o werthfawrogiad iddynt oherwydd nad oedd rhaid iddynt guddio’r ffaith bod rhwystrau mewn cymdeithas yn eu hanablu. Roedd eraill yn teimlo bod gweithio fel hyn yn cymryd ychydig yn hirach wrth sicrhau bod unrhyw addasiadau rhesymol yn eu lle. Adroddwyd bod ymchwilwyr Llywodraeth Cymru’n dysgu mewn amser real am sut i ymwreiddio unrhyw addasiadau yn narpariaeth y prototeip a’r ymchwil ac roedd hyn ar adegau’n cymryd hirach na’r disgwyl.

Roedd teimlad bod cael gwared ar rwystrau trwy ofyn am addasiadau rhesymol yn cefnogi aelodau'r tîm cydgynhyrchu yn rheolaidd i deimlo eu bod wedi'u cynnwys a'u grymuso i gymryd rhan. Dylid nodi bod y graddau yr oedd pobl yn datgan eu bod yn teimlo’u bod wedi’u cynnwys hefyd wedi’i ddylanwadu gan ffactorau eraill megis perthnasoedd cadarnhaol, empathi, ymddiriedaeth gydfuddiannol a dynameg pŵer. Dywedwyd hefyd bod cael gwared ar rwystrau unigol wedi gwella dros amser unwaith yr oedd perthnasoedd wedi'u sefydlu'n gadarn a’r tîm cyfan wedi ennill gwell dealltwriaeth o anghenion unigolyn heb i aelodau'r tîm orfod dweud ymlaen llaw bob tro.

Cydgynhyrchu a chyfranogiad trwy gamau GSR

Cyflwyniad

Daeth yr adolygiad llenyddiaeth i'r casgliad mai nifer cyfyngedig o astudiaethau sy'n archwilio'r defnydd o ddulliau cydgynhyrchu arloesol yng nghyd-destun y llywodraeth. Ystyriwyd bod gwerth ymgymryd â'r prototeip cydgynhyrchu hwn yn hanfodol ar gyfer meithrin gwybodaeth am sut i gymhwyso'r dulliau hyn yn ymarferol ac yn effeithiol. Mae'r bennod hon yn archwilio sut y cyflwynwyd y prototeip cydgynhyrchu o fewn cyd-destun GSR a pha wersi y gellir eu dysgu. 

GSR yw'r sefydliad aelodaeth broffesiynol ar gyfer ymchwil gymdeithasol yn y llywodraeth. Mae'r cod GSR yn atodiad i'r Cod Gwasanaeth Sifil ac mae'n cynnwys y gwerthoedd craidd o uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. 

Cyflwynwyd 2 brosiect ymchwil GSR yn gyfochrog. Roedd un yn archwilio'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a'r llall yn archwilio'r potensial ar gyfer Canolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Er bod yr ymdriniaeth ar draws y ddau brosiect ymchwil yn wahanol ar adegau, rhestrir rhai enghreifftiau craidd o weithio ar y cyd ar draws y camau ymchwil isod.

Dylunio a phenderfynu ar gwmpas yr ymchwil

  • Rhannodd y tîm cydgynhyrchu fewnwelediadau ar y cyd i faterion hawliau anabledd i gefnogi dealltwriaeth ehangach o'r cyd-destun ymchwil (er enghraifft, adlewyrchwyd profiadau go iawn o'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a'r thema Byw'n Annibynnol yn yr ymchwil).
  • Fe wnaeth cynllunio a phennu’r cwmpas ar y cyd yng nghyfnodau cynnar yr ymchwil siapio’r cwestiynau ymchwil.
  • Nodwyd bylchau mewn tystiolaeth ar y cyd.
  • Cyfrannodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd, gwybodaeth a sgiliau i ddylanwadu ar y fethodoleg.

Gwaith maes

  • Roedd rhwydweithiau sefydledig y tîm cydgynhyrchu wedi arwain at gynnwys lleisiau amrywiol yn yr ymchwil (er enghraifft, uwch academydd, ymchwilydd PhD, Sefydliadau Pobl Anabl, Grwpiau Amhariad, cyflogwyr ac Undebau Llafur.
  • Roedd yr iaith a ddefnyddiwyd mewn gwahoddiadau ymchwil a chanllawiau pwnc yn cyfateb i'r model cymdeithasol o anabledd ac wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion a disgwyliadau pobl anabl.
  • Roedd agweddau cynhwysol ychwanegol i'r gwaith maes, gan gynnwys cyd-ddylunio'r canllaw pwnc, cyfarfodydd briffio i baratoi ar gyfer unrhyw grwpiau ffocws, cyd-hwyluso grwpiau ffocws a chynnal sesiynau briffio ar ôl grwpiau ffocws. 
  • Roedd sesiynau dadfriffio’n rhoi cyfleoedd i'r grŵp fyfyrio ar themâu a ddaeth i'r amlwg o'r grwpiau ffocws. 

Dadansoddi data ac adrodd

  • Cynhaliwyd cyfres o weithdai cyd-ddylunio; roedd y rhain yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch sut i gyd-ddadansoddi tystiolaeth.
  • Cyfrannodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu brofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas yn ogystal ag arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau. Roedd hyn yn dylanwadu ar y dehongliad o’r canfyddiadau oedd yn dod i’r amlwg ac yn helpu i nodi’r themâu ansoddol oedd yn cael eu hadrodd.
  • Cytunwyd ar y cyd ar fformatau adroddiadau i fodloni safonau modelau cymdeithasol o anabledd.
  • Ysgrifennodd rhai cyd-gynhyrchwyr adrannau o'r adroddiad ac fe'u henwyd fel cyd-awduron.
  • Cyfrannodd y tîm cydgynhyrchu at syniadau’n ymwneud â lledaenu gwybodaeth ar ôl cyhoeddi'r adroddiadau.
  • Cyd-gyflwynodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu mewn gwahanol ddigwyddiadau lledaenu. 

Un o fanteision ymdriniaeth gydgynhyrchiol a amlygwyd yn y cyfweliadau oedd y mewnwelediadau, y sgiliau a’r arbenigedd oedd gan y tîm cydgynhyrchu gyda’i gilydd, a hyn wedyn yn sicrhau fod yr ymchwil yn bodloni angen dilys oedd wedi ei ddynodi ac nad oedd yn dyblygu unrhyw ymchwil oedd eisoes wedi'i gynllunio. Roedd gweithio ar y cyd â Chadeiryddion y Tasglu i gytuno ar ddyluniad yr ymchwil yn sicrhau bod unrhyw ddulliau ac offer ymchwil yn cael eu teilwra i ddiwallu anghenion a disgwyliadau pobl anabl. 

Dangosodd y data o’r cyfweliadau gymhellion unigol dros gymryd rhan yn y gwaith hwn. Yn ôl rhai roedd y broses gydgynhyrchu’n ffordd unigryw o weithio a'r broses gyntaf o'i math yn eu profiad nhw. Rhannai’r tîm cydgynhyrchu uchelgais i gynyddu lleisiau pobl anabl a gwella pethau iddyn nhw. 

Er gwaethaf y cyd-gymhellion hyn i gymryd rhan yn y prototeip, roedd tensiwn ar adegau o ran sicrhau bod cyflawniad y prosiect yn parhau i fod yn cyfateb i god ymarfer GSR, yn enwedig o safbwynt yr egwyddor o ddidueddrwydd. Roedd y tîm cydgynhyrchu yn cynnwys ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n gweithio’n unol â’r cod GSR, swyddogion polisi a gweithwyr proffesiynol allanol o'r sectorau ymchwil academaidd a gwirfoddol, ac roedd gan rai ohonynt gefndir mewn gweithredu cymdeithasol hefyd. Roedd gan bob aelod o'r tîm cydgynhyrchu eu lle a'u persbectif eu hunain o fewn y prototeip, ac roedd llawer ohonynt yn dod â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas gyda hynny hefyd yn ffynhonnell gwybodaeth uniongyrchol ar gyfer y camau ymchwil. 

I rai o’r Cadeiryddion Tasglu mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y cymhelliant i fod yn rhan o'r ymchwil yn deillio o gyd-destun problemau cymdeithasol ac yn uniongyrchol seiliedig ar brofiad bywyd o anablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas. Roedd hwn o bosib yn fan cychwyn gwahanol i fan cychwyn rhai o swyddogion Llywodraeth Cymru a oedd yn rhan o'r prototeip. Roedd cydnabod sefyllfa holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu yn hanfodol i gyflawni'r prototeip hwn ac os oedd tensiynau’n codi, aethpwyd i’r afael â nhw ar y cyd. 

I roi enghraifft o hyn, arweiniodd ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar ysgrifennu'r adroddiadau ymchwil drafft gyda rhai o Gadeiryddion y Tasglu yn cyfrannu penodau ac yn adolygu'r drafftiau wrth i'r gwaith fynd rhagddo, gan ddarparu adborth a chyfeiriad. Fodd bynnag, roedd yr egwyddor o ddidueddrwydd weithiau'n heriol i'w chysoni ag uchelgeisiau'r tîm cydgynhyrchu i sicrhau bod yr ymchwil mor effeithiol â phosibl. Wrth weithio tuag at gytuno ar adroddiad y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, mynegodd rhai o Gadeiryddion y Tasglu bryder nad oedd yr iaith a ddefnyddiwyd a chydbwysedd cyffredinol yr adroddiad yn adlewyrchu cryfder teimlad rhai cyfranogwyr am y cynllun. Mewn ymateb i hyn, gweithiodd y tîm cydgynhyrchu ar y cyd i adolygu unrhyw awgrymiadau a wnaed yn erbyn y dystiolaeth i sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r adroddiad yn gymesur ac yn parhau i fod yn unol â'r cod GSR. 

Moeseg

Roedd ystyriaethau moesegol yn bwysig ar draws pob cam o'r cydgynhyrchu, gan gynnwys goblygiadau moesegol sy'n effeithio ar y tîm cydgynhyrchu. Er enghraifft, cydnabod cyfraniad pawb ac amddiffyn holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu rhag niwed. 

Rhannodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu eu meddyliau a’r hyn roeddent wedi ei ddysgu mewn perthynas â’r egwyddor hawliau anabledd o "dim amdano ni, hebddo ni". Priodolwyd yr egwyddor hon fel ymateb i anghyfiawnderau hanesyddol a brofwyd gan bobl anabl mewn ymchwil gymdeithasol. Yn hanesyddol, y profiad o ymchwil y llywodraeth ac ymchwil academaidd oedd fel rhywbeth alldynnol, gyda rhai pobl anabl wedi’u trin fel pobl 'fregus' a’u gwrthrycholi, a rhai lleisiau wedi'u hymyleiddio. 

Rhannodd y cyfranogwyr fyfyrdodau tebyg yn ystod camau cwmpasu'r prototeip ar ôl i ymchwilwyr Llywodraeth Cymru ofyn am gyngor gan bwyllgor moeseg cenedlaethol. Dywedwyd bod hyn wedi arwain at rywfaint o bryder gan fod y canlyniad yn awgrymu y gallai fod angen ystod o wiriadau diogelu ar gyfer pobl anabl sy'n rhan o'r ymchwil. Roedd rhai o’r Cadeiryddion Tasglu yn teimlo bod hyn yn anghymesur ac, yn hanesyddol, bod trin pobl anabl yn ddiofyn fel pobl fregus wedi eu heithrio ac wedi tawelu eu lleisiau. Mewn ymateb cytunwyd ar ymdriniaeth newydd lle byddai’r tîm cydgynhyrchu yn adolygu'r rhestr wirio moeseg gyda'i gilydd ac yn datblygu mesurau lliniaru cymesur ar gyfer risgiau a nodwyd wrth symud ymlaen. Un o'r gwersi a nodwyd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol yw adolygu unrhyw ystyriaethau moesegol gyda phob aelod o'r tîm cydgynhyrchu cyn gofyn am gyngor allanol. 

Sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth GSR

Mae angen sicrhau ansawdd holl adnoddau ymchwil GSR a holl allbynnau’r ymchwil ac mae'r protocolau arferol ar gyfer adroddiadau GSR yn cynnwys cymeradwyaeth derfynol gan uwch ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn unig. Sefydlodd y prototeip Is-Grŵp Ansawdd i ddechrau i sicrhau bod safonau GSR yn cael eu cynnal. Roedd yr Is-grŵp yn cynnwys rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu a Phrif Swyddog Ymchwil gyda chyfrifoldeb am gymeradwyo allbynnau ymchwil a chynnal nodau’r prototeip wrth i'r ymchwil gael ei chyflawni. Yn y pen draw, profodd y mecanwaith hwn i fod yn anymarferol o ystyried yr amser oedd ei angen i hwyluso'r Is-grŵp. Codwyd pryderon hefyd o ran y ffaith nad oedd yn cynnwys holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu a bod hyn felly’n tanseilio’r egwyddor o wneud penderfyniadau ar y cyd. 

Ar ôl chwalu’r Is-grŵp Ansawdd cytunwyd y byddai Uwch Brif Swyddog Ymchwil a oedd hefyd yn rhan o'r tîm cydgynhyrchu yn gyfrifol am arwain ar sicrhau bod safonau GSR yn cael eu bodloni ac am gymeradwyo’r allbynnau ymchwil terfynol. Darparodd Dirprwy Gyfarwyddwr yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd gyngor a chynnal adolygiad cymheiriaid o'r adroddiadau drafft. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu o’r farn bod proses sicrhau ansawdd GSR ar adegau yn gweithio'n dda fel fframwaith defnyddiol i gyfarwyddo cyflawniad y prosiect ac yn ychwanegu trylwyredd i'r ymchwil o safbwynt moeseg a chydymffurfiaeth. 

Yn y dystiolaeth o’r gyfweliadau, ystyriwyd hefyd a yw'n bosibl rhannu pŵer yn gyfartal ar draws pob cam o'r cylch ymchwil o fewn lleoliad GSR. Adlewyrchwyd brofiadau cadarnhaol a negyddol gan y Cadeiryddion Tasglu ynglŷn â’r syniad bod ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn 'dal' yr adroddiad. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn teimlo bod hyn yn gweithio'n dda iddyn nhw o ystyried eu capasiti tra bod eraill yn teimlo nad oedd hyn yn cyd-fynd yn dda â'r egwyddorion cydgynhyrchu ac yn effeithio ar yr anghydbwysedd pŵer cyffredinol o fewn y tîm cydgynhyrchu. Cododd hyn gwestiwn ehangach ynghylch perchnogaeth yr allbynnau ymchwil GSR terfynol, a daeth i’r amlwg fel thema flaenllaw yn y dystiolaeth o’r cyfweliadau. Dywedwyd bod cyd-berchnogaeth o unrhyw allbynnau ymchwil yn fesur da wrth ystyried a yw prosiect wedi'i gyd-gynhyrchu'n llawn. Fodd bynnag soniodd rhai a gyfwelwyd am deimlad o gyd-berchnogaeth oherwydd iddynt gael eu henwi fel cyd-awduron yr adroddiadau terfynol.

Roedd canllawiau cyhoeddi GSR yn rhoi ymrwymiad clir i gyhoeddi, a chydnabuwyd bod gwybod y byddai adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y prototeip yn annog cymhelliant ac ymrwymiad cyffredinol pobl i'r cydgynhyrchiad. I rai, roedd yn golygu y byddai yna rywbeth diriaethol i dynnu sylw at bethau sydd o bwys i bobl anabl ac roedd yn cael ei ystyried yn ddefnyddiol i ddangos yr angen am welliannau i fywydau pobl anabl yng Nghymru.

Mae yna safon ansawdd sy’n golygu y dylai adroddiadau GSR Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi'n ddwyieithog (yn Gymraeg a Saesneg) ac o fewn 12 wythnos ar ôl llofnodi'r adroddiad. Cytunwyd y byddai'r allbynnau ymchwil terfynol yn cael eu cyhoeddi mewn fformat HTML (yn Gymraeg a Saesneg), BSL a Hawdd ei Ddeall. Gan fod hyn yn ffordd amgen o gyhoeddi adroddiadau ar gyfer GSR, roedd y broses gyhoeddi wedi cymryd ychydig yn hirach (yn agosach at 16 wythnos) na'r 12 wythnos arferol. Roedd angen caniatâd y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol i ymestyn yr amserlenni a chaniatáu hyblygrwydd i sicrhau bod yr holl allbynnau’n cael eu cyhoeddi ar yr un pryd.

Llywodraeth Cymru oedd y rheolwr data a hi oedd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar faterion yn ymwneud â diogelu data a diogelwch. Gwnaed diwygiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd GSR safonol a'r templedi cytundeb cyfrinachedd er mwyn cynnwys iaith sy'n cydnabod y dull cydgynhyrchu. Cyhoeddwyd Hysbysiadau Preifatrwydd ar wahân hefyd ar gyfer cyfranogwyr ymchwil sy'n ymwneud â phrosiectau ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus i ran Anabledd a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol i adlewyrchu manylion ychwanegol y dull cydgynhyrchu ac ymgysylltiad ehangach y tîm wrth gasglu a dadansoddi data. Yn ogystal cefnogodd y swyddog rheoli prosiect arweiniol aelodau allanol y tîm cydgynhyrchu i gael mynediad at ffolder ddiogel wrth rannu gwybodaeth swyddogol-sensitif a sicrhau trosglwyddiad diogel. 

Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo nad oedd y cyd-destun llywodraeth y cyflwynwyd y prototeip ynddo ar adegau yn cyd-fynd â'r hyblygrwydd a ddisgwylir fel arfer o brosiect cydgynhyrchu. Myfyriodd rhai o'r cydgynhyrchwyr ynghylch cymhwysedd cydgynhyrchu fel dull ymchwil a holi a ellid ei ddefnyddio'n well yn y dyfodol ar gyfnodau penodol o'r cylch ymchwil yn hytrach nag ar draws pob cam. Gallai hyn weithio'n well i reoli’r llwyth gwaith a’r baich, er bod angen canfod cydbwysedd rhwng galluogi llwybrau at gyfranogiad nad ydynt yn cael eu hystyried yn docenistaidd. Byddai hyn yn sicrhau cynhwysiant ystyrlon a theg heb orlethu pobl sy’n cymryd rhan mwn sawl gweithgaredd ymchwil ar draws pob cam. 

Er gwaethaf y canllawiau cyfyngedig sydd ar gael gan y llywodraeth ar hyn o bryd am gydgynhyrchu, roedd y tîm yn teimlo bod y prototeip ymchwil hwn yn dechrau gwneud argraff yng nghyd-destun GSR. Ystyriwyd ei fod yn gam cyntaf pwysig sy’n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r hyn a ddysgir o gydgynhyrchu mewn cyd-destun GSR a mynd â'r dysgu hwnnw ymlaen i brosiectau ymchwil cymdeithasol yn y dyfodol. 

Dangosodd y dystiolaeth o’r gyfweliadau fod cydgynhyrchu o fewn GSR yn darparu ymchwil o ansawdd uchel, sydd yn gyrhaeddiad sylweddol. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn gweld y prototeip ymchwil gymdeithasol hwn fel dim ond y dechrau ac fel sbardun i greu ffordd newydd o gyflwyno ymchwil gymdeithasol sydd yn ystyried yn weithredol arbenigedd a phrofiad bywyd fel tystiolaeth a dulliau o gydweithredu.

Gwerth trawsnewidiol profiad bywyd wrth gydgynhyrchu

Cyflwyniad

Amlygodd yr adolygiad llenyddiaeth gydgynhyrchu fel rhan o ddull methodolegol newydd sy'n cyfuno egwyddorion rhyddfreiniol â dulliau cyfranogol, gan arwain at fethodoleg sy'n seiliedig ar hawliau dynol (Implementing a Participatory Human Rights-Based Research Methodology: The Unfitness to Plead Project gan Arnstein-Kerslake ac eraill, 2019, ar gael ar Oxford Academic). Mae dulliau cyfranogol yn trin cynhyrchu gwybodaeth fel proses gydweithredol ac mae'n anelu at fynd i'r afael â materion cymdeithasol trwy ymgysylltu â'r rhai y mae’r materion hynny’n effeithio arnynt. Mae hyn yn adeiladu ar ymchwil flaenorol gan Stone and Priestley (Parasites, Pawns and Partners: Disability Research and the Role of Non-Disabled Researchers,1996, ar gael ar JSTOR), sy'n nodi y gall methodolegau cydgynhyrchu weithredu fel 'arferion sy’n rhyddhau' gyda phwyslais ar bobl anabl fel partneriaid ymchwil. Gellir gweld cydgynhyrchu, felly, trwy lens ‘gweithredu cymdeithasol’ ac fel strategaeth sy'n gwerthfawrogi gwahaniaeth, ymateb o fudd i bawb a rhwydweithiau sy’n dryloyw a heb fod yn hierarchaidd. 

Un neges bwysig a ddeilliodd o dystiolaeth y cyfweliadau oedd bod gweithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas neu o fod ag amhariad i’w weld yn gwella ansawdd a hygrededd cyffredinol yr ymchwil. Roedd teimlad bod hon yn agwedd graidd ar y gwerth ychwanegol a geir o ddefnyddio dull cydgynhyrchiol wrth gyflawni ymchwil gymdeithasol. 

Er enghraifft, ar gyfer ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, dylanwadodd y tîm cydgynhyrchu ar ffurf y cwestiynau ymchwil, ac ar nodi themâu ansoddol a dehongli canfyddiadau'r ymchwil. Drwy rannu’r wybodaeth hon, a seiliwyd yn uniongyrchol ar brofiadau bywyd, cryfhawyd dealltwriaeth y tîm cydgynhyrchu o'r cyd-destun ymchwil a hawliau pobl anabl, gan gefnogi cynllunio prosiect a dadansoddi data. Adlewyrchwyd profiadau bywyd o'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd hefyd yng nghanfyddiadau a chasgliadau'r ymchwil. 

Felly hefyd ar gyfer prosiect y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol, atgyfnerthwyd perthnasedd a hygrededd yr ymchwil lle roedd y canfyddiadau’n adlewyrchu profiad bywyd yn sgil cyd-ddylunio’r cwestiynau ymchwil. Roedd mewnwelediadau o brofiad personol a phroffesiynol rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn rhoi dyfnder ar faterion penodol yn ymwneud â'r thema Byw'n Annibynnol mewn cyd-destun Cymreig. Arweiniodd trafodaethau ymhlith y tîm cydgynhyrchu ynghylch y fethodoleg briodol i’w defnyddio at weithdy ymgynghorol, a barnwyd bod hynny’n ymdriniaeth fwy ymarferol ac ystyrlon i’r rhai oedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil. 

O ddechrau cyfnod pennu cwmpas y prosiect, dywedodd y tîm cydgynhyrchu eu bod yn awyddus i gael a chofnodi enghreifftiau o brofiad bywyd pobl o gael eu hanablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas er mwyn dod ag allbynnau’r ymchwil yn fyw, creu cydsyniad dros yr angen am newid, gwneud i newid ddigwydd a chyfathrebu effaith y polisi ar fywydau pobl anabl. Mae enghreifftiau yn y dystiolaeth lle ystyriwyd bod ymgorffori profiad bywyd yn cryfhau’r dylanwad cyffredinol ar bolisi. Er enghraifft, roedd teimlad bod ymchwil y Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd wedi'i gyhoeddi ar yr adeg iawn o ystyried bod yr Adran Gwaith a Phensiynau ar yr un pryd yn ystyried diwygiadau ar lefel y DU. Myfyriodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu ynghylch yr ymdeimlad o gyflawniad yn sgil ymwneud yn uniongyrchol ag ymchwil gymdeithasol a oedd yn cael effaith uniongyrchol ar bolisi. Mae hyn yn cyd-fynd ag un o ragdybiaethau’r prosiect y cytunwyd arno ar gyfer llwyddiant, sef "mae angen i ymchwil fodloni safonau GSR fel y gall y canfyddiadau lywio polisi a’r broses o wneud penderfyniadau yn well". 

Dywedwyd mai un o brif gyflawniadau'r prototeip oedd cyhoeddi 2 adroddiad ymchwil grymus a defnyddiol. Gyda’r prototeip hwn, roedd profiad bywyd yn drawsnewidiol i’r prosiect gan ei fod yn cynnig golwg wahanol ar waith cynllunio, trefnu a chyflawni'r ymchwil. Dywedwyd fod hyn yn gwella pa mor nodweddiadol a dibynadwy oedd yr allbynnau terfynol. Dywedwyd hefyd bod cynnwys profiad bywyd pobl o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas yn yr ymchwil yn cael ei ystyried yn ffordd fwy foesegol o gyflwyno ymchwil gymdeithasol a dylai fod mwy o gyfleoedd ar gyfer hyn yn y dyfodol. 

Codwyd cwestiynau ynghylch a oedd y prototeip yn mynd yn ddigon pell i ymgorffori profiadau bywyd amrywiol ac ystyried croestoriadedd. Roedd awgrymiadau gan rai o aelodau'r prosiect cydgynhyrchu yn nodi’r angen am fwy o gynrychiolaeth mewn ymchwil yn y dyfodol a sut y bydd hyn ond yn cryfhau gwerth cyfranogiad ystyrlon trwy sicrhau bod gwahanol safbwyntiau’n cael eu hystyried.

Gwerth trawsnewidiol cydgynhyrchu i aelodau unigol o'r tîm

Mae tystiolaeth o’r gyfweliadau’n dangos llawer o enghreifftiau cadarnhaol o rannu gwybodaeth a dysgu yn sgil arbenigedd cyfunol y tîm cydgynhyrchu. Myfyriodd rhai a gyfwelwyd ynghylch y manteision a gawsant yn unigol a sut y cynyddodd y prototeip cydgynhyrchu hyder a chreu llwybrau newydd i gymryd rhan mewn ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol i bobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas. 

I rai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu, roedd y prototeip yn eu grymuso ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad a thwf personol. Roedd rhai yn cydnabod eu bod wedi ennill dealltwriaeth ddyfnach o hawliau anabledd, yn enwedig yn y cyd-destun polisi presennol o faterion yn ymwneud ag anabledd yng Nghymru, yn ogystal â darparu ymchwil sy'n hygyrch ac yn cyd-fynd â'r model cymdeithasol o anabledd. Soniodd ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru o fewn y tîm cydgynhyrchu eu bod yn teimlo eu bod yn well ymchwilwyr o ganlyniad i'r prototeip hwn ac y byddant yn cymhwyso'r hyn y gwnaethant ei ddysgu wrth ddylunio prosiectau ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol. 

Soniodd rhai eu bod wedi cael mewnwelediad ymarferol i sgiliau ymchwil a phrosesau GSR a’u bod ers hynny wedi gweithio ar brosiectau ymchwil gymdeithasol eraill. Roedd rhai o’r aelodau tîm a gyfwelwyd yn clodfori’r cyfleoedd dysgu newydd hyn fel un o brif gyflawniadau'r prototeip. Myfyriodd eraill ynghylch gwerth y cyfleoedd hyfforddi a'r hyn yr oeddent wedi'i ennill o sesiynau da am y defnydd o ddulliau adrodd straeon a dysgu mwy am faterion moesegol mewn ymchwil gymdeithasol. 

Dywedwyd fod y prototeip wedi darparu mwy o gyfleoedd arweinyddiaeth i holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu, a adlewyrchwyd fel canlyniad cadarnhaol. Dywedodd eraill eu bod wedi sylwi eu bod yn fwy gwydn, yn enwedig wrth weithio ar brosiectau ymchwil cymhleth sy'n gofyn am safbwyntiau amrywiol a chanfod atebion ar y cyd. Dangosodd tystiolaeth fod yr hyn a ddysgwyd yn sgil y cydgynhyrchu yn deillio o’r cyfaddawdu a’r addasu parhaus gan aelodau'r tîm cydgynhyrchu. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn rhan o’r broses gydgynhyrchu sydd yn ailadroddus ac yn seiliedig ar drafod ac ail-drafod. 

Awgrymodd rhai, o ystyried y gwerth ychwanegol y mae ymwreiddio profiad bywyd mewn ymchwil gymdeithasol yn ei roi i'r tîm cydgynhyrchu a'r unigolion dan sylw, bod angen mwy o adnoddau pwrpasol ar lefel strategol i ystyried sut y gellid ymwreiddio methodolegau cydgynhyrchu mewn ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol. Awgrymwyd ei bod yn bosib y gallai fod mwy o gyfleoedd am rolau cynghori mewn ymchwil gymdeithasol i bobl â phrofiad bywyd y byddai cydnabyddiaeth ariannol amdanynt. Ystyriwyd fod hon yn ffordd well o gynnwys lleisiau amrywiol y rhai hynny sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas yng Nghymru.

Casgliad

Cyflwyniad

Nod penodol y prototeip oedd mynd ati i gydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas mewn cyd-destun GSR. Roedd hyn er mwyn asesu i ba raddau y mae'n bosibl i ymchwilwyr cymdeithasol y llywodraeth gydgynhyrchu ymchwil gymdeithasol ac ystyried unrhyw wersi a ddysgir ynghylch cymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd o fewn GSR. 

Gellir defnyddio'r hyn a ddysgir o'r gwaith hwn ar gyfer prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol, yn ogystal â chyfranogiad pobl sydd â phrofiad bywyd mewn prosiectau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Mae llawer o'r dysgu hefyd yn berthnasol i gydgynhyrchu mewn gwahanol gyd-destunau.

Mae’r adran olaf hon felly’n cwmpasu: 

  • y broses gydgynhyrchu a'r defnydd ohoni 
  • pŵer a pherthnasoedd
  • cydgynhyrchu a chyfranogiad trwy wahanol gamau ymchwil GSR
  • y model cymdeithasol o anabledd a hygyrchedd
  • dysgu unigol a sefydliadol

Y broses gydgynhyrchu a'r defnydd ohoni

Mae'r llenyddiaeth yn dangos nad oes unrhyw un diffiniad unigol o gydgynhyrchu a dangosodd y dystiolaeth a gafwyd trwy'r prototeip bod gan unigolion ddehongliadau gwahanol o'r hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu. Gall methodolegau cydgynhyrchu fod ar wahanol ffurfiau ac amrywio o ran sut maent yn cael eu cymhwyso a'r lefelau o gyfranogiad. Yn y prototeip hwn, roedd gan unigolion brofiadau blaenorol gwahanol o gydgynhyrchu. Roedd datblygu diffiniad a gweledigaeth ar y cyd i ddarparu dealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu yn hanfodol ar gyfer y prototeip hwn fel bod gan bawb gyd-ddealltwriaeth o sut y gallai’r unigolion sy'n gysylltiedig weithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydgynhyrchiol. Er bod y tîm cydgynhyrchu wedi rhoi ystyriaeth i weledigaeth y prototeip ar adegau penodol, byddai cynnwys amser penodol ar gyfer hyn yn y trafodaethau wedi helpu i sicrhau eu bod yn parhau i gadw at y weledigaeth. 

Dangosodd y canfyddiadau y gall cynnal prosiect cydgynhyrchu fod yn heriol, a bod ar aelodau o dimau cydgynhyrchu angen set craidd o sgiliau a phrofiadau i wneud hyn. Roedd profiad mewn trafod, technegau hwyluso ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael eu hystyried yn bethau oedd yn galluogi. Roedd arfogi pawb i weithio mewn ffordd gydgynhyrchiol trwy hyfforddiant, cysgodi a dysgu o arfer gorau yn gallu helpu i feithrin perthnasoedd a hybu dealltwriaeth gyffredin o sut i gyflawni prosiect cydgynhyrchu yn y dyfodol. 

Mae'r llenyddiaeth yn nodi y gall talu pobl am eu hamser alluogi unigolion i gymryd rhan trwy gael gwared ar rwystrau ariannol a thrwy hynny ddenu grŵp mwy amrywiol o gydgynhyrchwyr a hefyd fod yn ffordd ddiriaethol o ddangos bod cyfraniadau pawb at gydgynhyrchu’n cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu meithrin ymddiriedaeth. Ar gyfer y prototeip hwn, cyd-ddyluniwyd a chytunwyd ar becyn cydnabyddiaeth o fewn y tîm cydgynhyrchu, gan ddarparu cyfleoedd dysgu a phrofiadau ymchwil. Roedd hyn yn lle taliad ariannol oherwydd y posibilrwydd y gallai cyfranogwyr golli hawliau lles ac incwm o ganlyniad i reolau treth a budd-dal lles y DU. Nod y pecyn cydnabyddiaeth y cytunwyd arno oedd cynnig profiad gwerth chweil o gymryd rhan drwy gydol y cylch ymchwil, o bennu’r cwmpas i ledaenu’r canfyddiadau. Roedd hefyd yn cynnwys dosbarthiadau meistr a hyfforddiant yn ymwneud â chynnwys hawliau anabledd mewn technegau ymchwil a chydgynhyrchu. Er y dywedwyd fod y pecyn cydnabyddiaeth yn arwain at fwy o ymrwymiad amser yn gyffredinol, cafodd ei dderbyn yn dda ac roedd yn darparu cyfleoedd i'r tîm gymhwyso sgiliau a gwybodaeth a oedd eisoes yn bodoli neu ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Fodd bynnag, canfu'r prototeip y gallai peidio â chynnig taliad ariannol gyfyngu ar ymgysylltiad rhai mewn prosiectau cyd-gynhyrchu yn y dyfodol. Dylai ymarferwyr hefyd ystyried cynnwys digon o amser i gytuno ar drefniadau cydnabyddiaeth o fewn amserlenni prosiectau. 

Fel dull o gyflawni ymchwil gymdeithasol yn y prototeip hwn, roedd cydgynhyrchu yn golygu defnydd trwm o adnoddau a chymerodd fwy o amser na phrosiect GSR safonol. Roedd yn anodd rhagweld yn iawn faint o amser ac adnoddau fyddai eu hangen i gyflawni'r hyn y cytunwyd arno, yn enwedig o ystyried bod cydgynhyrchu’n ffordd iteraidd o weithio. Dangosodd y canfyddiadau fod cyfnewidiau ystyrlon rhwng aelodau trwy gydol y prosiect yn dibynnu’n aml ar lawer iawn o lafur cudd (er enghraifft, rhannu dogfennau prosiect yn ddiogel, amserlennu a chyfathrebu). Roedd y prototeip yn gofyn am lawer o ewyllys da, ymrwymiad ac amynedd i gynnal cyfranogiad. Cynigir bod hyn yn cael ei ystyried gan ymarferwyr sy'n ceisio cydgynhyrchu ymchwil yn y dyfodol.

Roedd cynnydd yng nghwmpas yr ymchwil yn ystod y prototeip lle cynhaliwyd ymchwil sylfaenol yn hytrach na’r adolygiadau o dystiolaeth a gynlluniwyd ar y dechrau. Arweiniodd hyn at fwy o alwadau ar bobl dros gyfnod hirach na'r disgwyl ac roedd yn golygu na chafodd yr holl allbynnau arfaethedig eu cyflawni. Dylai prosiectau yn y dyfodol ystyried treulio mwy o amser ar y cam cyd-ddylunio cynnar i gadarnhau cwmpas yr ymchwil a chytuno ar hyn mewn unrhyw gylch gorchwyl. Gallai hyn helpu i deilwra prosiectau’n well i gyd-fynd ag adnoddau’r prosiect a chyfyngu ar ledaeniad graddol y cwmpas. 

Roedd teimlad bod y prototeip hwn yn cael effaith ar les unigol ar adegau, o ystyried maint y gwaith a'r perthnasoedd cysylltiedig. O ganlyniad i hyn roedd y tîm cydgynhyrchu wedi cynnwys pwyntiau gwirio lles ar ddiwedd pob cyfarfod prosiect. Cynigir bod angen i brosiectau yn y dyfodol ystyried lles aelodau unigol o dimau cydgynhyrchu trwy gydol cyflawniad y prosiect ac mae angen i hyn fod yn gyfrifoldeb a rennir ymhlith aelodau'r grŵp. 

Roedd angen egluro sut y byddai penderfyniadau'n cael eu gwneud i sicrhau tryloywder a chynnal ymddiriedaeth. Roedd dogfennu penderfyniadau a sut y cawsant eu gwneud yn bwysig er mwyn sicrhau bod pawb yn glir ynghylch yr hyn y cytunwyd arno ac yn gwybod sut i godi unrhyw faterion. Canfuwyd bod gwneud penderfyniadau yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Roedd amcangyfrif amserlenni yn arbennig o heriol gan mai'r nod oedd i bawb gytuno gyda’i gilydd ar unrhyw benderfyniadau a wneir. Ar gyfer prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol, cynigir y dylid gwneud protocolau gwneud penderfyniadau yn glir mewn unrhyw gylch gorchwyl.

Roedd angen i'r prototeip fod yn iteraidd ac yn ymatebol i benderfyniadau a wnaed ar hyd y ffordd. Dylai prosiectau yn y dyfodol ystyried dull rheoli prosiect hyblyg. Gallai chwilio am reolwr prosiect annibynnol i arwain ar reoli’r prosiect helpu i leihau'r baich, yn enwedig ar gyfer aelodau cydgynhyrchu sydd â chyfrifoldebau rheoli prosiect.

Pŵer a pherthnasoedd

Mae'r llenyddiaeth yn dangos bod perthnasoedd yn greiddiol i lwyddiant mewn cydgynhyrchu a dangosodd tystiolaeth fod angen mwy o amser i sefydlu ymddiriedaeth a pherthnasoedd ar ddechrau'r prototeip. Roedd y cydgynhyrchwyr yn ystyried bod rhoi mwy o amser i bawb ddod i adnabod ei gilydd a dechrau datblygu perthnasoedd yn bwysig. Defnyddiwyd mapio asedau fel offeryn i archwilio manteision y cydgynhyrchu i bawb. Gallai unigolion fynegi beth oedden nhw eisiau ei gyfrannu a'r hyn yr oeddent am ei gymryd o'r prototeip. Er enghraifft, cyflwyno ymchwil ddylanwadol, cyfleoedd newydd i gyd-gyflawni ymchwil (nid dim ond ei gyd-ddylunio) yn ogystal â dysgu sgiliau newydd mewn darparu dulliau ymchwil. Canfu'r prototeip fod mapio asedau’n ddefnyddiol o ran ddeall cymhellion unigolion ac i ddatblygu perthnasoedd dwy-ffordd. Cynigir y dylid treulio amser yn sefydlu perthnasoedd ac yn mapio asedau ar ddechrau unrhyw brosiectau cyd-gynhyrchu yn y dyfodol. 

At ei gilydd ni lwyddwyd i lwyr gyflawni cydbwysedd pŵer ar gyfer y prototeip hwn ac roedd cydbwysedd pŵer yn amrywio trwy wahanol gamau’r prosiect. Cwestiynwyd o fewn y prototeip a yw cydbwysedd pŵer cyfartal yn rhywbeth i ymdrechu i'w gyflawni mewn cydgynhyrchu, gan gydnabod nad yw bob amser yn bosibl i’w wireddu'n llawn mewn cyd-destun llywodraeth. Roedd y ffaith mai ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am reolaeth prosiect ac adnoddau yn cael effaith ar gydbwysedd pŵer ac roedd hyn ar adegau’n arwain at densiynau o fewn y tîm cydgynhyrchu. Cynigir y dylai unrhyw brosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol gydnabod anghydbwysedd pŵer posibl mewn prosiect cydgynhyrchu ar ddechrau a thrwy gydol prosiect, gyda phawb yn agored ynghylch y rhesymau drostynt. Gellid adlewyrchu unrhyw anghydbwysedd ar bwyntiau gwirio trwy gydol y prosiect pan fo angen. 

Nid oedd y profiad cydgynhyrchu’n gyson ymysg pob cyfranogwyr ac ar draws gwahanol gamau’r ymchwil. Dro ar ôl tro roedd y canfyddiadau’n dangos gwahaniaethau a oedd weithiau’n wrthgyferbyniol: roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo wedi'u grymuso, eraill yn teimlo wedi'u heithrio. Roedd hyn yn wir am y Cadeiryddion Tasglu, ymchwilwyr Llywodraeth Cymru ac eraill a oedd yn rhan o'r prototeip. Gwelodd rhai gynnydd mewn rhannu pŵer, roedd eraill yn teimlo bod strwythurau'r llywodraeth yn eu hanfod yn cyfyngu ar bartneriaeth. Roedd rhai’n gweld y profiad o’r prototeip fel un egnïol ac eraill yn ei weld yn llethol. Fel gyda'r prototeip dysgu hwn, awgrymir bod ymarferwyr yn ceisio deall y gwahaniaethau hyn gan y gallai hynny ddarparu tystiolaeth hanfodol ynghylch yr amodau sy’n arwain at lwyddiant neu fethiant mewn cydgynhyrchu.

Cydgynhyrchu a chyfranogiad trwy wahanol gamau ymchwil GSR

Nod y prototeip oedd cydgynhyrchu ar draws pob cam o'r cylch ymchwil, fodd bynnag roedd lefel y cydgynhyrchu’n amrywio ar draws gwahanol gamau cylch ymchwil GSR, yn enwedig wrth i amserlenni ymestyn. Roedd cyfathrebu agored a gonest am amser ac adnoddau yn bwysig i ddeall y rhesymau dros addasu'r arddull gweithio cydweithredol ar draws gwahanol gamau. Yn ystod camau dadansoddi ac adrodd y prototeip, cytunodd y tîm cydgynhyrchu i fabwysiadu dull mwy ymgynghorol i leihau rhywfaint o'r llwyth gwaith i'r grŵp, gydag ymchwilwyr Llywodraeth Cymru yn cymryd mwy o'r awenau. Yn y dyfodol, efallai y bydd prosiectau cydgynhyrchu eisiau ystyried beth sy'n bosibl neu ddim yn bosibl i’w gydgynhyrchu a rheoli disgwyliadau o fewn y grŵp o'r cychwyn cyntaf. 

Roedd enghreifftiau cadarnhaol o brofiad bywyd pobl o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas yn llywio prif gamau cylch ymchwil GSR. Roedd yr enghreifftiau hyn yn amrywio o brofiad bywyd sy'n ychwanegu gwerth at ddylunio, moeseg a chwmpasu gwaith ymchwil i ymgymryd â gwaith maes, dadansoddi data a llunio adroddiadau; pethau yr oedd y grŵp yn barnu eu bod yn gwella ansawdd cyffredinol yr ymchwil. Fodd bynnag, roedd i ba raddau y gallai rhai aelodau o’r grŵp gyfrannu yn cael ei bennu’n rhannol gan eu sgiliau ymchwil a’u harbenigedd. Mae'r prototeip yn ceisio dod i gasgliadau ynghylch pa lefel o gysylltiad sy'n ymarferol ar bob cam o brosiect GSR ac roedd y dystiolaeth yn dangos y gellir cynnwys hyn yn effeithiol ar bob cam. 

Dangosodd y prototeip nad yw gwneud penderfyniadau ar y cyd yn bosib wrth sicrhau ansawdd adroddiadau ymchwil GSR, gan mai dim ond ymchwilwyr GSR all roi cymeradwyaeth derfynol. Dywedodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu bod proses sicrhau ansawdd YGLl yn gweithio'n dda i ddarparu fframwaith a fformat defnyddiol ar gyfer cyhoeddi. Dywedwyd bod hyn hefyd wedi ychwanegu trylwyredd i'r ymchwil o safbwynt moeseg a diogelu data. Fodd bynnag, gan mai cyfrifoldeb ymchwilwyr GSR yw rhoi cymeradwyaeth derfynol, daeth y cwestiwn 'pwy sy'n berchen ar adroddiad?' i'r amlwg fel thema yn y dystiolaeth gyfweld. Roedd y thema hon yn cwestiynu i ba raddau y gellir bod â chyd-berchnogaeth o’r allbynnau terfynol mewn gwirionedd ac i ba raddau y mae’r trefniadau i roi cymeradwyaeth derfynol yn siapio lefelau o bŵer a dylanwad.

Roedd gwerthoedd gwrthrychedd a didueddrwydd y cod GSR yn ddefnyddiol ar gyfer y prototeip hwn. Mae'r gwerthoedd yn gosod disgwyliad clir am niwtraliaeth wrth ddylunio a chyflawni gweithgareddau ar draws y camau ymchwil ac yn feincnod defnyddiol ar gyfer myfyrio a dilysu. Roedd yr egwyddor o ddidueddrwydd weithiau'n heriol i'w chysoni ag uchelgeisiau'r tîm cydgynhyrchu i sicrhau bod yr ymchwil mor ddylanwadol â phosibl. Er enghraifft, roedd teimlad nad oedd yr iaith a ddefnyddiwyd a chydbwysedd cyffredinol yr adroddiad Hyderus o ran Anabledd yn adlewyrchu cryfder teimladau rhai a gyfrannodd at yr ymchwil. Cynigir bod sgyrsiau am atblygedd a lleoliadedd fel grŵp yn cael eu cynnwys mewn prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol i gydnabod profiadau bywyd unigol a allai effeithio ar allu'r tîm cydgynhyrchu i gyd-fynd â'r gwerthoedd hyn.

Ystyriwyd bod cydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas wedi gwella hygrededd ac effaith gyffredinol yr ymchwil. Roedd tystiolaeth bod gwerth ychwanegol profiad bywyd yn llywio ffocws yr ymchwil o ran bod y mater yn berthnasol i’r cyd-destun a bod pynciau a oedd yn gofyn am fwy o dystiolaeth ar y pryd wedi’u hadnabod. Roedd y pynciau ymchwil yn seiliedig ar argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ac un o'r materion a nodwyd oedd sut i gytuno pa bynciau fyddai'n cael eu symud ymlaen o blith ystod eang o argymhellion. Mae prosiectau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth fel arfer yn cael eu gyrru gan flaenoriaethau gwleidyddol, a rhoddodd y prototeip hwn gyfle i wyro oddi wrth hynny a dangosodd fod manteision gwirioneddol i gynnwys pobl â phrofiad bywyd er mwyn canfod materion dilys y mae angen ymchwilio iddynt i lenwi unrhyw fylchau mewn tystiolaeth. Cynigir y gall cynnwys ystod eang o bobl sydd â phrofiad bywyd o bynciau neu faterion perthnasol fod yn fuddiol ac yn werthfawr o ran dilysu wrth gynllunio tystiolaeth.

Mae casgliadau’r ymchwil hwn yn amlygu cwestiynau a godwyd ynghylch a oedd y prototeip yn mynd yn ddigon pell i ymwreiddio profiadau bywyd amrywiol ac ystyried croestoriadedd. Awgrymir y gellid, lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn briodol, ddylunio'r tîm cydgynhyrchu gyda chynrychiolaeth o’r croestoriadau perthnasol o gymdeithas mewn golwg. Os nad yw hyn yn ymarferol, yna gellid ystyried profiad bywyd amrywiol a chroestoriadol yn nulliau ymchwil prosiect neu o fewn mathau eraill o gydweithio.

Y model cymdeithasol o anabledd a hygyrchedd

Mae'r model cymdeithasol o anabledd wedi bod yn ymrwymiad hirsefydlog i Lywodraeth Cymru. Trwy ganolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau cymdeithasol a hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad ym mhob maes o fywyd, mae'r model cymdeithasol hefyd yn sail i egwyddorion cydgynhyrchu. Roedd aelodau'r tîm cydgynhyrchu yn gadarnhaol ynghylch cymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd o fewn y prototeip ac yn teimlo ei fod wedi mynd ymhellach na phrosiectau eraill y buont yn rhan ohonynt. Cymerwyd camau i archwilio a chael gwared ar rwystrau unigol i’r graddau yr oedd y prosiect yn caniatáu hynny. Roedd hyn yn golygu gofyn yn rheolaidd i aelodau'r tîm cydgynhyrchu hysbysu'r tîm ynghylch unrhyw ofynion hygyrchedd. Er enghraifft, cynnig amrywiaeth o ffyrdd i aelodau'r tîm gyfrannu, gan sicrhau mynediad at y dechnoleg briodol ac allbynnau ysgrifenedig hygyrch i ddarllenwyr sgrin.

Fodd bynnag, roedd angen i'r tîm cydgynhyrchu weithio trwy rwystrau i gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd wrth ryngweithio â phrosesau y tu hwnt i reolaeth y tîm prosiect. Er enghraifft, ar adegau roedd prinder dehonglwyr BSL neu balanteipyddion, yn enwedig os oedd cyfarfodydd wedi'u trefnu ar fyr rybudd. Gall gweithio mewn ffordd hygyrch sy'n cadw at y model cymdeithasol o anabledd weithiau gymryd mwy o amser. Fodd bynnag, roedd yn elfen hanfodol o'r prototeip, ac yn arfer parhaus a gweithredol yn unol ag arfer moesegol da i sicrhau cyfranogiad.

Ystyriwyd bod hygyrchedd wedi cynorthwyo i gynnwys gwybodaeth a mewnwelediad newydd yn y broses. Ystyriwyd ei fod yn fwy na dim ond galluogi pobl i gymryd rhan a’i fod yn arwain at wneud i bobl deimlo wedi’u grymuso i gymryd rhan. Roedd yn siapio lefel yr awdurdod a’r dylanwad y gallai unigolion ei gael yn y broses ymchwil gymdeithasol. Cynigir bod ymarferwyr yn ystyried sut i gymhwyso egwyddorion y model cymdeithasol yn well i ymchwil gymdeithasol a'i fod yn cael ei annog yn weithredol mewn prosiectau yn y dyfodol. 

Dysgu unigol a sefydliadol

Myfyriodd rhai cydgynhyrchwyr ynghylch eu dysgu unigol o ganlyniad i'r prototeip. Dangosodd tystiolaeth o'r ymchwil enghreifftiau cadarnhaol o bobl mewn gwahanol rolau yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn goresgyn unrhyw heriau wrth iddynt godi. I rai, roedd y prototeip yn eu grymuso ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad a thwf personol. Roedd rhai yn cydnabod eu bod wedi ennill dealltwriaeth ddyfnach o hawliau anabledd, yn enwedig yn y cyd-destun polisi presennol o faterion yn ymwneud ag anabledd yng Nghymru. Roedd eraill yn dweud eu bod wedi cael mewnwelediad ymarferol i sgiliau ymchwil a phrosesau GSR yn ogystal â'r model cymdeithasol o anabledd. 

Dangosodd y dystiolaeth fod y prototeip wedi cynyddu hyder a gwytnwch rhai aelodau o fewn y tîm cydgynhyrchu, yn enwedig wrth weithio ar brosiectau ymchwil cymhleth sy'n gofyn i aelodau ystyried safbwyntiau amrywiol a dod o hyd i atebion ar y cyd. Arweiniodd hyn yn ei dro at gyfleoedd arweinyddiaeth i unigolion ac fe'i ystyriwyd yn ganlyniad cadarnhaol i'r prosiect cydgynhyrchu. 

Un o nodau craidd y prototeip hwn oedd myfyrio ynghylch y seilwaith presennol ar gyfer cydgynhyrchu a chymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yng nghyd-destun GSR Cymru. Roedd hyn yn ymwneud â deall unrhyw gyfyngiadau ar y llywodraeth sydd yn anochel, a chyfyngiadau sydd wedi'u normaleiddio’n hanesyddol ond y gellid o bosibl eu hail-ddylunio. Mae’r canfyddiadau o'r prototeip hwn wedi amlygu cyfleoedd ar gyfer dysgu a newid sefydliadol. Mae hyn eisoes yn cael ei ystyried yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol lle nodir yn glir mai 'cyfranogiad' yw un o'r ffyrdd hanfodol o weithio i gyflawni nodau llesiant y ddeddf. Bydd hefyd yn cael ei ystyried mewn perthynas â strategaeth yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd i brif ffrydio cydraddoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad yn GSR Llywodraeth Cymru a phroffesiynau dadansoddol eraill.

Arsylwadau terfynol

Mae cydgynhyrchu yn ddull cyfranogol ac yn cael ei ystyried yn ddull o ymgymryd ag ymchwil gymdeithasol sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n ystyriol o anghenion pawb. Felly, mae'n llai tebygol o gael ei ystyried yn alldynnol gan unigolion sydd â phrofiad bywyd o fod yn anabl. Roedd rhai o'r tîm cydgynhyrchu’n teimlo bod hon yn ffordd fwy foesegol o weithio, gan adlewyrchu’r egwyddor 'dim amdano ni, hebddo ni' y mudiad hawliau anabledd. Disgrifiwyd hyn fel ymateb i anghyfiawnderau hanesyddol a brofwyd gan bobl anabl mewn ymchwil. Dylai ymarferwyr ystyried hawl pobl sydd â phrofiad bywyd o nodweddion gwarchodedig i fod yn rhan o astudiaethau sy'n ymwneud â nhw. Cynigir y dylid ystyried hyn wrth gwmpasu ymchwil ac y gall cyfranogiad fod ar sawl ffurf, o aelodaeth o grŵp llywio i adolygiad gan gymheiriaid neu gydgynhyrchu llawn. 

Ceisiodd y prototeip hwn ystyried ‘celfyddyd y posibl’ ac i gymhwyso egwyddorion cydgynhyrchu cyn belled â phosibl trwy bob cam o'r prosiect. Roedd y cyfleoedd ar gyfer deinameg pŵer cyfartal a gwneud penderfyniadau ar y cyd yn amrywio trwy gydol camau'r prosiect ac mewn gwahanol weithgareddau a thasgau. Wrth edrych yn ôl, roedd labelu'r prototeip fel 'cydgynhyrchiad' weithiau’n achosi disgwyliadau afrealistig i'r tîm cydgynhyrchu. Dylid ystyried bob amser a ddylid, a sut i ‘gydgynhyrchu’ neu 'gyd-ddylunio' a phryd y mae'n fwy priodol i 'ymgynghori' neu 'hysbysu'. Un o'r prif bwyntiau dysgu i ymarferwyr eu hystyried o'r prototeip hwn yw deall o ddifrif i ba raddau y gellir rhannu penderfyniadau ar bob cam o'r broses a bod yn glir ynghylch hynny o'r cychwyn cyntaf.

Atodiadau

Atodiad A: canllaw pwnc

Prosiect Ymchwil Gwersi a Ddysgwyd am Gydgynhyrchu: canllaw pwnc ar gyfer cyfweliadau

Gwahoddwyd aelodau a chyn-aelodau’r tîm cydgynhyrchu i rannu eu barn trwy feddwl am y canllaw pwnc a'r daflen gymorth ar gyfer pob cam o'r prosiect yr oeddent yn rhan ohono. Hoffem gasglu eich profiadau a'ch barn chi eich hun ar y prosiect i ddeall pa wersi y gallwn eu dysgu y gellid eu cymhwyso i Brosiectau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn y dyfodol ac yn ehangach na hynny. 

Yn eich atebion, ceisiwch roi enghreifftiau penodol a pherthnasol o gamau'r prosiect roeddech chi'n rhan ohono. Darparwyd taflen gymorth i gyd-fynd â’r canllaw pwnc i’ch atgoffa o'r hyn a ddigwyddodd ar bob cam o'r prosiect. Os ydych eisiau i mi eich atgoffa am unrhyw gam yn ystod y cyfweliad, rhowch wybod i mi. 

Anfonwyd taflen wybodaeth atoch trwy e-bost cyn y cyfweliad hwn. Roedd y ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am yr ymchwil ac yn egluro mai eich dewis chi yw cymryd rhan neu beidio.  Er y bydd yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu fel rhan o'r cyfweliad hwn yn ddienw, mae’r rolau clir a’r gwahanol berthnasoedd gwaith o fewn y prosiect cydgynhyrchu’n golygu na allwn warantu anhysbysrwydd llwyr. Byddwch felly’n cael cyfle i edrych dros y trawsgrifiad yn dilyn y cyfweliad hwn. Oes gennych unrhyw gwestiynau cyn i ni ddechrau? 

Cyn i ni ddechrau, ydych chi'n hapus i mi ddechrau trawsgrifio? 

Ar gyfer y cyfwelydd: Gofynnwch yr holl gwestiynau craidd sydd mewn print trwm. Dylai cyfwelwyr geisio cadw at amser ac ystyried faint o amser sy'n cael ei dreulio ar y cwestiynau cyntaf er mwyn sicrhau bod digon o amser i gael ymatebion i’r holl gwestiynau yn y canllaw pwnc. Cyfeiriwch at y crynodebau o’r gwahanol gamau os bydd yr ymatebwyr angen eu hatgoffa o unrhyw beth.

Cwestiwn 1

A gawn ni ddechrau gyda throsolwg byr o'ch rôl o fewn y prosiect cydgynhyrchu?

Cwestiwn  2

Pa gam(au) o'r prosiect oeddech chi'n rhan ohono/ohonynt? [Cyfwelydd i nodi’r camau i gynorthwyo llwybr y cwestiynau]

Cwestiwn  3

Beth oedd prif gyflawniadau'r prosiect yn ei gyfanrwydd (ac a allwch chi ddweud pam)? 

Nawr byddaf yn gofyn i chi feddwl am y gwerth ychwanegol a gafwyd o gydweithio ar gamau penodol o'r cydgynhyrchu.

Cwestiwn 4

Beth oedd y gwerth ychwanegol o gydweithio fel tîm: What was the added value from working together as a team (Llwybr yn dibynnu ar gyfranogiad y cyfranogwr):

  • pan oedd yr ymchwil yn cael ei gyd-ddylunio ar gamau cynharaf y prosiect? (Gallwch gyfeirio at gamau 1-3 yn y daflen gymorth i helpu os oes angen)
  • yn ystod ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
  • yn ystod ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
  • gan feddwl am y prosiect yn ei gyfanrwydd?

Cwestiynau i ysgogi ymatebion

  • A wnaeth wella ansawdd yr ymchwil? Sut?
  • Beth oedd gwahanol gyfraniadau unigolion (e.e., sgiliau, gwybodaeth, amser, arian, rhwydweithiau, ac ati)?
  • A gafodd profiadau bywyd a gwahanol safbwyntiau eu rhannu a’u hystyried?
  • Sut wnaeth unigolion elwa o'u cyfranogiad? A oedd y buddion hyn yn ddigon gwerthfawr i’w gwneud yn werth cymryd rhan?

Cwestiwn 5

Ar gamau cynnar y prosiect, cyd-ddyluniwyd gweledigaeth y prosiect gan aelodau'r prosiect. Bwriad y weledigaeth hon oedd pennu’r ffyrdd o weithio er mwyn i gydgynhyrchu fodloni nodau'r ymchwil. 

Cytunwyd y dylai aelodau "weithio mewn partneriaeth gyfartal, dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'i gilydd, cynnwys cadeiryddion gweithgorau tasglu heb eu gorlethu, cyhoeddi adroddiadau o safon dda fel ymchwil wedi'i chyd-gynhyrchu a'i chyd-ysgrifennu”. 

  • A yw hyn yn adlewyrchu'r hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu i chi? Os na, pam ddim/beth mae cydgynhyrchu’n ei olygu i chi?
  • I ba raddau ydych chi'n teimlo bod y prosiect yn adlewyrchu'r weledigaeth y cytunwyd arni ar gyfer cydgynhyrchu? 

Cwestiwn 6

O ystyried y prosiect cydgynhyrchu yn ei gyfanrwydd, i ba raddau ydych chi'n teimlo eich bod chi ac unigolion eraill wedi gallu cydgynhyrchu? (yn seiliedig ar y weledigaeth gytunedig uchod ar gyfer y prosiect cydgynhyrchu)

Ceisiwch roi enghreifftiau o unrhyw ran o'r prosiect yr ydych chi'n meddwl y byddent yn berthnasol neu'n bwysig.

Cwestiynau i ysgogi ymatebion (cydgynhyrchu cyffredinol)

  • Pa mor ddylanwadol ac wedi’ch grymuso oeddech chi ac eraill?
  • A oedd unrhyw beth yn cyfyngu ar eich cyfranogiad llawn mewn cydgynhyrchu (e.e., rheolau statudol, ffyrdd GSR o weithio)?
  • Ydych chi'n meddwl bod hyn wedi amrywio trwy wahanol gamau’r prosiect ac os felly, sut?

Cwestiynau i ysgogi ymatebion (model cymdeithasol)

  • Pa mor hygyrch oedd y prosiect? A oedd yna unrhyw enghreifftiau o arfer da? A oedd yna unrhyw rwystrau?
  • Pa mor dda gafodd y model cymdeithasol o anabledd ei roi ar waith?

Cwestiwn 7

Cafodd y prosiect cydgynhyrchu ei sefydlu fel prosiect Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR).

A oedd yna agweddau ar sut y cafodd y prosiect cyffredinol ei redeg a oedd yn helpu cydgynhyrchu? (Ymlaen i gwestiwn b yn dibynnu ar gyfranogiad y cyfranogwr)

Cwestiynau i ysgogi ymatebion

  • Beth weithiodd yn dda o ran rheolaeth prosiect? (e.e. amserlenni, cynllunio prosiectau, staffio a dyrannu adnoddau ariannol)
  • Sut helpodd egwyddorion Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (e.e. gwrthrychedd, didueddrwydd, fformatio adroddiad GSR) yn ystod y prosiect? 

A oedd unrhyw enghreifftiau o le gweithiodd hyn yn dda:

  • Yn ystod camau cynnar y prosiect? (Gallwch gyfeirio at gamau 1 i 3 yn y daflen gymorth i helpu os oes angen) 
  • Yn ystod ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
  • Yn ystod ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
  • Ar draws y prosiect yn ei gyfanrwydd gan gynnwys rheoli adnoddau a phrosiectau (cam 6 yn y daflen gymorth) a sut y gwnaethom weithio gyda'n gilydd (cam 7 yn y daflen gymorth)?

A oedd yna agweddau ar sut y cafodd y prosiect cyffredinol ei redeg a oedd yn rhwystro cydgynhyrchu? 

Cwestiynau i ysgogi ymatebion

  • Beth wnaeth ddim gweithio’n dda o ran rheolaeth prosiect? (e.e., amserlenni, cynllunio prosiectau, staffio a dyrannu adnoddau ariannol)
  • A wnaeth egwyddorion Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (er enghraifft, gwrthrychedd, didueddrwydd, fformatio adroddiad GSR), rheolau neu ffyrdd o weithio weithredu fel rhwystr i gydgynhyrchu? Os do, sut? 

A oedd unrhyw enghreifftiau o le na wnaeth hyn weithio’n dda:

  • Yn ystod camau cynnar y prosiect? (Gallwch gyfeirio at gamau 1 i 3 yn y daflen gymorth i helpu os oes angen) 
  • Yn ystod ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
  • Yn ystod ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol, yn cynnwys cynllunio, cyflwyno, dadansoddi ac adrodd?
  • Ar draws y prosiect yn ei gyfanrwydd gan gynnwys rheoli adnoddau a phrosiectau (cam 6 yn y daflen gymorth) a sut y gwnaethom weithio gyda'n gilydd (cam 7 yn y daflen gymorth)?

Cwestiwn 8

Beth yw'r prif wersi ar gyfer ymchwil gymdeithasol Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i'w galluogi i adlewyrchu'n well brofiad bywyd o anabledd?

Cwestiynau i ysgogi ymatebion

  • Beth wnaethom ni y dylai prosiectau'r dyfodol yn ddelfrydol ei fabwysiadu?
  • Beth y gellid ei wella neu ei wneud yn wahanol i oresgyn rhwystrau ar gyfer unrhyw brosiectau yn y dyfodol? 

Cwestiwn 9

Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu sydd heb ei drafod heddiw?

Diolchwch i'r cyfranogwr am eu hamser.

Atodiad B: taflen wybodaeth ymchwil ategol ar gyfer aelodau allanol y tîm cydgynhyrchu

Taflen wybodaeth ymchwil ar gyfer cyfranogwyr ymchwil

Pwy sy'n gwneud yr ymchwil?

Mae'r ymchwil hwn yn cael ei gynnal gan Lab Cydgynhyrchu Cymru. 

Pam mae'r ymchwil yn cael ei gynnal?

Roedd y prosiect cydgynhyrchu yn brototeip ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid yn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). Ystyriwyd fod hon yn ffordd bwysig o ddysgu sut i wella ansawdd ymchwil gymdeithasol y dibynnir arni i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pobl. Mae cydgynhyrchu yn cynnwys rhannu penderfyniadau ac 'asedau' (a allai gynnwys sgiliau, gwybodaeth neu rwydweithiau). Nod cyffredinol y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd deall i ba raddau y mae'n bosibl i ymchwilwyr cymdeithasol y llywodraeth gydgynhyrchu ymchwil gymdeithasol. Hoffem nodi pa lefel o gyfranogiad sy'n ymarferol ar wahanol gamau o brosiect. Er enghraifft, pan nad yw'n bosibl rhannu'r holl benderfyniadau am brosiect, pryd mae'n briodol cyd-ddylunio, ymgynghori neu hysbysu. Yn ogystal, roedd bwriad i’r ymchwil ystyried unrhyw wersi ar gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd i GSR.

Pam rydw i wedi cael fy ngwahodd i gymryd rhan?

Fel aelod neu gyn-aelod o'r tîm cydgynhyrchu, rydych wedi cael eich gwahodd yn benodol i gymryd rhan i rannu eich barn. Rydym am gasglu safbwyntiau, profiadau a chanfyddiadau holl aelodau a chyn-aelodau’r prosiect cydgynhyrchu.  

Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu? 

Hoffem gasglu barn naill ai drwy gyfweliad lled-strwythuredig un-i-un drwy alwad fideo gyda chynrychiolydd o Lab Cydgynhyrchu Cymru neu gallwch gyflwyno ymateb ysgrifenedig. Cyn cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi gydsynio ar lafar i nodi eich bod yn barod i gymryd rhan ac yn deall beth mae eich cyfranogiad yn ei olygu. P'un a ydych chi'n cymryd rhan mewn cyfweliad neu'n cyflwyno ymateb ysgrifenedig, byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y canllaw pwnc (y cwestiynau y byddwn yn eu gofyn) yn ogystal â thaflen gymorth canllaw pwnc ymlaen llaw. 

Oes rhaid i mi gymryd rhan? 

Na, mae eich cyfranogiad yn y prosiect ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Eich dewis chi yw cymryd rhan a does dim rhaid i chi roi rheswm dros wrthod. Os ydych chi'n cytuno i gymryd rhan yn yr ymchwil, gallwch wrthod ateb unrhyw gwestiynau a ofynnir.  

Beth fydd yn digwydd i'm gwybodaeth bersonol a'r recordiad o'r drafodaeth? 

Gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd sy'n cyd-fynd â'r daflen wybodaeth ymchwil hon, sy'n disgrifio sut y byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol a’r recordiad o’r drafodaeth ar-lein yn ddiogel.

Sut bydd fy nata’n cael ei ddefnyddio? 

Bydd yr holl drawsgrifiadau neu gyflwyniadau ysgrifenedig yn cael eu gwneud yn ddienw ac yna'n cael eu dadansoddi'n thematig. Bydd y dadansoddiad thematig yn cael ei ddefnyddio i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llyw.Cymru. Gall hyn gynnwys dyfyniadau uniongyrchol o’r hyn yr ydych yn ei ddweud wrthym Bydd Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n arwain y prosiect hwn yn cyhoeddi'r adroddiad terfynol ar ffurf HTML (Cymraeg a Saesneg) a bydd hyn yn cynnwys crynodeb gweithredol. Bydd y crynodeb hygyrch hefyd yn cael ei gyhoeddi yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac ar ffurf Hawdd ei Ddeall.

Ydych chi wedi ystyried unrhyw faterion moesegol posibl a allai godi? 

Ydyn, a bydd hyn yn ystyriaeth barhaus. Cyn i’r prosiect hwn ddechrau aeth Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth drwy restr wirio moeseg lawn. Nodwyd dwy risg foesegol. Y risg gyntaf yw mwy o berygl o ragfarn oherwydd bod y prosiect hwn yn cael ei arwain gan Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac nad yw'n cael ei gyflawni trwy ddull cydgynhyrchu. Mae sawl peth yn cael ei wneud i liniaru a lleihau rhagfarn posibl, gan gynnwys comisiynu sefydliad annibynnol a fydd yn casglu eich barn ac yn ymgymryd â dadansoddiad thematig. Y sefydliad hwn yw Lab Cydgynhyrchu Cymru, sydd â dealltwriaeth a phrofiad o gydgynhyrchu. Bydd Lab Cydgynhyrchu Cymru yn rhannu trawsgrifiadau dienw neu ymatebion ysgrifenedig dienw gydag Ymchwilwyr Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi penodi 'adolygwr cymheiriaid' academaidd annibynnol i wirio'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn i gyfranogwyr ymchwil cyn i’r gwaith maes ddechrau, y themâu sy'n dod i'r amlwg o'r dadansoddiad data yn ogystal â'r adroddiad drafft terfynol. 

Yr ail risg a nodwyd yw’r perygl o ddatgelu pwy ydi rhywun yn y canfyddiadau sy’n cael eu hadrodd. Yn anffodus, ni allwn warantu anhysbysrwydd llwyr o ystyried maint y sampl, rolau gwahanol aelodau'r prosiect cyd-gynhyrchu, a'r perthnasoedd gwaith a ddatblygwyd drwy gydweithio’n agos. Er mwyn lliniaru'r risg hon, os byddwch yn dewis cael eich cyfweld yn hytrach na darparu ymateb ysgrifenedig, cewch gyfle i adolygu, diwygio neu olygu unrhyw ddyfyniadau o'r trawsgrifiad a gynhyrchir. Bydd cyfranogwyr yn cael 7 diwrnod ar ôl i'r trawsgrifiad gael ei gynhyrchu i wneud unrhyw ddiwygiadau. Wedi hynny ni fydd newidiadau pellach yn bosibl. Fodd bynnag, bydd hefyd gyfle ychwanegol i chi adolygu'r adroddiad drafft fel y gallwch wirio eich bod yn fodlon â sut mae eich safbwyntiau wedi'u nodi’n ysgrifenedig a'u cynrychioli ac i wirio am unrhyw destun a allai ddatgelu eich hunaniaeth yn anfwriadol. 

Beth os oes gennyf ymholiad neu bryder? 

Lles unigolion yw ein blaenoriaeth bob amser. Os ydych chi eisiau siarad â ni am unrhyw beth, cysylltwch â'r ymchwilwyr arweiniol a gallwn drefnu galwad os oes angen neu ymateb drwy e-bost. 

Diolch am ystyried cymryd rhan yn y prosiect ymchwil hwn.