Cydgynhyrchu yn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth: ymchwil gwersi a ddysgwyd o brototeip cydweithredol Llywodraeth Cymru a'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl - Y broses gydgynhyrchu a'i defnydd ohon
Nod yr ymchwil hon oedd asesu pa mor ymarferol oedd hi i gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar ddau brosiect cydweithredol sy'n archwilio argymhellion a gynigir gan y tasglu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pennu cwmpas y ddull prototeip o gydgynhyrchu
Fe wnaeth ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru bennu’r cwmpas ar gyfer sut i gydgynhyrchu ymchwil drwy adolygu tystiolaeth a chanllawiau cyhoeddedig, a chydgrynhoi gwybodaeth gan ymarferwyr cydgynhyrchu eraill yng Nghymru a'r DU. Ar ôl archwilio gwahanol fodelau cydgynhyrchu ac argaeledd darpar gyflenwyr sydd â phrofiad ac arbenigedd perthnasol, penderfynwyd mynd ati’n fewnol i wneud yr ymchwil. Rhannwyd rolau a thasgau ymchwil ar draws y tîm cydgynhyrchu. Yna gwahoddodd y tîm ymchwil Gadeiryddion y Tasglu i gyd-ddylunio a chydgynhyrchu ymchwil gymdeithasol.
Amlinellwyd y prototeip fel un i’w gyflawni mewn 3 cham, y cytunwyd arnynt gyda Phrif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru:
Cam 1
Cyd-ddylunio gweledigaeth ar gyfer yr ymchwil, gan gynnwys pennu'r pynciau ar gyfer yr ymchwil a ffyrdd o weithio gyda'n gilydd.
Cam 2
Cydgynhyrchu tystiolaeth a oedd yn cynnwys cyd-ddylunio a chyflwyno cynllun gwaith ymchwil, cyd-ysgrifennu adroddiadau ymchwil a briffio gweinidogion ar y cyd a lledaenu canfyddiadau'r ymchwil.
Cam 3
Ymchwil gwersi a ddysgwyd yn sgil cydgynhyrchu dan arweiniad ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru i ddysgu o’r dull o gydgynhyrchu, a’i werthuso, ac ystyried ffyrdd ychwanegol o gofnodi arbenigedd a phrofiad bywyd a rhannu'r dysgu hwnnw a wnaed yn sgil y prototeip.
Nod yr ymchwil fyddai sefydlu prototeip o’r weledigaeth ar gyfer cydgynhyrchu ac archwilio dichonoldeb hyn o fewn cyd-destun GSR. Cytunwyd y byddai unrhyw benderfyniadau ymchwil yn cael eu rhannu ar draws y tîm cydgynhyrchu ar bob cam o'r cylch ymchwil.
Mae tystiolaeth o'r llenyddiaeth am gydgynhyrchu yn dangos bod pobl yn tueddu i ddehongli’r hyn y mae cydgynhyrchu’n ei olygu mewn gwahanol ffyrdd (Varieties of Participation in Public Services: The Who, When, and What of Coproduction gan Nabatchi ac eraill, 2017, ar gael ar Wiley online library). Nodwyd ei bod yn bwysig datblygu diffiniad ymarferol y gallai pob parti cysylltiedig gytuno arno. Nodwyd y diffiniad o gydgynhyrchu a fabwysiadwyd yn y prosiect hwn yn y weledigaeth ar gyfer y prototeip, a ddyluniwyd ac a gytunwyd ar y cyd ag aelodau’r tîm cydgynhyrchu.
Roedd y weledigaeth yn diffinio’r nodau cydgynhyrchu fel "gweithio mewn partneriaeth gyfartal, dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'n gilydd, cynnwys Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Anabledd heb eu gorlethu, a chyhoeddi adroddiadau o safon dda fel ymchwil wedi'i gydgynhyrchu a'i gyd-ysgrifennu”. Roedd y weledigaeth yn nodi bwriad y tîm cydgynhyrchu i fabwysiadu ffyrdd o gydweithio sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn gynhwysol, yn dryloyw ac yn caniatáu i'r tîm fod yn greadigol a dysgu gan ei gilydd.
Defnyddiwyd mapio asedau fel dull o lywio rhywfaint o'r cynllunio ymchwil a oedd yn amlygu cryfderau ar draws y tîm cydgynhyrchu a’r uchelgeisiau cyffredinol ar gyfer y prosiect. Roedd y dull hwn yn pennu’r cydgytundeb trwy archwilio'r hyn yr oedd cydgynhyrchwyr unigol yn dymuno ei gyfrannu at y prototeip (o ran eu gallu a'u hadnoddau) a'r hyn yr oeddent am ei gael o'r gwaith hwn. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno ymchwil ddylanwadol, cyfleoedd newydd i gyd-gyflawni ymchwil (nid dim ond ei chyd-ddylunio) yn ogystal â dysgu sgiliau newydd mewn dulliau ymchwil, cydgynhyrchu, cyfathrebu, gweithio'n hygyrch ac i ddangos sut y gellid gwneud ymchwil yn wahanol yn y dyfodol.
Mabwysiadwyd cyfres o egwyddorion cydgynhyrchu i amlinellu sut y gallai'r tîm cydgynhyrchu weithio gyda'i gilydd. Roedd yr egwyddorion hyn yn cyfateb i'r rhai a ddatblygwyd gan y Co-Production Collective ac maent wedi'u nodi isod.
Bod yn ddynol
Gwerthfawrogi amrywiaeth o wybodaeth, profiad a gwahanol safbwyntiau a meithrin perthynas ag eraill sy’n fuddiol i'r ddwy ochr ac yn seiliedig ar onestrwydd ac ymddiriedaeth.
Bod yn gynhwysol
Cael gwared ar yr hyn sy’n rhwystro cyfranogiad, cydnabod cryfderau pobl a chefnogi eu datblygiad.
Bod yn dryloyw
Mynd i'r afael ag anghydbwysedd pŵer a hierarchaeth a rhannu rolau a chyfrifoldebau.
Bod yn heriol
Sicrhau myfyrio, dysgu a gwella parhaus a chroesawu syniadau a ffyrdd newydd o weithio.
Cafodd cyfres o ragdybiaethau gweithredol ynghylch yr amodau ar gyfer llwyddiant hefyd eu mynegi a'u cytuno ag aelodau o'r tîm cydgynhyrchu. Roedd y rhain yn cynnwys:
- mae rhannu a chynorthwyo’r naill a’r llall yn rhan allweddol o gydgynhyrchu, gan gynnwys rhannu penderfyniadau ynghylch sut i gyflawni ymchwil a rhannu allbynnau ymchwil
- mae’n rhaid i ymchwil fodloni safonau GSR fel y gall canfyddiadau lywio polisi a phrosesau gwneud penderfyniadau yn well
- sefydlu ymddiriedaeth ar y ddwy ochr
- rhaid i gydgynhyrchu fod yn ddeniadol ac yn werth chweil i’r bobl a’r sefydliadau sy’n cymryd rhan
Myfyrdodau ynghylch cam cwmpasu'r prototeip
Dangosodd data’r cyfweliadau bod gwahanol brofiadau a gwybodaeth am gydgynhyrchu ar draws y tîm cydgynhyrchu cyn y prototeip. Yn y cyfweliadau dywedodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu eu bod, oherwydd bod y prototeip cydgynhyrchu yn gam i ffwrdd o’r dull GSR mwy traddodiadol o weithio, yn teimlo dan bwysau i fod â dealltwriaeth gref a sgiliau mwy datblygedig i gyflwyno ymchwil cydgynhyrchu’n dda o'r cychwyn cyntaf. Disgrifiwyd y prototeip felly fel proses o ddysgu gan rai o'r ymchwilwyr. Roedd rhai o safbwyntiau Cadeiryddion y Tasglu yn nodi mai prosiect prototeip oedd hwn i fod o’r dechrau ac nad oedd felly’n mynd i fod yn ‘berffaith’ y tro cyntaf ond yn hytrach ei fod yn gyfle i weithio mewn ffordd wahanol, i ddysgu gyda’n gilydd ac i adeiladu sylfaen gref ar gyfer y dull hwn o weithio o fewn GSR.
Cafodd gweledigaeth y prosiect ei chyd-ddylunio a’i chytuno gan y tîm cydgynhyrchu a chafodd y gwahanol rolau eu datgan. Mae'r adolygiad llenyddiaeth yn tynnu sylw at yr angen i sefydlu Cylch Gorchwyl clir i nodi’r lefel o gyfranogiad mewn prosiect o'r cychwyn cyntaf yn ogystal â galluogi ail-drafod os oes angen (Involving disabled people in social research by the UK Government, 2011 ar dudalen 19, ar gael ar GOV.UK). Roedd tystiolaeth o'r ymchwil desg yn awgrymu y dylid ail-ymweld â’r weledigaeth a'r egwyddorion er mwyn arwain y gwaith llywodraethu, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau ar wahanol bwyntiau yn y broses, ond roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn ystyried a oedd digon o gyfleoedd ar gyfer hyn ar draws pob cam o'r ymchwil o fewn y prototeip.
Cytuno ar y pynciau ymchwil i'w harchwilio
Y cynnig gwreiddiol o fewn y cam cwmpasu oedd cyflwyno astudiaethau dichonoldeb ar hyd at 5 o argymhellion y Tasglu. Yn y pen draw, darparodd y prototeip 2 ddarn gwahanol o ymchwil sylfaenol a oedd yn cynnwys cwmpasu a chynllunio ymchwil, gwaith maes, dadansoddi data, adrodd a chyhoeddi. Roedd y pynciau ymchwil y cytunwyd arnynt yn canolbwyntio ar 2 o argymhellion y Tasglu a oedd yn ymwneud â'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd a Byw'n Annibynnol fel thema trosfwaol.
Mae tystiolaeth o’r cyfweliadau’n awgrymu bod cytuno ar bynciau ymchwil gydag aelodau o'r tîm cydgynhyrchu sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas wedi helpu i flaenoriaethu’r materion a oedd yn teimlo'n berthnasol yn y cyd-destun hwn ac yn gofyn am fwy o dystiolaeth. Roedd y tîm cydgynhyrchu’n uchelgeisiol ac yn llawn cymhelliant i gyflwyno tystiolaeth wedi’i chydgynhyrchu a fyddai’n cael dylanwad mawr ar bolisi.
Ehangodd cwmpas yr ymchwil pan cynhaliwyd ymchwil sylfaenol yn hytrach na’r adolygiadau o dystiolaeth a gynlluniwyd yn wreiddiol. Yn ôl rhai myfyrdodau yn y data o’r cyfweliadau, cymerodd beth amser yn ystod y gweithdai cyd-ddylunio cychwynnol i gytuno ar y 2 thema olaf a fyddai'n cael eu harchwilio o fewn yr ymchwil. Un o'r materion a nodwyd oedd sut i gytuno ar bwnc ymchwil penodol pan ystyriwyd fod cymaint o faterion yn bwysig. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn teimlo bod cyfle i gyfrannu at drafodaethau cwmpasu yn bwysig er mwyn sicrhau bod gwahanol safbwyntiau’n cael eu clywed am yr hyn y dylid ei flaenoriaethu o fewn yr adnoddau a'r amserlenni sydd ar gael. Teimlwyd bod cael bod yn rhan o gyd-drafodaethau wedi cynorthwyo rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu i ddeall yn well pam fod rhai materion yn cael eu blaenoriaethu dros eraill o fewn cwmpas y prototeip.
Mae'r safbwyntiau hyn yn dangos y gall fod angen amser ychwanegol ar ddechrau gweithgarwch cwmpasu i wneud penderfyniadau ar y cyd, er mwyn sicrhau bod cyfle i gyd-drafod a chael cytundeb gan bawb. Mae hyn o bosibl yn wahanol i brosiectau GSR eraill sydd fel arfer yn cael eu cynllunio o fewn amserlenni cyfyngedig sy'n gysylltiedig â blaenoriaethau polisi a dyddiadau cau.
Er gwaethaf lleihau cwmpas yr ymchwil o 5 argymhelliad i 2, roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu’n teimlo o edrych yn ôl bod cwmpas yr ymchwil y cytunwyd arno o bosibl yn rhy fawr o ystyried yr amser a'r adnoddau oedd eu hangen i gyflawni ymchwil trwy ddull cydgynhyrchu.
Rheoli prosiect
Llywodraeth Cymru oedd yn arwain ar reoli’r prosiect cydgynhyrchu, gydag un o'r ymchwilwyr cymdeithasol yn gweithredu fel cydlynydd y prosiect. Roedd y gweithgarwch rheoli prosiect yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio i hwyluso cydgynhyrchiant y gweithgareddau a'r allbynnau ymchwil, trefnu gweithgareddau rhoi cydnabyddiaeth, trefnu unrhyw addasiadau rhesymol, caffael cyflenwyr ar gyfer creu crynodebau hygyrch a rheoli contractau cyfieithu. Roedd y rôl hon hefyd yn cynnwys cynllunio amserlenni prosiect ac anfon cyfathrebiadau rheolaidd at holl aelodau'r tîm cyd-gynhyrchu.
Roedd myfyrdodau cymysg yn y data o’r cyfweliadau ynghylch a oedd y dull hwn yn cyfyngu ar y graddau yr ystyriwyd bod y prototeip wedi'i gydgynhyrchu yn unol â'r weledigaeth wreiddiol a’r egwyddorion gweithio. Soniodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu eu bod yn teimlo, yn sgil y ffaith fod y cyllid a’r adnoddau i gyflawni’r gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru, nad oedd y prototeip yn cynrychioli cydgynhyrchu i’r graddau y byddent wedi’i ddisgwyl. Roedd rhai yn teimlo bod penderfyniadau ar adegau’n cael eu gwneud 'y tu ôl i'r llenni' ac nad oedd pob aelod o'r tîm cydgynhyrchu yn rhan o'r holl benderfyniadau oedd yn cael eu gwneud. Awgrymodd eraill fod y prototeip yn enghraifft dda o gydgynhyrchu a’i fod wedi mynd ymhellach na phrosiectau eraill y buont yn rhan ohonynt ac y dylid ei ddathlu.
Gan fod hwn yn ddull newydd o gyflawni prosiect GSR, cododd rhai tasgau ychwanegol ac annisgwyl yn ystod y prototeip ac fe'u disgrifiwyd gan swyddogion rheoli prosiect Llywodraeth Cymru a Chadeiryddion y Tasglu fel rhai a oedd yn drwm o ran y defnydd o adnoddau ar adegau. Er enghraifft, roedd tasgau ychwanegol i'r arweinydd rheoli prosiect sicrhau bod dogfennau'r prosiect yn cael eu rhannu mewn fformatau hygyrch. Roedd rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu’n teimlo bod hyn weithiau yn arafu’r broses ddarparu, gan arwain at deimladau o rwystredigaeth. Dywedwyd hefyd fod y ffaith bod Llywodraeth Cymru’n arwain ar reolaeth prosiect o dro i dro’n rhwystro cyfranogiad creadigol rhai cydgynhyrchwyr. Roedd rhai’n teimlo mai eu rôl oedd galluogi eraill i gydgynhyrchu ymchwil yn hytrach na’u bod nhw eu hunain wedi'u grymuso i gydgynhyrchu'n uniongyrchol. Mae'r gwaith cudd hwn (er enghraifft, rhannu dogfennau prosiect yn ddiogel, amserlennu a chyfathrebu) yn dangos bod cydgynhyrchu nid yn unig yn gofyn am ewyllys da ac ymrwymiad, ond hefyd gydnabyddiaeth o'r mathau anweledig o waith a’r amynedd sydd eu hangen i gynnal cyfranogiad.
Dangosodd myfyrdodau o'r cyfweliadau y gallai bod â hwylusydd annibynnol i weithredu fel rheolwr prosiect ar gyfer y cydgynhyrchu fod wedi lliniaru rhai o'r materion a nodwyd uchod.
Cydnabyddiaeth
Gall talu pobl am eu hamser alluogi unigolion i gymryd rhan trwy gael gwared ar rwystrau ariannol a thrwy hynny ddenu grŵp mwy amrywiol o gydgynhyrchwyr (Polisi Taliadau gan y Coproduction Collective, 2024). Gall talu hefyd fod yn ffordd ddiriaethol o feithrin ymddiriedaeth a dangos y gwerthfawrogir cyfraniadau unigol pawb tuag at y cydgynhyrchu.
Fodd bynnag, mae pob taliad a wneir i gydgynhyrchwyr yn ddarostyngedig i reolau treth a budd-daliadau lles cymhleth y DU a gellid eu cyfrif fel enillion ychwanegol gyda hynny o bosibl yn arwain at golli hawliau lles ac incwm. Mae’r Sefydliad Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol wedi cynhyrchu canllaw cynhwysfawr ar dalu pobl sy'n derbyn budd-daliadau (2023). Mae'n nodi cymhlethdod system fudd-daliadau bresennol CThEF, sy'n cymhwyso gwahanol reolau i'r ystod eang o fudd-daliadau lles. Mae'n rhoi cyfrifoldeb ar sefydliadau sy'n talu cydgynhyrchwyr unigol i "sicrhau bod pobl sy'n derbyn budd-daliadau yn cael eu cefnogi gan gyngor annibynnol ar hawliau lles" ac i gymryd camau eraill a all gefnogi unigolion i gysylltu â CThEF a'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Am y rheswm hwn felly datblygwyd pecyn cydnabyddiaeth amgen, wedi’i gydgynllunio, ar gyfer holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu a oedd yn rhan o ddylunio a chyflawni'r ymchwil, yn lle taliad ariannol. Yr uchelgais oedd gwneud y prototeip yn brofiad gwerth chweil a bodloni uchelgeisiau cydgynhyrchwyr trwy gynnwys cyfleoedd i gymryd rhan mewn datblygu dyluniad yr ymchwil, gwaith maes, cyd-ddadansoddi, cyd-ysgrifennu adroddiadau a chymryd rhan mewn digwyddiadau lledaenu ar ôl eu cyhoeddi. Roedd y pecyn cydnabyddiaeth hefyd yn cynnwys dosbarthiadau meistr wedi'u teilwra’n arbennig ynghylch dulliau ymchwil sy’n ystyried hawliau anabledd yn ogystal â hyfforddiant mewn technegau cydgynhyrchu. Ystyriwyd yn gyffredinol fod yr ymdriniaeth hon yn gweithio’n dda gan ei bod yn rhoi cyfle i aelodau’r tîm cydgynhyrchu fod yn rhan o’r holl gamau ymchwil i’r graddau yr oedden nhw eu hunain yn ei ddymuno.
Fodd bynnag, roedd teimlad bod y dull hwn o ymdrin â chydnabyddiaeth hefyd yn arwain at fwy o ymrwymiad amser. Arweiniodd hyn at rai pryderon ynghylch llwythi gwaith beichus yn enwedig i Gadeiryddion Tasglu a oedd yn cyflawni eu rolau o fewn y prototeip ochr yn ochr â rolau a chyfrifoldebau eraill. Dylid nodi hefyd bod y rhan fwyaf o Gadeiryddion y Tasglu a oedd yn rhan o'r tîm cydgynhyrchu hefyd yn uniongyrchol gysylltiedig â phrosiectau ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol.
Mae data o’r cyfweliadau yn awgrymu bod hyfforddiant a dosbarthiadau meistr yn cael derbyniad da yn gyffredinol a bod rhai o'r dulliau adrodd straeon wedi helpu i atgyfnerthu ffyrdd newydd o feddwl am ddulliau ymchwil ac ymdriniaethau cydweithredol. Fodd bynnag, ni chafodd y sesiynau hyn dderbyniad cystal gan rai o’r Cadeiryddion Tasglu a oedd yn teimlo bod y sesiynau hyn yn gofyn am amser ac egni ychwanegol y tu hwnt i gwmpas y prototeip (a oedd eisoes yn gofyn am ymrwymiad amser mawr). Nodwyd hefyd y gallai peidio â chynnig taliad ariannol am eu cyfraniadau fod wedi cyfyngu ar eu hymgysylltiad yn y prototeip ac roedd teimlad bod rhai digwyddiadau cydnabyddiaeth yn docenistaidd.
Adnoddau ac amserlenni
Mae'r llenyddiaeth yn nodi y gall cydgynhyrchu fod yn broses gymhleth ac ailadroddus o ddysgu ac ymateb ar y cyd. Disgrifiwyd cydgynhyrchu fel dull o gyflawni ymchwil gymdeithasol fel un sy’n draul mawr ar adnoddau o safbwynt yr amser y mae’n rhaid i Gadeiryddion Tasglu a swyddogion Llywodraeth Cymru ei neilltuo ar gyfer y gwaith. Mae'r cyfweliadau’n awgrymu ei bod yn anodd rhagweld yn iawn faint o amser ac adnoddau fyddai eu hangen i gyflawni'r hyn y cytunwyd arno’n wreiddiol yn ystod camau cynllunio a chwmpasu'r gwaith, yn enwedig o ystyried bod cydgynhyrchu’n ffordd iteraidd o weithio. Fe wnaeth amserlenni'r prosiect ymestyn y tu hwnt i’r amser a ragdybiwyd ar y dechrau, a chyflwynwyd y prosiect dros gyfnod o 18 mis yn hytrach na'r amcangyfrif cychwynnol o 6 mis ac roedd gofyn i’r tîm cydgynhyrchu gyfarfod yn aml iawn.
O ystyried bod hon yn ffordd newydd o weithio i'r ymchwilwyr GSR oedd yn cymryd rhan a'i fod yn brototeip, cafodd gwahanol ddulliau hwyluso eu profi yn ystod y cam cwmpasu. Roedd teimlad bod hyn wedi arafu pethau ac wedi arwain at oedi o ran sefydlu ffyrdd effeithiol o weithio, cytuno ar gwmpas yr ymchwil a sefydlu ymddiriedaeth ymysg aelodau’r tîm cydgynhyrchu. Roedd rhai yn dweud y cymerodd amser i sefydlu cyd-ddealltwriaeth o ddisgwyliadau unigol o'r broses gydgynhyrchu, yn enwedig wrth symud o ddull ymgynghori mwy traddodiadol at gydgynhyrchu lle caiff penderfyniadau eu cytuno ar y cyd. Roedd hyn wedi cael effaith anfwriadol ar amserlenni a chyflawniad y prosiect.
Roedd y tîm cydgynhyrchu’n cytuno â’r nod o gyhoeddi'r ymchwil cyn lansio’r ymgynghoriad ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl i sicrhau y gallai unrhyw dystiolaeth a gynhyrchwyd ar y cyd lywio ymatebion i'r ymgynghoriad. Barnwyd fod hyn wedi cael effaith bellach ar amserlenni'r prosiect wrth geisio cydamseru cyflwyniad y prototeip gyda menter arall gan Lywodraeth Cymru ar yr un pryd.
Fel y nodwyd uchod, roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn teimlo bod yr uchelgais o ran yr hyn y gellid yn realistig ei gyflawni o fewn yr adnoddau a'r amserlenni oedd ar gael o bosibl wedi'u goramcangyfrif ar ddechrau'r prototeip. Fodd bynnag, gellid ystyried hefyd bod hyn yn rhan o fethodoleg iteraidd a chyfranogol.
Wrth i amserlenni ymestyn, dargyfeiriwyd adnoddau ac ni chyflawnwyd rhai elfennau o'r dyluniad ymchwil fel y cynlluniwyd, gan gynnwys digwyddiad trafod. Arweiniodd hyn at siom i rai aelodau o'r tîm cyd-gynhyrchu oherwydd na chafodd eu disgwyliadau cychwynnol eu bodloni.
Dylid cydnabod bod swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am gyflawni ystod o brosiectau gyda blaenoriaethau ymchwil cydraddoldeb eraill ar wahân i'r prosiect cydgynhyrchu, gyda hyn hefyd o bosibl wedi effeithio ar amserlenni a chyfyngiadau adnoddau’r prototeip. Fe gafwyd mwy o adnoddau yn ystod cyflwyniad y prototeip wrth i amserlenni gael eu hymestyn. Fodd bynnag, nodwyd nad yw cynyddu adnoddau o reidrwydd yn creu’r amodau cywir ar gyfer llwyddiant mewn cydgynhyrchu o ystyried ei natur iteraidd. Mae ymgysylltiad cadarnhaol aelodau'r tîm cydgynhyrchu sydd â'r sgiliau, yr arbenigedd a'r rhwydweithiau perthnasol hefyd yn angenrheidiol i sicrhau bod y prosiect yn parhau i symud yn ei flaen. Mae'r bennod nesaf yn ystyried rôl perthnasoedd mewn cydgynhyrchu.
