Cydgynhyrchu yn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth: ymchwil gwersi a ddysgwyd o brototeip cydweithredol Llywodraeth Cymru a'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl - Pŵer perthnasoedd mewn cydgynhyrchu
Nod yr ymchwil hon oedd asesu pa mor ymarferol oedd hi i gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar ddau brosiect cydweithredol sy'n archwilio argymhellion a gynigir gan y tasglu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Daeth pŵer pobl â’i gilydd a chyfraniadau unigol i’r ymchwil i'r amlwg fel thema gref ar draws y dystiolaeth. Roedd sut yr oedd pŵer yn cael ei rannu, a oedd yn cael ei rannu, a pha mor gyson oedd hyn ar draws gwahanol gamau’r ymchwil o fewn y prototeip a sut yr oedd hyn yn cael ei deimlo a’i gyfathrebu yn amrywio ym mhrofiadau aelodau’r tîm gydgynhyrchu. Teimlwyd bod gan ansawdd y perthnasoedd a sefydlwyd a'r graddau y rhannwyd cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau gysylltiad cryf â theimlad unigolion o fod wedi’u grymuso ac o’u lles cyffredinol. Mae'r profiadau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y bennod hon.
Perthnasoedd fel sail dros lwyddiant
Ystyriwyd fod meithrin perthnasoedd da yn ganolog i’r broses gydgynhyrchu. Mae'r llenyddiaeth yn nodi y dylai prosiectau cydgynhyrchu fod yn gydfuddiannol eu natur (Including ‘seldom heard’ views in research: opportunities, challenges and recommendations from focus groups with British South Asian people with type 2 diabetes gan Prinjha ac eraill, 2020, ar gael ar Springer Nature Link). Mae hyn yn golygu y dylai aelodau o brosiectau ymchwil a gydgynhyrchir weld manteision clir a pherthnasol i gydnabod eu cyfraniadau. Gall cynnig cyfleoedd i aelodau wella eu sgiliau helpu i fagu hyder a grymuso pobl i wella eu gallu i wneud beth bynnag sy'n bwysig iddyn nhw (From tokenism to empowerment: progressing patient and public involvement in healthcare improvement gan Ocloo and Matthews, 2016, ar gael ar BMJ Journals). Mewn perthynas gydgynhyrchu ddwyochrog, gall unigolion â phrofiad bywyd a'r rhai heb y profiad hwnnw i gyd elwa trwy ddysgu ffyrdd newydd o edrych ar broblemau ymchwil trwy ymwneud â gwahanol safbwyntiau (Inclusive Research in Health, Rehabilitation and Assistive Technology: Beyond the Binary of the ‘Researcher’ and the ‘Researched’ gan Layton ac eraill, 2022, ar gael ar MDPI journals).
Cafodd hyn hefyd ei adlewyrchu yn y dystiolaeth o’r cyfweliadau. Roedd ymchwilwyr heb brofiad o gael eu hanablu oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas yn cydnabod eu bod yn gallu cynhyrchu ymchwil well a sicrhau ymgysylltiad cryfach â phartneriaid ymchwil a chyfranogwyr oherwydd y profiadau dysgu a gafwyd o'r prototeip. Cydnabuwyd hefyd y gellir rhannu dysgu torfol sy’n deillio o ymgysylltu â gwahanol safbwyntiau ar draws y proffesiwn GSR. Nododd ymchwilwyr cymdeithasol y gallai hyn lywio’n gadarnhaol brosiectau ymchwil cymdeithasol y dyfodol i ystyried cydraddoldeb a chynnwys profiad bywyd yn y cylch ymchwil.
Mae'r llenyddiaeth yn nodi bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol yn hanfodol i gyd-greu amgylchedd lle mae gan bob parti lais. Mae'n awgrymu na fydd pawb o reidrwydd yn cael y gair olaf mewn cydgynhyrchu, ond dylai'r bobl sydd â gwybodaeth am bwnc penodol fod yn rhan o wneud penderfyniadau. O fewn y tîm cydgynhyrchu, daeth pob un o Gadeiryddion y Tasglu â phrofiad ac arbenigedd sylweddol ar gyfer gwella meysydd polisi sy’n gysylltiedig ag anabledd. Roedd hyn yn cefnogi cyflwyno’r prototeip ac yn gwella ansawdd yr ymdriniaeth. Er enghraifft, roedd gan aelodau o'r tîm cydgynhyrchu eisoes berthnasoedd gwaith a ystyriwyd yn gryfder i'r prototeip. Dywedwyd fod cydgynhyrchu hefyd yn galluogi pobl i ddatblygu rhwydweithiau a mewnwelediadau newydd. Gwelwyd fod hyn yn gweithio’n arbennig o dda i bobl sy’n ffynnu wrth gydweithio.
Mae’r dystiolaeth o’r cyfweliadau yn awgrymu bod eglurder ynghylch rolau o fewn y tîm cydgynhyrchu, cyd-ymddiriedaeth a chyd-gyfnewidiaeth hefyd yn cael eu hystyried yn elfennau sy’n galluogi’r prosiect. Ar gyfer prosiectau ymchwil y Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol, cytunwyd ar rolau a chyfrifoldebau yn ystod y camau cwmpasu i gynnwys pwy fyddai'n arwain ar dasgau ymchwil fel gwaith maes, dadansoddi ac adrodd. Fodd bynnag, dywedodd rhai aelodau bod angen mwy o eglurder ynghylch rolau, yn enwedig os oedd newidiadau staff ac aelodau newydd yn ymuno â'r tîm cydgynhyrchu ar gamau diweddarach. Amlygwyd diffyg eglurder ynghylch rolau penodol o fewn y tîm fel rhwystr rhag sefydlu cyd-ymddiriedaeth.
Fel yr amlinellwyd yn y bennod flaenorol, Llywodraeth Cymru oedd yn arwain ar reoli prosiect ac adnoddau. Roedd rhai o swyddogion Llywodraeth Cymru yn teimlo bod rheoli newid (er enghraifft, yn ystod newidiadau i gwmpas neu ddyluniad ymchwil) yn heriol ar adegau o ystyried natur iteraidd cydgynhyrchu. Ni chafod pob elfen o ddyluniad gwreiddiol yr ymchwil ei gyflawni fel y bwriadwyd, yn enwedig wrth i amserlenni gael eu hymestyn. Ystyriwyd bod sicrhau bod aelodau'r tîm cydgynhyrchu’n cael gwybod am unrhyw newidiadau yn ffordd o reoli unrhyw newidiadau a lliniaru unrhyw broblemau a allai godi. Pan nad oedd hyn yn digwydd neu os nad oedd yn digwydd yn ddigon buan roedd yn arwain at fethiant mewn cyfathrebu rhwng aelodau'r tîm cydgynhyrchu a theimladau o allgáu neu rwystredigaeth i rai. Roedd bod yn dryloyw ynghylch unrhyw newid a nodi cyfleoedd ar gyfer deialog yn bwysig er mwyn sicrhau cyfathrebu clir ac effeithiol ac i drafod unrhyw bryderon, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth dros amser.
Cydbwysedd pŵer a’r pethau sy’n galluogi ac yn rhwystro rhag grymuso
Mae Pestoff (Co-production and Third Sector Social Services in Europe: Some Concepts and Evidence, 2012, ar gael ar Cambridge University Press) yn pwysleisio'r angen i fynd i'r afael yn uniongyrchol ag anghydbwysedd pŵer mewn cydgynhyrchu. Mae'n dadlau bod hyn yn gofyn am strategaethau bwriadol i sicrhau bod lleisiau pobl anabl nid yn unig yn cael eu clywed ond hefyd yn cael effaith ystyrlon ar wneud penderfyniadau a chanlyniadau. Roedd barn ymhlith cyfranogwyr yn gymysg o ran i ba raddau y dosbarthwyd pŵer ar draws y camau ymchwil. Gwelai rhai cydgynhyrchwyr bod cynnydd yn digwydd tuag at bŵer wedi’i rannu, er bod eraill yn teimlo bod cydgynhyrchu mewn sefyllfa llywodraeth yn cyfyngu ar bartneriaeth go iawn.
Fel y trafodwyd yn y bennod flaenorol, cynlluniwyd a hwyluswyd cyflwyniad y prototeip mewn ffordd sy'n anelu at fod yn werthfawr gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer grymuso aelodau’r tîm cydgynhyrchu a rhoi cyfle iddynt gael dylanwad ar y cyd ar draws pob cam ymchwil. Er enghraifft, cydgynlluniodd a chydgyflwynodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu dri dosbarth meistr a gyflwynwyd gan arbenigwyr academaidd ar hawliau pobl anabl a chydgynhyrchu. O ganlyniad i hyn cyflwynwyd sesiynau hyfforddi ar-lein mewn dulliau cydgynghori, ymchwilio gwerthfawrogol, adrodd straeon a hwyluso. Yn ogystal, rhoddodd diwrnod ‘cwrdd i ffwrdd’ gyfle i rwydweithio wyneb yn wyneb, dathlu cyflawniadau a dylanwadu ar ddyluniad yr ymchwil hwn i wersi a ddysgwyd. Dangosodd y dystiolaeth fod y tîm cydgynhyrchu wedi dangos ymgysylltiad uchel a pharodrwydd i addasu a gweithio trwy heriau gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion ymarferol i unrhyw broblemau sy'n codi.
Er gwaethaf bwriadau da o ran cytuno ar y nodau a'r weledigaeth gydgynhyrchu ar gyfer y prototeip, nid oedd pob penderfyniad wedi'i wneud yn gyfartal ar draws pob cam ymchwil. I rai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu roedd diffyg eglurder ynghylch rôl swyddogion polisi eraill y tu allan i'r prosiect, ynghyd â newidiadau i gwmpas y prototeip oherwydd llithriadau yn yr amserlen, yn codi pryderon. Yn y cyfweliadau, myfyriodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu ynghylch a yw'n bosibl rhannu pŵer yn gyfartal ar draws pob cam o brosiect GSR. Efallai bod pŵer a rennir wedi bod yn arbennig o heriol i'w wireddu gan mai swyddogion Llywodraeth Cymru oedd yn arwain ar reoli’r prosiect ac yn gyfrifol am roi cymeradwyaeth derfynol i ddogfennau’r prosiect megis canllawiau pwnc, hysbysiadau preifatrwydd ac adroddiadau drafft.
Roedd myfyrdodau ynghylch a oedd swyddogion Llywodraeth Cymru bob amser yn cyflawni cydbwysedd o ran gweithio mewn partneriaeth gyfartal a chadw at weledigaeth y prototeip, yn enwedig wrth i amserlenni gael eu hymestyn. Dywedwyd bod hyn ar adegau yn creu tensiwn i swyddogion Llywodraeth Cymru, a oedd yn ceisio osgoi rhoi gormod o faich ar Gadeiryddion Tasglu ac ymddangos fel pe baent yn arwain yn rhy gryf, gan hefyd gynnwys holl aelodau'r tîm cydgynhyrchu wrth wneud penderfyniadau yr un pryd.
Roedd teimlad bod rhannu pŵer yn gysylltiedig â theimladau o gynhwysiant. Dywedodd rhai bod ymdeimlad cryf o gynhwysiant trwy gydol y prototeip, tra bod eraill yn myfyrio ynghylch anghydbwysedd pŵer amlwg ar adegau a arweiniodd at deimlad o ddiffyg cynhwysiant a gwerthfawrogiad ymysg rhai. O ystyried bod 2 rwydwaith sefydledig wedi ffurfio'r tîm cydgynhyrchu ar y dechrau (Cadeiryddion Tasglu a swyddogion Llywodraeth Cymru), cyfeiriodd rhai o aelodau'r tîm yn y cyfweliadau at deimlad o 'ni a nhw' ar adegau. Mae’n bosib bod hyn wedi’i wneud yn waeth oherwydd mai swyddogion Llywodraeth Cymru oedd yn arwain ar weithgareddau rheoli prosiect fel y trafodwyd yn y bennod flaenorol. Soniodd rhai Cadeiryddion Tasglu eu bod yn teimlo bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn 'gadael iddyn nhw' gymryd rhan, ac er y pwysleisiwyd fod hon yn agwedd gadarnhaol o ran mynd ati’n gydgynhyrchiol, mae o bosibl hefyd yn dangos ymdeimlad bod gan swyddogion Llywodraeth Cymru fwy o rym o'r cychwyn cyntaf. Yn ogystal, roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu yn dweud eu bod yn aml yn teimlo’u bod yn cael eu gweld dim ond fel swyddogion llywodraeth ac nid o reidrwydd fel pobl anabl eu hunain. Cydnabuwyd yn y dystiolaeth o gyfweliadau fod gwir barodrwydd i oresgyn unrhyw densiynau a gododd yn ystod y prototeip er mwyn cytuno ar atebion ar y cyd.
Llesiant a chefnogaeth
Oherwydd bod y broses gydgynhyrchu’n ffordd ailadroddus a chydweithredol o weithio, mae angen cydnabod yr effaith bosibl ar les ac anghenion cefnogi’r unigolion sy'n cymryd rhan.
Fel y disgrifiwyd yn y bennod flaenorol, roedd y prototeip cydgynhyrchu’n gofyn am lawer o adnoddau ar adegau. Dangosodd y dystiolaeth o’r cyfweliadau fod potensial i natur y broses gydgynhyrchu a'r pynciau ymchwil ysgogi emosiynau. Roedd rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu’n teimlo bod hyn wedi cael cost emosiynol arnyn nhw ar adegau. Roedd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu’n teimlo bod y prosiect yn eu sbarduno ac yn eu grymuso ond roedd eraill yn teimlo wedi’u llethu ar adegau. Roedd y profiadau a gafodd eu rhannu yn dangos bod lle wedi’i greu ar gyfer trafodaeth a myfyrio. Rhannodd rhai o Gadeiryddion y Tasglu eu profiad o deimlo'u bod yn gallu siarad yn agored a’u bod yn gwerthfawrogi proses a pherthnasoedd gwaith a oedd yn rhoi lle i hyn.
Mae'r dystiolaeth o’r cyfweliadau yn awgrymu bod pwysau a baich emosiynol yn cael eu profi'n wahanol ymhlith aelodau o'r tîm cydgynhyrchu. Roedd rhai o ymchwilwyr Llywodraeth Cymru yn teimlo pwysau i beidio â gadael aelodau eraill o'r tîm i lawr ac i sicrhau bod yr ymchwil yn cyd-fynd â'u disgwyliadau, er nad oedd hyn bob amser yn cael ei gyflawni. Dywedodd rhai o swyddogion Llywodraeth Cymru eu bod yn teimlo pwysau i ddarparu allbwn gweladwy ac i gadw i fyny â chyflymder y cyflwyno i sicrhau bod y dystiolaeth yn cyd-fynd â'r cyd-destun polisi ehangach.
Yn yr un modd, soniodd rhai Cadeiryddion Tasglu am deimladau o fod wedi’u gorlethu ar adegau, gyda nifer y cyfarfodydd a drefnwyd yn cael ei nodi fel y rheswm dros hyn i raddau helaeth. Mae ychydig o wahaniaeth rhwng teimladau Cadeiryddion y Tasglu hynny a oedd yn cyfrannu fel rhan o'u rolau proffesiynol a'r rhai a oedd yn gwirfoddoli eu hamser. Soniodd y rhai hynny a oedd yn rhoi amser o’u rolau proffesiynol ei bod yn anodd cadw i fyny â gofynion y prosiect ochr yn ochr â gofynion eu rolau a'u cyfrifoldebau eraill.
Mae'r dystiolaeth o’r cyfweliadau yn tynnu sylw at densiwn a brofir weithiau gan Gadeiryddion Tasglu rhwng bod eisiau bod mor gysylltiedig â phosibl (gan gynnwys mynychu pob cyfarfod) a bod â digon o gapasiti ac amser i gyfrannu, yn enwedig o ystyried eu rolau mewn cynrychioli pobl anabl. Yn ogystal, roedd y dystiolaeth hefyd yn dangos tensiwn cynhenid ymysg aelodau'r tîm a oedd yn arwain ar reoli prosiectau i sicrhau cynhwysiant ystyrlon i bob cydgynhyrchydd bob amser, ar yr un pryd â cheisio osgoi gorlethu unrhyw unigolion gyda galwadau cyflawni’r prosiect.
Arweiniodd unrhyw bryderon ynghylch llwyth gwaith gormodol i unrhyw aelodau o’r tîm cydgynhyrchu at gamau i liniaru hynny dros amser, a oedd yn cynnwys cyflwyno calendr o weithgareddau ymlaen llaw, ceisio cyfyngu ar nifer y cyfarfodydd ac annog rhannu cyfraniadau all-lein pan fo angen. Trefnwyd cyfarfodydd gwirio lles hefyd os oedd angen i gefnogi cydgynhyrchwyr. Cynhwyswyd gwyliau'r haf a'r Nadolig hefyd wrth gynllunio’r prototeip, gyda'r arweinydd rheoli prosiect yn anelu at sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo wrth adolygu dogfennau’r prosiect ar gyfnodau prysur. Tua diwedd y prototeip, cytunwyd y dylai Llywodraeth Cymru symud at ddull mwy ymgynghorol er mwyn lleihau llwythi gwaith ac ymrwymiad amser beichus. Roedd hyn yn cynnwys cytundeb bod elfen ‘gwersi a ddysgwyd’ y prototeip yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru.
O ystyried bod y prototeip hwn yn dibynnu ar berthnasoedd a phartneriaethau gwaith, roedd enghreifftiau hefyd o’r cyfweliadau bod rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu’n teimlo pwysau i sicrhau bod pob aelod o'r tîm yn cael eu cefnogi'n dda. Rhannodd aelodau'r tîm cydgynhyrchu lawer o enghreifftiau o empathi a chefnogaeth, gan ddisgrifio sut y rhoddodd y prototeip gyfle iddynt ddysgu ar y cyd sut i gydweithio a deall y naill a’r llall yn well. I lawer o aelodau’r tîm cydgynhyrchu, sefydlu perthnasoedd gwaith cadarnhaol newydd oedd un o brif gyflawniadau'r prototeip, er gwaethaf unrhyw heriau a wynebwyd, ac ystyriwyd fod hyn yn ganlyniad cadarnhaol a fydd yn parhau y tu hwnt i’r prototeip.
Roedd myfyrdodau o'r cyfweliadau’n cynnwys sut y gallai prototeip cydgynhyrchu fel hwn wneud defnydd mwy effeithlon o amser yn y dyfodol a sut i werthfawrogi'n well yr amser a roddir gan y rhai sy'n cymryd rhan. Pwysleisiodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu fod cydnabyddiaeth ddigonol yn rhan bwysig o werthfawrogi eu cyfraniadau.
Cafwyd enghreifftiau cadarnhaol cyffredin o gefnogaeth ar draws y tîm ac o rannu gwybodaeth a sgiliau er mwyn sicrhau bod y prototeip yn symud yn ei flaen. Fodd bynnag, dywedwyd bod angen mwy o gefnogaeth neu gyngor penodol ar gyfer unrhyw brosiectau ymchwil a fydd yn cael eu cydgynhyrchu yn y dyfodol. Dylai'r gefnogaeth hon helpu ymchwilwyr i ymgynghori ar unrhyw faterion nad ydynt yn teimlo’n hyderus yn eu cylch, yn enwedig wrth ymgymryd â methodolegau cyfranogol neu gydgynhyrchiol a gweithio mewn ffordd sy'n cadw at y model cymdeithasol o anabledd.
