Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ac arweiniad i weithwyr y gwasanaethau cyhoeddus ynghylch ymdrin ag achosion tybiedig o gam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae pobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn debygol o ddod i gysylltiad â phobl sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n bwysig eu bod yn gwybod beth i'w wneud.

Hyfforddiant

Gall y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ddarparu hyfforddiant o ran:

  • dealltwriaeth sylfaenol o beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • sut i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr
  • cyfathrebu'n sensitif â dioddefwyr.

Adrodd am achosion

Ffoniwch 999 os yw'n argyfwng neu fod yr unigolyn mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd i’r unigolyn.

Mae cam-drin domestig neu drais yn drosedd a dylid rhoi gwybod i'r heddlu amdano. Mae'r heddlu'n cymryd cam-drin domestig o ddifrif a byddant yn gallu helpu a diogelu dioddefwyr.

Dewis eich cleient yw p'un a ydynt am ddweud beth sydd wedi digwydd iddyn nhw wrth yr heddlu. Fodd bynnag, os yw'ch cleient o dan 18 oed, yn oedolyn agored i niwed neu os oes risgiau i'r cyhoedd yn gyffredinol yn gysylltiedig â'r achos, dylech geisio cyngor gan eich tîm diogelu lleol neu'r heddlu.

I gael cyngor a chefnogaeth, os ydych chi neu rhywun yr ydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu anfonwch e-bost i gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru.

Rhoi cyngor i ddioddefwyr

Mae'n bwysig fod pob gweithiwr proffesiynol yn gallu atgyfeirio dioddefwyr yn briodol a'u bod yn gallu cynnig cyngor am ddiogelwch ar unwaith i'w cleientiaid. Mae hyn yn sail i lunio cynllun diogelwch mwy manwl a allai gynnwys y canlynol:

  • sicrhau bod y cleient yn gwybod y dylai ffonio 999 mewn argyfwng
  • cadw manylion gwasanaethau arbenigol lleol a llinell gymorth Byw Heb Ofn wrth law i'w rhannu â chleientiaid
  • cynghori cleientiaid i geisio cadw eu ffôn symudol wrth law bob amser
  • annog cleientiaid i gysylltu â gwasanaethau a all eu helpu nhw a'u plant.