Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir - Ynglŷn â'r gwerthwr (sefydliadau)
Canllawiau ar sut i lenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT) gan ddefnyddio gwasanaethau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Enw’r sefydliad
Rhowch enw cyfreithiol cofrestredig y gwerthwr.
Os yw enw'r prynwr yn hirach na’r lle sydd ar gael, defnyddiwch dalfyriadau.
Enw masnachu’r sefydliad
Rhowch enw masnachu'r gwerthwr. Os oes gan y prynwr fwy nag un enw masnachu, rhowch yr enw masnachu sy’n cael ei ystyried yr un sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf neu sy’n fwyaf adnabyddus.
Os yw’r enw masnachu’n hirach na'r lle sydd ar gael, defnyddiwch dalfyriadau.
Cyfeiriad y sefydliad
Rhowch y cyfeiriad lle gallwn ysgrifennu at y prynwr ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad tir i rym.
Defnyddiwch ‘chwilio cyfeiriad’ i ddod o hyd i’ch eiddo fel bod gennym ddata cywir. Os na allwch chi ddod o hyd i’r cyfeiriad drwy ‘chwilio cyfeiriad’, gallwch ei roi i mewn eich hun.