Neidio i'r prif gynnwy

Absenoldeb tymor byr

Dylai awdurdodau lleol ystyried darpariaethau mewn cytundebau cartrefi symudol sy'n caniatáu ar gyfer absenoldebau tymor byr a threfniadau meddiannaeth dros dro. Gall y rhain adlewyrchu arferion diwylliannol cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys symudiadau tymhorol. Dylid diffinio cyfnodau absenoldeb yn glir a'u cyfleu, gyda disgresiwn i’w hymestyn lle bo hynny'n rhesymol. Gall trefniadau dros dro hefyd fod yn briodol yn ystod sefyllfaoedd o argyfwng, yn amodol ar ystyriaethau ymgynghori a diogelu.

Dylid caniatáu rhai cyfnodau o absenoldeb o lain breswyl yn y cytundeb cartref symudol. Dylai preswylwyr wybod am faint o amser y caniateir iddynt fod yn absennol o’r llain.

Dylai preswylwyr roi gwybod i reolwr y safle pan fyddant yn bwriadu cael cyfnodau i ffwrdd o’r safle. Yn ystod cyfnodau o absenoldeb, dylai preswylwyr barhau i dalu ffioedd am leiniau a ddyrannwyd ac ni ddylai eu lleiniau gael eu hailddyrannu i eraill.

Os bydd preswylwyr yn torri’r cytundeb sy’n ymwneud â hyd absenoldeb tymor byr o’r safle, er enghraifft, ymestyn eu cyfnod o absenoldeb y tu hwnt i’r hyn y cytunwyd arno heb hysbysu rheolwr y safle, dylai’r awdurdod lleol ymchwilio i'r rhesymau dros hyn. Pan fo awdurdod lleol yn fodlon nad yw'r preswylydd yn meddiannu'r cartref symudol fel eu hunig breswylfa neu eu prif breswylfa, a bod yr awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn rhesymol terfynu'r cytundeb, gallant wneud cais i dribiwnlys am orchymyn i'r perwyl hwnnw.

Pennir y cyfnod hwyaf o absenoldeb tymor byr a ganiateir yn ôl disgresiwn yr awdurdodau lleol, ond dylid ystyried hwyluso absenoldeb ar gyfer arferion diwylliannol traddodiadol yn y penderfyniad hwn. Gellid hefyd ystyried alinio’r cyfnod o absenoldeb a ganiateir â’r cyfnod a ganiateir at ddibenion budd-dal tai, sef uchafswm cyfnod o 13 wythnos o fewn un flwyddyn galendr. Mae gan yr awdurdod lleol ddisgresiwn i ymestyn y cyfnod hwn, os ydynt yn dymuno, ond dylid rhoi gwybod i breswylwyr, hyd yn oed os nad yw eu taliadau budd-dal tai yn parhau i gael eu talu, bod yn rhaid talu’r ffioedd am y llain.

Ymwelwyr

Mae gan breswylwyr y safle hawl i groesawu ymwelwyr (a’u cartrefi symudol os oes lle iddynt) ar eu llain am gyfnod dros dro, ond ni ddylai ymwelwyr geisio defnyddio’r llain yn barhaol. Ni ddylid caniatáu cartrefi symudol sy’n eiddo i ymwelwyr (nid rhai sy’n aros am ganlyniadau cais am lain) ar unrhyw leiniau gwag ar safle. Mae’r preswylydd yn gyfrifol am yr holl ymwelwyr â’u llain a gall cytundebau cartrefi symudol nodi y gallent fod yn atebol am unrhyw ddifrod y mae eu hymwelwyr yn ei achosi.

Pan fo’n bosibl, dylai preswylwyr roi gwybod i reolwr y safle eu bod yn disgwyl ymwelwyr sy’n dod â’u carafannau eu hunain ac a allai aros dros nos neu’n hirach.

Dylai’r preswylwyr nodi faint o amser y mae’r ymwelwyr yn bwriadu aros a dylai rheolwr y safle sicrhau bod yr ymwelwyr yn gadael ar amser. Gall awdurdodau lleol ystyried bod uchafswm arhosiad o bedair wythnos yn olynol gan ymwelwyr yn rhesymol, ar yr amod bod lleiniau ar gael i ymwelwyr, er y gallai cyfnod byrrach fod yn fwy priodol os yw safleoedd yn orlawn.

Os yw safleoedd yn orlawn, gall carafannau ychwanegol achosi pryderon iechyd a diogelwch neu dân. Felly, dylai rheolwr y safle esbonio i’r preswylwyr pam y gallai fod angen cyfyngu ar nifer y cartrefi symudol a ganiateir ar y safle ar unrhyw adeg.

Anifeiliaid

Dylid caniatáu i anifeiliaid anwes domestig (cŵn, cathod ac ati) fyw gyda phreswylwyr ar y safle. Yn achos cŵn, rhaid nodi perchnogaeth yn briodol, a rhaid i anifeiliaid gael eu rheoli’n briodol yn y llain bob amser. Gallai’r awdurdod lleol ystyried ei bod yn briodol cynnwys darpariaeth yn y cytundeb cartref symudol y gallai unrhyw anifeiliaid ychwanegol y gall defnyddiwr eu caffael ar ôl cytuno ar y cytundeb olygu torri'r cytundeb oni chafwyd cytundeb rheolwr y safle ymlaen llaw.

Gall y cytundeb ganiatáu i anifeiliaid ychwanegol gael eu cadw am gyfnod byr, er enghraifft gellid darparu lle ar gyfer torllwyth o gŵn bach, ond dylid cytuno ar derfyn amser rhesymol ar gyfer eu hailgartrefu.

Ni chaniateir cŵn peryglus, o fewn diffiniad Deddf Cŵn Peryglus 1991, o fewn ffiniau’r safle. Os yw rheolwyr safle’n poeni am unrhyw anifeiliaid ar y safle, dylid rhoi gwybod i’r awdurdodau priodol. Gellir cael canllawiau pellach o Godau Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceffylau, Cathod a Chŵn sydd ar gael yn y  Cod Ymarfer ar gyfer Sefydliadau Lles Anifeiliaid (2020).

Ni ddylai awdurdodau lleol ganiatáu cadw ceffylau ar leiniau nad ydynt yn addas at y diben hwnnw, a dylid cynnwys hyn fel amod penodol mewn cytundebau cartrefi symudol lle bo angen. Efallai y bydd pryderon iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â cheffylau ar leiniau anaddas ac efallai y byddant hefyd yn amharu ar gyfleusterau a rhannau cymunedol o’r safle ac yn achosi difrod iddynt.

Tir pori

Rhaid i breswylwyr wneud eu trefniant preifat eu hunain ar gyfer unrhyw dir pori neu stablau sydd eu hangen arnynt, boed hynny gyda’r awdurdod lleol neu landlord preifat. Os yw’r awdurdod lleol yn gallu darparu tir i breswylwyr (am gost ychwanegol) wrth ymyl y safle, dylai fod ganddo ffin glir a diogel a gatiau diogel.

Mae gan Sipsiwn a Theithwyr draddodiadau diwylliannol cryf o gadw ceffylau ac mae rhai aelodau o’r gymuned yn dweud eu bod wedi dioddef gwahaniaethu wrth geisio cael mynediad at dir pori addas ar gyfer eu ceffylau. Anogir awdurdodau lleol i ystyried argaeledd a darpariaeth tir pori sy’n eiddo cyhoeddus wrth nodi safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd lle bo hynny’n bosibl

 Efallai y bydd awdurdodau lleol hefyd yn dymuno ystyried cynnig y defnydd o dir yn eu hystad eu hunain ar gyfer lesoedd pori tymor byr.

Gweithio ar safleoedd awdurdodau lleol

Efallai y bydd rhai Sipsiwn a Theithwyr yn dymuno rhedeg eu busnesau o’u llain. Dan adran 56 o Ddeddf 2013, caiff awdurdod lleol wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn ddymunol mewn perthynas â darparu safle, gan gynnwys darparu gofod a chyfleusterau gweithio i’r preswylwyr i’w galluogi i gyflawni’r mathau o weithgareddau a gyflawnir ganddynt fel arfer.

Os nad oes mannau gweithio na chyfleusterau penodol ar gael ar safle, dylai’r awdurdod lleol ystyried yn ofalus a yw’n briodol caniatáu i breswylwyr wneud gwaith o’u llain. Efallai y bydd pryderon iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â rhai mathau o waith sy’n cael ei wneud ar lain anaddas ac mae defnyddio unrhyw beiriannau trwm ar y safle yn debygol o achosi i’r ffyrdd ddirywio ac, o bosibl, beryglu preswylwyr eraill, yn enwedig plant.

Pan fydd awdurdodau lleol yn caniatáu gwaith ar lain, cyfrifoldeb rheolwr y safle a’r rheolwr gweithredol yw sicrhau bod y safle’n parhau i fod yn ddiogel i’r holl breswylwyr ac ymwelwyr eraill a bod unrhyw ofynion ychwanegol i ddiogelu eraill ar y safle wedi’u cynnwys mewn cytundeb.

Dylai awdurdodau lleol ystyried a oes angen cyfleusterau gweithio neu storio penodol ar gyfer anghenion busnes penodol y preswylwyr ar rannau ar wahân o’r safle neu a ellid yn rhesymol ddisgwyl i aelodau’r gymuned brydlesu eiddo masnachol gerllaw.

Er enghraifft, efallai y bydd angen ardaloedd penodol ar safleoedd Siewmyn Teithiol i storio a chynnal a chadw offer ffair. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y byddai gan ddeliwr metel sgrap sy’n gweithio fel casglwr symudol angen arbennig i storio metel sgrap ar ei lain ei hun.

Efallai y bydd perchnogion safleoedd awdurdodau lleol hefyd yn dymuno ystyried cynnwys telerau penodol mewn cytundebau lleiniau sy’n gwahardd defnyddio’r llain a/neu'r safle at ddibenion masnachol, lle bo hynny’n briodol.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen