Canllawiau ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr: crynodeb o’r ymatebion
Crynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar bob un o’r 4 canllaw ddrafft ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Y cyd-destun polisi
Mae Sipsiwn a Theithwyr yn parhau i wynebu gwahaniaethu a rhwystrau wrth geisio cael gafael ar wasanaethau a llety. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau hyn ac mae wedi ymrwymo i fynd i’r afael â nhw drwy ganllawiau clir ac ymarferol ac ymgysylltu ar y cyd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygiadau drafft i 4 canllaw sy’n adlewyrchu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i’r cymunedau hyn.
Y canllawiau sy’n cael eu hadolygu yw:
- Dylunio Safle Sipsiwn a Theithwyr
- Rheoli Safle Sipsiwn a Theithwyr
- Rheoli Gwersyll Diawdurdod
- Cynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA)
Nod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yw mynd i’r afael â hiliaeth systemig a strwythurol hirdymor erbyn 2030. Mae’r Cynllun yn cynnwys nifer o gamau gweithredu sy’n ceisio cefnogi cynhwysiant, cydraddoldeb a newid cadarnhaol i Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Mae’r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft yn ymateb i 2 gam gweithredu sy’n deillio o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol:
O’r bennod cartrefi a lleoedd:
- Cam gweithredu: ailddrafftio a symleiddio’r Canllawiau ar Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys aelodau o’r gymuned i adlewyrchu eu hanghenion.
O’r bennod ar droseddu a chyfiawnder:
- Cam gweithredu: diweddaru’r canllawiau Rheoli Gwersylla Diawdurdod, gan gynnwys aelodau o’r gymuned i adlewyrchu eu hanghenion.
Mae’r trosolwg hwn yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ac wrth ymgysylltu â’r gymuned.
Y Cyd-destun cyfreithiol
Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ystod o ddyletswyddau statudol tuag at gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan gynnwys cyfrifoldebau sy'n ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thai.
Mae'r dyletswyddau hyn yn deillio o ddeddfwriaeth megis Deddf Tai (Cymru) 2014, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu a bodloni anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr, yn ogystal â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y Deddfau Addysg, Deddf Cydraddoldeb 2010 a rhwymedigaethau ehangach o ran hawliau dynol.
Mae dilyn holl ganllawiau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni'r dyletswyddau hyn yn gyson ac mewn ffordd sy'n darparu cymorth teg a phriodol i deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy'n byw neu'n aros yn eu hardal.
Mae canllawiau 'Cynnal Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr' yn cefnogi awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau gwybodus a chyson, sy'n ymateb yn llwyr i'r anghenion llety a nodwyd yn eu Hasesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr ac yn helpu i osgoi'r risg o wersylloedd diawdurdod.
Bydd dilyn y canllawiau 'Dylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr' yn helpu i sicrhau bod safleoedd sipsiwn a theithwyr yr awdurdodau lleol yn cael eu dylunio gyda chyfranogiad gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr, a lle bo'n briodol, yn cyrraedd safonau sy'n cyfateb i'r rhai ar gyfer mathau eraill o safleoedd cartrefi symudol a thai cymdeithasol. Bydd y canllawiau hefyd yn helpu i sicrhau bod safleoedd yn cael eu dylunio mewn ffordd sy'n helpu meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng Sipsiwn a Theithwyr â'r gymuned sefydlog, a hefyd rhwng trigolion y safle a rheolwr y safle / yr awdurdod lleol.
Os yw safleoedd wedi'u dylunio'n wael, eu gadael mewn cyflwr gwael neu heb eu rheoli'n effeithiol, gall y costau o geisio cywiro problemau, a'r effaith a gafwyd ar gymunedau a thrigolion, fod yn uwch o lawer yn yr hir dymor.
Mae'r canllawiau 'Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr' yn nodi disgwyliadau clir ar gyfer rheoli safleoedd yn effeithiol, gan sicrhau eu bod yn ddiogel, yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda, a'u rheoli'n deg. Mae’n amlinellu cyfrifoldebau awdurdodau lleol a rheolwyr safleoedd, gan gynnwys trefniadau llywodraethu, gwaith cynnal a chadw rheolaidd, a gwiriadau diogelwch tân. Mae cyfathrebu ac ymgysylltu cryf yn allweddol, gyda chytundebau ysgrifenedig clir, prosesau cynefino, ac ymgynghoriadau er mwyn meithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng preswylwyr, rheolwyr, a'r gymuned ehangach.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio osgoi troeseddoli Sipsiwn a Theithwyr lle bynnag y bo modd, ac yn hytrach yn hyrwyddo dull cymesur sy'n seiliedig ar hawliau drwy'r canllawiau 'Rheoli Gwersylloedd Diawdurdod'. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi blaenoriaeth i ymgysylltu, asesiadau lles a thrafod datrysiadau, gan sicrhau mai dim ond fel opsiwn olaf y caiff camau gorfodi eu defnyddio, nid fel yr ymateb cyntaf. Mae dull Llywodraeth Cymru yn ceisio cydbwyso hawliau teuluoedd â hawliau tirfeddianwyr, gan gynnal tegwch, urddas a pharch at draddodiadau crwydrol.
Er bod deddfwriaeth y DU wedi cynyddu pwerau'r heddlu drwy Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn blaenoriaethu dulliau trafod a gwirio lles, gan helpu i amddiffyn teuluoedd rhag troseddoli diangen.
Gwybodaeth am yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn
Mabwysiadodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ddull gweithredu cyfun a oedd yn dwyn ynghyd ymgynghoriad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru ac ymgysylltiad uniongyrchol â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn sicrhau bod y 4 canllaw ddrafft ar gael i’r cyhoedd, gan roi gwybod i’r holl awdurdodau lleol, sefydliadau rhanddeiliaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a chyrff partner, am y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, gan amlinellu 6 chwestiwn i ymatebwyr roi adborth arnynt drwy sianeli sefydledig Llywodraeth Cymru.
Roedd hyn yn sicrhau bod rhanddeiliaid, awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n agos gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael cyfle clir i roi sylwadau ar y fersiynau arfaethedig.
Cyfnod ymgynghori â’r cyhoedd
Cyhoeddwyd canllawiau drafft ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus mewn 2 gam:
17 Chwefror 2025 i 19 Mai 2025:
3 Mawrth 2025 i 3 Mehefin 2025:
- Cynnal Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr (3 Mawrth 2025 i 3 Mehefin 2025)
- Rheoli Gwersylloedd Diawdurdod (3 Mawrth 2025 i 3 Mehefin 2025)
Gwybodaeth am y crynodeb hwn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
Trosolwg o ddata meintiol
Cafodd yr ymgynghoriad gyfanswm o 46 o ymatebion drwy lenwi’r ffurflenni ar-lein ar draws y pedwar canllaw.
Daeth yr ymatebion gan unigolion, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a sefydliadau. Cafodd pob un o'r ymatebion eu cyflwyno yn Saesneg, heb ddim un yn Gymraeg.
Proffil ymatebwyr
O’r 46 ymateb i’r 4 canllaw.
Dylunio Safle Sipsiwn a Theithwyr: Cafwyd 18 o ymatebion:
- 3 wedi dod gan unigolion
- 14 wedi dod gan sefydliadau neu gyrff eraill
- 1 wedi’i ddyblygu
Rheoli Safle Sipsiwn a Theithwyr: Cafwyd 14 o ymatebion:
- 5 wedi dod gan unigolion
- 7 wedi dod gan sefydliadau neu gyrff eraill
- 2 wedi’u dyblygu
Cynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr: Cafwyd 9 ymateb:
- 2 wedi dod gan unigolion
- 7 wedi dod gan sefydliadau neu gyrff eraill
- 0 wedi’u dyblygu
Rheoli Gwersyll Diawdurdod: Cafwyd 5 ymateb:
- 0 wedi dod gan unigolion
- 5 wedi dod gan sefydliadau neu gyrff eraill
- 0 wedi’u dyblygu
Mae rhestr lawn o’r ymatebwyr ar gyfer pob canllaw ar gael yn Atodiad A, ac eithrio’r rhai a ofynnodd am gael aros yn ddienw. Gofynnodd cyfanswm o 13 o ymatebwyr i gael aros yn ddienw.
Methodoleg yr ymgynghoriad cyhoeddus
Cafodd yr holl ymatebion eu hadolygu a’u codio.
Rhoddwyd dadansoddiad thematig i’r data ansoddol, gan nodi themâu sy’n codi dro ar ôl tro ar gyfer pob cwestiwn ac ar draws pob dogfen.
Gwybodaeth am yr ymgysylltu hwn â’r gymuned
Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad cyhoeddus, cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu helaeth â’r gymuned i sicrhau bod lleisiau cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr hefyd yn siapio’r gwaith o ddiwygio’r pedair dogfen ganllaw.
Gan gydnabod nad oedd dulliau ymgynghori traddodiadol bob amser yn hygyrch nac yn briodol, caffaelodd Llywodraeth Cymru randdeiliaid allanol drwy dendr agored i helpu i ymgysylltu â’r gymuned.
O fis Chwefror 2025 ymlaen, dyfarnwyd contractau i Sipsiwn a Theithwyr Cymru a Travelling Ahead (TGP Cymru) i ddarparu sesiynau ymgysylltu uniongyrchol gydag aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, drwy gydol yr haf i gasglu eu barn ar bedair dogfen ganllaw Llywodraeth Cymru.
Trosolwg o ddata meintiol
Dadansoddwyd data ansoddol gan ddefnyddio Dadansoddiad Thematig yn dilyn fframwaith chwe cham Braun a Clarke (2006), gan alluogi ymchwilwyr i nodi patrymau ym mhrofiadau cyfranogwyr yn systematig tra’n parhau i fod yn seiliedig ar eu geiriau eu hunain.
Methodoleg ymgysylltu â’r gymuned
Bu TGP Cymru a Sipsiwn a Theithwyr Cymru yn ymgysylltu dros 200 o weithiau ledled Cymru. Roedd yr ymgysylltu’n cynnwys cyfweliadau unigol, ymchwil ymhlith cymheiriaid, trafodaethau grŵp, a sesiynau gyda phobl ifanc. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys trigolion safleoedd awdurdodau lleol a phreifat, pobl sy’n byw mewn llety brics a morter, gwersylloedd ar ochr y ffordd, a theuluoedd sy’n teithio’n rheolaidd.
Roedd yr ymchwil a gynhaliwyd yn defnyddio dull ansoddol, aml‑ddull, a ddyluniwyd i fod yn ddiwylliannol briodol ac yn hygyrch i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Bu Sipsiwn a Theithwyr Cymru a TGP Cymru yn cydlynu gweithgareddau i ymgysylltu ar y pedwar canllaw gyda’i gilydd ochr yn ochr ag ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
Casglwyd data drwy:
- Gyfweliadau lled‑strwythuredig (wyneb yn wyneb neu dros y ffôn)
- Trafodaethau grŵp (gan gynnwys trafodaethau grŵp teuluol mewn cartrefi a sesiynau galw heibio)
- Grwpiau ffocws (gan gynnwys sesiynau penodol i bobl ifanc a hwylusir gyda chymorth gan y Gwasanaethau Addysg i Deithwyr ac, mewn un achos, ar y cyd â thîm y Comisiynydd Plant),
- Trafodaethau ymchwil wedi eu harwain gan gymheiriaid yn cael eu cofnodi’n ysgrifenedig a’u hysgrifennu gan aelod o’r gymuned.
Cynhaliwyd yr ymgysylltu wyneb yn wyneb gan staff dibynadwy yr oedd teuluoedd yn gwybod amdanynt, gan sicrhau cyfranogiad eang ar yr un pryd â helpu i oresgyn rhwystrau fel diffyg ymddiriedaeth, llythrennedd isel, mynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd, ac ofn prosesau ffurfiol.
Daeth nifer o themâu cyson i’r amlwg ar draws y pedair dogfen ganllaw:
Ymwybyddiaeth a hygyrchedd
Roedd gan lawer o’r cyfranogwyr ymwybyddiaeth gyfyngedig neu ddim ymwybyddiaeth o gwbl o’r canllawiau presennol na’u pwrpas. Mynegodd cymunedau’r angen i wybodaeth gael ei chyflwyno mewn iaith syml, mewn fformatau hygyrch (a allai gynnwys deunyddiau Hawdd eu Darllen a deunyddiau gweledol), a’i chyfleu drwy negeswyr dibynadwy yn hytrach na dogfennau ysgrifenedig yn unig.
Ymddiriedaeth ac atebolrwydd
Tynnodd y cyfranogwyr sylw at arferion anghyson, diffyg canlyniadau gweladwy, a phrofiadau personol o barcio, a arweiniodd at ddulliau gorfodi, mewn perthynas â gwersylloedd heb eu hawdurdodi. Galwodd cymunedau am fesurau atebolrwydd cliriach a chyfathrebu mwy tryloyw ynghylch penderfyniadau, cyfrifoldebau ac amserlenni.
Cynhwysiant a chynrychiolaeth
Dywedodd cymunedau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio o brosesau gwneud penderfyniadau. Roedd galwadau cryf am ymgysylltu parhaus, nid dim ond ymgyngoriadau untro, ac am gynnwys menywod, pobl ifanc, aelwydydd brics a morter, ac aelwydydd cudd yn ehangach. Pwysleisiodd y cyfranogwyr yr angen am gynrychiolaeth Sipsiwn a Theithwyr ar grwpiau cynghori neu lywio, gyda thâl teg am eu hamser a’u gwybodaeth.
Hunaniaeth ddiwylliannol a’r hawl i deithio
Roedd diogelu hunaniaeth ddiwylliannol, nomadiaeth a ffyrdd traddodiadol o fyw yn ganolog i’r ymatebion. Disgrifiodd cyfranogwyr rwystrau cynyddol i deithio, yn gysylltiedig â llai o fannau aros a dull gorfodi yn gyntaf. Roedd llawer yn ffafrio mannau aros syml a sylfaenol dros safleoedd tramwy ffurfiol, ac yn tynnu sylw at y ffaith bod pwysau i symud i dai yn tanseilio ymreolaeth ddiwylliannol.
Cydraddoldeb, hawliau a chysondeb
Er bod croeso i’r dull gweithredu trosfwaol sy’n seiliedig ar hawliau, pwysleisiodd cymunedau bwysigrwydd trosi egwyddorion yn ymarfer cyson ar lawr gwlad. Tynnodd y cyfranogwyr sylw at yr angen am staff sy’n ddiwylliannol gymwys, gwell aliniad â deddfwriaeth hawliau plant a chydraddoldeb, a llwybrau clir at gael gafael ar gymorth.
Adborth penodol i bob dogfen ganllaw
Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
Roedd yr adborth ar y canllawiau ‘Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’ yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â gorfodi rheolau anghyson, cyfathrebu gwael, a diffyg tegwch o ran sut mae safleoedd yn cael eu rhedeg. Soniodd llawer o breswylwyr am broblemau hirsefydlog gyda chynnal a chadw safleoedd, gan ddisgrifio gwaith atgyweirio araf neu annigonol a diffyg prosesau clir ar gyfer rhoi gwybod am broblemau. Roedd teimlad yn aml bod systemau dyrannu lleiniau yn aneglur neu’n annheg, gan gyfrannu at orlenwi. Pwysleisiodd cymunedau fod yn rhaid i reolwyr safle fod wedi eu hyfforddi, yn ddiwylliannol gymwys, yn deg ac yn hawdd mynd atynt, gyda dealltwriaeth gyson o ffyrdd o fyw Sipsiwn a Theithwyr. Roedd preswylwyr eisiau systemau cliriach a mwy tryloyw ac ymgysylltu mwy ystyrlon â phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt, gan gynnwys cymryd rhan mewn rheoli safleoedd a chyfathrebu rheolaidd gan awdurdodau lleol.
Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
Roedd yr adborth ar y canllawiau ‘Rheoli Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’ yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â gorfodi rheolau anghyson, cyfathrebu gwael, a diffyg tegwch o ran sut mae safleoedd yn cael eu rhedeg. Soniodd llawer o breswylwyr am broblemau hirsefydlog gyda chynnal a chadw safleoedd, gan ddisgrifio gwaith atgyweirio araf neu annigonol a diffyg prosesau clir ar gyfer rhoi gwybod am broblemau. Roedd teimlad yn aml bod systemau dyrannu lleiniau yn aneglur neu’n annheg, gan gyfrannu at orlenwi. Pwysleisiodd cymunedau fod yn rhaid i reolwyr safle fod wedi eu hyfforddi, yn ddiwylliannol gymwys, yn deg ac yn hawdd mynd atynt, gyda dealltwriaeth gyson o ffyrdd o fyw Sipsiwn a Theithwyr. Roedd preswylwyr eisiau systemau cliriach a mwy tryloyw ac ymgysylltu mwy ystyrlon â phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt, gan gynnwys cymryd rhan mewn rheoli safleoedd a chyfathrebu rheolaidd gan awdurdodau lleol.
Rheoli Gwersylloedd Diawdurdod
Datgelodd ymgysylltu â’r gymuned bryderon cryf ynghylch ymatebion gorfodol i wersylloedd heb eu hawdurdodi. Rhannodd cyfranogwyr brofiadau’n ymwneud ag ofn, tarfu, a diffyg cymorth sy’n seiliedig ar les, yn enwedig pan oedd y rhyngweithio’n cynnwys yr heddlu neu feilïaid. Ledled Cymru, mynegodd teuluoedd ffafriaeth glir dros drefniadau aros wedi eu negodi yn hytrach na safleoedd tramwy ffurfiol, gan ddisgrifio mannau aros syml, dros dro gyda mynediad at gyfleusterau sylfaenol, fel dŵr, toiledau, a gwaredu gwastraff fel rhai llawer mwy effeithiol a dyngarol. Teimlai llawer o’r cyfranogwyr mai dim ond gweithwyr proffesiynol annibynnol hyfforddedig sy’n deall diwylliant Sipsiwn a Theithwyr ac sy’n gallu cynnig cymorth gwirioneddol ddylai gynnal asesiadau lles. Yn gyffredinol, barn y gymuned oedd y byddai negodi cyson a pharchus ynghyd â darpariaeth sylfaenol yn gwella perthnasoedd, yn lleihau gwrthdaro, ac yn hyrwyddo canlyniadau urddasol i deuluoedd ac awdurdodau lleol.
Cynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA)
Roedd canfyddiadau’r ymgysylltu’n tynnu sylw at y ffaith nad oedd llawer o gyfranogwyr erioed wedi clywed am yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr neu nad oeddent yn deall sut roedd yr asesiad yn effeithio ar eu bywydau. Roedd y diffyg ymwybyddiaeth hwn yn cyfrannu at ddiffyg ymddiriedaeth yn y broses, gyda rhai teuluoedd yn poeni sut byddai eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio, ac a fyddai’n arwain at newid ystyrlon. Galwodd y cyfranogwyr am esboniadau cliriach a symlach o ddiben, dulliau a chanlyniadau’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, ochr yn ochr â darpariaeth gan sefydliadau dibynadwy sy’n ddiwylliannol gymwys. Roeddent yn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys aelwydydd cyfan nid dim ond “penaethiaid aelwydydd” i sicrhau bod menywod, pobl ifanc ac aelwydydd cudd yn cael eu cynrychioli. Roedd galw mawr am i ganfyddiadau asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr gael dylanwad mwy uniongyrchol ar benderfyniadau cynllunio, gan gynnwys cymorth i deuluoedd sy’n ceisio caniatâd cynllunio ar safleoedd preifat. Pwysleisiodd cymunedau fod yn rhaid i’r Asesiad arwain at ganlyniadau gweladwy, ymarferol fel lleiniau newydd, safleoedd gwell, a chydnabyddiaeth fwy cywir o angen lleol.
Methodoleg diogelu’r ymgysylltu â’r gymuned
Gweithiodd TGP Cymru a Sipsiwn a Theithwyr Cymru gyda’i gilydd gan ddefnyddio dull diogelu sy’n canolbwyntio ar y gymuned drwy gydol yr ymgysylltu ar bedair dogfen ganllaw Llywodraeth Cymru. Cafodd eu ffordd o weithio ei dylunio i sicrhau bod oedolion, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu rhannu eu profiadau’n agored ac yn ddiogel, gyda hyder bod eu llesiant yn cael ei ddiogelu bob amser.
Creu Ymddiriedaeth, Diogelwch a Chefnogaeth
Cynhaliwyd yr ymgysylltu wyneb yn wyneb yn bennaf gan staff dibynadwy a oedd eisoes wedi sefydlu cysylltiadau yn y gymuned. Roedd hyn yn helpu i greu amgylchedd lle’r oedd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, yn gyfforddus ac yn gallu siarad yn rhydd. O’r cychwyn cyntaf, cafodd cyfranogwyr sicrwydd y byddai unrhyw beth roeddent yn ei rannu yn aros yn gyfrinachol, na fyddai modd adnabod unrhyw unigolyn na lleoliad, ac mai dim ond i gefnogi gwelliannau i’r canllawiau y byddai’r wybodaeth yn cael ei defnyddio. Roedd yr ymdeimlad hwn o ddiogelwch ac anhysbysrwydd yn ganolog i alluogi sgyrsiau agored a gonest, yn enwedig lle trafodwyd profiadau personol sensitif.
Cysylltodd y ddau sefydliad â sgyrsiau gyda dealltwriaeth y gallai rhai cyfranogwyr fod wedi profi trawma sy’n gysylltiedig â rheoli safleoedd, digartrefedd, neu ryngweithio blaenorol â gwasanaethau. Gan hynny, mabwysiadodd staff ddull gweithredu a oedd yn ystyriol o drawma, gan sicrhau bod trafodaethau’n cael eu trin yn sensitif ac yn gefnogol. Aeth y staff ati hefyd i wirio cwestiynau’r cyfweliadau cymunedol gydag aelodau o’u grwpiau cynghori cyn eu cwblhau’n derfynol. Pan oedd plant a phobl ifanc yn cymryd rhan, roedd ymgysylltu’n digwydd mewn lleoliadau grŵp gyda goruchwyliaeth ddiogelu briodol drwy sefydliadau partner dibynadwy.
Gwiriadau Diogelu, Gweithdrefnau a Thrin Gwybodaeth
Roedd gan yr holl staff a oedd yn ymwneud â’r cyfarfod y gwiriadau DBS priodol ar waith, ac roedd pob sefydliad yn gweithredu o fewn ei fframwaith diogelu sefydledig ei hun. Cafodd pryderon diogelu eu rheoli drwy brosesau uwchgyfeirio mewnol clir, gydag uwch arweinwyr diogelu yn gyfrifol am benderfynu a oedd angen cymryd camau allanol. Rhoddwyd gwybod i’r cyfranogwyr am bwrpas yr ymgysylltu, sut byddai eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio, a beth oedd cymryd rhan yn ei olygu. Roedd oedolion yn rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth, ac roedd rhieni neu ofalwyr yn rhoi cydsyniad i blant a phobl ifanc er mwyn sicrhau dealltwriaeth a chytundeb llawn.
Roedd gwybodaeth a gasglwyd drwy gyfweliadau, trafodaethau ac arolygon yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn barchus. Cafodd yr ymatebion eu troi’n ddienw a’u storio ar wahân i fanylion adnabod er mwyn diogelu cyfrinachedd ar bob cam. Cafodd profiadau sensitif eu crynhoi mewn ffordd a oedd yn sicrhau nad oedd modd adnabod yr un unigolyn, teulu na safle, gan barhau i adlewyrchu’r themâu a’r materion a godwyd gan y gymuned.
Dim ond canfyddiadau cyffredinol a rannwyd â Llywodraeth Cymru.
Crynodeb cyffredinol o ganfyddiadau ymgysylltu â’r gymuned
Ar draws y pedair dogfen ganllaw, rhannodd cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr neges gyson am yr angen am gyfathrebu cliriach, ymarfer sy’n seiliedig ar ddiwylliant, a chyfranogiad ystyrlon mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Nid oedd llawer o’r cyfranogwyr yn ymwybodol iawn o’r canllawiau presennol ac roeddent yn disgrifio diffyg tryloywder, dulliau anghyson ar draws awdurdodau lleol a theimlad cyffredinol nad oedd polisïau’n cael eu rhoi ar waith mewn ffyrdd a oedd yn cefnogi eu hawliau, eu diogelwch na’u hunaniaeth ddiwylliannol.
Yn gyffredinol, datgelodd yr ymgysylltu gymuned sy’n barod i weithio mewn partneriaeth, yn awyddus i gael atebion, ac yn obeithiol y bydd y dogfennau canllaw diwygiedig yn helpu i ddarparu dulliau mwy cyson, diwylliannol barchus a theg ledled Cymru.
Ymgynghoriad cyhoeddus: canfyddiadau
Dylunio Safle Sipsiwn a Theithwyr
Roedd y themâu a nodwyd yn yr ymgynghoriad yn cynnwys:
Ymgysylltu â’r gymuned a chyd-gynhyrchu
Cefnogaeth gref i ymgysylltu’n barhaus â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr drwy gydol y gwaith o gynllunio a rheoli safleoedd. Pwyslais ar gyd-ddylunio ystyrlon, adborth rheolaidd, a chynnwys preswylwyr mewn llywodraethu, gan symud y tu hwnt i ymgynghori i gyd-gynhyrchu go iawn, gan gynnwys cyfranogiad gweithredol plant a phobl ifanc fel preswylwyr presennol sydd â hawliau.
Safonau technegol ac ymarferol
Galwadau am safonau sylfaenol cenedlaethol cliriach ar gyfer meintiau lleiniau, cynlluniau safleoedd, diogelwch tân a diogelu at y dyfodol (gwefru cerbydau trydan, draenio, seilwaith cynaliadwy, cysylltedd digidol). Mae’n cynnwys ceisiadau am ganllawiau cynnal a chadw gwell, asesiadau risg amgylcheddol, a chyngor ymarferol ar gyfer safleoedd gwledig a threfol.
Hygyrchedd a chynhwysiant
Galwodd ymatebwyr am leiniau cwbl hygyrch, dyluniad cynhwysol ar gyfer preswylwyr anabl, a fformatau hygyrch (Hawdd eu Darllen, cymhorthion sain, gweledol). Dylai canllawiau roi sylw i anghenion teuluoedd sy’n tyfu, perthnasau sy’n ymweld, a grwpiau agored i niwed.
Darpariaeth Gymraeg a dwyieithog
Pwyslais cyson ar ddeunyddiau, arwyddion, ac ymgynghoriadau dwyieithog, gydag awgrymiadau ar gyfer ymgorffori gofynion cyfathrebu dwyieithog, cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg, a chynnal asesiadau effaith ar y Gymraeg.
Nododd yr ymatebwyr bwysigrwydd mesurau rhagweithiol i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn canllawiau safleoedd.
Iechyd, llesiant ac ansawdd amgylcheddol
Mae integreiddio iechyd a llesiant i ddyluniad safleoedd yn hanfodol, gan gynnwys mannau cymunedol, clybiau ieuenctid, clinigau iechyd, a mannau chwarae. Mae ansawdd a diogelwch amgylcheddol fel llwybrau mynediad diogel, ansawdd aer, ac amgylchedd iach yn hanfodol, yn enwedig i blant a phobl ifanc.
Hawliau dynol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol
Galwadau am ddull hawliau dynol cyffredinol, gan sicrhau mynediad cyfartal at dai, gofal iechyd, addysg, glanweithdra a chyfleusterau chwarae digonol. Dylai canllawiau adlewyrchu safonau rhyngwladol (UNCRC, Deddf Cydraddoldeb 2010) a chyd-fynd â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Lleoliad a mynediad at wasanaethau
Dylai safleoedd fod yn agos at addysg, gwasanaethau iechyd a siopau i sicrhau bod preswylwyr yn gallu cael gafael ar wasanaethau hanfodol ac osgoi teimlo’n ynysig. Tynnwyd sylw hefyd at gynhwysiant digidol fel rhywbeth hanfodol, yn enwedig ar gyfer addysg plant.
Darparu a gwella safleoedd tramwy a safleoedd presennol
Nodwyd diffyg safleoedd dros dro neu safleoedd tramwy yng Nghymru; dylai’r canllawiau fynd i’r afael â’r angen am fwy o fannau tramwy a mannau aros.
Plant a phobl ifanc
Mae’r hawl i chwarae a hamdden (Erthygl 31 CCUHP) yn thema sy’n codi dro ar ôl tro, gyda phlant a phobl ifanc yn galw am fannau chwarae a pharciau diogel. Dylai eu lleisiau a’u profiadau o ran diogelwch, parch a chynhwysiant gael eu hymgorffori ym mhob proses.
Parch at ddiwylliant a dewis
Mynegodd yr ymatebwyr bryderon am y pwysau i symud i dai confensiynol gan dynnu sylw at bwysigrwydd parchu hunaniaeth ddiwylliannol a’r hawl i ddewis aros ar safleoedd.
Atebolrwydd, cysondeb a mynd i’r afael â gwahaniaethu
Mae angen mwy o atebolrwydd a monitro ar awdurdodau lleol i sicrhau bod safonau a gwelliannau’n cael eu cyflawni’n gyson, gan ddiogelu llesiant a hawliau plant. Dylai’r canllawiau gefnogi polisïau wedi’u targedu i ddileu gwahaniaethu a hiliaeth yn erbyn cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Cydweithredu amlasiantaethol a dull gweithredu unedig
Dylai’r canllawiau ddarparu rhagor o gymorth i awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill, fel yr heddlu, priffyrdd a phartneriaid cysylltiedig sy’n gorfod gweithio gyda’i gilydd i reoli a dylunio safleoedd. Mae angen canllawiau a fframweithiau cliriach i sicrhau dealltwriaeth unedig a dull gweithredu cydlynol ar draws yr holl randdeiliaid dan sylw.
Themâu nodedig eraill
- Safleoedd preifat: galwadau i ymestyn y canllawiau i safleoedd preifat yn ogystal â safleoedd awdurdodau lleol.
- Atal gwrthdaro: dylai’r gwaith dylunio gefnogi diogelwch gwyliadwriaeth naturiol, a ffiniau clir.
- Canfyddiad y cyhoedd: dylai’r canllawiau helpu awdurdodau lleol i ymgysylltu â chymunedau sefydlog i leihau stigma a gwrthwynebiad.
Cwestiwn 1 “A oes unrhyw beth ar goll o’r canllawiau hyn”?
Fe ddywedoch chi:
"Gellid cryfhau'r canllawiau yn sylweddol trwy gyfeirio yn fwy penodol at ymgysylltiad plant a phobl ifanc."
Comisiynydd Plant Cymru
Materion technegol a seilwaith
Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y diffyg cydnabyddiaeth o ofynion gwefru cerbydau trydan, gan gynnwys yr angen i ystyried addasiadau i lwythi trydanol a maint lleiniau. Cafodd tynnu llinellau tir a darpariaeth symudol wael yng Nghymru hefyd eu nodi fel materion a oedd yn cael eu diystyru, ac a allai gael effaith negyddol ar gyfathrebu ar safleoedd. Roedd hepgoriadau technegol eraill yn cynnwys diffyg pwyslais ar systemau draenio cynaliadwy (SUDs), risgiau draenio budr, ac absenoldeb canllawiau ar dechnolegau ynni adnewyddadwy y tu hwnt i baneli solar, fel pympiau gwres ffynhonnell aer a storio batri. Gwnaed awgrymiadau hefyd ar gyfer mesuryddion dŵr a thrydan unigol i roi ymreolaeth a rheolaeth dros gostau i breswylwyr.
Dyluniad a chynllun y safle
Roedd y pryderon yn cynnwys yr angen am fwy o hyblygrwydd ar gyfer teuluoedd sy’n tyfu a byw aml-genhedlaeth, yn ogystal â darpariaeth ar gyfer teulu a ffrindiau sy’n ymweld (fel ardaloedd gorlifo neu barcio i ymwelwyr). Roedd hygyrchedd ar gyfer preswylwyr anabl neu agored i niwed yn fwlch arall, gyda galwadau am ymgorffori safonau dylunio cynhwysol o’r cychwyn cyntaf. Codwyd diogelwch ac atal gwrthdaro hefyd, gydag argymhellion ar gyfer nodweddion dylunio fel gwyliadwriaeth naturiol a ffiniau clir. Ar ben hynny, dylid cynnwys ystyriaethau teledu cylch cyfyng yn ystod y cam dylunio yn hytrach na’u gadael i ganllawiau rheoli.
Ystyriaethau cymdeithasol a diwylliannol
Pwysleisiodd yr ymatebwyr bwysigrwydd mynd i’r afael â deinameg gymunedol, clystyru teuluoedd, a meddiannu fesul cam i hyrwyddo cydlyniant. Roedd galw hefyd am fwy o gyfranogiad preswylwyr mewn prosesau cyd-ddylunio er mwyn caniatáu ymreolaeth a mynegiant diwylliannol o fewn fframweithiau diogel. Nodwyd bod strategaethau integreiddio a chanfyddiad y cyhoedd ar goll, gydag awgrymiadau ar gyfer canllawiau ar ymgysylltu â chymunedau sefydlog a lleihau stigma drwy nodweddion ymgynghori a dylunio.
Polisi a chyflawni
Roedd y materion yn cynnwys integreiddio gwan â Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau), diffyg adnoddau cyflawni ymarferol fel adnabod tir, modelu costau, a strategaethau ymgysylltu, a diffyg cyngor ar gyfer safleoedd preifat. Roedd diffyg eglurder hefyd ynghylch nifer y lleiniau a argymhellir a phryderon ynghylch cynaliadwyedd ariannol hirdymor y tu hwnt i grantiau cyfalaf y llywodraeth.
Yn olaf, awgrymodd yr ymatebwyr welliannau i fformat a hygyrchedd y ddogfen ei hun. Byddai iaith gliriach, heb jargon, cymhorthion gweledol fel diagramau a siartiau llif, a geirfa yn gwneud y canllawiau’n haws eu defnyddio i swyddogion a chymunedau.
Thema drwy gydol y broses oedd yr angen am ddull gweithredu cryfach sy’n seiliedig ar hawliau, gan integreiddio hawliau dynol a safonau cydraddoldeb yn benodol i bob agwedd ar ddylunio a rheoli safleoedd. Pwysleisiodd yr ymatebwyr hefyd bwysigrwydd cynnwys lleisiau plant a phobl ifanc a galwodd am fwy o atebolrwydd a monitro cynnydd o ran gwella amodau safleoedd.
Cwestiwn 2 “A yw’r canllawiau’n caniatáu perthynas waith effeithiol a chynhyrchiol rhwng awdurdodau lleol a phreswylwyr”?
Fe ddywedoch chi:
Ymgynghori ac ymgysylltu
Mae’r canllawiau’n cydnabod pwysigrwydd ymgynghori a chyfathrebu rhwng awdurdodau lleol a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr, yn enwedig yn ystod y camau cynllunio a datblygu. Pwysleisiodd yr ymatebwyr na ddylai ymgysylltu gael ei gyfyngu i’r cam dylunio ond y dylai barhau drwy gydol oes y safle. Fodd bynnag, nododd llawer nad oes gan y canllawiau gyfeiriad ymarferol o ran sut i sicrhau ymgysylltu ystyrlon, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae cymunedau wedi’u gwasgaru neu’n amharod i gymryd rhan. Er bod egwyddor ymgynghori yn glir, mae diffyg strategaethau manwl ar gyfer gweithredu yn ei gwneud yn anoddach sicrhau ymgysylltu cyson ac effeithiol.
Tryloywder ac atebolrwydd
Un pryder a gododd dro ar ôl tro oedd y diffyg eglurder ynghylch prosesau datrys anghydfodau a chyfrifoldebau perthnasol trigolion ac awdurdodau lleol. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith bod tensiynau’n aml yn deillio o ansicrwydd ynghylch rheolau a gweithdrefnau. Er bod y canllawiau rheoli’n mynd i’r afael â rhai agweddau gweithredol, gallai’r canllawiau dylunio atgyfnerthu tryloywder drwy argymell adnoddau cyfathrebu clir fel llawlyfrau i breswylwyr, arwyddion gweladwy ar y safle, a sianeli adborth hygyrch. Byddai mwy o bwyslais ar fesurau atebolrwydd yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a lleihau gwrthdaro.
Dylunio nodweddion i gefnogi perthnasoedd
Nododd nifer o ymatebion fod yr amgylchedd ffisegol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o feithrin perthnasoedd cadarnhaol. Ystyriwyd bod nodweddion fel mannau cymunedol hyblyg ar gyfer cyfarfodydd ac allgymorth, a swyddfeydd rheoli mewn ardaloedd hygyrch ond anymwthiol, yn hanfodol ar gyfer annog rhyngweithio tra’n sicrhau preifatrwydd ac urddas. Ar hyn o bryd mae’r canllawiau’n canolbwyntio ar safonau dylunio technegol ond gallent wneud mwy i dynnu sylw at sut gall cynllun y safle gefnogi cyfathrebu a meithrin perthnasoedd o ddydd i ddydd.
Cynnwys preswylwyr y tu hwnt i’r ymgynghoriad cychwynnol
Er bod sôn am ymgysylltu cynnar, teimlai’r ymatebwyr nad yw’r canllawiau’n mynd yn ddigon pell o ran hyrwyddo cyfranogiad parhaus preswylwyr. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys ymgorffori mecanweithiau strwythurol fel paneli cynghori, cynghorau preswylwyr, neu brosesau cynllunio cyfranogol. Byddai’r dulliau hyn yn grymuso'r preswylwyr ac yn sicrhau bod penderfyniadau’n adlewyrchu profiadau bywyd, gan symud y tu hwnt i ymgynghoriadau untro i gydweithio parhaus.
Dealltwriaeth ddiwylliannol a hyfforddiant
Roedd cefnogaeth gref i gyfeiriadau at ymwybyddiaeth ddiwylliannol a hyfforddiant ar gyfer staff awdurdodau lleol, yn ogystal â chydymffurfio â safonau rheoleiddio a diogelwch tân. Roedd yr ymatebwyr o’r farn bod yr elfennau hyn yn hanfodol ar gyfer meithrin ymddiriedaeth a sicrhau diogelwch. Roedd hyfforddiant sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o ddiwylliant Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei ystyried yn sylfaen ar gyfer perthnasoedd parchus a chynhyrchiol.
Hygyrchedd
Roedd hygyrchedd yn thema allweddol arall, gyda’r ymatebwyr yn pwysleisio’r angen am fersiynau hawdd eu darllen o ddogfennau a fformatau eraill fel sain. Byddai hyn yn sicrhau bod yr holl breswylwyr, beth bynnag fo’r rhwystrau o ran llythrennedd neu iaith, yn gallu ymgysylltu’n llawn â’r canllawiau a’r prosesau rheoli safle.
Gwrthdaro o ran polisi a chynllunio
Codwyd pryderon ynghylch swyddogion cynllunio yn cynnig safleoedd sy’n gwrthdaro â chanllawiau cenedlaethol ac yn peidio â datgelu cyfyngiadau.
Diogelwch
Roedd yr ymatebwyr yn croesawu cynnwys egwyddorion Diogelu drwy Ddylunio ond yn argymell cryfhau’r iaith i wneud ymgysylltu â’r heddlu lleol yn ofyniad yn hytrach nag yn opsiwn. Tynnwyd sylw hefyd at ddiogelwch tân a chydymffurfio â rheoliadau fel elfennau hanfodol o ddylunio a rheoli safleoedd, gan atgyfnerthu’r angen am fesurau diogelwch cadarn.
Eglurder gweithredol
Er bod y canllawiau’n darparu fframwaith ar gyfer meithrin perthnasoedd cadarnhaol, nododd ymatebwyr fylchau mewn eglurder gweithredol. Mae’r meysydd penodol sydd angen sylw yn cynnwys prosesau datrys anghydfod, atebolrwydd cliriach o ran gweithredu ar adborth, ac arweiniad ar gyfrifoldebau ar gyfer clirio a chynnal a chadw’r safle. Awgrymwyd hyfforddiant datrys gwrthdaro ar gyfer staff awdurdodau lleol hefyd er mwyn lleihau tensiynau a gwella cyfathrebu.
Anghenion cymunedol penodol
Yn olaf, tynnodd yr ymatebwyr sylw at ystyriaethau ymarferol fel lleoli lleiniau tramwy. Dywedodd teithwyr nad ydynt eisiau lleiniau tramwy ger safleoedd parhaol, gan y gallai hyn roi straen ar wasanaethau a chreu risgiau iechyd a diogelwch. Ystyriwyd bod gofyn i deithwyr aros dros dro ar safleoedd parhaol nes bod llain ar gael yn broblem ac yn debygol o achosi heriau gweithredol.
Cwestiwn 3: “A oes unrhyw newidiadau technegol y gallwch eu hargymell”?
Fe ddywedoch chi:
"Dylid ystyried plant a phobl ifanc nid yn unig yn nhermau darpariaeth tai yn y dyfodol ond hefyd fel unigolion â phrofiadau a safbwyntiau cyfredol sy'n haeddu cydnabyddiaeth."
Comisiynydd Plant Cymru
Cynllun a safonau safleoedd
Roedd yr ymatebion yn pwysleisio’r angen am safonau dylunio safleoedd cliriach a mwy cyson. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys cyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer maint lleiniau a’r bylchau rhyngddynt, gyda gofynion penodol o ran rhwystrau tân, a darparu’r nifer a argymhellir o leiniau ar gyfer safleoedd o wahanol faint. Mynegodd rhai ymatebwyr bryderon hefyd am anghysondebau rhwng y canllawiau a chynllun gwirioneddol safleoedd, fel y gwelwyd yn Kings Meadow yn Aberhonddu.
Cynaliadwyedd a diogelu at y dyfodol
Roedd cefnogaeth gref i gynllunio ymlaen llaw i gyrraedd targedau amgylcheddol. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at bwysigrwydd ymgorffori seilwaith gwefru cerbydau trydan i gyd-fynd â nodau sero net erbyn 2030. Roedd yr argymhellion hefyd yn cynnwys integreiddio atebion ynni adnewyddadwy fel paneli solar, casglu dŵr glaw, a goleuadau ynni isel, yn ogystal â phrotocolau cliriach ar gyfer asesu risgiau amgylcheddol fel parthau llifogydd, peryglon diwydiannol, a llygredd sŵn.
Eglurder a gweithredu ymarferol
Roedd nifer o ymatebion yn galw am welliannau i wneud y canllawiau’n haws eu dilyn a’u rhoi ar waith. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys ychwanegu cymhorthion gweledol fel diagramau a thempledi ar gyfer diogelwch tân a chynllun safleoedd, darparu rhestrau gwirio ar gyfer cynnal a chadw seilwaith a chynllunio cylch bywyd, a chynnwys geirfa i sicrhau terminoleg gyson. Argymhellwyd cyfarwyddiadau cliriach ar ddarpariaethau gwastraff a rheoli safleoedd hefyd.
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Dywedodd yr ymatebwyr fod angen cyfathrebu’n effeithiol â’r gymuned deithio, gan argymell bod canllawiau’n cael eu rhannu ar lafar yn ogystal â thrwy destun ysgrifenedig. Anogwyd mecanweithiau adborth fel arolygon bodlonrwydd ac adolygiadau ar ôl meddiannaeth, er bod rhai o’r ymatebwyr wedi cynghori yn erbyn ymgynghoriadau ychwanegol diangen.
Diogelwch a hygyrchedd
Tynnwyd sylw at wella canllawiau diogelwch tân a’u cyflwyno mewn fformatau hawdd eu defnyddio fel blaenoriaeth. Awgrymodd yr ymatebwyr hefyd y dylid ystyried seilwaith hanfodol fel cysylltedd Wi-Fi i gefnogi anghenion trigolion.
Integreiddio polisi a’r gyfraith
Yn olaf, pwysleisiodd yr ymatebion bwysigrwydd cysylltu’r canllawiau â Chynlluniau Datblygu Lleol a phrosesau cynllunio. Argymhellwyd hefyd darparu crynodebau o hawliau cyfreithiol o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 a mynd i’r afael ag anghenion pontio ar gyfer gwahanol fathau o safleoedd, fel safleoedd tramwy yn o gymharu â lleoliadau parhaol.
Cwestiwn 4: “Beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 5: “A ellid llunio neu newid y canllawiau fel eu bod yn cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar ddefnyddio’r Gymraeg”?
Fe ddywedoch chi:
Risgiau
Codwyd pryderon y gallai’r Gymraeg ddirywio ymhellach pe na bai mesurau gweithredol yn cael eu cymryd.
Cyfleoedd ar gyfer effaith cadarnhaol
Nododd yr ymatebwyr gyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg drwy ddull dwyieithog, gan gynnwys darparu canllawiau, arwyddion, ymgynghoriadau a dogfennau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddai modd cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg drwy gyfleusterau cymunedol ar gyfer gweithgareddau fel clybiau ieuenctid, grwpiau chwarae, addysg oedolion, a chlinigau iechyd. Tynnwyd sylw hefyd at gynnig dosbarthiadau Cymraeg i breswylwyr a sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael ar gyfer rhyngweithio ar y safle. Pwysleisiwyd y dylai hyrwyddo fod yn ddiwylliannol sensitif a chytbwys â hunaniaeth Sipsiwn a Theithiwr.
Ystyriaethau o ran dylunio a lleoliadau
Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys lleoli safleoedd ger ysgolion cyfrwng Cymraeg i annog defnydd o’r iaith ac ymgorffori’r Gymraeg mewn nodweddion artistig a dylunio safleoedd, gan barchu diwylliant Sipsiwn a Theithwyr ar yr un pryd.
Gwelliannau i’r canllawiau
Roedd nifer o'r ymatebion yn argymell ymgorffori gofynion cyfathrebu dwyieithog yn y canllawiau, gan ychwanegu Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg tebyg i Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a chynnwys cyfeiriadau penodol at hyrwyddo’r Gymraeg mewn prosesau caffael a thendro.
Mesurau gweithredu ymarferol
Roedd y camau ymarferol a awgrymwyd yn cynnwys arwyddion, pecynnau croeso, a dogfennau tenantiaeth dwyieithog ac ymgynghoriadau allgymorth a gynhelir yn y ddwy iaith. Byddai’r mesurau hyn yn helpu i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol ac yn creu cyfleoedd i’w hyrwyddo mewn cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
Cwestiwn 6: “Unrhyw sylwadau pellach”?
Fe ddywedoch chi:
Hinsawdd a datgarboneiddio
Dywedodd yr ymatebwyr y gallai fod yn ddefnyddiol i’r canllawiau gydnabod cyd-destun ehangach pontio Cymru tuag at sero net a’r rhaglen datgarboneiddio. Byddai cynnwys cyfeiriadau at sut gallai’r newidiadau hyn effeithio ar gymunedau Sipsiwn a Theithwyr, yn enwedig mewn perthynas â thrafnidiaeth a chyfleoedd gwaith, yn sicrhau bod y canllawiau’n parhau i edrych tua’r dyfodol ac yn ymateb i heriau yn y dyfodol.
Cydraddoldeb, cynhwysiant a gwrth-wahaniaethu
Byddai modd cryfhau’r canllawiau drwy ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb a chynhwysiant yn gliriach. Byddai cyfeiriadau penodol at rwymedigaethau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn helpu i sicrhau bod dyluniad a darpariaeth safleoedd yn hyrwyddo tegwch a mynd i’r afael ag ymyleiddio. Byddai’r dull hwn yn cefnogi amcanion cyfiawnder cymdeithasol ehangach ac yn mynd i’r afael â’r anfanteision sy’n gorgyffwrdd y mae cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn eu hwynebu.
Ymgysylltu â’r gymuned a chydlyniant
Byddai modd ystyried cynnwys fframwaith ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned sefydlog ehangach wrth gynllunio’r safle. Gallai strategaethau ymarferol fel digwyddiadau ymgynghori agored, ymgyrchoedd addysgol, a deunyddiau chwalu mythau helpu i leihau stigma a meithrin deialog adeiladol. Byddai hyn yn cefnogi cydlyniant cymunedol ac yn gwneud prosesau cynllunio’n fwy cynhwysol.
Darparu a dylunio safleoedd
Gallai’r canllawiau archwilio ymestyn ei gwmpas i safleoedd preifat, gan fod y galw’n aml yn uwch na’r lleiniau sydd ar gael. Gallai cyngor cliriach ar safleoedd tramwy hefyd fod yn ddefnyddiol, a nodwyd eu bod yn briodol lle mae gwersylloedd diawdurdod yn digwydd ond na ddylid eu cymysgu â safleoedd preswyl. Gallai ystyriaethau dylunio ychwanegol gynnwys darpariaeth ar gyfer tir pori, lle ar gyfer cerbydau ac offer busnes, bioamrywiaeth ac ecoleg y safle, a mynediad diogel i’r briffordd, sydd i gyd yn cyfrannu at ymarferoldeb a chynaliadwyedd.
Cyfrifoldebau a diogelwch preswylwyr
Gallai fod yn fuddiol nodi disgwyliadau clir ar gyfer preswylwyr o’r cychwyn cyntaf, gan gynnwys atebolrwydd dros reoli’r safle ac ymwybyddiaeth o ofynion diogelwch tân fel pellter diogel rhwng lleiniau. Byddai hyn yn helpu i gynnal diogelwch ac eglurder i bob parti.
Materion gweithredol a gweinyddol
Gallai egluro a yw gwiriadau DBS yn orfodol roi sicrwydd i awdurdodau lleol a phreswylwyr. Gallai cyfeiriadur o fannau aros hefyd fod yn adnodd gwerthfawr i deithwyr. Ar ben hynny, byddai canllawiau ar fformat ymgyngoriadau blynyddol ac a ddylid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y rhain yn cefnogi cysondeb a thryloywder.
Anghenion penodol a chyd-ddylunio
Gallai’r canllawiau roi mwy o bwyslais ar anghenion penodol grwpiau amrywiol, gan gynnwys Sipsiwn Romani, Teithwyr Gwyddelig, Pobl Sioe a Theithwyr Newydd. Byddai symud y tu hwnt i ymgynghori tuag at gyd-ddylunio yn caniatáu i breswylwyr siapio cynlluniau, rheolau a chyfleusterau. Dylid hefyd ystyried cynhwysiant digidol, fel seilwaith Wi-Fi a chodau post ar gyfer danfoniadau er mwyn sicrhau mynediad at wasanaethau hanfodol.
Cymorth ac adnoddau
Yn olaf, byddai atodi adnoddau ymarferol i’r canllawiau yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu hegwyddorion yn effeithiol. Gallai hyn gynnwys cymorth ariannol, astudiaethau achos, ac adnoddau cynllunio cyfalaf. Byddai darparu fersiynau iaith glir ac amlgyfrwng o’r canllawiau yn eu gwneud yn fwy hygyrch i gymunedau, tra byddai hyfforddiant i swyddogion awdurdodau lleol a grwpiau eiriolaeth yn meithrin hyder a chysondeb wrth eu rhoi ar waith.
Crynodeb
- Roedd yr ymatebwyr yn croesawu’r canllawiau drafft ‘Dylunio Safle Sipsiwn a Theithwyr’ fel cam cadarnhaol a sylfaen gadarn ar gyfer gwella’r gwaith o ddylunio a darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
- Roeddent yn canmol Llywodraeth Cymru am ei dull cydweithredol ac am fynd i’r afael â materion cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys ymgynghori â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Nodwyd bod cynnwys hawliau dynol, cyfraith cydraddoldeb, a hawliau plant, fel yr hawl i chwarae yn gryfderau.
- Fodd bynnag, dywedodd yr ymatebwyr y byddai modd cryfhau’r canllawiau ymhellach drwy wreiddio egwyddorion sy’n seiliedig ar hawliau, sicrhau cyfranogiad ystyrlon gan yr holl breswylwyr (yn enwedig plant), a darparu adnoddau ymarferol a mesurau atebolrwydd i gefnogi’r gwaith o ddarparu a gwella safleoedd yn effeithiol.
Rheoli Safle Sipsiwn a Theithwyr
Roedd y themâu a nodwyd yn yr ymgynghoriad yn cynnwys:
Ymgysylltu â’r gymuned a pherthnasoedd
Mae’r canllawiau’n rhoi pwyslais cryf ar feithrin perthynas effeithiol rhwng awdurdodau lleol a phreswylwyr Sipsiwn a Theithwyr. Mae’n eirioli dros ymgysylltu parhaus, hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol i staff, a chyfleoedd rheolaidd i breswylwyr gymryd rhan yn y gwaith o reoli safleoedd a gwneud penderfyniadau. Er bod fframweithiau cyfathrebu a gweithdrefnau cwyno wedi’u hamlinellu, mae galwadau am brosesau cliriach a mwy hygyrch a mecanweithiau adborth rhagweithiol i feithrin ymddiriedaeth a chydweithio.
Rheoli a llywodraethu safleoedd
Anogir hyblygrwydd mewn modelau rheoli safleoedd, gydag opsiynau ar gyfer trefniadau sy’n cael eu harwain gan y gymuned neu sy’n cael eu rheoli ar y cyd. Nodir bod tryloywder wrth ddyrannu lleiniau a pholisïau cyhoeddedig yn hanfodol ar gyfer tegwch. Mae’r canllawiau’n argymell gweithdrefnau gweithredu safonol, gan gynnwys disgrifiadau swydd enghreifftiol ar gyfer rheolwyr safle a pholisïau clir ar gyfer rheoli anifeiliaid, atgyweirio a chynnal a chadw, ond mae’n nodi y byddai rhagor o fanylion a thempledi ymarferol yn gwella cysondeb ac atebolrwydd.
Hawliau dynol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol
Galwadau am ddull hawliau dynol cyffredinol, gan sicrhau mynediad cyfartal at dai, gofal iechyd, addysg, glanweithdra a chyfleusterau chwarae digonol. Dylai canllawiau adlewyrchu safonau rhyngwladol (UNCRC, Deddf Cydraddoldeb 2010) a chyd-fynd â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Y Gymraeg a chynhwysiant diwylliannol
Er nad yw’r rhan fwyaf o breswylwyr yn siarad Cymraeg, mae’r canllawiau’n cydnabod cyfleoedd i hyrwyddo dwyieithrwydd a chynhwysiant diwylliannol. Mae’n awgrymu hyfforddiant i staff ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog a monitro’r defnydd o’r Gymraeg, gyda’r nod o sicrhau triniaeth gyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae pwyslais hefyd ar hyrwyddo’r Gymraeg yn sensitif ochr yn ochr â hunaniaeth ddiwylliannol Sipsiwn a Theithwyr.
Iechyd, llesiant a chynhwysiant cymdeithasol
Mae’r ddogfen yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng rheoli safle ac iechyd a llesiant preswylwyr, gan argymell integreiddio safbwyntiau iechyd y cyhoedd, mynediad at ofal iechyd, a chymorth iechyd meddwl. Anogir cydweithio â sefydliadau iechyd a thrydydd sector, a dylai dyluniadau safleoedd geisio lleihau allgáu cymdeithasol a chefnogi integreiddio â chymunedau cyfagos.
Grymuso preswylwyr a chyfranogiad
Mae grymuso preswylwyr drwy gymryd rhan mewn rheolau, cytundebau a strwythurau rheoli safle yn thema allweddol. Mae’r canllawiau’n galw am adnoddau iaith syml a chrynodebau hygyrch i sicrhau bod preswylwyr yn deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Awgrymir cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ar y safle er mwyn meithrin perchnogaeth a balchder.
Monitro, atebolrwydd a gwelliant parhaus
Argymhellir adrodd ffurfiol, mecanweithiau adolygu annibynnol, a dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau tryloywder a gwelliant parhaus. Ystyrir bod casglu data ar amodau’r safle, bodlonrwydd preswylwyr, a chanlyniadau iechyd yn hanfodol ar gyfer gwerthuso a gwella’r gwaith o reoli safleoedd.
Cwestiwn 1: “A oes unrhyw beth ar goll o’r canllawiau hyn”?
Fe ddywedoch chi:
Ymgysylltu â’r gymuned a llywodraethiant
Mae’r ymatebion yn dangos, er bod y canllawiau’n ddefnyddiol, nad oes ynddynt strategaethau manwl ar gyfer cyfranogiad ac ymgysylltu parhaus â'r gymuned. Mae’r awgrymiadau’n cynnwys cyflwyno fframweithiau cliriach ar gyfer cynnwys preswylwyr a chynnig modelau rheoli amgen fel trefniadau a arweinir gan y gymuned neu a reolir ar y cyd i hyrwyddo llywodraethu ymatebol sy’n briodol yn lleol.
Tryloywder a thegwch
Er bod tryloywder wrth ddyrannu lleiniau yn cael ei gydnabod, nid yw’r canllawiau’n darparu digon o fanylion ymarferol. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at yr angen am weithdrefnau clir ar reoli rhestrau aros, meini prawf blaenoriaethu, a chyfathrebu ag ymgeiswyr i osgoi arferion anghyson a chynnal tegwch.
Polisïau gweithredol a rheoli safleoedd
Nodwyd nifer o fylchau mewn canllawiau gweithredol, yn cynnwys diffyg protocolau rheoli anifeiliaid ar gyfer cŵn a cheffylau, sy’n ffynonellau tensiwn cyffredin. Hefyd, nid oes digon o eglurder ynghylch safonau atgyweirio a chynnal a chadw, monitro a gorfodi. Argymhellodd yr ymatebwyr dempledi ar gyfer rheoli safleoedd a chynlluniau cynnal a chadw i sicrhau cysondeb ar draws awdurdodau lleol.
Integreiddio iechyd a llesiant
Thema gref oedd yr angen i integreiddio ystyriaethau iechyd a llesiant i’r gwaith o reoli safleoedd. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys mynd i’r afael ag ansawdd amgylcheddol, ynysu cymdeithasol, a mynediad at ofal iechyd, cymorth iechyd meddwl, a chynhwysiant digidol.
Hyfforddiant a chymhwysedd ar gyfer rheolwyr safle
Nid oes gan y canllawiau fframwaith cymhwysedd manwl ar gyfer rheolwyr safle. Cynigiodd yr ymatebwyr hyfforddiant sy’n ymdrin ag ymwybyddiaeth ddiwylliannol, datrys gwrthdaro, gwybodaeth am iechyd y cyhoedd, a strategaethau ar gyfer nodi risg yn gynnar a chydweithio â phartneriaid ehangach.
Cyfathrebu a hygyrchedd
Roedd gwella hygyrchedd yn argymhelliad allweddol arall. Galwodd yr ymatebwyr am adnoddau iaith syml, fel taflen “Eich Hawliau a’ch Cyfrifoldebau”, a phrosesau cwyno a gorfodi cliriach i atal dryswch. Pwysleisiwyd hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol i staff hefyd.
Atebolrwydd a goruchwyliaeth
Codwyd pryderon ynghylch diffyg mecanweithiau cadarn ar gyfer monitro cydymffurfiad â’r canllawiau. Y tu hwnt i’r camau cyllido cychwynnol, nododd yr ymatebwyr ddiffyg atebolrwydd hirdymor ar gyfer awdurdodau lleol.
Eglurhad ychwanegol
Yn olaf, gofynnodd yr ymatebwyr am eglurhad ynghylch a ddylid cadw mannau agored a mannau chwarae mewn safleoedd ar gyfer y preswylwyr neu a ddylent fod ar gael i’r gymuned ehangach.
Cwestiwn 2: “A yw’r canllawiau’n caniatáu perthynas waith effeithiol a chynhyrchiol rhwng awdurdodau lleol a phreswylwyr”?
Fe ddywedoch chi:
O bosibl awgrym ar gyfer opsiynau hawdd eu darllen neu ffurfiau amgen fel dogfennau sain i ddiwallu anghenion y gymuned.
Cyngor Sir Penfro
Cyfathrebu ac effeithiolrwydd cyffredinol
Mae’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno bod y canllawiau’n hyrwyddo gwell cyfathrebu ac ymgysylltu rhwng awdurdodau lleol a phreswylwyr. Cydnabyddir bod y ddogfen yn annog perthnasoedd cadarnhaol, yn darparu ar gyfer ymgynghori, ac yn cefnogi cyfranogiad preswylwyr yn y gwaith o reoli safleoedd a gwneud penderfyniadau. Ystyrir bod y canllawiau’n glir o ran eu bwriad i feithrin perchnogaeth a pherthnasoedd da.
Meysydd i’w gwella
Er bod y sylfaen yn gryf, mae nifer o'r ymatebion yn tynnu sylw at feysydd lle byddai modd cryfhau’r canllawiau. Mae awgrymiadau’n cynnwys gwneud hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol i staff yn fwy manwl a pharhaus, sicrhau bod mecanweithiau adborth yn mynd y tu hwnt i weithdrefnau cwyno, a darparu adnoddau mwy hygyrch (fel fformatau hawdd eu darllen neu sain). Mae galw hefyd am gyfarfodydd safle rheolaidd a chyfathrebu mwy rhagweithiol a thryloyw i feithrin ymddiriedaeth ac atal camddealltwriaeth.
Cyfranogiad preswylwyr a modelau hyblyg
Mae’r canllawiau’n cael eu canmol am gefnogi modelau rheoli hyblyg a chynnwys preswylwyr mewn rheolau a chytundebau safle. Fodd bynnag, mae rhai’n teimlo y gallai fynd ymhellach drwy gynnig enghreifftiau pendant o becynnau cymorth a dulliau sy’n cael eu rheoli ar y cyd, a thrwy annog cyd-gynhyrchu, lle mae preswylwyr yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddylunio a gweithredu polisïau safle.
Adborth a chwynion
Er bod gweithdrefnau cwyno wedi’u cynnwys, mae'r ymatebwyr yn awgrymu y gallai’r rhain fod yn gliriach, yn fwy hygyrch ac yn fwy ymatebol. Byddai sefydlu sianeli adborth rheolaidd a chyfleoedd strwythuredig i breswylwyr fynegi pryderon yn gwella perthnasoedd ac ymddiriedaeth ymhellach.
Perthynas â’r gymuned ehangach
Mae rhai o’r ymatebion yn nodi y gallai’r canllawiau fynd i’r afael yn well â’r berthynas â’r gymuned sefydlog ac egluro sut gall partïon allanol godi pryderon am reoli safleoedd.
Cwestiwn 3: “A oes unrhyw newidiadau technegol y gallwch eu hargymell”?
Fe ddywedoch chi:
Cyfathrebu ac adrodd
Fframwaith cyfathrebu ac adrodd safonol i awdurdodau lleol a phreswylwyr olrhain cynnydd, problemau a chyflwr y safle. Saesneg clir a chyfathrebu gweledol fel siartiau llif ac esboniadau syml ar gyfer cwynion, gorfodi rheolau, a phrosesau tenantiaeth.
Cymhwysedd diwylliannol
Hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol gorfodol i staff awdurdodau lleol a chontractwyr i wella dealltwriaeth ac ymgysylltiad parchus.
Ymgysylltu digidol
Adnoddau digidol fel apiau symudol a phyrth ar-lein ar gyfer cyfathrebu, adborth ac ymgynghori mewn amser real.
Hyblygrwydd o ran llety a thenantiaeth
Cytundebau tenantiaeth neu lety hyblyg i ddarparu ar gyfer anghenion unigryw, symudiadau tymhorol, a sefyllfaoedd brys.
Asesu a monitro anghenion
Asesiadau ac arolygon anghenion rheolaidd i werthuso amodau byw, boddhad ac anghenion cymorth. Protocolau cynnal a chadw a chasglu data safonol ar gyfer amodau’r safle, canlyniadau llesiant ac iechyd. Adolygiadau perfformiad a dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gweithgareddau rheoli safle fel dyrannu lleiniau, cynnal a chadw, ac ymgysylltu â phreswylwyr.
Gwelliannau i’r canllawiau
Templedi a pholisïau enghreifftiol ar gyfer rheolau safle, dyrannu lleiniau, a gweithdrefnau cwyno. Disgrifiad swydd enghreifftiol ar gyfer rheolwyr safle mewn atodiadau canllaw. Rhestr termau a chrynodebau Cymraeg clir ar gyfer hygyrchedd. Dolenni i ddeddfwriaeth ac enghreifftiau o arferion da o Gymru neu’r DU.
Cwestiwn 4: “Beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 5: “A ellid llunio neu newid y canllawiau fel eu bod yn cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar ddefnyddio’r Gymraeg”?
Fe ddywedoch chi:
Cyfleoedd ar gyfer effaith cadarnhaol
Mae’r awgrymiadau’n cynnwys annog dwyieithrwydd a chynhwysiant diwylliannol, hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r Gymraeg drwy gydweithio â cholegau ac ysgolion lleol, a defnyddio mannau cymunedol ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae syniadau eraill yn cynnwys sicrhau bod ffurflenni cais a gohebiaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg a meithrin cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau.
Awgrymiadau ar gyfer adolygu canllawiau
Mae’r argymhellion yn cynnwys ymgorffori cyfeiriadau penodol at y Gymraeg yn y canllawiau a mabwysiadu strategaethau fel ymrwymiad i ddwyieithrwydd, hawliau iaith a darpariaethau mynediad, hyfforddi a recriwtio staff ar gyfer darparu gwasanaethau’n ddwyieithog, a monitro ac adrodd ar y defnydd o’r Gymraeg.
Cwestiwn 6: “Unrhyw sylwadau pellach”?
Fe ddywedoch chi:
Recriwtio a staffio
Dylai Awdurdodau Lleol gynnal eu gweithdrefnau recriwtio eu hunain ar gyfer rheolwyr safleoedd. Mae cefnogaeth i benodi rheolwyr gweithredol a wardeniaid safle sy’n gysylltiedig â phreswylwyr, ond mae angen mynd i’r afael â dichonoldeb ariannol.
Iechyd meddwl a llesiant
Dylai’r canllawiau bwysleisio iechyd meddwl a llesiant preswylwyr. Dylid integreiddio mynediad at gwnsela, therapi a chymorth seicolegol i reoli safleoedd er mwyn lleihau straen, pryder ac arwahanrwydd cymdeithasol.
Cysylltiadau cymunedol ac ymgynghori
Mae angen rhoi sylw i gysylltiadau cymunedol er mwyn atal gwrthdaro rhwng preswylwyr. Dylai’r canllawiau orfodi ymgynghori â phreswylwyr presennol cyn cyflwyno teuluoedd newydd i safle, gan ddefnyddio cyfarfodydd agored neu ymgynghoriadau unigol i gynnal cytgord.
Grymuso preswylwyr a rolau
Dylid edrych ar gyfleoedd i breswylwyr ysgwyddo cyfrifoldebau fel cynnal a chadw’r safle, cysylltu neu reoli. Byddai llwybrau hyfforddiant a chyflogaeth yn meithrin perchnogaeth a balchder yn y gymuned.
Anghenion diwylliannol a chynhwysiant
Dylai’r canllawiau roi sylw penodol i ofynion diwylliannol gwahanol grwpiau Sipsiwn a Theithwyr. Dylid teilwra dyluniad a pholisïau’r safle i barchu traddodiadau ac amwynderau sy’n benodol i bob cymuned.
Dyluniad y safle a chyfleusterau
Mae mannau agored a mannau chwarae yn bwysig i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, gan ystyried a oes mod i drigolion lleol ddefnyddio’r cyfleusterau hyn hefyd. Dylai’r ddarpariaeth chwarae gyd-fynd ag egwyddorion Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a chynnwys adolygiad gan arweinwyr polisi perthnasol.
Polisïau dyrannu a digartrefedd
Mae angen polisïau dyrannu clir sydd wedi’u cyhoeddi. Dylid sefydlu cysylltiadau rhwng argaeledd lleiniau ac anghenion y gymuned leol, gan gyfeirio at ddigartrefedd ac adran 70 o Ddeddf Tai Cymru 2014.
Monitro, atebolrwydd a gorfodi
Dylid cynnwys mecanweithiau adrodd ffurfiol ac adolygu annibynnol, gan ymgorffori adborth preswylwyr a rhestrau gwirio archwilio.
Pontio o wersylloedd diawdurdod
Dylai'r canllawiau gefnogi teuluoedd sy’n symud o safleoedd diawdurdod i safleoedd a reolir drwy gytundebau mynediad meddal a chymorth cyn tenantiaeth.
Integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol
Dylai ymgysylltu â rhanddeiliaid gynnwys ymwelwyr iechyd, bydwragedd, gwasanaethau gofal sylfaenol, clystyrau, byrddau sector cyhoeddus, byrddau cynllunio rhanbarthol, iechyd y cyhoedd a sefydliadau trydydd sector yn benodol. Dylid ymgorffori protocolau parodrwydd am argyfwng, gan gynnwys argyfyngau iechyd.
Crynodeb
- Mae’r canllawiau drafft ‘Rheoli Safle Sipsiwn a Theithwyr’ yn cael eu hystyried yn gyffredinol fel cam cadarnhaol tuag at berthnasoedd effeithiol a chynhyrchiol, ond byddent yn elwa o ddulliau mwy manwl, hygyrch a rhagweithiol o ymgysylltu, hyfforddi, adborth a chyd-gynhyrchu â phreswylwyr.
- Roedd yr ymatebwyr yn croesawu eglurder y canllawiau, y dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y preswylwyr, a’r pwyslais ar ymgysylltu effeithiol, cyfathrebu a dyraniadau tryloyw, yn ogystal â chydnabod cynllunio, rheoli a chynnal a chadw safleoedd, mannau agored a darpariaeth chwarae.
- Ar yr un pryd, fe wnaethant gynnig argymhellion i wella cysondeb a defnyddioldeb: darparu templedi enghreifftiol a chrynodebau Cymraeg clir ar gyfer prosesau allweddol, cryfhau monitro ac atebolrwydd drwy ddangosyddion perfformiad allweddol syml a mecanweithiau adborth, egluro llwybrau cwyno a gorfodi, ac ehangu integreiddio iechyd a llesiant, gan sicrhau bod sensitifrwydd diwylliannol a digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn cael eu hadlewyrchu’n benodol.
Rheoli gwersyll diawdurdod
Roedd y themâu a nodwyd yn yr ymgynghoriad yn cynnwys:
Eglurder a chwmpas y canllawiau
- Roedd yr ymatebwyr yn croesawu’r canllawiau fel rhai cynhwysfawr ond roeddent yn tynnu sylw at feysydd oedd angen eu hegluro ymhellach. Er enghraifft, roedd galwadau am ganllawiau mwy annhechnegol ar rolau tirfeddianwyr preifat o gymharu ag awdurdodau lleol, yn enwedig o ran gwersylloedd ar dir preifat a goblygiadau caniatâd cynllunio.
- Nododd rhai hepgor rhai pwerau deddfwriaethol (e.e. Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona) ac argymhellwyd eu cynnwys er mwyn bod yn gyflawn.
Rolau a chyfrifoldebau
- Canmolwyd y canllawiau am amlinellu cyfrifoldebau awdurdodau lleol, asiantaethau cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill. Fodd bynnag, cafwyd cais am ddiffiniadau cliriach o rolau, yn enwedig o ran gorfodi ar dir Llywodraeth Cymru a darparu gwasanaethau i ddeiliaid gwersylloedd.
Hyfforddiant a meithrin gallu
- Cydnabuwyd yr angen am Un Pwynt Cyswllt, ond mynegwyd pryderon am y diffyg hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer y rôl arbenigol hon.
- Roedd argymhelliad cryf i Lywodraeth Cymru ddarparu a hwyluso sesiynau hyfforddi i awdurdodau lleol ar y gofynion newydd.
Lles a diogelu cymunedol
- Croesawyd ffocws y canllawiau ar asesiadau lles a diogelu, ond tynnodd yr ymatebwyr sylw at yr her o gyflawni’r dyletswyddau hyn heb adnoddau digonol na gweithdrefnau clir.
- Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymgysylltu a chefnogaeth barhaus i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys mynediad at wasanaethau awdurdodau lleol.
Y Gymraeg ac ystyriaethau diwylliannol
- Nododd ymatebwyr gyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg drwy ddeunyddiau dwyieithog, darparu gwasanaethau, ac ymgysylltu â’r gymuned.
- Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys sicrhau bod ffurflenni asesu lles a gohebiaeth ar gael yn Gymraeg a sicrhau bod staff neu weithwyr cymorth yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Materion technegol a gweithredol
- Gwnaed ceisiadau am ganllawiau cliriach ar ddefnyddio a rheoli safleoedd tramwy a safleoedd aros dros dro, gan gynnwys eglurhad ynghylch a yw’r rhain yn orfodol neu’n ddewisol i awdurdodau lleol.
- Codwyd cwestiynau ynghylch talu am fwynderau a disgresiwn awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau os na chytunir ar daliad.
Ymgysylltu â’r gymuned ac arferion gorau
- Roedd pwysigrwydd ymgysylltu parhaus ac ystyrlon â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro. Roedd yr ymatebwyr yn gwerthfawrogi cynnwys enghreifftiau o arferion gorau ond yn galw am fwy o adnoddau a chymorth ymarferol i hwyluso gwaith partneriaeth effeithiol, yn enwedig mewn amgylcheddau lle mae cyfyngiadau ar adnoddau.
Cwestiwn 1: “A oes unrhyw beth ar goll o’r canllawiau hyn”?
Fe ddywedoch chi:
Gall safleoedd sydd wedi'u lleoli'n wael atal cymunedau rhag cael mynediad at wasanaethau hanfodol fel addysg, gofal iechyd ac aer glân. Rhaid i wasanaethau gael eu gwarantu trwy ddull sy'n seiliedig ar hawliau dynol, nid eu trin fel dewisol.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Yr angen am fwy o ganllawiau annhechnegol
Tynnodd yr ymatebwyr sylw at yr angen am ganllawiau cliriach, annhechnegol ar rolau priodol tirfeddianwyr preifat ac awdurdodau lleol, yn enwedig o ran gwersylloedd diawdurdod ar dir preifat. Roedd pryder hefyd bod tir a brynwyd gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr y tu allan i’r cwmpas os nad oes ganddo ganiatâd cynllunio, sy’n dal yn broblem.
Bylchau deddfwriaethol
Nodwyd nad yw’r canllawiau’n cyfeirio at bwerau deddfwriaethol penodol, fel y rhai yn y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona. Awgrymodd yr ymatebwyr y dylid ystyried cynnwys y rhain os yw’n berthnasol.
Cyfrifoldebau ac anghenion hyfforddi ehangach
Mae’r canllawiau’n cyflwyno cyfrifoldebau ehangach i awdurdodau lleol, gan gynnwys diogelu, hawliau dynol ac asesiadau risg, sy’n mynd y tu hwnt i gylch gwaith traddodiadol Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd. Pwysleisiodd yr ymatebwyr fod angen hyfforddiant arbenigol ar gyfer y rolau estynedig hyn.
Eglurhad ar orfodi a darparu gwasanaethau
Gofynnodd yr ymatebwyr am ragor o fanylion ynghylch sut bydd Llywodraeth Cymru yn gorfodi dyletswyddau lles ar ei thir, pa adran fydd yn gyfrifol, a sut gall awdurdodau lleol gael gafael ar gymorth. Roedd cwestiynau hefyd ynghylch darparu gwasanaethau awdurdodau lleol i wersylloedd, yn enwedig o ran taliadau a disgresiwn.
Ansicrwydd ynghylch safleoedd tramwy a safleoedd aros dros dro
Nid yw’r canllawiau’n glir ynghylch a yw safleoedd tramwy yn orfodol neu’n ddewisol i awdurdodau lleol. Gofynnodd yr ymatebwyr am eglurhad pellach ar y gofynion ar gyfer safleoedd tramwy a safleoedd aros dros dro, gan gynnwys yr hyd a’r defnydd a ganiateir.
Cwestiwn 2: “A yw’r canllawiau’n caniatáu perthynas waith effeithiol a chynhyrchiol rhwng awdurdodau lleol a phreswylwyr”?
Fe ddywedoch chi:
Ffurf y dolenni gofynnol
Er bod y canllawiau’n amlinellu’r dolenni angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio, nid yw’n glir sut dylid sefydlu’r cysylltiadau hyn yn ymarferol. Awgrymodd yr ymatebwyr y gallai Llywodraeth Cymru chwarae rhan fwy gweithredol yn y gwaith o hwyluso’r cysylltiadau hyn.
Cyfyngiadau o ran adnoddau
Gwerthfawrogir enghreifftiau o arferion gorau, ond mae ymgysylltu â chyrff cyhoeddus ehangach yn heriol yn ystod cyfnodau o adnoddau cyfyngedig. Gallai hyn olygu nad yw cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn cael y cymorth lles sydd ei angen arnynt.
Rolau ac atebolrwydd wedi’u diffinio
Mae’r canllawiau’n nodi’n glir rolau awdurdodau lleol, asiantaethau cyhoeddus a rhanddeiliaid (fel byrddau iechyd a heddluoedd), sy’n helpu i sicrhau atebolrwydd ac eglurder o ran cyfathrebu.
Asesiadau lles ac empathi
Mae awdurdodau lleol yn cael eu cynghori i gynnal asesiadau lles i ddeall anghenion cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys grwpiau agored i niwed fel plant a’r henoed. Mae hyn yn hyrwyddo dull mwy empathig a chefnogol.
Meithrin cydweithio
Ystyrir bod yr eglurder a ddarperir gan y canllawiau yn bwysig ar gyfer annog cysylltiadau gwaith cydweithredol a chynhyrchiol rhwng yr holl bartïon dan sylw.
Cwestiwn 3: “A oes unrhyw newidiadau technegol y gallwch eu hargymell”?
Fe ddywedoch chi:
Dim newidiadau technegol wedi’u hawgrymu
Dywedodd nifer o’r ymatebwyr nad oedd ganddynt unrhyw newidiadau technegol pellach i’w hawgrymu, gan ddweud bod y canllawiau’n fanwl ac yn darparu gwybodaeth gadarn.
Pryderon am ofynion safleoedd tramwy
Nododd rhai o’r ymatebwyr fod y canllawiau’n gosod gofynion sylweddol ar bob awdurdod lleol, ni waeth a oes ganddynt safleoedd tramwy cymeradwy neu niferoedd cyson isel o wersylloedd Sipsiwn a Theithwyr. Argymhellwyd y dylai’r canllawiau roi llai o bwyslais ar absenoldeb safleoedd tramwy cymeradwy oni bai fod hyn yn ofyniad gorfodol gan Lywodraeth Cymru.
Cwestiwn 4: “Beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 5: “A ellid llunio neu newid y canllawiau fel eu bod yn cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar ddefnyddio’r Gymraeg”?
Fe ddywedoch chi:
Gellid integreiddio'r Gymraeg ymhellach i'r canllawiau i nodi'n glir fanteision hyrwyddo'r Gymraeg drwy ddarparu gwasanaethau dwyieithog ac ymgysylltu â'r gymuned yn ddwyieithog. Gallai fo fudd i'r Gymraeg petai'r person sy'n siarad â'r gymuned yn gallu siarad Cymraeg neu fod rhywun sy'n siarad Cymraeg gyda nhw.
Dienw
Cefnogaeth y gymuned
Bydd y canllawiau’n cefnogi cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg.
Deunyddiau a gwasanaethau dwyieithog
Mae'r canllawiau’n cynnig cyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg drwy ddeunyddiau dwyieithog, darparu gwasanaethau, ac ymgysylltu â’r gymuned lle bo angen.
Sensitifrwydd diwylliannol
Wrth ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr, dylid bod yn ofalus i barchu eu diwylliant a’u hunaniaeth ar yr un pryd â hyrwyddo’r Gymraeg.
Canllawiau gwell
Gellid integreiddio’r Gymraeg ymhellach i’r canllawiau er mwyn nodi’n glir fanteision ymgysylltu â’r gymuned a darparu gwasanaethau’n ddwyieithog.
Cymorth Cymraeg
Gellid gwella’r canllawiau drwy sicrhau bod y rhai sy’n ymgysylltu â’r gymuned yn gallu siarad Cymraeg neu fod rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg yn dod gyda nhw.
Cwestiwn 6: “Unrhyw sylwadau pellach”?
Fe ddywedoch chi:
Dim sylwadau ychwanegol
Dywedodd nifer o’r ymatebwyr nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau pellach.
Crynodeb
- Cydnabuwyd bod y canllawiau ‘Rheoli Gwersyll Diawdurdod’ yn fanwl ac yn darparu fframwaith cryf i awdurdodau lleol reoli gwersylloedd diawdurdod ar yr un pryd â chydbwyso hawliau cymunedau Sipsiwn a Theithwyr ac anghenion y boblogaeth leol.
- Ystyriwyd bod cynnwys templed strategaeth leol yn gam cadarnhaol tuag at gysondeb o ran llywodraethu a gorfodi ledled Cymru.
Cynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA)
Roedd y themâu a nodwyd yn yr ymgynghoriad yn cynnwys:
Hygyrchedd a chyfathrebu dwyieithog
- Roedd cefnogaeth gref i ddeunyddiau ‘hawdd eu darllen’ a dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ar draws yr arolygon, gohebiaeth a dogfennau ymgysylltu i sicrhau mynediad a chyfranogiad cyfartal.
Heriau ymgysylltu a chyfranogiad rhanddeiliaid
- Anhawster ymgysylltu’n gyson ag aelwydydd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a sicrhau cyfranogiad gan randdeiliaid rhestredig oherwydd capasiti, lleoliad neu amgylchiadau cyfnewidiol.
- Galwadau i gynnwys aelodau o’r gymuned mewn grwpiau llywio, gan gydnabod efallai na fydd y gynrychiolaeth yn adlewyrchu safbwyntiau ehangach; efallai y bydd angen llwybrau adborth eraill.
Plant a phobl ifanc
- Pwyslais y dylai plant a phobl ifanc gael eu cynnwys yn ystyrlon ym mhrosesau’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, gyda’r canlyniadau’n cael eu cyfleu mewn fformatau hygyrch.
- Cyd-fynd ag Erthyglau 12 a 30 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a ychwanegwyd mewn diwygiadau i’r canllawiau.
Ansawdd data, monitro a rhannu
- Yr angen am ddata cadarn, amserol a thryloyw, gan gynnwys ffynonellau eilaidd a rhannu ar draws awdurdodau i gefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar safleoedd tramwy a safleoedd parhaol.
- Awgrymiadau ar gyfer logiau cyfweliadau ac archwilio adnoddau i gasglu tystiolaeth ansoddol yn ddibynadwy.
Amserlenni, cylchoedd ac aliniad â gwaith cynllunio
- Pryderon bod cylchoedd asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr a dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno (e.e., diwedd cyfnodau o 5 mlynedd) mewn perygl o ddefnyddio hen dystiolaeth.
- Ceisiadau am amserlenni dangosol a gwell aliniad ag adolygiadau o Gynlluniau Datblygu Lleol a Chynlluniau Datblygu Strategol sy’n dod i’r amlwg.
Rolau, cyfrifoldebau a gallu
- Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pwy sy’n arwain yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a rolau timau cynllunio/tai, y Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac awdurdodau parciau cenedlaethol.
- Cydnabod bod capasiti awdurdodau lleol (staffio, arbenigedd, cyllid) yn effeithio’n sylweddol ar gyflawni.
Methodoleg a phwyntiau technegol
- Cwestiynau ynghylch disgwyliadau cyfweld aelwydydd (un i bob aelwyd o’i gymharu ag un cynrychiolydd safle) a chamau ymarferol pan nad yw darpariaeth lawn yn ymarferol.
Rheoli dogfennau a defnyddioldeb
- Adborth ar brotocolau ISO 9000: yr angen am rifau tudalennau/paragraffau a rheolaeth glir ar fersiynau er mwyn osgoi dryswch yn ystod y broses ymgynghori a chraffu.
Y Gymraeg: Risgiau a mesurau cadarnhaol
- Er bod effeithiau andwyol yn cael eu hystyried yn annhebygol, mae'r ymatebwyr yn gweld cyfleoedd clir: arolygon dwyieithog, ymgysylltu’n weithredol ag aelodau o’r gymuned sy’n siarad Cymraeg, ymwybyddiaeth staff o Safonau’r Gymraeg, ac Asesiadau o’r Effaith ar y Gymraeg.
Llywodraethu, tryloywder ac atebolrwydd
- Galwadau am amserlenni cymeradwyo cliriach, cyfathrebu canlyniadau a’r camau nesaf yn dryloyw, a thempledi safonol ar gyfer arolygon/dadansoddi data i wella cysondeb ar draws awdurdodau.
Cwestiwn 1: “A oes unrhyw beth ar goll o’r canllawiau hyn”?
You told us:
Mae'r pwyslais ar gasglu a monitro data yn barhaus yn cael ei groesawu, ond byddai disgwyliadau cliriach ynghylch beth yw natur monitro cadarn yn helpu i sicrhau cysondeb. Mae'r canllawiau hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned a gwybodaeth leol, ond mae hyn yn gofyn am staffio a chyllid digonol, a dylid cydnabod hyn yn fwy penodol.
Cyngor Sir Fynwy
Eglurhad ar ddyletswydd statudol
Codwyd pryderon ynghylch yr adran sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn diwallu’r angen sy’n weddill o’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr presennol nes bod yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nesaf yn cael ei gymeradwyo. Nododd ymatebwyr y gallai hyn arwain at ddiwallu anghenion hen ffasiwn os yw amgylchiadau wedi newid ac awgrymwyd ailysgrifennu’r rhan hon i ganiatáu hyblygrwydd ar gyfer newidiadau sylweddol.
Cyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti
Er bod y canllawiau’n gryf, tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith bod gweithredu llwyddiannus yn dibynnu ar adnoddau ariannol digonol a swyddogion profiadol. Mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau o ran capasiti oherwydd toriadau cyni ac anawsterau recriwtio, a allai lesteirio cyflawni effeithiol.
Cylch yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a materion amserlen
Roedd yr ymatebwyr yn cwestiynu ymarferoldeb cylchoedd rhagnodedig, gan nodi bod cyflwyno asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ar ddiwedd cyfnod o 5 mlynedd yn arwain at dystiolaeth sydd wedi dyddio. Roeddent yn galw am amserlenni dangosol cliriach ac aliniad â phrosesau cynllunio i sicrhau bod asesiadau’n adlewyrchu anghenion nawr ac yn y dyfodol.
Rheoli dogfennau
Nid yw’r canllawiau’n cydymffurfio â phrotocolau ISO 9000, fel rhifo tudalennau a rheoli fersiynau, gan greu dryswch yn ystod yr ymgynghoriad. Pwysleisiodd ymatebwyr yr angen i reoli dogfennau mewn ffordd bendant er mwyn sicrhau eglurder a thryloywder.
Monitro a chasglu data
Er y croesewir y pwyslais ar gasglu data’n barhaus, gofynnodd yr ymatebwyr am ddisgwyliadau cliriach ar gyfer safonau monitro cadarn. Dylai’r canllawiau roi mwy o gyfarwyddyd ar adnoddau a methodolegau i sicrhau cysondeb ar draws awdurdodau lleol.
Cysondeb â fframweithiau cynllunio
ododd yr ymatebwyr yr angen i integreiddio prosesau asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn well gydag adolygiadau Cynllun Datblygu Lleol wedi’u gohirio a Chynlluniau Datblygu Strategol sy’n dod i’r amlwg. Mae angen eglurhad hefyd ynghylch a yw’r ffigurau yn Atodiad 5 yn cynnwys neu’n ychwanegol at yr angen 5 mlynedd.
Templedi a chysondeb
Cafwyd derbyniad cadarnhaol i gynnwys templedi ar gyfer arolygon a dadansoddi data, gan y bydd y rhain yn helpu i sicrhau cysondeb ar draws awdurdodau lleol ac yn cefnogi dadansoddiad cymharol a dysgu ar y cyd.
Cyflawnrwydd cyffredinol
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno bod y canllawiau’n glir, yn gynhwysfawr ac wedi’u strwythuro’n dda, gan ymdrin â gofynion blaenorol a diweddariadau deddfwriaethol. Roeddent yn cael eu hystyried yn hawdd eu defnyddio ac yn drylwyr, ac ni nodwyd unrhyw hepgoriadau mawr.
Cwestiwn 2: “A yw’r canllawiau’n caniatáu perthynas waith effeithiol a chynhyrchiol rhwng awdurdodau lleol a phreswylwyr”?
Fe ddywedoch chi:
Er mwyn cefnogi cydweithredu cynhyrchiol go iawn, dylid cydnabod yn gliriach yr angen am staffio a chyllid digonol i gynnal ymgysylltiad ystyrlon. Gall y diffyg amserlenni dangosol ar gyfer cwblhau a chymeradwyo asesiadau greu ansicrwydd i awdurdodau a thrigolion, gan danseilio ymddiriedaeth yn y broses.
Cyngor Sir Fynwy
Effeithiolrwydd cyffredinol
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno bod y canllawiau’n darparu fframwaith clir ar gyfer meithrin perthynas effeithiol rhwng awdurdodau lleol a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’n nodi disgwyliadau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori, sydd yn hanfodol ar gyfer meithrin ymddiriedaeth a chydweithio.
Heriau o ran ymgysylltu
Er gwaethaf eglurder y canllawiau, tynnodd yr ymatebwyr sylw at anawsterau ymarferol o ran ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid rhestredig, llawer ohonynt y tu allan i Gymru neu heb y gallu i gymryd rhan. Mae hyn yn codi pryderon ynghylch bodloni gofynion ymgynghori ac osgoi gwrthod asesiadau.
Methodoleg yr arolwg
Mae’r canllawiau’n argymell cyfweld ag o leiaf un cynrychiolydd o bob aelwyd, ond nododd yr ymatebwyr fod arolygon, yn ymarferol, yn aml yn dibynnu ar un person i bob safle. Gall hyn effeithio ar ansawdd data a thybiaethau, ac mae angen cyfarwyddyd cliriach ar beth i’w wneud pan nad yw ymgysylltu ag aelwydydd cyfan yn ymarferol.
Mesurau hygyrchedd
Awgrymodd yr ymatebwyr y byddai fformatau hawdd eu darllen ac opsiynau eraill fel dogfennau sain yn helpu i oresgyn rhwystrau llythrennedd yn y gymuned, gan wneud ymgysylltu’n fwy cynhwysol ac effeithiol.
Materion yn ymwneud ag adnoddau a chapasiti
Er bod y canllawiau’n hyrwyddo gwaith mewnol er mwyn cael gwybodaeth leol well, roedd yr ymatebwyr yn cydnabod y gallai cyfyngiadau ar adnoddau a phrinder staff gyfyngu ar allu awdurdodau i ymgysylltu’n effeithiol heb allanoli.
Aliniad o ran polisi a chynllunio
Mynegodd rhai ymatebwyr bryder y gall prosesau dewis safleoedd golli ffocws ar ofynion polisi ar ôl i swyddogion cynllunio gymryd rhan. Byddai canllawiau cliriach ar gynnal cydymffurfiaeth â pholisïau Llywodraeth Cymru wrth nodi safleoedd yn cryfhau perthnasoedd ac ymddiriedaeth.
Cydweithredu rhanbarthol ac amserlenni
Mae’r canllawiau’n annog cydweithio ac ymgysylltu parhaus, ond nododd yr ymatebwyr fod diffyg amserlenni dangosol ar gyfer cwblhau a chymeradwyo asesiadau yn creu ansicrwydd. Byddai alinio cryfach â Chynlluniau Datblygu Strategol ac amserlenni cliriach yn gwella tryloywder a hyder yn y broses.
Cwestiwn 3: “A oes unrhyw newidiadau technegol y gallwch eu hargymell”?
Fe ddywedoch chi:
Adborth ar wersylloedd diawdurdod
Nododd yr ymatebwyr y dylai’r canllawiau gydnabod yr anhawster ymarferol o roi adborth i aelodau’r gymuned sy’n byw ar wersylloedd diawdurdod sydd wedi symud i ffwrdd ar ôl i’r arolygon gael eu cynnal.
Cefnogaeth i gynghorwyr lleol
Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid cynnwys canllawiau ategol ar gyfer cynghorwyr lleol i’w helpu i ddeall eu rôl yn y gwaith o baratoi’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a darparu’r safle, gan wella eglurder ac atebolrwydd.
Fformiwla Atodiad 5
Codwyd pryderon ynghylch y fformiwla cyfrifo lleiniau yn Atodiad 5, sy’n defnyddio cyfraddau twf cyfansawdd (pwerau 5 a 15). Teimlai'r ymatebwyr fod y dull hwn yn chwyddo rhifau lleiniau’n ddiangen ac argymhellwyd defnyddio tafluniad rhifyddeg syml yn lle hynny.
Amserlenni ac aliniad
Galwodd yr ymatebwyr am amserlenni dangosol cliriach ar gyfer cwblhau asesiadau a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru. Fe wnaethant hefyd dynnu sylw at yr angen am well aliniad ag adolygiadau gohiriedig o Gynlluniau Datblygu Lleol ac integreiddio cliriach â Chynlluniau Datblygu Strategol.
Dim newidiadau’n cael eu hargymell
Dywedodd un ymatebydd nad oedd angen unrhyw newidiadau technegol, gan fod y canllawiau’n fanwl ac yn darparu gwybodaeth gadarn ar gyfer cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.
Cwestiwn 4: “Beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 5: “A ellid llunio neu newid y canllawiau fel eu bod yn cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar ddefnyddio’r Gymraeg”?
Fe ddywedoch chi:
Cyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg
Tynnodd nifer o ymatebwyr sylw at gyfleoedd i hyrwyddo effeithiau cadarnhaol drwy sicrhau bod yr holl ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, fel arolygon, dogfennau ymgynghori a thempledi ymgysylltu, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gallai annog awdurdodau lleol i ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned sy’n siarad Cymraeg yn eu dewis iaith helpu i feithrin ymddiriedaeth a chynwysoldeb.
Lliniaru effeithiau andwyol
Er yr ystyrir bod effeithiau andwyol yn annhebygol, awgrymodd yr ymatebwyr y dylai’r canllawiau fynnu cyfathrebu dwyieithog yn benodol drwy gydol proses yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Byddai darparu adnoddau neu gymorth i helpu awdurdodau lleol i fodloni Safonau’r Gymraeg yn atal allgáu anfwriadol.
Mesurau ychwanegol
Argymhellodd yr ymatebwyr ychwanegu cwestiwn am y defnydd o’r Gymraeg mewn arolygon asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr safonol, gan gynnig hyfforddiant iaith Gymraeg sylfaenol i staff, a chynnal Asesiadau o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg i ddangos eu bod yn cydymffurfio â gofynion statudol.
Integreiddio pellach
Er mwyn cryfhau’r effeithiau cadarnhaol, gallai’r canllawiau nodi’n gliriach beth yw manteision hyrwyddo’r Gymraeg drwy ymgysylltu â’r gymuned a darparu gwasanaethau’n ddwyieithog. Awgrymwyd hefyd y byddai cael staff sy’n siarad Cymraeg neu gyfieithwyr ar gael yn ystod ymgynghoriadau yn gam ymarferol.
Cwestiwn 6: “Unrhyw sylwadau pellach”?
Fe ddywedoch chi:
Cyfranogiad y grŵp llywio
Roedd yr ymatebwyr o blaid gwahodd aelodau o’r gymuned i gymryd rhan mewn grwpiau llywio ond mynegwyd pryderon na fyddai barn unigolion efallai’n cynrychioli’r gymuned ehangach. Awgrymwyd dulliau amgen o roi adborth er mwyn osgoi dylanwad anghymesur ar ganlyniadau prosiectau.
Cyfyngiadau data eilaidd
Er bod y canllawiau’n argymell adolygu data eilaidd, nododd yr ymatebwyr ddiffyg ffynonellau dibynadwy, a allai danseilio dadansoddiad. Roeddent yn awgrymu ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gasglu data ar ddefnyddwyr gwasanaethau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gryfhau tystiolaeth, gan gydnabod heriau o ran hunan-ardystio.
Pryderon ynghylch cydraddoldeb a diogelwch
Tynnodd yr ymatebwyr sylw at risgiau diogelwch sy’n ymwneud â gwefru cerbydau trydan ger carafanau, gan argymell adolygu safonau maint lleiniau i adlewyrchu gofynion modern.
Cymunedau anodd eu cyrraedd
Awgrymodd yr ymatebwyr ganllawiau cliriach ar ymgysylltu ag aelodau mudol neu anodd eu cyrraedd o’r gymuned, gan gynnwys enghreifftiau o arferion gorau gan awdurdodau eraill. Fe wnaethant hefyd alw am hyblygrwydd i ymateb i batrymau angen sy’n newid, fel newidiadau mewn ymddygiad teithio neu bwysau economaidd.
Dim materion pellach
Dywedodd rhai ymatebwyr nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau ychwanegol y tu hwnt i’r rhai a ddarparwyd eisoes.
Crynodeb
- Croesawyd y canllawiau drafft ‘Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr’ am eu heglurder, eu strwythur cynhwysfawr a’u cydnawsedd â’r gofynion deddfwriaethol presennol.
- Roedd yr ymatebwyr yn gwerthfawrogi’r pwyslais ar ymgynghori trylwyr ac effeithiol, casglu data’n gadarn, a chynnwys templedi i gefnogi cysondeb ar draws awdurdodau lleol.
- Ystyriwyd bod y canllawiau’n sylfaen gadarn ar gyfer asesu anghenion llety a meithrin perthynas effeithiol rhwng awdurdodau lleol a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Nodwyd y bydd llwyddiant yn dibynnu ar ymgysylltu parhaus, gweithredu ymarferol, ac ymrwymiad i fynd i’r afael ag anghenion amrywiol ac esblygol y cymunedau hyn ledled Cymru.
Crynodeb Cyffredinol o’r Ymgynghoriad Cyhoeddus
Croesawodd Llywodraeth Cymru sylwadau’r holl ymatebwyr ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y gyfres o ganllawiau ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r dogfennau hyn wedi cael eu diweddaru’n gynhwysfawr am y tro cyntaf ers dros ddegawd, gan adlewyrchu blaenoriaethau polisi cyfredol ac anghenion newidiol cymunedau ledled Cymru.
Fe wnaeth yr adborth dynnu sylw at gefnogaeth gref i’r dull cydweithredol sy’n seiliedig ar hawliau, gan gydnabod y pwyslais ar les, hunaniaeth ddiwylliannol, darparu gwasanaethau dwyieithog, a chynnwys lleisiau plant a phobl ifanc.
Pwysleisiodd yr ymatebwyr bwysigrwydd canllawiau ymarferol, hygyrch, rolau a chyfrifoldebau cliriach, rhannu data cadarn, a gwell hyfforddiant ac adnoddau i awdurdodau lleol.
Thema a gododd dro ar ôl tro oedd yr angen i ymgysylltu’n weithredol â phlant a phobl ifanc ym mhob agwedd ar ddylunio, rheoli ac asesu safleoedd. Ystyriwyd bod eu safbwyntiau’n hanfodol ar gyfer deall profiadau bywyd, diogelwch, cyfleoedd chwarae a hunaniaeth ddiwylliannol. Anogodd yr ymatebwyr awdurdodau lleol i ymgynghori â phlant nid yn unig fel preswylwyr y dyfodol ond fel unigolion ag anghenion a hawliau uniongyrchol, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Nodwyd bod sicrhau amgylcheddau diogel, mynediad at wasanaethau, a chyfleoedd i chwarae a chymryd rhan yn hanfodol er mwyn cefnogi llesiant a datblygiad plant.
Mae heriau’n parhau o ran amodau safleoedd, darparu safleoedd tramwy a safleoedd aros, a chyfyngiadau o ran adnoddau, ond mae’r canllawiau newydd yn cael eu hystyried yn gam cadarnhaol tuag at weithio’n well mewn partneriaeth.
Yn gyffredinol, roedd yr adborth yn galw am fwy o dryloywder, atebolrwydd a fframwaith hawliau dynol cyffredinol i ategu pob agwedd ar bolisi ac ymarfer. Pwysleisiodd yr ymatebwyr y bydd effaith y canllawiau’n dibynnu ar ymgysylltu parhaus, gweithredu ymarferol, ac ymrwymiad i fynd i’r afael ag anghenion amrywiol ac esblygol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru.
Y camau nesaf
Ar ôl gwerthuso’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r ymgysylltu â’r gymuned, bydd y canllawiau’n cael eu hadolygu, eu diweddaru a’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Bydd fersiynau ‘hawdd eu darllen’ clir a dwyieithog yn cyd-fynd â phob un o’r canllawiau i sicrhau hygyrchedd i bawb, i hyrwyddo dealltwriaeth o hawliau cymunedol a chefnogi cyfranogiad a chynhwysiant llawn.
Mae cyhoeddi’r canllawiau hyn wedi cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan Weinidog Cymru, gan ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau a llesiant cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Mae’r dogfennau hyn hefyd yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, gan gefnogi’n uniongyrchol y gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sy’n nodi’r uchelgais o wneud Cymru’n genedl wrth-hiliol erbyn 2030.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r dogfennau canllaw hyn i ddarparu cymorth clir ac ymarferol i awdurdodau lleol yn eu gwaith gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cydnabod a’u diogelu.
Atodiad A
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cartrefi Caerffili
- Comisiynydd Plant Cymru
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Gypsies and Travellers Wales
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor Sir Penfro
- Cymorth Cynllunio Cymru
- Cyngor Sir Powys
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol
- Cyngor Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Dinas Abertawe
- Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru
