Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddata Cyfrifiad 2021 ar Anabledd yng Nghymru a Lloegr ddydd Iau 19 Ionawr 2023. Ar yr un diwrnod, gwnaethom gyhoeddi ein crynodeb pwnc Iechyd, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl yng Nghymru (Cyfrifiad 2021). Ers hynny, mae'r SYG hefyd wedi cyhoeddi dau ddatganiad arall ar anabledd.

Mae'r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys data cryno ychwanegol ar anabledd yn ôl amrywiaeth o ganlyniadau economaidd-gymdeithasol ar gyfer unigolion ac aelwydydd a oedd yn breswylwyr arferol yng Nghymru ar adeg y cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021. Mae'n dweud wrthym sut roedd canlyniadau o'r fath yn amrywio ar gyfer pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl ledled Cymru. Mae'r bwletin hefyd yn cynnwys dadansoddiad o anabledd yn ôl oedran a rhyw er mwyn rhoi cyd-destun.

Er mwyn cyfrif am wahaniaethau mewn strwythurau oedran yn y grwpiau poblogaeth rydym yn eu cymharu, mae'r canrannau yn yr erthygl hon wedi cael eu safoni yn ôl oedran oni nodir fel arall. Mae safoni yn ôl oedran yn ddefnyddiol yn y dadansoddiad hwn lle mae pobl anabl yn fwy tebygol o fod mewn grwpiau oedran hŷn na phobl nad ydynt yn anabl, a lle gall oedran hefyd effeithio ar y newidynnau yn y canlyniadau rydym yn eu harchwilio. Gellir cael gafael ar yr holl ddata nad ydynt wedi'u safoni yn ôl oedran sy'n sail i'r dadansoddiad yn y datganiad hwn drwy adnodd llunio tablau hyblyg Cyfrifiad 2021 (SYG).

Ceir rhagor o wybodaeth am gyfrannau sydd wedi'u safoni yn ôl oedran yn y wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 gwestiwn dwy ran ar anabledd. Gofynnwyd i breswylwyr arferol i ddechrau a oes ganddynt gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor, sydd wedi para neu y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy. Yna, gofynnwyd i'r sawl a atebodd “Oes” a oedd hyn yn cyfyngu ar eu gweithgareddau
pob dydd. Yr ymatebion posibl oedd “Ddim o gwbl”, “Ydy, ychydig”, neu “Ydy, yn fawr”. Mae'r sawl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu “ychydig” neu “yn fawr” wedi'u diffinio'n anabl yn y dadansoddiad hwn. Mae'r sawl a nododd fod ganddynt gyflwr nad yw'n effeithio ar eu gweithgareddau pob dydd neu a nododd nad oes ganddynt unrhyw gyflwr wedi'u diffinio yn y dadansoddiad hwn fel unigolion nad ydynt yn anabl.

Mae'r cwestiwn llawn ar anabledd yng Nghyfrifiad 2021 i'w weld yn y wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Nod y dull a ddefnyddir yn y cyfrifiad yw casglu data sy'n cyd-fynd yn agos â'r diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010) (Gov.UK). Yn ôl y diffiniad hwn, caiff pobl sydd wedi hunanasesu bod eu cyflwr neu eu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd eu hystyried yn anabl.  Caiff hyn ei lywio gan y model meddygol o anabledd sy'n diffinio pobl yn anabl yn ôl eu hamhariad. Yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru'r model cymdeithasol o anabledd (Anabledd Cymru). Mae'r model hwn yn nodi ffordd wahanol o ystyried anabledd – yn hytrach na diffinio pobl yn anabl yn ôl eu hamhariad (fel yn y model meddygol o anabledd), mae pobl ag amhariadau yn anabl oherwydd y rhwystrau ffisegol, sefydliadol ac o ran agwedd a gaiff eu creu gan gymdeithas.

Mae'r data sydd wedi'u cynnwys yn y bwletin ystadegol hwn yn adlewyrchu'r model meddygol o anabledd. Fodd bynnag, lle y bo'n bosibl, rydym wedi defnyddio iaith sy'n cyd-fynd â'r model cymdeithasol o anabledd.

The data included in this statistical bulletin reflects the medical model of disability. However, where possible, we have used language that aligns with the social model of disability.

Prif bwyntiau

  • Gwelwyd cynnydd mawr yng nghyfran y bobl anabl yn ôl oedran ac roedd anableddau yn fwy tebygol o gael ei nodi gan fenywod na gan ddynion.
  • Roedd pobl anabl a oedd gyda chyfyngiadau mawr ar eu gweithgareddau pob dydd yn fwy tebygol o nodi bod eu hiechyd cyffredinol yn wael neu'n wael iawn.
  • Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig oedd fwyaf tebygol o fod yn darparu gofal di-dâl i berson arall.
  • Roedd pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr ychydig yn fwy tebygol o fod yn wynebu gorlenwi o ran nifer annigonol o ystafelloedd gwely.
  • Roedd pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tai cymdeithasol ac yn llai tebygol o fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.
  • Roedd pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr yn fwy tebygol o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol.
  • Roedd pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr yn fwy tebygol o lawer o fod yn economaidd anweithgar na phobl nad ydynt yn anabl neu bobl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig.
  • Roedd pobl nad ydynt yn anabl yn fwy tebygol o fod â statws economaidd-gymdeithasol rheoli, proffesiynol neu weinyddol na phobl anabl.

Anabledd yng Nghymru

Y boblogaeth yng Nghymru a gofnodwyd ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, oedd 3,107,500. O'r boblogaeth hon, gofynnwyd cwestiynau ar anabledd i'r holl breswylwyr arferol yng Nghymru. Mae'r diffiniad o breswylydd arferol i'w weld yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Cyfran y bobl anabl yng Nghymru oedd 21.1%. Roedd hyn yn cynnwys 11.1% a ymatebodd gan ddweud bod eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig gan eu cyflwr neu salwch, a 10.10% a oedd wedi'u cyfyngu'n fawr.

Cyfran y bobl nad ydynt yn anabl oedd 78.9%. O fewn y grŵp hwn, nododd 6.7% fod ganddynt gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor nad oedd yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd. Nododd dros chwarter (27.8%) o'r preswylwyr arferol yng Nghymru fod ganddynt ryw fath o gyflwr corfforol neu feddyliol hirdymor.

Ffigur 1: Cyfran y preswylwyr arferol y diffiniwyd eu bod yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010), Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart gylch hon yn dangos cyfran y bobl yng Nghymru a gafodd eu cynnwys ym mhob un o'r pedwar categori anabledd. Mae rhan fwyaf y siart gylch yn cynrychioli'r rheini a nododd nad ydynt yn anabl ac nad oes ganddynt gyflwr hirdymor. Mae'r rhan leiaf yn cynrychioli pobl nad ydynt yn anabl sydd â chyflwr hirdymor.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Oedran a rhyw

Mae'r data yn yr adran hon yn defnyddio canrannau oedran-benodol ac nid ydynt wedi'u safoni yn ôl oedran. Fel y cyfryw, ni ellir cymharu'r canrannau oedran-benodol hyn â'r ffigurau sydd wedi'u safoni yn ôl oedran yng ngweddill y bwletin.

Roedd cyfran uwch o bobl anabl yn y grwpiau oedran hŷn. O'r bobl 50 oed a throsodd, nododd 32.9% eu bod yn anabl, o gymharu ag 13.4% o bobl dan 50 oed.

Roedd pobl anabl hŷn hefyd yn fwy tebygol na phobl anabl iau o nodi bod eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr. O'r bobl anabl 50 oed neu drosodd, nododd 50.0% fod eu cyflwr neu eu salwch yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd yn fawr, o gymharu â 42.0% o bobl anabl dan 50 oed.

Roedd cyfran uwch o fenywod anabl (23.2%) o gymharu â dynion anabl (19.8%). Roedd menywod (6.7%) a dynion (6.6%) yr un mor debygol o nodi bod ganddynt gyflwr hirdymor nad yw'n cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd.

Menywod dros 84 oed oedd fwyaf tebygol o blith yr holl grwpiau oedran-rhyw i nodi eu bod yn anabl (63.0%), a menywod dan 5 oed oedd leiaf tebygol (2.3%).

Roedd menywod yn fwy tebygol o nodi eu bod yn anabl ym mhob grŵp oedran heblaw am fenywod dan 15 oed. Roedd dynion 5 i 9 oed bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi nodi eu bod yn anabl na menywod yn y grŵp oedran hwn (8.6% yn erbyn 4.6%).

Ffigur 2: Canran y bobl anabl yng Nghymru yn ôl oedran a rhyw, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart far clwstwr hon yn dangos y canrannau oedran-benodol o breswylwyr arferol yng Nghymru a nododd eu bod yn anabl, wedi'u rhannu yn ôl grwpiau rhyw ac 18 o grwpiau oedran. Mae'r siart yn dangos cynnydd sefydlog yng nghyfran y bobl anabl wrth i'r oedran gynyddu.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Iechyd cyffredinol

Mae'r holl ganrannau yng ngweddill y bwletin hwn wedi cael eu safoni yn ôl oedran.

Hunanasesiad o gyflwr iechyd cyffredinol person yw iechyd cyffredinol. Gofynnwyd i bobl asesu a oedd eu hiechyd yn dda iawn, yn dda, yn weddol, yn wael neu'n wael iawn. Nid yw'r asesiad hwn yn seiliedig ar iechyd person dros unrhyw gyfnod o amser penodedig. Ceir rhagor o wybodaeth yn safon wedi'i chysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.

Nododd tua chwarter (25.1%) o bobl anabl fod eu hiechyd cyffredinol yn wael neu'n wael iawn, o gymharu â 0.7% o bobl nad ydynt yn anabl.

Roedd pobl anabl a oedd gyda chyfyngiadau mawr ar eu gweithgareddau pob dydd yn fwy tebygol o nodi bod eu hiechyd cyffredinol yn wael neu'n wael iawn (45.1%) na phobl a oedd gydag ychydig o gyfyngiadau ar eu gweithgareddau (8.2%).

O'r bobl anabl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr, nododd 12.3% fod eu hiechyd yn wael iawn, o gymharu â 0.6% o'r bobl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig a 0.1% o bobl nad ydynt yn anabl.

Roedd pobl nad ydynt yn anabl yn fwy tebygol o lawer o nodi bod eu hiechyd yn dda neu'n dda iawn (91.2%), o gymharu â phobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (50.4%) ac wedi'u cyfyngu'n fawr (22.3%).

Ffigur 3: Cyfran y bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl iechyd cyffredinol, Cymru, 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart far hon yn dangos cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl, y bobl anabl hynny yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig a'r rhai yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr yn ôl categorïau iechyd cyffredinol. Mae'n dangos bod pobl nad ydynt yn anabl yn fwy tebygol o lawer o nodi bod eu hiechyd yn dda neu'n dda iawn, ac roedd pobl anabl yn fwy tebygol o nodi bod eu hiechyd yn weddol, yn wael, neu'n wael iawn.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

[Nodyn 1]: Mae'r canrannau ar gyfer rhai grwpiau yn fach iawn, a all olygu bod eu canrannau'n anodd eu darllen o'r siart. Mae'r rhain yn cynnwys pobl nad ydynt yn anabl sy'n nodi bod eu hiechyd yn wael neu'n wael iawn, a phobl anabl y mae eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig sy'n nodi bod eu hiechyd yn wael iawn.

Darpariaeth gofal di-dâl

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 i bobl a ydynt yn gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor, neu broblemau sy'n gysylltiedig â henaint. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw beth a wneir fel rhan o gyflogaeth â thâl a gellir ei wneud yn aelwyd y gofalwr neu'r tu allan iddi.

Roedd yn ofynnol i'r sawl a atebodd “ydw” nodi nifer yr oriau o ofal di-dâl a ddarparwyd, gan ddewis o 5 grŵp: 9 awr neu lai, 10 i 19 awr, 20 i 34 awr, 35 i 49 awr a 50 awr neu fwy. Yn yr adran hon, mae cyfanswm sail y boblogaeth yn cynnwys pob preswylydd arferol sy'n 5 oed a throsodd.

Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig oedd fwyaf tebygol o fod yn darparu gofal di-dâl (16.5%), yna pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr (11.1%). Pobl nad ydynt yn anabl oedd leiaf tebygol o fod yn darparu gofal di-dâl (9.7%).

O'r rhai a oedd yn darparu gofal di-dâl, roedd pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr yn fwy tebygol o fod yn darparu mwy na 50 awr o ofal di-dâl bob wythnos (47.5%). Mae hyn yn cymharu â'r rheini yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (35.2%), a phobl nad ydynt yn anabl (31.6%).

Ffigur 4: Canran y bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl oriau o ddarpariaeth gofal di-dâl, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart far pentwr hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol anabl ac nad ydynt yn anabl dros 5 oed yng Nghymru a oedd yn darparu gofal di-dâl, wedi'i rhannu yn ôl sawl awr o ofal roeddent yn ei darparu bob wythnos. Mae'n dangos mai pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig oedd fwyaf tebygol o nodi eu bod yn darparu gofal di-dâl, yna pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Deiliadaeth tai

Gofynnwyd i breswylwyr arferol mewn aelwydydd sut y byddent yn disgrifio deiliadaeth eu cartrefi allan o 8 opsiwn. Mae'r opsiynau hyn wedi'u crynhoi yn 4 categori yn y bwletin hwn. Nid oes data ar gael ar gyfer lleoedd aelwyd lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran ar wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Pobl nad ydynt yn anabl oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartrefi, naill ai'n gyfan gwbl neu gyda morgais (70.3%), yna pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (55.5%) a'r sawl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr (43.1%).

Mae'r gwahaniaethau hyn yn bennaf oherwydd gwahaniaethau rhwng ymatebwyr sydd â morgais yn hytrach na bod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl. Pobl nad ydynt yn anabl oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref gyda morgais (38.1%), yna pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (28.7%), ac wedi'u cyfyngu'n fawr (17.9%).

Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tai rhent cymdeithasol (38.0%), yna pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu ychydig (24.5%). Roedd pobl nad ydynt yn anabl yn llai tebygol o lawer na phobl anabl o fod yn byw mewn tai rhent cymdeithasol (12.9%).

Mae'r gwahaniaethau rhwng y rhai sy'n rhentu'n breifat yn llai. Roedd pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu ychydig rywfaint yn fwy tebygol o fod yn rhentu'n breifat (20.0%) na'r rhai yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr (19.0%) a phobl nad ydynt yn anabl (16.8%).

Ffigur 5: Cyfran y bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl deiliadaeth yr aelwyd, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol anabl ac nad ydynt yn anabl mewn aelwydydd a oedd yn byw ym mhob categori o ddeiliadaeth tai. Mae'n dangos mai pobl nad ydynt yn anabl oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr oedd leiaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain ac yn fwyaf tebygol o fod yn rhentu tai cymdeithasol.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Sgôr gyfanheddu

Mae'r sgôr gyfanheddu ar gyfer ystafelloedd gwely yn rhoi mesur o b'un a yw aelwyd yn orlawn, yn cynnwys y nifer delfrydol o bobl neu wedi'i thanfeddiannu. Caiff hyn ei gyfrifo drwy gymharu nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar yr aelwyd â nifer yr ystafelloedd gwely sydd ar gael.

Mae sgôr gyfanheddu o +1 neu fwy yn awgrymu bod llety aelwyd wedi'i danfeddiannu. Mae sgôr o -1 neu lai yn awgrymu bod yr aelwyd yn orlawn. Mae sgôr o 0 yn awgrymu bod nifer delfrydol o ystafelloedd gwely. Dylid nodi mai dim ond dangosydd o danfeddiannu neu orlenwi yw'r Safon Ystafelloedd Gwely, ac nad yw'n ystyried unrhyw ofynion gofod ychwanegol y gall fod eu hangen ar ymatebydd yn ei fywyd pob dydd.  

Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn aelwydydd gorlawn (6.0%), yna pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (51.4%). Pobl nad ydynt yn anabl oedd leiaf tebygol o fyw mewn aelwydydd gorlawn (4.5%). Pobl nad ydynt yn anabl oedd fwyaf tebygol o fod â mwy o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen hefyd (71.3%), yna pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr (64.6%), ac ychydig (59.0%).

Ffigur 6: Cyfran y bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl sgôr gyfanheddu ar gyfer ystafelloedd gwely, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol mewn aelwydydd a nododd a oedd eu llety yn orlawn (gyda sgôr o -1 neu lai), wedi'i danfeddiannu (gyda sgôr o +1 neu fwy) neu â'r nifer delfrydol o bobl (gyda sgôr o 0), yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd gwely yn eu hannedd. Mae'n dangos bod pobl anabl ychydig yn fwy tebygol o fyw mewn cartref gorlawn ac yn llai tebygol o fyw mewn cartrefi wedi'u tanfeddiannu na phobl nad ydynt yn anabl.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Lefel addysg

Gofynnwyd i breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru gofnodi unrhyw gymwysterau roeddent wedi’u hennill erioed yng Nghymru neu yn unrhyw le arall, hyd yn oed os nad oeddent yn eu defnyddio erbyn hyn. Gellir defnyddio hyn i gyfrifo'r lefel uchaf o gymhwyster gan ddefnyddio'r categorïau canlynol:

  • Dim cymwysterau: Dim cymwysterau ffurfiol
  • Lefel 1: rhwng 1 a 4 cymhwyster TGAU (h.y. gradd A* i C neu radd 4 ac uwch) ac unrhyw gymwysterau TGAU eraill ar raddau eraill, Bagloriaeth Cymru – Sylfaen, neu gymwysterau cyfatebol.
  • Lefel 2: 5+ o gymwysterau TGAU (gradd A* i C neu radd 4 ac uwch), Bagloriaeth Cymru – Canolraddol, neu gymwysterau cyfatebol.
  • Prentisiaethau
  • Lefel 3: 2+ Safon Uwch, Bagloriaeth Cymru – Uwch, neu gymwysterau cyfatebol.
  • Lefel 4 neu uwch: Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor, neu gymwysterau ôl-raddedig.
  • Cymwysterau eraill, o lefel anhysbys.

Mae lefelau 1 i 3 wedi'u cyfuno'n un grŵp ac mae prentisiaethau wedi'u cynnwys yn y categori “Arall” at ddiben y bwletin hwn. Mae'r ystadegau canlynol yn gymwys i breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn unig.

Nid oedd gan fwy na chwarter (27.5%) o bobl anabl unrhyw gymwysterau ffurfiol, o gymharu ag 16.7% o bobl nad ydynt yn anabl. Er bod gwahaniaethau bach yn y lefel uchaf o gymhwyster rhwng pobl nad ydynt yn anabl a phobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychdyig, roedd pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr yn fwy tebygol o lawer o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol.  Nid oedd gan 37.1% o bobl anabl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr unrhyw gymwysterau ffurfiol, o gymharu â phobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (20%), a phobl nad ydynt yn anabl (16.7%).

Roedd pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr hefyd yn llai tebygol o fod wedi ennill cymhwyster ar Lefel 4 neu uwch (17.0%) o gymharu â'r rhai yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu ychydig (28.7%) a phobl nad ydynt yn anabl (34.1%).

Ychydig o wahaniaeth oedd rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl o ran y categori addysg ‘Arall’, sy'n cynnwys prentisiaethau, cymwysterau galwedigaethol neu gymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith. Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr oedd fwyaf tebygol o fod wedi ennill cymhwyster yn y categori hwn (8.2%), wedi'u dilyn yn agos gan bobl anabl a oedd wedi'u cyfyngu ychydig (8.0%) a phobl nad ydynt yn anabl (7.9%).

Ffigur 7: Cyfrannau o bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl y lefel uchaf o gymhwyster a enillwyd, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru yn ôl eu lefel uchaf o gymhwyster. Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr oedd fwyaf tebygol o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau a'r lleiaf tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefel 4 neu uwch.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Statws gweithgarwch economaidd

Holwyd preswylwyr arferol 16 oed a throsodd am eu statws gweithgarwch economaidd. Gofynnodd y cwestiynau a oedd unigolyn yn gweithio neu'n chwilio am waith yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021. Yn y dadansoddiad hwn, mae pedwar prif fath o statws gweithgarwch economaidd rydym yn edrych arnynt:

  • Yn economaidd weithgar: Gweithiwr cyflogedig
  • Yn economaidd weithgar: Hunangyflogedig
  • Yn economaidd weithgar: Pobl ddi-waith (pobl sy'n chwilio am waith i ddechrau o fewn pythefnos, neu'n aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn)
  • Yn economaidd anweithgar: pobl nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021, neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos.

Nid oedd categori ar wahân ar gyfer myfyrwyr a gafodd eu cynnwys yn un o'r categorïau hyn yn dibynnu ar eu gweithgarwch economaidd y tu allan i'w hastudiaethau. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, gwnaethom edrych ar breswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed. Roedd pobl sy'n hŷn na'r grŵp oedran hwn yn llawer mwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar.

Roedd pobl anabl (16 i 64 oed) yn fwy tebygol o lawer o fod yn economaidd anweithgar (57.3%) na phobl nad ydynt yn anabl (19.9%). Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr oedd fwyaf tebygol o nodi eu bod yn economaidd anweithgar (81.0%), yna'r rhai yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (39.4%).

Roedd cyfran y rheini a nododd eu bod yn ddi-waith ar ei huchaf ymhlith pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (5.9%) yna pobl nad ydynt yn anabl (4.1%) a phobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr (2.4%). Gall y ganran is ar gyfer pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr fod oherwydd y tebygolrwydd uwch bod pobl yn y categori hwn yn economaidd anweithgar.

Nododd dros dri chwarter (76%) y bobl nad ydynt yn anabl eu bod yn weithwyr cyflogedig neu'n huangyflogedig, o gymharu ag ychydig dros hanner (54.7%) y bobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pobl dydd wedi'u cyfyngu ychydig, ac un o bob chwech (16.6%) o'r rhai yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr.

Ffigur 8: Cyfran y bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl statws gweithgarwch economaidd, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol anabl ac nad ydynt yn anabl (16 i 64 oed) a gafodd eu cynnwys ym mhob un o'r pedwar categori statws economaidd. Mae'n dangos mai pobl nad ydynt yn anabl oedd fwyaf tebygol o fod yn weithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig. Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr oedd fwyaf tebygol o fod yn economaidd anweithgar.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Rhesymau dros anweithgarwch economaidd

Salwch hirdymor neu anabledd oedd y rheswm a roddwyd dros anweithgarwch economaidd gan 70.7% o bobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr a 30.5% o'r rhain yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu ychydig. Salwch hirdymor neu anabledd oedd y rheswm lleiaf cyffredin a roddwyd dros anweithgarwch economaidd gan bobl nad ydynt yn anabl (4.5%).

Pobl nad ydynt yn anabl oedd fwyaf tebygol o nodi bod eu hanweithgarwch economaidd o ganlyniad i ofalu am eu cartref neu eu teulu (38.7%), yna bod yn fyfyriwr amser llawn (22.5%).

Ffigur 9: Cyfran y bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl rheswm dros anweithgarwch economaidd, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol sy'n economaidd anweithgar (16 i 64 oed) a'u rhesymau dros eu hanweithgarwch economaidd. Mae'n dangos mai'r rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd dros anweithgarwch economaidd ymhlith pobl anabl oedd salwch hirdymor.

Ffynhonnell Cyfrifiad 2021

Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol

Mae'r Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) yn nodi sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolyn, yn seiliedig ar ymatebion i gwestiynau am statws gweithgarwch economaidd, galwedigaeth a hanes cyflogaeth yng Nghyfrifiad 2021. Mae'n ddosbarthiad safonol gan y SYG.

Mae 9 categori NS-SEC gwahanol, sydd wedi'u crynhoi yn 5 categori “lefel uchel” at ddiben y bwletin hwn. Dangosir y ffordd y mae'r categorïau hyn wedi'u crynhoi yn Nhabl 2 yn yr adran ar ansawdd a methodoleg. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, gwnaethom edrych ar breswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed.

Pobl nad ydynt yn anabl oedd fwyaf tebygol o fod â statws economaidd-gymdeithasol rheoli, gweinyddol neu broffesiynol (32.8%), yna pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (23.7%) a phobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr (12.5%).

Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr oedd fwyaf tebygol o fod â statws economaidd-gymdeithasol â galwedigaeth ailadroddus neu led-ailadroddus (29.8%) yna rhai yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (28.5%), a phobl nad ydynt yn anabl (24.1%).

Roedd pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig hefyd yn fwy tebygol o lawer o beidio â bod wedi gweithio erioed neu o fod yn ddi-waith am gyfnod hir (29.7%), o gymharu â'r rhai yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (11.8%) a phobl nad ydynt yn anabl (4.3%).

Roedd cyfran y myfyrwyr amser llawn yn debyg rhwng pobl nad ydynt yn anabl (10.9%) a phobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig (11.6%), ac ychydig yn is ymhlith pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau wedi'u cyfyngu'n fawr (9.4%).

Ffigur 10: Cyfran y bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn ôl dosbarthiad economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SeC), Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae'r siart far hon yn dangos cyfrannau'r preswylwyr arferol anabl ac nad ydynt yn anabl (16 i 64 oed) a gafodd eu cynnwys ym mhob un o'r pum categori economaidd-gymdeithasol. Mae'n dangos mai pobl nad ydynt yn anabl oedd fwyaf tebygol o fod â rolau rheoli, gweinyddol neu broffesiynol. Pobl anabl yr oedd eu gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr oedd fwyaf tebygol o fod â galwedigaethau ailadroddus neu led-ailadroddus a'r mwyaf tebygol o beidio â bod wedi gweithio erioed neu o fod yn ddi-waith am gyfnod hir.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ceir gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys rhestr lawn o dermau, yn adroddiad y SYG ar wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Ceir rhagor o wybodaeth am brosesau sicrhau ansawdd yn y fethodoleg Maximising the quality of Census 2021 population estimates (SYG).

Pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'n bosibl y bydd hyn wedi dylanwadu ar y ffordd roedd pobl yn teimlo am eu hiechyd ac yn ei sgorio ac felly gallai fod wedi effeithio ar y ffordd y dewisodd pobl ymateb. Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth y pandemig effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.

O ganlyniad i'r pandemig, roedd Llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau ffyrlo i sicrhau bod y rhai na allent weithio yn gallu parhau i gael eu cyflogi. Wrth gwblhau ffurflen Cyfrifiad 2021, gofynnwyd i'r bobl ar ffyrlo ddweud eu bod i ffwrdd o'r gwaith dros dro, ynghyd â'r rhai a oedd dan gwarantin neu'n hunanynysu oherwydd y pandemig. Gallai nifer y bobl a oedd yn economaidd anweithgar fod yn uwch na'r disgwyl am ei bod yn bosibl y bydd rhai pobl a oedd ar ffyrlo wedi nodi eu bod yn economaidd anweithgar, yn hytrach nag i ffwrdd o'r gwaith dros dro. Mae rhai gwahaniaethau rhwng data Cyfrifiad 2021 ar gyflogaeth a data sy'n seiliedig ar yr Arolwg o'r Llafurlu.Caiff y gwahaniaethau hyn eu hesbonio yn yr erthygl Comparing Census 2021 and Labour Force Survey estimates of the labour market, England and Wales, a gynhyrchwyd gan y SYG.

Rhestr Termau

Ceir rhestr lawn o dermau yng ngeiriadur Cyfrifiad 2021 y SYG.

Safoni oedran

Defnyddir cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran fel y gellir cymharu rhwng poblogaethau a all gynnwys meintiau poblogaeth gyffredinol gwahanol a chyfrannau o bobl o wahanol oedrannau. I ddarllen mwy am safoni oedran a pham y mae'n bwysig, darllenwch gyhoeddiad y SYG Age standardising data: What does this mean and why does it matter?

Defnyddir Poblogaeth Safonol Ewrop 2013 i safoni canrannau. Poblogaeth ddamcaniaethol yw hon ac mae'n tybio bod y strwythur oedran yr un fath ar gyfer y ddau ryw, sy'n golygu y gellir cymharu rhwng y rhywiau yn ogystal â rhwng ardaloedd daearyddol a thros amser. Rhestrir y poblogaethau safonol yn Atodiad F o'r Revision of the European Standard Population: Report of Eurostat's task force and Revised European Standard Population: 2013 ESP.

Preswylwyr arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y DU ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y DU am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac a oedd y tu allan i’r DU ac yn bwriadu aros y tu allan i’r DU am lai na 12 mis.

Preswylwyr arferol mewn aelwydydd

Mae “preswylwyr arferol mewn aelwydydd” yn cyfeirio at breswylwyr arferol sy'n byw mewn aelwyd yn y DU, lle caiff aelwyd ei diffinio fel un person sy’n byw ar ei ben ei hun neu grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i'w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad, ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta. Rhaid i aelwyd gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd eu cyfrif yn aelwyd, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy'n cynnwys ymwelwyr yn unig. Ystyrir bod aelwyd yn anabl os bydd o leiaf un preswylydd arferol wedi'i ddosbarthu'n anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Nid yw'r boblogaeth hon yn cynnwys pobl sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol fel cartrefi gofal neu neuaddau preswyl myfyrwyr.

Categorïau dosbarthu anabledd

Rhestrir y pedwar categori anabledd a ddadansoddir yn y bwletin hwn isod.

  1. Yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu'n fawr
  2. Yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau pob dydd wedi'u cyfyngu ychydig
  3. Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Â chyflwr iechyd meddwl neu iechyd corfforol hirdymor ond ni chyfyngir ar weithgareddau pob dydd
  4. Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Dim cyflyrau iechyd meddwl nac iechyd corfforol hirdymor

Noder, yn y bwletin hwn, mae categorïau 3 a 4 wedi'u huno i'r un categori “Ddim yn anabl” oni nodwyd yn benodol fel arall.

Cwestiwn Cyfrifiad 2021

Er mwyn cael ei ddosbarthu'n anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010), rhaid bod gan unigolyn amhariad corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith negyddol ‘sylweddol’ a ‘hirdymor’ ar ei allu i wneud gweithgareddau pob dydd arferol, lle mae ‘sylweddol’ yn golygu mwy na mân neu ddibwys ac mae ‘hirdymor’ yn golygu 12 mis neu fwy.

Yng Nghyfrifiad 2021, roedd y cwestiwn wedi'i rannu'n ddwy ran:

1. Oes gennych chi gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu sy’n debygol o bara 12 mis neu fwy?

  • Oes
  • Nac oes

2. Yna, gofynnwyd i'r bobl a ddewisodd “Oes” i'r cwestiwn hwn: Ydy unrhyw gyflwr neu salwch sydd gennych chi’n lleihau eich gallu i wneud gweithgareddau pob dydd?

  • Ydy, yn fawr
  • Ydy, ychydig
  • Ddim o gwbl

Categorïau deiliadaeth tai

Mae'r 8 opsiwn yn y categorïau deiliadaeth tai wedi'u crynhoi yn 4 grŵp lefel uchel fel a ganlyn.

Categori lefel uchel: yn berchen arno’n gyfan gwbl
Opsiynau cwestiwn
  • Yn berchen arno: yn berchen arno’n gyfan gwbl
Categori lefel uchel: yn berchen arno gyda morgais
Opsiynau cwestiwn
  • Yn berchen arno: yn berchen arno gyda morgais neu fenthyciad
  • Yn berchen arno'n rhannol: cynllun rhanberchnogaeth
Categori lefel uchel: wedi'i rentu'n gymdeithasol
Opsiynau cwestiwn
  • Wedi'i rentu'n gymdeithasol: yn cael ei rentu gan gyngor neu awdurdod lleol
  • Wedi'i rentu'n gymdeithasol: math arall o rentu cymdeithasol
Categori lefel uchel: wedi'i rentu'n breifat
Opsiynau cwestiwn
  • Wedi'i rentu'n breifat: landlord preifat neu asiantaeth gosod tai
  • Wedi'i rentu'n breifat: math arall o rentu preifat
  • Yn byw yn y cartref heb dalu rhent

Sgôr gyfanheddu ar gyfer ystafelloedd gwely

Caiff y sgôr gyfanheddu ar gyfer ystafelloedd gwely ei chyfrifo drwy gymharu nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar yr aelwyd â nifer yr ystafelloedd gwely sydd ar gael. Caiff nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar aelwyd ei gyfrifo yn ôl y Safon Ystafelloedd Gwely, sy'n ystyried oedran a rhyw y bobl yn yr aelwyd, a'r berthynas rhynddynt. Ceir rhagor o wybodaeth am ystyr hyn yng ngeiriadur newidynnau y SYG ar gyfer sgôr gyfanheddu.

Gweithgarwch economaidd

Mae'n mesur a oedd unigolyn yn rhan weithredol o'r farchnad lafur yn ystod y cyfnod hwn. Pobl economaidd anweithgar yw'r bobl 16 oed a throsodd nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos. Mae'r rhestr lawn o'r 19 o gategorïau i'w gweld yn y cofnod ar statws gweithgarwch economaidd yn y geiriadur newidynnau (SYG).

Categorïau economaidd-gymdeithasol

Mae'r pum categori economaidd-gymdeithasol a ddadansoddwyd yn y bwletin hwn wedi'u crynhoi o'r naw categori Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) gwreiddiol, fel y dangosir isod. Ceir rhagor o wybodaeth am y categorïau NS-SEC yn Nosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) y SYG.

Categorïau Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol wedi'u crynhoi yn bum categori lefel uchel

Categori lefel uchel: rheoli, gweinyddol neu broffesiynol
Categorïau NS-SEC
  • L1, L2 ac L3: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch
  • L4, L5 ac L6: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is
Categori lefel uchel: canolradd, cyflogwyr bach neu oruchwylio
Categorïau NS-SEC
  • L7: Galwedigaethau canolradd
  • L8 ac L9: Cyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain
  • L10 ac L11: Galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is
Categori lefel uchel: ailadroddus neu led-ailadroddus
Categorïau NS-SEC
  • L12: Galwedigaethau lled-ailadroddus
  • L13: Galwedigaethau gwaith ailadroddus
Categori lefel uchel: yn ddi-waith neu'n anweithgar am gyfnod hir
Categorïau NS-SEC
  • L14.1 ac L14.2: Erioed wedi gweithio ac yn ddi-waith am gyfnod hir
Categori lefel uchel: myfyrwyr
Categorïau NS-SEC
  • L15: Myfyrwyr amser llawn

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 a chan ddangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoliadol Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at drafodaeth a phenderfyniadau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau ei bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod ar unwaith. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol pan na chaiff y safonau uchaf eu cynnal a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.

Cadarnhawyd i'r SYG y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022, yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith i Gymru, er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach, ac sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegwyr: Edward Wilkinson a John Poole
Ebost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB: 44/2023