Neidio i'r prif gynnwy

Data sy’n cyflwyno canlyniadau profion cyfanredol ar gyfer pob disgybl ym mlynyddoedd 2 i 9 ar gyfer 2019.

Prif bwyntiau

  • Ar y cyfan, mae perfformiad disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim (eFSM) yn is na disgyblion sydd ddim a’r hawl ym mhob un o’r profion cenedlaethol.
  • Mae disgyblion eFSM rhwng dwy a hanner a phedair gwaith yn llai tebygol i gyflawni sgôr safonedig yn ôl oedran o dros 115 ym mhob un o’r profion cenedlaethol.
  • Mae disgyblion eFSM rhwng dwy a dwy a hanner gwaith mwy tebygol o gyflawni sgôr safonedig yn ôl oedran o is na 85 yn y profion cenedlaethol.

Rhagor o wybodaeth

Mae hyn yn ategu allbynnau tebyg eraill yn edrych ar yr asesiadau athrawon, chanlyniadau CA4  ac phresenoldeb gan hawl i gael prydau ysgol am ddim.

Cyhoeddwyd prif ganlyniadau profion llythrennedd a rhifedd ar bapur cenedlaethol 2019 ym mis Awst 2019. Mae’r Nodiadau yn y adroddiad hwnnw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am gefndir ac ansawdd ar gyfer y profion, a dylid eu darllen ochr yn ochr â’r data yn y adroddiad hwn.

Symud tuag at asesu darllen a rhifedd ar-lein

Mae asesiadau personol ar-lein yn disodli'r profion cenedlaethol papur presennol ar gyfer dysgwyr ym Mlwyddyn 2 i 9 dros gyfnod o dair blynedd. Yn 2019, cymerodd disgyblion asesiad personol ar-lein newydd ar gyfer Rhifedd Gweithdrefnol yn lle prawf ar bapur. Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno canlyniadau ar gyfer y profion papur yn unig.

Oherwydd y pontio i asesiadau ar-lein, y adroddiad ystadegol ar gyfer y profion yn 2019 fydd yr olaf i gael ei gynhyrchu (gweler cynlluniau’r dyfodol yn adroddiad ystadegol Canlyniadau Profion Llythrennedd a Rhifedd Awst 2019).

Cymaroldeb

Mae sgorau safonedig yn ôl oedran yn darparu mesur o berfformiad cymharol yn unig. Mae sgôr o dros 115 yn nodi canlyniadau prawf sydd yn uwch na’r rhai ar gyfer rhan fwyaf y plant o’r un oedran. Mae sgôr o rhwng 85 ac 115 yn nodi canlyniadau prawf sydd yn cyfateb i ran fwyaf y plant o’r un oedran. Mae sgôr is na 85 yn nodi canlyniadau prawf sydd yn is na’r rhai ar gyfer rhan fwyaf y plant o’r un oedran.

Mae’r canlyniadau ar gyfer pob grŵp blwyddyn a phrofi wedi'u safoni yn annibynnol bob blwyddyn. Felly, ni all y data yn y adroddiad hwn gael ei ddefnyddio i gymharu perfformiad cymharol o ddisgyblion rhwng y gwahanol brofion.

Nodwch gan fod y data wedi'u safoni yn annibynnol bob blwyddyn, ni ellir cymharu’r canlyniadau dros amser.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol a'r hawl i brydau am ddim, 2019: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 18 KB

ODS
18 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.