Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod diogelu yn ystyriaeth ganolog yn y systemau, y polisi a'r cyngor sy'n cael eu datblygu i gefnogi dyfodiad pobl o Wcráin. Gwyddom fod hyn hefyd yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol a phartneriaid diogelu perthnasol.

Yn gyffredinol, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyflawni eu swyddogaethau diogelu statudol presennol mewn perthynas â'r cynllun noddi unigol hwn, fel y byddent ar gyfer unrhyw boblogaeth arall yng Nghymru. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn gymwys boed personau o Wcráin mewn llety cychwynnol dros dro, mewn Canolfannau Croeso, gyda noddwyr unigol neu wedi symud ymlaen i lety arall gan noddwyr.

Yn gyffredinol, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyflawni eu swyddogaethau diogelu statudol presennol mewn perthynas â'r cynllun noddi unigol hwn, fel y byddent ar gyfer unrhyw boblogaeth arall yng Nghymru. Caiff y cyngor ar gofnodi ac ymateb i bryderon diogelu am blant neu oedolion sydd mewn perygl (fel y'u diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) ei egluro yn Gweithdrefnau ac yng Nghanllaw Ymarfer Cymru Gyfan Gofal Cymdeithasol Cymru (Diogelu Cymru).

Cyngor ac arweiniad ychwanegol

Cynhelir amrywiaeth o archwiliadau diogelwch gan Lywodraeth y DU gan gynnwys cyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu (PNC) a'r Mynegai Rhybuddion ar bobl o Wcráin sy'n gwneud cais am Fisa. Rhaid bodloni’r archwiliadau hynny cyn cael Fisa. Bydd yr un lefel a math o archwiliadau’n cael eu cynnal gan Lywodraeth y DU ar bobl o Gymru dros 18 oed, sy'n gwneud cais i groesawu pobl o Wcráin i’w cartref. Mae gwaith yn cael ei wneud i gynyddu’r math o archwiliadau a wneir a bydd rhagor o gyngor yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Gall fod gan awdurdodau lleol wybodaeth ar eu systemau, er enghraifft, pryderon am ddiogelu, i awgrymu nad yw'n addas i unigolion yn y cyfeiriad lletya groesawu pobl i'w cartref. Yr awdurdod lleol unigol fydd yn penderfynu a fydd yn edrych ar y systemau mewnol hyn.  Yn sgil hynny gall penderfyniadau gael eu gwneud gan yr awdurdod lleol ynghylch yr unigolion hynny nad ydynt yn addas i groesawu rhywun i’w cartref cyn cynnal proses wirio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd disgwyl i awdurdodau lleol hwyluso gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar bobl o Gymru sy'n gwneud cais i noddi rhywun i ddod i fyw yn eu cartref. Dylid gwneud pob ymdrech bosibl i gyflawni’r gwiriadau hynny cyn i unrhyw bobl o Wcráin ddechrau byw ar aelwydydd yng Nghymru.

Os bydd pobl yn cael eu paru o dan y cynllun ac mae’r paru hwnnw’n cynnwys cynnig cartref i blentyn o Wcráin (h.y., o dan 18 oed), cynhelir Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar bob aelod sy'n 16+ oed. Mae angen cynnal y gwiriad manylach (gan gynnwys gwiriad o'r rhestr wahardd ar gyfer plant) oherwydd lefel y risg o ddiogelu ar aelwydydd – pan fydd y noddwr a/neu unigolion eraill 16+ oed yn darparu gofal neu oruchwyliaeth i blentyn o dan y cynllun ar fwy na thri achlysur mewn cyfnod o 30 diwrnod, neu dros nos. Mae’r sefyllfa honno’n golygu bod y noddwyr a’r oedolion eraill yn rhwym wrth oblygiadau Gweithgaredd a Reoleiddir (Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, Atodlen 4, Rhan 1). Fodd bynnag, nid yw hynny’n berthnasol os yw'r plentyn o Wcráin yn perthyn i’r aelod sy’n noddi unigolyn o Wcráin. Yn yr achos hwnnw, dim ond Gwiriad Sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sydd ei angen.

Os bydd eich awdurdod lleol yn penderfynu bod angen cymorth ychwanegol ar oedolyn o Wcráin, oherwydd oedran, salwch neu oherwydd ei fod yn anabl – a bod oedolyn (16+) sy’n aelod o'r aelwyd sy'n noddi yn rhoi'r cymorth hwnnw – yna gallwch ofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (gan gynnwys gwiriad o'r rhestr wahardd ar gyfer oedolion) ar gyfer yr aelod o’r aelwyd y bwriedir iddo/iddi ddarparu’r cymorth hwnnw. Gall y canllawiau presennol ynghylch Gweithgaredd a Reoleiddir gydag Oedolion a Gweithgaredd a Reoleiddir gyda Phlant gefnogi wrth asesu cymhwystra’r unigolion ar gyfer y lefel hon o wiriad.

Ym mhob achos arall, gan gynnwys os bydd perthynas deuluol rhwng yr aelod sy’n noddi a'r bobl o Wcráin, dylid cynnal gwiriad Sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar bob aelod 16+ oed o'r aelwyd sy’n noddi.

Er mwyn symud pobl o Wcráin o Ganolfannau Croeso i gartrefi noddwyr/pobl sy’n lletya yn gyflymach, mae dull cenedlaethol o weithredu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi’i gyflwyno. Mae Complete Background Screening wedi’i gontractio gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyngor i awdurdodau lleol ar broses gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac i gynnal y gwiriadau hyn ar ran awdurdodau lleol. Mae’r wybodaeth wedi’i rhannu, ond gellir cael rhagor o gyngor yma: rachelb@cbsreening.co.uk.

Gellir talu am wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chostau cysylltiedig o'r tariff o £10,500 y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu i awdurdodau lleol drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer pob person o Wcráin sy’n dod i’r DU i fyw.

Ceir rhagor o wybodaeth am wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn llythyr Llywodraeth Cymru at Brif Weithredwyr awdurdodau lleol a phartneriaid statudol eraill, dyddiedig 1 Ebrill 2022. Mae cyfres o gwestiynau cyffredin am wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i'w gweld ar ddiwedd y ddogfen hon.

Gwybodaeth i’r bobl sy’n cynnig llety yn eu cartref ac i bobl o Wcráin

Wrth gynnal gwiriadau diogelu, gofynnir i awdurdodau lleol ofyn i'r rheini sy’n cynnig llety yn eu cartrefi gwblhau'r modiwl hyfforddiant ar-lein ar ddiogelu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i’r rheini sy’n cynnig llety yn eu cartref a fydd yn cynnwys gwybodaeth iddynt am yr angen i roi gwybod am unrhyw bryderon diogelu, a sut i wneud hynny.

Drwy wefan Noddfa Llywodraeth Cymru, bydd pobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru yn cael gwybodaeth am fywyd yng Nghymru, gan gynnwys sut i roi gwybod am unrhyw bryderon diogelu – a'i bod yn briodol iddynt wneud hynny Ar hyn o bryd mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth gychwynnol ar gyfer pobl o Wcráin yr ychwanegir ati dros amser.

Mae Canolfan Gyswllt sydd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, wedi'i sefydlu ar gyfer y noddwyr sy’n cynnig llety yn eu cartrefi a phobl o Wcráin. Rhadffôn i bobl yn y DU: 0808 175 1508. I bobl y tu allan i’r DU: +44(0)20 4542 5671.

Rydym yn disgwyl i staff y Ganolfan Gyswllt gwblhau'r modiwl hyfforddiant ar-lein ar ddiogelu.

Rydym hefyd wedi rhoi arweiniad i'r gwasanaeth Llinell Gymorth ar ymateb i unrhyw bryderon diogelu a rennir gyda staff y Ganolfan Gyswllt ac ar adrodd arnynt. Rydym hefyd yn disgwyl i staff y Ganolfan Gyswllt gwblhau'r hyfforddiant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ac rydym wedi rhoi arweiniad tebyg i'r gwasanaeth Llinell Gymorth ar ymateb i bryderon yn y meysydd hyn ac adrodd arnynt.

Cyfryngau cymdeithasol

Gwyddom am achosion lle mae unigolion wedi defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i baru â pherson neu bobl o Wcráin. Er bod llawer o fanteision i'r cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd, mae llawer o risgiau cydnabyddedig hefyd mewn perthynas â diogelu a'r potensial i gamfanteisio ar bobl.

Er mwyn sicrhau pob unigolyn a phob teulu yn cael eu diogelu'n effeithiol, rydym yn annog yn gryf y dylid defnyddio system baru RESET.

Mae’r cyngor yn y canllawiau i noddwyr yn nodi fel a ganlyn:

Cyfryngau cymdeithasol: pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi

Mae pawb yn defnyddio'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad ac yn gwneud mwy fyth o hynny pan fydd teuluoedd yn cael eu gwahanu. Diben y cyngor hwn yw eich helpu chi fel noddwr i ddiogelu preifatrwydd ac urddas y person neu'r bobl o Wcráin yr ydych yn rhoi llety iddynt. Weithiau bydd pobl lai gonest yn cymryd mantais o fwriadau da pobl. Dylech ofyn i chi eich hun a fyddech am i rywun rannu delweddau a gwybodaeth amdanoch chi neu'ch teulu/plant ar rwydwaith cyhoeddus, gyda neu heb ganiatâd. Cofiwch nad yw plant yn gallu rhoi 'caniatâd ar sail gwybodaeth’.

Fel noddwr, mae amrywiaeth o bethau syml y gallwch eu gwneud i helpu i ddiogelu preifatrwydd:

Pethau i’w gwneud

Gwnewch yn siŵr bod pawb yn eich cartref sy'n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn ymwybodol o'u gosodiadau diogelwch a sut i'w newid.

Byddwch yn ymwybodol bod enwau defnyddwyr, lluniau proffil a bywgraffiadau cyfryngau cymdeithasol bob amser yn gyhoeddus, hyd yn oed ar gyfrifon preifat.

Byddwch yn ofalus iawn am geisiadau ffrindiau gan bobl nad ydych chi'n eu hadnabod.
Gwnewch yn siŵr fod y person neu'r bobl yr ydych chi'n rhoi llety iddynt wedi lawrlwytho'r 'botwm panig' ar Facebook.

Pethau i’w hosgoi

Cyhoeddi ffotograffau o'r bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt ar rwydweithiau cyhoeddus.

Cyhoeddi unrhyw wybodaeth ynghylch lle mae'r bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt yn byw.

Cyhoeddi unrhyw wybodaeth ynghylch lle fydd y bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt ar adeg benodol.

Tybio bod pobl yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw.

Os ydych chi'n noddi pobl o Wcráin gan gynnwys plentyn neu blant, mae'r adnoddau hyn ar gyfer oedolion a phlant yn ddefnyddiol: Plant a phobl ifanc - Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU a Rhieni a Gofalwyr - Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU.

Ymweliadau â chartrefi’r rheini sy’n cynnig llety er mwyn diogelu

Ar ôl i bobl o Wcráin gyrraedd cartrefi’r rheini sy’n cynnig llety ac i gadarnhau nad oes unrhyw bryderon diogelu na llesiant mewn perthynas â’r bobl o Wcráin neu’r bobl sydd eisoes yn byw ar yr aelwyd sy’n cynnig llety, awgrymir bod ymweliad â'r cartref yn cael ei drefnu ar gyfer wythnos gyntaf y lleoliad a thrydedd wythnos y lleoliad. Os nad oes unrhyw bryderon yn dilyn yr ymweliadau hyn, yna nid oes angen cynnal ymweliad arall. Bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu a oes angen ymweliadau ychwanegol fesul achos. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth am eu gwasanaethau i’r aelwydydd hynny sy’n cynnig llety

Oni nodir anghenion diogelu a/neu ofal a chymorth penodol, yna ni fydd angen i staff/gweithwyr cymdeithasol cymwys ymweld â'r cartref. Fodd bynnag, dylai staff sy'n ymweld â'r cartref fod wedi cael hyfforddiant diogelu perthnasol. Dylent o leiaf fod wedi cwblhau’r hyfforddiant ar-lein ar ddiogelu.

Pryderon a nodir drwy wiriadau diogelu awdurdodau lleol cyn i bobl o Wcráin gyrraedd cyfeiriad y noddwr sy'n cynnig llety iddynt

Pan fydd gwiriadau awdurdodau lleol yn datgelu bod noddwr a/neu gyfeiriad yn anaddas am resymau sy'n ymwneud â diogelu, dylai'r awdurdod lleol benderfynu ar y camau priodol i'w cymryd, yn dibynnu ar lefel y risg. Efallai yr hoffai awdurdodau lleol sefydlu panel o swyddogion perthnasol i ystyried achosion.

Os bydd person(au) o Wcráin yn wynebu risg o niwed uniongyrchol gan ddarpar noddwr sy'n cynnig llety iddo/iddynt a bod angen i'r awdurdod lleol gael cymorth gan Lu'r Ffiniau i atal y bobl hyn rhag mynd at y noddwr pan fyddant yn cyrraedd, dylai'r awdurdod lleol gofnodi'r mater hwn â desg gymorth Llywodraeth y DU (sef Jira). Bydd angen i awdurdodau lleol gofrestru gan ddefnyddio'r un ddolen. Wrth gofnodi mater ar Jira, rhowch ‘safeguarding’ yn y pennawd pwnc gan fod yr achosion hyn yn cael eu blaenoriaethu.

Fel arall, gall awdurdodau lleol gysylltu â Llinell Ffôn Desg Gymorth Llywodraeth y DU ar 0303 444 4445. Mae'r llinell hon ar agor rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (heblaw am wyliau banc).

Yna bydd angen i'r awdurdod lleol drefnu llety arall ar gyfer y person/pobl o Wcráin. Os bydd pobl yn cysylltu â'r awdurdod lleol i ddweud bod angen llety brys arnynt neu os nodir bod angen llety brys arnynt, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol o hyd am ddod o hyd i lety addas yn ei ardal. 

Ni ddylai Canolfannau Croeso gael eu hystyried yn drefniant lleoli brys. Eu diben yw darparu capasiti i gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd drwy'r llwybr Uwch-noddwr, nid darparu lleoliadau brys. O dan amgylchiadau eithriadol iawn, gall lleoliad byrdymor iawn gael ei gynnig o fewn Canolfan Groeso tra bod ymdrechion yn cael eu gwneud i ddod o hyd i ateb lleol mwy priodol ar frys. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol iawn y gwneir hyn, ar ôl ystyried pob opsiwn lleol a dim ond os oes digon o le mewn Canolfan Groeso.

O dan y fath amgylchiadau, dylai'r awdurdod lleol gysylltu â Ukraine.Safeguarding@llyw.cymru i asesu a ellir cynnig yr opsiwn hwn ai peidio. O dan yr amgylchiadau prin hyn, yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am drefnu llety i'r unigolion o hyd a bydd disgwyl iddo ddod o hyd i ateb lleol addas ar frys.

Dylai'r awdurdod lleol wneud y canlynol hefyd:

  • cyn gynted â phosibl, rhowch wybod i'r person sydd wedi gwneud cais i fod yn noddwr lletyol na fydd yn gallu gweithredu fel noddwr, yn bersonol neu dros y ffôn, ac yna drwy lythyr neu e-bost
  • mewn rhai achosion, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod angen cymorth yr heddlu arno i hysbysu'r person sydd wedi gwneud cais i fod yn noddwr na fydd yn gallu bod yn noddwr. Dylai awdurdodau lleol wneud y penderfyniad hwn fesul achos. Os bydd yr awdurdod lleol yn asesu bod angen cynnwys yr heddlu o ganlyniad i'r risg i'w swyddogion, dylai gysylltu ag Uned Gyswllt yr Heddlu ar plu@llyw.cymru
  • os bydd yr awdurdod lleol o'r farn y gallai'r person sydd wedi gwneud cais i fod yn noddwr fod wedi torri amodau trwydded neu ddedfryd gymunedol drwy wneud cais i fod yn noddwr, dylai'r awdurdod lleol hysbysu'r Gwasanaeth Prawf drwy WalesPSIAR@justice.gov.uk
  • codwch docyn Jira i ofyn i'r noddwr lletyol gael ei dynnu oddi ar restr noddwyr lletyol Lywodraeth y DU
  • dylid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw gamau a gymerir drwy anfon e-bost i Ukraine.Safeguarding@llyw.cymru.

Os oes gan yr awdurdod lleol bryderon diogelu am ddarpar noddwr ond nid yw o'r farn bod perygl o niwed uniongyrchol i eraill, dylai'r awdurdod lleol wneud y canlynol:

  • cyn gynted â phosibl, rhowch wybod i'r person sydd wedi gwneud cais i fod yn noddwr lletyol na fydd yn gallu gweithredu fel noddwr, yn bersonol neu dros y ffôn, ac yna drwy lythyr neu e-bost.
  • cadarnhau â'r person sydd wedi gwneud cais i fod yn noddwr y dyddiad y disgwylir i bobl o Wcráin gyrraedd a'u trefniadau teithio i gyrraedd cyfeiriad y noddwr.
  • mynd i'r cyfeiriad ar y dyddiad y mae'r bobl o Wcráin yn cyrraedd a threfnu eu bod yn cael eu cludo i lety arall.
  • ar ôl asesu’r risg, os pennir ei bod hi’n bosibl i’r risg honno gynyddu, dylid dechrau tocyn Jira i ofyn am dynnu’r noddwr sy’n lletya oddi ar restr noddwyr sy’n lletya Llywodraeth y DU
  • dylid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw gamau a gymerir drwy anfon e-bost i Ukraine.Safeguarding@llyw.cymru.

Pryderon a nodir neu y rhoddir gwybod amdanynt ar ôl i bobl o Wcráin ddechrau byw gyda noddwr

Pan gaiff pryder diogelu ei nodi ar ôl i'r trefniant lletya ddechrau neu pan geir gwybod am bryder diogelu ar ôl i'r trefniant ddechrau, dylai'r awdurdod lleol ymateb yn y ffordd arferol gan wneud penderfyniadau fesul achos yn unol â dyletswyddau statudol cyfredol.

Os bydd yr awdurdod lleol o'r farn bod natur y pryderon diogelu yn golygu na ddylai pobl o Wcráin fyw yng nghyfeiriad y noddwr mwyach, dylai roi cyngor ar anaddasrwydd y trefniadau presennol a'r risgiau cysylltiedig a gwneud argymhellion i symud i lety arall.  

Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu symud pobl o Wcráin o gyfeiriad noddwr i lety arall, dylai roi gwybod i Lywodraeth Cymru am ei gamau drwy e-bost: Ukraine.Safeguarding@llyw.cymru.

Llety arall a llety symud ymlaen

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith ar gyfer Llety sy'n amlinellu cyfres o drefniadau i gartrefu pobl o Wcráin ar ôl eu cyfnod cychwynnol mewn Canolfan Groeso neu pan fo lleoliadau o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin wedi chwalu. Fe'ch cynghorir i ddarllen y fframwaith hwn ar y cyd â'r canllawiau hyn.

Pobl o Wcráin sy'n mynd ar goll

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyngor yn y canllawiau i noddwyr  ar sut i ymateb os na fydd person(au) o Wcráin yn cyrraedd y cyfeiriad dan sylw yn ôl y disgwyl. Mae hyn yn cynnwys gwneud ymdrechion rhesymol i gysylltu â'r person(au) o Wcráin a'u lleoli ac os na fydd yr ymdrechion hyn yn llwyddiannus, hysbysu'r heddlu am y person(au) sydd ar goll.

Mewn achosion lle cawsom wybod gan Lywodraeth y DU fod person(au) wedi cyrraedd y DU drwy'r Cynllun Uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin ond nad yw’r Ganolfan Gyswllt wedi llwyddo i gysylltu â nhw, bydd staff y Ganolfan Gyswllt yn rhoi gwybod i'r heddlu bod y person ar goll drwy ffonio 101.

Mewn achosion pan fo staff y Ganolfan Gyswllt wedi llwyddo i gysylltu â pherson(au) o Wcráin ond bod y person(au) wedi methu â chyrraedd y llety cychwynnol dros dro, mae angen i’r awdurdod lleol sy’n darparu cymorth cofleidiol i’r llety dros dro roi gwybod i’r heddlu bod y person(au) ar goll drwy ffonio 101.

Mewn achosion lle mae staff y Ganolfan Groeso wedi cysylltu â pherson(au) o Wcráin a’u bod wedi methu cyrraedd y Ganolfan Groeso fel a drefnwyd, rhaid i staff y Ganolfan Groeso roi gwybod i’r awdurdod lleol a bydd raid i’r awdurdod lleol wedyn roi gwybod i’r heddlu bod y person(au) ar goll drwy ffonio 101.

Mewn achosion lle mae person(au) o Wcráin yn cael llety drwy’r Cynllun Teuluoedd o Wcráin neu’r Cynllun Uwch-noddwr Unigol Cartrefi i Wcráin ond bod y person(au) wedi methu â chyrraedd at y noddwr perthnasol sy’n lletya, bydd gofyn i’r noddwr sy’n lletya roi gwybod i'r heddlu bod y person ar goll drwy ffonio 101.

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn cwmpasu amrywiaeth o weithredoedd camdriniol a thrais a gaiff eu cyflawni'n anghymesur yn erbyn menywod, a all gynnwys cam-drin domestig (cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol a rheolaeth drwy orfodaeth), trais rhywiol a thrais, cam-drin ‘ar sail anrhydedd’ gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod a llofruddiaethau ‘anrhydedd’, yn ogystal ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

Er bod y term VAWDASV yn cydnabod bod y mwyafrif llethol o ddioddefwyr yn fenywod, gall cam-drin domestig, trais rhywiol ac aflonyddu effeithio ar bawb, waeth beth fo'u rhywedd.

Yng Nghymru, mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ceisio gwella mesurau i atal VAWDASV a gwella'r diogelwch a'r cymorth a roddir i ddioddefwyr a goroeswyr. 

Efallai y bydd pobl o Wcráin sy'n dod i'r DU wedi profi VAWDASV yn eu gwlad enedigol, ar eu taith i'r DU neu ar ôl iddynt gyrraedd y DU.

Mae'n bwysig bod staff awdurdodau lleol sy'n ymwneud â phobl o Wcráin yn gwybod beth yw VAWDASV, yr arwyddion i gadw golwg amdanynt a sut i gefnogi rhywun sydd wedi profi VAWDASV neu sy'n wynebu perygl o hynny.

O dan Ddeddf VAWDASV 2015, dylai holl staff awdurdodau lleol gael hyfforddiant VAWDASV. Dylai pob aelod o staff fod wedi cwblhau'r modiwl ymwybyddiaeth o VAWDASV o fewn y tair blynedd diwethaf.

Dylai staff awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda'r cyhoedd ac sy'n dod i gysylltiad â phobl a allai fod wedi dioddef VAWDASV (cleientiaid sydd naill ai'n cael asesiad a/neu fod gofal yn cael ei ddarparu) fod wedi cael hyfforddiant Gofyn a Gweithredu hefyd. Mae hyfforddiant Gofyn a Gweithredu yn sicrhau bod gan weithlu awdurdod lleol y sgiliau i ofyn am ac ymateb yn ddiogel i ddatgeliadau o drais a chamdriniaeth.

Mae gwasanaethau cymorth VAWDASV arbenigol ym mhob ardal yng Nghymru a all gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddioddefwyr VAWDASV. Gall cymorth gynnwys; cymorth emosiynol, cymorth ymarferol, mynediad i lety brys, mesurau addysgol ac ataliol, asesiadau risg a chynlluniau diogelwch.

Argymhellir yn gryf eich bod yn ystyried atgyfeirio unigolyn at wasanaeth arbenigol cyn gynted â phosibl ar ôl cael gwybod am VAWDASV.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Mae ein llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24/7, sydd ar gael am ddim i bawb sydd wedi dioddef a goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Gellir cysylltu â Byw Heb Ofn drwy'r ffyrdd canlynol;

Ffôn: 0808 80 10 800

Testun: 0786 007 7333

E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

Sgwrsio byw.

Llinell gymorth Dyn Cymru: sefydliad sy'n helpu dynion sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Ffoniwch 0808 801 0321 neu e-bostiwch support@dynwales.org (cymorth i ddioddefwyr gwrywaidd).

BAWSO: sefydliad arbenigol sy'n cefnogi cymunedau ethnig lleiafrifol.

Meic: llinell gymorth ddwyieithog, ddienw a chyfrinachol sydd ar gael am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru ac sy'n darparu gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth. Mae Meic ar agor rhwng 8am a chanol nos, 7 diwrnod yr wythnos, dros y ffôn, drwy negeseuon testun a negeseua gwib.

Ffôn: 0808 80 23456

Testun: 54001

Sgwrsio byw.

Caethwasiaeth fodern

Mae caethwasiaeth fodern yn derm ymbarél sy'n cynnwys masnachu pobl, caethwasiaeth a llafur dan orfod. Y brif ddeddfwriaeth yw Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Er bod caethwasiaeth fodern yn fater a gedwir yn ôl, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru, y Swyddfa Gartref, ac asiantaethau llywodraethol ac anllywodraethol eraill i fynd i'r afael â'r drosedd hon, a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr.

Mae caethwasiaeth fodern yn digwydd yn rhyngwladol, gan gynnwys ar draws cymunedau yng Nghymru. Cafwyd 479 o adroddiadau o achosion posibl o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru yn 2021. Roedd dros hanner nifer y rhai yr adroddwyd amdanynt yn blant. Yng Nghymru, mae tua hanner nifer yr adroddiadau o achosion o gaethwasiaeth fodern yn wladolion o'r tu allan i'r DU o wledydd fel Albania, Sudan, ac Eritrea.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ffoaduriaid o Wcráin mewn perygl o gaethwasiaeth fodern. Mae hyn yn cynnwys Wcreiniaid sydd wedi'u dadleoli'n fewnol, y rhai sydd wedi teithio i wledydd cyfagos, a'r rhai sydd wedi cyrraedd y DU, neu sy'n teithio i'r DU ar hyn o bryd. Rydym wedi codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU, yn monitro'r sefyllfa'n agos, ac yn meithrin cysylltiadau ag asiantaethau partner perthnasol ynghylch y materion hyn.

Dylai staff awdurdodau lleol sy'n meithrin cysylltiadau ag Wcreiniaid fod yn ymwybodol o gaethwasiaeth fodern. Mae llawer o adnoddau am ddim ar  gaethwasiaeth fodern, gan gynnwys cyrsiau e-ddysgu i Ymatebwyr Cyntaf ac am blant sy’n ddioddefwyr caethwasiaeth fodern. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cynhyrchu Llyfryn i Godi Ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern.

Mae gwybodaeth ac adnoddau hygyrch ac amlieithog ar gaethwasiaeth fodern hefyd ar gael drwy ffynonellau ar-lein, gan gynnwys:

Mae ffoaduriaid o Wcráin mewn perygl o ddioddef y pedwar prif fath o gaethwasiaeth fodern sydd wedi'u nodi gan y Swyddfa Gartref:

  • Camfanteisio ar weithwyr: lle mae dioddefwyr yn cael eu gorfodi i weithio mewn sefyllfa hynod ecsbloetiol lle na allant fod yn rhydd i adael i gael gwaith arall nac i wneud penderfyniadau dros eu hunain.
  • Camfanteisio troseddol: lle mae dioddefwyr yn cael eu hecsbloetio a'u gorfodi i gyflawni trosedd er mwyn i rywun arall elwa. Un enghraifft o gamfanteisio troseddol yw cludo a thyfu cyffuriau.
  • Camfanteisio rhywiol: lle mae dioddefwyr yn cael eu gorfodi i gael rhyw a gwneud gweithgareddau rhywiol neu eu gorfodi i sefyllfaoedd o gam-drin rhywiol. Mae hyn yn cynnwys camfanteisio'n rhywiol ar blant.
  • Caethwasanaeth domestig: sydd fel arfer yn cynnwys dioddefwyr sy'n gweithio mewn cartref teuluol preifat lle maent yn cael eu trin yn wael, eu bychanu, yn destun amodau neu oriau gwaith annioddefol neu'n cael eu gwneud i weithio am gyflog isel iawn neu am ddim.

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr ddilyn y Canllawiau Statudol ar gyfer Cymru a Lloegr o dan adran 49 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Dylai Awdurdodau Lleol yng Nghymru hefyd ddilyn Llwybr Diogelu Cymru mewn perthynas â Chaethwasiaeth Fodern.

Mae llawer o wahanol arwyddion o gaethwasiaeth fodern sy'n dibynnu ar y math o gamfanteisio. Mae Unseen UK, sy'n cynnal Llinell Gymorth ar Gaethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio, wedi cynhyrchu gwybodaeth am arwyddion o gaethwasiaeth fodern y dylid cadw golwg amdanynt. Darllenwch Wybodaeth am adrodd ynghylch caethwasiaeth fodern. Yng Nghymru, mae dull Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) yn cael ei fabwysiadu i gyfeirio oedolion sy'n ddioddefwyr i gael cymorth, a dylid dilyn canllawiau priodol MARAC. Llenwch y ffurflen ar-lein i wneud atgyfeiriad o dan y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).

Mae angen cael cydsyniad ar sail gwybodaeth er mwyn i oedolyn gael ei gyfeirio i'r NRM. Os nad yw oedolyn yn cydsynio i gael ei atgyfeirio, dylid gwneud atgyfeiriad Dyletswydd i Hysbysu gan ddefnyddio'r un ffurflen ar-lein.

Ar ôl cyfeirio'r achos i’r NRM, dylai awdurdod cymwys y Swyddfa Gartref wneud penderfyniad o fewn pum niwrnod ynghylch a oes sail resymol dros amau bod y person a atgyfeirir yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern. Gelwir hyn yn benderfyniad ar Seiliau Rhesymol. Yn dilyn penderfyniad cadarnhaol ar Seiliau Rhesymol, bydd y dioddefwr posibl yn dechrau ar gyfnod adfer hyd nes y gwneir penderfyniad ar Seiliau Terfynol. Dylai oedolion a'u dibynyddion gael cymorth drwy'r cyfnod adfer. Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol, cymorth meddygol, llety, gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a chynrychiolaeth gyfreithiol. Bawso yw'r darparwr ar gyfer gwasanaeth sy’n Gofalu am Ddioddefwyr Caethwasiaeth Fodern ac yn Cydlynu’r Gofal (MSVCC) yng Nghymru.

Rhaid cyfeirio plant yr amheuir eu bod yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern i’r NRM bob amser, ac nid oes rhaid iddynt roi caniatâd. Yn ogystal, dylid cyfeirio plant hefyd i’r gwasanaeth Gwarcheidiaeth Annibynnol ar Fasnachu Plant (ICTG). Mae'r gwasanaeth ICTG, a weithredir gan Barnardo's, yn gweithredu ar draws Cymru gyfan. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu amrywiol wasanaethau ymarferol, seicolegol ac emosiynol arbenigol i blant. Gellir cyfeirio plant gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon. Mae hyn yn ychwanegol at atgyfeirio i’r NRM ac at atgyfeiriadau diogelu eraill y mae'n rhaid eu gwneud hefyd.

Mae'r Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur (GLAA) wedi cynhyrchu posteri ‘Gwybod Eich Hawliau’ am gamfanteisio, sydd ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg. Dylai Awdurdodau Lleol sicrhau bod y posteri hyn yn cael eu harddangos ym mhob Canolfan Groeso a llety cychwynnol dros dro yn eu hardaloedd.

Mae gan bobl sy’n ceisio noddfa o Wcráin yr hawl i weithio pan fyddant wedi cael fisa i aros yn y DU o Wcráin. Er hynny, ni chaniateir i gynigion am lety fod yn gysylltiedig â chynigion am waith. Mae’n bosibl y bydd rhai noddwyr yn cynnig cyfleoedd gwaith ar ôl i bobl o Wcráin gyrraedd eu llety nawdd, ond rhaid i hawliau cyflogaeth Wcreiniaid gael eu parchu yn llwyr. Ni ddylent orfod derbyn cyflogaeth na pharhau â chyflogaeth er mwyn cynnal eu llety.

Atodiad: Cwestiynau a ofynnir yn aml

Mae'r cwestiynau cyffredin hyn yn ategu llythyr Claire Bennett, dyddiedig 1 Ebrill 2022 ac yn gymwys mewn perthynas â’r cynllun noddwyr unigol sy’n lletya

A all noddwyr unigol drefnu eu gwiriadau eu hunain gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?

Ar gyfer gwiriadau sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, mae dau opsiwn ar gael i awdurdodau lleol; gallent naill ai ddod i drefniant newydd â ‘Sefydliad Cyfrifol’ (mae'r rhain yn Gyrff Cofrestredig ond maent ond yn cyflwyno gwiriadau Sylfaenol) neu gallent gyfeirio noddwyr at lwybr gwneud cais uniongyrchol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dim ond drwy Gorff Cofrestredig y gellir gwneud cais am wiriadau manylach. Bydd rhai awdurdodau lleol yn Gyrff Cofrestredig eu hunain a bydd gan eraill drefniant masnachol â sefydliad arall ar hyn o bryd. Bydd gan bob awdurdod lleol brofiad o gyflwyno gwiriadau manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac, felly, bydd y gwiriadau hyn yn gyfarwydd iawn i ryw raddau.

Beth am gadarnhau manylion personol?

Mae'r broses manylion personol yn gadarn o reidrwydd, ond mae opsiwn i bostio dogfennau gwreiddiol i'r Corff Cofrestredig i'w gwirio fel hynny.Mae opsiwn hefyd i ddogfennau adnabod gael eu sganio neu eu gweld dros alwad fideo cyn i wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gael ei gyflwyno ond o dan y broses hon, rhaid i'r dogfennau gwreiddiol eu hunain gael eu cyflwyno i'w harchwilio ‘ar ddechrau'r cyfnod cyflogaeth’.Gallai'r broses hon weithio'n dda os gall awdurdodau lleol ymweld â chartrefi cyn i'r gwesteion gyrraedd.

Pryd mae angen i awdurdodau lleol gynnal gwiriadau sylfaenol a phryd mae angen iddynt gynnal gwiriadau manylach?

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n sail i wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn golygu nad oes sail gyfreithiol dros gynnal gwiriadau manylach mewn perthynas â noddwyr oni bai eu bod yn goruchwylio plant neu'n darparu gweithgaredd a reoleiddir i oedolyn. Nid ystyrir y bydd y senario olaf hwn yn codi'n aml iawn gan y byddai angen i'r noddwyr ddarparu gofal personol neu feddygol oherwydd oedran, salwch neu anabledd y person sy'n symud i'w cartref. Os nad yw'n amlwg bod y naill senario na'r llall yn berthnasol, yr unig opsiwn yw gwiriad sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Sut y telir am wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?

Bydd awdurdodau lleol yn cael £10,500 fesul person o Wcráin sy'n cyrraedd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin gan Lywodraeth y DU. Caiff yr arian hwn ei dalu i awdurdodau lleol drwy Lywodraeth Cymru. Gellir defnyddio'r dyraniadau hyn i dalu unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

A all awdurdodau lleol dderbyn tystysgrifau y mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi eu rhoi yn barod o dan unrhyw amgylchiadau, naill ai drwy weld y dystysgrif neu os yw'r ymgeisydd wedi cofrestru â Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?

Gallant, gallant dderbyn tystysgrifau y mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi eu rhoi yn barod os mai'r un math o dystysgrif sydd dan sylw (Manylach/Sylfaenol; Plant/Oedolion). Er enghraifft, os oes gan rywun dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn barod, mae hynny'n rhoi lefel o sicrwydd. Mater i awdurdodau lleol (a chyflogwyr yn fwy cyffredinol) fydd penderfynu hyd y cyfnod sydd ar ôl ar wiriad a gaiff ei ystyried yn ddigonol a bydd hyn yn pennu a fydd angen paratoi i gynnal gwiriad newydd. 

Sut mae disgwyl i awdurdodau lleol gefnogi pobl o Wcráin os na fydd noddwyr yn pasio gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?

Gwyddom fod dros 12,500 o bobl yng Nghymru wedi gwneud cais i fod yn noddwyr drwy gynllun Cartrefi i Wcráin ac nad oes neb wedi manteisio ar lawer o'r cynigion hyn hyd yn hyn. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio gydag awdurdodau lleol i sefydlu system ailbaru gan ddefnyddio data a gafwyd gan Lywodraeth y DU drwy'r broses Mynegi Diddordeb a oedd yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin. Bydd y data hyn yn llywio proses ailbaru sy'n benodol i Gymru a gaiff ei harwain gan awdurdodau lleol a'r nod fydd defnyddio cynifer o'r cynigion hyn ag sydd angen.

A all awdurdodau lleol ymgymryd â gwiriadau sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os ydynt yn teimlo bod rhwystrau gweinyddol neu resymau eraill dros ymgymryd â gwiriadau Sylfaenol?

Nid yw ymgymryd â gwiriadau sylfaenol yn opsiwn o safbwynt cyfreithiol gan fod yr un rhwystrau'n berthnasol i wiriadau sylfaenol a manylach.Yn gryno, mae noddwyr yn gymwys i gael gwiriad manylach gyda gwiriad o'r rhestrau gwahardd ar gyfer plant neu oedolion; nid oes opsiwn arall.

Os na fydd y noddwr na'r oedolion yn ei deulu yn byw yn yr eiddo y mae'n ei gynnig i bobl o Wcráin sydd â phlant a/neu oedolyn agored i niwed (h.y. am ei fod yn ail gartref), a oes angen iddynt gael gwiriadau manylach o hyd?

Caiff awdurdodau lleol benderfynu ar hyn eu hunain yn seiliedig ar y risgiau dan sylw.Gan na fydd y noddwr yn byw gyda'r gwesteion, gallai fod yn anodd cyfiawnhau gwiriad manylach. Fodd bynnag, mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu a yw gwiriad sylfaenol yn gymesur.Wrth wneud penderfyniad, efallai yr hoffai awdurdodau lleol ystyried y cyswllt tebygol rhwng y noddwr a'r bobl o Wcráin. Gall agosrwydd fod yn ffactor hefyd, er enghraifft, os yw'r llety i bobl o Wcráin drws nesaf i'r noddwr, yna mae'n llawer mwy tebygol y bydd cyswllt rheolaidd.

Mae aelwyd noddwr yn cynnwys unigolyn dros 16 oed sydd ag anabledd difrifol ac nid oes ganddo alluedd meddyliol. A oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr unigolyn hwn neu a ellir ei eithrio?

Nid yw deddfwriaeth a rheoliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ystyried senarios fel hyn. O ganlyniad, rhaid i'r awdurdod lleol wneud penderfyniad ar sail cymesuredd a risg.Wrth wneud penderfyniad, efallai yr hoffai'r awdurdod lleol ystyried y cwestiwn hwn: ‘a oes gan yr unigolyn hwn y galluedd (corfforol neu feddyliol) i gymryd rhan fwriadol mewn gweithgarwch troseddol?’ Os mai ‘nac oes’ yw'r ateb, yna gallai hynny ddylanwadu ar y penderfyniad a wneir yn seiliedig ar y risgiau.

Mae’r cwestiynau cyffredin hyn yn gymwys mewn perthynas â llety gwesty tymor byr a Chanolfannau Croeso

A all awdurdodau lleol gynnal gwiriadau manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn gwybod a fydd aelwyd sy’n noddi yn lletya plentyn/plant a/neu oedolyn/oedolion agored i niwed pan fydd yr aelwyd sy’n noddi wedi nodi drwy’r broses Eol eu bod yn fodlon lletya plentyn/plant a/neu oedolyn/oedolion agored i niwed?

Yng nghyd-destun trefnu i’r rhai sydd mewn Canolfannau Croeso symud ymlaen i lety arall, mae’n bosibl cynnal gwiriadau cyn i drefniant paru penodol gael ei gadarnhau ar gyfer noddwr a gwestai. Roedd y data Datganiad o Ddiddordeb a anfonwyd at awdurdodau lleol drwy Objective Connect yn cynnwys gwybodaeth yn cadarnhau a oedd rhywun sy’n cynnig llety yn fodlon rhoi llety i blant ac oedolion, ynteu i oedolion yn unig. Os oes gan y noddwyr dan sylw lety ar gael i gefnogi teulu â phlant a’u bod wedi cadarnhau eu bod yn parhau i fod yn fodlon rhoi llety i blant yn ystod sgyrsiau gyda swyddogion yr awdurdod lleol, yna caniateir cynnal gwiriadau manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Nid yw hi’n ofynnol i deulu penodol o Wcráin fod wedi’i baru â’r noddwyr cyn i unrhyw wiriadau gael eu cyflwyno.

A oes angen i staff mewn gwestai gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?

Oni bai fod y gwesty yn lletya sawl teulu a bod gofal plant ffurfiol yn rhan o’r gwasanaeth a ddarperir ganddynt, nid yw hi’n ofynnol i wiriadau gael eu cynnal. Mae gwahaniaeth ymarferol sylweddol rhwng y cynllun Cartrefi i Wcráin gwreiddiol a’r trefniadau dilynol i leoli pobl mewn gwestai. O’r herwydd, nid oes sail i’r syniad hwn y gellid meithrin perthnasoedd sylweddol a all arwain at Weithgaredd a Reoleiddir â phlant. Yn yr un modd, ni fyddai disgwyl i staff mewn gwestai ddarparu Gweithgaredd a Reoleiddir i oedolion, ac ni fyddent yn gymwys i wneud hynny.