Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r fframwaith yn rhan o’n casgliad o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol. Mae’r fframwaith yn nodi sut y caiff pobl sy'n cyrraedd drwy lwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru a’r rhai sy'n cael eu lletya mewn llety cychwynnol eu lleoli ledled Cymru a’u cefnogi i symud i lety mwy hirdymor.

Mae'r fframwaith hefyd yn nodi'r egwyddorion y mae angen i awdurdodau lleol eu hystyried wrth ailgartrefu pobl o Wcráin o lety cychwynnol neu pan fydd lleoliadau presennol yn chwalu.

Yn olaf, mae’n rhoi sylw i’r trefniadau ar gyfer neilltuo unigolion sy’n cyrraedd drwy’r llwybr Uwch-noddwr yn uniongyrchol i letywyr, yn hytrach nag i lety cychwynnol.

Mae'r fframwaith yn berthnasol i'r rhai sy'n cyrraedd drwy'r cynlluniau canlynol:

  1. llwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru
  2. cynllun Cartrefi i Wcráin
  3. cynllun fisa Teuluoedd o Wcráin

Datblygwyd y fframwaith i ddarparu egwyddorion cyffredinol er mwyn helpu awdurdodau lleol i ymdrin â'r broses heriol o gydbwyso ein hymrwymiad i bobl Wcráin ac aelwydydd digartref mewn llety dros dro.

Mae Cymru yn Genedl Noddfa, ac rydym yn cynnig llety a chymorth i unigolion a theuluoedd sy'n dianc rhag y rhyfel yn Wcráin er mwyn cynnig sefydlogrwydd iddynt a chydnabod ein dynoliaeth gyffredin ar yr adeg echrydus hon. Rydym yn cydnabod y pwysau sylweddol ar y ddarpariaeth dai yng Nghymru ar hyn o bryd, ar adeg pan fo llawer mwy o bobl nag erioed mewn llety dros dro ac yn chwilio am dai parhaol. Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn delio â phwysau ychwanegol yn sgil camau gan y Swyddfa Gartref i symud a lletya rhai eraill sy’n ceisio noddfa yng Nghymru.

Caiff pobl o Wcráin y cymeradwywyd eu cais am fisa aros yn y DU am hyd at 3 blynedd. Felly, dylid ceisio atebion mwy hirdymor ar gyfer ailgartrefu pobl o’u llety cychwynnol, sy’n cynnwys trefniadau lletya, y sector rhentu preifat, llety dros dro ac, mewn rhai achosion, tai cymdeithasol. Ni fyddai llety mewn gwely a brecwast, Airbnb neu westy yn cael ei ystyried yn ateb addas yn y tymor hwy. Mae gan bobl o Wcráin sydd â fisa hawl i symud a setlo yn unrhyw ran o’r DU.

Egwyddorion cyffredinol

Mae'r fframwaith hwn yn nodi rhai o'r egwyddorion cyffredinol y disgwyliwn i awdurdodau lleol eu harfer. Mater i awdurdodau lleol fydd eu cymhwyso yn eu cyd-destun lleol, gan arfer barn broffesiynol yn unol â fframweithiau cyfreithiol a pholisi cyfredol.

Dyma'r egwyddorion cyffredinol allweddol:

  • mae awdurdodau lleol sydd â llety cychwynnol yn eu hardal yn gyfrifol am gynnal asesiadau o anghenion llety (gan gynnwys asesiadau o fforddiadwyedd) ar gyfer pob gwestai, er mwyn gallu cefnogi’r gwesteion i symud ymlaen yn effeithiol. Fodd bynnag nid yw awdurdodau lleol sydd â llety cychwynnol yn gyfrifol am ailgartrefu’r holl unigolion dan sylw yn eu hardal
  • bydd awdurdodau lleol yn cydweithio i gefnogi’r broses o symud gwesteion ymlaen o’u llety cychwynnol ar draws Cymru a sicrhau bod hyn yn broses barhaus
  • mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bennu cyfran deg a chymesur o unigolion y llwybr Uwch-noddwr i'w ‘dosbarthu’ i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer llety cychwynnol
  • dylid ystyried pob opsiwn priodol ar gyfer symud pobl ymlaen yn y tymor hwy os yw eu lleoliad cychwynnol (mewn llety cychwynnol neu gyda noddwyr) wedi dod i ben neu wedi chwalu, megis trefniant lletya, llety’r sector rhentu preifat a thai cymdeithasol, gan gynnwys llety dros dro. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol ac â chydsyniad Llywodraeth Cymru y caniateir ailgartrefu pobl mewn lleoliadau llety cychwynnol
  • efallai y bydd modd ystyried yr hyn sydd orau gan y gwesteion unigol o ran llety, ond dylid ei gwneud yn glir na ellir gwarantu dewis yr unigolyn, o ystyried y pwysau ar y sector tai ledled Cymru
  • unwaith y bydd pobl yn gadael eu llety cychwynnol ac yn cyrraedd ardal awdurdod lleol, bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn gyfrifol am asesu unrhyw angen o ran cymorth digartrefedd yn yr un modd ag ar gyfer unigolion eraill sy'n gymwys ar gyfer gwasanaethau tai a digartrefedd
  • mater i awdurdodau lleol yw ‘dyrannu’ tai i unigolion a theuluoedd pan fydd lleoliadau'n chwalu; wrth wneud hyn, rhaid i awdurdodau lleol ystyried anghenion yr holl boblogaethau y mae angen tai arnynt yn eu hardal, yn enwedig y rhai sydd mewn llety dros dro
  • dylai awdurdodau lleol ystyried cydlyniant cymunedol wrth ailgartrefu pobl
  • awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a’r gwiriadau diogelu lleol angenrheidiol wedi'u cwblhau ar gyfer pob un sy'n cynnig llety a bod pob eiddo wedi'i archwilio, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol

Neilltuo unigolion yn uniongyrchol i letywyr

Lle bynnag y bo modd, caiff pobl sy’n cyrraedd Cymru drwy’r llwybr Uwch-noddwr eu neilltuo’n uniongyrchol i letywyr sydd wedi’u fetio ymlaen llaw cyn iddynt gyrraedd y DU. Bydd Canolfan Gyswllt Cenedl Noddfa Cymru: Wcráin (“y Ganolfan Gyswllt”) yn cydlynu’r broses o neilltuo pobl yn uniongyrchol i letywyr a’r awdurdod lleol cysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys cynnal asesiad cychwynnol o anghenion llety pobl unwaith y bydd fisa wedi’i roi a chyn iddynt deithio i’r DU. Bydd hyn yn caniatáu i’r Ganolfan Gyswllt nodi unrhyw ofynion eraill, er enghraifft, gofynion addysgol, crefyddol a deietegol arbennig. Disgwylir i awdurdodau lleol weithio gyda’r Ganolfan Gyswllt i hwyluso’r broses o baru’r unigolion â lletywyr. Os nad oes lletywr addas ar gael, neu os nad yw trefniant lletya yn briodol oherwydd gofynion llety cymhleth penodol, neu os yw’r unigolion o Wcráin yn cael eu hailuno â’u teulu, cynigir llety cychwynnol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Gweler:

Canllawiau i awdurdodau lleol ar neilltuo gwesteion yn uniongyrchol i letywyr.

Llety cychwynnol a symud ymlaen

Y prif ddisgwyliadau

Mae disgwyl i awdurdodau lleol sydd â lleoliadau llety cychwynnol yn eu hardal:

  • gynnal asesiad o anghenion llety, gan gynnwys asesiad o fforddiadwyedd, ar gyfer pob gwestai sy'n byw mewn llety cychwynnol, a gweithio gyda'r gwesteion hynny drwy gydol eu harhosiad mewn llety cychwynnol er mwyn nodi’r opsiynau ar gyfer symud ymlaen ledled Cymru. Dylai symud ymlaen i lety mwy hirdymor fod yn broses barhaus ac ni ddylai fod yn ymateb munud olaf pan fo rhaid
  • ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar draws Cymru er mwyn nodi’r opsiynau ar gyfer symud ymlaen i westeion er mwyn rheoli disgwyliadau gwesteion ynghylch pwysigrwydd symud ymlaen i lety mwy hirdymor yn ogystal â gallu awdurdodau lleol i fodloni’r hyn y mae pobl yn chwilio amdano o ran llety
  • sicrhau bod gwesteion yn deall bod angen iddynt ddilyn y Cod Ymddygiad  wrth fyw mewn llety cychwynnol 
  • gweithredu  polisïau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi gwesteion i symud ymlaen, gan gynnwys  y canllawiau ar gyfer rheoli achosion o dorri’r Cod Ymddygiad pan fo pryderon am ymddygiad gwesteion (gweler y canllawiau yn atodiad c) a gweithredu y Polisi Gwrthos Cynigion Llety (gweler y polisi llawn yn atodiad b)

Disgwylir i bob awdurdod lleol gymryd rhan weithredol yn ymdrechion Tîm Cymru i gefnogi awdurdodau lleol eraill o ran helpu pobl i symud ymlaen o'u llety cychwynnol, a fyddai'n cynnwys nodi lletywyr, helpu i nodi a sicrhau eiddo rhent preifat neu lety arall (fel llety dros dro) i ddiwallu anghenion gwesteion. 

Mae disgwyl i awdurdodau lleol sy'n derbyn gwesteion o'u llety cychwynnol: asesu unrhyw angen o ran cymorth digartrefedd yn yr un modd ag ar gyfer unigolion eraill sy'n gymwys ar gyfer gwasanaethau tai a digartrefedd.

Llety cychwynnol

Fel rhan o'r broses Uwch-noddwr, rydym wedi sefydlu amrywiol lety cychwynnol ledled Cymru. Rydym yn cwtogi ar ein llety cychwynnol erbyn hyn wrth i westeion symud ymlaen i lety mwy hirdymor. Nid yw awdurdodau lleol a letyodd bobl yn wreiddiol mewn llety cychwynnol yn gyfrifol am ailgartrefu pob un ohonynt yn eu hardal, er ein bod yn rhagweld y bydd cyfran gymesur yn aros o fewn yr awdurdod lleol a wnaeth eu lletya.

Yn hytrach, un o'n hegwyddorion allweddol yw y bydd cyfran deg a chymesur o bobl yn cael eu symud ymlaen o’u llety cychwynnol ledled Cymru, a bydd awdurdodau lleol yn cydweithio i gefnogi’r broses o symud gwesteion ymlaen o’u llety cychwynnol.

Symud ymlaen o lety cychwynnol

Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi cytuno ar ymateb cyffredin i Gymru gyfan, ac mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i chwarae ei ran drwy gynnig llety mewn ffordd deg a chymesur i'w amgylchiadau.

Er mwyn hwyluso hyn, ym mis Mai 2022 cytunwyd ar fformiwla sy'n seiliedig ar y boblogaeth a’i datblygu. Diweddarwyd y fformiwla hon i gydnabod:

  • nifer yr unigolion sy’n cyrraedd drwy’r llwybr Uwch-noddwr
  • poblogaeth yr ardal leol yn ôl cyfrifiad 2021
  • nifer yr unigolion o dan gynllun Cartrefi i Wcráin sydd eisoes yn cael eu cefnogi yn yr ardal leol
  • nifer y bobl ddigartref sydd mewn llety dros dro yn yr ardal leol (ar sail cyfartaledd 3 mis)
  • data ynghylch unigolion sy’n ceisio lloches yn y 4 prif ardal wasgaru (Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd) cyn cyflwyno Cynllun Gwasgaru Ceiswyr Lloches Cymru Gyfan

Ceir rhagor o wybodaeth fanwl yn atodiad a. Defnyddir y fformiwla hon, neu’r ‘gyfran o’r boblogaeth’, i lywio’r broses o symud pobl a gyrhaeddodd drwy’r llwybr Uwch-noddwr ymlaen o’u llety cychwynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru. Rydym yn parhau i weithio gyda CLlLC, sy’n bennaf gyfrifol am fonitro ble y caiff pobl eu hailgartrefu, a chyda Phartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru. O ystyried cyflymder y gwaith hwn, a’r pwysau ehangach o ran tai, caiff y fformiwla ei hadolygu'n rheolaidd.

Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gyda gwesteion sydd mewn llety cychwynnol o fewn eu hardaloedd er mwyn nodi unrhyw anghenion llety, ynghyd â gwybodaeth allweddol arall, y dylid eu hystyried hefyd wrth benderfynu i ble y dylid cefnogi pobl i symud ymlaen. Gall gwybodaeth allweddol arall gynnwys:

  • cyfansoddiad teuluol
  • gofynion addysg
  • cyflogaeth
  • fforddiadwyedd

Caiff yr anghenion llety eu rhannu wedyn ag awdurdodau lleol eraill fel cam cychwynnol i baru pobl â llety mwy hirdymor. Wrth wneud cynigion llety addas, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr eiddo yn diwallu anghenion penodol y teulu neu'r unigolyn.

Lle caiff llety addas ei sicrhau y tu allan i'r sir, bydd yr awdurdod lleol lle mae'r llety cychwynnol yn gweithio gyda'r awdurdod lleol sy'n derbyn yr unigolyn i gefnogi’r broses o’i symud ymlaen. Mae pob awdurdod lleol yn cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu i symud pobl ymlaen. Mae'r cyllid hwn yn ategu cyfran Cymru o'r £150 miliwn sy'n cael ei ddarparu gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gyda’r nod o gefnogi pobl i symud ymlaen ac atal digartrefedd. Bwriad ein Cronfa Cymorth Dewisol yw cefnogi awdurdodau lleol i helpu gwesteion mewn llety cychwynnol i symud i lety mwy hirdymor.  Gallai hyn gynnwys cefnogaeth i westeion i sicrhau llety rhent preifat neu symud i lety rhent preifat (o fewn a thu allan i'r awdurdod lleol), ee drwy ddarparu bondiau a dodrefnu'r eiddo. Canllawiau llawn ar y cyllid Y Gronfa Cymorth Dewisol.

Dylid rhoi o leiaf wythnos i deulu symud i'w cartref newydd a llofnodi gwaith papur priodol sy'n ymwneud â'r math o gartref a gynigiwyd iddynt. Os bydd angen, dylai'r awdurdod lleol drefnu i gael cyfeithydd i roi gwybodaeth a chyngor i esbonio'r hyn y maent yn cytuno iddo wrth lofnodi'r gwaith papur.

Efallai y bydd awdurdodau lleol am ystyried cynnwys asiantaethau trydydd sector perthnasol i gefnogi gwesteion i sicrhau llety mwy hirdymor a symud yno.

Er y gellir ystyried yr hyn sydd orau gan y gwesteion unigol wrth symud ymlaen, nid yw hyn yr un fath ag anghenion llety, ac ni fydd bob amser yn bosibl darparu ar eu cyfer. Er enghraifft, gallai gwestai fod am fyw mewn lleoliad penodol neu fath penodol o lety.

Pan fo cynigion rhesymol ar gyfer llety newydd, ar sail anghenion llety, yn cael eu gwrthod gan westai, dylid gweithredu'r polisi gwrthod (gweler atodiad c). Mae’r Cod Ymddygiad yn nodi'n glir, os bydd tâl symud ymlaen yn ddyledus oherwydd bod gwesteion wedi gwrthod dau neu fwy o gynigion llety, bod gofyn iddynt dalu'r tâl. Ar ben hynny, mae'r Cod yn egluro ei bod yn ofynnol i bob gwestai sy'n byw mewn llety cychwynnol gydweithredu â staff sy'n eu cefnogi i ddod o hyd i lety tymor hirach. Os bydd gwesteion yn methu â dilyn y Cod Ymddygiad bydd angen i'r awdurdod lleol gyfeirio at y canllawiau ar gyfer rheoli achosion o dorri'r Cod (atodiad c). 

Cynigion llety: polisi gwrthod

Er mwyn cefnogi a helpu gwesteion i symud ymlaen i lety mwy hirdymor, ac er mwyn bod mor gyson â phosibl â'r cymorth llety a ddarperir i grwpiau eraill, rydym wedi cyflwyno polisi gwrthod sy'n berthnasol i gynigion llety symud ymlaen. Mae'r polisi yn nodi beth sy’n cael ei ystyried yn gynnig rhesymol, gan roi sylw i faint y teulu, anghenion iechyd penodol, a rhesymau cyfreithlon dros wrthod neu apelio yn erbyn y llety. O dan y polisi hwn, os bydd unigolion/teuluoedd sydd mewn llety cychwynnol yn gwrthod dau gynnig llety rhesymol, byddant yn cael eu rhoi ar y fframwaith codi tâl a fydd yn golygu ffi wythnosol, i adlewyrchu costau gweinyddu ychwanegol ceisio canfod opsiynau llety mwy hirdymor. 

Amlinellir y polisi llawn yn atodiad b.

Dyrannu tai

Rydym yn cydnabod mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion llety aelwyd a gwneud penderfyniadau ynghylch dyrannu llety i bobl sy'n ymgartrefu yn eu hardal ar ôl bod mewn llety cychwynnol, pobl sydd wedi dod i Gymru drwy lwybrau eraill neu bobl y mae eu trefniadau lletya presennol wedi chwalu.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gadw rhestr gyfredol o'r holl eiddo sydd ar gael yn eu hardal i'w paru, a nodi pan fydd eiddo'n cael ei baru. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpar noddwyr pan fydd ar gael
  • sicrhau bod datganiadau lletywyr o ddiddordeb ar gael i bob awdurdod lleol eu hystyried wrth edrych i symud gwesteion ymlaen o’u llety cychwynnol neu ailbaru gwesteion â lletywyr
  • sicrhau bod landlordiaid y sector rhentu preifat sy’n cynnig llety wedi cwrdd â gofynion cofrestru a thrwyddedu Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014
  • gofyn i’r landlord neu’r asiant a fyddai’n ystyried gosod yr eiddo i bobl sy'n byw mewn llety dros dro
  • cynnal archwiliadau eiddo ar lety a rennir
  • cynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a’r gwiriadau diogelu lleol ar aelodau’r aelwyd cyn symud unigolyn i lety
  • dylid cynnig llety i'r person/teulu sydd ei angen fwyaf pan fydd nifer y bobl a maint yr eiddo yn cyfateb

Trefniadau lletya

Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am:

  • gynnal gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau eiddo ar lety'r sawl sy'n lletya
  • sicrhau bod lletywyr yn deall na allant godi rhent am y llety, ond y dylent drafod a chytuno â’u gwesteion ynghylch unrhyw ddisgwyliadau o ran cyfraniadau ariannol at gostau rhedeg yr aelwyd
  • rhoi cymorth i letywyr i hawlio’r taliad ‘diolch’ o £500 y mis

Mae Cartrefi i Wcráin: canllawiau i letywyr a noddwyr yn cynnwys manylion llawn ynglŷn â threfniadau lletya a thaliadau 'diolch'.

Ailbaru

Bydd rhai amgylchiadau lle bydd yr awdurdod lleol o'r farn bod angen dod o hyd i drefniant lletya newydd i berson neu deulu o Wcráin. Gall y rhesymau dros hyn gynnwys:

  • nad yw'n ymarferol i'r gwestai/gwesteion o Wcráin aros lle y maent
  • gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gwiriadau diogelu lleol neu wiriadau llety aflwyddiannus
  • mae’r cyfnod lletya gwreiddiol wedi dod i ben, ac nid all y lletywyr ymestyn y cyfnod

Cyn y gellir ailbaru gwesteion neu deuluoedd o Wcráin ag unrhyw letywr, dylai awdurdodau lleol gwblhau'r gwiriadau diogelu lleol, gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r gwiriadau llety perthnasol cyn iddynt symud i mewn. Dylid cynnal gwiriadau ar ôl iddynt symud i mewn hefyd er mwyn sicrhau diogelwch a lles pawb dan sylw.

Oherwydd hyn, mae'n hollbwysig bod awdurdodau lleol yn cynnal y gwiriadau perthnasol er mwyn galluogi pobl a theuluoedd i ddod o hyd i lety sefydlog gyda darpar noddwyr sydd wedi cadarnhau eu bod yn awyddus i letya person neu deulu o Wcráin. Mae Cartrefi i Wcráin: canllawiau i letywyr a noddwyr yn cynnwys manylion llawn y gwiriadau diogelu angenrheidiol.

Dylid hefyd hysbysu'r person neu'r teulu o Wcráin fod angen i'r gwiriadau hyn gael eu cynnal cyn iddynt symud i'r llety newydd ac y bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â nhw pan fyddant wedi'u cwblhau. Gall hyn olygu y bydd angen dod o hyd i lety dros dro yn ystod y cyfnod hwn.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd y sawl sy'n cynnig llety a'r gwestai wedi nodi noddwr arall i gynnig llety i'r gwestai. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, dylai'r awdurdod lleol geisio cadarnhau pwy fydd y noddwyr newydd hyn a'u cyfeiriad, fel y gellir cynnal gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau diogelu lleol priodol, neu (os yw'r noddwr newydd yn byw mewn ardal awdurdod lleol arall) drosglwyddo'r achos i'r awdurdod lleol arall er mwyn i'r gwiriadau diogelu ac eiddo priodol gael eu cynnal.

Os bydd gwesteion o Wcráin yn cael eu hailbaru â rhywun sydd wedi noddi'n flaenorol drwy gynllun Cartrefi i Wcráin, ni fydd angen i awdurdodau lleol gynnal gwiriadau ychwanegol ymlaen llaw, os na fyddant o'r farn bod angen gwneud hynny.

Os bydd trefniant noddi wedi chwalu yn sgil pryderon ynghylch ansawdd y llety neu faterion diogelu sy'n gysylltiedig â'r noddwr, ni ddylid ystyried y noddwr hwnnw ar gyfer ailbaru.

Eiddo a gaiff eu gosod heb eu dodrefnu neu heb orchuddion llawr addas neu ddigonol

Bydd yr awdurdod lleol sy'n cynnig y llety yn rhoi gwybodaeth i'r unigolyn/teulu am opsiynau o ran dodrefn a gorchuddion llawr; bydd hyn yn cynnwys elusennau ailgylchu dodrefn a lloriau lleol ac unrhyw arian cyhoeddus y gallant fod yn gymwys i wneud cais amdano, gan gynnwys y Gronfa Cymorth Dewisol.

Os caiff pobl gynnig cartref newydd, dylid cynnig cymorth priodol iddynt i'w helpu i addasu i fywyd yng Nghymru, megis cymorth gan dimau'r awdurdod lleol neu drwy gynlluniau cefnogi tenantiaid i'w helpu i ymdopi â'r newid hwn. Mae  Housing Justice Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru wedi cael eu comisiynu i weithio gydag awdurdodau lleol a phobl o Wcráin i gynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol, a gellir cael mynediad at eu gwasanaethau fel adnodd ychwanegol lle mae hyn o gymorth i awdurdodau lleol.

Lleoliadau brys

Os bydd pobl yn cysylltu â gwasanaethau i'r digartref neu os nodir bod angen llety brys arnynt, mater i'r awdurdod lleol fydd dod o hyd i lety addas yn lleol o hyd.

Dim ond fel mecanwaith lleoliad brys y dylid ystyried llety cychwynnol, os bydd pob opsiwn arall wedi methu. Bwriad llety cychwynnol yw darparu capasiti i gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd drwy'r llwybr Uwch-noddwr, nid fel trefniant ar gyfer lleoliadau brys.

Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i’r awdurdod lleol gysylltu â Tîm gweinyddol Cenedl Noddfa mwyn cael cymeradwyaeth i ddefnyddio llety cychwynnol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y cais yn gyflym ac mae'n bosibl y bydd yn rhoi sêl bendith lle mae’r angen yn eithriadol a chynllun ar waith i sicrhau llety mwy priodol. Yn yr amgylchiadau prin hyn, mater i'r awdurdod lleol fydd trefnu llety i'r unigolion o hyd, a bydd disgwyl iddo ddod o hyd i ateb lleol addas ar frys.

Cynyddu'r ddarpariaeth llety

Er mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am letya unigolion, rydym am gynyddu'r opsiynau llety sydd ar gael i awdurdodau lleol.

Cymru yn croesawu: datganiadau o ddiddordeb gan letywyr

Mewn ymateb i'r argyfwng yn Wcráin, rydym wedi bod yn gweithio i sefydlu cynigion llety er mwyn helpu awdurdodau lleol i nodi pobl addas i gynnig llety i ddinasyddion a theuluoedd o Wcráin sydd wedi dod i Gymru am noddfa drwy'r canlynol:

  • Cartrefi i Wcráin:
    • llwybr noddi unigolyn
    • llwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru
  • Cynllun Noddi Teulu

Rydym yn awyddus i gynyddu nifer y lletywyr ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd trefol a'r rhai sy'n gallu darparu ar gyfer teuluoedd mwy ac anifeiliaid anwes. Rydym yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio’r pecyn cyfathrebu a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn annog datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cael cyflwyniad i hyfforddiant lletya a chofrestru am ragor o fanylion.

Rydym wedi cysylltu â phawb yng Nghymru a oedd wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth y DU a'r rhai a wnaeth gynnig yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, hy cynigion gan ddarpar noddwyr yng Nghymru, sydd wedi cadarnhau eu bod yn awyddus i letya unigolyn neu deulu o Wcráin. Mae'r data hwn wedi bod ar gael i awdurdodau lleol er mwyn gallu cysylltu ag unigolion yn lleol.

Ar gyfer pob datganiad o ddiddordeb a allai arwain at gynnig llety, disgwylir i awdurdodau lleol gynnal gwiriadau eiddo, gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau diogelu lleol yn unol â'r disgwyliadau presennol ar gyfer lletywyr. Darllenwch y canllawiau Cartrefi i Wcráin: canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern.

Dylai awdurdodau lleol am ddechrau cynnal gwiriadau cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau cyflenwad o noddwyr sydd wedi'u dilysu i letya pobl pan fydd angen.

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r data a ddarparwyd iddynt yn ôl eu disgresiwn, ni waeth pa gynllun noddi a ddefnyddiwyd i wneud cais am fisa, i baru pobl a theuluoedd o Wcráin â lletywyr yng Nghymru. Er enghraifft gall noddwyr gael eu defnyddio i letya unigolion neu deuluoedd sydd:

  • ar ôl gwneud cais am fisa drwy lwybr Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru, yn cael eu setlo yn lleol wrth iddynt symud ymlaen o'u llety cychwynnol
  • ar ôl gwneud cais am fisa drwy lwybr noddi unigolyn Cartrefi i Wcráin, yn methu ag aros gyda’u noddwr/lletywr gwreiddiol (gweler ‘Ailbaru’)

Y Sector Rhentu Preifat

Rydym yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru a grwpiau sy'n cynrychioli landlordiaid i annog landlordiaid ag eiddo sydd ar gael i gysylltu’n uniongyrchol ag awdurdodau lleol. Lle caiff Llywodraeth Cymru wybod am y dai sydd ar gael, byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'r awdurdod lleol cymwys. 

Gellir defnyddio tai sydd ar gael i'r awdurdod lleol yn y sector rhentu preifat ar gyfer pawb sydd angen tai. Mae angen i awdurdodau lleol ystyried sut y bydd yr eiddo hyn yn cael eu dyrannu i sicrhau bod pob grŵp sydd angen llety yn cael eu trin yn gydradd.  Mae hyn hefyd yn berthnasol i eiddo sydd ar gael drwy gynllun prydlesu Cymru.

Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod landlordiaid wedi cwrdd â gofynion cofrestru a thrwyddedu Rhentu Doeth Cymru o dan Ran 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, a bod eiddo yn cael eu dyrannu yn unol â’r rheoliadau addasrwydd.

Tai Cymdeithasol a chynnydd mewn stoc

Dylai awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig barhau i ddyrannu tai ar sail angen. Dylai hyn eisoes olygu bod eiddo yn cael ei osod i aelwydydd sy'n byw mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd, yn unol â datganiad y Gweinidog Newid Hinsawdd ym mis Tachwedd 2021.

Mae nifer sylweddol o bobl ddigartref mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r galw am dai cymdeithasol yn llawer mwy na'r cyflenwad, a chyfnodau lleoliadau mewn llety dros dro yn cynyddu.  Rhaid i asesiadau o anghenion llety fod yn ffactor sy'n cyfrannu at y broses flaenoriaethu wrth ddyrannu tai cymdeithasol.

Grant y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP)

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael yng Nghymru drwy adfer eiddo a darparu cymorth i ddatblygu tai newydd o ansawdd uchel ar gyfer y tymor hirach.

Lansiwyd y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro i helpu i hwyluso hyn, a’i bwriad yw cefnogi pawb sydd angen llety. O dan delerau'r cyllid, gall yr eiddo hyn gael eu gosod i’r rheiny sydd mewn angen llety, gan gynnwys Wcreiniaiad mewn llety cychwynnol o dan y llwybr Uwch-noddwr. Gall llety sy'n cael ei ariannu drwy’r Rhaglen Gyfalaf hefyd gael ei ddefnyddio i ddarparu tai i Wcreiniaid sydd wedi dod i Gymru drwy lwybrau eraill.

Cafodd dros £76 miliwn ei neilltuo ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023, ac mae disgwyl iddo ddarparu bron i 1,000 o gartrefi ychwanegol. Awdurdodau lleol sydd i benderfynu sut y mae cartrefi ychwanegol a ddarperir drwy gyllid y Rhaglen Gyfalaf i’w defnyddio i gefnogi pobl i symud ymlaen o lety dros dro, yn seiliedig ar eu hanghenion a'u hamgylchiadau lleol.

Bwriad y cyflenwad tai ychwanegol hwn yw helpu unrhyw un sydd angen llety, a dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o’r angen am gydlyniant cymunedol wrth ei ddefnyddio.

Dyletswyddau cyfreithiol a chymhwystra

Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn amlinellu'r ddyletswydd statudol a osodir ar awdurdodau lleol i helpu pobl sy'n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd.

Rydym yn cydnabod mai awdurdodau lleol sydd â'r wybodaeth leol am dai ac sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau y caiff yr angen am dai ei ddiwallu yn eu hardal leol. Mae'r Swyddfa Gartref wedi gwneud newidiadau i'r Rheolau Mewnfudo er mwyn nodi llwybrau penodol i bobl o Wcráin ymgartrefu yn y DU drwy dri phrif gynllun:

  • cynllun Teuluoedd o Wcráin, a fydd yn caniatáu i aelodau teulu agos ac estynedig dinasyddion Prydain, unigolion sydd wedi ymgartrefu yn y DU, ac eraill i ddod o Wcráin i'r DU, neu aros yma
  • cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, a fydd yn galluogi gwladolion o Wcráin a'u teulu agos i ddod i'r DU os oes ganddynt noddwr cymeradwy sydd wedi cytuno i ddarparu llety iddynt. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n dod o dan gynllun Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru
  • cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin, a fydd yn galluogi gwladolion o Wcráin a'u partneriaid a'u plant a oedd yn y DU â chaniatâd ar 18 Mawrth 2022 (gan gynnwys y rhai sydd wedi aros ychydig yn hirach na chyfnod eu fisa) i aros yn y DU

Er mwyn rhoi cymorth uniongyrchol i bobl sy'n cyrraedd i gychwyn, neu a oedd yng Nghymru cyn i'r rhyfel ddechrau, rhoddwyd ‘caniatâd i aros y tu allan i'r rheolau’.

Roedd hyn yn galluogi aelwydydd i fanteisio ar fudd-daliadau a gwasanaethau yn syth, gan gynnwys cymorth o ran tai a chymorth i'r digartref, heb orfod pasio'r prawf preswylfan arferol. Mae'r tri chynllun, sy'n rhoi sylfaen swyddogol i'r trefniadau ‘caniatâd i aros y tu allan i'r rheolau’, yn golygu bod ymgeiswyr llwyddiannus yn gymwys i gael tai cymdeithasol a chymorth i'r digartref yn unol â Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022, a oedd yn diwygio Rheoliadau 2014 er mwyn rhoi cymhwystra i'r grwpiau hyn gael cymorth i'r digartref a thai cymdeithasol o 28 Ebrill 2022.

Mae gan bobl sy'n cyrraedd o dan unrhyw un o gynlluniau fisa Llywodraeth y DU i deuluoedd o Wcráin yr hawl i gael tai a gwasanaethau i'r digartref yn yr un modd â phobl eraill yng Nghymru. Felly, os na all pobl gael gafael ar dai, neu os bydd eu lleoliad cychwynnol gyda lletywr yn chwalu neu os ystyrir ei fod yn anaddas, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ddiwallu eu hanghenion o ran tai.

Fel sy'n wir am Lywodraeth y DU, ni all Llywodraeth Cymru chwarae rôl uniongyrchol yn y broses o gartrefu pobl o dan y Cynllun Fisa i Deuluoedd na'r Cynllun Fisa i Deuluoedd o Wcráin, ac ystyrir mai mater i awdurdodau lleol yw datrys unrhyw broblemau o ran llety.

Yn ei hanfod, nid yw'r cynllun fisa y bydd unigolyn yn gwneud cais oddi tano yn pennu nac yn cyfyngu ar y mathau o lety y gall fanteisio arnynt neu gael ei symud iddynt. Fodd bynnag, mae mathau gwahanol o gymorth ariannol yn gysylltiedig â gwahanol fisas.

Mae gwybodaeth am gymorth ariannol ar gyfer y cynlluniau fisa amrywiol ar gael yma.

Dyletswyddau digartrefedd statudol

Mae'n debygol y bydd dyletswyddau digartrefedd statudol awdurdodau lleol yn gymwys pan fydd trefniant noddi yn chwalu ar gam cynnar, ac eithrio mewn achosion o neilltuo uniongyrchol y dylid eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru i gael cyngor pellach. Mae'n bosibl y gall awdurdodau lleol ddod â dyletswydd atal neu liniaru digartrefedd sy'n ddyledus i fuddiolwr o Wcráin i ben drwy hwyluso proses ailbaru, ar yr amod bod y lleoliad a'r llety'n addas a'i bod yn rhesymol debygol y bydd ar gael am chwe mis arall o leiaf.

Os bydd y gydberthynas â'r sawl sy'n lletya yn chwalu, gall pobl a theuluoedd o Wcráin gysylltu ag awdurdodau lleol i ofyn am gymorth digartrefedd. Rhaid i awdurdodau lleol barhau i ystyried eu dyletswyddau digartrefedd statudol yn llawn. Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad digartrefedd, a dylai hyn ystyried amgylchiadau unigol pob aelwyd wrth asesu p’un a yw unigolyn yn ddigartref ac, os felly, p’un a yw llety (llety dros dro a/neu lety sefydlog mwy hirdymor) yn briodol. Gan fod dyletswyddau digartrefedd statudol yn berthnasol i awdurdodau lleol, dylent geisio eu cyngor cyfreithiol mewnol eu hunain lle mae angen eglurder ar fater cyfreithiol wrth wneud penderfyniadau o’r fath.

Mewn achosion lle cynigir llety cychwynnol pellach i unigolion ar y llwybr Uwch-noddwr, ond lle mae'r unigolyn neu'r teulu yn dewis dweud wrth awdurdod lleol eu bod yn ddigartref, mae’n dal i fod yn ddyletswydd statudol ar yr awdurdod lleol i gynnal asesiad digartrefedd er mwyn dod i benderfyniad cyfreithlon. Fel rhan o'r broses hon bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau o ran cymhwystra, pa mor fwriadus yw’r unigolyn/teulu a chysylltiad lleol.  

Fodd bynnag, dylai'r awdurdod lleol archwilio ac egluro'r holl opsiynau i'r unigolyn sy'n dod atynt, gan roi manylion cynigion llety addas. Bydd gwrthod cynnig yn ffactor yn asesiad yr awdurdod, ac fe allai gael effaith niweidiol ar y canlyniad. Dylid nodi nad yw llety cychwynnol yn sefydlu cysylltiad lleol, ac felly gall gwesteion fod yn gymwys i gael cymorth mewn awdurdod lleol yn annibynnol ar eu llety cychwynnol.

Cymorth a chanllawiau

Bydd angen cymorth ar bobl sy'n dod o Wcráin wrth iddynt ymgartrefu yng Nghymru. Bydd angen i awdurdodau lleol asesu anghenion cymorth pobl o Wcráin sy'n cael eu cartrefu yn eu hardal a chyfeirio'r bobl sy'n symud i Gymru a'r bobl sy'n eu lletya at gymorth.

Mae hwn yn faes gwaith sy'n symud yn gyflym ac mae'r canllawiau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd, felly argymhellwn y dylid cyfeirio at wefan Llywodraeth Cymru am yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf mewn perthynas â helpu a chefnogi pobl o Wcráin. Mae canllawiau pellach ar gael i awdurdodau lleol ynglŷn â'u rolau wrth gyflawni cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru Cartrefi i Wcráin: canllawiau i awdurdodau lleol.

Dylid annog pobl sy’n dod o Wcráin i ymgyfarwyddo hefyd â gwefan Noddfa, a all helpu gydag amrywiol ymholiadau am fywyd yng Nghymru,  megis trwyddedau gyrru, gwybodaeth am addysg a chyflogaeth, a llawer mwy ar sail cwestiynau sydd wedi bod yn bwysig i’n gwesteion o Wcráin. Bydd y wefan yn helpu pobl i oresgyn rhwystrau i gael cymorth.

Mae canllawiau ar gael hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru am y ffrydiau cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi Wcreiniaid sy’n dod i Gymru o dan gynllun Cartrefi i Wcráin.

Hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am newidiadau

Llywodraeth Cymru

Mewnflwch ymholiadau cyffredinol: wnsadmin@cardiff.gov.uk

Mewnflwch materion diogelu yn unig: Ukraine.Safeguarding@llyw.cymru

Llywodraeth y DU

Gall awdurdodau lleol fewngofnodi i JIRA drwy'r porthol

Fel arall, ffoniwch y ddesg ffôn: 0303 444 4445.

Oriau agor: 09:00-18:00 Dydd Llun i Ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.

Atodiad a: dyrannu ar sail y gyfran o’r boblogaeth

Ym mis Mai 2022 cytunodd holl awdurdodau lleol Cymru  ar y fframwaith gwreiddiol Cartrefi i Wcráin: fframwaith ar gyfer llety.

Roedd hwn yn nodi sut y byddai Wcrainiaid sy'n cyrraedd trwy Gynllun Uwch-noddwr Llywodraeth Cymru ac sy'n cael llety cychwynnol yn cael eu gwasgaru ledled Cymru. Fel rhan o hyn cytunodd pob awdurdod lleol ar y gyfran o’r boblogaeth o Wcráin sy’n cyrraedd o dan y llwybr Uwch-noddwr y byddent yn ei chefnogi i gael llety tymor hwy, fel rhan o'n dull Tîm Cymru o weithredu. Roedd hyn yn cydnabod dosbarthiad anwastad y llety cychwynnol ledled Cymru ac yn rhoi sicrwydd i'r awdurdodau lleol a oedd yn cefnogi llety cychwynnol yn eu hardal leol na fyddai ganddynt gyfrifoldeb am lety mwy hirdymor ar gyfer yr holl Wcrainiaid a gyrhaeddodd drwy'r llwybr Uwch Noddwr ac a oedd mewn llety cychwynnol.

Mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol mae'r gyfran hon o'r boblogaeth bellach wedi'i diweddaru ac mae'r fformiwla dyrannu wedi’i phwysoli ar sail cyfuniad o'r isod:

  • poblogaeth yr awdurdod lleol (55%) 
  • unigolion o dan lwybr unigol Cartrefi i Wcráin sydd eisoes yn cael eu cefnogi yn yr ardal leol (15%)
  • Nifer y digartref mewn llety dros dro yn yr ardal leol (ar sail cyfartaledd dros 3 mis) (25%)
  • nifer y ceiswyr lloches a leolir yn y 4 prif ardal wasgaru (Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam) cyn cyflwyno Cynllun Gwasgaru Lloches Cymru ym mis Medi 2022 (5%)

Mae'r ffigurau isod yn rhoi amcangyfrif o’r nifer o bobl y gallai pob awdurdod lleol ddisgwyl eu helpu eu hailgartrefu o blith y 3,000 cyntaf o bobl y disgwylir iddynt ddod i Gymru drwy'r llwybr Uwch-noddwr. Y bwriad yw bod hwn yn ddull gweithredu 18 mis sy'n gosod fframwaith i bob awdurdod lleol wneud cynnydd o ran helpu eu cyfran o’r boblogaeth i lety tymor hwy. Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro data er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cynorthwyo i ailgartrefu pobl o'r llety cychwynnol a byddant yn adolygu'r model sy’n seiliedig ar y gyfran o’r boblogaeth yn rheolaidd er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau sylweddol yn y pwysau ehangach ar dai.

Dyrannu ar sail y gyfran o’r boblogaeth
ArwynebeddDyraniad ar sail y gyfran o’r boblogaeth
Cymru3000
Ynys Môn69
Gwynedd112
Conwy80
Sir Ddinbych87
Sir y Fflint190
Wrecsam141
Powys113
Ceredigion64
Sir Benfro74
Sir Gaerfyrddin206
Abertawe241
Castell-nedd Port Talbot149
Pen-y-bont ar Ogwr142
Bro Morgannwg124
Caerdydd300
Rhondda Cynon Taf304
Merthyr Tudful40
Caerffili211
Blaenau Gwent77
Torfaen96
Sir Fynwy53
Casnewydd127

Atodiad b: cynigion llety: polisi gwrthod

Y Cyd-destun

Cafodd y Polisi ynghylch Gwrthod Cynigion Llety ei gyflwyno ar 9 Ionawr 2023. Ei brif nod yw cyflymu’r broses o symud ymlaen o lety cychwynnol, gan gefnogi dull gweithredu cenedlaethol cyson, a phennu canlyniadau ar gyfer gwrthod cynigion rhesymol o lety. Cyflwynodd y polisi fframwaith codi tâl ar gyfer teuluoedd neu unigolion sy'n gwrthod dau neu fwy o gynigion llety rhesymol. Yn dilyn adolygiad o'r polisi a wnaed ar y cyd â thrawstoriad o awdurdodau lleol a chanolfannau croeso, diwygiwyd y Polisi ynghylch Gwrthod Cynigion Llety o 7 Awst 2023 ymlaen.

Mae’r Polisi ynghylch Gwrthod Cynigion Llety yn rhan o becyn cefnogaeth cynhwysfawr, i awdurdodau lleol a gwesteion. Mae'r polisi yn berthnasol i gynigion symud ymlaen i lety arall, gan gynnwys trefniadau â gwesteiwyr a llety rhent preifat. Bydd yn cefnogi proses sefydlu gyson, sy'n ceisio gosod disgwyliadau, yn ogystal â chyfathrebu uniongyrchol, partneriaethau trydydd sector a chyfeirio unigolion er mwyn caniatáu i westeion wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth mewn perthynas â'u llety.

Nodau

Mae nifer cynyddol o aelwydydd sy'n gwrthod cynnig llety am amryw o resymau. Mae'r rhain yn aml yn gymhleth, ond yn gyffredinol maent yn cynnwys dymuno byw mewn lleoedd penodol, gwybodaeth gyfyngedig am y llety a'r lleoliad a gynigir, neu nad yw'r cynnig llety yn diwallu anghenion yr aelwyd yn eu barn nhw.

Mae hyn yn rhwystro ymdrechion i baru teuluoedd â llety sefydlog, gan roi pwysau ar y llety cychwynnol ac awdurdodau lleol sy’n disgwyl i deulu/ unigolyn ailsefydlu ac arafu dechrau'r daith integreiddioAmcan y Polisi ynghylch Gwrthod Cynigion Llety yw:

  • helpu i leihau'r nifer cynyddol o achosion lle gwrthodir cynigion llety priodol. Ni fydd y broses yn cosbi teuluoedd ac unigolion sy'n gwrthod symud i lety sydd ddim yn diwallu eu hanghenion (yn hytrach na'u dewisiadau)
  • rhoi’r gefnogaeth drwy’r polisi y mae awdurdodau lleol ei angen i ostwng cyfradd yr achosion lle gwrthodir cynigion llety ar gyfer symud ymlaen
  • cyflwyno pecyn cyfathrebu cynhwysfawr i wella dealltwriaeth gwesteion am yr angen i symud ymlaen i lety arall
  • cynyddu’r broses o symud ymlaen o ganolfannau croesawu, gwesteiwyr a gwestai i greu lle ar gyfer newydd-ddyfodiaid, gan leihau dibyniaeth ar lety cychwynnol

Asesu angen am dai

Cyn paru teuluoedd neu unigolion â llety, bydd yr awdurdod lleol yn siarad â nhw i wneud yn siŵr bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei angen ynghylch amgylchiadau'r aelwyd i'w galluogi i wneud cynnig priodol o lety, sy'n diwallu eu hanghenion. Dylai'r broses baru ystyried y meini prawf canlynol:

Addysg:

  • ar gyfer aelwydydd sy’n cynnwys plant, bydd yr awdurdod lleol yn chwilio am lety o fewn pellter rhesymol i gyfleusterau addysg sy'n briodol i'w hoedran
  • os yw'r awdurdod lleol yn ymwybodol o anghenion addysgol arbennig plentyn, caiff hyn ei ystyried wrth ddyrannu llety.
  • nid yw cofrestru plant yn yr ysgol yn golygu y bydd aelwyd yn gallu aros yn yr ardal

Iechyd:

  • bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw anghenion am driniaeth feddygol sy’n hysbys, a bydd llety sy'n cael ei ddarparu o fewn pellter rhesymol i unrhyw wasanaethau angenrheidiol
  • ar gyfer triniaeth feddygol arbenigol neu barhaus lle mae parhad gofal yn bwysig a’r gofal eisoes wedi dechrau, bydd yr awdurdod lleol yn darparu llety i’r aelwyd mor agos at y ddarpariaeth honno â phosibl. Ond os oes angen triniaeth fwy cymhleth, arbenigol mae’n bosibl y bydd gofyn teithio sylweddol tu hwnt i'r ardal

Ffydd:

  • bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw anghenion o ran ymarfer ffydd a bydd pob aelwyd yn gallu ymarfer eu ffydd os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Mewn trefi a dinasoedd, gall mynediad at gyfleusterau ffydd fod ar ffurf mosg, eglwys neu deml, fodd bynnag mewn ardaloedd mwy gwledig gall fod trwy gyfleusterau fel canolfannau Islamaidd, imamau teithiol, grwpiau eglwysig neu gynulliadau cymunedol

Cyflogaeth:

  • wrth fynd ati i baru llety, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried lleoliad unrhyw waith cyflogedig sydd eisoes wedi dechrau, neu pan fo contract cyflogaeth wedi'i lofnodi ac yn ei le. Pan fo un o'r oedolion mewn cyflogaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fynychu lleoliad penodol i gyflawni'r rôl honno, a phan na all y rôl symud i leoliad arall bydd yr awdurdod lleol yn ystyried effaith y mudo arfaethedig a’r amser teithio ar y gyflogaeth honno, ac yn ceisio darparu llety sydd o fewn pellter teithio rhesymol iddo, lle bo modd. Nid yw hyn yn golygu y bydd bod mewn swydd yn gwarantu y gallwch aros mewn ardal benodol, nac y byddai’r swydd yn cael ei ystyried yn rheswm "da" dros wrthod
  • Bydd disgwyl i aelwydydd dalu costau unrhyw deithio angenrheidiol i ac o’u swyddi eu hunain
  • ni fydd cynigion damcaniaethol o gyflogaeth na rhai na chadarnhawyd yn cael eu hystyried at ddibenion paru llety

Cysylltiadau teuluol:

  • bydd yr awdurdod lleol yn cymryd cysylltiadau teuluol agos i ystyriaeth wrth baru llety cyn belled ag y bo'n rhesymol bosibl a bydd yn ceisio darparu llety yn yr un ardal leol, neu yn y cyffiniau, lle mae trefniadau gofalu a chymorth presennol ar waith ar gyfer aelodau o'r teulu

Cynnig llety

Cynnig llety cyntaf:

  • bydd yr awdurdod lleol yn ymgysylltu â'r teulu/unigolyn i asesu'r angen o ran tŷ ac i wneud cynnig addas o lety. Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr eiddo'n cyd-fynd â meini prawf y teulu/unigolion eu hunain lle bo modd. Bydd angen i awdurdodau lleol gefnogi trigolion a rheoli eu disgwyliadau er mwyn sicrhau bod cymaint o gynigion â phosib yn cael eu derbyn
  • bydd y teulu/unigolyn yn cael llythyr cynnig ffurfiol gan yr awdurdod lleol drwy e-bost a bydd yn cynnwys manylion y llety a rhywfaint o wybodaeth am yr ardal y mae wedi'i leoli ynddi. Gellir darparu’r cynnig ysgrifenedig yn Saesneg, ond dylid darparu fersiwn Wcreineg neu Rwsieg os bydd y gwestai yn gofyn amdano yn ei ddewis iaith. Bydd yr awdurdod lleol yn trafod y cynnig ac yn rhoi mwy o wybodaeth am y llety a'r ardal i'r teulu/ unigolyn, yn ôl y gofyn, gan sicrhau hefyd eu bod yn deall canlyniadau gwrthod cynnig o lety
  • mae’n bosibl y bydd awdurdod lleol yr ardal y mae teulu/unigolyn yn symud iddo hefyd yn ffonio i roi rhagor o wybodaeth am yr eiddo/ardal/cymorth sydd ar gael ac yn  eu hannog i dderbyn y cynnig
  • gofynnir i'r teulu/unigolyn ateb y cynnig ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith, gan gynghori derbyn neu wrthod y cynnig drwy ymateb e-bost. Lle nad yw hynny'n bosib, gallant drafod gyda staff cynorthwyol yr awdurdod lleol a llofnodi dogfen i ddweud eu bod yn gwrthod y cynnig. Dylid cofnodi'r ymateb ffurfiol
  • os yw'r teulu/unigolyn yn derbyn y cynnig bydd yr awdurdod lleol yn cytuno ddyddiad iddynt symud i’r llety o fewn 5 diwrnod gwaith.  Dylid rhoi rhybudd o 5 diwrnod gwaith o leiaf i unigolion/teuluoedd cyn y dyddiad symud hefyd
  • os yw'r teulu/ unigolyn yn gwrthod y cynnig bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried a yw'r rhesymau dros wrthod yn rhesymol ac yn bodloni’r meini prawf (rhoddir manylion yn nes ymlaen)
  • os yw’r awdurdod lleol yn derbyn y rhesymau dros wrthod yn y broses adolygu, bydd y cynnig llety nesaf yn cyfrif fel y 'cynnig llety cyntaf' ac ni fydd y cynnig gwreiddiol yn cyfrif tuag at gyfanswm y cynigion
  • os nad yw'r awdurdod lleol yn derbyn y rhesymau dros wrthod, neu os anwybyddir y cynnig llety cyntaf (hynny yw, ni cheir ateb i'r cynnig), bydd hyn yn arwain at symud i'r cam nesaf, sef ail gynnig o lety

Yr ail gynnig o lety (y cynnig terfynol):

  • bydd yr awdurdod lleol yn gwneud yr ail gynnig yn ysgrifenedig a bydd yn derfynol (oni bai bod gan y teulu/ unigolyn resymau da dros wrthod). Fel y cynnig cyntaf, gellir darparu’r ail gynnig ysgrifenedig yn Saesneg, ond dylid darparu fersiwn Wcreineg neu Rwsieg os bydd y gwestai yn gofyn amdano yn ei ddewis iaith. Bydd yr awdurdod lleol yn trafod y cynnig ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y llety a'r ardal i'r teulu/unigolyn, yn ôl y gofyn, ac yn esbonio canlyniadau gwrthod cynnig pellach o lety
  • fel yn achos y cynnig cyntaf, gofynnir i'r teulu/unigolyn ateb y cynnig ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith, gan roi gwybod a yw’n cael ei dderbyn neu ei. Dylid cofnodi'r ymateb hwn
  • os bydd y teulu/unigolyn yn gwrthod y cynnig, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried a yw'r rhesymau dros wrthod yn rhesymol ac yn bodloni'r meini prawf. Os yw'r Awdurdod Lleol yn derbyn y rhesymau dros wrthod, bydd cynnig o lety arall yn cael ei wneud, a hwn fydd yn cyfrif fel yr ail gynnig o lety
  • os yw’r llety cyntaf a gynigiwyd yn dal i fod ar gael ar ôl gwrthod dau gynnig, a theuluoedd/unigolion yn dymuno tynnu eu gwrthodiad yn ôl ac yn ei dderbyn, gall hynny fod yn bosibl, ond bydd yn dibynnu ar nifer o ffactorau, a fydd yn cael ei ystyried fesul achos. Dylid annog pob teulu/ unigolyn i dderbyn y cynnig cyntaf am lety priodol a wnaed iddynt, oherwydd efallai na fydd yr ail gynnig yn well ganddynt
  • Newidiadau i'r fframwaith codi tâl ar 7 Awst 2023
  • yn dilyn adolygiad o'r polisi a wnaed ar y cyd â thrawstoriad o awdurdodau lleol a chanolfannau croeso, mae'r Polisi ynghylch Gwrthod Cynigion Llety wedi'i ddiweddaru
  • bydd y taliadau sylfaenol yn cael eu cynyddu i gyfrif am gostau gweinyddol ac adnoddau awdurdodau lleol. Bydd y fframwaith codi tâl hefyd yn cael ei newid i raddfa amrywiol, lle bydd Taliadau Gweinyddol wythnosol y Gwasanaeth Symud Ymlaen yn cynyddu yn unol â nifer y gwrthodiadau
  • bydd gwesteion yn cael eu gosod ar y fframwaith codi tâl ar ôl gwrthod dau gynnig o lety. Bydd y swm a godir fesul wythnos yn cynyddu £20 bob tro y gwrthodir cynnig arall o lety. Bydd cap ar yr uchafswm y gellir ei godi, sy'n cyfateb i'r tâl gweinyddol o wrthod tri chynnig addas i bobl sengl, neu bedwar cynnig addas, hefyd yn cael ei weithredu i sicrhau nad effeithir ar westeion yn anghymesur. Mae eiddo mwy o faint yn llawer anoddach i gael hyd iddo, ac felly mae taliadau uwch wedi'u codi, yn unol â chodi tâl sy'n adlewyrchu costau adnoddau. Mae'r taliadau isod yn cynnwys TAW:
Nifer ar yr aelwydTâl Gweinyddol Gwasanaeth Symud Ymlaen ar ôl gwrthod dau gynnigTâl Gweinyddol Gwasanaeth Symud Ymlaen ar ôl gwrthod tri chynnigTâl Gweinyddol Gwasanaeth Symud Ymlaen ar ôl gwrthod pedwar cynnigUchafswm Tâl Gweinyddol y Gwasanaeth Symud YmlaenUchafswm Tâl Gweinyddol y Gwasanaeth Symud Ymlaen dros gyfnod o fis
Unigolyn o dan 25 oed£25 yr wythnos£45 yr wythnos£45 yr wythnos£45£195
Unigoyn dros 25 oed neu gwpl o dan 25 oed£35 yr wythnos£55 yr wythnos£55 yr wythnos£55£238
Aelwyd dau berson / neu gwpl dros 25 oed£45 yr wythnos£65 yr wythnos£85 yr wythnos£85£368
Aelwyd tri pherson£55 yr wythnos£75 yr wythnos£95 yr wythnos£95£412
Aelwyd pedwar neu fwy o bobl£65 yr wythnos£85 yr wythnos£105 yr wythnos£105£455

Cymhwyso’r polisi:

  • dylid cymhwyso’r polisi sylfaenol o’r dyddiad y daw’r polisi i rym ar 7 Awst 2023 yn unig, ac ni fydd yn cael ei gymhwyso’n ôl-weithredol. Bydd unrhyw un sy'n agored i gael Tâl Gweinyddol y Gwasanaeth Symud Ymlaen yn rhwymedig i dalu'r swm sylfaenol uwch perthnasol o 7 Awst ymlaen
  • bydd y taliadau uwch hefyd yn berthnasol o 7 Awst ymlaen. Ond ystyrir bod pawb sydd eisoes yn gymwys i Dâl Gweinyddol y Gwasanaeth Symud Ymlaen gael ei godi arnynt fod wedi gwrthod dau gynnig rhesymol yn unig – ni waeth a yw cynigion ychwanegol wedi'u gwrthod. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw un yn agored i dalu'r Tâl Uwch ar 7 Awst. Dim ond pan fydd rhywun y mae Tâl Gweinyddol y Gwasanaeth Symud Ymlaen eisoes wedi’i godi arno yn gwrthod cynnig arall yn dilyn hynny y bydd y Taliadau Uwch yn cael eu gorfodi
  • bydd unrhyw un a oedd wedi gwrthod un cynnig yn unig ar 7 Awst yn dal i gael ei ystyried i fod wedi gwrthod un cynnig ac yn atebol i dalu Tâl Gweinyddol Uwch y Gwasanaeth Symud Ymlaen os ydynt yn gwrthod ail gynnig rhesymol o lety arall
  • ni fydd teuluoedd/unigolion sydd eisoes mewn llety sefydlog yn gallu defnyddio'r broses hon i symud yn ôl i lety cychwynnol er mwyn cael gafael ar eiddo gwahanol
  • nodwch fod disgwyl i westeion dderbyn y llety cyntaf a gynigir iddynt, oni bai bod ganddynt 'reswm da' dros wrthod

Adolygu’r broses:

  • os yw teulu neu unigolyn yn gwrthod cynnig llety, bydd yr awdurdod lleol yn adolygu'r cynnig, ystyried eu rhesymau, ac os oedd yn "rheswm da" dros wrthod, bydd y cynnig yn cael ei ddiystyru ac ni fydd yn cael ei ystyried fel un o'r ddau gynnig rhesymol. Bydd hyn yn cael ei benderfynu drwy i'r broses adolygu ddod i'r casgliad nad oedd y cynnig cychwynnol mewn gwirionedd yn gynnig priodol addas. Os yw'r adolygiad yn canfod bod y cynnig o lety yn rhesymol ac addas, mae'r cynnig yn cael ei gadarnhau
  • bydd y broses adolygu yn cael ei chynnal gan awdurdodau lleol a bydd yn dilyn yr un drefn ag sy'n cael ei defnyddio at ddigartrefedd, ac adolygiadau ac apeliadau tai cymdeithasol. Bydd gan westeion hawl i ofyn am adolygiad ar gyfer eu cynnig cyntaf a'r ail
  • os yw'r adolygiad yn canfod bod y cynnig yn briodol, bydd yr aelwyd yn cael gwybod hyn a byddant yn cael eu hail gynnig o lety priodol, sef y cynnig terfynol, cyn gynted ag y bydd un ar gael nid oes amserlen safonol ar gyfer pryd y darperir hyn, ond dylai awdurdodau lleol sicrhau bod teuluoedd/ unigolion yn cael cymorth priodol i ystyried canlyniadau gwrthod eilwaith. Tra'n aros am ganlyniad yr adolygiad, os canfyddir bod yr ail gynnig yn gynnig rhesymol, bydd y gwestai yn cael ei gynghori bod rhaid ei dderbyn neu byddant yn cael eu rhoi ar y fframwaith codi tâl mewn perthynas â dod o hyd i lety.

Fframwaith Codi Tâl:

  • os yw addasrwydd y ddau gynnig rhesymol yn cael ei gadarnhau bydd tâl gweinyddol yn cael ei godi am wasanaeth symud ymlaen o’r llety cychwynnol
  • bydd unigolion neu deuluoedd o Wcráin yn cael gwybod am gyflwyno'r tâl yn ysgrifenedig, ag o leiaf 7 diwrnod o rybudd. Bydd yr hysbysiad hwn yn gosod amserlen ar gyfer taliadau, ac yn ei gwneud yn glir nad yw'r tâl yn darparu tenantiaeth ddiogel na hawl i feddiannu, ac yn ategu bod symud ymlaen i lety arall yn dal yn flaenoriaeth
  • dylid rhoi cymorth addas i sicrhau bod y trefniadau ariannol cywir ar waith gan deuluoedd/unigolion i wneud y taliadau
  • yr awdurdod lleol lle mae’r llety cychwynnol a roddwyd i’r unigolyn / teulu a ddylai gasglu’r ffioedd awdurdodau lleol fydd yn penderfynu sut y maent yn gwneud hyn ar sail amgylchiadau lleol
  • caniateir i awdurdodau lleol gadw'r taliadau hyn gan adlewyrchu'r gofynion o ran adnoddau sy’n deillio o’r broses symud ymlaen ac ni fydd yn ofynnol iddynt anfon y ffioedd hyn i Lywodraeth Cymru. Awdurdodau lleol fydd yn sicrhau y cyfrifir am yr arian hwn yn briodol
  • os yw teuluoedd/unigolion o Wcráin yn gwrthod talu’r ffioedd, bydd hyn yn cael ei ystyried yn groes i'r cod ymddygiad ac efallai y gofynnir i’r teulu neu'r unigolyn adael y llety cychwynnol (gweler y Canllawiau ar gyfer rheoli achosion o dorri’r Cod Ymddygiad yn atodiad c). Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol ystyried yr effaith bosibl ar wasanaethau digartrefedd a dylid ystyried troi allan yn ddewis olaf

Sut mae 'cynnig priodol' yn cael ei ddiffinio?

Bydd cynnig llety priodol yn: 

  • bodloni'r holl ofynion iechyd a diogelwch perthnasol, bydd mewn cyflwr da
  • cwrdd ag amgylchiadau meddygol personol a sicrhau parhad mewn triniaeth meddygol lle bo angen
  • ystyried anghenion a chredoau crefyddol
  • ystyried anghenion addysgol penodol
  • lle bo angen, gwneir addasiadau i'r eiddo cyn i'r aelwyd symud i mewn er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch i unrhyw breswylwyr ag anabledd hysbys
  • bydd y llety ar gael am o leiaf 6 mis
  • bydd y llety'n fforddiadwy i'r aelwyd, gan ystyried yr adnoddau ariannol sydd ar gael iddo, gan gynnwys unrhyw gymorth gan y llywodraeth y maent yn gymwys ar ei gyfer
  • bydd y llety o faint addas ar gyfer holl aelodau'r aelwyd. Bydd y llety'n cyrraedd o leiaf y safonau a amlinellwyd yn safon ansawdd tai Cymru: Safon ansawdd tai Cymru gydag unrhyw lety sy’n fwy newydd yn cydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygiad Cymru 2021: Welsh Development Quality Requirements 2021, a ‘rheolau budd-dal tai’ Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU. Pan fo llety wedi'i ddarparu o dan y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro yna bydd disgwyl iddo gyrraedd y safonau cysylltiedig
  • ar gyfer aelwydydd mwy, lle nad oes modd clustnodi un opsiwn llety fforddiadwy sy'n ddigon mawr i bob aelod o'r aelwyd fyw yno gyda'i gilydd, bydd yr awdurdod lleol yn ymgynghori â'r aelwyd i ystyried a ellir rhoi llety i’r teulu, gyda'u caniatâd, mewn dau eiddo ar wahân. Bydd rhannu'r teulu yn ystyried oedrannau aelodau'r aelwyd, unrhyw anghenion gofalu neu fregusrwydd a dewisiadau personol y teulu. Bydd y pellter rhwng y ddau eiddo a gynigir yn rhesymol, fel y gall holl aelodau'r teulu gadw cysylltiad clos â'i gilydd
  • dylid rhannu'r diffiniad o 'gynnig priodol' a beth sy’n 'rheswm da' dros wrthod wrth gyfathrebu â gwesteion o Wcráin

Beth ellid ei ystyried fel 'rheswm da' dros wrthod?

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall fod rhesymau da dros wrthod 'cynnig llety priodol.

‘Bydd 'rhesymau da' yn cael eu hasesu fesul achos, ond gallant gynnwys:

  • pryd yr ystyrir yn ddiweddarach nad yw'r llety'n 'gynnig llety priodol' fel y nodir uchod er enghraifft oherwydd anghenion ynghylch addysg, iechyd, ffydd, cyflogaeth, teulu agos neu gyfrifoldebau gofalu
  • pan fo gan y teulu/ unigolyn angen penodol i fod mewn ardal wahanol i gael mynediad at gymorth meddygol neu addysg arbenigol nad yw ar gael yn ardal y cynnig nac o fewn pellter teithio rhesymol iddi
  • pan fo gan aelod o'r teulu anghenion gofal neu gymorth sy'n cael eu diwallu gan aelodau agos o'r teulu sy'n byw mewn ardal wahanol
  • pan fo gan aelod o'r teulu gynnig swydd gyflogedig fel y'i diffinnir yn y diffiniad o gynnig derbyniol
  • pan fo rhwystr tymor byr i'r teulu rhag symud, er enghraifft, triniaeth feddygol, ac ni all y cynnig llety aros hyd nes y bydd hynny wedi’i gwblhau
  • nid yw bod mewn swydd yn cael ei ystyried yn rheswm da i wrthod cynnig o lety. Wrth benderfynu a yw cynnig yn addas i’r teulu/unigolyn, bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried natur y gyflogaeth, er enghraifft p'un a ydynt yn credu bod y pellter teithio rhwng y llety sy'n cael ei gynnig a'r gwaith yn rhesymol, neu a fyddai’r teulu/unigolyn yn gallu cael swydd debyg mewn ardal awdurdod lleol arall, megis lletygarwch neu waith mewn ffatri. Mae'n fwy tebygol y bydd awdurdod lleol yn ystyried y gyflogaeth lle mae'n rôl arbenigol neu pan fo addasiadau wedi cael eu gwneud

Atodiad c: Canllawiau ar gyfer rheoli achosion o dorri'r Cod Ymddygiad

Mae'r canllawiau a'r templed Cytundeb Ymddygiad hwn yn adeiladu ar y Cod Ymddygiad presennol ar gyfer preswylwyr mewn llety cychwynnol.

Mesurau ataliol ddylai fod y dewis cyntaf. Gall asesu beth sbardunodd yr ymddygiad drwy drafod gyda'r unigolyn ac edrych a oes modd datrys hyn (ac os felly, sut) atal ymddygiad heriol pellach.  Nid yw hyn bob amser yn bosibl yn ymarferol, ond mae ychydig o awgrymiadau isod ar gyfer lliniaru ymddygiad annerbyniol. Dylai awdurdodau lleol gadw cofnod o'r holl gamau a gymerir i ddatrys y mater gyda'r gwestai. 

Dad-ddwysáu

Rhoi cyfle i'r unigolion ‘fwrw eu bol' wrth drydydd parti, drwy linell gymorth CALL neu wasanaeth lleol arall. Gallwch ddefnyddio gwefan infoengine i ddod o hyd i wasanaethau trydydd sector yn eich ardal.

Dull gweithredu wedi ei lywio gan drawma 

Mae cael eich gorfodi i ddadleoli oherwydd rhyfel yn brofiad trawmatig.  Dylai'r holl staff fabwysiadu dull gweithredu wedi'i lywio gan drawma wrth gyfathrebu â'r holl breswylwyr gan gynnwys y rhai sy'n dangos ymddygiadau anodd ac annerbyniol. Mae adnoddau ar gael yma: Cymru sy'n Ystyriol o Drawma. Mae hyfforddiant rhagarweiniol ar gael yn Youtube.com

Cytundeb Ymddygiad Derbyniol

Mewn achosion lle nad yw mesurau ataliol wedi llwyddo i ddatrys ymddygiad gwael, dylid trafod a chytuno ar "Gytundeb Ymddygiad Derbyniol" ffurfiol gyda'r gwestai a dylai'r gwestai ei lofnodi. Mae'r templed isod yn pennu cytundeb ffurfiol rhwng y preswylydd a'r awdurdod lleol gan gynnwys gofynion penodol ynghylch ymddygiad a chanlyniadau peidio â chadw at yr rhain. Gellir teilwra'r templed i gynnwys ymddygiad penodol ychwanegol os nad yw eisoes wedi'i gynnwys yn y templed pan fo hyn yn broblem gydag unigolyn, os bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno. Gellir tynnu'r cynnig o lety cychwynnol yn ôl ar unrhyw adeg os caiff y Cod Ymddygiad neu'r Cytundeb Ymddygiad Derbyniol ei dorri neu os yw'r gwestai yn gwrthod cytuno i'r Cod Ymddygiad neu'r Cytundeb Ymddygiad Derbyniol pan ofynnir iddo wneud hynny. Os yw gwesteion yn gwrthod llofnodi'r Cytundeb Ymddygiad Derbyniol, ystyrir o hyd y byddai'r gwestai wedi cael gwybod am y disgwyliadau ynghylch eu hymddygiad. Dylai awdurdodau lleol eu hatgoffa y gellir tynnu'r cynnig o lety cychwynnol yn ôl ar unrhyw adeg os yw gwestai yn gwrthod cytuno ar y Cod Ymddygiad neu'r Cytundeb Ymddygiad Derbyniol pan ofynnir amdano.

Gan ddibynnu ar fath a/neu ddifrifoldeb yr achos o dorri'r Cod neu'r Cytundeb, efallai y bydd angen hysbysu'r heddlu. Bydd hyn yn angenrheidiol os amheuir bod trosedd wedi'i chyflawni

Os yw torri'r Cod yn arwain at breswylydd neu aelod arall o staff yn teimlo'n anniogel, a bod sail resymol dros awgrymu efallai bod perygl i ddiogelwch rhywun, dylid mynd â'r sawl yr honnir iddo fod yn gyfrifol am hynny o'r llety cyn gynted â phosibl. 

Cyn tynnu llety cychwynnol yn ôl, dylid cynnal trafodaeth gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru ynghylch yr amgylchiadau arbennig dan sylw a'r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol i fynd i'r afael â'r ymddygiad. Bydd Llywodraeth Cymru fel arfer yn cytuno â phenderfyniad yr awdurdod lleol cyn belled â bod digon o dystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos bod y penderfyniad hwnnw'n rhesymol. Yn dilyn y drafodaeth hon, dylai'r awdurdod lleol hysbysu'r unigolyn o benderfyniad yr awdurdod a'r ddarpariaeth arall y bydd yn ei chynnig/darparu.  

Lawrlwythwch y templed.