Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi'r cynnig i gau'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau a'r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus (PI) a Chymorth Storfeydd Preifat yng Nghymru erbyn diwedd 2025.

Cefndir a rhesymeg polisi

Ers i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2020, mae deddfwriaeth yr UE a gymathwyd wedi parhau i fod ar waith, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n llywodraethu cynlluniau cyllido amaethyddol. Mae'r cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau (FVA) a'r cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus (PI) a Chymorth Storio Preifat (PSA) wedi'u cynnwys yn hyn.

Cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau

Sefydlwyd y Cynllun FVA gan yr UE ym 1996. Mae'r cynllun yn cynnig cymorth ariannol i Gyrff Cynhyrchwyr gan Lywodraeth Cymru i gynyddu faint o ffrwythau a llysiau a gynhyrchir drwy gynnig cyllid ar gyfer camau gweithredu sy'n cyfrannu at well cystadleurwydd, gyda ffocws penodol ar gydweithredu a chynhyrchiant.

Mae hyn ar sail arian cyfatebol, gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu swm cyfartal â'r Corff Cynhyrchwyr i'w cronfa weithredol. Gellir defnyddio'r gronfa weithredol hon ar gyfer:

  1. cynllunio cynhyrchu, gan gynnwys rhagolygon cynhyrchu a defnydd a chamau dilynol
  2. gwella ansawdd y cynnyrch, boed yn fwyd ffres neu'n fwyd wedi'i brosesu
  3. rhoi hwb i werth masnachol cynhyrchion
  4. hyrwyddo'r cynhyrchion, boed yn fwyd ffres neu'n fwyd wedi'i brosesu
  5. mesurau amgylcheddol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â dŵr, a dulliau cynhyrchu sy'n parchu'r amgylchedd, gan gynnwys ffermio organig
  6. atal a rheoli argyfwng.

Mae cymorth y llywodraeth wedi'i gapio ar 4.1% o werth cynhyrchiant sy'n cael ei farchnata ar gyfer y Corff Cynhyrchwyr. Mae'r cymorth hwn yn amodol ar y Corff Cynhyrchwyr yn bodloni cyfres benodol o ofynion er mwyn gallu gwneud cais am y cyllid. Mae’n rhaid i'r Corff:

  • fod â'i brif swyddfa yn y wlad gyfansoddol lle cyfrifir mwyafrif gwerth y cynhyrchiant sy'n cael ei farchnata neu, lle mae mwyafrif yr aelodau wedi'u lleoli. Ni ellir symud y brif swyddfa tan ddiwedd y rhaglen weithredol sydd mewn grym ar hyn o bryd
  • fod ag o leiaf 5 aelod sy'n tyfu cynnyrch, pob un ohonynt yn endidau cyfreithiol ar wahân
  • fod â throsiant blynyddol o €1 miliwn (o ran cynhyrchiant y gellir ei farchnata) - ar gyfer Cyrff Cynhyrchwyr a gydnabyddir yn benodol ar gyfer madarch neu gnau yn unig, mae hyn yn €250,000
  • fod wedi'i ffurfio ar fenter ffermwyr sy'n tyfu un neu ragor o gynhyrchion a restrir yn Atodiad I i reoliad EU Rhif 2013/1308 a/neu o gynhyrchion o'r fath a fwriedir i'w prosesu'n unig
  • fod yn defnyddio arferion trin tir, technegau cynhyrchu ac arferion rheoli gwastraff sy'n fwyaf synhwyrol o safbwynt yr amgylchedd, yn enwedig er mwyn diogelu ansawdd dŵr, pridd a thirwedd, a gwarchod neu annog bioamrywiaeth

Ers ei sefydlu ym 1996, ni fu unrhyw geisiadau gan Gyrff Cynhyrchwyr Cymru ar gyfer y cynllun FVA. Byddai hyn yn awgrymu nad yw'r cynllun cymorth presennol o fudd i'r sector garddwriaeth yng Nghymru a dylid ei adolygu. Ar hyn o bryd, mae cost weinyddu flynyddol rhedeg y cynllun dros £1 miliwn yn Lloegr. Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ysgwyddo cost y cynllun pe baem am barhau â'r cynllun yn y dyfodol.

Rydym yn bwriadu cau'r cynllun cyfredol a chydweithio â'r sector er mwyn ystyried sut i gefnogi'r sector garddwriaeth yng Nghymru yn well.

Y cynlluniau Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat

Mae'r cynlluniau PI a PSA yn ddau o'r prif fecanweithiau ar gyfer ymyrryd yn y farchnad o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin ar gyfer cefnogi prisiau'r farchnad. Mae'r ddau gynllun yn ymwneud â symud ymaith cynhyrchion nwyddau o'r farchnad pan fydd prisiau'n disgyn o dan y trothwyon penodol.

Ar hyn o bryd, mae'r cynlluniau PI gorfodol yn agor yn awtomatig os yw pris y farchnad ar gyfer cynhyrchion penodol yn disgyn yn is na'r trothwy yn ystod misoedd penodol o'r flwyddyn.

Dyma'r cynhyrchion:

  • menyn heb halen
  • powdr llaeth sgim
  • cig eidion a chig llo
  • gwenith cyffredin
  • gwenith caled
  • haidd
  • indrawn

Mae'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) brynu'r cynhyrchion (hyd at swm penodol), ac ar ôl hynny maen nhw'n dod yn eiddo i'r llywodraeth. Mewn amodau eithriadol o'r farchnad, mae cynlluniau PI yn cynnig cymorth ariannol yn ystod argyfwng. Mae'r rhain yn cael eu hagor yn ôl disgresiwn Gweinidogion a gellir eu hagor i'r un cynhyrchion â'r cynlluniau gorfodol, a reis paddy.

Yn debyg i gynlluniau PI mewn amodau eithriadol o'r farchnad, gellir agor cynlluniau PSA ar gyfer cynhyrchion amaethyddol am gyfnod penodol pan fydd prisiau'r farchnad mor isel nes bod gwerthu'r nwyddau yn amhroffidiol am gyfnod estynedig. Mae'r cynhyrchion yn cael eu rhoi mewn storfa am gyfnod o fisoedd, gyda'r cynllun yn talu rhan o gostau hyn. Yna, caiff y cynhyrchion hyn eu gwerthu yn ddiweddarach, a'r gobaith yw y bydd prisiau wedi adfer erbyn hynny. Mae'r cynhyrchion yn parhau i fod yn eiddo i'r ffermwr neu'r prosesydd gydol y cyfnod.

Nid yw PI na PSA wedi cael eu defnyddio yng Nghymru ers 2000 ac nid ydynt yn cynnig gwerth am arian oherwydd y diffyg defnydd ohonynt a'u costau gweinyddol uchel. Mae'r pwerau sydd wedi'u diweddaru ar gyfer ymyrryd yn y farchnad a nodir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gefnogi ffermwyr drwy daliadau uniongyrchol mewn amgylchiadau eithriadol, gan ddarparu dull llawer mwy effeithiol o ymyrryd er mwyn cynorthwyo busnesau fferm mewn argyfwng. Defnyddiwyd pwerau tebyg ar gyfer ymyrryd yn y farchnad er mwyn darparu cymorth ariannol i ffermwyr llaeth yn ystod pandemig Covid-19.

Wrth fynd ymlaen, bydd yr RPA yn rhoi'r gorau i weinyddu cynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Nid oes gan Lywodraeth Cymru fecanwaith arall i dderbyn a phrosesu taliadau ar gyfer y cynllun FVA na'r cynlluniau PI neu PSA. Byddai gweithredu'r newidiadau hyn yn rhoi straen gweinyddol ac ariannol mawr ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfres gyfan o brosesau newydd nad yw'n eu gweinyddu ar hyn o bryd.

Ers cyflwyno newidiadau i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn y 1990au, bu gostyngiad yn y defnydd o'r cynlluniau PI a PSA, gan arwain at lai o gyfleusterau storio ledled y DU a llai o staff yn gweithio i weithredu'r cynlluniau hyn. Mae'r systemau a ddefnyddiwyd i gynnal y ddau gynllun hefyd wedi dyddio a byddai angen eu diweddaru i gynnal y cynlluniau hyn yn effeithlon. Byddai'r cynlluniau yn golygu y byddai gofyn caffael gofod storio, hyfforddi swyddogion technegol newydd ac ailgychwyn contractau technegol gyda labordai, a byddai angen buddsoddiad ariannol sylweddol ar bob un ohonynt.

Gan nad yw'r cynllun FVA erioed wedi cael ei ddefnyddio ac nad yw'r cynlluniau PI a PSA wedi cael eu defnyddio yng Nghymru ers 2000, nid ydym yn rhagweld y bydd y cynigion hyn yn cael effaith arbennig ar y Gymraeg. Rydym yn ymwybodol, fodd bynnag, gan fod cyfran uchel o weithwyr amaethyddol yn siaradwyr Cymraeg, bod angen i ni ystyried yr agwedd hon wrth wneud penderfyniadau polisi sy'n effeithio ar y sector ffermio.

Cwestiynau ymgynghoriad

Cwestiynau am y Cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau

Cwestiwn 1. I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r newidiadau arfaethedig a nodir yn yr ymgynghoriad hwn?

Cwestiwn 2. Ydych chi erioed wedi ystyried gwneud cais am y cynllun Cymorth Ffrwythau a Llysiau yng Nghymru?

Cwestiwn 3. Ydych chi'n disgwyl i'r cynigion hyn effeithio ar eich busnes mewn unrhyw ffordd?

Cwestiwn 4. Ydych chi'n disgwyl i'r cynigion hyn effeithio ar eich cymuned?

Cwestiwn 5. Ydych chi'n meddwl y dylai Llywodraeth Cymru gynnig dewis arall i ddisodli’r cynllun hwn?

Cwestiwn 6. Hoffem glywed eich barn am effeithiau'r cynigion ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 7. Esboniwch hefyd sut rydych chi'n credu y gellid llunio neu newid y cynigion er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, heb unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 8: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i roi gwybod amdanynt.

Cwestiynau am Ymyrraeth Gyhoeddus a Chymorth Storio Preifat

Cwestiwn 1. I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r newidiadau arfaethedig a nodir yn yr ymgynghoriad hwn?

Cwestiwn 2. Ydych chi erioed wedi ystyried gwneud cais am Gynlluniau Cymorth Ymyrraeth Gyhoeddus neu Storio Preifat yng Nghymru?

Cwestiwn 3. Ydych chi'n disgwyl i'r cynigion hyn effeithio ar eich busnes mewn unrhyw ffordd?

Cwestiwn 4. Ydych chi'n disgwyl i'r cynigion hyn effeithio ar eich cymuned?

Cwestiwn 5. Hoffem glywed eich barn am effeithiau'r cynigion ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 6. Esboniwch hefyd sut rydych chi'n credu y gellid llunio neu newid y cynigion er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, heb unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 7. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i roi gwybod amdanynt.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 25 Awst 2025, mewn unrhyw un o'r dulliau canlynol:

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • hawl i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • hawl i’w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • hawl i wneud cais i’ch data gael eu ‘dileu' (o dan rai amgylchiadau)
  • hawl i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
  • hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o’r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG52221

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.