Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar God Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu drafft sy'n ofynnol i weithredu Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (y cyfeirir ati wedyn fel Deddf SPPP), Caffael Cyhoeddus sy'n Gyfrifol yn Gymdeithasol. Hoffai Gweinidogion Cymru glywed adborth gan sector cyhoeddus Cymru, cyflogwyr, undebau llafur, partneriaid cymdeithasol ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb cyn cyhoeddi Cod newydd, a fydd yn disodli'r Cod Ymarfer presennol ar Faterion y Gweithlu, a gyhoeddwyd yn 2014.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ar God Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu newydd Cymru a gynigir o dan Ran 3 o Ddeddf SPPP.

Nid yw barn yn cael ei cheisio ar y bwriad polisi oherwydd y cytunwyd ar y bwriad polisi ac mae wedi'i seilio ar Ddeddf SPPP. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn ynghylch a yw Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu drafft yn adlewyrchu'r bwriad polisi yn gywir.

Gofynnir i ymatebwyr nodi a ydynt yn cytuno â'r cwestiwn a ofynnir o dan bob adran. Os bydd ymatebwyr yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf, bydd ganddynt gyfle i esbonio eu rhesymau dros hynny. Dylai sylwadau ganolbwyntio ar a yw'r bwriad polisi yn cael ei adlewyrchu yn gywir yn y Cod. Yn ogystal, mae tri chwestiwn yn ymwneud â’r Gymraeg.

Cefndir y ddeddfwriaeth

Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu i Gymru

Pan gyhoeddir y Cod drafft hwn bydd yn disodli Y Cod Ymarfer ar Faterion y Gweithlu presennol, (a elwir hefyd yn God y Gweithlu Dwy Haen) Mae adrannau 32 a 33 o Ddeddf SPPP yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu (Cod y Gweithlu) a Chymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol (y cymalau).

Rhaid i'r awdurdodau contractio a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf SPPP, roi sylw i God y Gweithlu wrth allanoli gwasanaethau presennol, a bydd yn ofynnol iddynt roi gwybod i Weinidogion Cymru os nad ydynt yn bwriadu cynnwys y cymalau mewn caffaeliad perthnasol neu roi proses ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu.

Diben y Cod yw cynnal neu wella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill sy'n cael eu hallanoli gan Awdurdodau Contractio yng Nghymru. Mae Cod y Gweithlu yn cwmpasu materion cyflogaeth a phensiynau sy'n ymwneud ag allanoli contractau gwasanaethau yng Nghymru.

Er nad yw effaith bwriadedig Cod y Gweithlu hwn wedi newid i raddau helaeth o'r fersiwn a gyhoeddwyd fel canllawiau yn 2014, mae Deddf SPPP yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi Cod y Gweithlu. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio roi sylw i'r Cod, ac ystyried cynnwys ei gymalau enghreifftiol ym mhob contract gwasanaethau sy'n cael ei allanoli a rhoi proses ar waith i sicrhau bod y cymalau'n cael eu gweithredu.

Os nad yw awdurdod contractio'n bwriadu cynnwys y cymalau wrth allanoli gwasanaethau, yn penderfynu peidio â'u cynnwys neu os nad oes ganddo broses i sicrhau bod y cymalau yn cael eu gweithredu, rhaid iddo roi gwybod i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Os yw awdurdod contractio yn hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw'n bwriadu cynnwys y cymalau mewn contract perthnasol, rhaid iddo esbonio pam ac efallai y gofynnir iddo am ragor o wybodaeth.

Mae'r rhwymedigaethau ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi Cod y Gweithlu a'r cymalau hyn, a'r rhwymedigaethau dilynol ar awdurdodau contractio a gweinidogion, yn adrannau 26 a 32 i 37 Ddeddf SPPP, ac efallai yr hoffech ymgyfarwyddo â nhw wrth ichi baratoi eich ymateb i'r ymgynghoriad hwn.

Mae'r rhestr o awdurdodau contractio yn Atodlen 1 Deddf SPPP yr un fath, i raddau helaeth, â'r sefydliadau y mae Cod Ymarfer ar Faterion y Gweithlu 2014 presennol yn berthnasol iddynt, ond mae rhai gwahaniaethau. Mae rhai cyrff newydd wedi cae cynnwys yng nghylch gwaith y Cod newydd hwn, ac nid yw cynghorau cymuned a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir wedi'u rhestru yn Atodlen 1 fel awdurdodau contractio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag Undebau Llafur, rhanddeiliaid y sector cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau sydd wedi cael eu hallanoli i ddatblygu Cod y Gweithlu mewn ffordd gydweithredol. Roedd y broses hon yn cynnwys cyfres o weithdai a chyfweliadau.

Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r darpariaethau yn Neddf SPPP; mae ei gwestiynau yn gofyn am eich barn ynghylch a yw Cod y Gweithlu newydd a'r cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn bodloni'r gofynion a nodir yn y ddeddfwriaeth.

Cwmpas y Cod

Mae'r egwyddorion a amlinellir yng Nghod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a'r gweithlu hwn (y cyfeirir ato wedyn fel Cod y Gweithlu) yn berthnasol i'r amgylchiadau canlynol, oni bai bod rhesymau gwirioneddol eithriadol na ddylent fod yn berthnasol:

  1. Pan fydd Awdurdod Contractio yn allanoli gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau i endid sector preifat neu i sefydliad sector gwirfoddol (h.y. contractio allan)
  2. Mewn perthynas â Chontractau Allanoli Ail Genhedlaeth, ac unrhyw gontract allanoli dilynol, sy'n golygu bod Contractwr Dilynol yn ymgymryd â'r gwasanaeth neu'r swyddogaeth gyhoeddus (pan roddwyd y gwasanaeth neu'r swyddogaeth gyhoeddus ar gontract allanol am y tro cyntaf, trosglwyddwyd staff o'r Awdurdod Contractio) (h.y. ail-dendro)
  3. Pan fydd gwasanaeth neu swyddogaeth gyhoeddus sydd wedi'i hallanoli dan Gontract Allanoli Gwasanaethau ar neu ar ôl y dyddiad y mae'r Cod y Gweithlu hwn yn dod i rym, yn cael ei ddwyn yn ôl i mewn i Awdurdod Contractio (pan gafodd y contract ei ddyfarnu gyntaf, trosglwyddwyd staff o Awdurdod Contractio) (h.y. mewnoli).

Rhesymau gwirioneddol eithriadol lle na ddylai egwyddorion Cod y Gweithlu gael eu cymhwyso a lle na fydd staff yn cael eu trosglwyddo, a fyddai’n cynnwys yr amgylchiadau canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  1. pan fydd contract ar gyfer darparu nwyddau yn unig neu nwyddau a gwasanaethau, ond bod darparu gwasanaethau yn ddarpariaeth ategol at ddiben darparu'r nwyddau, neu
  2. pan fydd yr awdurdod contractio'n prynu gwasanaethau untro am gyfnod byr.

Trosglwyddo staff (wedi’i gynnwys yn adran 4 o God)

Bydd egwyddorion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2008 yn gymwys pan fydd gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus yn cael eu hallanoli.

Un o egwyddorion Cod y Gweithlu yw na ddylai staff fod dan anfantais o ganlyniad i drosglwyddo eu cyflogaeth yn sgil allanoli gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus.

Cwestiwn

1. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y bydd gofynion Cod y Gweithlu o ran trosglwyddo staff yn sicrhau bod ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill sy'n cael eu hallanoli gan awdurdodau contractio'n cael ei gynnal yn ddigonol neu ei wella  (adran 32 o Ddeddf SPPP)?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno'n gryf

Os ydych wedi anghytuno neu wedi anghytuno’n gryf yn eich ymateb i Gwestiwn 1, esboniwch pam nad ydych yn credu y bydd Cod y Gweithlu yn cyflawni'r bwriad polisi.

Pensiynau (wedi'u cynnwys yn adran 5 o God)

Bydd darpariaeth pensiwn staff y mae eu cyflogaeth yn cael ei throsglwyddo o ganlyniad i Awdurdod Contractio'n allanoli gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus yn cael ei diogelu. Un o egwyddorion Cod y Gweithlu yw y bydd darpariaeth pensiwn staff yn cael ei diogelu fel yr amlinellir yng Nghod y Gweithlu os yw eu cyflogaeth yn cael ei throsglwyddo yn un o'r amgylchiadau isod:

  • pan fydd contract ar gyfer darparu nwyddau yn unig neu nwyddau a gwasanaethau, ond bod darparu gwasanaethau yn ddarpariaeth ategol at ddiben darparu'r nwyddau, neu
  • pan fydd yr awdurdod contractio'n prynu gwasanaethau untro am gyfnod byr.

Cwestiwn

2. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y bydd gofynion Cod y Gweithlu o ran darpariaeth pensiynau yn sicrhau bod ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill sy'n cael eu hallanoli gan awdurdodau contractio'n cael ei gynnal yn ddigonol neu ei wella  (adran 32 o Ddeddf SPPP)?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno'n gryf

Os ydych wedi anghytuno neu wedi anghytuno’n gryf yn eich ateb i Gwestiwn 2, esboniwch pam nad ydych yn credu y bydd Cod y Gweithlu yn cyflawni'r bwriad polisi.

Staff Eraill (wedi'u cynnwys yn adran 6 o God)

Ni fydd amodau a thelerau Aelodau Staff Eraill yn llai ffafriol ar y cyfan na rhai'r staff sy'n cael eu trosglwyddo a bydd y trefniadau pensiwn a gynigir i Staff Eraill yn rhesymol. Un o egwyddorion Cod y Gweithlu yw pan fydd staff presennol neu aelodau newydd yn gweithio ochr yn ochr â Staff a Drosglwyddwyd sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaethau neu'n cyflawni'r swyddogaethau sydd wedi'u hallanoli, byddant yn cael eu cyflogi ar amodau a thelerau nad ydynt yn llai ffafriol na rhai Staff a Drosglwyddwyd.

Cwestiwn

3. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y bydd darpariaethau Cod y Gweithlu ar gyfer Aelodau Eraill o Staff yn sicrhau bod ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill sy'n cael eu hallanoli gan awdurdodau contractio'n cael ei gynnal yn ddigonol neu ei wella  (adran 32 o Ddeddf SPPP)?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno'n gryf

Os ydych wedi anghytuno neu wedi anghytuno’n gryf yn eich ateb i Gwestiwn 3, esboniwch pam nad ydych yn credu y bydd Cod y Gweithlu yn cyflawni'r bwriad polisi.

Is-gontractau (wedi'u cynnwys yn adran 7 o God)

Dylai'r Awdurdod Contractio gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract yr ymrwymir iddo rhwng Contractwr ac Is-gontractwr ar gyfer darparu'r gwasanaethau (neu ran o'r gwasanaethau) neu ymgymryd â'r swyddogaethau (neu ran o'r swyddogaethau) a drosglwyddwyd o dan y Contract Allanoli Gwasanaethau. Un o egwyddorion Cod y Gweithlu yw y dylai'r Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol fod yn gymwys hefyd mewn perthynas ag unrhyw is-gontract yr ymrwymir iddo ar gyfer darparu'r gwasanaethau neu'r swyddogaethau (neu ran ohonynt). Nod yr egwyddor hon yw atal unrhyw Gontractwr neu Gontractwr Dilynol rhag osgoi egwyddorion Cod y Gweithlu drwy drefniant is-gontractio.

Cwestiwn

4. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y bydd darpariaethau Cod y Gweithlu ar gyfer is-gontractio'n sicrhau bod ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill sy'n cael eu hallanoli gan awdurdodau contractio'n cael ei gynnal yn ddigonol neu ei wella  (adran 32 o Ddeddf SPPP)?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno'n gryf

Os ydych chi wedi anghytuno neu wedi anghytuno’n gryf yn eich ateb i Gwestiwn 4a, esboniwch pam nad ydych yn credu y bydd Cod y Gweithlu yn cyflawni'r bwriad polisi.

Monitro gweithredu (wedi'i gynnwys yn adran 8 o God)

Dylai'r Awdurdod Contractio sicrhau bod proses ar waith i sicrhau bod y Contractwr neu unrhyw Gontractwr Dilynol neu Is-Gontractwr yn gweithredu rhwymedigaethau’r Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol. Un o egwyddorion Cod y Gweithlu yw bod yr Awdurdod Contractio yn cymryd camau i sicrhau bod unrhyw gontractwr neu is-gontractwr yn cydymffurfio â rhwymedigaethau Cod y Gweithlu a'r Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol.

Cwestiwn

5. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y bydd darpariaethau Cod y Gweithlu ar gyfer monitro gweithredu'n sicrhau bod ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill sy'n cael eu hallanoli gan awdurdodau contractio'n cael ei gynnal yn ddigonol neu ei wella  (adran 32 o Ddeddf SPPP)?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno'n gryf

Os ydych wedi anghytuno neu wedi anghytuno’n gryf yn eich ateb i Gwestiwn 5a, esboniwch pam nad ydych yn credu y bydd Cod y Gweithlu yn cyflawni'r bwriad polisi.

Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol (wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 i God)

Dylai Awdurdod Contractio gynnwys y Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol a nodir yn Atodiad 1 i God y Gweithlu mewn unrhyw Gontract Allanoli Gwasanaethau.

Cwestiwn

6. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol yn bodloni'r gofynion o dan adran 33 o Ddeddf SPPP?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno'n gryf

Os ydych wedi anghytuno neu wedi anghytuno’n gryf yn eich ateb i Gwestiwn 6a, esboniwch pam nad ydych yn credu y bydd y Cymalau Gweithlu Cyhoeddus Cymdeithasol yn cyflawni'r bwriad polisi.

Cod y Gweithlu

Cwestiwn

7. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y Cod Gweithlu yn bodloni'r gofynion o dan adran 32 o Ddeddf SPPP (h.y. bydd yn cynnal neu'n gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill sy'n cael eu hallanoli gan awdurdodau contractio)?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno'n gryf

Os ydych wedi anghytuno neu wedi anghytuno’n gryf yn eich ateb i Gwestiwn 7a, eglurwch pam nad ydych yn credu bod hyn yn cyflawni'r bwriad polisi.

Y Gymraeg

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd wrth ymgynghori i ofyn am eich barn ar effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg yn unol â Safonau Llunio Polisïau.

Cwestiwn

8: Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol Cod y Gweithlu ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gennym mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

A ydych yn credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

A ydych yn credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

9: Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu Cod y Gweithlu er mwyn:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

10: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw broblemau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch eu nodi yma:

Sut i ymateb

Rhaid derbyn ymatebion i’r ymgynghoriad erbyn 14:00 ar 03 Rhagfyr 2025.

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Yr Is-adran Caffael Masnachol
Y Tîm Deddfwriaeth Caffael
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Cadwch at y nifer mwyaf o nodau a ganiateir (dim mwy na 2,000 nod). Ni fydd unrhyw nodau ychwanegol dros y terfyn hwn yn cael eu hystyried.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai’n well gennych i’ch ymateb aros yn ddienw yn yr amgylchiadau hyn, ticiwch y blwch lle y gofynnir ichi wneud hynny ar y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad.

Y camau nesaf

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y fersiwn derfynol o God Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu newydd Cymru yn cael ei chyhoeddi a'i osod yn y Senedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau a ganlyn:

  • i gael gwybod am y data personol sy'n cael ei gadw amdanoch chi, a'i weld
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i ofyn am i’ch data gael ei ‘ddileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) cludadwyedd y data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd y mae'n cael ei defnyddio, neu os hoffech chi arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth a gesglir yn yr ymarfer hwn yw arfer ein tasg gyhoeddus, sef arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru am fynd ati i ddadansoddi mwy ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o’r fath ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn amlinellu gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a roddwyd i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG50499

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.