Neidio i'r prif gynnwy

Ein hymrwymiad yw creu rhwydwaith o goetiroedd ar hyd a lled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Dechreuodd rhaglen y Goedwig Genedlaethol yn 2020. Cyhoeddodd y Prif Weinidog ein hymrwymiad i greu rhwydwaith o goetiroedd ledled Cymru. 

Bydd y rhwydwaith yn:

  • darparu lleoedd ar gyfer hamdden a natur
  • helpu i ddal a storio carbon
  • darparu pren - adnodd cynaliadwy ar gyfer adeiladu

Mae creu Coedwig Genedlaethol yng Nghymru yn ymrwymiad hirdymor, sy'n ymestyn dros ddegawdau lawer. 

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn cynnwys coetiroedd sy'n dangos y canlyniadau canlynol: 

  • coetiroedd gwydn o ansawdd da sydd wedi’u cynllunio a’u rheoli’n dda (hanfodol) 
  • coetiroedd sy'n hygyrch i bobl 
  • y gymuned yn cyfrannu at y coetiroedd 
  • coetiroedd cysylltiedig 
  • coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas 
  • coetiroedd sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi

Pam ymuno â'r Goedwig Genedlaethol

Gyda'n gilydd gallwn greu etifeddiaeth genedlaethol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Os dewch yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol, byddwch yn derbyn

  • cefnogaeth barhaus gan swyddog cyswllt rhanbarthol penodol
  • pecyn croeso
  • arwyddion y Goedwig Genedlaethol
  • mynediad at rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.
    • mynediad at ddysgu ac arbenigedd 
    • ymweliadau â safleoedd y Goedwig Genedlaethol ledled Cymru i rwydweithio a rhannu gwybodaeth 
    • gweminarau rheolaidd ar-lein gyda safleoedd eraill y Goedwig Genedlaethol i rannu dysgu a chydweithio
  • hyrwyddo eich coetir, er enghraifft drwy llyw.cymru a Croeso Cymru
  • mynediad at luniau a fideos proffesiynol o'r Goedwig Genedlaethol 
  • cymorth i wella cysylltedd coetiroedd, bioamrywiaeth a choridorau natur 
  • y cyfle i fod yn rhan o Lwybr Coedwig Genedlaethol Cymru (os yn addas i chi a'ch safle)

Sut ydw i'n dod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol

Mae'r Goedwig Genedlaethol yn croesawu unrhyw un sy'n berchen ar goetir neu sy'n rheoli coetir yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau dielw a pherchnogion preifat. 

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i chi ddangos sut mae eich safle yn bodloni canlyniadau Coedwig Genedlaethol Cymru.

Gallwch wneud cais drwy gynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru. Siaradwch ag un o'n Swyddogion Cyswllt y Goedwig Cenedlaethol cyn i chi wneud cais.

Safleoedd y Goedwig Genedlaethol hyd yn hyn

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn cynyddu. Mae'n cynnwys coetiroedd amrywiol o wahanol oedrannau, maint, lleoliadau a buddion.

Mae pob safle y Goedwig Genedlaethol yn mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd ac yn cynnig coetir i Gymru am gyfnod maith. 

Erbyn hyn, mae'r rhwydwaith yn cynnwys dros 100 o goetiroedd. Mae hyn yn cynnwys 26 o flociau Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (gyda dros 70 o safleoedd unigol) a 28 o goetiroedd nad ydynt yn berchen i'r Llywodraeth.  

Y safleoedd diweddaraf i ymuno â'r Goedwig Genedlaethol:

Darganfyddwch holl safloedd Coedwig Genedlaethol Cymru.