Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae'r rhaglen Goedwig Genedlaethol wedi datblygu yn 2022 a'r hyn sydd ar y gweill yn 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Camau wedi'u cwblhau o 2022

Yn 2022 gwnaethom:

Lansio peilot Fy Nghoeden Ein Coedwig.

Rhoddodd y rhaglen beilot, sy'n cael ei redeg gyda Coed Cadw, 5,000 o goed i gartrefi ledled Cymru.

Agorwyd ail rownd o Fy Nghoeden Ein Coedwig.

Rhoddodd ail rownd Fy Nghoeden Ein Coedwig 295,000 o goed eraill am ddim. Roedd y rownd hon hefyd yn cynnwys yr opsiwn i gael coeden wedi'i phostio i bobl neu ei phlannu ar gyfer pobl.

Lansio'r prosiect coeden Eco-ysgolion.

Cynhaliwyd y prosiect coed Eco-ysgolion mewn partneriaeth â Coed Cadw, Maint Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus. Rhoddodd gyfle i 100 o ysgolion blannu coetir bychan ar eu tiroedd.

Lansio map rhyngweithiol Map Data Cymru.

Roedd map rhyngweithiol Map Data Cymru yn galluogi pobl i ddweud wrthym ble hoffen nhw weld mwy o goed yn cael eu plannu a choetiroedd yn cael eu creu ger eu cartrefi.

Penodi chwe Swyddog Cyswllt Coetiroedd.

Bydd Swyddogion Cyswllt Coetiroedd yn gweithio gyda safleoedd coetiroedd i'w cefnogi i ennill statws Coedwig Genedlaethol.

Dechrau cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Cynnal seminarau yng Ngŵyl y Gelli, digwyddiad Cymru wledig a'r Sioe Frenhinol.

Ariannu naw prosiect drwy'r cynllun peilot Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG).

Cafodd prosiectau gymorth ariannol i greu coetiroedd newydd neu wella coetiroedd presennol i fodloni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol.

Lansiwyd a chyflwynwyd dwy rownd o'r Grant Buddsoddi mewn Coetir.

Cynhaliwyd cynllun Grant Buddsoddi Coetir gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Roedd grantiau yn helpu i greu, adfer a gwella coetiroedd sydd â'r potensial i fod yn rhan o'r rhwydwaith Coedwig Genedlaethol yn y dyfodol.

Sefydlu gweithgorau Gorchwyl a Gorffen.

Sefydlwyd gweithgorau i ddylunio'r model cyflenwi a chynllun statws y Goedwig Genedlaethol.

Cyhoeddi tri safle i fod yn Goedlannau Coffa.

Bydd y safleoedd yn lleoedd i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau i COVID-19 a gwydnwch y genedl trwy gydol y pandemig.

Cynigiwyd arian i dros 40 o brosiectau ar gyfer offer.

Drwy'r Cynllun Adfer Diwydiannau Coedwigaeth (FIRS) darparwyd cyllid ar gyfer offer.

Cyflwynwyd coeden goffa i'w Fawrhydi y Brenin.

Plannwyd y goeden gan Ei Fawrhydi, ym mhresenoldeb Prif Weinidog Cymru, yn Neuadd Erddig. Roedd y goeden yn un o 5 coeden ifanc Derw Pontfadog a dyfodd gan Erddi Kew a'u rhoi'n rhodd i'r diweddar Frenhines Elizabeth.

Y camau arfaethedig ar gyfer 2023

Yn 2023 rydym yn bwriadu:

Cwblhau ymgyrch Fy Nghoeden Ein Coedwig.

Bydd rownd nesaf ymgyrch Fy Nghoeden Ein Coedwig yn gweld hybiau'n agor ym mis Chwefror tan fis Mawrth.

Ariannu mwy o brosiectau drwy'r Grant Buddsoddi Mewn Coetir.

Mae tair rownd arall o arian grant drwy'r cynllun Grant Buddsoddi Mewn Coetir wedi'u cynllunio ar gyfer 2023.

Creu mwy o Goedwigoedd Bach.

Yn 2021 cyllidwyd y 5 coedwig fechan gyntaf gyda Cadwch Gymru'n Daclus.

Cydnabod mwy o Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru fel Coedwig Genedlaethol.

Cyhoeddwyd 14 safle cyntaf y Goedwig Genedlaethol yn hydref 2020.

Lansio'r cynllun Statws Coedwig Genedlaethol.

Bydd y cynllun wedi'i anelu at berchnogion a rheolwyr coetiroedd fyddai'n hoffi dod yn rhan o'r rhwydwaith Coedwig Genedlaethol.

Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf am raglen y Goedwig Genedlaethol

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr bostio'r Goedwig Genedlaethol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf cysylltwch â nationalforestwales@llyw.cymru.