Sut i gael marc y ddiadell neu'r fuches ar gyfer da byw (gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes) a chadw eich manylion cofrestredig yn gyfredol.
Cynnwys
Cyflwyniad
Os ydych chi'n bwriadu cadw da byw (gan gynnwys y rhai sy'n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes), rhaid ichi gofrestru gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i gael marc y ddiadell neu'r fuches.
Dylech wneud hyn cyn ichi symud y da byw i'r tir neu i'r adeiladau lle byddwch chi'n eu cadw.
Mae da byw yn cynnwys:
- gwartheg
- defaid
- geifr
- ceirw
- moch
Er nad oes angen marc y ddiadell arnoch ar gyfer dofednod, rhaid ichi gofrestru fel ceidwad dofednod waeth beth yw maint eich diadell. Am ragor o wybodaeth, ewch i Dofednod ac adar caeth eraill: rheolau a ffurflenni cofrestru.
Rhaid ichi gysylltu ag APHA os bydd eich manylion yn newid ar ôl ichi gofrestru. Er enghraifft, os oes gennych farc buches neu ddiadell eisoes ar gyfer un rhywogaeth, rhaid ichi gysylltu ag APHA os ydych chi'n dechrau cadw rhywogaeth arall. Os ydych chi'n cadw gwartheg a defaid, bydd marc eich buches a diadell yr un rhif 6 digid, oni bai eich bod yn dewis fel arall.
Rhaid ichi gael rhif y daliad (CPH) i gofrestru gydag APHA. Bydd angen ichi wneud cais am rif CPH gan Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ar-lein.
Beth yw marciau diadell a buches
Mae marciau diadell a buches yn gyfuniadau unigryw o rifau (a llythrennau ar gyfer moch a cheirw).
Maent yn cael eu defnyddio ar dagiau (a dynodwyr eraill, fel tatŵs) i nodi lle cafodd anifeiliaid eu geni neu eu tagio ddiwethaf. Mae hyn fel y gellir olrhain yr anifeiliaid i helpu i atal a rheoli lledaeniad clefydau.
Mae marciau diadelloedd a buchesi yng Nghymru a roddir i wartheg, defaid a geifr yn cynnwys 6 rhif ac mae'r cyfan yn dechrau gyda 7 (712345).
Mae marciau buchesi yng Nghymru a roddir i foch yn alffaniwmerig sy'n dechrau gyda 2 lythyren ac yna 4 rhif (AB1234).
Sut i gael marc diadell neu fuches
Cysylltwch ag APHA os ydych chi'n bwriadu cadw da byw at unrhyw bwrpas, gan gynnwys fel anifeiliaid anwes. Mae hyn yn cynnwys os ydych eisoes yn cadw da byw, ond yn bwriadu cadw rhywogaeth arall yn yr un lle.
Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
03000 200 301
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau (ar gov.uk)
Bydd angen ichi ddweud wrthynt:
- eich rhif CPH
- Pa rywogaethau o dda byw rydych chi'n eu cadw, faint ac at ba ddiben
Os ydych chi'n bwriadu cadw gwartheg, bison neu byfflo, bydd angen ichi hefyd ddweud wrth APHA enw a chyfeiriad eich practis milfeddygol at ddibenion profion TB gwartheg.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd APHA yn:
- cofrestru eich da byw a chi fel eu ceidwad
- anfon marc y ddiadell neu'r fuches atoch
Mae hyn fel arfer yn cymryd 10 diwrnod gwaith, ond gall gymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur.
Beth i’w wneud nesaf
Os ydych chi'n bwriadu cadw gwartheg, bison neu fyfflo, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd wedi cofrestru fel ceidwad gwartheg gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) (ar gov.uk).
Cael tagiau i adnabod yr anifeiliaid
Pan fyddwch chi'n cael eich marc diadell neu fuches, byddwch yn gallu cael tagiau (neu fathau eraill o ddynodwyr fel tatŵs) i:
- adnabod anifeiliaid a anwyd ar eich daliad
- amnewid tagiau coll neu wedi'u difrodi
Mae'r math o dag sydd ei angen, a phryd y mae angen ichi ei ddefnyddio, yn dibynnu ar y rhywogaeth o anifail.
Darganfyddwch sut a phryd i adnabod:
Dod o hyd i gyflenwr tagiau
Rhaid ichi brynu tagiau o :
- gyflenwyr tag clust gwartheg cymeradwy (ar gov.uk)
- cyflenwyr tagiau clust, band pigwrn neu folysau defaid a geifr (ar gov.uk)
Gallwch ddewis unrhyw gyflenwr ar gyfer:
- tagiau clust moch ac offer tatŵio a slapfarcio
- tagiau clust ceirw
Pan fyddwch chi'n cysylltu â chyflenwr, bydd angen eich marc diadell neu fuches a'ch rhif CPH.
Bydd y cyflenwr yn anfon tagiau swyddogol atoch gyda marc y fuches neu'r ddiadell wedi'i brintio arnynt.
Mae gan dagiau clust gwartheg, defaid a geifr rif adnabod swyddogol unigryw ar gyfer pob anifail.
Dilyn y rheolau ar gyfer symud da byw
Rhaid ichi ddilyn rheolau i helpu i sicrhau bod modd olrhain eich anifeiliaid bob amser. Darllenwch fwy am gadw:
Dywedwch wrth APHA am unrhyw newidiadau
Rhaid ichi gysylltu ag APHA os bydd eich manylion yn newid ar ôl ichi gofrestru. Mae hyn yn cynnwys os ydych chi'n:
- dechrau cadw rhywogaeth newydd o dda byw
- stopio cadw rhywogaeth o dda byw
- stopio cadw unrhyw dda byw
- newid lle rydych chi'n bwriadu cadw da byw (er enghraifft, ar dir newydd)
- ymddeol o ffermio (gan gynnwys os bydd rhywun arall yn cymryd dros eich fferm)
Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
03000 200 301
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Rhagor o wybodaeth am ffioedd galwadau (ar gov.uk)
