Neidio i'r prif gynnwy

7. Cofnodi Symudiadau

Rhaid dweud wrth Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) am symudiadau o fewn tri diwrnod calendr a diweddaru cofrestr eich buches o fewn 36 awr.

Dyma enghreifftiau o symudiadau gwartheg:

  • symud anifail sy’n cael ei werthu’n breifat o un fferm i fferm arall
  • symud anifail o fferm i ladd-dy, marchnad neu faes sioe
  • symud anifail o farchnad neu faes sioe i fferm
  • symud anifail rhwng dau CPH gwahanol o fewn yr un busnes fferm

Cyn cael symud, rhaid bod gan y gwartheg y canlynol:

  • tagiau swyddogol
  • pasbort gwartheg dilys
  • dim gwaharddiad symud neu gyfyngiadau eraill mewn grym

Rhaid i chi gydymffurfio ag amodau’r drwydded gyffredinol yng Nghymru.

Mae cyfyngiadau ar wartheg a anwyd neu a fagwyd yn y DU cyn Awst 1996. Rhaid gwneud cais i APHA am drwydded i’w symud.

Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau sydd i’w gweld yn Adran 3 i roi gwybod am symudiadau.

Eich cyfrifoldeb chi fel ceidwad yw rhoi gwybod i’r BCMS am unrhyw symudiadau o fewn tri diwrnod calendr.

Symud gwartheg ar gyfer eu gwerthu a/neu eu lladd

Bydd marchnadoedd, lladd-dai a mannau casglu a chrynhoi’n darllen ac yn cofnodi rhifau gwartheg unigol wrth iddynt gyrraedd.

Eich cyfrifoldeb chi fel ceidwad yw rhoi:

  • manylion yr anifeiliaid perthnasol ar ffurflenni’r farchnad/lladd-dy
  • cofnodi'r symudiadau 'ymadael' neu 'cyrraedd' ar BCMS
  • llenwi’r adrannau priodol ar y pasbort
  • diweddaru cofrestr y fuches trwy gofnodi’r holl symudiadau arni.