Neidio i'r prif gynnwy

6. Pasbortau Gwartheg

Rhaid cofnodi a chofrestru lloi gyda’r BCMS cyn pen 27 diwrnod ar ôl eu geni (neu 7 niwrnod ar gyfer bison).

Bydd yr holl wartheg fydd wedi’u cofrestru ar y System Olrhain Gwartheg (CTS) yn cael pasbort neu ddogfen gofrestru (CPP35).

Gallwch wneud cais am basbort gwartheg trwy’r dulliau sydd i’w gweld uchod yn Adran 3.  

I wneud cais am basbort, bydd angen yr wybodaeth ganlynol:

  • rhif y tag clust
  • rhyw yr anifail
  • rhif tag clust y fam eni (h.y. y fuwch a esgorodd ar y llo)
  • rhif tag clust y fam waed (ar gyfer lloi a gariwyd gan fam fenthyg)
  • dyddiad geni
  • brîd
  • rhif tag clust y tad (os ydych yn ei wybod)

Pan gyrhaeddith y pasbort, eich cyfrifoldeb chi yw:

  • sicrhau bod y manylion yn gywir.
  • cysylltu label y cod bar wrth y darn ‘i’w gwblhau gan geidwad ar dderbyn pasbort’
  • llofnodi’r un adran
  • cadw’r pasbort mewn lle diogel

Os gwelwch fod rhywbeth o’i le, anfonwch y pasbort yn ôl at y BCMS ar unwaith. Nodwch y camgymeriadau trwy naill ai sgrifennu’r cywiriadau’n glir ar y pasbort neu drwy amgáu llythyr gyda’r pasbort yn esbonio beth sydd angen ei newid.

Chewch chi ddim symud yr anifail nes eich bod yn cael pasbort cywir.

Os ydy’r BCMS wedi anfon y pasbort ac nad ydych wedi’i gael, bydd yn edrych ar y sefyllfa. Mae’n bosibl y bydd yn anfon pasbort arall atoch yn ei le am ddim os gwnaethoch chi roi gwybod iddo am y broblem o fewn chwe wythnos ar ôl cynhyrchu’r pasbort. Os na fydd y BCMS wedi cael gwybod o fewn chwe wythnos, bydd yn rhaid i chi dalu £20 am bob pasbort yn lle’r rhai a gollwyd.

Dogfen gofrestru (CPP35)

Ni chewch basbort gan y BCMS os na wnaethoch chi gofrestru’r llo o fewn y 27 diwrnod. Ond fe gewch ddogfen gofrestru (CPP35) yn ei le sy’n cofrestru’ch llo ar y System Olrhain Gwartheg (CTS). Rhaid i’r llo hwnnw aros ar eich daliad am ei oes. Ni chaiff ymuno â’r gadwyn fwyd.

Gellir rhoi dogfennau cofrestru (CPP35) hefyd ar gyfer anifeiliaid ar eich daliad sydd heb eu tagio neu sydd wedi’u cam-dagio. Mae hynny’n golygu eu bod yn anifeiliaid nad oes modd eu hadnabod na’u holrhain.

Prawf DNA

Bydd y BCMS yn derbyn prawf DNA fel tystiolaeth bod cysylltiad rhwng buwch a llo i allu rhoi pasbort i ymgeiswyr hwyr.

 

I wneud cais am brawf DNA, cysylltwch â’r BCMS a rhowch rifau tagiau clust y fam a’r llo. Gallwch ofyn am brawf DNA os nad yw’ch apêl ysgrifenedig wedi bod yn llwyddiannus neu gallwch ddewis prawf DNA yn lle apelio.