Neidio i'r prif gynnwy

3. Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS)

Os ydych am gadw gwartheg, rhaid i chi gofrestru gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) cyn symud unrhyw wartheg i’ch daliad.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) sy’n:

  • rhedeg y System Olrhain Gwartheg (CTS)
  • rhoi pasbortau gwartheg
  • prosesu genedigaethau, symudiadau a marwolaethau gwartheg
  • ateb cwestiynau ceidwaid gwartheg

Sut i Gofrestru gyda’r BCMS

Cysylltwch â'r BCMS a dwedwch wrthyn nhw’ch bod am gadw gwartheg. Bydd angen i chi roi’ch CPH a chyfeiriad eich daliad. Byddan nhw’n cofrestru’ch manylion ac yn anfon:

  • llythyr i gadarnhau bod eich daliad wedi’i gofrestru ar CTS
  • llythyr gyda chyfeirnod i’w ddefnyddio i fynd ar CTS Ar-lein a chyfrinair i chi allu defnyddio meddalwedd y fferm i gysylltu â Gwasanaethau CTS ar y we.
  • eich labeli cod bar

Gallwch gysylltu â BCMS ar-lein neu drwy ffonio:

Mae holl ddeunydd cyfathrebu’r BCMS yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Defnyddio asiant

Gallwch benodi asiant i weithredu ar eich rhan ac i ddefnyddio gwasanaeth CTS ar-lein ar eich rhan. Ond cyn y caiff fynd ar CTS ar-lein i gofnodi genedigaethau, marwolaethau a symudiadau ar eich rhan, rhaid iddo gofrestru fel asiant gyda’r BCMS.

Ewch i wefan BCMS am ragor o wybodaeth am asiantwyr.

Newidiadau sydd i ddod - EIDCymru

Mae EIDCymru wrthi’n cael ei ddatblygu i fod yn system a gwasanaeth newydd i Gymru fydd yn olrhain ac yn tracio da byw o bob rhywogaeth. Bydd pob ceidwad a safle trin gwartheg yng Nghymru yn cael eu symud o Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) i EIDCymru. Bydd hyn yn cynnwys y System Olrhain Gwartheg (CTS) Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma: EIDCymru: y system amlrywogaeth a datblygiadau gwasanaeth | LLYW.CYMRU